Datganiad Hawlfraint - © Hawlfraint y goron
Mae'r deunydd a welwch ar y safle hwn yn ddarostyngedig i ddiogelwch hawlfraint y Goron oni nodir fel arall. Gellir atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Goron (heblaw'r Gofrestr Elusennau, yr Arfau Brenhinol neu logos adrannol) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei atgynhyrchu'n gywir ac nid yw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.
Os yw unrhyw eitemau hawlfraint y Goron ar y safle hwn yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo i bobl eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a rhaid cydnabod y statws hawlfraint. Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan y Goron yn cynnwys unrhyw ddeunydd ar y safle hwn y nodir ei fod yn hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdodiad i atgynhyrchu deunydd o'r fath gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw. Mae'r Comisiwn Elusennau yn annog defnyddwyr i sefydlu cysylltiadau hyperdestun i'r safle hwn.
Mae'r logos adrannol wedi'u cofrestru fel Nodau Masnach. Dylid ceisio awdurdod ar gyfer eu defnyddio gennym ni. Dylid cyfeirio ymholiadau at drwy'r e-bost.
Datganiad hawlfraint cronfa ddata ar gyfer y Gofrestr Elusennau
Hawlfraint cronfa ddata'r Goron 2001. Mae Cofrestr Ganolog Elusennau ("y Gofrestr") yn amodol ar hawlfraint cronfa ddata'r Goron.
Gallwch:
1. cyrchu'r Gofrestr a llwytho i lawr darnau ansylweddol ohoni i gyfrwng electronig, magnetig, optegol neu gyfrwng storio tebyg. Gall llwytho i lawr rhannau ansylweddol o gynnwys y Gofrestr dro ar ôl tro mewn ffordd systematig gael ei ystyried yn llwytho i lawr rhan sylweddol o'r cynnwys hwnnw;
2. llwytho i lawr cynnwys y Gofrestr at ddiben addysgu neu ymchwil, ar yr amod nad oes unrhyw ddiben masnachol;
3. llwytho i lawr y cyfan neu ran sylweddol o gynnwys y Gofrestr sy'n cynnwys gwybodaeth ffeithiol o unrhyw fath ar gyfer unrhyw ddiben nad yw'n golygu bod y cyfan neu ran sylweddol o'r cynnwys hwnnw ar gael i'r cyhoedd trwy unrhyw ddull.
Dyma'r defnyddiau a ganiateir. Byddai unrhyw ddefnydd arfaethedig arall o'r Gofrestr a'i chynnwys yn golygu bod angen cael trwydded. Mae Cyfarwyddwr Swyddog Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus yn ei rôl fel Argraffydd y Frenhines wedi cael ei benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines i reoli'r holl hawlfreintiau sy'n eiddo i'r Goron ar ran Ei Mawrhydi. Gallwch wneud cais am drwydded i:
Tîm Polisi Gwybodaeth OPSI
Yr Archifau Cenedlaethol
Kew
Richmond
Surrey TW9 4DU
E-bost: mailto:psi@nationalarchives.gsi.gov.uk
Mae rhwymedigaeth statudol ar y Comisiwn i ganiatáu i unrhyw aelod o'r cyhoedd weld yr wybodaeth a gofnodwyd ar y Gofrestr, a darparu, ar ôl derbyn cais a thaliad am unrhyw gost benodedig, gopïau o'r testun ar y Gofrestr. Mae rhwymedigaeth statudol ar y Comisiwn hefyd i ganiatáu gweld y cyfrifon a'r adroddiadau a anfonir ato, ac ymddiriedolaethau elusennau sydd wedi'u cofnodi ar y gofrestr. Unwaith eto, mae'n rhaid iddo ddarparu copïau ar ôl derbyn cais a thaliad am unrhyw gost benodedig.
Nid yw'r Comisiwn mewn sefyllfa i reoli sut mae pobl yn defnyddio'r wybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei rhoi iddynt yn ôl y gyfraith.
Defnydd Cymeradwy o Gronfeydd Data Chwiliadwy y Comisiwn Elusennau
Bwriedir i gronfeydd data chwiliadwy y Comisiwn Elusennau ateb anghenion ystod eang o ddefnyddwyr sy'n dymuno ymholi ein gwybodaeth ar-lein.
Oherwydd cyfyngiadau offer a lled band, ni fwriedir iddynt fod yn ffynhonnell ar gyfer llwytho i lawr swmpus. Er y byddai llwytho i lawr y cyfan neu ran sylweddol o gynnwys y gofrestr at ddiben nad yw'n golygu cynnig yr wybodaeth i'r cyhoedd yn groes i hawlfraint cronfa ddata'r Goron, mae'n rhoi galwadau mawr ar y system. Dylai pobl sy'n dymuno cael copi electronig o'r gofrestr gyfan neu ran sylweddol o'r gofrestr ddilyn gweithdrefn y Comisiwn ar gyfer cael copi electronig.
Gellir gwrthod mynediad i'r gwasanaethau hyn heb rybudd yn achos unigolion, cwmnïau, cyfeiriadau IP neu flociau o gyfeiriadau IP sy'n cynhyrchu niferoedd anarferol o uchel o gyrchiadau dyddiol i'r gronfa ddata, boed wedi'u cynhyrchu â llaw neu'n awtomataidd. Mewn achosion o'r fath dylent ddilyn gweithdrefn y Comisiwn ar gyfer cael copi electronig.
Brig y dudalen
Ymwadiad
Rydym wedi ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarparwn trwy'r wefan hon yn gywir pan oeddwn wedi'i chynnwys. Ymddiheurwn am unrhyw gamgymeriadau. Felly, nid ydym yn gwarantu cywirdeb y tudalennau hyn ac mae unrhyw un sy'n defnyddio'r wybodaeth ynddynt yn gwneud hynny ar ei berygl ei hun.
Brig y dudalen
Polisi Preifatrwydd
Mae hwn yn esbonio sut y mae www.comisiwnelusennau.gov.uk yn defnyddio unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni trwy ein gwefan, a sut rydym yn gwarchod eich preifatrwydd. (D.S. Ni fwriedir iddo fod yn ddatganiad preifatrwydd mewn perthynas â gwybodaeth a gyflwynir i'r Comisiwn trwy unrhyw ddull arall).
Deddf Diogelu Data 1998
Mae'r Comisiwn Elusennau yn Rheolydd Data o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Cadwn wybodaeth at ddibenion cynnal a chadw'r Gofrestr Elusennau a rhai swyddogaethau statudol eraill fel y trosglwyddir gan y Senedd. Mae'r Comisiwn yn cydymffurfio â'r egwyddorion diogelu data a bennir yn Neddf Diogelu Data 1998 mewn perthynas â'r data personol y rhowch i ni trwy ein gwefan i'r graddau y mae'r Ddeddf yn ei gwneud hi'n ofynnol iddo wneud hynny. Mae'r egwyddorion hyn yn cyfyngu pwerau rheolydd data i ddatgelu i drydydd partïon ddata personol y mae'n ei brosesu.
Pa wybodaeth ydym ni'n ei chasglu trwy'r wefan?
Casglwn bedwar prif fath o wybodaeth gan ymwelwyr i www.comisiwnelusennau.gov.uk:
- adborth (cwestiynau cyffredinol ac adborth penodol ar y wefan);
- hysbysu am newidiadau i gofnodion ar Gofrestr Elusennau y Comisiwn Elusennau;
- cynrychiolaethau ar Gynlluniau a Gorchmynion; a
- gwybodaeth am ddefnyddio'r safle (o'n cwcis ni a chwcis trydydd parti).
1. Adborth, cwestiynau a sylwadau
Gallwch anfon eich sylwadau at ein cyfeiriad adborth e-bost neu ein holiadur gwefan. Os ydych yn anfon e-bost neu lythyr atom neu'n ffonio ni am wybodaeth, ar ôl i ni anfon ymateb i chi, cadwn gofnod o'ch neges am dri mis at ddibenion cyfeirio ac archwilio, ac wedi hynny caiff ei dileu.
2. Cynrychiolaethau ar Gynlluniau
Gallwch gyflwyno sylwadau neu gynrychiolaethau am gynllun y mae'r Comisiwn yn ei baratoi i elusen trwy'r e-bost. Mae ffurflen ar gael at y diben hwn. Rhaid i ni ystyried unrhyw gynrychiolaethau a dderbyniwn o fewn y cyfnod hysbysu statudol. Gallwn benderfynu o ganlyniad bod angen newid y cynigion.
Byddwn yn cadw copi caled o'ch cynrychiolaeth. Ymdrinnir â hyn yn unol â pholisi cadw cofnodion y Comisiwn.
3. Hysbysu am newidiadau i gofnodion ar Gofrestr Elusennau y Comisiwn Elusennau
Yn gyffredinol bydd ceisiadau e-bost i ddiweddaru neu gywiro manylion a ddangosir ar y Gofrestr Elusennau ar-lein yn cael eu trin gan yr is-adran Cronfa Ddata Elusennau. Mae'r mathau o newidiadau y bydd yn delio â hwy yn cynnwys newidiadau i fanylion am y gohebydd, y wefan neu gyswllt e-bost yr elusen. Mae'r is-adran hefyd yn delio â diwygio manylion ariannol, maes gweithredu, dosbarthiadau o elusennau ac ati.
Mae unrhyw beth a allai awgrymu newid yng ngweithrediad yr elusen (sy'n effeithio ar ei dogfen lywodraethol, enw, amcanion, ardal o fudd ac ati) yn cael ei anfon at yr is-adran Cynnal a Chadw'r Gofrestr er mwyn iddi ei ystyried.
Mae pob e-bost sy'n gofyn i ni weithredu yn cael ei argraffu ac mae copi caled yn cael ei gadw gan yr is-adran at ddibenion archwilio mewnol. Mae'r rhain yn cael eu cadw am 6 mis ac yna'n cael eu dinistrio. Mae hyn ychydig yn hwy na'r cyfnod cadw swyddogol o dri mis i ffurflenni Gwirio'r Gofrestr (sy'n diweddaru manylion tebyg). Mae e-byst yn cael eu dileu ar ôl gweithredu ar yr eitem.
Byddwn yn cadarnhau bod y newidiadau y gofynnwyd amdanynt wedi cael eu gwneud os ydych yn gwneud cais arbennig i ni wneud hynny.
4. Gwybodaeth am ddefnyddio'r safle
Cofnodwn draffig i'n safle gan ddefnyddio cwcis trydydd parti. Mae'r rhain yn rhoi symiau bach o wybodaeth ar eich cyfrifiadur neu ffôn symudol. Ni all yr wybodaeth a gesglir gael ei defnyddio i'ch adnabod chi'n bersonol. Casglwn yr wybodaeth hon i:
- fesur faint o bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, er mwyn iddynt fod yn hawdd i'w defnyddio a bod digon o allu i sicrhau eu bod yn gyflym
- dadansoddi data di-enw i'n helpu i ddeall sut y mae pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau'r Comisiwn Elusennau er mwyn i ni eu gwella
Defnyddiwn ein cwcis hefyd i roi rheolaeth i chi dros y ffordd y mae ein safle'n gweithio, er enghraifft:
- galluogi gwasanaeth i gydnabod eich dyfais er mwyn eich arbed rhag gorfod rhoi'r un wybodaeth sawl gwaith yn ystod un dasg
- cydnabod y gall fod enw defnyddiwr a chyfrinair gennych eisoes felly nid oes rhaid i chi wneud hynny ar gyfer pob tudalen we a geisir
Gallwch osod eich porwr i wrthod cwcis ond mae hyn yn golygu na fyddwn yn gallu dangos rhai tudalennau megis y fersiwn Cymraeg o'r safle a darparu dewisiadau hygyrchedd eraill. Mae ein polisi cwcis yn rhoi rhagor o wybodaeth ar sut mae cwcis yn gweithio a sut i'w rheoli.
Beth sy'n digwydd pan fydda i'n cysylltu â safle arall?
Mae www.comisiwnelusennau.gov.uk yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill, rhai adrannau'r llywodraeth a sefydliadau eraill. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn gymwys i'n safle ni yn unig, felly dylech bob amser fod yn ymwybodol pan fyddwch yn symud i safle arall a darllen datganiad preifatrwydd unrhyw safle sy'n casglu gwybodaeth bersonol.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol rydych wedi'i rhoi i ni i unrhyw safle arall.
Brig y dudalen