Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Hafan Ffurflenni Blynyddol

Mae'r wybodaeth a'r dolenni ar y dudalen hon yn cyfeirio at Ffurflen Flynyddol 2009. Os hoffech gael gwybodaeth am Ffurflenni Blynyddol 2008 a 2007, gweler Hafan Ffurflenni Blynyddol - 2008 a 2007.

Os yw'ch elusen wedi rhoi cyfeiriad e-bost y gall y Comisiwn Elusennau ei ddefnyddio byddwn yn anfon e-bost atoch i ddweud pryd mae'ch Ffurflen Flynyddol 2009 ar gael i'w chwblhau. Os na, bydd gwahoddiad i gwblhau eich Ffurflen Flynyddol 2009 yn cael ei anfon at gyswllt yr elusen a enwir ar ein cofnodion. Cewch eich gwahodd i gwblhau Ffurflen eich elusen ar-lein neu wneud cais am fersiwn papur o'r ffurflen yn lle hynny.

Fel yn y blynyddoedd diweddar, mae'r Ffurflen Flynyddol yn gofyn am fwy o wybodaeth gan yr elusennau mwyaf a dim ond yr wybodaeth hanfodol gan elusennau llai.

Ceisiwn annog elusennau i gwblhau eu Ffurflenni Blynyddol ar-lein gan ddefnyddio ein gwasanaeth cyflym a diogel. Dilynwch y ddolen i'n Hafan Gwasanaethau Ar-lein, a mewngofnodwch drwy ddefnyddio eich cyfrinair diogel. Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair neu nid oes cyfrinair gennych, gallwch wneud cais am un ar ein Tudalen rhoi cyfrinair. Gofynnir i elusennau gydag incwm o £10,000 neu lai gwblhau Diweddariad Blynyddol 2009.

Teitl fersiwn papur y ffurflen yw Ffurflen Flynyddol/Diweddariad 2009.

Isod mae dolenni i nifer o dudalennau sy'n cynnwys gwybodaeth am Ffurflen Flynyddol 2009 y Comisiwn Elusennau.

Cewch gyngor pellach ar sut i gwblhau'r Ffurflen Flynyddol drwy ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218. Mae cynghorwyr ar gael i ateb eich ymholiadau 8am - 8pm, Llun - Gwener a 9am - 1pm ar ddydd Sadwrn (heblaw am wyliau cyhoeddus). Mae gwasanaeth Ffôn Testun gennym hefyd ar 0845 300 0219 i alwyr sydd â nam ar y clyw neu'r lleferydd. Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch ar y tudalennau hyn cysylltwch â ni drwy'r e-bost.