Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

CC20 - Elusennau a Chodi Arian

(Fersiwn Ebrill 2008)

Cynnwys

Am beth mae'r canllaw hwn?

1. Mae'r canllaw hwn yn egluro'r rheolaethau statudol sy'n rheoli codi arian ac mae'n rhoi:

  • cyngor cyffredinol ar godi arian yn effeithiol;
  • eglurhad o gyfrifoldebau cyfreithiol ymddiriedolwyr elusen o ran codi arian;
  • gwybodaeth am oblygiadau treth codi arian; a
  • rhestr o ffynonellau gwybodaeth defnyddiol.

2. Mae gwaith elusennol effeithiol yn dibynnu ar sicrhau adnoddau digonol. Mewn sawl achos, bydd hyn yn dibynnu ar godi arian yn effeithiol. Gan mai codi arian yw un o'r prif bethau sy'n dylanwadu ar farn y cyhoedd am elusennau, bydd y dulliau a ddefnyddir ac unplygrwydd y rhai sy'n codi'r arian, yn hanfodol i gynnal ffydd y cyhoedd. Mae'n bwysig iawn bod ymddiriedolwyr yn rheoli gweithgareddau codi arian yn effeithiol, yn effeithlon ac yn ddarbodus. Dylid mabwysiadu'r safonau uchaf ac mae angen gweithredu systemau i ddiogelu'r arian a godir.

Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir

3. Yn y canllaw hwn:

Deddf 1992 yw Deddf Elusennau 1992.

Deddf 1993 yw Deddf Elusennau 1993.

Deddf 2006 yw Deddf Elusennau 2006.

Ystyr ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gyfrifol am reoli'r elusen yn gyffredinol yn unol â dogfen lywodraethol yr elusen. Yn nogfen lywodraethol yr elusen, gellir eu galw'n ymddiriedolwyr, ymddiriedolwyr rheoli, aelodau pwyllgor, llywodraethwyr neu'n gyfarwyddwyr, neu gall fod rhyw deitl arall ganddynt.

Ystyr dogfen lywodraethol yw unrhyw ddogfen sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, Cynllun y Comisiwn neu ddogfen ffurfiol arall.

Ystyr codwr arian proffesiynol yw unrhyw unigolyn (ac eithrio'r sefydliad elusennol neu gwmni sy'n gysylltiedig â'r cyfryw sefydliad) sy'n cynnal busnes codi arian er mwyn gwneud elw, a'r busnes hwnnw'n ymwneud yn llwyr neu'n bennaf â gofyn am arian neu eiddo arall, neu ei sicrhau mewn ffordd arall, at ddibenion elusennol; neu rywun arall sy'n gofyn am arian gwobrwyo neu eiddo arall ar gyfer elusen, ac eithrio:

  • unrhyw elusen neu gwmni cysylltiedig;
  • unrhyw swyddog neu weithiwr cyflogedig elusen neu gwmni cysylltiedig;
  • unrhyw ymddiriedolwr elusen;
  • unrhyw gasglwr elusennol cyhoeddus - heblaw hyrwyddwyr;
  • pobl sy'n gofyn am arian ar y teledu neu'r radio; neu
  • unrhyw gyfranogwr masnachol.

Yn ogystal, ni fydd y diffiniad o godwr arian proffesiynol yn berthnasol os bydd y codwr arian yn derbyn £1000 neu lai o dâl mewn cysylltiad ag ymgyrch arbennig neu £10 y dydd neu £1000 neu lai bob blwyddyn lle nad oes menter benodol.

Ystyr cyfranogwr masnachol yw unrhyw unigolyn sy'n ymgymryd â busnes er mwyn gwneud elw, ac nid yw'n fusnes codi arian, ond wrth ymwneud â'r busnes hwnnw mae'n ymgymryd ag unrhyw fenter hyrwyddo (hy, unrhyw ymgyrch hysbysebu neu werthu neu unrhyw fenter arall yr ymgymerir â hi at ddibenion hyrwyddo) lle y nodir y bydd cyfraniadau'n cael eu rhoi neu eu defnyddio er budd elusen.

Defnyddir rhaid i gyfeirio at y camau y mae'n ofynnol i ymddiriedolwyr, neu eu hasiantau neu eu gweithwyr, eu cymryd yn ôl y gyfraith.

Defnyddir argymell neu gynghori pan fyddwn yn awgrymu camau i'r ymddiriedolwyr eu cymryd sy'n arfer dda yn ein barn ni, ond nid yw'n ofynnol eu cymryd yn ôl y gyfraith.

Dewis sut i godi arian

4. Mater i'r ymddiriedolwyr ei benderfynu yw dulliau codi arian. Fodd bynnag, dylai elusennau fod ar eu gwyliadwriaeth ac yn sensitif i feirniadaeth a barn gyhoeddus. Gall dulliau codi arian sy'n esgor ar anghymeradwyaeth gael effaith andwyol ar yr elusen a lleihau ffydd y cyhoedd yn y sector cyfan.

5. Mae'n hollbwysig i dreulio amser cyn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd codi arian er mwyn datblygu strategaeth: gall rhai mathau o godi arian fod yn gostus, ac mae'n bwysig bod yn sicr y gellir cyfiawnhau'r costau o ran enillion realistig. Bydd angen i'r strategaeth ystyried y pwyntiau canlynol:

  • yr angen am arian - a oes angen arian ar gyfer prosiect arbennig neu ran o raglen waith barhaus yr elusen? Faint sydd ei angen? Oes modd cydweithio ag elusennau eraill sy'n gweithredu yn yr un maes i ateb yr angen?
  • ffynonellau cyllid posibl - er enghraifft, grantiau gan lywodraeth leol neu ganol, cwmnïau neu elusennau sy'n rhoi grantiau;
  • yr adnoddau sydd ar gael i gynnal gwaith codi arian - rhaid gwario arian i godi arian. Gall y costau amrywio o gynhyrchu llenyddiaeth ar gyfer yr apêl hyd at gyflogi codwr arian proffesiynol a threfnu digwyddiadau codi arian;
  • cyfran y derbyniadau gros a fydd yn weddill ar ôl talu costau codi arian. Argymhellwn yn gryf fod yr ymddiriedolwyr yn cytuno ymlaen llaw ar y gyfran debygol o dderbyniadau gros a gaiff eu gwario ar gostau codi arian. Dylai'r gwir berfformiad gael ei gymharu â'r targed hwnnw a dylai'r ymddiriedolwyr fod yn fodlon y gellir cyfiawnhau'r gwariant.

6. Cyn ymrwymo i wario ar godi arian, gall fod yn ddefnyddiol i geisio cyngor gan rywun proffesiynol neu arbenigwr priodol. Mae'r Sefydliad Codi Arian a'r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Cyrff Gwirfoddol yn cadw rhestrau o godwyr arian ac ymgynghorwyr annibynnol. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cadw cronfa ddata o hyfforddwyr ac ymgynghorwyr. Mae'r gronfa ddata yn gweithio ar chwiliadau sy'n cael eu gwneud yn ôl maes arbenigol, ardal ddaearyddol, cost etc yn ôl yr hyn a gafodd ei nodi gan y cleient. Mae cyfeiriadau'r tri sefydliad hyn i'w gweld yn Atodiad A y canllaw hwn.

7. Fe gewch fwy o wybodaeth am un math arbennig o godi arian - masnachu - yn ein canllaw ar wahân Ymddiriedolwyr, masnachu a threth (CC35).

Cyfrifon ar gyfer codi arian

8. Mae costau codi arian yn fater dilys sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd. Dylai ymddiriedolwyr sicrhau bod y costau hyn yn cael eu dangos yn briodol yn y cyfrifon. Maen nhw'n cynnwys costau cyhoeddusrwydd sy'n gysylltiedig â chodi arian neu godi proffil yr elusen. Nid ydynt yn cynnwys costau deunydd addysgol yn unig a gynhyrchir gan yr elusen fel ffordd o gyflawni ei diben.

9. Ar gyfer yr elusennau hynny sy'n cynhyrchu cyfrifon croniadau mae Cyfrifon ac Adroddiadau gan Elusennau: Datganiad o Arferion Cymeradwy (SORP 2005) yn rhoi canllawiau mwy manwl.

Apeliadau am arian

10. Beth bynnag fo'r math o apêl y mae'r ymddiriedolwyr yn ei dewis i godi arian, mae rhai pwyntiau y dylai'r ymddiriedolwyr eu cadw mewn cof:

  • rhaid i ddiben yr apêl fod wedi ei fynegi'n eglur. Os yw'r apêl am arian cyffredinol yna dylid nodi'n glir unrhyw brosiect penodol y sonnir amdano yn nogfen yr apêl fel enghraifft o waith yr elusen. Dylid gofalu i beidio â chamarwain rhoddwyr i feddwl y bydd eu harian yn cael ei ddefnyddio'n unig ar gyfer prosiect penodol a nodir yn llenyddiaeth yr apêl os na fydd hynny'n digwydd;
  • os yw'n apêl am brosiect penodol, mae'n bwysig iawn bod yna drefniadau i ddelio ag unrhyw arian sydd heb ei wario, a bod y ddogfen codi arian yn cyfeirio at hyn. Bydd hyn yn galluogi'r ymddiriedolwyr i ddelio ag unrhyw arian dros ben ar ôl cyrraedd targed yr apêl, neu, os yw'r apêl yn methu, yn eu galluogi i ddefnyddio'r arian a godwyd. Mae paragraffau 16-28 yn egluro'r hyn y dylid ei wneud os yw trefniadau heb eu gwneud pan na fydd digon o arian wedi'i godi neu bydd arian dros ben;
  • argymhellwn eich bod yn cadw cyfrif ar wahân o unrhyw arian a godir at apêl arbennig. Un ffordd o wneud hyn yw trefnu cyfrif banc ar wahân;
  • dylai pob cyfraniad, cyn belled ag y bo modd, gael ei dalu'n uniongyrchol i'r elusen a bod o dan reolaeth yr ymddiriedolwyr;
  • lle bo modd dylid pennu dyddiad cau ar gyfer yr apêl.

Statws cofrestredig i ymddangos ar ddogfennau penodol

11. Yn unol ag adran 5 Deddf 1993, rhaid i ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig sydd ag incwm gros o £10,000 neu fwy yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ddatgan ar amryw o ddogfennau swyddogol mai elusen gofrestredig yw'r elusen. Ymhlith y dogfennau y mae'n rhaid i'r datganiad hwn fod arnynt y mae hysbysiadau, hysbysebion, deunyddiau ar wefannau a dogfennau eraill a gyhoeddir gan yr elusen neu ar ei rhan ac a fwriedir i ddarbwyllo'r darllenydd i roi arian neu eiddo i'r elusen. Mae hyn yn cynnwys ceisio cael tanysgrifiadau aelodaeth.

Codi arian gan elusennau lleol ar gyfer elusennau eraill

12. Os yw elusen leol yn codi arian ar gyfer elusen arall trwy weithredu fel asiant codi arian yn unig, dylid cadw'r pwyntiau canlynol mewn cof:

  • rhaid i ddarpar roddwyr ddeall yn eglur pa elusen fydd yn elwa o'r arian;
  • yn ôl y gyfraith, mae'r arian a godir yn eiddo i'r elusen sy'n cael budd ohono, ac ni all yr elusen sy'n codi'r arian gyfrannu at gostau codi'r arian hwnnw oni bai fod diben codi'r arian yn dod o fewn cwmpas amcanion yr elusen sy'n casglu;
  • dylid cadw cofnodion ariannol ar wahân; a
  • rhaid gofyn am ganiatâd yr elusen sy'n cael budd cyn defnyddio ei henw, ac mae'n hanfodol ei bod yn cymeradwyo copïau o unrhyw lenyddiaeth codi arian.

13. Argymhellwn yn gryf fod ymddiriedolwyr yn gwneud yn siŵr mai elusen gofrestredig yw'r elusen sy'n cael budd, cyn dechrau codi arian. O dan adran 63 Deddf Elusennau 1992, gellir cael rhywun yn euog o drosedd os bydd yn datgan yn anghywir mai elusen gofrestredig yw'r sefydliad y bydd yn codi arian ar ei gyfer, oni bai fod ganddo sail ddigonol i gredu bod y sefydliad wedi'i gofrestru.

Codi arian ar gyfer cyrff y gwasanaeth iechyd neu awdurdodau lleol

14. Argymhellwn, cyn gwneud y trefniadau terfynol ar gyfer yr apêl, bod y rhai sy'n codi'r arian yn trafod gyda'r corff sy'n derbyn yr arian, y telerau ar gyfer trosglwyddo arian yr apêl.

15. Oni chytunir ar delerau penodol sy'n gyson â thelerau'r apêl ei hun, bydd ymgyrch codi arian i ddarparu offer cyfalaf neu adeiladau wedi cyflawni ei dibenion elusennol pan fydd yr offer neu'r adeiladau wedi'u darparu. Ni fydd gan y rhoddwyr unrhyw reolaeth dros ddefnyddio'r offer na'r adeiladau a brynwyd ganddynt, neu y buont yn cynorthwyo eu prynu, hyd yn oed os cynigir eu gwerthu neu eu dymchwel yn fuan wedyn. Argymhellwn y dylid cytuno ar unrhyw amodau ynglŷn â defnyddio'r rhodd yn y dyfodol gyda'r corff sy'n ei derbyn cyn gwneud yr apêl.

Beth i'w wneud os yw'ch apêl yn methu

16. Bydd apêl yn methu pan na ellir defnyddio peth o'r arian neu'r holl arian ar gyfer y diben(ion) a nodwyd yn yr apêl. Gall fod sawl rheswm dros hyn, gan gynnwys heb godi digon o arian, neu mae arian dros ben ar ôl i'r diben gael ei gyflawni. Mae'r ddwy sefyllfa yma yn cael eu trin yn wahanol yn ôl y gyfraith. Os na chodwyd digon o arian a/neu os yw diben yr apêl heb gael ei gyflawni, fe'i gelwir yn fethiant cychwynnol; os yw'r diben wedi cael ei gyflawni ac mae arian dros ben, fe'i gelwir yn fethiant dilynol.

Cynllunio eich apêl er mwyn osgoi apêl aflwyddiannus

17. Os yw arian yn cael ei godi ar gyfer diben elusennol penodol (er enghraifft, prynu darn o offer meddygol ar gyfer ysbyty, neu atgyweirio neu newid adeilad elusen), mae perygl y gall yr apêl fethu am ryw reswm - gormod o arian neu ddim digon o arian yn cael ei godi, gall costau cwblhau'r prosiect gynyddu neu efallai nad yw diben yr apêl yn bod mwyach. Felly, argymhellwn fel mater o arfer da bod unrhyw apêl ar gyfer dibenion elusennol penodol yn cynnwys diben ehangach, eilaidd y gall arian gael ei ddefnyddio ar ei gyfer ar unwaith os na ellir ei ddefnyddio ar gyfer prif ddiben yr apêl am ryw reswm. Er enghraifft:

"Rydym yn codi arian i brynu sganiwr ar gyfer yr ysbyty. Os na allwn brynu'r sganiwr am unrhyw reswm, neu mae arian dros ben ar ôl prynu'r sganiwr, byddwn yn defnyddio'r arian i brynu offer arall na fyddai gan yr ysbyty fel arall."

18. Fel arall, gall elusennau gynnal apêl am ddibenion cyffredinol, er enghraifft:

"Dyma enghraifft o un o'n prosiectau. I gefnogi hyn a phrosiectau eraill, cyfrannwch at ein helusen."

Methiant cychwynnol - Pan na fydd digon o arian yn cael ei godi

19. Os yw ymddiriedolwyr wedi gwneud apêl gyhoeddus ar gyfer diben elusennol penodol (er enghraifft, neuadd bentref newydd) a chodir arian annigonol, mae dyletswydd arnynt i geisio dychwelyd unrhyw gyfraniadau i'r rhoddwyr y gellir eu hadnabod, oni bai fod yr apêl wedi datgan yn benodol beth fyddai'n digwydd i arian na châi ei ddefnyddio.

20. Gall arian o apêl elusennol sydd wedi methu o'r cychwyn cyntaf gael ei drin o dan adran 14 neu adran 14A Deddf 1993. Bydd y camau y mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr eu cymryd i ddychwelyd yr arian i'r rhoddwyr yn dibynnu ar p’un ai adran 14 neu adran 14A sy'n gymwys. Fel yr esbonnir isod, mae adran 14A yn gymwys i apeliadau sy'n cynnwys datganiad arbennig yn unig. Nid yw hyn yn gallu bod yn gymwys yn ôl-weithredol; rhaid cynnwys y datganiad angenrheidiol yn yr apêl wreiddiol i'r rhoddwr. Mae'n dilyn os nad yw'r ymddiriedolwyr wedi gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer apêl aflwyddiannus, dim ond adran 14 all fod yn gymwys.

Mae adran 14 yn gymwys i eiddo a roddwyd:

  • ar gyfer dibenion elusennol penodol;
  • sydd wedi methu o'r cychwyn cyntaf; ac
  • lle nad oedd adran 14A yn gymwys.

Mae adran 14A yn gymwys i eiddo a roddwyd:

  • ar gyfer dibenion elusennol penodol;
  • mewn ymateb i apêl neu gais ("deisyfiad");
  • os yw'r deisyfiad yn cynnwys datganiad sy'n hysbysu rhoddwyr os yw'r dibenion penodol yn methu, byddai rhoddion yn cael eu defnyddio ar gyfer dibenion elusennol tebyg, oni bai fod y rhoddwr wedi llofnodi datganiad pan yr oedd wedi cyfrannu yn datgan os yw'r dibenion elusennol penodol yn methu, byddai'n well ganddynt gael cynnig ad-daliad; ac
  • os yw'r dibenion elusennol penodol yn methu o'r cychwyn cyntaf.

Methiant cychwynnol - yn dilyn adran 14 Deddf 1993

21. Os yw apêl aflwyddiannus wedi'i chynnwys o fewn darpariaethau adran 14, mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am:

  • gysylltu â'r rhoddwyr y gellir eu hadnabod a dychwelyd eu rhodd iddynt oni bai eu bod yn llofnodi ymwadiad;
  • rhoi cyfle i unrhyw roddwyr eraill y gellir eu hadnabod ddod ymlaen a hawlio neu wrthod hawlio eu rhodd, drwy:
  • hysbysebu'r ffaith bod yr apêl wedi methu;
  • ceisio olrhain rhoddwyr y mae modd eu hadnabod, drwy gyhoeddi hysbysebion a gwneud ymholiadau;
  • cynghori rhoddwyr o'u hawl i gael eu rhodd yn ôl;
  • caniatáu tri mis i roddwyr hawlio unrhyw gyfraniad.

22. Yn achos arian o gasgliadau lle nad oes modd adnabod rhoddion unigol (ee o flychau casglu), ac enillion lotrïau, cystadlaethau, difyrion, gwerthiannau neu weithgareddau codi arian tebyg, bydd yr elusen yn cymryd yn ganiataol nad oes modd adnabod y rhai sydd wedi cyfrannu. Hefyd, gallwn gyfeirio drwy orchymyn y dylai arian gael ei drin yn awtomatig fel arian rhoddwyr nad oes modd eu hadnabod pan fyddai'n afresymol, yn ein barn ni, o dan yr amgylchiadau, i roddwyr ddisgwyl i'r eiddo gael ei ddychwelyd.

23. Mae Deddf 1993 yn rhoi pŵer i ni wneud rheoliadau. Mae'r union gamau y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr eu cymryd i gysylltu â rhoddwyr y gellir eu hadnabod wedi'u pennu yn y rheoliadau hyn (Rheoliadau Elusennau (Apeliadau Aflwyddiannus) 2008 - gweler paragraff 28). Pan fydd y camau hyn wedi'u cwblhau, gall y Comisiwn baratoi Cynllun cy-près i addasu'r dibenion y gellir defnyddio'r cronfeydd sy'n weddill ar eu cyfer. Fodd bynnag, os yw unrhyw gronfeydd sy'n weddill yn eiddo rhoddwyr y gellir eu hadnabod ond sydd heb eu holrhain, rhaid i'r Cynllun greu cronfa wrth gefn, ac mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ei chadw am chwe mis o ddyddiad y Cynllun. Mae hwn er budd unrhyw roddwyr sy'n cyflwyno cais cyn pen y cyfnod hwnnw o chwe mis i ddychwelyd eu rhoddion. Wedi hynny, gellir defnyddio unrhyw arian sy'n weddill yn y gronfa wrth gefn ar gyfer dibenion elusennol y Cynllun.

Methiant cychwynnol - yn dilyn adran 14A Deddf 1993

24. Os yw apêl yn methu o fewn darpariaethau adran 14A, mae'r baich ar bob rhoddwr, pan fyddant yn cyfrannu, i gwblhau datganiad ysgrifenedig os nad ydynt am i'w rhodd gael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion elusennol eraill os bydd apêl yn methu o'r cychwyn cyntaf. Os yw'r apêl yn methu, byddai'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr elusen:

  • gysylltu ag unrhyw roddwyr sydd wedi gwneud datganiad, yn eu cynghori bod yr apêl wedi methu a gofyn iddynt a hoffent gael eu cyfraniadau yn ôl; a
  • chydymffurfio ag unrhyw geisiadau o'r fath sy'n cael eu gwneud o fewn yr amserlen a bennwyd yn y rheoliadau (tri mis).

25. Yn yr un modd ag adran 14, mae'r union gamau y mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr eu cymryd wedi'u pennu yn Rheoliadau Elusennau (Apeliadau Aflwyddiannus) 2008. Pan fydd y camau hyn wedi'u cwblhau, gall y Comisiwn baratoi Cynllun cy-près i addasu'r dibenion y gellir defnyddio'r cronfeydd sy'n weddill ar eu cyfer. Gellir trin yr eiddo fel eiddo rhoddwr sydd wedi gwrthod ei hawl i gael ei eiddo yn ôl. Nid oes gan unrhyw roddwyr unrhyw hawliau pellach i wneud cais.

Methiant dilynol - Delio ag arian dros ben

26. Os yw'r apêl wedi codi mwy o arian nag sydd ei angen, ac os nad oedd yr apêl wedi nodi beth fyddai'n digwydd i unrhyw arian sydd dros ben, rhaid ysgrifennu atom am gyngor a holi a oes angen Cynllun neu awdurdod cyfreithiol arall er mwyn defnyddio'r arian at ddibenion elusennol eraill. Nid oes hawl gan roddwyr i gael ad-daliad.

Apeliadau elusennol a weinyddir gan Ymddiriedolwyr GIG

27. Mae apeliadau elusennol aflwyddiannus a weinyddir gan Ymddiriedolwyr GIG yn cael eu trin o dan adran 222 Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (a ailddatganodd adran 96A Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977). Nid oes hawl gan y rhoddwr gael ei rodd yn ôl, gellir defnyddio'r arian yn awtomatig cy-près (yn amodol ar unrhyw ddarpariaeth benodol yn llenyddiaeth yr apêl).

Gwybodaeth bellach a chyngor

28. Am fanylion pellach gweler ein canllaw gweithredol OG53 Apeliadau Elusennol - osgoi a delio â methiant. Mae OG53 A1 yn esbonio effaith adrannau 13, 14 ac 14A Deddf 1993, ac mae OG53 B1 yn nodi Rheoliadau Elusennau (Apeliadau Aflwyddiannus) 2008.

Codi arian dros y ffôn ac apeliadau a ddarlledir

29. Os defnyddir y ffôn i godi arian, mae dyletswydd ar yr ymddiriedolwyr i sicrhau fod y cyhoedd yn deall at ba elusen y mae'r arian, pa ganran o'r cyfraniad fydd yn cael ei wario ar amcanion yr elusen, a bod yr holl arian a godir yn cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r elusen. (Gweler hefyd baragraffau 49 a 50 sy'n berthnasol i godi arian dros y ffôn ac apeliadau a ddarlledir, pan fydd codwr arian proffesiynol neu gyfranogwr masnachol yn cymryd rhan).

30. Mae'r Sefydliad Codi Arian wedi cyhoeddi cod ymddygiad ar gyfer codi arian dros y ffôn. Gellir cael copïau yn y cyfeiriad a nodir yn Atodiad A.

Llythyrau cadwyn

31. Nid yw llythyrau cadwyn yn anghyfreithlon, ond nid yw'r Comisiwn a'r Sefydliad Codi Arian yn eu cymeradwyo yn gyffredinol oherwydd y gallant fod yn anodd eu rheoli. Ar ôl eu dechrau, tasg anodd yw rhoi terfyn arnynt, a gallant arwain at honiadau bod yr elusen yn camarwain y cyhoedd wedi i'r apêl gyrraedd ei nod.

Darpariaethau statudol sy'n rheoli codi arian

Casgliadau stryd

32. Fel arfer, rhaid cael trwydded neu ganiatâd gan naill ai'r awdurdod lleol priodol neu, os bydd y casgliad yn digwydd yn Llundain, gan yr heddlu lleol neu Gyngor Cyffredin Dinas Llundain, i godi arian neu werthu nwyddau ar gyfer elusen ar y stryd neu mewn lle cyhoeddus.

33. O dan Ddeddf yr Heddlu, Ffatrïoedd, etc, (Darpariaethau Amrywiol) 1916, Gorchymyn Casgliadau Elusennol (Darpariaethau Trosiannol) 1974, a Rheoliadau Casgliadau Stryd (Ardal Heddlu Llundain) 1979, gellir gwneud rheoliadau lleol. Bydd y rhain yn ymwneud â materion megis rhwystro ac atal trafnidiaeth gan ddiwrnodau gwerthu baneri, carnifalau, wythnosau rag etc, a lleoedd y gall pobl gasglu arian neu werthu nwyddau ar gyfer elusen a dibenion eraill, a'r amodau y gallant weithredu oddi danynt. Dylid ymgynghori â'r awdurdod perthnasol cyn gwneud unrhyw ymgais i godi arian yn ei ardal.

Casgliadau o dŷ i dŷ

34. Rhaid i gasgliadau o dŷ i dŷ gael trwydded neu esgusodiad. Rhoddir trwyddedau naill ai gan yr awdurdod lleol priodol neu, os yw'r casgliad yn Llundain, yr heddlu lleol neu Gyngor Cyffredin Dinas Llundain.

35. Gall y canlynol esgusodi rhywun rhag yr angen i gael trwydded:

  • yr Ysgrifennydd Gwladol - ar gyfer casglu dros ardal eang (Cymru a Lloegr gyfan neu ran sylweddol ohoni); neu
  • yr heddlu - ar gyfer casgliad lleol i'w gwblhau o fewn cyfnod byr.

36. Mae'r term casglu yn cynnwys ymweliadau o dŷ i dŷ, ond hefyd ymweliadau â thafarnau, swyddfeydd a ffatrïoedd i apelio am arian neu am eiddo arall (dillad, er enghraifft), neu i werthu pethau ar y sail y bydd rhan o'r enillion yn mynd at elusen. Ar hyn o bryd, rheolir y casgliadau hyn gan Ddeddf Casgliadau o Dŷ i Dŷ 1939 a Rheoliadau Casgliadau o Dŷ i Dŷ 1947 a 1963.

Rheoliadau newydd ar gyfer casgliadau elusennol cyhoeddus

37. Mae Deddf Elusennau 1992 (Rhan III) yn gwneud darpariaeth i lunio Rheoliadau newydd ar gasgliadau elusennol cyhoeddus er mwyn disodli'r ddeddfwriaeth bresennol sydd ar wahân, ar gasgliadau ar y stryd ac o dŷ i dŷ. Ni phennwyd dyddiad eto ar gyfer y Rheoliadau newydd.

Lotrïau

38. Gall elusennau redeg lotrïau er mwyn codi arian ar gyfer eu dibenion elusennol fel y diffiniwyd yn Adran 3 a 5 Deddf Lotrïau a Difyrion 1976. Mae elw lotrïau o'r fath, a hyrwyddir gan elusennau neu gan is-gwmnïau ar eu rhan, wedi'u hesgusodi rhag talu treth ar yr amod bod y loteri yn cael ei chynnal o fewn gofynion y Ddeddf hon ac mae elw'r loteri yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen yn unig. Os yw is-gwmni, yn hytrach na'r elusen, wedi'i gofrestru fel y gymdeithas o dan Adran 5 Deddf Lotrïau a Difyrion 1976, y cwmni ac nid yr elusen fydd yn berchen ar elw'r loteri at ddibenion treth. Ni fydd yr esgusodiad yn berthnasol a bydd rhaid i'r cwmni drosglwyddo'r elw i'r elusen o dan Rodd Cymorth i gael ei esgusodi rhag talu treth.

39. Mae dau brif fath o loteri sydd o ddiddordeb i elusennau, a'r ddau o dan reolaeth Deddf Lotrïau a Difyrion 1976 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Loteri Genedlaethol 1993:

  • lotrïau bach; a
  • lotrïau cymdeithasau.

Lotrïau bach

40. Nid oes angen cofrestru lotrïau bach ond rhaid iddynt fod yn atodol i adloniant sydd wedi'i esgusodi. Mae Deddf 1976 yn diffinio adloniant sydd wedi'i esgusodi ac mae'n cynnwys garddwesti, marchnadoedd a dawnsfeydd â chinio. Rhaid bodloni rhai amodau gan gynnwys dim gwobrau ariannol, rhaid gwerthu a dosbarthu tocynnau a chyhoeddi'r canlyniadau yn ystod yr adloniant ac yn yr adeilad lle y'i cynhelir, ac ni ellir gwario mwy na £250 ar brynu'r gwobrau.

41. Cynghorir ymddiriedolwyr i geisio cyngor proffesiynol os oes ganddynt unrhyw amheuon.

Lotrïau cymdeithasau

42. Os bydd elusen yn hyrwyddo gwerthiant tocynnau loteri sy'n werth mwy nag £20,000 (neu os byddant yn fwy na £250,000 o'u cymryd ynghyd â gwerthiannau o lotrïau blaenorol yn yr un flwyddyn) bydd yn rhaid cofrestru â'r Comisiwn Hapchwarae. Dylai elusennau sy'n cynnal lotrïau islaw'r ddau drothwy hyn gofrestru â'r awdurdod lleol.

43. Mae rheoliadau, statudol manwl ynglŷn â sut y dylid cynnal lotrïau, a'r rheiny'n cynnwys cyfrifon, cyfyngiadau ar oedran, uchafswm pris y tocynnau a'r symiau y gellir eu talu mewn gwobrau a'u tynnu ar gyfer treuliau. Cynghorir ymddiriedolwyr i holi'r awdurdod lleol priodol neu'r Comisiwn Hapchwarae am ragor o wybodaeth. Nodir cyfeiriad y Comisiwn Hapchwarae yn Atodiad A.

Cystadlaethau a hapchwarae

44. Deddf Hapchwarae 1968 sy'n rheoli cystadlaethau fel bingo a defnyddio peiriannau hapchwarae (slot) yn bennaf, a chynghorir ymddiriedolwyr i holi'r Comisiwn Hapchwarae.

Codwyr arian proffesiynol a chyfranogwyr masnachol

45. Os yw ymddiriedolwyr yn penderfynu codi arian drwy gyflogi codwr arian proffesiynol neu trwy gynnal ymgyrch hyrwyddo gyda'r cyfranogwr masnachol, rhaid iddynt wybod am ddarpariaethau Rhan II Deddf Elusennau 1992 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006) a Rheoliadau Sefydliadau Elusennol 1994 (Codi arian) (SI 1994/3024).

46. Diffinnir y termau codwr arian proffesiynol a chyfranogwr masnachol gan adran 58(1) Deddf Elusennau 1992. Ceir eglurhad ym mharagraff 3 o'r canllaw hwn.

47. Mae rhestr wirio ar gyfer cytundebau gyda chodwyr arian proffesiynol a chyfranogwyr masnachol i'w gweld yn Atodiad B.

Y prif newid yw'r 'datganiad deisyfiad' a wnaed gan godwyr arian proffesiynol neu gyfranogwyr masnachol i ddarparu mwy o wybodaeth i'r cyhoedd. Ar gyfer codwr arian proffesiynol mae'n golygu pan fyddant yn gofyn am arian neu nwyddau ar gyfer elusen rhaid iddynt ddatgan:

  • 'swm hysbysadwy' eu tâl; a'r
  • dull a ddefnyddir i gyfrif eu tâl.

Mae'r gofynion i gyfranogwyr masnachol wedi newid hefyd. Erbyn hyn rhaid iddynt ddangos:

  • faint (% neu'r union swm, ee 10c) o'r pris a dalwyd ar gyfer pob cynnyrch neu wasanaeth gan ddefnyddwyr gaiff ei roi i'r sefydliad(au) elusennol dan sylw; neu
  • faint o'r enillion eraill o fenter hyrwyddo gaiff ei roi i'r sefydliad(au) elusennol dan sylw; neu
  • swm y rhoddion a roddwyd gan y cyfranogwr masnachol i'r sefydliad elusennol mewn perthynas â gwerthu neu gyflenwi nwyddau neu wasanaethau perthnasol.

Y 'swm hysbysadwy' yw:

  • y swm go iawn y bydd yr elusen yn ei dalu, os yw'n hysbys, adeg gwneud y datganiad. neu
  • os nad yw'r swm go iawn yn hysbys amcangyfrif o'r swm i'w dalu.

Beth yw'r gofynion ar gyfer cytundebau rhwng elusennau a chodwyr arian proffesiynol neu gyfranogwyr masnachol?

48. Mae'r gofynion yn cynnwys:

  • cytundeb ysgrifenedig, ar ffurf benodedig, rhwng yr elusen a'r codwr arian proffesiynol neu'r cyfranogwr masnachol;
  • datganiad i ddweud wrth ddarpar gyfranwyr pa gyfran o'u cyfraniad a ddefnyddir i dalu costau'r codwr arian;
  • dweud wrth y cyhoedd sut y bydd yr elusen yn cael budd o'i hymwneud â chyfranogwr masnachol; a
  • throsglwyddo'r arian a godir gan godwr arian proffesiynol neu gyfranogwyr masnachol i'r elusen.

49. Mae Deddf 2006 hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i ymddiriedolwyr cyflogedig a gweithwyr cyflogedig yr elusennau i wneud datganiad os ydynt yn gofyn am arian ar ran elusen. Rhaid i'r datganiadau hyn gynnwys:

  • safle'r casglwr o fewn y sefydliad;
  • eu bod yn cael eu talu i fod yn y safle hwnnw;
  • enw'r sefydliad y maent yn casglu ar ei gyfer.

Nid yw'r gofynion hyn yn gymwys i unigolion sy'n cael eu talu llai na £5 y dydd neu lai na £500 y flwyddyn. Nid yw'r gofynion hyn yn gymwys i ymddiriedolwyr digyflog neu wirfoddolwyr.

50. Mae Deddf Elusennau 1992 hefyd yn cynnwys gofynion arbennig am ddatganiadau ysgrifenedig ac ad-daliadau mewn perthynas â chodi arian dros y ffôn ac apeliadau a ddarlledir. Os yw rhoddwr yn rhoi £50 neu ragor i godwr arian proffesiynol neu gyfranogwr masnachol (waeth faint a dderbynnir gan yr elusen), mae gan y rhoddwr yr hawl i ad-daliad os gofynnir amdano o fewn 7 diwrnod naill ai ar ôl derbyn y datganiad ysgrifenedig oddi wrth y codwr arian ffôn (sydd yn angenrheidiol) neu oddi wrth yr apêl a ddarlledir. Mae'r darpariaethau hyn yn cynnwys unrhyw ddull o dalu a ddefnyddir wrth ymateb i ymgyrch codi arian dros y ffôn, ac wrth dalu trwy gerdyn credyd neu ddebyd wrth ymateb i apêl a ddarlledir.

51. Mae canllawiau pellach, mwy cynhwysfawr ar y newidiadau a wnaed i Ddeddf 1992 gan Ddeddf 2006 wedi cael eu cyhoeddi mewn ffurf ddrafft gan Swyddfa'r Trydydd Sector, ac maent ar gael ar ei wefan.

Cwmnïau cysylltiedig elusennau

52. Nid yw'r rheolau yn gymwys i weithgareddau codi arian yr elusen ei hun, nac, i'r rhan fwyaf o ddibenion, weithgareddau codi arian cwmni cysylltiedig, hy, cwmni sydd yn eiddo neu a reolir yn gyfan gwbl gan un neu ragor o elusennau. Serch hynny, argymhellwn fod y cwmni'n cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol fel mater o arfer da. Er enghraifft, gallai is-gwmni masnachu sy'n cadw nifer o siopau ar ran elusen ddangos hysbysiad wrth ymyl y til ym mhob siop yn nodi fod yr holl elw yn cael ei roi i'r elusen.

Gwaharddebau i atal codi arian heb awdurdod

53. Gall elusennau geisio gwaharddeb i atal codi heb awdurdod arian ar eu rhan.

54. Mae Rhan II Deddf Elusennau 1992 a Rheoliadau (Codi Arian) Sefydliadau Elusennol 1994 yn darparu y gall y llys roi gwaharddeb i atal codi arian os yw cyfranogwr masnachol neu godwr arian proffesiynol yn gweithredu heb gytundeb â'r elusen, neu yn ôl cytundeb nad yw ar ffurf benodedig. Yn yr achosion hyn, nid oes rhaid rhoi unrhyw rybudd i'r codwr arian proffesiynol neu'r cyfranogwr masnachol cyn cyflwyno cais am waharddeb.

55. Mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaethau tebyg er mwyn i elusen allu ceisio gwaharddeb i atal unrhyw un arall rhag codi arian yn enw'r elusen:

  • os yw'r codwr arian yn defnyddio dulliau a wrthwynebir gan yr elusen; neu
  • os nad yw'r codwr arian yn rhywun addas na phriodol i godi arian ar gyfer yr elusen; neu
  • os nad yw'r elusen yn dymuno bod yn gysylltiedig â'r fenter codi arian honno.

56. Yn yr achos hwn, rhaid i'r elusen roi rhybudd ysgrifenedig i'r unigolyn sy'n codi arian, 28 niwrnod o leiaf cyn gofyn am waharddeb:

  • yn datgan ei bod yn gwrthwynebu'r gweithgaredd codi arian ar ran yr elusen;
  • yn rhoi manylion ei gwrthwynebiad;
  • yn gofyn iddo ymatal rhag blaen; ac
  • yn ei gynghori oni bydd yn cydymffurfio â'r rhybudd, y gwneir cais am waharddeb.

Busnes masnachol yn defnyddio enw elusen - noddi

57. Mae enw elusen yn werthfawr. Dyma sut mae'r elusen yn cael ei hadnabod ac mae ei henw da yn cael ei sefydlu. Argymhellwn yn gryf felly fod ymddiriedolwyr yn ofalus wrth benderfynu sut y byddant yn caniatáu i'r enw gael ei ddefnyddio, yn enwedig gan gyfranogwr masnachol yn ystod menter hyrwyddo.

58. Cyn y gallant lunio cytundeb sy'n caniatáu i enw'r cwmni gael ei gysylltu â busnes neu gynnyrch penodol, dylent sicrhau, yn ogystal â'r gofynion statudol y soniwyd amdanynt ym mharagraff 48 uchod:

  • fod y berthynas yn briodol i elusen ac ni fydd yn andwyol naill ai i'r elusen arbennig honno nac i enw da gwaith elusennol yn gyffredinol;
  • y byddai codi'r un arian mewn rhyw ffordd arall yn llai effeithlon;
  • na fydd rhywun yn ymwela ar yr enw at ddibenion anelusennol;
  • bod y telerau at ei gilydd er budd yr elusen;
  • bod y telerau wedi eu drafftio'n fanwl gywir a'u cadw o dan arolygaeth fel na chamddefnyddir yr enw na bod rhywun yn ymwela arno mewn ffordd amhriodol; a
  • bod ganddynt yr hawl i atal defnydd o'r enw yn y dyfodol os nad ydynt yn fodlon ar y materion uchod.

59. Rydym wedi paratoi canllaw manwl pellach ar nawdd Codi arian trwy bartneriaeth â chwmnïau. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol ar faterion treth.

Digwyddiadau codi arian a threth

60. Ni fydd pob digwyddiad codi arian gan elusennau wedi'i esgusodi rhag talu treth. Yn yr un modd ni all elusennau ymgymryd â phob digwyddiad lle nad oes unrhyw dreth i'w thalu.

61. Mae rheolau arbennig ynglŷn ag elusennau a masnachu, sy'n cael eu trafod yn ein canllaw Ymddiriedolwyr, masnachu a threth (CC35). Hefyd ceir rheolau arbennig ar gyfer lotrïau fel y nodwyd ym mharagraffau 40 i 43.

Oes treth i'w thalu ar ddigwyddiad codi arian?

62. Ers 1 Ebrill 2000, ni fydd rhaid i elusennau ddelio ar wahân â Chyllid y Wlad a Chyllid a Thollau i bennu a yw'r digwyddiadau codi arian yn gymwys ar gyfer esgusodiad. Os yw'r digwyddiad yn bodloni'r meini prawf ar gyfer esgusodiad rhag talu TAW, yna byddant yn gymwys yn awtomatig ar gyfer dibenion yr esgusodiad rhag talu Treth Incwm a Threth Gorfforaeth. Ni all y Comisiwn Elusennau roi cyngor manwl ar y materion hyn: dylai elusennau gysylltu â Chyllid a Thollau EM ar faterion sy'n ymwneud â threth. Mae manylion cyswllt i'w gweld yn Atodiad A.

63. O dan Orchymyn Treth Ar Werth (Digwyddiadau Codi Arian gan Elusennau a Chyrff Cymwys Eraill) 2000, mae tri phrif elfen wrth benderfynu a oes treth i'w thalu ar ddigwyddiad codi arian, sef:

  • rhaid i'r digwyddiad gael ei drefnu a'i hyrwyddo i godi arian ar gyfer budd elusen yn unig, neu gorff cymwys arall. Mae 'cyrff cymwys eraill' yn cynnwys is-gwmni anelusennol sydd ym mherchnogaeth lawn yr elusen;
  • rhaid i'r digwyddiad fod yn un a all gael ei gynnal at ddibenion codi arian. Ymdrinnir â hyn ym mharagraff 64;
  • mae terfyn ar nifer y digwyddiadau o'r un fath mewn unrhyw un lleoliad mewn unrhyw flwyddyn ariannol yr elusen. Ymdrinnir â hyn ym mharagraff 65.

64. Mae'r rhestr ganlynol, na fwriedir iddi fod yn rhestr gyflawn, yn amlinellu rhai o'r mathau gwahanol o ddigwyddiadau a all, ym marn Cyllid a Thollau EM, gael eu cynnal at ddibenion codi arian:

  • dawns fawreddog, cinio â dawns, disgo neu ddawns werin;
  • perfformiadau: er enghraifft cyngherddau, cynyrchiadau llwyfan a digwyddiadau eraill gyda chynulleidfa sy'n talu;
  • dangos ffilmiau;
  • garddwest, ffair neu ŵyl;
  • sioeau garddwriaethol;
  • arddangosfeydd - gan gynnwys celf, hanes, gwyddoniaeth etc;
  • marchnad, ffair sborion, arwerthiant cist car neu arwerthiant nwyddau fel newydd;
  • gemau sgiliau/cystadleuaeth/cwisiau;
  • arddangosiadau tân gwyllt;
  • dawns, cinio neu farbiciw;
  • arwerthiant o nwyddau a brynir i mewn;
  • rafflau neu lotrïau.

65. Mae cyfyngiad o 15 digwyddiad o'r un fath mewn un lleoliad, mewn unrhyw flwyddyn ariannol yr elusen. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y gallai elusen gynnal hyd at 15 digwyddiad o'r un fath ym mhob un o nifer o drefi neu bentrefi gwahanol, a bod yn gymwys o hyd i gael gostyngiad treth ar gyfer pob un o'r digwyddiadau hyn. Ond nid yw'r gostyngiadau yn berthnasol i unrhyw ddigwyddiadau o'r un fath mewn lleoliad os yw mwy na 15 yn cael eu cynnal mewn blwyddyn. Felly byddai'n rhaid i elusen a gynhaliodd 16 digwyddiad o fath arbennig mewn un lleoliad dalu treth ar bob un ohonynt. Nid yw'r gostyngiadau yn berthnasol i ddigwyddiadau o fathau gwahanol a gynhelir yn yr un lleoliad (yn amodol ar y terfyn o 15).

66. Ni fydd unrhyw ddigwyddiad, neu ddilyniant o ddigwyddiadau, o'r un fath mewn lleoliad arbennig yn cael ei gyfrif yn y ffigur o 15 os nad yw trosiant wythnosol y digwyddiad(au) yn fwy na £1000. Os yw'r trosiant wythnosol yn fwy na £1000, yna nid yw'r digwyddiad arbennig hwnnw neu'r digwyddiadau hynny yn ddigwyddiadau ar raddfa fach a byddant yn cyfrif tuag at y lwfans 15 digwyddiad o'r un fath yn yr un lleoliad.

67. Os nad yw digwyddiad wedi'i gynnwys o dan unrhyw un o'r consesiynau neu'r esgusodiadau hyn yna gellir cael gostyngiad treth o hyd os yw corff ar wahân yn cynnal y digwyddiad ac yn rhoi'r elw i elusen trwy gyfrwng Cynllun Rhodd Cymorth.

All yr elusen gynnal y digwyddiad?

68. Mae asedau elusen wedi cael eu rhoi ar gyfer ei dibenion elusennol, ac ni ddylent fod yn agored i unrhyw berygl neu golled ddifrifol neu sylweddol o weithgareddau codi arian. Ni fydd peryglon a allai fod yn dderbyniol yn fasnachol fod yn dderbyniol o anghenraid i elusen ymgymryd â nhw yn uniongyrchol.

69. Felly cynghorwn ymddiriedolwyr yn gryf i geisio cyngor proffesiynol priodol cyn ymgymryd ag unrhyw ddigwyddiadau codi arian sylweddol. Dyma'r achos yn arbennig os yw trosiant y digwyddiad yn debygol o fod yn fwy na'r uchaf o naill ai £5000 neu 25% o incwm yr elusen, yn amodol ar derfyn cyffredinol o £50,000. Fel rheol bydd yn briodol i'r holl weithgareddau graddfa fawr gael eu cynnal gan is-gwmni masnachu yn hytrach na'r elusen ei hun.

70. Er enghraifft, gall digwyddiadau ar raddfa fawr fel cyngherddau enwogion, digwyddiadau chwaraeon etc fod yn ffordd werthfawr o godi arian. Ond mae profiad yn dangos eu bod yn cynnwys elfen o risg hefyd, ac fel rheol ni ddylai ymddiriedolwyr elusen ymgymryd â gweithgareddau o'r fath o fewn yr elusen. Yn lle hynny, gall is-gwmni masnachu'r elusen ymgymryd â nhw, ac mae'r elusen wedi'i diogelu rhag y risg o golled. Felly gall elusennau fanteisio'n llawn o hyd ar drefn dreth ffafriol yr is-gwmni masnachu sydd ym mherchnogaeth lawn yr elusen sy'n talu ei holl elw i elusen a gaiff ei drethu yn yr un ffordd ag elusen.

Atodiad A - Ffynonellau cyngor

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cynhyrchu canllaw, o'r enw Codi Arian Elusennol: Cyfraniad Proffesiynol a Masnachol, sy'n esbonio'r rheolau yn fanwl. Gellir prynu copïau o'r Llyfrfa - ISBN 0-11-341133-2. Ffôn: 0870 600 5522.

Mae'r Sefydliad Codi Arian wedi cynhyrchu ffurfiau enghreifftiol o gontractau i'w defnyddio gyda chodwyr arian proffesiynol a chyfranogwyr masnachol. Fe welwch y rhain ar wefan y Sefydliad Codi Arian.

Mae'r sefydliadau canlynol yn darparu arweiniad neu godau ymarfer a allai fod yn ddefnyddiol:

Comisiwn Hapchwarae

Adran Lotrïau
4ydd Llawr
Victoria Square House
Victoria Square
Birmingham
B2 4BP
Ffôn: 0121 230 6666
Ffacs: 0121 233 6720
Gwe: www.gamblingcommission.gov.uk

Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol

Regent's Wharf
8 All Saints Street
Llundain N1 9RL
Ffôn: 0800 2798 798

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Tŷ Baltig
Sgwâr Mount Stuart
Bae Caerdydd
Caerdydd CF10 5FH
Ffôn: 029 2043 1700
Desg gymorth: 0800 2888 329

Cyllid a Thollau EM

- gweler o dan Cyllid a Thollau EM yn y cyfeirlyfr ffôn lleol

Directory of Social Change

24 Stephenson Way
Llundain NW1 2DP
Ffôn: 0845 77 77 07
Gwefan: www.dsc.org.uk

HMRC Charities

St John's House
Merton Road
Bootle
Glannau Mersey L75 9BB
Ffôn: 0845 302 0203

Institute of Fundraising

Park Place12
Lawn Lane
Llundain SW8 1UD
Ffôn: 020 7840 1000
Gwe: www.institute-of-fundraising.org.uk

Atodiad B - Rhestrau Gwirio

Rhestr wirio ar gyfer cytundeb â chodwr arian proffesiynol

Gall y canlynol fod o gymorth i ymddiriedolwyr pan fyddant yn ystyried cynnwys cytundeb â chodwr arian proffesiynol:

  • oes enw da gan y codwr arian? All elusennau eraill ddarparu geirda? Ydy ef neu hi yn aelod o'r Sefydliad Codi Arian?
  • oes cyfnod o rybudd wedi'i nodi sy'n golygu y gall yr ymddiriedolwyr derfynu'r cytundeb os nad ydynt yn hapus â'r codwr arian? Beth yw cyfnod y rhybudd? Dylai ymddiriedolwyr osgoi ymrwymo eu hunain i gyfnodau hir o rybudd. Dylai rhwng un a thri mis fod yn gyfnod digonol yn y rhan fwyaf o achosion;
  • ydy'r dull y bwriada'r codwr arian ei ddefnyddio yn debygol o fod yn annymunol i'r cyhoedd neu gefnogwyr yr elusen? Mae dulliau o'r fath yn gwbl gyfreithiol yn aml ac ni allwn orfodi unrhyw awgrym i'w hatal;
  • ydy nodau masnach, a hawliau eiddo deallusol eraill y sefydliad elusennol a welir ar logos, gwaith celf etc wedi'u diogelu gan y cytundeb?
  • ydy unrhyw fylchau casglu y mae'r codwr arian yn eu cael yn eiddo'r elusen? Pa reolaeth sydd gan yr ymddiriedolwyr dros leoliad, gwacáu a beth sy'n digwydd i'r blychau ar ddiwedd y cytundeb?
  • oes angen diogelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol am y sefydliad elusennol y mae'r codwr arian wedi'i chael (hy, peidio â'i datgelu heb ganiatâd y sefydliad?)
  • a ddylai fod tâl sefydlog yn y cytundeb ar gyfer talu'r codwr arian neu a ddylai gael ei gyfrifo yn rhannol neu'n gyfan gwbl fel canran o'r arian a godir? (Os mai'r olaf a ddefnyddir, dylai ymddiriedolwyr gofio po fwyaf yr arian a gesglir, y mwyaf y gall y codwr arian ei hawlio - os yw'r swm yn ymddangos yn swm mawr, gall hyn greu cyhoeddusrwydd drwg);
  • os yw'r elusen yn defnyddio tŷ cwblhau i brosesu taliadau a dderbynnir, a fydd yr arian yn cael ei ddal mewn cyfrif ar wahân sy'n benodol i'r sefydliad elusennol er mwyn iddo gael ei gyfrif amdano yn briodol? Fel arall, all yr arian gael ei gyfeirio at gyfrif sydd o dan reolaeth lwyr yr ymddiriedolwyr?

Rhestr wirio ar gyfer cytundeb â chyfranogwr masnachol

Gall y canlynol fod o gymorth i ymddiriedolwyr pan fyddant yn ystyried cynnwys cytundeb â chyfranogwr masnachol:

  • oes cyfnod o rybudd wedi'i nodi sy'n golygu y gall yr ymddiriedolwyr derfynu'r cytundeb os nad ydynt yn hapus â'r codwr arian? Beth yw cyfnod y rhybudd? Dylai ymddiriedolwyr osgoi ymrwymo eu hunain i gyfnodau hir o rybudd. Dylai rhwng un a thri mis fod yn gyfnod digonol yn y rhan fwyaf o achosion;
  • ydy nodau masnach, a hawliau eiddo deallusol eraill y sefydliad elusennol a welir ar logos, gwaith celf etc wedi'u diogelu gan y cytundeb?
  • ydy'r cytundeb gyda gweithgynhyrchydd neu'r adwerthwr? Gall fod yn ddefnyddiol i wneud y sefyllfa'n glir yn y cytundeb.

Mae cyngor mwy cynhwysfawr gan y Sefydliad Codi Arian i elusennau sy'n arwyddo cytundebau gyda chodwyr arian proffesiynol a chyfranogwyr masnachol. Fe welwch fanylion pellach ar ei wefan.

Newidiadau pwysig ers y fersiwn blaenorol o'r canllaw hwn

Mae'r prif newidiadau yn y fersiwn hwn o'i gymharu â'r fersiwn blaenorol (Gorffennaf 2004) yn adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Elusennau 2006 ac maent yn ymwneud â'r canlynol:

  • cynnwys datganiadau deisyfu gan godwyr arian proffesiynol a chyfranogwyr masnachol;
  • gofynion newydd i weithwyr a swyddogion cyflogedig i wneud datganiadau deisyfu pan fyddant yn codi arian ar gyfer eu helusen;
  • y darpariaethau newydd sy'n effeithio ar apeliadau aflwyddiannus.

Mae mân newidiadau dilynol eraill wedi cael eu gwneud hefyd i gadw'r testun mor gyfoes â phosibl.

v 1.0.2