Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

CC22 - Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol

(Fersiwn Ebrill 2008)

Cynnwys

Am beth mae'r cyhoeddiad hwn?

1. Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnig arweiniad ar y canlynol:

  • y mathau gwahanol o ddogfennau llywodraethol y gallai elusen eu defnyddio;
  • ein darpariaethau safonol a argymhellir ar gyfer dogfennau llywodraethol, hy y darpariaethau y byddem yn disgwyl eu gweld fel rheol mewn dogfen lywodraethol;
  • y drefn ar gyfer mabwysiadu eich dogfen lywodraethol yn ffurfiol.

Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir

2. Yn y canllaw hwn:

Defnyddir rhaid neu angen i gyfeirio at gamau y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr, neu eu hasiantau neu eu gweithwyr, eu cymryd yn ôl y gyfraith.

Pan fyddwn yn defnyddio termau fel dylai'r ymddiriedolwyr neu awgrymwn, argymhellwn neu cynghorwn, cyfeiriwn at gamau y gallai'r ymddiriedolwyr, eu hasiantau neu eu gweithwyr, eu cymryd sy'n arfer da yn ein barn ni, ond nid yw'n ofynnol iddynt eu cymryd yn ôl y gyfraith.

Ystyr buddiolwyr yw'r bobl hynny sy'n gymwys i gael budd o'r elusen.

Ystyr Cronfa Ddata Elusennau yw'r Gofrestr Elusennau gyhoeddus gyfrifiadurol yng Nghymru a Lloegr.

Ystyr y Gofrestr Ganolog yw'r swyddfeydd lle y gellir gweld y Gronfa Ddata Elusennau.

Ystyr dogfen lywodraethol yw unrhyw ddogfen sy'n pennu dibenion elusen ac, fel arfer, y dull o'i gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, Cynllun y Comisiwn, neu'n ddogfen ffurfiol arall.

Mae Gorchymyn yn ddogfen gyfreithiol a ddefnyddiwn i roi pŵer i ymddiriedolwyr nad oes ganddynt eisoes i wneud rhywbeth, ee cynnwys pŵer diwygio yn nogfen lywodraethol yr elusen.

Ystyr gwaddol parhaol yw eiddo (ee, tir, adeiladau, buddsoddiadau, neu arian parod) na all yr ymddiriedolwyr ei wario fel petai'n incwm.

Mae tâl yn cynnwys taliadau arian parod, ac mae hefyd yn cynnwys buddiannau eraill.

Ystyr ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gyfrifol am reoli gweinyddiad cyffredinol yr elusen yn unol â dogfen lywodraethol yr elusen. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, ymddiriedolwyr rheoli, aelodau pwyllgor, llywodraethwyr, neu gyfarwyddwyr, neu gall fod enw arall arnynt.

Mae gan rai elusennau ymddiriedolwyr gwarchod neu ymddiriedolwyr daliannol hefyd, ac mae eu rôl wedi'i chyfyngu i ddal eiddo'r elusen. Gallant weithredu yn ôl cyfarwyddiadau cyfreithlon yr ymddiriedolwyr elusen yn unig.

Beth yw dogfen lywodraethol?

3. Dogfen lywodraethol yw'r ddogfen ffurfiol sy'n sefydlu elusen ac argymhellwn ei bod yn cynnwys yr holl wybodaeth am:

  • yr hŷn y sefydlwyd yr elusen i'w wneud (amcanion);
  • sut y bydd yr elusen yn cyflawni'r pethau hŷn (pwerau);
  • pwy fydd yn ei rhedeg (ymddiriedolwyr elusen);
  • beth sy'n digwydd os oes rhaid gwneud newidiadau i'r darpariaethau gweinyddol (darpariaeth ddiwygio); a
  • beth sy'n digwydd os yw'r elusen am ddirwyn i ben (darpariaeth ddiddymu).

4. Hefyd, dylai gynnwys y darpariaethau gweinyddol canlynol:

  • sut bydd yr ymddiriedolwyr elusen yn ei rhedeg; a'r
  • trefniadau mewnol ar gyfer cyfarfodydd, pleidleisio, delio ag arian, ac ati.

5. Mae'n amlwg bod dogfen lywodraethol yn bwysig. Nid yw'n rhywbeth y mae'n rhaid i elusen ei gael dim ond er mwyn bod yn elusen gofrestredig. Hon yw 'llawlyfr' yr ymddiriedolwyr elusen, yn ogystal â bod yn ddogfen gyfreithiol. Cynghorwn ymddiriedolwyr elusen i gyfeirio ati yn gyson er mwyn atgoffa eu hunain am ddibenion yr elusen a sut y dylai gael ei rheoli. Dylai pob ymddiriedolwr gael copi llawn o'r ddogfen lywodraethol pan gânt eu penodi.

Mathau o ddogfennau llywodraethol

6. Mae tri phrif fath o ddogfen lywodraethol, a bydd y math a ddewiswch yn pennu pa fath o sefydliad fydd yr elusen. Y tri phrif fath o ddogfen lywodraethol yw:

Ein dogfennau llywodraethol enghreifftiol

7. Rydym yn cynhyrchu ffurfiau enghreifftiol o'r mathau hŷn o ddogfennau llywodraethol:

  • Cwmnïau Elusennol: Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu Enghreifftiol - GD1.
  • Ymddiriedolaethau Elusennol: Gweithred Ymddiriedolaeth Enghreifftiol - GD2.
  • Cymdeithasau Enghreifftiol: Cyfansoddiad Enghreifftiol - GD3.

8. Mae ein dogfennau enghreifftiol yn cynnwys darpariaethau gweinyddol sy'n addas ar gyfer pob un o'r sefydliadau hŷn. Ond rhaid i unrhyw un sy'n defnyddio'r dogfennau enghreifftiol hŷn ychwanegu amcanion y sefydliad, cwblhau bylchau gwag mewn rhai cymalau, dewis rhai cymalau lle mae opsiynau ar gael ac ystyried addasrwydd y cymalau yn gyffredinol i amgylchiadau unigol y sefydliad. Mae copïau o'r dogfennau enghreifftiol hŷn ar gael, yn rhad ac am ddim, ar ein gwefan neu drwy ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218.

9. Hefyd, mae Cymdeithas y Gyfraith Elusennau yn cynhyrchu dogfennau llywodraethol enghreifftiol a chodir tâl am y rhain. Er mwyn archebu copïau o ddogfennau llywodraethol y Gymdeithas anfonwch e-bost at weinyddydd y Gymdeithas ar admin@charitylawassociation.org.uk.

Dogfennau llywodraethol cymeradwy

10. Mae rhai elusennau cenedlaethol mawr yn cynhyrchu dogfen lywodraethol gymeradwy y gall sefydliadau sy'n gysylltiedig â'r elusen honno ei defnyddio. Mae'r dogfennau llywodraethol cymeradwy hŷn yn cynnwys amcanion y cytunwyd arnynt a darpariaethau gweinyddol sy'n benodol i fath arbennig o sefydliad. Fe welwch restr o sefydliadau y cytunwyd ar ddogfen lywodraethol gymeradwy ar eu cyfer ar ein gwefan.

A fydd mabwysiadu dogfen lywodraethol enghreifftiol neu gymeradwy yn cyflymu cais i gofrestru?

11. Bydd. Mae'r drefn ar gyfer sefydliadau sy'n mabwysiadu dogfen lywodraethol gymeradwy yn llawer symlach oherwydd bod yr amcanion a'r darpariaethau gweinyddol wedi cael eu cytuno eisoes. Bydd yn ofynnol i sefydliadau sy'n defnyddio dogfen lywodraethol gymeradwy gadarnhau eu bod wedi cysylltu â'r corff cenedlaethol priodol ynghylch defnyddio'r ddogfen honno, ac y byddant yn gweithredu o fewn y canllawiau a gyhoeddwyd gan y corff hwnnw. Nid oes rhaid i ni ystyried ceisiadau o'r fath mor fanwl ag y byddai'n rhaid i ni wneud fel arall, gan ein bod yn hollol ymwybodol o weithgareddau'r sefydliadau hynny eisoes.

12. Yn yr un modd, bydd sefydliadau sy'n mabwysiadu un o'n dogfennau llywodraethol enghreifftiol yn haws i'w hystyried oherwydd bod y darpariaethau gweinyddol wedi cael eu cytuno arnynt eisoes, ond bydd rhaid ystyried gweithgareddau'r sefydliad a'r amcanion a ddatgenir yn y ddogfen honno. Os yw sefydliad eisiau cael ei gydnabod fel elusen rhaid iddo gael amcanion sy'n elusennol yn unig. Cydnabyddwn y gall fod yn anodd paratoi amcanion elusennol. I'ch helpu i baratoi eich dogfen lywodraethol rydym wedi cyhoeddi rhai amcanion enghreifftiol ar gyfer amrywiaeth o elusennau ar ein gwefan.

13. Cyn defnyddio naill ai ddogfen lywodraethol gymeradwy neu un o'n dogfennau llywodraethol enghreifftiol, bydd angen i chi ystyried a yw'n addas i'ch sefydliad chi.

Pryd i ddefnyddio cyfansoddiad neu reolau

Pa fath o sefydliad sy'n cael ei greu gan gyfansoddiad neu reolau?

Math o sefydliad: Cymdeithas anghorfforedig

Fel arfer gelwir yr ymddiriedolwyr elusen yn: Aelodau pwyllgor gwaith neu bwyllgor rheoli

14. Weithiau cyfeirir at gyfansoddiadau fel 'rheolau'. Mae'r termau yn gyfnewidiol ond mae'r math o ddogfen lywodraethol yr un peth. Bydd cyfansoddiad neu reolau yn creu cymdeithas anghorfforedig.

15. Mae'r gair 'cymdeithas' yn y disgrifiad hwn yn golygu ei fod yn sefydliad sy'n cynnwys grwp o bobl sydd wedi penderfynu cydweithredu i hybu'r hŷn y ffurfiwyd y sefydliad i'w wneud, ac mae rolau arbennig ganddynt i'w chwarae yn ei weinyddiad.

16. Mae'r gair 'anghorfforedig' yn y disgrifiad yn dweud wrthych nad yw'r sefydliad yn gwmni (sy'n gorfforedig). Mae hŷn yn golygu:

  • ni fydd gan y gymdeithas (yn wahanol i gwmni) atebolrwydd cyfyngedig a phersonoliaeth gyfreithiol ei hun (hy, gall yr ymddiriedolwyr elusen fod yn atebol i ad-dalu unrhyw ddyledion a ddaw iddynt ar ran yr elusen: gellir talu dyledion o'r fath o arian yr elusen ei hun (os oes digon o arian) oni bai fod yr ymddiriedolwyr elusen heb weithredu'n ddoeth, yn gyfreithlon, ac yn unol â dogfen lywodraethol yr elusen);
  • ni fydd y gymdeithas yn gallu berchen ar dir (a buddsoddiadau fel arfer) yn ei enw ei hun. Bydd angen iddi benodi naill ai ymddiriedolwr(wyr) gwarchod neu ymddiriedolwr(wyr) daliannol i wneud hŷn.

Pa sefydliadau sy'n defnyddio'r math hwn o strwythur?

17. Gall fod yn briodol i ffurfio sefydliad anghorfforedig os yw un neu ragor o'r canlynol yn berthnasol:

  • bydd y sefydliad yn eithaf bach o ran asedau;
  • bydd y sefydliad yn gangen leol o elusen genedlaethol, ac mae cyfansoddiad cymeradwy yn bodoli ar gyfer canghennau;
  • mae ganddi aelodaeth;
  • mae'r ymddiriedolwyr elusen yn cael eu hethol neu eu penodi i ddal swydd am gyfnod penodedig - blwyddyn fel arfer;
  • bydd yr ymddiriedolwyr elusen yn cael eu hethol gan aelodau;
  • rhaid i farn trigolion lleol, cynghorau lleol a chyrff eraill gael eu cynrychioli trwy gyfrwng aelodaeth, neu fel defnyddwyr y cyfleusterau; a
  • bydd amcanion y sefydliad yn cael eu cyflawni yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan, neu drwy, yr aelodau (hy, lle mae'r aelodau yn ymgymryd â swydd neu'n gwneud gwaith gwirfoddol ar ran y sefydliad).

Oes angen ymgynghorydd cyfreithiol proffesiynol arnoch?

18. Yn gyffredinol, nac oes. Gan fod cyfansoddiad yn ddogfen symlach na gweithred ymddiriedolaeth neu femorandwm ac erthyglau cymdeithasu, efallai na fydd angen cymorth ymgynghorydd cyfreithiol proffesiynol arnoch i'w sefydlu. Argymhellwn ddarpariaethau safonol ar gyfer cyfansoddiad ac amlinellir y rhain ym mharagraff 45.

Sut mae cyfansoddiad yn cael ei weithredu?

19. Fel rheol, caiff ei weithredu trwy gael ei fabwysiadu (ei dderbyn i'w ddefnyddio) mewn cyfarfod ffurfiol o'r bobl hynny sydd, neu a fydd yn ymddiriedolwyr elusen a'r aelodaeth gyffredinol. Mae hŷn yn golygu y bydd gofyn i chi gael fersiwn teipiedig terfynol o'r cyfansoddiad a ddylai:

  • gael ei arwyddo gan bob un o'r ymddiriedolwyr elusen, ee aelodau'r pwyllgor;
  • cael ei ddyddio ar ddyddiad diwrnod y cyfarfod lle y cytunwyd arno.

20. Hefyd, bydd angen i gofnodion y cyfarfod hwnnw gofnodi'n ffurfiol bod y cyfansoddiad wedi cael ei fabwysiadu.

Pa ddogfennau sydd eu hangen i gofrestru?

21. Mae angen y canlynol arnom:

  • copi wedi'i gwblhau o'r ffurflen gais a'r datganiad; a
  • chopi o'r cyfansoddiad.

Os gofynnwn i chi newid y ddogfen lywodraethol cyn y gallwn ystyried cofrestru'r sefydliad yna bydd angen naill ai:

  • copi o'r cyfansoddiad yn dangos yr HOLL newidiadau yr ydym wedi gofyn amdanynt;
  • cadarnhad o ddyddiad cyfarfod yr aelodau lle y cafodd yr HOLL newidiadau hŷn eu cymeradwyo a'u mabwysiadu.

neu

  • gopi o'r cyfansoddiad gwreiddiol; a
  • chopi o'r penderfyniad sy'n nodi'r holl newidiadau gofynnol; a
  • chadarnhad o ddyddiad cyfarfod yr aelodau a gymeradwyodd y newidiadau.

22. Mae'n llawer gwell i bawb dan sylw os yw fersiwn newydd o'r cyfansoddiad diwygiedig yn cael ei darparu. Mae hŷn yn golygu y gall y pwyllgor, yr aelodau, y Comisiwn a'r cyhoedd weld yn union sut mae'r sefydliad yn gweithredu.

Pryd i ddefnyddio gweithred ymddiriedolaeth

Pa fath o sefydliad sy'n cael ei greu gan weithred ymddiriedolaeth?

Math o sefydliad: Ymddiriedolaeth

Gelwir yr ymddiriedolwyr elusen yn: Ymddiriedolwyr

23. Bydd gweithred ymddiriedolaeth yn creu ymddiriedolaeth. Ni all ymddiriedolaeth berchen ar dir neu arwyddo dogfennau yn ei henw ei hun. Bydd angen iddi ddarparu ar gyfer ymddiriedolwr(wyr) gwarchod neu ymddiriedolwr(wyr) daliannol os yw'r elusen yn bwriadu prynu tir neu ei roi ar brydles.

24. Gall fod enwau eraill ar weithredoedd ymddiriedolaeth, fel datganiad neu weithred ymddiriedolaeth, gweithred setlo, neu ymddiriedolaeth ewyllys.

Pa sefydliadau sy'n defnyddio'r math hwn o strwythur?

25. Gall fod yn briodol i sefydlu ymddiriedolaeth pan fydd rhai neu bob un o'r canlynol yn berthnasol:

  • bydd y sefydliad yn cael ei reoli gan grwp gweddol fach o bobl;
  • nid oes unrhyw derfyn amser ar ba mor hir y bydd ymddiriedolwyr elusen yn y swydd (ond argymhellwn fod cyfansoddiad corff yr ymddiriedolwyr yn cael ei adolygu'n rheolaidd);
  • bydd ymddiriedolwyr elusen newydd yn cael eu penodi gan yr ymddiriedolwyr elusen sy'n parhau yn y swydd;
  • ni fydd y sefydliad yn dibynnu ar aelodaeth ar gyfer unrhyw ran o'i weinyddiad;
  • bydd dull gweinyddu'r sefydliad yn syml;
  • bydd y sefydliad yn gorff sy'n rhoi grantiau yn unig;
  • bydd tir ac adeiladau yn cael eu dal ar ymddiriedolaeth i'w defnyddio'n barhaol at ddibenion yr elusen; a
  • bydd cyfyngiad ar gyfalaf gwario.

Oes angen ymgynghorydd cyfreithiol proffesiynol arnoch?

26. Mae gweithred ymddiriedolaeth yn ddogfen ffurfiol, felly efallai y bydd angen cymorth ymgynghorydd cyfreithiol proffesiynol arnoch i'w chwblhau a'i chyflawni. Argymhellwn ddarpariaethau safonol ar gyfer y math hwn o ddogfen lywodraethol, ac fe welwch y rhain ym mharagraff 45.

Sut mae gweithred ymddiriedolaeth yn cael ei weithredu?

27. Mae'n cael ei chyflawni: mae hŷn yn golygu bod angen i'r rheiny sy'n sefydlu'r ymddiriedolaeth ei harwyddo a'i dyddio, ger bron tyst annibynnol. Yna rhaid i'r tystion roi eu henw wrth ochr pob un o'r llofnodion a rhoi eu cyfeiriad. Diben hŷn yw dilysu hunaniaeth y rhai sy'n arwyddo.

28. Dylai'r weithred ymddiriedolaeth gyfeirio at swm penodol o arian neu ryw ased arall y bydd yr ymddiriedolaeth yn berchen arno adeg cyflawni'r weithred ymddiriedolaeth. Mae'n dderbyniol i swm nominal gael ei ddatgan, £5 neu £10 dyweder.

29. Os yw'r weithred ymddiriedolaeth yn datgan ymddiriedolaethau elusennol ond nid yw'n cyfeirio at unrhyw asedau arbennig a ddelir ar yr ymddiriedolaethau hynny adeg cyflawni'r weithred, dywedir ei bod "in vacuo". Ni fyddem yn cofrestru'r elusen oni bai a hyd nes yr oedd tystiolaeth annibynnol bod peth o'r eiddo wedi cael ei setlo ar ymddiriedolaethau'r weithred. Bydd rhaid bodloni'r gofyniad lleiaf ar gyfer cofrestru o hyd (hy, incwm blynyddol o £5,000 neu fwy).

Oes angen stampio'r weithred ymddiriedolaeth?

30. Ar gyfer gweithredoedd a gyflawnwyd ar ôl 1 Rhagfyr 2003 bydd yn dibynnu ar yr asedau sy'n cael eu dal ar ymddiriedolaeth. Os yw'r weithred yn datgan ymddiriedolaeth dros:

  • stociau a chyfranddaliadau, dylid ei hanfon i Swyddfa Stampio Caeredin Cyllid a Thollau EM, rhag ofn bod angen talu stampdoll;
  • budd mewn tir (hy, y rhydd-ddaliad neu'r lesddaliad), nid oes angen ei stampio - mae trefn ardystio ar wahân yn bodoli erbyn hŷn ar gyfer Treth Tir Stampdoll;
  • arian parod, ni fydd angen ei stampio.

Bydd angen stampio gweithredoedd a gyflawnwyd cyn 1 Rhagfyr 2003.

Cewch wybodaeth bellach ar wefan Cyllid a Thollau EM (www.hmrc.gov.uk) neu drwy ffonio llinell gymorth y Swyddfa Stampio: 0845 603 0135.

Pa ddogfennau sydd eu hangen i gofrestru?

31. Yn ogystal â'r ffurflen gais a'r ffurflen ddatganiad, sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn Cais i Gofrestru Elusen, rhaid darparu'r canlynol:

  • copi o'r weithred ymddiriedolaeth wedi'i dyddio sy'n dangos enwau'r ymddiriedolwyr elusen cyntaf a'r tystion i'w llofnodion;
  • tystiolaeth o ddyfarniad gan Swyddfa Stampio leol neu dystysgrif Treth Tir Stampdoll ddilys;
  • copïau o unrhyw weithredoedd atodol neu weithredoedd amrywiad sy'n dangos diwygiadau dilynol, wedi'u harwyddo a'u tystio'n briodol, sy'n dangos tystiolaeth o stampio os oes angen.

Pryd i ddefnyddio memorandwm ac erthyglau cymdeithasu

Pa fath o sefydliad sy'n cael ei greu gan femorandwm ac erthyglau cymdeithasu?

Math o sefydliad: Cwmni cyfyngedig drwy warant

Gelwir yr ymddiriedolwyr elusen yn: Bwrdd, cyngor rheoli neu gyfarwyddwyr

32. Mae memorandwm ac erthyglau cymdeithasu yn creu cwmni. Mae gan gwmni fantais dros ymddiriedolaeth a sefydliad anghorfforedig oherwydd ei fod yn 'gorfforedig'. Mae hŷn yn golygu ei fod yn cael ei ystyried yn berson yn ôl y gyfraith, yn yr un ffordd ag unigolyn. Felly, gall cwmni, fel unigolyn, berchen ar dir a llunio contractau yn ei enw ei hun.

33. Mae cwmni yn berson cyfreithiol sy'n hollol ar wahân i'w aelodau a'i gyfarwyddwyr (sydd, yn achos cwmnïau elusennol yn cael eu galw'n aelodau'r cyngor rheoli fel arfer). Y cyfarwyddwyr yw asiantau'r cwmni ac felly nid ydynt yn atebol yn bersonol fel rheol am ei ddyledion. Mae person sy'n gweithredu fel cyfarwyddwr tra ei fod wedi'i wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr yn cyflawni trosedd a gall fod yn atebol yn bersonol. Gall cyfarwyddwr fod yn atebol i wneud taliadau i'r cwmni:

  • os yw ef neu hi yn gweithredu'n groes i ymddiriedolaeth neu ddyletswydd i'r cwmni; neu
  • os yw ef neu hi yn gyfrifol am fasnachu twyllodrus neu anghyfiawn gan y cwmni (adrannau 213/214 Deddf Methdaliad 1986).

34. Bydd 'atebolrwydd cyfyngedig' gan y cwmni hefyd sy'n golygu, yn achos cwmni elusennol arferol, fod ei aelodau yn atebol i dalu dyledion y cwmni dim ond i'r raddfa y maent wedi ymgymryd i'w gwarantu (y terfyn atebolrwydd a nodwyd yn y memorandwm cymdeithasu fel arfer yw swm nominal, ee £5).

35. Mae cwmni yn gweithredu yn ôl y gyfraith cwmnïau, yn ogystal â'r gyfraith elusennau, ac mae rhai dyletswyddau y mae'n rhaid ymgymryd â nhw, fel cyflwyno'r cyfrifon bob blwyddyn i'r Cofrestrydd Cwmnïau.

36. Ond, ni all cwmnïau elusennol byth fod yr un fath â chwmnïau masnachol. Prif ddiben cwmnïau masnachol yw gwneud elw i'w ddosbarthu i'w aelodau. Mae cyfansoddiad cwmni elusennol bob amser yn gwahardd dosbarthu elw i'r aelodau. Mae holl eiddo cwmni elusennol i'w ddefnyddio ar gyfer dibenion elusennol.

Pa sefydliadau sy'n defnyddio'r math hwn o strwythur?

37. Gall fod yn briodol i sefydlu cwmni os yw rhai neu bob un o'r canlynol yn berthnasol:

  • bydd y sefydliad yn weddol fawr;
  • bydd ganddo weithwyr;
  • bydd yn darparu gwasanaethau elusennol dan gytundebau;
  • bydd yn llunio contractau masnachol yn rheolaidd; a
  • bydd yn berchennog sylweddol tir rhydd-ddaliad neu dir ar brydles neu eiddo arall.

Oes angen ymgynghorydd cyfreithiol proffesiynol arnoch?

38. Oes, gan fod cwmni yn gweithredu'n unol â'r gyfraith cwmnïau (a all fod yn eithaf cymhleth) mae'n dra phosib y bydd angen cymorth ymgynghorydd cyfreithiol proffesiynol arnoch i'w sefydlu. Argymhellwn ddarpariaethau safonol ar gyfer y math hwn o ddogfen lywodraethol ac fe welwch y rhain ym mharagraff 45 isod.

Sut mae memorandwm ac erthyglau cymdeithasu yn cael ei weithredu?

39. Mae'n cael ei weithredu trwy gael un neu ragor o bobl i danysgrifio iddo yn unol â darpariaethau Rhan 1 Deddf Cwmnïau 1985 a thrwy gofrestru gyda'r Cofrestrydd Cwmnïau yn Nhy'r Cwmnïau a fydd yn darparu tystysgrif ymgorffori. Codir ffi am gofrestru cwmnïau gyda'r Cofrestrydd Cwmnïau. (Gallwch gysylltu â Thy'r Cwmnïau yng Nghaerdydd CF14 3UZ, ffôn 0870 333 3636 neu ar ei wefan yn www.companieshouse.gov.uk.)

Pa ddogfennau sydd eu hangen i gofrestru?

40. Yn ogystal â'r ffurflen gais a'r ffurflen ddatganiad, sydd wedi'u cynnwys yn y pecyn Cais i Gofrestru Elusen, rhaid darparu'r canlynol:

  • copi o'r memorandwm ac erthyglau cymdeithasu;
  • copi o'r dystysgrif ymgorffori; a
  • chopïau o unrhyw benderfyniadau arbennig sy'n dangos diwygiadau dilynol.

Paratoi dogfen lywodraethol

Paratoi dogfen lywodraethol ddrafft

41. Gallwch ddewis paratoi eich dogfen lywodraethol eich hun, gan ddilyn yr arweiniad a roddir ym mharagraffau 42 - 89. Mae Atodiad A yn cynnwys rhai cymalau enghreifftiol a all fod yn ddefnyddiol. Fel arall, efallai y byddai'n well gennych geisio cymorth proffesiynol, fel cyfreithiwr, neu gysylltu â sefydliad sy'n rhoi cyngor ar sefydlu elusennau, fel: y Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfreithiol InterChange; Sefydliad Cenedlaethol Gweithredu Gwirfoddol a Chymunedol (NAVCA); neu Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Gallwch gael manylion am sefydliadau o'r fath yng nghefn ein canllaw Cofrestru fel Elusen (CC21). Hefyd mae dogfennau llywodraethol sy'n cael eu cynhyrchu gennym ni, gan Gymdeithas y Gyfraith Elusennau a gan rai elusennau cenedlaethol mawr, ac mae'n bosib yr hoffech ddefnyddio un o'r rhain.

42. Wrth baratoi dogfen lywodraethol mae'n rhaid i chi sicrhau ei bod mewn ffurf dderbyniol pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru. Os ydych yn gwneud cais i gofrestru eich sefydliad fel elusen, byddwn yn ystyried a yw'ch dogfen lywodraethol yn cynnwys yr holl ddarpariaethau angenrheidiol i weinyddu eich sefydliad yn effeithlon.

43. Fe welwch arweiniad llawn a manwl ar ein darpariaethau safonol a argymhellir ar gyfer dogfennau llywodraethol isod ac awgrymwn eich bod yn cyfeirio at yr arweiniad hwnnw pan fyddwch yn barod i ddechrau paratoi eich dogfen lywodraethol. Mae rhestr wirio i'w chwblhau hefyd sydd wedi'i chynnwys ym mharagraffau 93-95.

Darpariaethau safonol a argymhellir

44. Mae rhai darpariaethau a argymhellwn i'w cynnwys mewn dogfen lywodraethol, naill ai oherwydd eu bod yn hanfodol i elusen neu oherwydd y byddant yn helpu ymddiriedolwyr elusen i reoli'r elusen yn effeithlon. Nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r holl ddarpariaethau hŷn gael eu cynnwys mewn dogfen lywodraethol ond rydym wedi nodi'r rhai sy'n adlewyrchu arferion da ac sy'n debygol o gynorthwyo ymddiriedolwyr i osgoi rhai o'r meini tramgwydd cyffredin sy'n codi wrth reoli elusen.

45. Amlinellir y darpariaethau hŷn isod yn yr un drefn yn fras ag y maent yn ymddangos fel arfer yn y rhan fwyaf o ddogfennau llywodraethol:

  • enw'r elusen;
  • amcanion (gan gynnwys manylion buddiolwyr);
  • pwerau;
  • ymddiriedolwyr elusen (gan gynnwys sut y cânt eu penodi);
  • cyfarfodydd a gweithrediadau ymddiriedolwyr elusen;
  • aelodaeth (ddim yn berthnasol i ymddiriedolaethau);
  • cyfrifon;
  • cyfrifon banc;
  • dim budd personol i ymddiriedolwyr;
  • dal tir a buddsoddiadau;
  • pŵer buddsoddi;
  • pŵer diwygio; a
  • phwer diddymu.

46. Esbonnir diben pob un o'r darpariaethau hŷn yn y paragraffau sy'n dilyn a rhoddir enghreifftiau o'r geiriad penodol y gellir ei ddefnyddio, yn ôl y math o ddogfen lywodraethol a ddewiswch, yn Atodiad A.

Enw'r elusen

Rhoi'r enw ar y Gronfa Ddata Elusennau

47. Fel rheol nodir enw'r elusen yn y ddogfen lywodraethol, a chaiff ei roi ar y Gronfa Ddata Elusennau pan gaiff yr elusen ei chofrestru. Ni ddylai'r enw a ddewiswyd fod yn dramgwyddus ac ni all fod yr un fath ag enw elusen sy'n bodoli, neu'n rhy debyg i enw elusen sy'n bodoli.

Pŵer i newid yr enw

48. Mae'n ddoeth cynnwys pŵer syml i'r ymddiriedolwyr elusen newid enw'r elusen gyda'n caniatâd ni yn y ddogfen lywodraethol.

Amcanion

Beth yw amcanion?

49. Mae'r amcanion yn nodi'r hŷn y sefydlwyd yr elusen i'w wneud. Felly dylent gael eu disgrifio'n glir ac yn ddiamwys yn y ddogfen lywodraethol, gan ddefnyddio geiriau sydd ag ystyr a dderbynnir yn gyffredinol. Gall elusen gael mwy nag un amcan.

50. Mae'n bwysig cofio bod:

  • rhaid i'r holl amcanion fod yn elusennol er budd cyhoeddus, oherwydd os nad yw unrhyw elfen ohonynt yn elusennol, ni ellir derbyn y sefydliad fel elusen oherwydd ni fydd yn elusennol yn unig;
  • dylai'r amcanion adlewyrchu'r hŷn y mae'r sefydliad yn bwriadu ei wneud; a
  • dylai'r amcanion fod yn ddealladwy.

I gael arweiniad ar yr hyn a olygir wrth gael amcanion sydd ‘er budd cyhoeddus, gweler ein cyhoeddiad Elusennau a Budd Cyhoeddus.

Disgrifio buddiolwyr

51. Os yw'r sefydliad am gynnig budd i garfan arbennig o'r cyhoedd yn hytrach na'r cyhoedd yn gyffredinol, awgrymwn eich bod yn egluro hŷn yn y cymal amcanion. Yn yr un modd, os nad yw'r sefydliad yn bwriadu cynnig budd i unigolion, awgrymwn fod hŷn yn cael ei egluro.

52. Os yw buddiannau'r sefydliad yn cael eu cyfyngu i ardal ddaearyddol arbennig, unwaith eto awgrymwn eich bod yn sôn am yr ardal yn y cymal amcanion. Ardal llywodraeth leol (sir, dosbarth, plwyf ac ati) yw'r un cliriaf a symlaf i'w mabwysiadu fel arfer.

53. Os ydych am gynnig budd i grwp ethnig penodol, bydd angen i chi fod yn ofalus wrth eirio'r amcanion. Er enghraifft, effaith Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 ar amcanion elusennau yw diystyru geiriau sy'n ymwneud â lliw yn y geiriad. Felly, mewn gwirionedd, byddai elusen sydd ag amcanion i hyrwyddo addysg ymhlith menywod duon yn elusen sy'n hyrwyddo addysg ymhlith menywod yn gyffredinol. Nid yw Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 yn effeithio ar enw'r elusen.

54. Os hoffech gyfyngu’r dosbarth o fudd heblaw drwy gyfeirio at ardal ddaearyddol, bydd angen i chi ystyried a yw'r cyfyngiadau yn rhesymol ac mae modd eu cyfiawnhau neu a fyddant yn cael effaith niweidiol ar y budd cyhoeddus sy'n debygol o ddeillio o'r amcanion. Nid yw cyfyngiadau i ryw neu hil arbennig yn dderbyniol oni bai fod y diben elusennol yn mynd i'r afael ag angen elusennol arbennig y grwp dan sylw, neu'n dilyn nod gyfreithlon er budd y gymuned gyfan.

Mynegi'r amcanion

55. Os ydych yn cael unrhyw anhawster i fynegi'r amcanion neu os ydych yn ansicr a yw'r amcanion rydych wedi'u dewis yn elusennoler budd cyhoeddus, awgrymwn eich bod yn ceisio cyngor gan eich ymgynghorwyr cyfreithiol cyn cwblhau'r ddogfen lywodraethol. I helpu gyda pharatoi amcanion, cyhoeddwyd rhai amcanion enghreifftiol ar ein gwefan. Mae'r rhain yn addas ar gyfer amrywiaeth o elusennau a gellir eu cynnwys mewn unrhyw fath o ddogfen lywodraethol. (Rhoddir enghreifftiau hefyd yn Atodiad A paragraff A2). Mae'n bwysig eich bod yn cynnwys pŵer i ddiwygio'r amcanion yn eich dogfen lywodraethol rhag ofn bod angen gwneud hŷn. Ymdrinnir â hŷn ym mharagraffau 82-89.

Pwerau

Beth yw pwerau?

56. Bydd angen i ymddiriedolwyr elusen y rhan fwyaf o elusennau gael rhai pwerau y gallant eu defnyddio i'w cynorthwyo i gyflawni amcanion yr elusen. Er enghraifft, os mai amcanion yr elusen yw gofalu am yr henoed sy'n sâl, efallai y bydd angen i'r ymddiriedolwyr elusen godi arian gan y cyhoedd tuag at y gost o brynu a chael offer ar gyfer adeilad i'w ddefnyddio fel cartref nyrsio. Yn ddiweddarach, efallai y bydd yr ymddiriedolwyr elusen am werthu'r adeilad hwnnw a phrynu un arall; neu efallai y bydd angen iddynt fenthyca arian i dalu am gost gwelliannau. Amlinellir rhai o'r pwerau a allai fod yn briodol mewn achosion o'r fath ym mharagraff A4 Atodiad A.

57. Awgrymwn eich bod yn ystyried yn ofalus pa bwerau y mae'n rhesymol i'r ymddiriedolwyr elusen ddisgwyl y bydd eu hangen arnynt a'u cynnwys yn y ddogfen lywodraethol. Gallai hŷn osgoi gorfod diwygio'r ddogfen lywodraethol yn ddiweddarach.

58. Mae'n bwysig osgoi drysu rhwng y pwerau a'r amcanion oherwydd nid yw'r pwerau yn elusennol eu hunain. Felly, fel arfer, caiff y pwerau eu datgan mewn cymal ar wahân yn dilyn y cymal amcanion (gweler paragraff A4 Atodiad A am enghraifft o sut y dylid gwahaniaethu rhwng yr amcanion a'r pwerau).

Ymddiriedolwyr elusen

Penodi ymddiriedolwyr elusen

59. Awgrymwn fod y ddogfen lywodraethol yn egluro faint o ymddiriedolwyr elusen gaiff eu penodi, a sut y cânt eu penodi. Fel rheol, mae naill ai'n penodi neu'n darparu ar gyfer penodi ymddiriedolwyr elusen cyntaf yr elusen.

60. Y sefydliad ei hun sy'n penderfynu sawl ymddiriedolwr elusen sy'n ateb ei anghenion orau. Ond, awgrymwn nad yw elusen yn penodi gormod o ymddiriedolwyr elusen a fydd efallai yn golygu bod cyfarfodydd yn anhylaw a bod gwneud penderfyniadau yn anodd. Ni ddylid ychwaith benodi nifer rhy fach sy'n golygu bod baich gwaith annheg yn cael ei roi arnynt. Fel canllaw cyffredinol, mae gan bob elusen o leiaf 3 ymddiriedolwr elusen fel arfer, ac mae'r rhan fwyaf o elusennau yn penderfynu bod rhwng 3 a 9 ymddiriedolwr elusen yn ddigonol.

61. Ar gyfer rhai elusennau (fel neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol) efallai y bydd angen darparu ar gyfer mwy na 9 ymddiriedolwr elusen, er mwyn i bob sefydliad lleol sy'n defnyddio cyfleusterau'r elusen yn rheolaidd gael cyfle i benodi rhai o'r ymddiriedolwyr elusen. Derbyniwn y gall y rheiny sy'n defnyddio cyfleusterau elusen fod yn ymddiriedolwyr elusen hefyd, er gwaetha'r ffaith y byddant yn cael budd o'r elusen, ar yr amod bod darpariaethau digonol ar gyfer delio ag unrhyw wrthdaro buddiannau a all godi. Mae Cynnwys Defnyddwyr: Buddiolwyr sy'n troi'n ymddiriedolwyr (CC24) yn rhoi mwy o arweiniad am hŷn.

62. Bydd pob sefydliad yn penderfynu pa ddull, neu gyfuniad o ddulliau penodi sy'n fwyaf priodol. Mae canllawiau pellach ar benodi ymddiriedolwyr sy'n gymwys i bob math o ddogfen lywodraethol i'w weld yn Atodiad A. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau cyffredinol ar ddewis a phenodi ymddiriedolwyr, Cael hyd i ymddiriedolwyr newydd: yr hŷn y mae angen i elusennau wybod (CC30), sydd ar gael ar ein gwefan neu drwy ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol.

Am faint fydd ymddiriedolwyr elusen yn y swydd?

63. Mae'n ddoeth i'r ddogfen lywodraethol nodi am sawl blwyddyn y caiff ymddiriedolwyr elusen eu penodi i'r swydd. Fel arall, gallai ymddiriedolwr elusen nad yw'n effeithiol mwyach barhau fel ymddiriedolwr elusen nes bod ef neu hi yn marw neu'n dewis ymddiswyddo. Mae penodiadau o 1 i 5 mlynedd yn arferol.

Cyfnodau gwahanol yn y swydd

64. I gynorthwyo i gael parhad yng ngweinyddiad yr elusen gall fod yn ddefnyddiol i'r ddogfen lywodraethol ddarparu ar gyfer ymddiriedolwyr i ddal swydd am nifer gwahanol o flynyddoedd. Trwy amrywio cyfnodau yn y swydd yn y ffordd hon byddwch yn osgoi sefyllfa lle mae holl benodiadau ymddiriedolwyr elusen yn dod i ben yr un pryd.

Ailbenodi

65. Fel arfer caiff ymddiriedolwyr elusen eu hailbenodi dim ond os yw'r rheiny sy'n gallu eu penodi yn fodlon mai nhw yw'r bobl orau i wasanaethu'r elusen. Hyd yn oed pan fydd ymddiriedolwyr sy'n ymddeol yn perfformio'n dda, ni ddylid anwybyddu'r cyfle i gael syniadau newydd. Wedi dweud hynny, gall darpariaeth sy'n caniatáu i unrhyw ymddiriedolwr elusen cymwys gael ei ailbenodi fod yn ddefnyddiol hefyd i gadw profiad gwerthfawr a sicrhau parhad.

Cyfarfodydd a gweithrediadau ymddiriedolwyr elusen

Darpariaethau gweinyddol arferol

66. Bydd ymddiriedolwyr elusen yn ei chael hi'n anodd i reoli eu helusen yn effeithlon oni bai fod y ddogfen lywodraethol yn darparu o leiaf fframwaith gweinyddol sylfaenol. Bydd y rhestr ganlynol o ddarpariaethau yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr elusen pob elusen. Ond nid yw'n rhestr gynhwysfawr, ac argymhellwn fod ymddiriedolwyr elusen yn ystyried a oes angen unrhyw ddarpariaethau ychwanegol neu beidio. Argymhellwn y dylai'r ddogfen lywodraethol ddatgan:

  • y nifer lleiaf o gyfarfodydd ymddiriedolwyr y dylai'r ymddiriedolwyr elusen eu cynnal bob blwyddyn yn ogystal â chynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol (CCB) - bydd hyd yn oed ymddiriedolwyr elusen fach yn cwrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn;
  • sut mae cyfarfodydd brys neu arbennig yn cael eu galw i drafod mater arbennig;
  • sut y trefnir pob cyfarfod yr ymddiriedolwyr elusen;
  • sut mae cadeirydd yn cael ei benodi;
  • hawl y cadeirydd i ail bleidlais neu bleidlais bwrw os yw nifer yr ymddiriedolwyr elusen sy'n pleidleisio o blaid ac yn erbyn penderfyniad yn gyfartal; a
  • nifer yr ymddiriedolwyr elusen sy'n rhaid bod yn bresennol er mwyn i'r cyfarfod fod yn ddilys (hy, nifer yr ymddiriedolwyr elusen sydd eu hangen i gael cworwm). Os oes 3, 4 neu 5 ymddiriedolwr elusen, awgrymwn y dylid cael cworwm o 2, ond os oes 6 ymddiriedolwr elusen neu ragor, byddem yn awgrymu y dylai'r cworwm gael ei ddatgan fel "3, neu un rhan o dair o'r holl ymddiriedolwyr elusen cyfredol, p'un bynnag sydd fwyaf". Argymhellwn nad yw'r nifer sydd ei angen i gael cworwm yn rhy uchel oherwydd gall hŷn arwain at anawsterau yn ddiweddarach wrth drefnu cyfarfodydd y gall nifer ddigonol o bobl eu mynychu. Mae arweiniad pellach ar gael yn Elusennau a Chyfarfodydd (CC48).

67. Os nad oes modd cynnwys y darpariaethau hŷn, dylid cynnwys pŵer i lunio rheolau o'r fath fel y bo angen i weinyddu'r elusen yn briodol (ond ni allant wrthwneud unrhyw bwerau neu gyfyngiadau yn y ddogfen lywodraethol).

Aelodaeth

Telerau aelodaeth

68. Mae aelodaeth gan sefydliadau sydd â chyfansoddiad neu femorandwm ac erthyglau cymdeithasu. Awgrymwn fod y ddogfen lywodraethol yn amlinellu pwy all fod yn aelod. Er enghraifft, gall gynnwys unigolion sydd â diddordeb yn unig, neu unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb - fel cwmnïau a sefydliadau eraill.

69. Awgrymwn hefyd fod y ddogfen lywodraethol yn nodi:

  • a oes unrhyw danysgrifiad i'w dalu;
  • sut mae pobl yn gwneud cais am aelodaeth a'r meini prawf ar gyfer eu derbyn;
  • a fydd unrhyw hawliau pleidleisio gan aelodau; a
  • sut y gellir terfynu aelodaeth (gweler paragraff 72).

70. Ar gyfer sefydliadau elusennol, fel rheol mae aelodaeth yn agored i unrhyw unigolion (18 oed neu'n hŷn), neu unrhyw gorfforaeth gorfforedig, neu gymdeithas anghorfforedig sydd â diddordeb mewn hybu'r amcanion elusennol. Mae'n bwysig egluro i'r aelodau bod rhaid iddynt ymarfer eu hawliau aelodaeth dim ond er budd yr elusen, ac nid er unrhyw fudd preifat a all fod ganddynt.

71. Mae rhai elusennau, yn enwedig y rheiny sy'n gweithio gyda phobl ifanc, yn dewis cael aelodaeth iau yn ogystal ag aelodaeth lawn i oedolion. Gall y ddogfen lywodraethol ddarparu ar gyfer hŷn ond argymhellwn fod darpariaethau yn egluro na all aelodau iau gael eu penodi i swydd ymddiriedolwr na chael hawliau pleidleisio. Ni all unrhyw un sy'n iau na 18 oed gael ei benodi yn ymddiriedolwr oni bai fod yr elusen yn gwmni cofrestredig.

Terfynu aelodaeth

72. Mae'n arfer da i derfynu aelodaeth unrhyw unigolyn neu sefydliad dim ond:

  • am reswm da a digonol; ac
  • os oes gan yr unigolyn neu'r sefydliad dan sylw yr hawl fel rheol i gael ei glywed, gyda ffrind os oes angen, cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Cyfarfodydd cyffredinol ac arbennig yr aelodau

73. Os yw dogfen lywodraethol yn darparu ar gyfer aelodaeth, argymhellwn ei bod hefyd yn darparu ar gyfer galw cyfarfodydd cyffredinol ac arbennig o'r aelodaeth yn ogystal â chyfarfodydd ymddiriedolwyr elusen a'r CCB. Fel arfer bydd darpariaethau o'r fath yn cynnwys:

  • cyfnod y rhybudd a'r dull o'i roi cyn y cyfarfod, a bydd y rhybudd fel rheol yn pennu'r amser, lleoliad a natur gyffredinol busnes y cyfarfod;
  • y cworwm: hynny yw, y nifer lleiaf o aelodau y mae'n rhaid iddynt fod yn bresennol er mwyn i'r cyfarfod fod yn ddilys. Er enghraifft "10 aelod, neu un rhan o ddeg o'r holl aelodau cyfredol, p'un bynnag yw'r mwyaf". Argymhellwn nad yw'r nifer sydd ei angen i gael cworwm yn cael ei osod yn rhy uchel oherwydd gallai arwain at anawsterau yn ddiweddarach wrth drefnu cyfarfodydd y gall nifer ddigonol o bobl ei fynychu; a
  • chymryd cofnodion a phleidleisio.

74. Mae canllawiau pellach i'w gweld yn Elusennau a Chyfarfodydd (CC48).

Cyllid

Cyfrifon

75. Rhaid i bob ymddiriedolwr elusen gydymffurfio â gofynion cyfrifyddu Deddf Elusennau 1993 sy'n berthnasol i lefelau incwm/gwariant eu helusen. Bydd gan elusennau sy'n gwmnïau ofynion cyfrifyddu ychwanegol dan y gyfraith cwmnïau.

76. Mae canllawiau pellach ar y gofynion cyfrifyddu i elusennau i'w gweld yn y cyhoeddiad Adroddiadau a Chyfrifon Elusennau: Yr hanfodion Ebrill 2008 (CC15a).

Cyfrifon Banc

77. Argymhellwn fod pob dogfen lywodraethol yn darparu ar gyfer sefydlu cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, ac yn gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer rheoli cyfrif(on) o'r fath - gan gynnwys hawl i arwyddo sieciau. Argymhellwn fod o leiaf ddau unigolyn yn arwyddo sieciau, a bod un ohonynt yn ymddiriedolwr. Cewch gyngor pellach yn Rheolaethau Ariannol Mewnol (CC8), ac arweiniad ar fancio electronig o dan 'Cyhoeddiadau a Chanllawiau' ar ein gwefan.

Dim budd personol i ymddiriedolwyr elusen

78. Mae'n egwyddor gyfreithiol hen sefydledig na ddylai ymddiriedolwr elusen gael ei roi mewn sefyllfa lle y gallai unrhyw fudd personol wrthdaro â'i ddyletswyddau fel ymddiriedolwr. Felly, ni ddylai ymddiriedolwr elusen fod mewn sefyllfa i gael budd personol o'i swydd fel ymddiriedolwr elusen. Mae'n bwysig bod ymddiriedolwyr elusen yn ymwybodol o'r ffaith hon, ac felly mae'n arferol i gynnwys cymal yn nogfen lywodraethol pob elusen i'w hatgoffa. Mae enghreifftiau o'r cymal hwn i'w gweld yn Atodiad A.

79. Os ydych yn bwriadu i un neu ragor o'r ymddiriedolwyr elusen gael budd mewn unrhyw ffordd, ee, trwy dderbyn tâl, bydd angen caniatâd penodol i wneud hŷn. Gweler Talu Ymddiriedolwyr Elusennau (CC11).

Dal tir a buddsoddiadau

Ymddiriedolwyr gwarchod ac ymddiriedolwyr daliannol

80. Os yw sefydliad am benodi ymddiriedolwr gwarchod neu ymddiriedolwyr daliannol i ddal tir a/neu fuddsoddiadau ar ei ran, argymhellwn fod y ddogfen lywodraethol yn gwneud darpariaethau ar gyfer y penodiadau hŷn.

Pŵer buddsoddi

81. Os yw sefydliad yn bwriadu dibynnu ar y pwerau buddsoddi statudol sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Ymddiriedolwyr 2000 nid oes angen cynnwys darpariaeth yn y ddogfen lywodraethol sy'n amlinellu'r pwerau hynny.

Pŵer diwygio

Rhesymau dros ei gynnwys

82. I'r rhan fwyaf o elusennau mae'n bwysig iawn bod y ddogfen lywodraethol yn esbonio'r drefn ar gyfer gwneud diwygiadau. Mae dau reswm am hŷn:

  • os ydym yn penderfynu, wrth ystyried eich cais, bod angen diwygio'r ddogfen lywodraethol cyn y gellir cofrestru'r sefydliad, bydd yr ymddiriedolwyr elusen (yn achos ymddiriedolaeth) neu'r aelodau (yn achos cymdeithas anghorfforedig) yn gallu gwneud y diwygiad hwnnw yn syml iawn (os nad oes pŵer diwygio, yr unig ddewis fydd dirwyn y sefydliad i ben a dechrau eto gyda dogfen lywodraethol newydd); ac
  • pan fydd elusen wedi cofrestru mae'n debyg y bydd achosion pan fydd angen gwneud rhai newidiadau i'r ddogfen lywodraethol i ateb anghenion sy'n newid.

83. Mae'r sefyllfa yn wahanol yn dibynnu ar ffurf y sefydliad, sef ymddiriedolaeth, cymdeithas anghorfforedig neu gwmni. Cewch fwy o arweiniad am hŷn yn y paragraffau nesaf.

Os nad oes unrhyw ddarpariaeth ddiwygio

Cyfansoddiadau

84. Os nad oes darpariaeth ddiwygio mewn cyfansoddiad, er ei fod yn bosib gwneud diwygiadau, gall fod yn broses anodd iawn. Mae tri dewis ar gael fel a ganlyn:

  • Gall penderfyniad unfrydol yr holl aelodau gael ei basio yn cytuno ar y diwygiadau. Ond, yn ymarferol gall fod yn anodd iawn, os nad yn amhosib, i gael pleidlais gan bob aelod a/neu gael consensws barn.
  • Os oes darpariaeth ddiddymu, gellir diddymu'r elusen a sefydlu elusen newydd, gyda dogfen lywodraethol sy'n cynnwys y diwygiadau priodol, a gall unrhyw asedau sy'n weddill gael eu trosglwyddo iddi. Ond, mae'n bosib y bydd angen ein caniatâd ni ar gyfer y cynnig hwn yn gyntaf. Mae hefyd yn broses weddol gymhleth a bydd yn golygu bod yr elusen yn cael rhif cofrestredig newydd.
  • Gall yr ymddiriedolwyr ddefnyddio'r pŵer diwygio statudol newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Elusennau 2006 i newid darpariaethau gweinyddu'r elusen. (Gweler ein canllaw gweithredol OG 45 a'r nodyn canllaw CSD-1342A ar ein gwefan i gael manylion ynghylch sut a phryd y gellir defnyddio'r pŵer hwn.)

85. Felly mae er lles yr elusen i ddarpariaeth ddiwygio gael ei chynnwys yn y cyfansoddiad er mwyn osgoi gorfod cymryd y camau hŷn.

Gweithred ymddiriedolaeth

86. Os nad oes unrhyw ddarpariaeth ddiwygio mewn gweithred ymddiriedolaeth, mae dau ateb posibl:

  • Os yw'r weithred ymddiriedolaeth yn cynnwys darpariaeth ddiddymu, a/neu nid oes gwaddol parhaol gan yr elusen, gall yr elusen ddiddymu a gellir sefydlu elusen newydd (gyda dogfen lywodraethol sy'n cynnwys y diwygiadau priodol), a gall unrhyw asedau sy'n weddill o'r elusen a ddiddymwyd gael eu trosglwyddo i'r elusen honno. Ond mae'n bosib y bydd rhaid cael ein caniatâd ni ar gyfer y cynnig hwn yn gyntaf. Mae hefyd yn broses weddol gymhleth a bydd yn golygu bod yr elusen yn cael rhif cofrestredig newydd.
  • Gall yr ymddiriedolwyr ddefnyddio'r pŵer diwygio statudol newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Elusennau 2006 i newid darpariaethau gweinyddu'r elusen. (Gweler ein canllaw gweithredol OG 45 a'r nodyn canllaw CSD-1342A ar ein gwefan i gael manylion ynghylch sut a phryd y gellir defnyddio'r pŵer hwn.)

87. Felly mae er lles yr elusen i ddarpariaeth ddiwygio gael ei chynnwys yn y weithred ymddiriedolaeth er mwyn osgoi gorfod cymryd y camau hŷn.

Pŵer diwygio i gwmni

88. Yn achos cwmni nid oes rhaid cynnwys pŵer diwygio yn y ddogfen lywodraethol. Mae'r gyfraith cwmnïau yn caniatáu i femorandwm ac erthyglau cymdeithasu gael ei ddiwygio gan yr aelodau. Ond, os yw diwygiad arfaethedig yn newid y cymal amcanion, neu unrhyw ddarpariaeth arall sy'n cyfeirio neu'n cyfyngu ar y defnydd o eiddo, rhaid cael ein caniatâd ysgrifenedig cyn y gellir rhoi'r diwygiad ar waith (adran 64 Deddf Elusennau 1993).

Darpariaethau lle mae'n rhaid cael ein caniatâd ni fel rheol i ddiwygio (pob dogfen lywodraethol)

89. Fel arfer bydd angen ein caniatâd ymlaen llaw ar gyfer cynnig i newid neu gynnwys unrhyw un o'r darpariaethau canlynol:

  • y ddarpariaeth amcanion;
  • y ddarpariaeth ddiwygio;
  • y ddarpariaeth ddiddymu; ac
  • unrhyw ddarpariaeth sy'n awdurdodi rhoi buddiannau i ymddiriedolwyr (ee, tâl neu yswiriant indemniad);
  • helaethu pŵer buddsoddi ymddiriedolwyr i ddileu cyfyngiad neu waharddiad penodol;
  • gwario gwaddoliad parhaol.

Pŵer diddymu

90. Mae'n bosib y daw amser, am ba bynnag rheswm, pan na fydd yr elusen yn gallu parhau i weithredu. Argymhellwn fod elusennau sydd heb unrhyw waddol parhaol yn nodi yn eu dogfen lywodraethol:

  • sut y gellir diddymu neu ddirwyn yr elusen i ben; a
  • beth sy'n digwydd i unrhyw asedau sy'n weddill ar ôl talu'r holl ddyledion a chyflawni'r holl rwymedigaethau. Ym mhob achos, rhaid defnyddio unrhyw asedau sy'n weddill at ddibenion elusennol sy'n cyd-fynd ag amcanion yr elusen.

Rhestr wirio dogfen lywodraethol

91. Gobeithio y bydd y rhestr wirio hon o gymorth i chi. Mae'n eich atgoffa o'r hŷn y mae'n rhaid i chi ei wneud i baratoi dogfen lywodraethol cyn ei hanfon atom.

Cyn dechrau......

92. Awgrymwn eich bod yn penderfynu pa fath o ddogfen lywodraethol sy'n fwyaf addas i'r sefydliad yr hoffech ei sefydlu. Peidiwch ag anghofio bod dogfennau llywodraethol enghreifftiol ar gael o'r Comisiwn neu Gymdeithas y Gyfraith Elusennau neu mae'n bosib bod elusen genedlaethol rydych am ymgysylltu â hi wedi cyhoeddi dogfen lywodraethol gymeradwy (gweler paragraff 10).

Darpariaethau safonol a argymhellir

93. Mae'r canlynol yn rhestr wirio o'r darpariaethau safonol a argymhellir ac y byddem fel rheol yn disgwyl i chi eu cynnwys yn eich dogfen lywodraethol. Ticiwch y blychau i ddangos pa rai rydych wedi'u cynnwys yn y ddogfen lywodraethol.

[] Enw'r elusen ac (yn achos ymddiriedolaeth neu gymdeithas anghorfforedig) pŵer i newid yr enw.

[] Amcanion sy'n egluro'r hŷn y mae'r sefydliad wedi'i ffurfio i'w wneud.

[] Pwerau, wedi'u gwahanu'n glir o'r amcanion.

[] Darpariaethau sy'n disgrifio sut y mae corff ymddiriedolwyr yr elusen yn cael ei sefydlu.

[] Darpariaethau sy'n delio â chyfarfodydd ymddiriedolwyr elusen a threfn y cyfarfodydd hynny, gan gynnwys pleidleisio a chworwm.

[] Darpariaethau ar gyfer aelodaeth (os yw'n briodol), gan gynnwys sut y gall rhywun fod yn aelod, a hawliau pleidleisio.

[] Darpariaethau ar gyfer cyfarfodydd a gweithrediadau aelodau, os yw'n briodol (ee, cyfarfodydd cyffredinol blynyddol, cyfarfodydd cyffredinol arbennig).

[] Darpariaethau i ddelio â chadw cyfrifon yr elusen a rheoli cyfrif banc yr elusen.

[] Ymddiriedolwyr i beidio â chael darpariaethau budd personol.

[] Darpariaeth ddiwygio (ac eithrio ar gyfer cwmni).

[] Darpariaeth ddiddymu.

94. Sylwch: bydd y darpariaethau uchod yn eich cynorthwyo i redeg yr elusen mewn ffordd effeithiol ac effeithlon. Os nad yw dogfen lywodraethol yn cynnwys rhai o'r gofynion lleiaf hŷn, byddwn yn gwrthod cofrestru'r sefydliad dim ond os yw statws elusennol y sefydliad yn cael ei effeithio.

Darpariaethau eraill a awgrymir

95. Mae'r canlynol yn rhestr o ddarpariaethau eraill a awgrymir y byddwch efallai am eu cynnwys yn eich dogfen lywodraethol, os ydynt yn berthnasol i'ch sefydliad. Ticiwch y blychau i ddangos pa rai rydych wedi'u cynnwys yn y ddogfen lywodraethol.

[] Darpariaethau ar gyfer dal tir, buddsoddiadau ac asedau eraill fel y nodir ym mharagraff 80 uchod.

[] Pwerau buddsoddi fel y nodir yn y cyhoeddiad Buddsoddi Cronfeydd Elusennol: Egwyddorion Sylfaenol (CC14).

[] Darpariaethau ar gyfer rhai buddiannau ariannol fel y nodir yn Talu Ymddiriedolwyr Elusennau (CC11).

[] Darpariaethau ar gyfer datrys anghydfodau rhwng aelodau, buddiolwyr ac ymddiriedolwyr a'r elusen.

Derbyn dogfen lywodraethol yn ffurfiol

  {mabwysiadu}   {cyfansoddiad?}
Ydych chi wedi {cyflawni} {eich} {gweithred ymddiriedolaeth?}
  {ymgorffori}   {memorandwm ac erthyglau cwmni?}

Ar ôl gwneud hynny, dylech gwblhau'r ffurflen gais a'r ffurflen ddatganiad (wedi'u cynnwys yn y pecyn Gwneud Cais i Gofrestru Elusen.)

Atodiad A: Darpariaethau enghreifftiol

A1. Mae ein dogfennau llywodraethol enghreifftiol yn cynnwys y darpariaethau lleiaf sy'n ofynnol. Os ydych yn paratoi eich dogfen lywodraethol eich hun, rydym yn hapus i chi gopïo rhai o'r cymalau air am air. Rydym wedi cynnwys ychydig o gymalau enghreifftiol ar gyfer swyddogaethau gweinyddol allweddol. Fel rheol bydd y rhain yn berthnasol i unrhyw fath o elusen (cwmni; ymddiriedolaeth neu gymdeithas), oni nodir fel arall.

Amcanion

A2. Nid yw ein henghreifftiau ni nac enghreifftiau Cymdeithas y Gyfraith Elusennau yn cynnwys geiriad enghreifftiol ar gyfer amcanion. Mae'r geiriad yn fater i'r ymddiriedolwyr gytuno arno. Ond, mae'n bwysig bod yr amcanion yn cael eu datgan mewn ffordd a ystyrir yn elusennol yn ôl y gyfraith. I helpu ymddiriedolwyr gyda'r dasg hon, a all fod yn anodd weithiau, rydym wedi cynnwys isod rai enghreifftiau o'r ffyrdd y bydd amcanion yn cael eu mynegi o bryd i'w gilydd, ond wrth gwrs, nid yw'r rhain yn ymdrin â phob sefyllfa; fe welwch fwy o enghreifftiau ar ein gwefan.

'Amcan yr elusen fydd'

(a) "Hyrwyddo addysg y cyhoedd ym maes [nodwch y maes astudio]"

(b) "Hybu iechyd corfforol a meddyliol y rheiny sy'n dioddef o [nodwch y cyflwr meddygol] yn [nodwch yr ardal o fudd] trwy ddarparu cymorth ariannol, cefnogaeth, addysg a chyngor ymarferol."

(c) "Hyrwyddo [nodwch sail y ffydd] [nodwch y ffydd] [nodwch y grefydd] er budd y cyhoedd yn unol â'r [datganiadau o gred sy'n ymddangos yn yr atodlen] [yr athrawiaethau canlynol....]."

A3. Mae ein hamrywiaeth o gyhoeddiadau Adolygu'r Gofrestr ar fathau gwahanol o weithgaredd elusennol hefyd yn cynnwys geiriad posib ar gyfer amcanion ac mae'n bosib y byddwch am ddefnyddio'r rhain. Mae'r rhain ynghyd ag amcanion enghreifftiol eraill ar gael ar ein gwefan neu trwy ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218.

Pwerau

A4. Argymhellwn fod y pwerau yn cael eu cynnwys mewn cymal ar wahân i'r rheiny sy'n mynegi'r amcanion. Dyma enghraifft o'r ffordd y gallwch wahaniaethu rhwng y pwerau a'r amcanion:

"Yn ogystal ag unrhyw bwerau eraill sydd [ganddynt, gan yr ymddiriedolwyr] [ganddi, gan yr elusen] gallant/gall ddefnyddio'r pwerau canlynol wrth hybu'r amcanion (ond nid ar gyfer unrhyw ddiben arall):

(1) codi arian. Pan fyddant yn defnyddio'r pŵer hwn, ni all yr ymddiriedolwyr ymgymryd ag unrhyw weithgaredd masnachu parhaol sylweddol a rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw reoliadau statudol perthnasol;

(2) prynu, cael ar brydles neu yn gyfnewid, llogi neu gaffael fel arall eiddo, a chynnal a chyflenwi offer i'w ddefnyddio;

(3) gwerthu, cael ar brydles, neu werthu fel arall y cyfan neu unrhyw ran o'r eiddo sydd ym mherchnogaeth yr elusen. Wrth ddefnyddio'r pŵer hwn mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr gydymffurfio fel y bo'n briodol ag adrannau 36 a 37 Deddf Elusennau 1993;

(4) benthyca arian a chael morgais ar y cyfan, neu unrhyw ran o'r eiddo y mae'r elusen yn berchen arno, fel gwarant ar gyfer ad-dalu'r arian a fenthycwyd. Rhaid i'r ymddiriedolwyr gydymffurfio fel y bo'n briodol ag adrannau 38 a 39 Deddf Elusennau 1993 (fel y'u diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006) os ydynt yn dymuno morgeisio tir y mae'r elusen yn berchen arno."

Cyfrifon, Adroddiad Blynyddol a Ffurflen Flynyddol

A5. Bydd Deddf Elusennau 2006, yn yr un modd â Deddf Elusennau 1993, yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob elusen gadw cyfrifon. Er mwyn gwneud y ddyletswydd hon yn glir i ddarpar ymddiriedolwyr, argymhellwn fod dogfennau llywodraethol yn cynnwys cyfeiriad penodol at hŷn. Er enghraifft:

"Bydd ymddiriedolwyr elusen yn cydymffurfio â gofynion cyfrifyddu Deddf Elusennau 2006, sy'n berthnasol i lefelau incwm/gwariant eu helusen, mewn perthynas â:

  • chadw cofnodion cyfrifyddu ar gyfer yr elusen;
  • paratoi cyfriflenni blynyddol ar gyfer yr elusen;
  • archwilio neu archwilio'n annibynnol cyfriflenni'r elusen;
  • paratoi Adroddiad Blynyddol a'i anfon ynghyd â'r cyfriflenni i'r Comisiwn Elusennau; a
  • pharatoi Ffurflen Flynyddol a'i hanfon i'r Comisiwn."

Sylwer: Yn achos cwmni awgrymwn fod y ddarpariaeth hon hefyd yn cynnwys y canlynol:

  • "caiff cyfrifon eu paratoi yn unol â darpariaethau Rhan VII Deddf Cwmnïau 1985."

Cyfrif banc

A6. Mae'n bwysig bod y ddogfen lywodraethol yn datgan yn benodol bod yr asedau yn cael eu dal yn enw'r elusen (ee, dylai'r cyfrif banc fod yn enw'r elusen, ac nid un neu ragor o'r ymddiriedolwyr unigol). Hefyd argymhellwn fod nifer y llofnodwyr ar gyfer sieciau ac ati wedi'i ddatgan yn glir.

Penodi ymddiriedolwyr

A7. Ar gyfer elusen a sefydlwyd fel cymdeithas anghorfforedig:

  • Mae'r cyfan neu'r rhan fwyaf o'r ymddiriedolwyr elusen yn cael eu penodi gan aelodau'r elusen yn ei chyfarfod cyffredinol blynyddol yn aml iawn. Fel arfer caiff yr ymddiriedolwyr elusen cyntaf eu henwi yn y ddogfen lywodraethol a rhoddir pŵer iddynt weinyddu'r elusen tan y cyfarfod cyffredinol blynyddol cyntaf. Gallai'r ymddiriedolwyr elusen cyntaf fod yn bobl (neu rai ohonynt) sy'n mabwysiadu'r cyfansoddiad neu'r rheolau yn ffurfiol. Mae geiriad addas ar gyfer y ddarpariaeth hon i'w weld yn ein cyfansoddiad enghreifftiol GD3 neu'r cyfansoddiad enghreifftiol CLA.

A8. Ar gyfer elusen a sefydlwyd fel ymddiriedolaeth:

  • Gwneir darpariaeth yn aml yn y ddogfen lywodraethol i bob ymddiriedolwr elusen newydd gael ei benodi trwy benderfyniad yr ymddiriedolwyr elusen eu hunain. Er enghraifft, os oes tri ymddiriedolwr elusen ac mae un ohonynt yn ymddiswyddo, mae'r ddau ymddiriedolwr elusen sy'n weddill yn dewis ac yn penodi'r ymddiriedolwr newydd gyda'i gilydd. Fel rheol mae'r bobl a fydd yn ymddiriedolwyr cyntaf yr elusen wedi'u henwi yn y ddogfen lywodraethol sy'n golygu y bydd ymddiriedolwyr elusen yno i reoli'r elusen yn syth ar ôl ei chreu.

A9. Ar gyfer elusen a sefydlwyd fel cwmni:

  • Mae'r cyfan neu'r rhan fwyaf o'r ymddiriedolwyr elusen yn cael eu penodi gan aelodau'r elusen yn ei chyfarfod cyffredinol blynyddol yn aml iawn. Yn yr achos hwn fel rheol mae'r ddogfen lywodraethol (memorandwm ac erthyglau cymdeithasu) yn darparu i'r bobl a enwir yn y datganiad a gyflwynwyd i'r Cofrestrydd Cwmnïau dan adran 10(2) Deddf Cwmnïau 1985 fod yn ymddiriedolwyr cyntaf yr elusen. Rhaid i'r datganiad gynnwys rhai manylion eraill (gweler Atodlen 1 y Ddeddf honno) am yr unigolion hynny, a rhaid iddo gael ei gyflwyno i'r Cofrestrydd Cwmnïau pan fydd cais yn cael ei gyflwyno i'r cwmni gael ei ymgorffori.

Dulliau eraill o benodi

A10. Ond, mae'n bosib eich bod yn dymuno penodi'r ymddiriedolwyr elusen, neu rai ohonynt, mewn ffordd arall. Er enghraifft:

  • gan sefydliadau sydd â chysylltiad agos â gwaith yr elusen (fel awdurdod lleol neu elusen arall);
  • neu gan yr ymddiriedolwyr elusen eraill sy'n dal swydd (mae ymddiriedolwyr elusen a benodir yn y ffordd hon yn cael eu galw'n 'ymddiriedolwyr elusen cyfetholedig' fel arfer); neu
  • efallai y teimlwch ei fod yn briodol i gael un neu ragor o ymddiriedolwyr ex-officio. (Mae ymddiriedolwr ex-officio yn un sy'n ymddiriedolwr elusen cyhyd â bod ef neu hi yn dal swydd arbennig (ee, maer tref leol neu weinidog eglwys leol a enwir)). Mae'r un dyletswyddau a chyfrifoldebau ganddynt ag ymddiriedolwyr eraill.

Dim budd personol i ymddiriedolwyr

A11. Oherwydd bod swydd ymddiriedolwr yn wirfoddol yn ei hanfod rhaid i'r ddogfen lywodraethol gynnwys datganiad clir ynglŷn â gallu ymddiriedolwyr i gael budd o'r elusen. Awgrymwn fod y cymal canlynol yn ei ddefnyddio ar gyfer elusennau nad ydynt yn gwmnïau:

"Ac eithrio â chaniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw y Comisiwn Elusennau ni all unrhyw ymddiriedolwr:

  • gael unrhyw fudd ar ffurf arian neu ffurf arall gan yr elusen; neu
  • gael unrhyw fudd ariannol wrth gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i'r elusen; neu
  • brynu neu ddal unrhyw fudd mewn eiddo'r elusen (ac eithrio er mwyn ei ddal fel ymddiriedolwr yr elusen)."

A12. Ar gyfer elusennau sy'n gwmnïau, dylid cynnwys y cymal canlynol:

"Bydd incwm ac eiddo'r elusen yn cael eu defnyddio i hybu'r amcanion yn unig ac ni chaiff unrhyw ran ei thalu neu ei throsglwyddo yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, trwy gyfrwng difidend, bonws neu fel arall trwy gyfrwng elw, i aelodau'r elusen, ac ni chaiff unrhyw ymddiriedolwr ei benodi i unrhyw swydd yn yr elusen y telir cyflog neu ffioedd ar ei chyfer neu dderbyn unrhyw dâl neu fudd arall ar ffurf arian neu werth arian gan yr elusen: Ar yr amod na fydd unrhyw beth yn y ddogfen hon yn atal unrhyw daliad mewn ewyllys da gan yr elusen:

  • o dâl rhesymol a phriodol am unrhyw wasanaethau a roddwyd i'r elusen gan unrhyw aelod, swyddog neu was yr elusen nad yw'n ymddiriedolwr;
  • o log ar arian a fenthycwyd gan unrhyw aelod o'r elusen neu ymddiriedolwr ar gyfradd resymol a phriodol y flwyddyn nad yw'n fwy na 2 y cant llai na sylfaen cyfradd fenthyca gyhoeddedig banc clirio sydd i'w ddewis gan yr ymddiriedolwyr;
  • o ffioedd, tâl neu fudd arall mewn arian neu werth arian i unrhyw gwmni y gall ymddiriedolwr hefyd fod yn aelod ohono a chael dim mwy na 1/100fed rhan o gyfalaf cyhoeddedig y cwmni hwnnw;
  • o rent rhesymol a phriodol ar gyfer eiddo a drawsgludwyd neu a osodwyd gan unrhyw aelod o'r elusen neu ymddiriedolwr; ac
  • i unrhyw ymddiriedolwr am gostau parod rhesymol."

Diwygio

A13. Bydd y ffordd y bydd pŵer diwygio yn cael ei ddefnyddio yn amrywio yn ôl y math o sefydliad. Yn yr enghraifft isod, byddai cymal (1a) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cymdeithas anghorfforedig a lywodraethir gan gyfansoddiad a byddai cymal (1b) yn berthnasol i elusen a lywodraethir gan weithred ymddiriedolaeth.

"(1a) Yn amodol ar ddarpariaethau canlynol y cymal hwn gellir diwygio'r cyfansoddiad/rheolau trwy benderfyniad a basiwyd gan ddim llai na dwy ran o dair o'r aelodau sy'n bresennol ac yn pleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol. Rhaid i'r rhybudd o'r cyfarfod cyffredinol gynnwys rhybudd o'r penderfyniad sy'n pennu telerau'r diwygiad a gynigir.

(1b) Gall yr ymddiriedolwyr ddiwygio darpariaethau'r weithred hon ar yr amod:

(2) Ni ellir gwneud unrhyw ddiwygiad i gymal .......... (y cymal amcanion), cymal .......... (cymal dim budd personol i ymddiriedolwyr) [cymal .......... (cymal tâl ymddiriedolwyr)] [cymal .......... (cymal yswiriant indemniad ymddiriedolwr)], cymal .......... (cymal diddymu), y cymal hwn neu bŵer buddsoddi ymddiriedolwyr [ac ni ellir gwneud unrhyw ddiwygiad a fyddai'n caniatáu i'r ymddiriedolwyr wario gwaddol parhaol yr elusen] heb gael caniatâd ysgrifenedig y Comisiwn ymlaen llaw.

Ni ellir gwneud unrhyw ddiwygiad a fyddai'n cael yr effaith o beidio â'i gwneud yn elusen yn ôl y gyfraith.

Rhaid i'r ymddiriedolwyr:

(a) anfon copi o unrhyw ddiwygiad a wnaed at y Comisiwn yn ddi-oed;

(b) cadw copi o unrhyw ddiwygiad o'r fath gyda'r cyfansoddiad/rheolau hŷn."

Diddymu

A14. Mae'n bwysig os na all yr elusen weithredu mwyach neu os yw'r ymddiriedolwyr yn teimlo eu bod nhw wedi cyflawni popeth a allant, bod y sefydliad yn gallu diddymu a gellir trosglwyddo'r asedau sy'n weddill i elusen arall. Byddai'r enghreifftiau canlynol yn ddigonol ar gyfer hŷn.

"Os yw'r ymddiriedolwyr elusen yn penderfynu bod angen neu ei fod yn ddoeth i ddiddymu'r elusen, byddant yn galw cyfarfod o holl aelodau'r elusen ac ni roddir llai na 21 diwrnod o rybudd ar gyfer hŷn (gan ddatgan telerau'r cynnig sydd i'w roi ger bron). Os yw'r cynnig yn cael ei gadarnhau gan fwyafrif o ddwy ran o dair o'r rheiny sy'n bresennol ac yn pleidleisio, bydd pŵer gan yr ymddiriedolwyr elusen i realeiddio unrhyw asedau a ddelir gan neu ar ran yr elusen. Bydd unrhyw asedau sy'n weddill ar ôl talu unrhyw ddyledion a chyflawni unrhyw rwymedigaethau priodol yn cael eu rhoi neu eu trosglwyddo i sefydliad neu sefydliadau elusennol eraill sydd ag amcanion tebyg i amcan yr elusen hon, fel y gwêl aelodau'r elusen yn dda neu, os na ellir gwneud hŷn, cânt eu defnyddio ar gyfer rhyw ddiben elusennol arall." Mae hwn yn addas ar gyfer cymdeithas.

"Os yw'r ymddiriedolwyr elusen yn penderfynu bod angen neu ei fod yn ddoeth i ddiddymu'r elusen, byddant yn realeiddio unrhyw asedau a ddelir gan neu ar ran yr elusen. Bydd unrhyw asedau sy'n weddill ar ôl talu unrhyw ddyledion a chyflawni unrhyw rwymedigaethau priodol yn cael eu rhoi neu eu trosglwyddo gan yr ymddiriedolwyr elusen i sefydliad neu sefydliadau elusennol eraill sydd ag amcanion tebyg i amcanion yr elusen hon yn unol â phenderfyniadau'r ymddiriedolwyr elusen neu, os na ellir gwneud hŷn, bydd yr ymddiriedolwyr elusen yn eu defnyddio ar gyfer rhyw ddiben elusennol arall." Mae hwn yn addas ar gyfer ymddiriedolaeth.

"Os yw'r elusen yn cael ei dirwyn i ben neu ei diddymu, ac mae eiddo yn weddill ar ôl talu ei holl ddyledion a chyflawni ei holl rwymedigaethau, ni chaiff ei dalu i aelodau'r elusen neu ei ddosbarthu i'w plith, ond caiff ei roi neu ei drosglwyddo i ryw elusen arall neu elusennau eraill sydd ag amcanion tebyg i amcanion yr elusen hon sy'n gwahardd dosbarthu ei incwm neu eu hincwm ac eiddo i'r graddau sydd o leiaf gymaint â'r hŷn a osodwyd ar yr elusen hon gan gymal # uchod, a ddewiswyd gan aelodau'r elusen ar adeg diddymu neu cyn hynny, ac os na ellir gwneud hŷn fe'i defnyddir ar gyfer rhyw amcan elusennol arall." Mae hwn yn addas i gwmni.

Newidiadau pwysig ers y fersiwn blaenorol o'r canllaw hwn

Cyhoeddwyd y fersiwn blaenorol o'r canllaw hwn yn Rhagfyr 2003.

Y newidiadau pwysicaf yn y fersiwn hwn yw:

  • newidiadau yn ymwneud â gweithredu darpariaethau cyntaf Deddf Elusennau 2006; a
  • newidiadau i'n gweithdrefnau cofrestru.

Mae mân newidiadau eraill wedi cael eu gwneud i gadw'r testun mor gyfoes â phosib.

v 1.2.0.