Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Ein Swyddfa Taunton

Woodfield House, Tangier, Taunton, Gwlad yr Haf. TA1 4BL


Llun o Woodfield House, Taunton  

Lleoliad : O draffordd yr M5, gadewch ar gyffordd 25 a dilynwch yr A38 i Taunton. Gan ddefnyddio'r map, ewch trwy ganol y dref, ar hyd Stryd East, Stryd Fore a Stryd Corporation, tan eich bod yn cyrraedd y Top Rank Club. Trowch i'r dde ar y cylchdro bach ac ewch ar hyd Stryd Castle, cymerwch dro i'r dde cyn y bont. Mae'r swyddfa o'ch blaen chi. Neu, o draffordd yr M5, gadewch ar gyffordd 26 a dilynwch yr A38 i Taunton am tua 7 milltir. Pan fyddwch yn cyrraedd Taunton, fe ewch heibio Coleg Celf a Thechnoleg Gwlad yr Haf. Ewch ymlaen nes y gwelwch archfarchnad Tesco, trowch i'r chwith yn syth ac ar ôl croesi'r bont, trwoch i'r chwith. Mae'r swyddfa o'ch blaen chi.

Rheilffordd : Gorsaf Taunton. Tua 2 filltir o'r swyddfa, 20-30 munud o gerdded.

Llwybrau Bysus : O'r orsaf reilffordd, bysus gwennol rhifau 1, 2 ac L i'r Parade, neu rif 28 i'r orsaf fysus.

Meysydd Parcio : Mae parcio cyfyngedig i ymwelwyr ar gael yn y swyddfa. Mae dau faes parcio cyhoeddus yn Stryd Castle, 2 funud o gerdded.

Map Lleoliad