Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Elusennau sydd Heb Gyflwyno Cyfrifon/Ffurflenni
Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau cyn 27 Chwefror 2007 rhaid i elusennau gydag incwm neu wariant o fwy na £10,000 gyflwyno eu ffurflenni blynyddol a chyfrifon cyn pen 10 mis o ddiwedd eu blwyddyn ariannol.
Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu ar ôl 27 Chwefror 2007 ac yn diweddu cyn 1 Ebrill 2009, rhaid i elusennau gydag incwm o fwy na £10,000 gyflwyno eu ffurflenni blynyddol a chyfrifon cyn pen 10 mis o ddiwedd eu blwyddyn ariannol.
Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn diweddu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009, rhaid i elusennau gydag incwm o fwy na £10,000 gyflwyno ffurflen flynyddol ond dim ond elusennau gydag incwm o fwy na £25,000 sy'n rhaid cyflwyno eu cyfrifon.
Dangosir isod rhestrau o elusennau, wedi'u grwpio yn ôl cod post, sydd heb gyflwyno'r manylion hyn ar gyfer un neu fwy o'u blynyddoedd ariannol diwethaf.
Dewiswch ardal. O fewn pob ardal, mae'r elusennau hynny sydd heb gyflwyno wedi'u rhestru, yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei diweddaru bob dydd.
Mae manylion llawn ar gael o'r Gofrestr Elusennau ar gyfer pob elusen a restrir, trwy glicio ar unrhyw un o'i manylion.