Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

CC20(a) - Elusennau a Chodi Arian: Crynodeb

(Version Mawrth 2002)


Cyflwyniad

Mae gwaith elusennol effeithiol yn dibynnu ar sicrhau adnoddau digonol. Mewn sawl achos, mae hyn yn dibynnu ar godi arian mewn ffordd effeithiol. Mae’n bwysig iawn bod ymddiriedolwyr yn rheoli dulliau codi arian mewn modd effeithlon ac economaidd. Dylid mabwysiadu’r safonau uchaf a dylid gweithredu systemau ar gyfer diogelu’r arian a godir.

Mae ein taflen CC20 Elusennau a Chodi Arian yn rhoi cyngor mwy manwl ar y pynciau a drafodir isod.

Codi Arian mewn ffordd Effeithiol

Yr ymddiriedolwyr sy’n penderfynu ar y dewis o ddulliau codi arian. Ond dylai elusennau sy’n cael eu cynnal gan roddion fod yn effro ac yn sensitif i farn a beirniadaeth gyhoeddus. Gall dulliau codi arian amhoblogaidd fod yn niweidiol i’r elusen a lleihau hyder y cyhoedd yn y sector cyfan.

Cyn gwneud unrhyw waith codi arian, mae’n hanfodol i dreulio amser yn datblygu strategaeth. Gall codi arian fod yn gostus ac mae’n bwysig sicrhau y bydd y costau yn cael eu cyfiawnhau.

Argymhellwn fod ymddiriedolwyr yn gofyn y cwestiynau canlynol:

  • faint o arian y mae angen ei godi?
  • a oes angen codi arian ar gyfer project arbennig, neu a yw’n rhan o raglen waith barhaus yr elusen? A fyddai’n bosib cydweithio ag elusennau eraill sy’n gweithio yn yr un maes?
  • oes modd cael grantiau gan y Llywodraeth leol neu ganolog, elusennau sy’n rhoi grantiau neu gwmnïau?
  • pa adnoddau sydd ar gael i gefnogi codi arian?
  • pa gyfran o’r derbynebion gros fydd yr elusen yn ei chadw ar ôl talu costau codi arian? Argymhellwn yn gryf y dylai ymddiriedolwyr gytuno ymlaen llaw ar y gyfran debygol o incwm a gwariant; monitro perfformiad yn erbyn y targed hwnnw; a bodloni eu hunain fod y gwariant yn cael ei gyfiawnhau.

Apeliadau ar gyfer Projectau Arbennig

Wrth ystyried apeliadau ar gyfer projectau arbennig, dylai ymddiriedolwyr feddwl am y pwyntiau canlynol:

  • mae’n rhaid i ddiben yr apêl gael ei fynegi’n glir. Mae’n rhaid i’r cyhoedd wybod a ydynt yn cyfrannu at broject arbennig, neu at waith cyffredinol yr elusen;
  • dylai fod cynlluniau i ddelio ag unrhyw arian dros ben, a dylai’r rhain gael eu hesbonio yn glir yn y llenyddiaeth codi arian;
  • mae’n rhaid rhoi cyfrif am unrhyw arian a godwyd ar gyfer yr apêl arbennig ar wahân;
  • lle’n bosib, pennwch ddyddiad ar gyfer diwedd yr apêl, yn enwedig os yw hyd yr apêl y tu allan i reolaeth yr ymddiriedolwyr;
  • dylai’r holl gyfraniadau, cyn belled â phosib, gael eu gwneud yn uniongyrchol i’r elusen a dylent fod dan reolaeth yr ymddiriedolwyr.

D.S. Os ydych yn cynnal apêl gyffredinol, dylid nodi’n glir unrhyw broject arbennig y sonnir amdano yn nogfen yr apêl fel enghraifft o waith yr elusen.

Darpariaethau Statudol Sy’n Rheoli Codi Arian

Casgliadau Stryd a Chasgliadau o Dyˆ i Dyˆ

Fel arfer bydd angen trwydded neu ganiatâd ar gyfer casgliadau stryd a chasgliadau o dyˆ i dyˆ oddi wrth naill ai’r awdurdod lleol priodol neu, os ydych yn Llundain, gan yr heddlu lleol neu Gyngor Cyffredin Dinas Llundain.

Mae’r term "casgliadau o dyˆ i dyˆ" hefyd yn cynnwys ymweld â thafarndai, ffatrïoedd a swyddfeydd i godi arian neu i werthu pethau, ar y sail y bydd rhan o’r elw yn cael ei rhoi i elusen.

Lotrïau

Mae dau brif fath o lotrïau sy’n berthnasol i elusennau, a reolir gan Ddeddf Lotrïau a Difyrion 1976 (fel y’i diwygiwyd):

  • mân lotrïau (a gynhelir fel rhan o arddwest etc) - nid oes rhaid cofrestru’r rhain gydag awdurdod lleol neu gyda’r Y Comisiwn Hapchwarae; a
  • lotrïau cymdeithasau - lotrïau cyhoeddus yw’r rhain ac mae’n rhaid iddynt gael eu cofrestru gyda’r awdurdod lleol neu’r Y Comisiwn Hapchwarae.

Codwyr Arian Proffesiynol A Chyfranogwyr Masnachol

Gall ymddiriedolwyr benderfynu codi arian trwy gyflogi codwr arian proffesiynol, neu drwy gymryd rhan mewn hyrwyddiad gyda chyfranogwr masnachol (fel y’i diffiniwyd yn adran 58 Deddf Elusennau 1992, fel y’i diwygiwyd). Os felly, mae angen iddynt fod yn ymwybodol o ddarpariaethau Rhan II Deddf Elusennau 1992, a Rheoliadau (Codi Arian) Cyrff Elusennol 1994 (a ddaeth i rym ar 1 Mawrth 1995) sy’n cynnwys gofynion ar gyfer:

  • cytundeb ysgrifenedig, mewn ffurf ragnodedig, rhwng yr elusen a’r codwr arian proffesiynol neu’r cyfranogwr masnachol;
  • datganiad clir i hysbysu darpar-roddwyr pa gyfran o’u rhodd fydd yn cael ei defnyddio i dalu costau’r codwr arian;
  • hysbysu’r cyhoedd ynglyn â sut y bydd yr elusen yn elwa o’i gwaith gyda’r cyfranogwr masnachol;
  • trosglwyddo arian a godwyd gan godwyr arian proffesiynol neu gyfranogwyr masnachol i’r elusen.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cynhyrchu canllaw manwl ar y rheoliadau newydd, sy’n cynnwys copi o’r Rheoliadau. Mae copïau ar gael gan y Llyfrfa pris £5.50, (Codi Arian Elusennol: Cyfraniad Proffesiynol a Masnachol - ISBN 0 11 341133 2).

Gwaharddiadau Er Mwyn Atal Codi Arian Heb Awdurdod

Dan y rheolau newydd a ddaeth i rym ar 1 Mawrth 1995, mae elusennau yn gallu ceisio gwaharddiad i atal codi arian heb awdurdod ar eu rhan.

Yn ôl Rhan II Deddf Elusennau 1992 a Rheoliadau (Codi Arian) Cyrff Elusennol 1994, os yw cyfranogwr masnachol neu godwr arian proffesiynol yn gweithredu heb ganiatâd yr elusen (neu yn unol â chytundeb nad yw yn y ffurf ragnodedig), gall y llys roi gwaharddiad yn erbyn codi arian.

Mae hefyd yn bosib i ymddiriedolwyr atal codi arian yn enw eu helusen:

  • os yw’r codwr arian yn defnyddio dulliau y mae’r elusen yn eu gwrthwynebu;
  • os nad yw’r codwr arian yn berson addas a phriodol i godi arian ar ran yr elusen;
  • os nad yw’r elusen yn dymuno fod yn gysylltiedig â’r fenter codi arian honno.

Mae canllaw y Swyddfa Gartref (y soniwyd amdano uchod) a’n canllaw CC20 Elusennau a Chodi Arian yn rhoi cyngor mwy cynhwysfawr.

Codi Arian A Threth

Nid oes rhaid talu’r rhan fwayf o fathau o dreth ar weithgareddau codi arian gan gynnwys treth incwm. Nid yw codi arian yn weithgaredd elusennol ynddo’i hun, hyd yn oed os yw’r dibenion neu gyrff y mae arian yn cael ei godi ar eu cyfer yn elusennol eu hunain. Er hynny, os yw arian yn cael ei roi, nid yw’n drethadwy fel arfer. Ond mae’n bosib y bydd rhwymedigaethau treth yn codi os yw arian yn cael ei godi trwy weithgaredd masnachu. Ceir rhai consesiynau ar gyfer digwyddiadau bach, er enghraifft marchnadfeydd, ffeiriau sborion a garddwestau, ac ar gyfer lotrïau. Gellir cael gwybodaeth fanwl gan Gyllid y Wlad.

Ffynonellau Cyngor

Gall elusennau gael cyngor ar achosion unigol o Ganolfan Gyswllt y Comisiwn ar 0845 300 0218 (codwyr arian proffesiynol ac ymholiadau codi arian cyffredinol).

  • Sefydliad Codi Arian (Institute of Fundraising), Park Place, 12 Lawn Lane, Llundain SW8 1UD.
    Ffôn: 020 7840 1000
  • Y Comisiwn Hapchwarae, Lotteries Section, Berkshire House, 168/173 High Holborn, Llundain WC1V 7AA.
    Ffôn: 020 7306 6200
  • Cyllid y Wlad (Cyllid y Wlad Elusennau), St. John's House, Merton Road, Bootle, Merseyside L69 9BB.
    Ffôn: 08453 020203

Cofiwch dim ond crynodeb yw hwn o’r arweiniad i ymddiriedolwyrelusennau. Cewch fwy o wybodaeth yng nghyhoeddiad y Comisiwn: “Elusennau a Chodi Arian” (CC20), sydd ar gael trwy ffonio einCanolfan Gyswllt ar 0845 300 0218.

Harmsworth House
13-15 Bouverie Street
Llundain
EC4Y 8DP
12 Princes Dock
Princes Parade
Lerpwl
L3 1DE
Woodfield House
Tangier
Taunton
Gwlad yr Haf
TA1 4BL

r 10/06