Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
![]() |
Lleoliad: Gadewch draffordd yr M4 yng nghyffordd 25A (os ydych yn gyrru i'r gogledd o Gaerdydd bydd angen i chi adael ar Gyffordd 26, ond mae pob ffordd arall yn gadael yng nghyffordd 25A), sy'n arwain at yr A4042, i'r de tuag at ganol dinas Casnewydd. Ar ôl tua 400 llath cymerwch y ffordd ymadael gyntaf ar y chwith i gylchdro yr A4051, yna cymerwch yr ail ffordd allan sydd ar gael gydag archfarchnad Sainsbury's o'ch blaen. Yng nghylchdro Castell Casnewydd, trowch i'r chwith i'r B4591. Mae Clarence Place a Thŷ Clarence ar y chwith wrth i chi groesi pont yr Afon Wysg. Wrth gyrraedd Casnewydd o'r gorllewin, gadewch draffordd yr M4 yng nghyffordd 26, cymerwch y drydedd ffordd allan sydd ar gael i'r A4051 Heol Malpas i'r de tuag at ganol dinas Casnewydd. Bydd hyn yn mynd â chi at gylchdro yr A4051, unwaith eto cymerwch yr ail ffordd allan a dilynwch y cyfarwyddiadau uchod i Dŷ Clarence. Rheilffordd: Gorsaf Casnewydd. Tua 1 milltir o'r swyddfa, 15 munud o gerdded. Llwybrau Bysus: Ddim yn hysbys eto Meysydd Parcio: Cewch fynediad i'r maes parcio ceir aml-lawr trwy gymryd y troad cyntaf i'r chwith ar ôl yr adeilad (Iceland) gyda'r mynediad i'r maes parcio yn union ar eich chwith. |