Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Yn y lle cyntaf, awgrymwn eich bod yn darllen ein llyfryn CC47 Cwynion am Elusennau, sydd ar gael ar y dudalen cyhoeddiadau ar ein gwefan. Mae'r llyfryn hwn wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu ymagwedd y Comisiwn at reoli risg yn dilyn cyflwyno Deddf Elusennau 2006. Mae'n esbonio pryd y byddwn a phryd na fyddwn yn ymyrryd, a'r wybodaeth sydd ei hangen arnom. Hefyd mae'n cynnig arweiniad ar sut i gwyno a ble y dylech anfon eich cwyn. Os hoffech gael cyngor pellach, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 0845 300 0218.
Mae canllaw newydd gennym ar gyfer ymddiriedolwyr Gwrthdaro yn eich Elusen sy'n disgrifio'r hyn y dylai elusen ei wneud yn achos anghydfod. Cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr yw sicrhau bod anghydfodau o fewn eu helusennau yn cael eu datrys. Byddwn yn ymyrryd mewn anghydfod dim ond os nad oes unrhyw ymddiriedolwyr a benodwyd yn ddilys ac mae pob dull arall o'i ddatrys wedi methu. Mae'r canllaw hefyd yn darparu rhestr o sefydliadau defnyddiol a allai roi cymorth neu arweiniad pellach.
Barn y Comisiwn yw y dylai unrhyw gasgliad elusen, os yw'n cael ei gynnal yn y stryd neu mewn lle cyhoeddus, megis yn nrws siop, canolfan siopa neu orsaf rheilffordd, gael ei drwyddedu gan yr awdurdod lleol. Mae casgliad elusen yn cynnwys gwerthu nwyddau neu gylchgronau os yw'r elw yn cael ei roi i achos elusennol.
Dylech gysylltu â swyddog trwyddedu'r awdurdod dosbarth lle yr ydych yn bwriadu casglu (yn Llundain, cysylltwch â Heddlu Llundain) ac, wrth gwrs, rheolwr yr adeilad. Mae taflen CC20 Elusennau a Chodi Arian yn rhoi gwybodaeth bellach.
Yn gyffredinol, ydy. Ond os ydych yn cynnal y digwyddiad mewn lle cyhoeddus dylech ofyn i'r swyddog trwyddedu a oes angen unrhyw ganiatâd arnoch. Er bod y rhan fwyaf o bobl y dyddiau hyn yn barod iawn i dderbyn digwyddiadau "hwyl" o'r fath, mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y gallai rhai digwyddiadau dramgwyddo neu ddigio pobl a gall yr elusen dan sylw gael barn ar y math hwn o godi arian hefyd.
Unwaith eto, bydd angen i chi gysylltu â swyddog trwyddedu eich awdurdod lleol (yn Llundain, cysylltwch â Heddlu Llundain). Byddan nhw'n gallu dweud wrthych a oes angen trwydded arnoch, sut i gael trwydded a beth y mae angen i chi ei wneud er mwyn bodloni eu rheoliadau. Dylid nodi bod casgliadau sy'n cael eu cynnal o un tŷ tafarn i'r llall yn cael ei ystyried yn gasgliadau o dŷ i dŷ a rhaid cael trwydded bob amser. Mae ein cyhoeddiad CC20 "Elusennau a Chodi Arian" yn rhoi manylion pellach.
Gallwch, ond ni allwch ei alw'n gasgliad elusennol oherwydd yr egwyddor gyfreithiol gyffredinol bod elusennau er budd y cyhoedd, neu ran sylweddol o'r cyhoedd, ac nid ar gyfer unigolyn. Gofynnwch i'r swyddog trwyddedu os ydych yn cynnig cynnal casgliadau stryd neu o dŷ i dŷ. Er nad yw codi arian o'r fath yn elusennol yn gyfreithiol, byddem yn argymell bod cyfrifon priodol yn cael eu cadw.
Os oes gan yr elusen incwm blynyddol o fwy na £10,000, rhaid i unrhyw gais printiedig neu ysgrifenedig am arian ddatgan bod yr elusen yn gofrestredig. Dylai llenyddiaeth apêl codi arian ddatgan yn glir i beth y mae codi arian, a dylai esbonio pa gamau gaiff eu cymryd os yw'r swm a gesglir yn fwy na'r swm sydd ei angen neu os nad yw digon o arian yn cael ei godi. Os yw hyn yn digwydd, gall y Comisiwn gynghori ymddiriedolwyr elusen ynghylch pa opsiynau sydd ar gael i ddelio â'r sefyllfa.
Gallwch, ond bydd rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol, e.e. Rhan II Deddf Elusennau 1992. Mae'r Comisiwn yn cynghori'n gryf y dylid ceisio cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr sy'n arbenigo yn y maes hwn o'r gyfraith sy'n datblygu. Mae rhai o'r materion y mae angen i ymddiriedolwyr gadw mewn cof yn cynnwys:
Edrychwch ar baragraffau 27 i 31 ein taflen CC20. Gallwch ei weld ar ein gwefan neu gallwch ei harchebu trwy gysylltu â'n Canolfan Gyswllt 0845 300 0218. Am gyngor pellach, darllenwch y canllaw a gyhoeddwyd ar wefan y Comisiwn Hapchwarae (http://www.gamblingcommission.gov.uk/client/index.asp).
Fe welwch fanylion llawn ar ein tudalen Mynediad i gofnodion y Comisiwn Elusennau.
Edrychwch ar ein tudalen ar yr Adrodd ac Atebolrwydd am wybodaeth ynghylch sut i fodloni'r gofynion ar gyfer Ffurflenni Blynyddol a Chyfrifon