Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

CC14: Buddsoddi Cronfeydd Elusennol: Egwyddorion Sylfaenol

(Fersiwn - Rhagfyr 2004)


Cynnwys

Cyflwyniad

1. Mae cronfeydd dros ben gan nifer o elusennau nad oes eu hangen i ariannu eu gweithgareddau elusennol ar unwaith; yn aml bydd yr ymddiriedolwyr yn buddsoddi peth neu'r cyfan o'r cronfeydd dros ben hyn i gynhyrchu incwm ychwanegol i ariannu gweithgareddau yn y dyfodol. Mae'r arweiniad hwn yn ceisio esbonio'n fras pwerau a dyletswyddau ymddiriedolwyr elusennau wrth fuddsoddi cronfeydd elusennol. Bwriedir iddo fod yn gyflwyniad i'r pwnc i ymddiriedolwyr ac aelodau'r cyhoedd sydd ag ychydig neu ddim profiad yn y maes hwn.

2. Tra bo'r arweiniad cyffredinol a roddir yma yn berthnasol i'r rhan fwyaf o elusennau, mae'r sefyllfa yn amrywio o ran manylion i gyfarwyddwyr cwmnïau elusennol mewn sawl ffordd. Am fwy o wybodaeth yn ymwneud â'r elusennau hyn edrychwch ar yr arweiniad manwl.

3. Yr egwyddor sylfaenol sy'n sail i benderfyniadau ymddiriedolwyr ynghylch buddsoddi cronfeydd eu helusen yw bod rhaid iddynt fabwysiadu ymagwedd ddoeth.

4. Wrth fuddsoddi cronfeydd elusennol (yn enwedig y rheiny sy'n cynrychioli gwaddoliad parhaol), rhaid i ymddiriedolwyr geisio cael y cydbwysedd iawn ar gyfer eu helusen arbennig nhw rhwng y ddau amcan sef:

  • darparu incwm i gynorthwyo'r elusen i ymgymryd â'i dibenion yn effeithiol yn y tymor byr; a
  • chynnal ac, os oes modd, gwella gwerth y cronfeydd a fuddsoddwyd, er mwyn i'r elusen allu ymgymryd â'i dibenion yn effeithiol yn y tymor hwy.
5. Er mwyn cyflawni'r ddyletswydd i fabwysiadu ymagwedd ddoeth tuag at fuddsoddi cronfeydd yr elusen, rhaid i ymddiriedolwyr:
  • wybod beth yw eu pwerau buddsoddi (paragraffau 11-14)
  • cyflawni eu dyletswyddau yn briodol pan fyddant yn cymryd penderfyniadau ynghylch buddsoddiadau (paragraffau 15-19)
  • gweithredu trefniadau priodol ar gyfer dal buddsoddiadau ar ran yr elusen (gweler paragraffau 20-25)
  • dilyn rhai gofynion cyfreithiol os ydynt yn bwriadu defnyddio rhywun i reoli buddsoddiadau'r elusen ar eu rhan (gweler paragraffau 26-29)
  • gwybod beth y gallant ac na allant ei wneud os ydynt yn bwriadu mabwysiadu ymagwedd foesegol at fuddsoddiadau'r elusen (gweler paragraffau 32-38)

6. Argymhellwn yn gryf hefyd, os yw maint y cronfeydd sydd i'w buddsoddi yn cyfiawnhau hyn, y dylai ymddiriedolwyr benderfynu ar bolisi buddsoddi ffurfiol i'r elusen. Wrth gwrs, bydd hyn yn amrywio o ran lefel y manylion a chymhlethdod yn dibynnu ar faint yr elusen, ac a yw swyddogaeth fuddsoddi wedi cael ei dirprwyo (gweler paragraffau 30-31).

7. Mae'r syniad o'r hyn sy'n cael ei ystyried yn "fuddsoddiad" yn amrywio - yn y cyd-destun hwn rhaid gwahaniaethu rhyngddo â mathau eraill o gynhyrchu incwm, megis masnachu a gamblo. Fe welwch y diffiniad o "fuddsoddiad" a ddefnyddir yn y gyfraith ymddiriedolaeth, a mwy o wybodaeth ar yr hyn sydd a'r hyn nad yw'n cael ei ystyried yn fuddsoddiad, i'w weld yn yr arweiniad manwl ar ein gwefan. Fodd bynnag, i'r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr, yn enwedig ymddiriedolwyr elusennau bach, dylai'r enghreifftiau o'r hyn sydd ac nad yw'n fuddsoddiadau ym mharagraffau 9-10 isod fod yn ddigonol fel canllaw.

Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir

8. Yn yr arweiniad hwn:

Ystyr Deddf Elusennau yw Deddf Elusennau 1993. Ystyr Deddf Ymddiriedolwyr yw Deddf Ymddiriedolwyr 2000.

Cwmnïau elusennol yw cwmnïau a ffurfiwyd ac a gofrestrwyd dan Ddeddf Cwmnïau 1985 neu mae darpariaethau'r Ddeddf honno yn gymwys iddynt ac wedi'u sefydlu at ddibenion elusennol yn unig.

Ystyr dogfen lywodraethol yw unrhyw ddogfen sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, yn gyfansoddiad, yn femorandwm ac erthyglau cwmni, yn ewyllys, yn drawsgludiad, yn Siarter Frenhinol, neu'n Gynllun gan y Comisiwn Elusennau neu'r Llys. Defnyddir yr ymadrodd "offeryn ymddiriedolaeth" yn y Ddeddf Ymddiriedolwyr; yn y rhan fwyaf o achosion mae ei ystyr yr un fath.

Ystyr rheolwr buddsoddiadau yw unigolyn neu gorfforaeth gorfforedig a benodir gan elusen neu ei hymddiriedolwyr i wneud penderfyniadau buddsoddi ar ran yr elusen. Bydd y rheolwr buddsoddiad yn gwneud y penderfyniadau hynny o fewn fframwaith polisi buddsoddi a luniwyd gan yr ymddiriedolwyr.

Mae tir yn cynnwys unrhyw adeiladau ar y tir.

Ystyr gwaddoliad parhaol yw eiddo'r elusen (gan gynnwys tir, adeiladau, buddsoddiadau neu arian parod) na all yr ymddiriedolwyr ei wario fel pe bai'n incwm. Rhaid iddo gael ei ddal yn barhaol, weithiau i'w ddefnyddio i hybu dibenion yr elusen, weithiau i gynhyrchu incwm i'r elusen. Fel rheol ni all yr ymddiriedolwyr wario gwaddoliad parhaol heb ein hawdurdod.

Ystyr ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusennau yw'r unigolion neu'r corfforaethau corfforedig sydd, dan ddogfen lywodraethol yr elusen, yn gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, yn ymddiriedolwyr rheoli, yn aelodau pwyllgor, yn llywodraethwyr, yn aelodau'r cyngor neu'n gyfarwyddwyr, neu gallant ddefnyddio rhyw deitl arall. Defnyddir rhaid neu angen i gyfeirio at gamau y mae'n ofynnol i ymddiriedolwyr, neu eu hasiantau neu eu gweithwyr eu cymryd yn ôl y gyfraith neu dan ddogfen lywodraethol yr elusen.

Pan fyddwn yn defnyddio termau megis dylai'r ymddiriedolwyr neu awgrymwn, argymhellwn neu cynghorwn, cyfeiriwn at y camau y gallai'r ymddiriedolwyr, eu hasiantau neu eu gweithwyr eu cymryd, ac sy'n arfer dda yn ein barn ni, ond nid ydynt yn ofynion cyfreithiol.

Enghreifftiau o fuddsoddiadau

9. Nid yw'r term "buddsoddiad" wedi'i ddiffinio mewn statud. Yn lle hynny mae'r llysoedd wedi dehongli'r ymadrodd. Er nad yw'n cynnwys pob posibilrwydd, mae rhai enghreifftiau cyffredin o fuddsoddiadau yn cynnwys:

  • cyfranddaliadau mewn cwmnïau;
  • tir a rentir neu a osodir ar brydles gan yr elusen i denantiaid;
  • benthyciadau sy'n ennill llog gan yr elusen, er enghraifft, bondiau'r llywodraeth, stoc benthyciad cwmni, adneuon mewn banciau a chymdeithasau adeiladu; ac
  • unedau mewn cynlluniau buddsoddi cyfunol, megis ymddiriedolaethau uned, cwmnïau buddsoddi penagored neu gronfeydd buddsoddi cyffredin.

Enghreifftiau o'r hyn nad yw'n cael ei ystyried yn fuddsoddiad

10. Mae rhai enghreifftiau o'r hyn nad yw'n cael ei ystyried yn fuddsoddiad yn cynnwys:

  • Tir a brynwyd ac a ddatblygwyd gyda'r nod o'i werthu. Fel arfer caiff hyn ei ystyried yn fasnachu yn hytrach na buddsoddi, ac felly gall ddenu rhyddhad treth cyfyngedig yn unig. Gweler ein cyhoeddiad Elusennau a Masnachu.
  • Gweithiau celf neu nwyddau megis aur neu win rhagorol, a brynwyd gyda'r nod o'i ailwerthu yn y dyfodol i wneud elw. Dyma'r unig obaith o gael budd ariannol o'r trafodiad. Bydd prynu a gwerthu eitemau o'r fath hefyd yn cael ei ystyried yn fasnachu.

Pwerau buddsoddi ymddiriedolwyr

11. Dan y Ddeddf Ymddiriedolwyr, bydd pŵer buddsoddi eang iawn gan y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr. Yn ymarferol golyga hyn fod y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn gallu buddsoddi ym mron unrhyw beth a ystyrir yn fuddsoddiad dan y gyfraith ymddiriedolaeth (gweler uchod am enghreifftiau o'r hyn sy'n dod dan ddiffiniad y gyfraith ymddiriedolaeth ym marn y Comisiwn). Mae rhai cyfyngiadau ar fuddsoddi mewn tir.

12. Mae'r paragraffau canlynol yn esbonio'r amgylchiadau pan nad oes pŵer buddsoddi gan ymddiriedolwyr a roddir gan y Ddeddf Ymddiriedolwyr. Maen nhw hefyd yn esbonio'r amodau sy'n gymwys wrth ddefnyddio pwerau buddsoddi.

Eithriadau

13. Nid yw'r pwerau buddsoddi cyffredinol hyn ar gael:

  • os yw'r elusen yn gwmni elusennol (ac eithrio pan fydd y cwmni ei hun yn gweithredu fel ymddiriedolwr elusen);
  • os yw dogfen lywodraethol yr elusen yn eithrio neu'n cyfyngu ar bŵer y Ddeddf Ymddiriedolwyr (ond mewn rhai amgylchiadau mae'r pŵer statudol hwn yn bwysicach na chyfyngiadau neu eithriadau yn y ddogfen lywodraethol). Er enghraifft gall y ddogfen lywodraethol gyfyngu ar allu'r ymddiriedolwyr i fuddsoddi mewn rhai mathau o fuddsoddiadau (e.e. cyfranddaliadau ar farchnad stoc Llundain) neu wahardd buddsoddi mewn rhai diwydiannau (e.e. arfau neu dybaco). Gweler paragraffau 32-38 yr arweiniad hwn ar fuddsoddiad moesegol.

14. Os nad yw pwerau'r Ddeddf Ymddiriedolwyr ar gael, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ddibynnu ar unrhyw bwerau o fewn eu dogfen lywodraethol wrth wneud buddsoddiadau.

Dyletswyddau ymddiriedolwyr

15. Wrth reoli buddsoddiadau elusen, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr weithredu i safonau arbennig fel y diffinnir yn y Ddeddf Ymddiriedolwyr, os ydynt yn defnyddio'r pwerau buddsoddi yn y Ddeddf honno neu beidio:

  • Yn gyntaf mae'r ddyletswydd gyffredinol o ofal (fel y disgrifir yn adran 1 Deddf Ymddiriedolwyr), sef y ddyletswydd i ymarfer y gofal a'r sgil sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau. Mae hyn yn gymwys i ddefnyddio unrhyw bŵer buddsoddi a chyflawni'r dyletswyddau penodol y mae'r Ddeddf yn eu cysylltu â defnyddio'r pwerau buddsoddi (gweler isod). Disgwylir lefel uwch o ofal a sgil gan ymddiriedolwr sydd neu sy'n honni bod yn hyddysg neu'n brofiadol ym maes buddsoddiadau, neu sy'n cael ei dalu.
  • Yn ail, rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r dyletswyddau penodol canlynol:
  • Rhaid i ymddiriedolwyr ystyried addasrwydd unrhyw fuddsoddiad i'w helusen. Mae'r ddyletswydd hon yn bodoli ar ddwy lefel. Rhaid i'r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod y math o unrhyw fuddsoddiad arfaethedig (e.e. cronfa fuddsoddi gyffredin neu gyfrif adnau) yn addas i'w helusen (gan gynnwys a yw'n cyd-fynd â pholisi buddsoddi moesegol os oes un gan yr elusen). Hefyd mae dyletswydd ganddynt ystyried a yw buddsoddiad arbennig o'r math hwnnw yn un addas i'r elusen ei wneud. Dylai ymddiriedolwyr, ar y ddwy lefel, geisio ystyried yr ystod gyfan o ddewisiadau buddsoddi sydd ar gael iddynt; bydd hyn yn dibynnu, wrth gwrs, ar swm y cronfeydd sydd ar gael i'w buddsoddi.
  • Rhaid i ymddiriedolwyr ystyried yr angen i arallgyfeirio, h.y. cael gwahanol fathau o fuddsoddiad, a buddsoddiadau gwahanol o fewn pob math o fuddsoddiad. Bydd hyn yn lleihau'r perygl o golledion yn deillio o ganolbwyntio ar fuddsoddiad arbennig neu fath o fuddsoddiad. Unwaith eto, bydd pa mor bell y gall ymddiriedolwyr ystyried hyn yn dibynnu ar swm y cronfeydd sydd ar gael i'w buddsoddi.
  • Rhaid i ymddiriedolwyr adolygu buddsoddiadau'r elusen bob hyn a hyn. Mae natur ac amlder yr adolygiadau hyn yn fater i'r ymddiriedolwyr benderfynu arno, ond dylai'r adolygiadau fod yn gymesur â natur a maint portffolio buddsoddi'r elusen. Gall adolygu yn rhy anaml greu colledion neu golli cyfleoedd; gall newid buddsoddiadau yn rhy aml greu lefelau uchel diangen o daliadau am drafodion. Argymhellwn y dylai'r rhan fwyaf o elusennau gynnal adolygiad o leiaf unwaith y flwyddyn.
  • Cyn ymarfer unrhyw bŵer buddsoddi, ac wrth adolygu buddsoddiadau elusen, rhaid i ymddiriedolwyr geisio ac ystyried cyngor priodol gan gynghorydd cymwys addas (a all fod yn un o'r ymddiriedolwyr), oni bai fod maint y cronfeydd sydd ar gael i'w buddsoddi mor fach ac felly ni fyddai ceisio cyngor buddsoddi yn gost-effeithiol.

16. Mae'r Ddeddf Ymddiriedolwyr yn ei gwneud hi'n ofynnol i ystyried y pwyntiau uchod yn wrthrychol. Mae rhwymedigaethau tebyg gan ymddiriedolwyr cwmnïau elusennol, er nad yw'r Ddeddf yn gymwys iddynt yn benodol. Rhaid i bob ymddiriedolwr hefyd ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn nogfen lywodraethol eu helusen.

17. Mae dyletswydd ar ymddiriedolwyr pob elusen sydd â gwaddoliad parhaol i fod yn deg wrth ystyried buddiannau buddiolwyr presennol a buddiolwyr yr elusen yn y dyfodol. Yn ymarferol golygu hyn fod rhaid iddynt ystyried a yw buddsoddiad yn darparu cydbwysedd addas rhwng darparu incwm ar gyfer anghenion presennol a chadw neu gynyddu gwerth y buddsoddiadau er mwyn i'r elusen allu gweithredu'n effeithiol yn y dyfodol.

18. Mae rhai dyletswyddau eraill ymddiriedolwyr mewn perthynas â buddsoddiadau fel a ganlyn:

  • Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusennau reoli'r peryglon a wyneba eu helusen, cydbwyso'r peryglon hynny yn erbyn yr enillion posib o fuddsoddiadau arbennig, a bod yn ofalus i osgoi perygl gormodol i gronfeydd eu helusen (gweler ein harweiniad mwy cyffredinol ar Elusennau a Rheoli Risg ar ein gwefan). Argymhellwn dair ffordd y gall ymddiriedolwyr wneud hyn:
  • buddsoddi mewn marchnadoedd lle mae gwasanaethau ariannol yn cael eu rheoleiddio'n agos, ac mae cynlluniau digolledu yn weithredol;
  • cael portffolio buddsoddi amrywiol addas; ac
  • ystyried yn ofalus cyn buddsoddi ar hap.
  • Mae'n rhaid i adroddiad blynyddol elusen gynnwys disgrifiad o'r polisïau a ddefnyddir gan yr ymddiriedolwyr i ddewis buddsoddiadau'r elusen. Mae'n rhaid i elusennau mwy, fel rhan o'u cydymffurfiaeth â gofynion cyfrifeg, adrodd hefyd ar berfformiad eu buddsoddiadau.

19. Nid yw ymddiriedolwyr yn atebol i wneud iawn am golled yr elusen dim ond oherwydd bod buddsoddiad y maen nhw wedi'i wneud heb lwyddo. Fodd bynnag, gall ymddiriedolwyr fod yn atebol os, wrth wneud neu gadw'r buddsoddiad aflwyddiannus, maen nhw wedi gweithredu y tu allan i gwmpas eu pwerau, neu wedi methu â chyflawni'r dyletswyddau y cyfeirir atynt uchod.

Dal buddsoddiadau i elusen

20. Mae gan elusennau sy'n gorfforaethau corfforedig (y rhai mwyaf cyffredin yw cwmnïau elusennol) hunaniaeth gyfreithiol a gallant ddal buddsoddiadau yn eu henw eu hunain.

21. Fodd bynnag, nid oes gan elusennau anghorfforedig, megis ymddiriedolaethau a chymdeithasau, eu hunaniaeth gyfreithiol eu hunain, ac felly bydd rhaid i'r ymddiriedolwyr elusennau ddal y buddsoddiadau yn eu henw eu hunain. Fel arfer bydd yn fwy cyfleus iddynt benodi un unigolyn neu fwy neu gorfforaeth gorfforedig i ddal y buddsoddiadau ar ran yr elusen. Gelwir y sawl sy'n gwneud hyn yn "enwebedig". Yn ymarferol mae'r term hwn yn tueddu i gael ei ddefnyddio pan fydd yr enwebedig yn gorfforaeth gorfforedig. Gelwir enwebedigion yn ymddiriedolwyr dal yn aml os ydynt yn un neu ragor o unigolion, sydd yn aml yn cael eu dewis o blith yr ymddiriedolwyr elusennau.

22. Mae ceidwad yn rhywun sydd, ar ran yr ymddiriedolwyr cyfan, yn gofalu am ddogfennau neu dystiolaeth arall y teitl i eiddo'r elusen - er enghraifft, tystysgrifau cyfranddaliadau a thir. Yn aml bydd ddwy rôl enwebedig a cheidwad yn cael eu cyfuno. Gall ceidwad hefyd ddarparu gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â buddsoddiad, megis ymdrin â cheisiadau am ad-daliadau treth sy'n ddyledus mewn perthynas ag incwm buddsoddi.

23. Mae ymddiriedolwr gwarchodaeth yn cyfuno swyddogaethau enwebedig a cheidwad, ond nid yw rhywun sy'n enwebedig ac yn geidwad yn ymddiriedolwr gwarchodaeth o reidrwydd. Mae hunaniaeth, a phwerau a dyletswyddau, ymddiriedolwyr gwarchodaeth wedi'u pennu gan statud; am wybodaeth bellach ynghylch ymddiriedolwyr gwarchodaeth edrychwch ar Arweiniad Gweithredol OG39, sydd wedi'i ysgrifennu'n benodol ar gyfer ein staff.

24. Mae'r Ddeddf Ymddiriedolwyr yn cynnig modd i ymddiriedolwyr elusennau benodi, yn ysgrifenedig, rhai mathau o bobl i weithredu fel eu henwebedig a'r un person neu berson gwahanol i weithredu fel eu ceidwad. Yr ymddiriedolwyr sy'n penderfynu gwneud y penodiadau hyn neu beidio, ac a ydynt yn ymwneud â rhai neu holl asedau'r elusen, gan gynnwys buddsoddiadau. Mae'r pŵer statudol hwn yn ychwanegol i unrhyw bwerau eraill i benodi enwebedig neu geidwad neu ymddiriedolwr gwarchodaeth sydd gan yr ymddiriedolwyr, naill ai gan statud neu ddogfen lywodraethol yr elusen.

25. Rhoddir gwybodaeth fanwl am gwmpas pwerau i benodi enwebedigion, ceidwaid ac ymddiriedolwyr gwarchodaeth, a'r dyletswyddau sy'n gysylltiedig â defnyddio'r pwerau hynny, yn ein harweiniad Penodi Enwebedigion a Cheidwaid: Arweiniad dan adran 19(4) Deddf Ymddiriedolwyr 2000 (CC42). Mae copi caled ar gael hefyd.

Dirprwyo'r gwaith o reoli buddsoddiadau

26. Bydd nifer o ymddiriedolwyr elusennau yn ystyried mai rhoi'r gwaith o reoli buddsoddiadau'r elusen yn nwylo arbenigwr yw'r peth gorau. Mae dwy prif ffordd o wneud hyn:

  • buddsoddi mewn un neu ragor o gynlluniau buddsoddi cyfunol, megis ymddiriedolaethau uned, cwmnïau buddsoddi penagored, neu gronfeydd buddsoddi cyffredin i elusennau; neu
  • ddirprwyo eu penderfyniadau buddsoddi trwy benodi rheolwr buddsoddiadau.

27. I elusennau llai mae'n ddigon posib mai'r dewis cyntaf fydd yn cynnig ffordd gost-effeithiol o sicrhau portffolio cytbwys a reolir yn broffesiynol. Ond mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr barhau i gyflawni'r dyletswyddau a ddisgrifir ym mharagraffau 15-19 uchod a bodloni eu hunain ynghylch addasrwydd unrhyw gynllun cyfunol fel arf buddsoddi i'w helusen.

28. Gall elusennau mwy sydd â chronfeydd sylweddol ystyried penodi rheolwr buddsoddiadau, sy'n annhebygol o fod yn gost-effeithiol i elusennau llai. Mae hyn yn golygu bod ymddiriedolwyr yn ymgymryd â nifer o ddyletswyddau ychwanegol wrth benodi rheolwr buddsoddiadau, eu hysbysu ynghylch polisïau buddsoddi'r elusen, ac adolygu eu perfformiad.

29. Wrth gwrs, mantais defnyddio rheolwr buddsoddiadau yw gallu'r rheolwr i ddilyn strategaeth fuddsoddi sydd wedi'i theilwra i anghenion yr elusen arbennig. Ond rhaid talu am y fantais hon, o ran y ffioedd a godir am y gwasanaeth, a'r ffaith bod rhaid i'r ymddiriedolwyr gyflawni'r cyfrifoldebau ychwanegol y cyfeirir atynt uchod yn eu perthynas â'r rheolwr buddsoddiadau.

Polisi buddsoddi

30. Argymhellwn yn gryf fod ymddiriedolwyr elusennau yn penderfynu ar bolisi buddsoddi i'w helusen, ei gofnodi'n glir ar bapur, a'i adolygu'n gyson - os ydynt wedi dirprwyo eu swyddogaeth fuddsoddi i reolwr buddsoddiadau mae'r rhain yn ofynion cyfreithiol. Heb bolisi buddsoddi, bydd yn anodd i ymddiriedolwyr ddangos eu bod yn gwneud defnydd da o gronfeydd yr elusen.

31. Dylai unrhyw bolisi buddsoddi, er enghraifft, ymdrin â'r ystyriaethau canlynol:

  • yr angen am ddigon o adnoddau i'r elusen allu ymgymryd â'i gweithgareddau yn awr ac yn y dyfodol yn effeithiol;
  • lefel y perygl sy'n dderbyniol a sut i'w reoli (gweler paragraff 18); ac
  • agwedd yr elusen tuag at fuddsoddiad moesegol, os yw'n berthnasol (gweler isod).

Buddsoddiad moesegol

32. Gall y cwestiwn o seilio polisi buddsoddi ar ystyriaethau moesegol fod yn un pwysig i elusennau. Mae'r hanfodion yn cael eu trafod yn fras isod.

33. Os yw ymddiriedolwyr yn bwriadu mabwysiadu polisi buddsoddi moesegol, neu ddilyn un a bennir yn nogfen lywodraethol yr elusen, mae angen iddynt gofio eu dyletswydd i fuddsoddi mewn ffordd sy'n hybu diben yr elusen. Fel rheol cyflawnir hyn trwy geisio'r elw mwyaf o gyfres o fuddsoddiadau sydd wedi cael eu dewis yn ddoeth. Gall polisi buddsoddiad moesegol gyd-fynd yn hollol â'r ddyletswydd hon, ond gall fod perygl hefyd y bydd anallu'r elusen i ystyried, neu ffafrio, rhai dosbarthiadau o fuddsoddiadau neu fuddsoddiadau arbennig, dynnu oddi wrth y nod o gael yr enillion ariannol uniongyrchol gorau o fuddsoddiad.

34. Mae'n bosib y bydd ymddiriedolwyr yn ystyried nad yw mabwysiadu polisi buddsoddiad moesegol arbennig yn dynnu oddi wrth y nod o gael yr enillion ariannol uniongyrchol gorau o fuddsoddiad. Wrth gwrs, mae'n rhaid iddynt allu cyfiawnhau eu barn, trwy allu dangos eu bod nhw, trwy ddilyn y polisi, wedi cyflawni eu dyletswyddau buddsoddi y cyfeirir atynt uchod. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd rhai ymddiriedolwyr eisiau mabwysiadu polisi buddsoddiad moesegol, er ei fod neu y gall dynnu oddi wrth y nod o gael yr enillion ariannol uniongyrchol gorau. Amlinellir yr amgylchiadau pan allant wneud hyn yn y paragraff canlynol.

35. Gall ymddiriedolwyr fabwysiadu polisi buddsoddiad moesegol a fydd yn cynnwys:

  • Osgoi buddsoddiadau mewn busnes arbennig a fyddai am resymau ymarferol yn gwrthdaro ag amcanion yr elusen; er enghraifft, gall elusen sydd ag amcanion i warchod yr amgylchedd a bywyd gwyllt benderfynu peidio â buddsoddi mewn busnesau sy'n llygru'r hyn y mae'r elusen yn ceisio ei warchod.
  • Osgoi buddsoddiadau a allai rwystro gwaith elusen, naill ai trwy wneud buddiolwyr posib yn amharod i gael eu cynorthwyo oherwydd ffynhonnell arian yr elusen, neu trwy ddieithrio cefnogwyr. Mae hyn yn golygu bod angen i ymddiriedolwyr gael cydbwysedd rhwng cost debygol y gefnogaeth sy'n cael ei cholli, pe byddai'r elusen yn dal y buddsoddiadau, ac unrhyw berygl o danberfformiad ariannol pe byddai'r buddsoddiadau hynny yn cael eu heithrio o'i phortffolio.

36. Gall fod rhai achosion pan nad yw'r ddau ddatganiad blaenorol yn gymwys, ond mae'r ymddiriedolwyr yn dymuno gwneud penderfyniadau buddsoddi ar sail foesol (gall hyn gynnwys defnyddio meini prawf cadarnhaol neu negyddol, neu gyfuniad o'r ddau). Yn yr achosion hyn, fodd bynnag, rhaid i'r ymddiriedolwyr fod yn arbennig o glir na fydd eu penderfyniadau yn rhoi'r elusen mewn perygl o golled ariannol sylweddol oherwydd tanberfformiad gan y buddsoddiadau a ffafrir neu trwy beidio ag ystyried ffurfiau o fuddsoddiad y mae'r ymddiriedolwyr yn eu gwrthwynebu.

37. Nid yw ymddiriedolwyr yn debygol o gael eu beirniadu am fabwysiadu polisi arbennig os ydynt wedi ystyried y materion cywir, wedi ceisio cyngor priodol a dod i gasgliad synhwyrol.

38. Sylwch nad yw buddsoddiad moesegol yr un fath â "buddsoddiad cymdeithasol". Mae hyn yn gysyniad cwbl wahanol, a elwir hefyd yn "fuddsoddiad sy'n gysylltiedig â rhaglen" ("PRI"), ac nid yw'n fuddsoddiad yn yr ystyr ariannol, oherwydd ei brif nod yw cyflawni amcanion yr elusen. Am fwy o fanylion edrychwch ar yr arweiniad ar wahân ar Elusennau a Buddsoddiad Cymdeithasol.

Goblygiadau treth

39. Mae'r rhan fwyaf o fuddsoddiadau'n cael eu trin fel "buddsoddiadau cymwys" gan Gyllid y Wlad. Fodd bynnag, gall gwneud rhai mathau o fuddsoddiad (mewn categorïau y byddem ni'n eu hystyried yn anaddas i'r mwyafrif o elusennau yn bennaf) gael eu trin fel "buddsoddiadau anghymwys". Gall hyn arwain at gyfyngu ar ryddhad treth yr elusen. Bydd angen i ymddiriedolwyr sy'n gwneud buddsoddiadau o'r fath allu bodloni Cyllid y Wlad bod y buddsoddiadau'n cael eu gwneud er budd ariannol yr elusen ac nid er mwyn osgoi treth, naill ai gan yr elusen neu gan unrhyw berson arall.

40. Mae arweiniad ar oblygiadau treth buddsoddiadau elusennau i'w weld ar wefan Cyllid y Wlad.