Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Mae'r deunydd a welwch ar y safle hwn yn amodol ar ddiogelwch hawlfraint y Goron oni nodir fel arall. Gellir atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Goron (heblaw'r Gofrestr Elusennau, yr Arfau Brenhinol neu logos adrannol) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei atgynhyrchu'n gywir ac nid yw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Os yw unrhyw eitemau hawlfraint y Goron ar y safle hwn yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo i bobl eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a rhaid cydnabod y statws hawlfraint. Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan y Goron yn cynnwys unrhyw ddeunydd ar y safle hwn y nodir ei fod yn hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdodiad i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw. Mae'r Comisiwn Elusennau yn annog defnyddwyr i sefydlu cysylltiadau hyperdestun i'r safle hwn.
Mae’r logos adrannol wedi’u cofrestru fel Nodau Masnach. Dylid ceisio ein hawdurdod ar gyfer eu defnyddio. Dylid gwneud ymholiadau ysgrifenedig i’r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol, Blwch SP 1227, Lerpwl, L69 3UG neu drwy e-bost.
Hawlfraint cronfa ddata'r Goron 2001. Mae Cofrestr Ganolog Elusennau ("y Gofrestr") yn amodol ar hawlfraint cronfa ddata'r Goron.
Gallwch:
1. cyrchu'r Gofrestr a llwytho i lawr darnau ansylweddol ohoni i gyfrwng electronig, magnetig, optegol neu gyfrwng storio tebyg. Gall llwytho i lawr rhannau ansylweddol o gynnwys y Gofrestr dro ar ôl tro mewn ffordd systematig gael ei ystyried yn llwytho i lawr rhan sylweddol o'r cynnwys hwnnw;
2. llwytho i lawr cynnwys y Gofrestr at ddiben addysgu neu ymchwil, ar yr amod nad oes unrhyw ddiben masnachol;
3. llwytho i lawr y cyfan neu ran sylweddol o gynnwys y Gofrestr sy'n cynnwys gwybodaeth ffeithiol o unrhyw fath ar gyfer unrhyw ddiben nad yw'n golygu bod y cyfan neu ran sylweddol o'r cynnwys hwnnw ar gael i'r cyhoedd trwy unrhyw ddull.
Dyma'r defnyddiau a ganiateir. Byddai unrhyw ddefnydd arfaethedig arall o'r Gofrestr a'i chynnwys yn golygu bod angen cael trwydded gan HMSO. Gallwch wneud cais am drwydded i Is-adran Drwyddedu HMSO, St Clements House, 2 - 16 Colegate, Norwich NR3 1BQ, Ffacs 01603 723000 neu e-bost. Bydd HMSO yn ystyried rhoi trwydded trwy ymgynghori â'r Comisiwn Elusennau.
Mae rhwymedigaeth statudol ar y Comisiwn i ganiatáu i unrhyw aelod o'r cyhoedd weld y wybodaeth a gofnodwyd ar y Gofrestr, a darparu, ar ôl derbyn cais a thaliad am unrhyw gost benodedig, gopïau o gofnodion ar y Gofrestr. Mae rhwymedigaeth statudol ar y Comisiwn hefyd i ganiatáu gweld y cyfrifon a'r adroddiadau a anfonir ato, ac ymddiriedolaethau elusennau sydd wedi'u cofnodi ar y gofrestr. Unwaith eto, mae'n rhaid iddo ddarparu copïau ar ôl derbyn cais a thaliad am unrhyw gost benodedig.
Nid yw'r Comisiwn mewn sefyllfa i reoli sut mae pobl yn defnyddio'r wybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei rhoi iddynt yn ôl y gyfraith.
Bwriedir i gronfeydd data chwiliadwy y Comisiwn Elusennau ateb anghenion ystod eang o ddefnyddwyr sy'n dymuno ymholi ein gwybodaeth ar-lein.
Oherwydd cyfyngiadau offer a lled band, ni fwriedir iddynt fod yn ffynhonnell ar gyfer llwytho i lawr swmpus. Er y byddai llwytho i lawr y cyfan neu ran sylweddol o gynnwys y gofrestr at ddiben nad yw'n golygu cynnig y wybodaeth i'r cyhoedd yn groes i hawlfraint cronfa ddata'r Goron, mae'n rhoi galwadau mawr ar y system. Dylai pobl sy'n dymuno cael copi electronig o'r gofrestr gyfan neu ran sylweddol o'r gofrestr ddilyn gweithdrefn y Comisiwn ar gyfer cael copi electronig.
Gellir gwrthod mynediad i'r gwasanaethau hyn heb rybudd yn achos unigolion, cwmnïau, cyfeiriadau IP neu flociau o gyfeiriadau IP sy'n cynhyrchu niferoedd anarferol o uchel o fynediadau cronfa ddata dyddiol, boed wedi'u cynhyrchu â llaw neu'n awtomataidd. Mewn achosion o'r fath dylent ddilyn gweithdrefn y Comisiwn ar gyfer cael copi electronig.
Rydym wedi ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarparwn trwy'r wefan hon yn gywir pan oeddwn wedi'i chynnwys. Ymddiheurwn am unrhyw gamgymeriadau. Felly, nid ydym yn gwarantu cywirdeb y tudalennau hyn ac mae unrhyw un sy'n defnyddio'r wybodaeth ynddynt yn gwneud hynny ar ei berygl ei hun.
Mae hwn yn esbonio sut y mae www.charitycommission.gov.uk yn defnyddio unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni trwy ein gwefan, a sut rydym yn gwarchod eich preifatrwydd. (D.S. Ni fwriedir iddo fod yn ddatganiad preifatrwydd mewn perthynas â gwybodaeth a gyflwynir i'r Comisiwn trwy unrhyw ddull arall).
Mae'r Comisiwn Elusennau yn Rheolydd Data dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Cadwn wybodaeth at ddibenion cynnal a chadw'r Gofrestr Elusennau a rhai swyddogaethau statudol eraill fel y trosglwyddir gan y Senedd. Mae'r Comisiwn yn cydymffurfio â'r egwyddorion diogelu data a bennir yn Neddf Diogelu Data 1998 mewn perthynas â data personol y rhowch i ni trwy ein gwefan i'r graddau y mae'r Ddeddf yn ei gwneud hi'n ofynnol iddo wneud hynny. Mae'r egwyddorion hyn yn cyfyngu pwerau rheolydd data i ddadlennu i drydydd partïon ddata personol y mae'n ei brosesu.
Casglwn bedwar prif fath o wybodaeth gan ymwelwyr i www.charitycommission.gov.uk:
Gallwch anfon eich sylwadau at ein cyfeiriad adborth e-bost neu ein holiadur gwefan. Os ydych yn anfon e-bost neu lythyr atom neu'n ffonio ni am wybodaeth, ar ôl i ni anfon ymateb i chi, cadwn gofnod o'ch neges am dri mis at ddibenion cyfeirio ac archwilio, ac wedi hynny caiff ei dileu.
Gallwch gyflwyno sylwadau neu gynrychiolaethau am gynllun y mae'r Comisiwn yn ei baratoi i elusen trwy'r e-bost. Mae ffurflen ar gael at y diben hwn. Rhaid i ni ystyried unrhyw gynrychiolaethau a dderbyniwn o fewn y cyfnod hysbysu statudol. Gallwn benderfynu o ganlyniad bod angen newid y cynigion.
Byddwn yn cadw copi caled o'ch cynrychiolaeth. Ymdrinnir â hyn yn unol â pholisi cadw cofnodion y Comisiwn.
Yn gyffredinol bydd ceisiadau e-bost i ddiweddaru neu gywiro manylion a ddangosir ar y Gofrestr Elusennau ar-lein yn cael eu trin gan yr is-adran Cronfa Ddata Elusennau. Mae'r mathau o newidiadau y bydd yn delio â hwy yn cynnwys newidiadau i fanylion am y gohebydd, gwefan neu gyswllt e-bost yr elusen. Mae'r is-adran hefyd yn delio â diwygio manylion ariannol, maes gweithredu, dosbarthiadau elusennau ac ati.
Mae unrhyw beth a allai awgrymu newid yng ngweithrediad yr elusen (sy'n effeithio ar ei dogfen lywodraethol, enw, amcanion, ardal o fudd ac ati) yn cael ei anfon at yr is-adran Cynnal a Chadw'r Gofrestr er mwyn iddi ei ystyried.
Mae pob e-bost sy'n gofyn i ni weithredu yn cael ei argraffu ac mae copi caled yn cael ei gadw ar yr is-adran at ddibenion archwilio mewnol. Mae'r rhain yn cael eu cadw am 6 mis ac yna'n cael eu dinistrio. Mae hyn ychydig yn hwy na'r cyfnod cadw swyddogol o dri mis i ffurflenni Gwirio'r Gofrestr (sy'n diweddaru manylion tebyg). Mae e-byst yn cael eu dileu ar ôl gweithredu ar yr eitem.
Byddwn yn cadarnhau bod y newidiadau y gofynnwyd amdanynt wedi cael eu gwneud os ydych yn gwneud cais arbennig i ni wneud hynny.
Cwcis
Ni fyddwn yn gallu dangos rhai tudalennau megis fersiwn Cymraeg ein safle a dewisiadau mynediad eraill os yw'ch porwr wedi'i sefydlu i wrthod ein cwcis.
Beth yw Cwcis?
Mae cwcis yn ffeiliau testun bach sy'n cael eu creu yn aml pan fyddwch yn ymweld â gwefan, a chânt eu storio yng nghyfeirlyfr cwci eich cyfrifiadur. Mae'r cwcis yn cynnwys darnau bach o ddata sy'n cael eu defnyddio ar ein gwefan i storio eich dewisiadau cyfredol megis iaith a dewisiadau mynediad. Trwy ddarllen y data yn y cwci gallwn gymhwyso eich dewisiadau o dudalen i dudalen wrth i chi symud trwy ein safle. Mae'r cwcis ar ein safle yn cael eu galw'n "cwcis sesiwn", sy'n golygu bod eich dewisiadau, megis fersiwn Gymraeg a'r dewisiadau mynediad sy'n well gennych, yn cael eu storio dros dro tra'ch bod yn symud ar hyd y safle. Nid yw'r cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi, ac ni allant gael eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol. Gallwch osod eich cyfrifiadur i beidio â derbyn cwcis ond, os gwnewch hynny, ni fyddwch yn gallu defnyddio rhai cyfleusterau ar y wefan. Mae cwcis sesiwn yn cael eu dileu pan fyddwch yn gadael y Rhyngrwyd. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi, ac nid ydynt yn cadw unrhyw wybodaeth am y safleoedd rydych wedi ymweld â nhw cyn www.charitycommission.gov.uk
Ffeiliau cofnodi
Mae ffeiliau cofnodi yn cynnig modd i ni gofnodi ymweliadau â'r safle. Mae meddalwedd arbenigol yn dwyn ynghyd gwybodaeth ffeil cofnodi o'n holl ymwelwyr, a defnyddiwn y wybodaeth hon i wneud newidiadau i gynllun y safle a'r wybodaeth sydd arno, yn seiliedig ar y ffordd y mae ymwelwyr yn symud trwy'r safle. Nid yw ffeiliau cofnodi yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol.
Mae www.charitycommission.gov.uk yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill, rhai adrannau'r llywodraeth a sefydliadau eraill. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn gymwys i'n safle ni yn unig, felly dylech bob amser fod yn ymwybodol pan fyddwch yn symud i safle arall a darllen y datganiad preifatrwydd ar unrhyw safle sy'n casglu gwybodaeth bersonol.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol rydych wedi'i rhoi i ni i unrhyw safle arall.