Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Ebrill 2009)
Mae'r canllaw hwn yn gymwys i elusennau sy'n gwmnïau a heb fod yn gwmnïau ar gyfer y blynyddoedd ariannol yn diweddu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009. Mae'r fersiwn hwn yn diweddaru'r canllaw a gyhoeddwyd yn Ebrill 2008 (sy'n gymwys i'r blynyddoedd yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008) ar gyfer trothwyon ariannol newydd a gyflwynwyd gan Orchymyn.
Canllaw'r Comisiwn Elusennau i bawb sy'n paratoi cyfrifon ac Adroddiadau Blynyddol elusennau.
Neges oddi wrth Gadeirydd a Phrif Weithredwr y Comisiwn Elusennau
Annwyl Ddarllenydd,
Yng Nghymru a Lloegr rydym yn ffodus i gael sector elusennol deinamig a bywiog sy'n amrywio'n fawr o ran maint elusennau a'u gweithgareddau. Mae cynnal a gwella enw da'r sector yn gyfrifoldeb i ni i gyd ac mae atebolrwydd effeithiol yn ffactor hanfodol wrth gyflawni hyn.
Mae'r gyfraith yn gosod fframwaith ar gyfer adroddiadau a chyfrifon elusennau a ategir gan y SORP Elusennau. Rydym wedi cyhoeddi'r canllaw hwn i'ch helpu i gymhwyso'r fframwaith hwn i'ch elusen chi. Ond mae atebolrwydd effeithiol yn golygu mwy na dim ond cydymffurfio â'r gyfraith. Mae rhoi adroddiadau a chyfrifon elusennau ar ein gwefan yn rhoi atebolrwydd mwy uniongyrchol ac eang. Bydd hyn o fudd i'r elusennau hynny sy'n defnyddio adroddiadau ariannol trwy ddarparu gwybodaeth berthnasol, amserol ac o safon ac mae hyn, yn ei dro, yn cynnig cyfle i feithrin ffydd. Byddem yn annog pob ymddiriedolwr i ddefnyddio eu Hadroddiadau Blynyddol a'u cyfrifon i gyfathrebu â rhanddeiliaid a'r cyhoedd am eu gwaith - esbonio'r gwaith y mae eu helusennau yn ei wneud a'r hyn a gyflawnir drwy'r gwaith hwnnw.
Rydym yn cyhoeddi'r canllaw hwn ar adeg o newidiadau pwysig, sydd i'w croesawu, i'r fframwaith cyfrifyddu. Mae'r cysoni hir-ddisgwyliedig o'r gweithdrefnau archwilio wedi cael ei wireddu gan Ddeddf Elusennau 2006 ac erbyn hyn bydd elusennau, beth bynnag fo'u cyfansoddiad, yn cael eu harchwilio'n ariannol neu'n annibynnol ar yr un trothwyon. Yn arbennig, bydd yr archwiliad annibynnol, trefn archwilio sy'n benodol ar gyfer elusennau, hefyd yn ddewis i gwmnïau elusennol bach. Yn ogystal, mae fframwaith cyfreithiol yn bodoli erbyn hyn ar gyfer paratoi cyfrifon grŵp elusen sy'n rhoi sail gyfreithiol i arferion sefydledig y sector.
Mae'r fersiwn hwn yn diweddaru'r canllaw a gyhoeddwyd yn Ebrill 2008 ar gyfer newidiadau a wnaed gan orchymyn i'r trothwyon ariannol, sy'n gymwys i flynyddoedd ariannol yn diweddu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009. Bydd y canllaw yn cael ei gynnal i adlewyrchu unrhyw newidiadau yn y dyfodol i drothwyon, er enghraifft, a allai ddeillio o'r ymrwymiad a wnaed i'r Senedd y byddai gweithredu'r Ddeddf yn cael ei adolygu cyn pen pum mlynedd.
Rydym eisiau eich helpu yn eich ymdrechion i roi darlun agored, manwl gywir ac amserol o berfformiad eich elusen dros y flwyddyn ddiwethaf, a'i dyheadau am y flwyddyn i ddod. I'r diben hwnnw, gobeithio y bydd y canllaw hwn o ddefnydd i chi.
|
Y Fonesig Suzi Leather |
Andrew Hind |
Mae'r adran hon yn crynhoi'r prif ofynion ar gyfer elusennau i gynhyrchu Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr, cyfres o gyfrifon a Ffurflen Flynyddol. Nid yw'r canllaw hwn yn ddogfen gyfreithiol ond yn hytrach yn grynodeb cyffredinol o'r fframwaith adroddiadau a chyfrifon i elusennau. Mae hefyd yn rhoi manylion am y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cyfrifon a ffurflenni, a phryd y mae archwiliad annibynnol neu archwiliad proffesiynol o gyfrifon elusen yn ofynnol. Mae mwy o fanylion am y gofynion hyn i'w gweld yn yr adrannau sy'n dilyn.
Mae'r fframwaith ar gyfer cyfrifon elusennau yn nodi'r gwahanol ofynion i elusennau o wahanol lliw a llun. Er mwyn deall sut y mae'n gymwys i'ch elusen chi, bydd angen i chi ystyried:
Yna dylech sefydlu:
Os oes rhaid i chi anfon Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon eich elusen atom, rhaid i chi wneud hynny cyn pen 10 mis o ddiwedd blwyddyn ariannol eich elusen er y byddem yn eich annog i wneud hynny yn llawer gynt na hyn er mwyn gallu rhoi darlun cyfoes o'ch elusen.
Mae'r wybodaeth sy'n dilyn yn y crynodeb hwn yn rhoi mwy o fanylion am y gwahanol ofynion.
Rhaid i bob elusen baratoi cyfrifon a sicrhau eu bod ar gael ar gais. Mae'r ddyletswydd i ffeilio cyfrifon ac Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr gyda'r Comisiwn Elusennau yn gymwys i bob elusen gofrestredig y mae eu hincwm gros yn fwy na £25,000.
Hefyd, mae'n rhaid i elusennau gydag incwm gros o fwy na £10,000 anfon Ffurflen Flynyddol wedi'i chwblhau atom y mae modd ei chwblhau arlein.
Rhaid i'r dogfennau hyn gael eu hanfon atom cyn pen 10 mis o ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Gellir paratoi cyfrifon elusen naill ai ar ddull derbyniadau a thaliadau neu ddull croniadau. Bydd y dull sydd ei angen yn dibynnu ar incwm yr elusen ac a yw wedi cael ei sefydlu fel cwmni neu beidio:
Rhaid i bob elusen gofrestredig baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr, a rhaid i'r rheiny sydd ag incwm gros o fwy na £25,000 ei ffeilio gyda ni.
Mae cynnwys sylfaenol yr Adroddiad Blynyddol yn orfodol, ond nid yw'n ofynnol i elusennau llai nad oes rhaid iddynt gael archwiliad ariannol statudol ddarparu cymaint o wybodaeth ag elusennau mwy y mae'n ofynnol iddynt gael archwiliad ariannol yn ôl y gyfraith.
Bydd y Comisiwn yn cysylltu â phob elusen gofrestredig, yn fuan ar ôl diwedd eu blwyddyn ariannol, ac mae'n ofynnol iddynt, yn dibynnu ar eu hincwm, i gwblhau naill ai ffurflen Diweddariad Blynyddol neu Ffurflen Flynyddol.
Mae'n ofynnol i elusennau gyda chyfanswm incwm sy'n fwy na £10,000 i gwblhau a chyflwyno eu Ffurflen Flynyddol. Mae copïau papur o'r Ffurflen Flynyddol ar gael ar gais. Mae dyletswydd gyfreithiol ar ymddiriedolwyr i gwblhau a chyflwyno Ffurflen Flynyddol i'r Comisiwn, er mwyn i ni allu sicrhau bod y manylion ar y Gofrestr Elusennau mor gyflawn a chywir â phosibl. Mae'r Ffurflen Flynyddol yn rhoi manylion ariannol sylfaenol i ni, a manylion enwau cyswllt, ymddiriedolwyr, gweithgareddau a dosbarthiad yr elusen.
Ac eithrio elusennau GIG, dim ond elusennau gydag incwm gros o fwy na £25,000 yn eu blwyddyn ariannol sy'n rhaid cael archwiliad annibynnol neu ariannol o'u cyfrifon - yn is na'r trothwy hwnnw, mae angen archwiliad allanol o gyfrifon dim ond os yw hyn yn ofynnol gan ddogfen lywodraethol yr elusen.
Mae'r union fath o archwiliad sydd ei angen yn dibynnu ar incwm ac asedau'r elusen. Yn fras, mae angen archwiliad annibynnol os yw'r incwm gros rhwng £25,000 a £500,000 ac mae angen archwiliad ariannol os yw'r incwm gros yn fwy na £500,000. Hefyd, bydd angen ariannol archwiliad os yw cyfanswm yr asedau (cyn rhwymedigaethau) yn fwy na £3.26miliwn, ac mae incwm gros yr elusen yn fwy na £250,000.
Mae'r canllaw hwn wedi'i anelu'n bennaf at ymddiriedolwyr elusen ac mae'n disgrifio'r hyn y mae'n ofynnol i elusennau ei wneud o ran paratoi Adroddiadau Blynyddol, cyfrifon a Ffurflenni Blynyddol. Mae hefyd yn cyfeirio ymddiriedolwyr at wybodaeth ddefnyddiol arall. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Elusennau 2006 a newidiadau, ar gyfer cwmnïau elusennol, a ddaeth i rym gan Ddeddf Cwmnïau 2006 ac yn weithredol ar gyfer y blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008. Mae'r fersiwn hwn o'r canllaw wedi cael ei ddiweddaru ar gyfer y newidiadau i'r trothwyon a weithredwyd gan Reoliadau 2009. Nid yw darpariaethau Deddf Elusennau 2006 sy'n galluogi elusennau i gorffori fel Sefydliadau Corfforedig Elusennol wedi dod i rym. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd y trothwyon sy'n gymwys i elusennau heb fod yn gwmnïau yn gymwys i'r Sefydliad Corfforedig Elusennol a hefyd y fframwaith cyfrifon ac adroddiadau a ddarparwyd gan Ddeddf Elusennau 1993.
Yn y canllaw hwn, pan ddefnyddiwn y gair 'rhaid', golygwn fod y Comisiwn yn deall fod gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio'r symbol
wrth ochr yr ateb byr yn yr adran honno.
Defnyddiwn 'dylai' ar gyfer eitemau sy'n cael eu hystyried yn arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
Mae'r canllaw hwn yn diweddaru'r canllaw blaenorol Adroddiadau a Chyfrifon Elusennau: Yr hanfodion (CC15a), a ddiweddarwyd diwethaf yn Ebrill 2008.
Mae'r canllaw hwn yn gymwys i elusennau sy'n gwmnïau a heb fod yn gwmnïau ar gyfer y blynyddoedd ariannol yn diweddu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009. Mae'r fersiwn hwn yn dilyn y fersiwn a gyhoeddwyd yn Ebrill 2008 sy'n gymwys i'r blynyddoedd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008.
Yn dilyn ymrwymiad i'r Senedd pan basiwyd Deddf Elusennau 2006, bydd y trothwyon ariannol yn cael eu hadolygu yn 2011. Argymhellir bod darllenwyr y canllaw hwn yn cyfeirio at wefan y Comisiwn Elusennau i gadarnhau y trothwyon sy'n gymwys os ydynt yn defnyddio'r canllaw hwn ar gyfer blynyddoedd ariannol sy'n diweddu yn neu ar ôl 2011.
Ym mhob adran o'r canllaw hwn, gofynnwn gyfres o gwestiynau perthnasol y gall ymddiriedolwyr neu eu cynghorwyr eu gofyn am y gofynion ar gyfer cyfrifon ac adroddiadau. Yn gyffredinol rhown ateb cryno ('Yr ateb byr') ac yna mwy o gefndir ('Yn fwy manwl').
Byddem yn awgrymu eich bod yn darllen adran Ch i gael gwybod pa ofynion cyffredinol sy'n gymwys i bob elusen; bydd adran D yn dweud wrthych pa ofynion eraill sy'n gymwys i'ch elusen.
Mae'r termau canlynol yn cael eu defnyddio trwy'r ddogfen hon, a dylid cymryd bod ganddynt yr ystyron penodol fel y nodir isod.
Adroddiad Blynyddol: Mae'n adolygiad cryno ond cynhwysfawr o weithgareddau'r elusen wedi'i baratoi gan yr ymddiriedolwyr ar gyfer pob blwyddyn gyfrifyddu. Mae Rheoliadau 2008 yn pennu'r gofynion cyfreithiol sylfaenol a rhoddir mwy o arweiniad yn y SORP. Mae gofynion Rheoliadau 2008 gan gynnwys addasiadau ar gyfer elusennau nad yw'n ofynnol iddynt gael archwiliad ariannol statudol, wedi'u nodi yn adran F.
Archwiliad annibynnol: Mae'n fath o archwiliad llai beichus nag archwiliad ariannol. Mae archwilwyr yn nodi a yw materion penodol sy'n cael eu nodi yn Rheoliadau 2008 wedi dod at eu sylw. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i ymddiriedolwyr ar ddewis archwilwyr a chyfarwyddiadau i archwilwyr ar gynnal archwiliad (Archwiliad Annibynnol o Gyfrifon Elusennau: Canllaw Ymddiriedolwyr - CC31). Pan na fydd yn ofynnol i elusen gael archwiliad ariannol ond mae'r incwm gros yn fwy na £250,000, rhaid i archwiliwr annibynnol fod yn gymwys drwy fod yn aelod o sefydliad proffesiynol cymeradwy a bennwyd o dan Ddeddf 1993.
Archwiliad Ariannol: Mae archwiliad ariannol sy'n ofynnol gan Ran 6 Deddf 1993, fel y'i diwygiwyd gan Ran 2 Deddf 2006, yn golygu bod archwiliwr ariannol cofrestredig yn archwilio'r cyfrifon, ac fel gweithiwr archwilio proffesiynol bydd yn cymhwyso'r safonau archwilio ariannol a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Arferion Archwilio. Archwiliwr cofrestredig yw un sydd wedi'i gofrestru gyda chorff arolygu cymeradwy yn unol â Deddf Cwmnïau 2006. Mewn rhai elusennau, ee y rhai sy'n gysylltiedig â'r GIG neu awdurdodau lleol, gall trefniadau archwilio eraill fod yn bosibl.
Archwiliad statudol: Mae'n golygu archwiliad sy'n ofynnol gan Ddeddf Seneddol ('statud') yn wahanol i un sy'n ofynnol gan ddogfen lywodraethol yr elusen neu noddwr. Mae'r canllaw hwn yn disgrifio pryd fydd archwiliad statudol yn ofynnol o dan Ddeddf 1993.
Asedau gros (Cyfanswm): Cyfanswm asedau'r elusen, cyn didynnu rhwymedigaethau, fel ar ddyddiad y fantolen, hy ar ddiwedd diwrnod olaf blwyddyn ariannol yr elusen.
Cofnodion cyfrifyddu: Cofnodion o drafodion ariannol yr ymddiriedolwyr y mae'r elusen wedi ymgymryd â nhw ac a ddefnyddir i baratoi cyfriflenni blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Mae'r term yn cwmpasu unrhyw lyfrau (gan gynnwys cofnodion cyfrifiadurol) lle y nodir trafodion a digwyddiadau beunyddiol, ynghyd â'r holl anfonebau perthnasol, derbyniadau, talebau a dogfennau cysylltiedig eraill. Rhaid i bob elusen gadw cofnodion cyfrifyddu fel sy'n ofynnol gan Ran 6 Deddf Elusennau 1993 neu, i elusennau a gofrestrwyd o dan y Deddfau Cwmnïau, adran 386 y Ddeddf Cwmnïau 2006.
Cwmni elusennol: Mae'n golygu cwmni:
Cyfrifon grŵp: Cyfrifon grŵp yw'r cyfrifon a baratowyd gan y 'rhiant' elusen hysbysu sy'n rheoli neu'n tra-awdurdodi dros un neu fwy o is-gwmnïau elusennol neu anelusennol. Mae cyfrifon grŵp yn cael eu paratoi yn unol â gofynion cyfreithiol a safonau cyfrifyddu'r DU ac yn cyflwyno canlyniadau'r grŵp cyfan ar ddull cyfunol gyda'r Adroddiad Blynyddol a chyfrifon a gyflwynwyd gan y 'rhiant' elusen gan gynnwys canlyniadau ariannol y grŵp cyfan.
Deddf 1993: Deddf Elusennau 1993 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006).
Deddf 2006: Deddf Elusennau 2006.
Elusennau heb fod yn gwmnïau: Elusennau yw'r rhain nad ydynt yn gwmnïau elusennol. Mae enghreifftiau yn cynnwys ymddiriedolaethau, cymdeithasau anghorfforedig, a hefyd corfforaethau corfforedig sydd wedi cael eu corffori trwy ddulliau heblaw o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (ee, trwy Siarter Frenhinol).
Elusennau wedi'u heithrio: Elusennau yw'r rhain nad oes rhaid iddynt gofrestru gyda ni, ond sydd wedi'u cynnwys o fewn ein hawdurdodaeth yn llawn ym mhob ffordd arall. Y trothwy cofrestru arferol yw incwm gros o £5,000 y flwyddyn oni bai fod yr elusen wedi'i heithrio fel arall gan Orchymyn neu Reoliad neu os yw'n lle addoli cofrestredig.
Elusennau wedi'u hesgusodi: Elusennau yw'r rhain y mae Deddf 1993, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2006, yn eu hesgusodi o nifer o'i darpariaethau, gan gynnwys cofrestru gyda'r Comisiwn. Yn aml bydd elusen sydd wedi'i hesgusodi yn dilyn gofynion cyfrifyddu ac adrodd penodol wedi'u cyfeirio gan, neu o dan, ryw ddarpariaeth statudol sy'n ymwneud yn benodol â'r elusen.
Ffurflen Diweddariad Blynyddol: Ffurflen yw hon sy'n cynnig modd i ni gasglu gwybodaeth ffeithiol am elusennau, yn enwedig y rhai nad yw'n ofynnol iddynt gwblhau Ffurflen Flynyddol, er mwyn ein galluogi i gadw'r Gofrestr Elusennau yn gyfoes, ac mae'n ffordd gyfleus i ymddiriedolwyr ddiwallu eu rhwymedigaeth i roi gwybod i'r Comisiwn am newidiadau i'w manylion ar y Gofrestr.
Ffurflen Flynyddol: Rhaid i ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig gydag incwm gros am y flwyddyn o fwy na £10,000 gwblhau'r ffurflen a'i chyflwyno i'r Comisiwn. Mae'n helpu'r Comisiwn i fonitro elusennau unigol ac yn darparu gwybodaeth am y sector cyfan. Gofynnir i elusennau cofrestredig sy'n is na'r trothwy hwn gwblhau Diweddariad Blynyddol.
Gorchymyn 2009: Gorchymyn (Dirprwyo Symiau) 2009 Deddfau Elusennau 1992 a 1993 (SI 2009 Rhif 508)
Gwaddol parhaol: Eiddo'r elusen na all yr ymddiriedolwyr ei ddefnyddio fel pe bai'n incwm. Weithiau fe'i defnyddir i hybu dibenion yr elusen, weithiau i gynhyrchu incwm i'r elusen. Fel rheol ni all yr ymddiriedolwyr ddefnyddio gwaddol parhaol heb ein hawdurdod. Gall telerau'r gwaddol ganiatáu i asedau gael eu gwerthu a'u hail-fuddsoddi, neu gall ddarparu bod rhai neu'r holl asedau yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol (ee adeilad arbennig).
Incwm gros: Mae adran 97 Deddf Elusennau 1993 yn diffinio incwm gros fel yr incwm gros a gofnodwyd o bob ffynhonnell gan gynnwys ymddiriedolaethau arbennig. Ar gyfer cyfrifon a baratowyd ar ddull derbyniadau a thaliadau, yr incwm gros yw'r cyfanswm derbyniadau a gofnodwyd yn y datganiad o bob ffynhonnell ac eithrio derbyn unrhyw waddol. Ar gyfer cyfrifon a baratowyd ar ddull croniadau, yr incwm gros yw cyfanswm yr adnoddau a dderbynnir fel y dangosir yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol (a baratowyd yn unol â'r SORP) ar gyfer pob cronfa, ac eithrio derbyn unrhyw waddol a chan gynnwys unrhyw swm a drosglwyddwyd i gronfeydd incwm yn ystod y flwyddyn o gronfeydd gwaddol er mwyn bod ar gael i'w defnyddio. Am wybodaeth bellach, cyfeiriwch at y rhestr termau a gwybodaeth ategol ar gyfer Ffurflen Flynyddol eich elusen.
Is-gwmnïau: Mae is-gwmni yn gwmni anelusennol neu elusennol a reolir gan y 'rhiant' elusen hysbysu neu sy'n amodol ar ddylanwad y 'rhiant' elusen hysbysu.
Rheoliadau 2008: Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008.
SORP: Mae'r Datganiad o Arferion Cymeradwy (SORP) - Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2005, yn amlinellu'r arferion cymeradwy at ddiben paratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a pharatoi'r cyfrifon ar ddull croniadau. Mae argymhellion cyfrifyddu'r SORP yn ategu safonau cyfrifyddu. Mae Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddilyn egwyddorion y SORP pan fydd cyfrifon yn cael eu paratoi o dan Ddeddf 1993. Fodd bynnag, dylai elusennau lle mae SORP mwy penodol yn gymwys, er enghraifft Cronfeydd Buddsoddi Cyffredin, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig neu sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch, ddilyn SORP mwy penodol yn lle hynny. Nid yw argymhellion cyfrifyddu'r SORP yn gymwys i elusennau sy'n paratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau.
Rhaid i bob elusen gadw cofnodion cyfrifyddu a pharatoi cyfrifon. Rhaid i'r rhan fwyaf o elusennau baratoi Adroddiad Blynyddol hefyd i gyd-fynd â'u cyfrifon. Mae'r adran hon yn esbonio'r gofynion amrywiol i elusennau sydd wedi'u cynnwys o fewn bandiau incwm a gwariant gwahanol. Os oes rhaid cyflwyno'r dogfennau hyn i ni, rhaid gwneud hyn cyn pen 10 mis o ddiwedd y flwyddyn ariannol y cyfeiriant ati, er y byddem yn annog elusennau i ffeilio ymhell cyn y dyddiad cau.

Yr ateb byr
Er bod rhai gofynion sylfaenol yn gymwys i bob elusen, bydd yr hyn sydd ei angen yn dibynnu ar sawl ffactor megis incwm, asedau gros neu gyfansoddiad yr elusen.
Yn fwy manwl
Mae rhai gofynion sylfaenol yn berthnasol i bob elusen. Fe welwch y rhain yn adran Ch2. Hefyd mae gofynion ychwanegol yn dibynnu ar incwm yr elusen - yn fras, po fwyaf yr elusen, mwyaf y gofynion.
Yn ogystal, mae gofynion arbennig ar gyfer mathau arbennig o elusen, yn enwedig:
Os nad ydych yn siŵr pa un o'r uchod sy'n gymwys i'ch elusen chi, neu os yw'n achos arbennig sydd heb ei drafod yn y canllaw hwn, ffoniwch ni am gyngor pellach ar 0845 300 0218.

Yr ateb byr
Rhaid i bob elusen gadw cofnodion cyfrifyddu, a pharatoi cyfrifon blynyddol sy'n rhaid bod ar gael i'r cyhoedd eu gweld ar gais.
Yn fwy manwl
Rhaid i bob elusen:
Rhaid i bob elusen oni bai ei bod wedi'i heithrio neu ei hesgusodi rhag cofrestru:
Bydd y Comisiwn yn cysylltu â phob elusen gofrestredig, yn fuan ar ôl diwedd eu blwyddyn ariannol, ac mae'n ofynnol iddynt, yn dibynnu ar eu hincwm, i gwblhau naill ai ffurflen Diweddariad Blynyddol neu Ffurflen Flynyddol. Gall elusennau gwblhau'r rhain ar-lein neu ofyn am gopi papur i'w gwblhau a'i gyflwyno. Mae dyletswydd gyfreithiol gan elusennau gydag incwm gros o fwy na £10,000 i gwblhau a dychwelyd y Ffurflen Flynyddol i'r Comisiwn.
Yr ateb byr
Mae dau ddull ar gyfer paratoi cyfrifon elusennau: derbyniadau a thaliadau, a chroniadau.
Yn fwy manwl
Rhaid paratoi cyfrifon elusen naill ai ar ddull derbyniadau a thaliadau neu groniadau. Bydd y dull sydd ei angen yn dibynnu ar incwm yr elusen ac a yw'r elusen yn gwmni neu beidio.
I elusennau sydd heb fod yn gwmnïau, mae'r Comisiwn yn darparu pecynnau ar gyfer cyfrifon derbyniadau a thaliadau neu gyfrifon croniadau sydd ar gael trwy ein gwefan neu ar ffurf copi caled (codau archebu CC16 a CC17). Mae'r rhain yn darparu templed, i elusennau bach sydd heb fod yn gwmnïau, i gynhyrchu cyfrifon yn y ffurf ofynnol a bodloni gofynion y gyfraith ac argymhellion y SORP.

Yr ateb byr
Mae peth o gynnwys sylfaenol yr Adroddiad Blynyddol yn orfodol. Fel arall, bydd yr hyn sy'n ofynnol yn dibynnu ar faint yr elusen. Nodir y gofynion cyfreithiol yn adran F. Ond er mwyn hybu tryloywder ac atebolrwydd, anogir ymddiriedolwyr i fabwysiadu ysbryd datgeliad llawn.
Yn fwy manwl
Mae cynnwys sylfaenol yr Adroddiad Blynyddol yn orfodol. Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol i elusennau llai nad oes rhaid iddynt gael archwiliad ariannol statudol, ddarparu cymaint o wybodaeth ag elusennau mwy y mae'n ofynnol iddynt gael archwiliad ariannol yn ôl y gyfraith. Nodir y gofynion cyfreithiol yn adran F. Rhennir yr adran honno rhwng materion y mae'n rhaid i bob elusen adrodd amdanynt, materion y mae'n rhaid i elusennau llai adrodd amdanynt, a materion y mae elusennau mwy yn adrodd amdanynt. Hefyd, mae'r SORP yn darparu argymhellion arferion gorau ar gyfer yr adroddiad blynyddol sy'n cyfateb â'r fframwaith cyfreithiol.
Mae'r Adroddiad Blynyddol yn garreg filltir bwysig ym mywyd elusen, yn gyfle i asesu sut flwyddyn oedd hi o'i chymharu â chynlluniau a dyheadau'r ymddiriedolwyr, amser i ddathlu llwyddiannau a chyraeddiadau, a myfyrio ar yr anawsterau a'r sialensiau. Mae'r Adroddiad Blynyddol hefyd yn gyfle i dynnu sylw at brif weithgareddau neu weithgareddau arwyddocaol a wnaed er mwyn cyflawni dibenion yr elusen er budd cyhoeddus. Nid ymddiriedolwyr ac aelodau, noddwyr, rhoddwyr a buddiolwyr yw unig gynulleidfa'r adroddiad, ond hefyd y cyhoedd sydd â diddordeb yng ngwaith elusennau a'r hyn a gyflawnant.
Nid oes rhaid i'r Adroddiad Blynyddol fod yn hir. Mae Adroddiad Blynyddol da yn esbonio nodau'r elusen a sut y mae'n bwriadu eu cyflawni. Mae'n bodloni'r holl ofynion cyfreithiol ac yn rhoi darlun cytbwys o strwythur, nodau, amcanion, gweithgareddau a pherfformiad yr elusen. Yn fwy pwysig, mae'n dod â'r elusen yn fyw ac i'r elusennau hynny sy'n dibynnu ar incwm gwirfoddol fel eu prif ffynhonnell cyllid mae'n rhoi cyfle i roddwyr ddeall sut y cafodd eu harian ei wario a'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud.
Mae gofynion cyfreithiol gwahanol yn gymwys yn dibynnu a yw'r elusen yn gwmni neu beidio, ac i ba gategori incwm y mae wedi'i ddosbarthu. Mae'r adran hon yn esbonio'r gwahaniaeth yn yr hyn y mae'n rhaid ei gyflwyno ar gyfer elusennau sy'n gwmnïau a heb fod yn gwmnïau, a pha fath, os oes, o archwilio allanol sydd ei angen ar gyfrifon yr elusen.

(a) Elusennau gydag incwm gros nad yw'n fwy na £25,000 yn y flwyddyn ariannol berthnasol
Sail paratoi: Rhaid paratoi cyfrifon naill ai ar ddull derbyniadau a thaliadau neu groniadau. Ar ddull croniadau, rhaid paratoi cyfrifon yn unol â Rheoliadau 2008 a'r SORP. Mae'r Comisiwn yn darparu pecynnau ar gyfer cyfrifon derbyniadau a thaliadau neu gyfrifon croniadau sydd ar gael trwy'r wefan neu ar ffurf copi caled. Mae'r rhain yn darparu templed i gynhyrchu cyfrifon yn y ffurf ofynnol.
Archwilio allanol: Nid oes unrhyw ofyniad i gael archwiliad annibynnol neu archwiliad ariannol ar gyfer y cyfrifon, oni bai fod dogfen lywodraethol yr elusen yn nodi hyn, ond mae pŵer gennym i ofyn am archwiliad ariannol mewn amgylchiadau eithriadol.
Math o Adroddiad Blynyddol: Rhaid paratoi Adroddiad Blynyddol (oni bai bod yr elusen wedi'i heithrio rhag cofrestru) ond gellir ei symleiddio (gweler adran F).
Gwybodaeth i'w hanfon i'r Comisiwn: Nid oes rhaid i elusennau gydag incwm o £10,000 neu lai yn eu blwyddyn ariannol anfon eu cyfrifon ac adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr ir Comisiwn ond er mwyn cadw cofnod yr elusen ar ein Cofrestr yn gyfoes gofynnir iddynt gwblhau ffurflen Diweddariad Blynyddol. Mae’r ffurflen Diweddariad Blynddol hon yn cynnwys manylion ymddiriedolwyr. Rhaid i elussenau gydag incwm o £10,000 neu fwy gwblhau Ffurflen Flynyddol. Bydd y cyswlt a enwir ar ein cofnodion yn derbyn hysbysiad Ffurflen Flynyddol s’yn gofyn i’r elusen gyflwyno’r Ffurflen ar-lein. Mae ffurflen bapur ar gael ar gais. Fodd bynnag, ni ddylai elussenau gydag incwm o £25,000 neu lai anfon copi o'u Hadroddiad Blynyddol a chyfrifon atom oni bai ein bod yn gofyn amdanynt.
(b) Elusennau gydag incwm gros o fwy na £25,000 ond heb fod yn fwy na £250,000 yn y flwyddyn ariannol berthnasol
Sail paratoi: Rhaid paratoi cyfrifon naill ai ar ddull derbyniadau a thaliadau neu groniadau; os dewisir y dull croniadau, rhaid iddynt gael eu paratoi yn unol â Rheoliadau 2008 a'r SORP. Mae'r Comisiwn yn darparu pecynnau ar gyfer cyfrifon derbyniadau a thaliadau neu gyfrifon croniadau sydd ar gael trwy'r wefan neu ar ffurf copi caled. Mae'r rhain yn darparu templed i gynhyrchu cyfrifon yn y ffurf ofynnol.
Archwilio allanol: Rhaid i'r cyfrifon gael eu harchwilio'n allanol ond gall ymddiriedolwyr ddewis naill ai archwiliad annibynnol neu archwiliad ariannol gan archwiliwr cofrestredig, oni bai fod dogfen lywodraethol yr elusen yn nodi'r naill neu'r llall. Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'r pŵer gennym fynnu bod archwiliad ariannol yn cael ei gynnal.
Math o Adroddiad Blynyddol: Rhaid paratoi Adroddiad Blynyddol ond gellir ei symleiddio (gweler adran F).
Gwybodaeth i'w hanfon i'r Comisiwn: Rhaid i elusennau gydag incwm o fwy na £25,000, ond heb fod yn fwy na £250,000 gwblhau Ffurflen Flynyddol. Bydd y cyswllt elusen a enwir ar ein cofnodion yn derbyn hysbysiad Ffurflen Flynyddol a fydd yn gofyn iddo gyflwyno'r Ffurflen Flynyddol ar-lein. Mae ffurflen bapur ar gael ar gais. Rhaid anfon Adroddiad Blynyddol a chyfrifon yr elusen atom hefyd, cyn pen 10 mis o ddiwedd blwyddyn ariannol yr elusen.
(c) Elusennau gydag incwm gros o fwy na £250,000 ond heb fod yn fwy na £500,000 yn y flwyddyn ariannol berthnasol, a chyfanswm asedau heb fod yn fwy na £3.26 miliwn
Sail paratoi: Rhaid i gyfrifon gael eu paratoi ar ddull croniadau yn unol â Rheoliadau 2008 a'r SORP (mae'r Comisiwn yn darparu pecyn ar gyfer cyfrifon croniadau sydd ar gael trwy'r wefan neu ar ffurf copi caled). Mae'r rhain yn darparu templed i gynhyrchu cyfrifon yn y ffurf ofynnol.
Archwilio allanol: Rhaid i'r cyfrifon gael eu harchwilio'n allanol ond gall ymddiriedolwyr ddewis naill ai archwiliad annibynnol neu archwiliad ariannol gan archwiliwr cofrestredig, oni bai fod dogfen lywodraethol yr elusen yn nodi'r naill neu'r llall. Os yw archwiliad annibynnol yn cael ei ddewis ac mae'r incwm gros yn fwy na £250,000 rhaid i'r archwiliwr annibynnol a benodir fod yn aelod o gorff a bennwyd o dan Ddeddf 1993. Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'r pŵer gennym fynnu bod archwiliad ariannol yn cael ei gynnal.
Math o Adroddiad Blynyddol: Rhaid paratoi Adroddiad Blynyddol ond gellir ei symleiddio (gweler adran F).
Gwybodaeth i'w hanfon i'r Comisiwn: Rhaid i elusennau gydag incwm o fwy na £250,000, ond heb fod yn fwy na £500,000 gwblhau Ffurflen Flynyddol. Bydd y cyswllt elusen a enwir ar ein cofnodion yn derbyn hysbysiad Ffurflen Flynyddol a fydd yn gofyn am gyflwyno'r Ffurflen Flynyddol ar-lein. Mae ffurflen bapur ar gael ar gais. Rhaid anfon Adroddiad Blynyddol a chyfrifon yr elusen atom hefyd, cyn pen 10 mis o ddiwedd blwyddyn ariannol yr elusen.
(ch) Elusennau gydag incwm gros o fwy na £500,000 yn y flwyddyn ariannol berthnasol, neu mae eu hasedau gros yn fwy na £3.26 miliwn ac mae eu hincwm gros yn fwy na £250,000
Sail paratoi: Rhaid paratoi cyfrifon ar ddull croniadau a'u paratoi yn unol â Rheoliadau 2008 a'r SORP.
Archwilio allanol: Mae archwiliad statudol yn ofynnol a rhaid i'r cyfrifon gael eu harchwilio gan archwiliwr cofrestredig.
Math o Adroddiad Blynyddol: Rhaid paratoi Adroddiad Blynyddol llawn (gweler adran F).
Gwybodaeth i'w hanfon i'r Comisiwn: Rhaid i elusennau gydag incwm o fwy na £500,000, ond heb fod yn fwy na £1m gwblhau Ffurflen Flynyddol. Rhaid i elusennau gydag incwm gros o fwy na £1m gwblhau'r Ffurflen Gwybodaeth Gryno hefyd sy'n ffurfio rhan o'r Ffurflen Flynyddol. Bydd y cyswllt elusen a enwir ar ein cofnodion yn derbyn hysbysiad Ffurflen Flynyddol a fydd yn gofyn am gyflwyno'r Ffurflen Flynyddol ar-lein. Rhaid anfon Adroddiad Blynyddol a chyfrifon atom hefyd, cyn pen 10 mis o ddiwedd blwyddyn ariannol yr elusen.
(d) Rhaid i elusennau sydd â naill ai is-gwmnïau elusennol neu anelusennol baratoi cyfrifon grŵp os yw incwm y grŵp, ar ôl dileu'r trafodion o fewn y grŵp ac addasiadau cyfuno, yn fwy na £500,000.
Sail paratoi: rhaid paratoi cyfrifon ar ddull croniadau a'u paratoi yn unol â Rheoliadau 2008 a'r SORP.
Archwilio allanol: Mae archwiliad statudol yn ofynnol gan archwiliwr cofrestredig.
Math o Adroddiad Blynyddol: Rhaid paratoi Adroddiad Blynyddol llawn (gweler adran F ynghyd â'r datgeliadau ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer gweithgareddau is-gwmnïau fel sy'n ofynnol gan y SORP.
Gwybodaeth i'w hanfon i'r Comisiwn: Nid yw grwpiau elusen gydag incwm net o fwy na £500,000 yn cwblhau Ffurflen Flynyddol ar wahân oherwydd rhaid i'r rhiant elusen ei chwblhau. Mae'r Ffurflen Gwybodaeth Gryno, sy'n ffurfio rhan o' Ffurflen Flynyddol, yn cael ei chwblhau ar sail grŵp gan y rhiant elusen. Rhaid anfon Adroddiad Blynyddol a chyfrifon atom hefyd, cyn pen 10 mis o ddiwedd blwyddyn ariannol yr elusen.

Yr ateb byr
Mae cwmnïau elusennau yn paratoi cyfrifon o dan y gyfraith cwmnïau, ac mae argymhellion y SORP yn gymwys i gwmnïau elusennol.
Yn fwy manwl
Mae argymhellion y SORP yn gymwys i gwmnïau elusennol yn ogystal ag elusennau sydd heb fod yn gwmnïau.
Yn weithredol ar gyfer blynyddoedd cyfrifyddu yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, mae'r gofynion archwilio penodol ar gyfer cwmnïau elusennol sydd i'w gweld yn y Ddeddf Cwmnïau wedi cael eu dileu. Bydd yn ofynnol i gwmni elusennol gael archwiliad o dan y Ddeddf Cwmnïau dim ond os yw'n rhagori ar drothwy archwilio'r Ddeddf Cwmnïau. Ar gyfer cwmnïau elusennol bach a grwpiau cwmni elusennol bach, nad yw'n ofynnol iddynt gael archwiliad ariannol o dan y Ddeddf Cwmnïau, mae trefniadau archwilio'r Ddeddf Elusennau yn gymwys erbyn hyn ac mae'n ofynnol i gwmnïau elusennol gael eu cyfrifon wedi'u harchwilio'n gan archwiliwr cofrestredig os yw un o'r amodau canlynol wedi'u bodloni ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu yn diweddu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009:
Os nad yw archwiliad yn ofynnol o dan y Ddeddf Cwmnïau rhaid i'r cyfarwyddwyr ddarparu datganiad penodol sy'n datgan bod y cwmni wedi'i esgusodi o'r gofynion ar gyfer archwiliad Deddf Cwmnïau. Mae Tŷ'r Cwmnïau yn cynnig arweiniad ar y fformat y dylai'r datganiad ei ddilyn.
Oni bai fod yr Erthyglau Cymdeithasu yn ei gwneud hi'n ofynnol yn benodol i gael archwiliad, gall cwmnïau elusennol gael archwiliad annibynnol yn lle archwiliad ariannol ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n diweddu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009 yn yr achosion canlynol:
Os yw'r incwm yn fwy na £10,000 rhaid cwblhau Ffurflen Flynyddol ac os yw'r incwm yn fwy na £1m rhaid cwblhau Ffurflen Gwybodaeth Gryno hefyd.
Roedd Deddf Cwmnïau 2006 wedi cyflwyno darpariaethau sy'n cysoni'r drefn cyfrifyddu ac archwilio annibynnol ar gyfer elusennau sy'n gwmnïau a heb fod yn gwmnïau. Yn arbennig, mae cwmnïau elusennol bach a grwpiau, fel y'u diffinnir gan Ddeddf Cwmnïau 2006, yn amodol ar ddarpariaethau archwilio allanol Deddf 1993 ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008.
Rhaid i gwmnïau elusennol sydd â naill ai is-gwmnïau elusennol neu anelusennol baratoi cyfrifon grŵp o dan Ddeddf 1993 os nad yw cyfanswm incwm y grŵp, ar ôl dileu'r holl drafodion grŵp o'r incwm am y flwyddyn, yn fwy na £500,000 a bydd y cyfrifon grŵp hynny yn destun archwiliad o dan y gyfraith elusennau. Os yw incwm grŵp yn fwy na'r trothwyon cwmni bach, rhaid paratoi cyfrifon grŵp a'u harchwilio o dan y gyfraith cwmnïau.
Oni bai fod y cwmni elusennol neu grŵp elusennol yn amodol ar y drefn cwmnïau bach, rhaid i'r elusen baratoi adolygiad busnes hefyd fel sy'n ofynnol gan y gyfraith cwmnïau fel rhan o adroddiad y cyfarwyddwyr.

Yr ateb byr
Rhaid i elusennau sydd wedi'u heithrio gadw cofnodion cyfrifyddu, paratoi cyfrifon blynyddol a gwneud copïau o'r cyfrifon hynny sydd ar gael i'r cyhoedd eu gweld ar gais.
Yn fwy manwl
Os yw'r ymddiriedolwyr wedi cofrestru'r elusen yn wirfoddol, bydd rhaid iddynt fodloni'r un gofynion cyfrifyddu ac adrodd ag unrhyw elusen gofrestredig arall.
Os nad ydynt yn cofrestru rhaid iddynt gynhyrchu cyfrifon blynyddol yn yr un ffordd ag elusen gofrestredig o'r un incwm neu fath (os yw'n gwmni neu heb fod yn gwmni). Rhaid i elusennau sydd wedi'u heithrio ddarparu copïau o'u cyfrifon i aelodau'r cyhoedd ar gais, ond ni ddylent eu hanfon atom oni bai ein bod yn gofyn amdanynt.
Nid yw'n ofynnol i elusennau sydd wedi'u heithrio, oni bai eu bod yn dewis cofrestru, baratoi Adroddiad Blynyddol yn ôl y gyfraith ond mae'n arfer da i wneud hynny ac mae hawl gan y Comisiwn i ofyn i'r ymddiriedolwyr baratoi a chyflwyno adroddiad mewn amgylchiadau eithriadol. Rhaid darparu cyfrifon i aelodau'r cyhoedd ar gais, ond ni ddylid eu hanfon atom oni bai ein bod yn gofyn amdanynt.
Dim ond elusennau sydd wedi'u heithrio gydag incwm o fwy na £25,000 sy'n rhaid cael archwiliad annibynnol neu archwiliad ariannol - yn is na'r trothwy hwnnw, mae angen archwilio'r cyfrifon yn allanol dim ond os yw dogfen lywodraethol yr elusen yn gofyn am hyn.
Yn yr un modd ag elusennau eraill, mae'r union fath o archwiliad allanol sydd ei angen yn dibynnu ar incwm ac asedau'r elusen ac a yw'r elusen yn gwmni neu beidio. Yn fras, mae angen archwiliad annibynnol os yw'r incwm rhwng £25,000 a £500,000 ac mae angen archwiliad ariannol os yw'r incwm yn fwy na £500,000. Bydd archwiliad ariannol hefyd yn ofynnol os yw cyfanswm asedau (cyn rhwymedigaethau) yn fwy na £3.26 miliwn, ac mae incwm yr elusen yn fwy na £250,000.

Rhaid i elusennau sydd wedi'u hesgusodi gadw cofnodion cyfrifyddu priodol a pharatoi cyfrifon. Os yw'n ofynnol iddynt baratoi cyfrifon sy'n rhoi darlun gwir a theg, dylent ddilyn y SORP wrth baratoi eu cyfrifon, oni bai fod SORP mwy arbenigol yn gymwys.
Nid yw'n ofynnol i elusennau sydd wedi'u hesgusodi baratoi Adroddiad Blynyddol yn ôl y gyfraith ond mae'n arfer da i wneud hynny. Hefyd rhaid iddynt ddarparu copïau o'u cyfrifon i aelodau'r cyhoedd ar gais.
Mae'r gofynion cyfreithiol sy'n gymwys i archwilio elusennau sydd wedi'u hesgusodi yn dibynnu ar gyfansoddiad yr elusen ac o dan pa drefn reoleiddio y mae'n gweithredu.
Mae trothwyon statudol sy'n pennu pa fath o archwilio allanol sydd ei angen ar gyfer cyfrifon elusen. Fodd bynnag, mae unrhyw ddarpariaeth benodol yn nogfen lywodraethol yr elusen yn drech na'r darpariaethau statudol, os yw'n gofyn am safon uwch o archwilio. Mae'r adran hon yn esbonio'r gofynion amrywiol.

Yr ateb byr
Yn ogystal â'r trothwyon statudol, gall dogfen lywodraethol unrhyw elusen gynnwys darpariaethau penodol ynglŷn ag archwilio allanol cyfrifon elusennau. Mewn achosion o'r fath rhaid i'r elusen ddilyn y safon uwch o archwilio sy'n ofynnol naill ai gan y fframwaith statudol neu'r ddogfen lywodraethol.
Yn fwy manwl
Mewn dogfennau llywodraethol, mae'n bosibl y bwriedir i'r gair 'archwiliad ariannol' gwmpasu amrywiaeth o wahanol fathau o archwilio allanol o archwiliad ariannol llawn gan archwiliwr cofrestredig i wiriad annibynnol gan rywun sydd heb fod yn gyfrifydd.
Bydd rhaid i ymddiriedolwyr ddehongli union eiriad eu dogfen lywodraethol. Er enghraifft, fel rheol ni fyddai 'archwiliad ariannol gan reolwr banc' yn golygu archwiliad statudol llawn. Ar y llaw arall, mae 'archwiliad ariannol gan gyfrifydd cymwys' yn awgrymu bod angen cael archwiliad ariannol statudol gan archwiliwr cofrestredig, hyd yn oed os yw'r elusen yn fach ac nid yw'n ofynnol iddi gael archwiliad ariannol yn ôl deddfwriaeth.
Gall ymddiriedolwyr cwmnïau elusennol addasu eu Herthyglau Cymdeithasu i newid unrhyw ddarpariaethau penodol a allai fod yn drech na'r darpariaethau statudol. Mae adran 74(D) Deddf 1993 yn rhoi pŵer i ymddiriedolwyr elusennau sydd heb fod yn gwmnïau i wneud newidiadau tebyg. Dylid rhoi gwybod i'r Comisiwn am newidiadau o'r fath.
Argymhellwn fod ymddiriedolwyr yn cadw cofnod o sut y maent yn dehongli dogfen lywodraethol yr elusen ac, os ydynt yn ansicr, dylent gysylltu â'r Comisiwn ynglŷn â'u dehongliad.
Disgwylir i'r canllaw canlynol gan y Comisiwn Elusennau sy'n ymwneud â'r drefn gyfrifyddu ddiwygiedig fod ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd pob un ar gael am ddim ar ein gwefan neu drwy ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218.
Hefyd mae cyfrifon enghreifftiol yn yr adran 'Ateb ein Gofynion' ar ein gwefan.
Mae copïau o ddogfennau SORP (Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: Datganiad o Arferion Cymeradwy - SORP 2005) ar gael i'w llwytho i lawr o'n gwefan neu gellir prynu copïau, pris £15 y copi, gan y cyhoeddwr drwy gysylltu â CCH gwasanaethau cwsmeriaid ar 0870 777 2906.
Ffynhonnell gwybodaeth ddefnyddiol arall i'r rhai sy'n ymwneud â pharatoi gwybodaeth ariannol yw gwobrau cyfrifon ar-lein Charities Aid Foundation yn www.cafonline.org. Mae'r gwobrau hyn yn cael eu rhoi i elusennau sy'n cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol Ymddiriedolwyr a chyfrifon ar-lein. Maent yn gwobrwyo arferion gorau ym maes cyfrifon ariannol, yn codi safon Adroddiadau Blynyddol yn seiliedig ar y we ac yn annog mwy o elusennau i arddangos eu gwybodaeth ariannol ar-lein.
Os oes angen cyngor pellach arnoch, gallwch ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol rhwng 08:00 a 20:00 yn ystod yr wythnos a rhwng 09:00 a 13:00 ar ddydd Sadwrn (0845 300 0218; Typetalk 0845 300 0219).
Nodir y gofynion cyfreithiol manwl ar gyfer Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr yn Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 sy'n darparu'r sail gyfreithiol ar gyfer yr argymhellion a wnaed yn SORP Elusennau. Mae'r penawdau a ddefnyddir yn yr adran hon wedi'u cymryd o'r SORP, fodd bynnag, gall ymddiriedolwyr ddewis sut i baratoi eu Hadroddiad Blynyddol, ar yr amod bod yr holl ofynion cyfreithiol wedi'u bodloni.
Mae gan elusennau bach, os ydynt yn paratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau neu gyfrifon croniadau, yr un gofynion Adrodd Blynyddol o dan Reoliadau 2008 a dylent ddilyn adrannau A a B. Rhaid i elusennau mawr, sy'n destun archwiliad statudol, ddilyn adrannau A ac C. Dylai pob elusen sy'n paratoi cyfrifon ar ddull croniadau, boed yn fach neu'n fawr, gyfeirio at y SORP hefyd.
I'r lleiafrif o elusennau sy'n paratoi cyfrifon grŵp mae rhai gofynion adrodd ychwanegol ac fe'u nodir yn adran Ch.
Mae'r rheoliadau yn mynnu bod yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei ddyddio a'i arwyddo gan un neu ragor o'r ymddiriedolwyr, sydd wedi'u hawdurdodi i wneud hyn.
|
A. MATERION Y MAE'N RHAID I BOB ELUSEN ADRODD AMDANYNT |
Para. SORP |
|
1. Manylion cyfeirio a gweinyddol yr elusen, ei hymddiriedolwyr a'i hymgynghorwyr |
41 |
|
Enw'r elusen, ac yn achos elusen gofrestredig mae'n golygu enw cofrestredig yr elusen. Dylid nodi unrhyw enw arall y mae'r elusen yn ei ddefnyddio hefyd. |
|
|
b. Rhif cofrestru'r elusen, ac os yw'n gymwys, rhif cofrestru'r cwmni. |
|
|
c. Cyfeiriad prif swyddfa'r elusen ac, yn achos cwmni elusennol, cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig. |
|
|
ch. Enwau pawb a oedd yn ymddiriedolwyr yr elusen neu'n ymddiriedolwyr gwarchod ar ddyddiad cymeradwyo'r adroddiad. Os oes mwy na 50 o ymddiriedolwyr, enwau o leiaf 50 o'r ymddiriedolwyr (gan gynnwys pob swyddog yr elusen, ee cadeirydd, trysorydd ac ati). Os yw'r ymddiriedolwr yn gorfforaeth gorfforedig, mae enwau unrhyw unigolyn sy'n gyfarwyddwr y gorfforaeth gorfforedig yn cael eu nodi. |
|
|
d. Enwau unrhyw unigolyn arall a wasanaethodd fel ymddiriedolwr elusen neu ymddiriedolwr gwarchod yn y flwyddyn ariannol dan sylw. |
|
|
Pe gallai datgelu enwau ymddiriedolwyr elusen, ymddiriedolwyr gwarchod, uwch aelodau staff, neu unigolion gyda phŵer penodi, neu brif gyfeiriad yr elusen arwain at roi'r unigolyn hwnnw mewn perygl personol (er enghraifft yn achos lloches menywod) gall yr ymddiriedolwyr elusen hepgor y datgeliad ar yr amod bod y Comisiwn Elusennau wedi rhoi awdurdod iddynt wneud hynny. |
42 |
|
2. Strwythur, llywodraethu a rheolaeth |
44 |
|
Dylai'r Adroddiad Blynyddol gynnig modd i'r darllenydd ddeall sut mae'r elusen wedi'i chyfansoddi, ei strwythur sefydliadol a sut mae ei hymddiriedolwyr yn cael eu penodi a'u hyfforddi a chynorthwyo'r darllenydd i ddeall sut mae prosesau gwneud penderfyniadau'r elusen yn gweithio. Gall lefel y manylion a roddir ddibynnu ar faint a chymhlethdod yr elusen a chyfateb ag anghenion darllenwyr yr adroddiad. |
|
|
a. Manylion, gan gynnwys y dyddiad os gwyddys, a natur y ddogfen lywodraethol (ee gweithred ymddiriedolaeth, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu ac ati) a sut mae'r elusen (neu ei hymddiriedolwyr) wedi'i chyfansoddi (ee cwmni cyfyngedig, cymdeithas anghorfforedig ac ati). |
|
|
b. Y dulliau a fabwysiadwyd ar gyfer recriwtio a phenodi ymddiriedolwyr newydd, gan gynnwys manylion am unrhyw ddarpariaethau cyfansoddiadol sy'n ymwneud â phenodiadau, er enghraifft, ethol i swydd. Os oes hawl gan unrhyw unigolyn neu gorff arall sy'n allanol i'r elusen benodi un neu fwy o'r ymddiriedolwyr dylid esbonio hyn ynghyd â nodi enw'r unigolyn neu'r corff hwnnw (yn amodol ar adran 1 uchod os cafwyd caniatâd i beidio â datgelu enw). |
|
|
3. Adolygiad ariannol gan gynnwys: |
55 & 56 |
|
a. Polisi cronfeydd wrth gefn gan ddatgan lefel y cronfeydd wrth gefn a pham y cânt eu dal. Os yw cronfeydd sylweddol wedi'u neilltuo, dylai'r datganiad polisi cronfeydd wrth gefn feintioli ac esbonio pwrpas y cronfeydd ac, os ydynt wedi'u neilltuo i'w gwario yn y dyfodol, amseriad tebygol y gwariant. Os nad oes unrhyw bolisi cronfeydd wrth gefn, dylid rhoi datganiad i'r perwyl hwnnw. |
|
|
b. Os yw unrhyw gronfa mewn diffyg sylweddol, yr amgylchiadau a achosodd y diffyg a manylion am y camau sy'n cael eu cymryd i ddileu'r diffyg. |
|
|
4. Cronfeydd a ddelir fel ymddiriedolwr gwarchod ar ran eraill |
59 |
|
Os yw elusen neu ei hymddiriedolwyr yn gweithredu fel ymddiriedolwyr gwarchod, dylid datgelu'r materion canlynol yn yr adroddiad: |
|
|
a. Disgrifiad o'r asedau y maen nhw'n eu dal yn y rhinwedd hwnnw. |
|
|
b. Enw ac amcanion yr elusen (neu elusennau) y mae'r asedau yn cael eu dal ar ei rhan a sut mae'r gweithgaredd hwn wedi'i gynnwys o fewn ei hamcanion ei hun. |
|
|
c. Manylion am y trefniadau ar gyfer diogelu a chadw asedau o'r fath ar wahân i asedau'r elusen ei hun. |
|
|
5. Datganiad budd cyhoeddus |
|
|
Datganiad yn cadarnhau a yw'r ymddiriedolwyr elusen wedi cydymffurfio â'u dyletswydd i ystyried y canllawiau ar fudd cyhoeddus a gyhoeddwyd gan y Comisiwn wrth ymarfer eu pwerau neu eu dyletswyddau. |
|
B. MATERION Y MAE'N RHAID I ELUSENNAU LLAI, NAD OES RHAID IDDYNT GAEL ARCHWILIAD ARIANNOL STATUDOL, ADRODD AMDANYNT HEFYD |
|
|
1. Amcanion a gweithgareddau |
47 & 52 |
|
Gall elusennau nad ydynt yn amodol ar y gofyniad archwiliad statudol gyfyngu eu datgeliadau o fewn yr adran hon i ddisgrifiad cryno o ddibenion yr elusen (ei hamcanion) a'r prif weithgareddau y mae'r elusen wedi ymgymryd â nhw i hyrwyddo ei dibenion elusennol er budd cyhoeddus. |
|
|
2. Cyraeddiadau a pherfformiad |
53 & 54 |
|
Gall elusennau nad oes rhaid iddynt gael archwiliad ariannol statudol gyfyngu eu datgeliadau o fewn yr adran hon i grynodeb byr o gyraeddiadau'r elusen yn ystod y flwyddyn mewn perthynas â'i hamcanion. |
|
C. MATERION Y MAE'N RHAID I ELUSENNAU SY'N DESTUN ARCHWILIAD ARIANNOL STATUDOL ADRODD AMDANYNT HEFYD |
|
|
1. Dylai'r adroddiad ddarparu'r wybodaeth gyfeirio a gweinyddol ganlynol am yr elusen, ei hymddiriedolwyr a'i hymgynghorwyr |
41 |
|
a. Enw unrhyw brif weithredwr neu uwch aelodau staff eraill y mae'r ymddiriedolwyr yn dirprwyo rheolaeth yr elusen o ddydd i ddydd iddynt. |
|
|
b. Enwau a chyfeiriadau unrhyw sefydliadau neu unigolion perthnasol eraill. Dylai gynnwys enwau a chyfeiriadau'r rhai sy'n gweithredu fel bancwyr, cyfreithwyr, archwiliwr (neu archwiliwr annibynnol) a phrif ymgynghorwyr neu ymgynghorwyr buddsoddi eraill. |
|
|
2. Dylai'r adroddiad ddarparu’r wybodaeth ychwanegol ganlynol am strwythur, llywodraethu a rheolaeth yr elusen |
44 |
|
a. Y polisïau a'r gweithdrefnau a fabwysiadwyd ar gyfer sefydlu a hyfforddi ymddiriedolwyr, ac os nad yw polisïau o'r fath wedi'u mabwysiadu, datganiad i'r perwyl hwnnw. |
|
|
b. Strwythur sefydliadol yr elusen a sut y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud. Er enghraifft, pa fathau o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan yr ymddiriedolwyr a pha benderfyniadau sy'n cael eu dirprwyo i staff. |
|
|
c. Os yw'r elusen yn rhan o rwydwaith ehangach (ee elusennau sydd wedi'u cysylltu o fewn grŵp mantell), dylid esbonio unrhyw effaith y mae hyn yn ei chael ar bolisïau gweithredu'r elusen. |
|
|
ch. Y berthynas rhwng yr elusen a phartïon cysylltiedig, gan gynnwys ei his-gwmnïau, a gydag unrhyw elusennau a sefydliadau eraill y mae'n cydweithio â nhw wrth gyflawni ei hamcanion elusennol. |
|
|
d. Datganiad sy'n cadarnhau bod y prif risgiau y mae'r elusen yn agored iddynt, fel y nodwyd gan yr ymddiriedolwyr, wedi cael eu hadolygu, a bod systemau neu weithdrefnau wedi cael eu sefydlu i reoli'r risgiau hynny. |
|
|
3. Amcanion a gweithgareddau |
47 |
|
Dylai'r Adroddiad Blynyddol helpu'r darllenydd i ddeall y nodau a'r amcanion a osodwyd gan yr elusen, a'r strategaethau a'r gweithgareddau a wnaed i'w cyflawni. Hefyd, gall yr adroddiad, os yw'n berthnasol, esbonio sut mae'r amcanion a osodwyd am y flwyddyn yn ymwneud â strategaethau ac amcanion mwy tymor hir a osodwyd gan yr elusen. Os yw gweithgareddau arwyddocaol yn digwydd trwy is-ymgymeriadau, dylid esbonio'r rhain yn yr adroddiad. Yn arbennig, dylai'r adroddiad ddarparu: |
|
|
a. Crynodeb o amcanion yr elusen fel y'u pennwyd yn ei dogfen lywodraethol. |
|
|
b. Esboniad o nodau'r elusen gan gynnwys y newidiadau neu'r gwahaniaeth y mae'n ceisio ei wneud trwy ei gweithgareddau. |
|
|
c. Esboniad o brif amcanion yr elusen am y flwyddyn. |
|
|
ch. Esboniad o strategaethau'r elusen ar gyfer cyflawni'r amcanion a nodwyd. |
|
|
d. Adolygiad o'r gweithgareddau arwyddocaol (gan gynnwys ei phrif raglenni, prosiectau neu wasanaethau a ddarparwyd) y mae'r elusen wedi'u cyflawni i hyrwyddo ei dibenion elusennol er budd cyhoeddus. Dylai'r manylion a roddir ganolbwyntio ar y gweithgareddau y cred yr ymddiriedolwyr sydd o bwys wrth ystyried yr elusen yn ei chyfanrwydd. Fan lleiaf, dylai'r Adroddiad Blynyddol esbonio'r amcanion, gweithgareddau, prosiectau neu wasanaethau a nodwyd o fewn y nodyn dadansoddi sy'n cyd-fynd â'r gweithgareddau elusennol a bennwyd yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol (SoFA). |
|
|
Os yw'r elusen yn ymgymryd â nifer sylweddol o'i gweithgareddau trwy roi grantiau, dylid rhoi datganiad sy'n esbonio ei pholisïau rhoi grantiau. |
49 |
|
Os yw gweithgareddau buddsoddi cymdeithasol neu gysylltiedig â rhaglen yn berthnasol yng nghyd-destun y gweithgareddau elusennol a wnaed, dylid esbonio'r polisïau buddsoddi. |
50 |
|
Os yw elusen yn defnyddio gwirfoddolwyr i raddau helaeth yn ei gweithgareddau elusennol neu gynhyrchu incwm, dylid nodi hyn. Nid yw cyfraniadau gwirfoddol di-dâl wedi'u cynnwys yn y SoFA, oherwydd yr anawsterau ynghylch priodoli gwerth ariannol iddynt, ond mae'n bwysig bod darllenwyr yr adroddiad yn gallu deall rôl a chyfraniad gwirfoddolwyr. Felly gall yr wybodaeth esbonio'r gweithgareddau lle mae gwirfoddolwyr yn helpu, meintioli eu cyfraniad o ran oriau neu staff cyflogedig cyfatebol, a rhoi syniad o werth eu cyfraniad. |
51 |
|
4. Cyraeddiadau a pherfformiad |
53 |
|
Dylai'r adroddiad gynnwys gwybodaeth sy'n cynnig modd i'r darllenydd ddeall ac asesu cyraeddiadau'r elusen a'i his-ymgymeriadau yn ystod y flwyddyn. Dylai adolygu ei pherfformiad yn erbyn yr amcanion a osodwyd. Mae'n debygol o gynnwys perfformiad meintiol ac ansoddol i esbonio cyrhaeddiad a pherfformiad, a byddai'n ddefnyddiol i adnabod unrhyw ddangosyddion, cerrig milltir a meincnodau y mae'r elusen yn eu defnyddio i asesu a ydynt wedi bodloni ei hamcanion. Yn arbennig, dylai'r adroddiad gynnwys: |
|
|
a. Adolygiad o'r gweithgareddau elusennol sy'n esbonio'r perfformiad a gyflawnwyd yn erbyn yr amcanion a osodwyd. Os yw gwybodaeth feintiol neu ansoddol yn cael ei defnyddio i asesu canlyniad gweithgareddau, dylid cynnwys crynodeb o'r mesurau neu'r dangosyddion a ddefnyddiwyd i asesu cyrhaeddiad. |
|
|
b. Os oes gweithgareddau codi arian sylweddol, manylion am y perfformiad a gyflawnwyd yn erbyn amcanion codi arian a osodwyd, gan gynnig sylwadau ar unrhyw wariant perthnasol a allai wella cynhyrchu incwm yn y dyfodol, ac esbonio'r effaith ar elw codi arian y cyfnod cyfredol. |
|
|
c. Os oes buddsoddiadau sylweddol gan yr elusen, manylion am y perfformiad buddsoddi a gyflawnwyd yn erbyn yr amcanion buddsoddi a osodwyd. |
|
|
ch. Sylwadau ar ffactorau o fewn a thu allan i reolaeth yr elusen sy'n berthnasol i gyflawni ei hamcanion; gallent gynnwys y berthynas â gweithwyr, defnyddwyr, buddiolwyr, noddwyr a sefyllfa'r elusen yn y gymuned ehangach. |
|
|
5. Adolygiad ariannol |
55 |
|
Dylai'r Adroddiad Blynyddol ddarparu'r wybodaeth adolygiad ariannol ychwanegol ganlynol am yr elusen, gan gynnwys adolygiad o sefyllfa ariannol yr elusen a'i his-ymgymeriadau, a datganiad am y prif bolisïau rheoli ariannol sy'n weithredol yn ystod y flwyddyn: |
|
|
a. Prif ffynonellau cyllid a sut mae'r gwariant yn y flwyddyn dan sylw wedi cynnal amcanion allweddol yr elusen. |
|
|
b. Os yw buddsoddiadau sylweddol yn cael eu dal, y polisi ac amcanion buddsoddi, gan gynnwys i ba raddau y mae ystyriaethau cymdeithasol, moesegol neu amgylcheddol yn cael eu hystyried. |
|
|
6. Cynlluniau ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol |
57 |
|
Dylai'r adroddiad esbonio cynlluniau'r elusen ar gyfer y dyfodol gan gynnwys y nodau ac amcanion allweddol a osodwyd ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol ynghyd â manylion unrhyw weithgareddau arfaethedig sydd i'w cyflawni. |
|
|
Ch. GOFYNION ADRODD YCHWANEGOL OS YW CYFRIFON GRŴP YN CAEL EU PARATOI |
|
|
1. Os yw cyfrifon grŵp yn cael eu paratoi yn wirfoddol nid yw unrhyw ddatgeliadau ychwanegol yn ofynnol gan y Rheoliadau, fodd bynnag yn ôl y SORP os yw cyfrifon grŵp yn cael eu paratoi mae'n ofynnol i'r Adroddiad Blynyddol gynnwys; |
|
|
a. Y berthynas rhwng yr elusen a phartïon cysylltiedig, gan gynnwys ei his-gwmnïau. |
44 |
|
b. Wrth ystyried yr amcanion a'r gweithgareddau, a'r strategaethau a'r gweithgareddau a gyflawnwyd i'w gwireddu, os yw gweithgareddau arwyddocaol wedi'u cyflawni trwy is-ymgymeriadau dylid eu hesbonio. |
47 |
|
c. Wrth bennu cyraeddiadau a pherfformiad yr elusen a'r grŵp, mae'r wybodaeth a ddarperir yn galluogi'r darllenydd i ddeall ac asesu cyflawniadau'r elusen a'i his-ymgymeriadau yn ystod y flwyddyn. |
53 |
|
ch. Wrth bennu'r adolygiad ariannol, mae'n adolygu sefyllfa ariannol yr elusen a'i his-gwmnïau. |
55 |
|
2. Os oes rhaid paratoi cyfrifon grŵp oherwydd bod incwm y grŵp yn fwy na'r trothwy ar gyfer paratoi cyfrifon grŵp, dylid cwmpasu pob eitem a bennwyd yn adran Ch1 ac mae'r Rheoliadau yn mynnu bod yr Adroddiad Blynyddol yn ystyried y rhiant elusen a'i his-ymgymeriadau gyda'i gilydd. Wrth gymhwyso argymhellion y SORP dylid rhoi sylw arbennig i'r canlynol: |
44, 47, 53 & 55 |
|
a. nodau ac amcanion; |
Ceisiwn ddarparu cyhoeddiadau sydd mor ddefnyddiol a hawdd eu darllen â phosibl. Os oes unrhyw sylwadau neu awgrymiadau gennych ysgrifennwch at:
Rheolwr Argraffu a Chyhoeddi
Comisiwn Elusennau
Blwch SP 1227
Lerpwl
L69 3UG
1. Ar gyfer 2008/09 dylai cwmnïau elusennol fod yn ymwybodol o effaith bosibl y gwahaniaeth yn nyddiad gweithredol y newidiadau yn y trothwy archwilio o dan y Ddeddf Elusennau a'r diffiniad o gwmni bach (neu grŵp bach) o dan Ddeddf Cwmnïau 2006. Mae'r newidiadau yn y Ddeddf Cwmnïau o'r diffiniad o gwmni bach yn gymwys i gyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008. Os nad yw cwmni, neu grŵp cwmni yn gymwys fel un bach, mae archwiliad yn ofynnol o dan y Ddeddf Cwmnïau.