Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth, ffurflenni a chanllawiau i'ch helpu pan fydd angen i chi gysylltu â ni ynghylch unrhyw un o'r canlynol:
Gallwch ffeilio rhai o'n dogfennau ar-lein: ewch i'n gwasanaeth Clic Ar-lein os hoffech anfon dogfennau canlynol eich elusen atom:
Rhaid cael Adobe Reader® i weld neu argraffu dogfennau PDF. I gael gwybodaeth am lwytho i lawr Adobe Reader®, gweler 'Cymorth gyda ffeiliau PDF'.
Pan fyddwch yn sefydlu elusen, mae angen i chi disgrifio mewn dogfen ("dogfen lywodraethol") ddibenion eich elusen a sut y caiff ei gweinyddu. Nid oes angen i chi ddechrau gyda tudalen wag: rydym wedi paratoi tair dogfen "enghreifftiol", wedi'u rhestru isod, sy'n cynnwys darpariaethau safonol sy'n addas ar gyfer nifer o elusennau. Defnyddiwch ein canllaw Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol (CC22) i benderfynu pa enghraifft i'w defnyddio. Pan fyddwch wedi gwneud y penderfyniad hwn, argraffwch y ddogfen berthnasol a chwblhewch y manylion ar gyfer eich elusen.
Y tair dogfen enghreifftiol yw:
Mae nifer o sefydliadau cenedlaethol hefyd yn darparu dogfennau llywodraethol ar gyfer elusennau lleol sy'n gysylltiedig â nhw - edrychwch ar ein rhestr i weld a yw unrhyw un yn berthnasol i'r elusen rydych yn ei sefydlu.
Pan fyddwch wedi sefydlu'ch elusen, bydd angen i chi ei chofrestru gyda ni. I gynorthwyo gyda hyn, rydym wedi cynhyrchu llyfryn a rhai ffurflenni
Ar 1 Hydref 2007 fe lansiodd y Comisiwn ffurflen gais newydd, symlach. Mae'r ffurflen hon yn cymryd lle pob ffurflen gais arall. Dylai elusennau sy'n gwneud cais i gofrestru ar ôl y dyddiad hwn sylwi y bydd hen ffurflenni cais yn cael eu derbyn dim ond tan 30 Tachwedd 2007. O 1 Rhagfyr 2007 bydd ceisiadau sy'n defnyddio'r hen ffurflenni yn cael eu dychwelyd gyda chais yn gofyn i chi gwblhau ffurflen gais newydd.
Nid yw cofrestru elusen yr un fath â chofrestru uno elusennau. Gweler isod i gael mwy o wybodaeth am uno elusennau.
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr gynhyrchu cyfrifon ar gyfer eu helusen bob blwyddyn. Rydym wedi darparu ffurflenni (y gellir eu llwytho i lawr i'w cwblhau) a chanllawiau i'ch helpu i baratoi cyfrifon sy'n cydymffurfio â'r gyfraith yn ymwneud â chyfrifon elusennau.
Darparwn ganllawiau eraill ar gadw cyfrifon i elusennau.
Ynghyd ag elusennau eraill sydd heb fod yn gwmni, gall elusennau bach wneud newidiadau i'r gweithdrefnau gweinyddol yn eu dogfennau llywodraethol - gweler Newidiadau i'ch dogfen lywodraethol.
Mae gan elusennau bach:
gyfres arall o bwerau.
Mae taflenni gwybodaeth gennym sy'n disgrifio'r pwerau hyn a sut i'w defnyddio a ffurflenni datganiad priodol i elusennau a hoffai:
Gweler hefyd ein tudalen elusennau bach sy'n disgrifio ein hymagwedd at elusennau bach ac sy'n cysylltu ag amrywiaeth o ganllawiau gweithredol a chyhoeddiadau defnyddiol.
Os hoffech wneud newidiadau i ddogfen lywodraethol eich elusen (hynny yw, y ddogfen sy'n pennu dibenion a darpariaethau gweinyddol yr elusen), rydym wedi paratoi nifer o ganllawiau a ffurflenni i'ch helpu i gwblhau'r broses.
Mae ein llyfryn Newid dogfen lywodraethol eich elusen (CC36) yn darparu canllaw cyffredinol i'r broses. Mae'r union broses i'w dilyn yn dibynnu ar:
Mae'r taflenni gwybodaeth canlynol yn darparu gwybodaeth fwy penodol:
Ar gyfer cwmnïau elusennol, mae ein canllaw i staff Cwmnïau Elusennol: Newidiadau i femorandwm ac erthyglau cymdeithasu (OG47) yn nodi pa newidiadau sydd angen ein hawdurdod cyn y gellir eu gweithredu, a pha rai nad oes angen ein hawdurdod ar eu cyfer. Hefyd, mae:
Dylai elusennau sydd heb fod yn gwmni sydd ag incwm blynyddol o fwy na £10k ond heb unrhyw bŵer diwygio gysylltu â'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol gyda manylion am y newidiadau.
Pryd bynnag y bydd newid yn cael ei wneud i ddogfen lywodraethol elusen gofrestredig, rhaid i'r ymddiriedolwyr anfon y manylion atom. Yn gysylltiedig â'n taflen wybodaeth CSD 1342A mae ffurflen y gallwch ei llwytho i lawr i ddweud wrthym am y newidiadau a wnaed gan ddefnyddio pŵer diwygio sydd:
Ar gyfer elusennau sydd ag incwm o £20k neu lai, mae ffurflenni arbennig y gellir eu defnyddio i roi gwybod i ni am newidiadau sydd angen ein cydsyniad cyn y byddant yn dod i rym.
Os yw ymddiriedolwyr eich elusen yn bwriadu gwerthu neu brydlesu tir i rywun sydd â chysylltiad agos â'ch elusen (er enghraifft, ymddiriedolwr neu weithiwr neu eu perthnasau agos) bydd angen ein cydsyniad ni arnynt cyn cwblhau'r trafodiad. Cewch wybod mwy am hyn yma a sut i ddefnyddio ein ffurflenni
a chanllawiau
er mwyn cynnig modd iddynt allu gwneud cais i ni am y cydsyniad hwn.
Mae ein cyhoeddiad Gwerthu Tir Elusennau - (CC28) yn rhoi cyngor cyffredinol am ddyletswyddau ymddiriedolwyr pan fyddant yn gwerthu neu'n prydlesu tir eu helusen.
Os yw'ch elusen yn faes chwaraeon, rydym wedi darparu taflen wybodaeth ar yr ystyriaethau arbennig sy'n gymwys pan fyddwch yn gwerthu neu'n prydlesu.
Os yw'ch elusen yn berchen ar dir neu'n ei brydlesu, bydd angen i chi wneud yn siŵr bod ei berchnogaeth (neu "deitl") wedi'i sefydlu'n briodol. Oni bai bod eich elusen yn gwmni, nid oes modd cofrestru'r teitl yn enw eich elusen yn unig - yn hytrach, mae'n rhaid iddo gael ei ddal yn enwau unigolion ar ran yr elusen. Dewis arall symlach, am ddim yw gofyn i'r Ceidwad Swyddogol ddal y teitl ar gyfer eich elusen. Darllenwch ein canllaw
(CSD 1343A) i gael gwybod sut i wneud hyn a defnyddiwch y ffurflen gais hon
(CSD 1343B) i wneud cais i wneud hyn.
Cewch fwy o wybodaeth am y Ceidwad Swyddogol ar ein gwefan.
Mae'r gyfraith yn dweud y gall ymddiriedolwr hawlio treuliau hanfodol am weithredu fel ymddiriedolwr ond ni all dderbyn unrhyw daliad arall gan eu helusen oni bai fod awdurdod penodol ar gyfer hyn. Er enghraifft, mae Deddf Elusennau 1993 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006) yn darparu pŵer penodol i dalu ymddiriedolwyr am y nwyddau neu'r wasanaethau a ddarparant i'r elusen. Hefyd, mae'n bosibl bod awdurdod o'r fath yn bodoli yn nogfen lywodraethol eich elusen. Ym mhob achos, mae'n hanfodol bod unrhyw amodau sy'n gysylltiedig â'r awdurdod yn cael eu dilyn yn gaeth. Os nad yw unrhyw un o'r awdurdodau hyn yn addas, bydd angen cysylltu â ni os yw'r ymddiriedolwyr yn ystyried bod angen talu un neu fwy ohonyn nhw.
Mae canllawiau amrywiol gennym sy'n ymdrin â'r maes hwn.
Gall y rhan fwyaf o elusennau sydd â gwaddol parhaol ystyried defnyddio eiddo o'r fath. Gall penderfynu beth sydd a beth nad yw'n waddol parhaol fod yn faes cymhleth weithiau. Awgrymwn eich bod yn darllen ein canllaw - taflen wybodaeth CSD1347A - sy'n helpu i esbonio hyn.
Ar ôl darllen y canllaw, gallwch benderfynu pa gamau y mae'n briodol i'ch elusen eu cymryd ac yna gallwn gael y ffurflen(ni) angenrheidiol sydd ar gael ar y dudalen honno.
Os yw ymddiriedolwyr eich elusen wedi penderfynu cau eich elusen, mae'n rhaid iddynt eu dileu o'r gofrestr trwy roi gwybodaeth arbennig i ni.
I gael gwybodaeth gyffredinol am y gyfraith a'r polisi a ddilynwn wrth ddileu elusen o'r gofrestr, pan fydd wedi cau neu wedi gorffen gweithredu, gweler y Canllaw Gweithredol a ddarparwn ar gyfer ein staff.
Ni all nifer o elusennau bach ddirwyn i ben oherwydd bod buddsoddiadau ganddynt nad oes modd eu gwario byth ("gwaddol parhaol"). Ond mae darpariaethau arbennig sy'n caniatáu i'r cyfyngiadau hyn gael eu dileu er mwyn i elusennau allu gwario'r gwaddol parhaol a dirwyn i ben.
Mae ein cyhoeddiad Cynnal cofrestr gywir (RR6) yn darparu canllawiau ynghylch dileu o'r gofrestr sefydliadau sy'n parhau i weithredu ond nid ydynt yn elusennol mwyach.
Os ydych:
bydd angen i chi ddefnyddio'r ffurflen hysbysu CSD-1162
. Cyn cwblhau'r ffurflen darllenwch y nodiadau sy'n gysylltiedig a hefyd y Canllaw Gweithredol OG60 Cofrestr Uno Elusennau. Mae'r Gofrestr Uno Elusennau swyddogol yn cael ei chadw a'i chynnal gan y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol. Fe welwch fersiwn gwe o'r gofrestr sy'n cael ei ddiweddaru'n wythnosol.
I gael gwybodaeth fwy cyffredinol gweler:
Nid yw cofrestru uno elusennau yr un fath â chofrestru elusen. Gweler uchod am wybodaeth ar gyfer Cofrestru Elusen.
Ar yr amod nad yw archwiliad ariannol yn ofynnol yn ôl dogfen lywodraethol yr elusen, gall ymddiriedolwyr wneud cais i'r Comisiwn am oddefeb i gael archwiliad annibynnol yn lle archwiliad ariannol os oes amgylchiadau eithriadol sy'n golygu er bod incwm yr elusen am y flwyddyn efallai'n fwy na'r trothwy archwiliad, mae archwiliad annibynnol yn fwy priodol. Pan fyddant yn gwneud cais, rhaid i ymddiriedolwyr roi'r wybodaeth ofynnol i'r Comisiwn er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad. I wybod mwy ynghylch pryd y gallech wneud cais am oddefeb ewch i'r adran OG 15 B3 ein canllaw OG15 Cyfrifon ac adroddiadau elusennau ac am y llythyr cais perthnasol ewch i'r adran OG 15 L1.
Yn achos elusennau lle mae Ymddiriedolaeth Sylfaen y GIG neu Awdurdod Lleol yn ymddiriedolwyr corfforedig rheoli, a rhai elusennau sy'n gysylltiedig â'r Llywodraeth Ganol, mae'n bosibl yr hoffant benodi'r Comisiwn Archwilio, Y Swyddfa Archwilio Cenedlaethol neu Swyddfa Archwilio Cymru i adolygu cyfrifon eu helusen. Mae angen ceisio ein cymeradwyaeth os yw archwiliwr sydd heb fod yn gymwys o dan y Ddeddf Cwmnïau yn cael ei benodi. Mae'r broses yn golygu cyflwyno llythyr cais a chyfeirio at adran OG15 L1 ein canllaw OG15 Cyfrifon ac adroddiadau elusennau am y llythyr cais.