Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

CC3 - Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod

(Fersiwn - Chwefror 2008)

Cynnwys

Canllawiau'r Comisiwn Elusennau i bob un sy'n gwasanaethu fel ymddiriedolwr neu gyfarwyddwr ar gorff llywodraethu elusen, neu sydd ar fin ymgymryd â chyfrifoldebau ymddiriedolwr.

A. Rhagair

Neges gan Gadeirydd a Phrif Weithredwr y Comisiwn Elusennau i ymddiriedolwyr elusen.

Annwyl Ddarllenydd,

Mae elusennau'n bodoli i greu cymdeithas well. Mae amrywiaeth a hyd a lled eu gwaith a'r gwahanol bobl y maen nhw'n eu helpu yn syfrdanol. Boed yn elusennau lleol, cenedlaethol neu ryngwladol mae ganddynt hanes rhyfeddol o ysgogi newid cymdeithasol a adlewyrchir ym mhob cwr o'r byd rydym yn byw ynddo heddiw.

Ni fyddai elusennau yn gallu gwneud unrhyw beth heb eu hymddiriedolwyr. Mae'n debyg eich bod yn darllen hwn oherwydd eich bod chi newydd gael eich penodi fel ymddiriedolwr. Os felly, croeso, a diolch am ymgymryd â'r rôl hon. Bydd eich ymrwymiad a'ch egni yn gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i'ch elusen a phawb y mae'n eu helpu. Does dim rhaid i chi fod yn arwr neu'n enwog i newid bywydau er gwell - mae bod yn ymddiriedolwr yn rhoi cyfle i chi wneud hynny.

Gall swydd ymddiriedolwr fod yn waith caled ac yn y rhan fwyaf o achosion mae'n waith di-dâl. Yr ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol am weinyddu elusen, ei heiddo, ei chyllid a chyflogi staff neu wirfoddolwyr.

Ond mae swydd ymddiriedolwr hefyd yn cynnig llawer o foddhad a chyfleoedd disgwyliedig neu annisgwyl ar gyfer datblygiad personol. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a'ch egni i weinyddu eich elusen ond ar yr un pryd byddwch chi'n cael profiadau a gwybodaeth newydd.

Er enghraifft, byddwch yn helpu cynllunio dyfodol strategol yr elusen a'i gwaith, yn cymryd rhan wrth ddatblygu a rheoli staff a gwirfoddolwyr a gwneud penderfyniadau polisi ar gyfer eich elusen. Hefyd, byddwch yn sicrhau ei bod yn atebol i'w buddiolwyr, y Comisiwn Elusennau a'r cyhoedd.

Ond ni fyddwch ar eich pen eich hun. Byddwch yn ymuno â thîm o ymddiriedolwyr ac yn rhan o'r 900,000 o ymddiriedolwyr elusen yng Nghymru a Lloegr. Er mwyn bod yn effeithiol mae angen amrywiaeth o bobl gyda chymysgedd da o sgiliau ar y bwrdd ymddiriedolwyr. Bydd y byrddau gorau yn amrywiol hefyd, gyda phobl sy'n wirioneddol ddeall yr anghenion sydd i'w hateb ac eraill sydd â phrofiad ariannol, busnes a rheoli da. Bydd y boddhad a gewch trwy weithio gyda phobl a dysgu oddi wrth bobl o wahanol gefndiroedd a sgiliau yn fawr.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau gwneud gwahaniaeth i gymdeithas. A chofiwch, yn ogystal â rheoleiddio elusennau a diogelu eu henw da, mae'r Comisiwn Elusennau yma i'ch helpu chi a'ch cyd-ymddiriedolwyr.

Trwy ddarllen y canllaw hwn, cewch wybod llawer mwy am eich cyfrifoldebau a'r ffynonellau niferus o gymorth a chefnogaeth.

Hoffem eich llongyfarch ar eich rôl newydd.

Y Fonesig Suzi Leather
Cadeirydd
Andrew Hind
Prif Weithredwr

Diolchiadau

Mae'r Comisiwn Elusennau yn ddiolchgar i James Tickell yn Campbell Tickell Associates am ddrafftio'r cyhoeddiad hwn.

B. Y fframwaith elusennau yn fyr

Mae'r dudalen hon yn disgrifio'r fframwaith i elusennau, ymddiriedolwyr a'r Comisiwn Elusennau. Nid yw'n ddogfen gyfreithiol, ond yn hytrach yn grynodeb cyffredinol o'r sefyllfa, wedi'i ysgrifennu mewn iaith bob dydd.

B1. Beth yw elusennau?

Mae elusennau yn sefydliadau a ffurfiwyd er budd y gymuned. Maen nhw'n mwynhau rhai manteision treth gan y llywodraeth. Er y gallant fasnachu i wneud elw mewn rhai amgylchiadau, mae'n rhaid iddynt ddefnyddio unrhyw elw o'r fath at ddibenion yr elusen. Er mwyn bod yn elusen, rhaid i sefydliad fodloni amodau pendant ynghylch ei ddibenion cyffredinol, sydd hefyd yn cael eu galw ei amcanion, gan gynnwys dangos bod ei dibenion er budd cyhoeddus. Mae'n rhaid i'r sefydliad gael ei ffurfio gyda chyfansoddiad neu reolau sy'n bodloni rhai amodau arbennig. Fel arfer cyfeirir at y rheolau hyn fel dogfen lywodraethol yr elusen.

Mae rhai elusennau yn cael eu sefydlu i roi cymorth uniongyrchol, cyngor, grantiau neu gefnogaeth i bobl sydd mewn gwahanol fathau o angen, er enghraifft pobl hŷn, neu'r rheiny sydd â chyflwr meddygol arbennig. Mae elusennau'n cael eu sefydlu hefyd i wneud gwaith ymchwil, darparu addysg neu hyfforddiant, neu ganolbwyntio ar ateb anghenion ehangach ardal ddifreintiedig arbennig. Ac mae rhai elusennau'n bodoli'n bennaf i gynorthwyo elusennau eraill, trwy roi grantiau a chymorth arall iddynt.

Gall sawl math o sefydliad gael ei ystyried yn elusen. Er enghraifft, mae rhai elusennau yn gwmnïau cofrestredig hefyd, ond mae eraill yn ymddiriedolaethau. Mae rhai elusennau hefyd yn cael eu sefydlu gan ddeddfwriaeth arbennig. Mae pob elusen yn gweithredu yn ôl egwyddorion cyffredinol y gyfraith elusennau.

Mae'r rhan fwyaf o elusennau yn sefydliadau lleol bach, ond mae rhai yn weithrediadau cenedlaethol mawr gydag enwau cyfarwydd fel Help the Aged neu Oxfam. Mae elusennau'n derbyn eu harian mewn ffyrdd amrywiol, fel rhoddion gan y cyhoedd, taliadau am wasanaethau a ddarperir, grantiau'r llywodraeth a chymynroddion.

B2. Rôl yr ymddiriedolwyr

Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor. Mae ymddiriedolwyr elusen yn gyfrifol am reoli gweinyddiad elusen yn gyffredinol.

Mae eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau wedi'u crynhoi ar y dudalen nesaf. Mae'r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn wirfoddolwyr, ac nid ydynt yn derbyn unrhyw dâl am eu gwaith.

Daw ymddiriedolwyr elusen o bob math o gefndiroedd, ac maen nhw wedi'u huno gan eu dymuniad i greu newid cadarnhaol yn y gymdeithas. Mae hawl gan y rhan fwyaf o bobl weithredu fel ymddiriedolwyr. Dylai gwaith ymddiriedolwr fod yn waith sy'n rhoi boddhad a mwynhad, ac yn gyfle i wasanaethu'r gymuned gan ddysgu sgiliau newydd yr un pryd.

B3. Rôl y Comisiwn Elusennau

Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ein gwaith ni fel rheolydd yw cydweithio'n agos ag elusennau er mwyn sicrhau eu bod yn atebol, yn cael eu gweithredu'n dda ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol er mwyn hybu ymddiriedaeth a ffydd y cyhoedd. Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o elusennau gofrestru gyda'r Comisiwn, ond nid oes rhaid i rai mathau arbennig o elusen gofrestru. Mae rhyw 190,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae'r fframwaith yn wahanol yn yr Alban, ac nid yw'r Comisiwn yn rheoleiddio elusennau'r Alban.

Mae'r Comisiwn yn darparu ystod eang o gyngor ac arweiniad i elusennau a'u hymddiriedolwyr, a gall helpu gyda phroblemau yn aml. Rhaid i elusennau cofrestredig sydd ag incwm neu wariant blynyddol o fwy na £10,000 ddarparu gwybodaeth a chyfrifon blynyddol i'r Comisiwn. Mae pwerau eang gan y Comisiwn i ymyrryd mewn materion elusen os yw pethau wedi mynd o chwith.

Cewch fwy o wybodaeth am y Comisiwn ynghyd â'r arweiniad amrywiol i elusennau ar ein gwefan neu drwy ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218.

C. Cyflwyniad

C1. Am beth mae'r canllaw hwn?

Gofynnir i ni yn aml i esbonio'r hyn a ddisgwylir gan rywun sy'n cael ei benodi i weithredu fel ymddiriedolwr elusen. Mae bod yn ymddiriedolwr yn gofyn am amser, dealltwriaeth ac ymdrech. Mae hefyd yn gyfle da i wasanaethu'r gymuned a datblygu sgiliau personol. Mae'r canllaw hwn yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin ac yn disgrifio'n fyr ddyletswyddau ymddiriedolwyr.

C2. 'Rhaid' a 'dylai': beth ydym yn ei olygu

Yn y canllaw hwn, pan ddefnyddiwn 'rhaid', golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio'r Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol wrth ochr yr ateb byr yn yr adran honno.

Defnyddiwn 'dylai' ar gyfer eitemau sy'n cael eu hystyried yn arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer.  Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

Cynigiwn gyngor llai ffurfiol hefyd ac argymhellion a all fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr wrth iddynt reoli eu helusen.

C3. Canllawiau blaenorol

Mae'r canllaw hwn yn cymryd lle'r fersiwn flaenorol a gyhoeddwyd yn Chwefror 2007. Mae wedi cael ei ddiwygio er mwyn ystyried darpariaethau Deddf Elusennau 2006 a ddaeth i rym yn ystod 2007 ac yn gynnar yn 2008. Disgwylir i ddarpariaethau pellach y Ddeddf honno ddod i rym yn a 2009.

C4. Hyd a lled y canllaw hwn

Mae'r canllaw hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd allweddol sy'n ymwneud â gwaith elusennau a'u hymddiriedolwyr. Mae rhai pynciau yn gymhleth ac yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau a rheoliadau gwahanol yn dibynnu ar y math o elusen. Ni ddylech ddibynnu ar y canllaw hwn i fod yn ddisgrifiad cywir neu gyflawn o'r materion cyfreithiol sy'n effeithio ar eich elusen. Mae'n rhoi cyflwyniad cyffredinol a golwg gyffredinol, ac yn tynnu sylw at feysydd lle y gall fod angen cyngor pellach arnoch gennym ni neu gan ymgynghorwyr cyfreithiol eich elusen.

C5. Defnyddio'r canllaw hwn

Mae patrwm y canllaw hwn yn dilyn y prif benawdau a ddefnyddir yn yr adran nesaf, 'Golwg gyflym ar ddyletswyddau ymddiriedolwyr'. Dan bob pennawd, gofynnwn gyfres o gwestiynau perthnasol y gall ymddiriedolwyr newydd neu ymddiriedolwyr gweithredol eu gofyn am eu dyletswyddau. Yn gyffredinol rhown ateb cryno ('Yr ateb byr'), ac yna mwy o gefndir ('Yn fwy manwl').

C6. Ffynonellau eraill o gymorth a chyngor

Mae nifer o adnoddau y gall ymddiriedolwyr eu defnyddio i'w helpu. Ceisiwn annog ymddiriedolwyr i ddefnyddio arbenigedd sefydliadau perthnasol i'w cynorthwyo i weinyddu eu helusennau mor effeithiol â phosibl.

Fe welwch fanylion cyswllt pob sefydliad y sonnir amdanynt yn y canllaw hwn, ynghyd â disgrifiad byr o'r hyn a wnânt, yn adran G.

C7. Rhai termau technegol a ddefnyddir

Er ein bod wedi ceisio ysgrifennu'r canllaw hwn mewn iaith bob dydd, roedd rhaid i ni ddefnyddio termau technegol mewn mannau. Mae'r rhestr hon yn esbonio rhai ohonynt:

Ymddiriedolwr gwarchod: Mae ymddiriedolwr gwarchod yn gorfforaeth a benodwyd i warchod, yn hytrach na rheoli, eiddo'r ymddiriedolaeth. Os yw ymddiriedolwr gwarchod yn cael ei benodi i ddal eiddo elusen, mae gweinyddiad yr elusen yn aros yn nwylo'r ymddiriedolwyr elusen. Nid yw ymddiriedolwr gwarchod yn ymddiriedolwr elusen.

Ymddiriedolwr daliannol: Mae ymddiriedolwyr daliannol yn unigolion a benodir i ddal eiddo'r elusen. Gallant weithredu dim ond ar gyfarwyddiadau cyfreithiol yr ymddiriedolwyr elusen ac yn unol ag unrhyw ddarpariaethau yn y ddogfen lywodraethol.

Dogfen lywodraethol: Dogfen gyfreithiol sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, Cynllun y Comisiwn, neu'n ddogfen ffurfiol arall.

Elusen gorfforedig: Elusen sydd hefyd yn gwmni neu sydd â statws cyfreithiol tebyg i endid corfforedig yn ôl y gyfraith. Gweler adran D2 am fwy o fanylion.

Enwebai: Unigolyn neu gorfforaeth gorfforedig, a benodir gan ymddiriedolwyr fel rheol, sy'n dal y teitl cyfreithiol i eiddo neu fuddsoddiadau'r elusen ar ran yr ymddiriedolwyr. Nid yw enwebeion yn chwarae unrhyw rôl yn rheolaeth yr elusen. Rhaid iddynt weithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r ymddiriedolwyr, oni bai y gofynnir iddynt wneud rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn dor-ymddiriedaeth.

Gwaddol parhaol: Eiddo'r elusen (ee tir, adeiladau, buddsoddiadau neu arian parod) na all yr ymddiriedolwyr ei wario fel pe bai'n incwm. Rhaid iddo gael ei ddal yn barhaol, weithiau i'w ddefnyddio i hybu dibenion yr elusen, weithiau i gynhyrchu incwm i'r elusen. Gall ymddiriedolwyr wario neu gael gwared â gwaddol parhaol dim ond os defnyddiant y pwerau yn Neddf 1993 sy'n caniatáu hyn neu os ydynt yn ceisio ein hawdurdod.

Eiddo: Mae'n cynnwys tir ac adeiladau a hefyd buddsoddiadau, arian parod ac asedau eraill.

Elusen anghorfforedig: Gall fod yn ymddiriedolaeth neu'n gymdeithas anghorfforedig. Gweler adran D2 am fwy o fanylion.

Cworwm: Lleiafswm yr ymddiriedolwyr y mae'n rhaid iddynt fod yn bresennol er mwyn i'r cyfarfod ymddiriedolwyr gael cyfansoddiad priodol. Gall y ddogfen lywodraethol bennu hyn.

Ysgrifennydd: Swyddog yr elusen. Gall fod yn ymddiriedolwr, yn weithiwr neu'n asiant arall yr elusen.

Ysgrifennydd Cwmni: Swyddog cwmni elusennol y mae ei ddyletswyddau wedi'u pennu yn y gyfraith cwmnïau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â dogfen lywodraethol yr elusen ei hun a materion cyfreithiol amrywiol.

Deddf 1993: Deddf Elusennau 1993, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006.

Deddf 2000: Deddf Ymddiriedolwyr 2000, sy'n disgrifio prif ddyletswyddau a phwerau ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig.

Cynllun: Dogfen gyfreithiol sy'n cael ei pharatoi gan y Comisiwn, fel rheol o dan adran 16 Deddf 1993, a ddefnyddir i newid bron unrhyw agwedd ar ddibenion neu ddarpariaethau gweinyddol elusen.

Ch. Golwg gyflym ar ddyletswyddau ymddiriedolwyr

Mae'r adran hon yn crynhoi prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr elusen. Unwaith eto, nid yw'n ddogfen gyfreithiol, ond yn hytrach yn disgrifio'r egwyddorion cyfreithiol mewn iaith bob dydd. Defnyddir y penawdau ar y dudalen hon ar gyfer adrannau'r arweiniad mwy manwl sy'n dilyn hefyd.

Ymddiriedolwyr a'u cyfrifoldebau

Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor. Mae'r egwyddorion a'r prif ddyletswyddau yr un fath ym mhob achos.

  1. Mae gan ymddiriedolwyr ac mae'n rhaid i ymddiriedolwyr dderbyn y prif gyfrifoldeb am gyfeirio materion yr elusen, a sicrhau ei bod yn ddiddyled, yn cael ei gweinyddu'n dda, ac yn cynhyrchu'r canlyniadau elusennol er budd y cyhoedd y cafodd ei sefydlu i'w cyflawni.

Cydymffurfio - Rhaid i ymddiriedolwyr:

  1. Sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio â'r gyfraith elusennau a gofynion y Comisiwn Elusennau fel y rheolydd; yn arbennig, sicrhau bod yr elusen yn paratoi adroddiadau ar yr hyn y mae wedi'i gyflawni, Ffurflenni Blynyddol a chyfrifon fel sy'n ofynnol yn unol â'r gyfraith.
  2. Sicrhau nad yw'r elusen yn torri unrhyw ofynion neu reolau a nodir yn ei dogfen lywodraethol a'i bod yn gweithredu'n unol â'r diben elusennol a'r amcanion a bennir yn y ddogfen honno.
  3. Cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth arall a rheolyddion eraill (os oes) sy'n rheoli gweithgareddau'r elusen.
  4. Gweithredu gydag unplygrwydd, ac osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau personol neu gamddefnyddio arian neu asedau'r elusen.

Dyletswydd pwyll - Rhaid i ymddiriedolwyr:

  1. Sicrhau bod yr elusen yn ddiddyled ac yn parhau'n ddiddyled.
  2. Defnyddio arian ac asedau elusennol yn rhesymol, a dim ond er mwyn hybu amcanion yr elusen.
  3. Osgoi ymgymryd â gweithgareddau a allai beryglu'n ormodol waddol, arian, asedau neu enw da'r elusen.
  4. Bod yn arbennig o ofalus wrth fuddsoddi arian yr elusen, neu fenthyca arian i'r elusen ei ddefnyddio.

Dyletswydd gofal - Rhaid i ymddiriedolwyr:

  1. Defnyddio gofal a medr rhesymol yn eu gwaith fel ymddiriedolwyr, gan ddefnyddio eu sgiliau a'u profiad personol fel y bo angen er mwyn sicrhau bod yr elusen yn cael ei gweinyddu'n dda ac yn effeithlon.
  2. Ystyried ceisio cyngor proffesiynol allanol ar bob mater os oes perygl sylweddol posibl i'r elusen, neu os yw'r ymddiriedolwyr yn gweithredu'n groeso i'w dyletswyddau.

Os yw pethau'n mynd o chwith

Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynnig gwybodaeth a chyngor i elusennau ar ofynion cyfreithiol ac arfer gorau i'w cynorthwyo i weithredu mor effeithiol â phosibl ac atal problemau rhag codi. Yn yr achosion prin lle mae problemau difrifol wedi codi mae pwerau eang gennym i'w hystyried a'u datrys. Gall ymddiriedolwyr fod yn atebol yn bersonol hefyd am unrhyw ddyledion neu golledion y mae'r elusen yn eu hwynebu o ganlyniad. Bydd hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau a'r math o ddogfen lywodraethol sydd gan yr elusen. Fodd bynnag, mae atebolrwydd personol o'r fath yn anghyffredin, ac yn gyffredinol bydd ymddiriedolwyr sydd wedi dilyn y gofynion a nodir ar y dudalen hon wedi'u diogelu.

D. Ymddiriedolwyr a'u cyfrifoldebau

Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor. Mae'r egwyddorion a'r prif ddyletswyddau yr un fath ym mhob achos.

Mae gan ymddiriedolwyr, ac mae'n rhaid i ymddiriedolwyr, dderbyn y prif gyfrifoldeb am gyfeirio materion yr elusen, a sicrhau ei bod yn ddiddyled, yn cael ei gweinyddu'n dda ac yn ateb yr anghenion y cafodd ei sefydlu i'w hateb.

D1. Beth ddylwn i ei wneud cyn bod yn ymddiriedolwr?

Yr ateb byr
Dylech gymryd pob cam rhesymol i gael gwybod cymaint ag y gallwch am yr elusen, a'r hyn y disgwylir gennych chi fel ymddiriedolwr.

Yn fwy manwl
Gwybod mwy: Cyn bod yn ymddiriedolwr, dylech ddysgu cymaint ag y gallwch am yr elusen a'r hyn y bydd swydd ymddiriedolwr yn ei olygu i chi. Er enghraifft, yn achos elusen fwy sy'n bod, fe'ch cynghorir i ddarllen Adroddiadau Blynyddol, polisïau pwysig a'r cyfrifon blynyddol; fe'ch cynghorwn hefyd i gwrdd â'r ymddiriedolwyr presennol, uwch aelodau staff ac efallai rhai o'r bobl a fydd yn elwa o waith yr elusen. Gall rhai elusennau hefyd estyn gwahoddiad i chi fynychu cyfarfod ymddiriedolwyr fel sylwedydd cyn eich bod yn ymuno'n ffurfiol. Efallai yr hoffech wybod pa hyfforddiant a chymorth y mae'r elusen yn ei gynnig i'w hymddiriedolwyr.

Y ddogfen lywodraethol: Dylech gael copi o ddogfen lywodraethol yr elusen hefyd, a'i darllen. Mae'n debyg y bydd yn ddogfen gyfreithiol sych, ond dyma brif ddogfen gyfansoddiadol yr elusen, ac mae'n llywodraethu agweddau allweddol ar waith yr elusen. Os nad yw'n glir beth mae'n ei olygu, dylai un o'r ymddiriedolwyr presennol neu Ysgrifennydd yr elusen esbonio'r ddogfen i chi.

D2. Ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr - beth yw'r gwahaniaeth?

Yr ateb byr
Er bod sawl enw gan ymddiriedolwyr, mae eu cyfrifoldebau canolog yr un fath ym mhob achos. Ond mae dau brif fath o elusen - anghorfforedig a chorfforedig. Mae union sefyllfa gyfreithiol yr ymddiriedolwyr ychydig yn wahanol ym mhob achos.

Yn fwy manwl
'Elusennau anghorfforedig'
: Gallant fod yn 'ymddiriedolaethau' neu'n 'gymdeithasau'. Fel arfer bydd eu dogfen lywodraethol yn weithred ymddiriedolaeth neu'n gyfansoddiad neu'n gynllun y Comisiwn Elusennau. Mewn elusen anghorfforedig, bydd eiddo'r elusen yn cael ei ddal gan yr ymddiriedolwyr neu eu henwebeion fel arfer.

'Elusennau corfforedig': Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn gwmnïau elusennol sydd wedi'u cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau yn ogystal â'r Comisiwn Elusennau. Yma, mae'r cwmni yn endid cyfreithiol ei hun, ac mae'r ymddiriedolwyr yn gyfarwyddwyr y cwmni. Cewch fwy o wybodaeth am rôl a chyfrifoldebau cyfarwyddwyr cwmni gan Dŷ'r Cwmnïau. Cewch fanylion cyswllt Tŷ'r Cwmnïau yn adran G. Mae mathau eraill o elusennau corfforedig arbennig hefyd, ee, elusennau wedi'u corffori gan Siarter Frenhinol neu gan statud. Nid yw'r rhain yn cael eu rheoleiddio gan Dŷ'r Cwmnïau.

Eich sefyllfa chi: Cyn bod yn ymddiriedolwr, dylech geisio cael gwybod a yw'ch elusen wedi'i chorffori neu beidio, oherwydd bydd hyn yn effeithio ar eich sefyllfa gyfreithiol a'ch cyfrifoldebau. Yn y canllaw hwn rydym wedi nodi lle mae gwahaniaeth, ond nid ydym wedi disgrifio’r gwahaniaeth yn fanwl. Cewch fwy o wybodaeth yn ein cyhoeddiadau eraill ar bynciau arbennig.

D3. Ydw i'n gymwys i fod yn ymddiriedolwr?

Yr ateb byr
Gall y rhan fwyaf o bobl sy'n hŷn nag 18 oed fod yn ymddiriedolwyr, ond mae rhai yn anghymwys. Gall pobl sy'n iau nag 18 oed fod yn ymddiriedolwyr elusen gorfforedig, ond ni allant fod yn ymddiriedolwyr elusen anghorfforedig.

Yn fwy manwl
Pobl anghymwys: Mae'r rheiny sydd eisoes wedi'u hanghymwyso fel cyfarwyddwyr cwmni a'r rheiny sydd wedi'u dyfarnu'n euog o drosedd yn cynnwys anonestrwydd neu dwyll yn rhai o'r bobl na all fod yn ymddiriedolwyr fel arfer. Mewn rhai achosion, gall pobl sy'n cael budd o'r elusen fod yn anghymwys hefyd. Fe welwch fanylion llawn yn ein canllawiau Cael Hyd i Ymddiriedolwyr Newydd: Yr hyn y mae angen i elusennau wybod (CC30) a Cynnwys Defnyddwyr: Buddiolwyr sy'n troi'n ymddiriedolwyr (CC24).

D4. Pwy sy'n penodi ymddiriedolwyr newydd?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Fel arfer, mae dogfen lywodraethol yr elusen yn disgrifio sut y dylid penodi ymddiriedolwyr - mae hyn yn amrywio yn ôl yr elusen arbennig. Mewn achosion eraill gall y sefyllfa fod yn fwy cymhleth, ac mae'n bosibl y bydd angen i'r ymddiriedolwyr gysylltu â ni i helpu penodi ymddiriedolwr newydd. Rhaid i bob ymddiriedolwr, sut bynnag y caiff ei benodi, weithredu er lles gorau'r elusen, ac ni all gynrychioli buddiannau unrhyw sefydliad allanol neu ei fuddiannau ei hun.

Yn fwy manwl
Dulliau penodi: Mewn sawl achos mae dogfen lywodraethol yr elusen yn disgrifio sut y dylid penodi ymddiriedolwyr. Gall ddweud bod rhai pobl yn ymddiriedolwyr oherwydd y swydd sydd ganddynt (a elwir yn ymddiriedolwyr ex officio); mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys maer tref neu bennaeth ysgol. Weithiau bydd unigolyn neu sefydliad a enwir yn cael yr hawl i benodi ymddiriedolwyr newydd. Yn achos sefydliad sydd ag aelodaeth ehangach, fel arfer bydd yr aelodau'n penodi rhai neu bob un o'r ymddiriedolwyr mewn etholiad blynyddol.

Ymddiriedolwyr sy'n bod: Os nad yw'r ddogfen lywodraethol yn dweud unrhyw beth am ddull penodi arall, gall ymddiriedolwyr elusen anghorfforedig benodi ymddiriedolwyr newydd. Rhaid i chi ddilyn y drefn yn y ddogfen lywodraethol lle bynnag y bo'n bosibl.

Os oes problemau: Os nad yw'n bosibl penodi ymddiriedolwyr newydd, er enghraifft oherwydd nid oes unrhyw un sydd â'r hawl i'w benodi, rhaid i'r elusen gysylltu â'r Comisiwn. Mae pŵer gennym benodi ymddiriedolwyr newydd yn yr amgylchiadau hyn. Unwaith eto, cewch wybodaeth fanwl yn Cael Hyd i Ymddiriedolwyr Newydd (CC30).

D5. Am faint mae ymddiriedolwr yn cael ei benodi?

Yr ateb byr
Os nad yw'r ddogfen lywodraethol yn pennu hyd gwasanaeth ymddiriedolwr, mae’r penodiad yn para nes bod yr ymddiriedolwr yn marw, yn ymddiswyddo neu'n cael ei ddiswyddo o'r swydd.

Yn fwy manwl
Telerau penodol: Mewn rhai achosion bydd y ddogfen lywodraethol yn dweud bod yr ymddiriedolwyr yn gwasanaethu am gyfnod arbennig, nifer o flynyddoedd fel arfer. Mae'r Comisiwn yn ystyried bod cael tymor penodol ar gyfer bod yn ymddiriedolwr yn arfer da.

Ailbenodi: Gall ymddiriedolwr y mae ei dymor yn y swydd wedi dod i ben gael ei benodi am dymor pellach yn y swydd, oni bai fod y ddogfen lywodraethol yn gwahardd hyn. Dylid gwirio hyn cyn gwneud unrhyw ailbenodiad.

D6. All ymddiriedolwr ymddiswyddo?

Yr ateb byr
Gallant - fel arfer mae'n hawdd i ymddiriedolwr ymddiswyddo. Ond mewn rhai sefyllfaoedd, yn enwedig yn achos elusennau anghorfforedig, mae'n bwysig darllen dogfen lywodraethol yr elusen yn ofalus. Weithiau bydd angen ceisio cyngor cyfreithiol er mwyn sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud yn iawn.

Yn fwy manwl
Elusennau corfforedig: Yn gyffredinol mae'n hawdd i ymddiriedolwr elusen gorfforedig ymddiswyddo, oni bai y byddai nifer yr ymddiriedolwyr yn disgyn yn is na'r isafswm a bennir yn y ddogfen lywodraethol o ganlyniad i hyn. Mewn achosion o'r fath, rhaid penodi ymddiriedolwr newydd yn gyntaf i gymryd lle'r ymddiriedolwr sy'n gadael. Ym mhob achos dylai'r elusen ddarllen telerau'r ddogfen lywodraethol.

Elusennau anghorfforedig: Yn achos elusen anghorfforedig, gall y sefyllfa fod yn fwy cymhleth. Fel uchod, rhaid i unrhyw ymddiswyddiad ddilyn y drefn a bennir yn y ddogfen lywodraethol. Os nad yw'r ddogfen lywodraethol yn dweud unrhyw beth am hyn, mae fframwaith cyfreithiol (yn Neddf Ymddiriedolwyr 1925) yn disgrifio sut y dylai ymddiriedolwyr ddelio â'r sefyllfa. Dylai ymddiriedolwyr geisio cyngor priodol er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu'n gywir.

Gweithredoedd teitl tir: Os yw enw'r ymddiriedolwr sy'n ymddiswyddo yn ymddangos ar weithredoedd teitl tir y mae'r elusen yn berchen arno, rhaid ei newid, gan ddilyn trefn gyfreithiol bendant. Unwaith eto, dylai ymddiriedolwyr geisio cyngor priodol er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn iawn.

D7. All ymddiriedolwyr ddirprwyo eu cyfrifoldebau?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Yn gyffredinol gall ymddiriedolwyr ddirprwyo rhai pwerau i asiantau neu weithwyr, ond byddant ac mae'n rhaid iddynt gadw'r prif gyfrifoldeb am weinyddu'r elusen bob amser.

Yn fwy manwl
Pwerau dirprwyo: Mae'r prif gyfrifoldeb gan yr ymddiriedolwyr bob amser am weinyddu eu helusen. Ond yn gyffredinol mae'r pŵer ganddynt i ddirprwyo rhai pwerau i asiantau, yn amodol ar eu dogfen lywodraethol, ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol. Mae Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn dweud y gall ymddiriedolwyr elusen anghorfforedig ddirprwyo'r canlynol:

  • gweithredu ar benderfyniad y mae'r ymddiriedolwyr wedi'i wneud;
  • buddsoddi asedau, gan gynnwys tir sy'n amodol ar yr ymddiriedolaeth;
  • codi arian i'r ymddiriedolaeth heblaw trwy elw masnach sy'n rhan annatod o gyflawni dibenion elusennol yr ymddiriedolaeth; neu
  • unrhyw swyddogaeth arall a bennir gan orchymyn wedi'i baratoi gan yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol.

Delio â thrydydd partïon: Dylai rhywun sy'n gweithredu fel cynrychiolydd neu asiant yr ymddiriedolwyr bob amser egluro wrth ddelio â thrydydd parti eu bod yn gweithredu yn y rhinwedd honno (yn enwedig os nad ydynt yn weithiwr yr elusen), a dylent gofnodi yn ysgrifenedig yr hyn y cytunwyd arno yn y sgwrs bob amser.

D8. Sut mae ymddiriedolwyr yn gwneud penderfyniadau?

Yr ateb byr
Mae pob penderfyniad yr ymddiriedolwyr ynghylch yr elusen yn cael ei wneud gan bob un o'r ymddiriedolwyr, yn gweithredu gyda'i gilydd ac fel tîm. Fodd bynnag, nid oes rhaid i'r penderfyniadau fod yn unfrydol; mae penderfyniad y mwyafrif yn ddigonol oni bai fod dogfen lywodraethol yr elusen yn nodi fel arall.

Yn fwy manwl
Cyfrifoldeb ar y cyd: Yn amodol ar unrhyw bŵer dirprwyo mae rheol gyffredinol bod rhaid i ymddiriedolwyr fod yn gyfrifol yn bersonol am eu penderfyniadau, a rhaid i bob penderfyniad ynghylch yr elusen gael ei gymryd gan yr ymddiriedolwyr yn gweithredu ar y cyd.

Sefydlu grwpiau neu bwyllgorau: Gall ymddiriedolwyr bob amser wahodd rhai o'r ymddiriedolwyr i ystyried materion arbennig a gwneud argymhellion. Mae'r penderfyniad i weithredu neu beidio ar yr argymhellion yn benderfyniad i'r ymddiriedolwyr ei wneud gyda'i gilydd. Mewn rhai achosion gall dogfen lywodraethol elusen ganiatáu i'r ymddiriedolwyr sefydlu pwyllgorau gyda phwerau dirprwyedig i ymgymryd â swyddogaethau arbennig.

Dirprwyo i weithwyr: Mae'n bosibl y bydd angen i ymddiriedolwyr rhai elusennau ddirprwyo penderfyniadau ar faterion rheoli bob dydd i weithwyr. Yn yr achosion hyn dylai hyd a lled yr awdurdod gael ei nodi'n glir yn ysgrifenedig a dylid rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer adrodd am benderfyniadau ar faterion pwysig i'r ymddiriedolwyr. Dylai ymddiriedolwyr sefydlu gweithdrefnau adrodd priodol a llinellau atebolrwydd clir. Mae gwybodaeth ac arweiniad i ymddiriedolwyr sy'n cyflogi staff yn cael eu darparu gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO) a Chymdeithas Genedlaethol Gweithredu Gwirfoddol a Chymunedol (NAVCA).

D9. Beth mae'r Cadeirydd a'r Trysorydd yn ei wneud?

Yr ateb byr
Mae rhai ymddiriedolwyr yn cael eu galw'n 'swyddogion' ac mae cyfrifoldebau arbennig ganddynt. Mae'r rhain yn cynnwys y Cadeirydd, y Trysorydd, ac mewn rhai achosion gall fod swyddogion dirprwyedig eraill hefyd.

Yn fwy manwl
Cyfrifoldebau arbennig: Bydd cyfrifoldebau ehangach gan Drysorydd a Chadeirydd yr elusen na'r ymddiriedolwyr eraill. Er enghraifft, bydd y Trysorydd yn sicrhau bod cyfrifon priodol yn cael eu cadw, ac yn cynorthwyo wrth baratoi polisïau ariannol a buddsoddi. Gall y Cadeirydd, yn ogystal â chynorthwyo wrth gynllunio a chadeirio cyfarfodydd yr ymddiriedolwyr, fod yn gyswllt rhwng yr ymddiriedolwyr a'r gweithwyr a chynrychioli'r elusen mewn digwyddiadau priodol. Fodd bynnag, yn achos gwneud penderfyniadau am yr elusen, rhaid i'r ymddiriedolwyr wneud y penderfyniadau hyn gyda'i gilydd.

Mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys Sefydliad yr Ysgrifenyddion a'r Gweinyddwyr Siartredig (ICSA) yn darparu disgrifiadau swyddi enghreifftiol i Gadeiryddion a Thrysoryddion.

D10. All eiddo elusen gael ei ddal gan rywun heblaw'r ymddiriedolwyr?

Yr ateb byr
Gall fod yn gyfleus i ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig drefnu i'r teitl i dir y mae'r elusen yn berchen arno gael ei ddal gan y Gwarcheidwad Elusennau Swyddogol neu ymddiriedolwr gwarchod neu ymddiriedolwr dal. Mae pŵer gan yr ymddiriedolwyr i benodi enwebai i ddal y teitl hefyd. Mae penderfynu gwneud hyn a sut i wneud hyn yn dibynnu ar ddogfen lywodraethol yr elusen a'r gyfraith.

Yn fwy manwl
Rhesymau dros benodi corfforaeth gorfforedig i ddal teitl: Os yw'r ymddiriedolwyr yn dal y teitl i eiddo'r elusen gall hyn arwain at anawsterau ymarferol, yn enwedig os yw'r ymddiriedolwyr yn newid yn rheolaidd. Gall fod yn fwy cyfleus i ddal y teitlau eiddo yn enw corfforaeth gorfforedig, oherwydd nid yw ei hunaniaeth yn newid, neu nid yw'n newid yn aml. Rhaid gwneud hyn gydag awdurdod cyfreithiol priodol yn unig, a dylai ymddiriedolwyr geisio cyngor cyfreithiol, yn enwedig cyn gwneud hyn am y tro cyntaf.

Gwneud y penodiad: I benodi corfforaeth gorfforedig yn y ffordd hon, rhaid i elusen ddilyn ei dogfen lywodraethol ei hun, a hefyd cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol. Mae tair Deddf Seneddol yn gymwys mewn sefyllfaoedd gwahanol (Deddf Ymddiriedolwyr Cyhoeddus 1906, Deddf Elusennau 1993 a Deddf Ymddiriedolwyr 2000). Gallwn hefyd roi pwerau i benodi enwebeion. Cewch fwy o fanylion yn Penodi Enwebeion a Gwarcheidwaid: Arweiniad dan Adran 19(4) Deddf Ymddiriedolwyr 2000 (CC42).

Dd. Cydymffurfio

Rhaid i ymddiriedolwyr:

  • sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio â'r gyfraith elusennau, a gyda gofynion y Comisiwn Elusennau fel y rheolydd; yn arbennig sicrhau bod yr elusen yn paratoi adroddiadau, Ffurflenni Blynyddol a chyfrifon fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith
  • sicrhau nad yw'r elusen yn gweithredu'n groes i unrhyw ofynion neu reolau a nodir yn ei dogfen lywodraethol ac yn gweithredu'n unol â'r diben elusennol a'r amcanion a bennir yn y ddogfen honno
  • cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth arall a rheolyddion eraill sy'n rheoli gweithgareddau'r elusen
  • gweithredu gydag unplygrwydd, ac osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau personol neu gamddefnyddio arian neu asedau'r elusen

Dd1. Oes rhaid i bob ymddiriedolwr ddilyn yr un egwyddorion?

Yr ateb byr
Mae egwyddorion ymddiriedolaeth wedi'u pennu yn y gyfraith i elusennau anghorfforedig. I elusennau corfforedig, mae'r egwyddorion cyffredinol yn debyg, ond bydd yn dibynnu ar ddogfen lywodraethol yr elusen a'r gyfraith sy'n effeithio ar gorfforaethau.

Yn fwy manwl
Y sefyllfa gyfreithiol: Mae Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn diffinio rhai o bwerau statudol allweddol a dyletswyddau ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig. Mae hefyd yn rhoi pwerau i ymddiriedolwyr o'r fath y mae eu hangen arnynt i weinyddu eu helusen yn effeithiol. Os ydych yn ymddiriedolwr o'r fath, dylech geisio gwybod mwy am y Ddeddf, a sut y mae'n gymwys i'ch elusen chi. Fe welwch arweiniad pellach ar Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 ar dudalen Cyhoeddiadau a Chanllawiau ein gwefan.

Elusennau corfforedig: Nid yw Deddf 2000 yn gymwys i elusennau corfforedig. Ond os yw elusen gorfforedig yn ymddiriedolwr elusen anghorfforedig ei hun, bydd y Ddeddf yn gymwys i'w gweithrediadau fel ymddiriedolwr.

Dd2. All ymddiriedolwyr gael eu talu am eu dyletswyddau?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Yn gyffredinol, na allant. Mae'r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn gweithio heb dâl, ac ni allant gael budd mewn unrhyw ffordd o'u cysylltiad â'r elusen. Mae eithriadau cyfyngedig i'r rheol hon, ac mae Deddf 1993 yn caniatáu i ymddiriedolwyr gael eu talu mewn rhai amgylchiadau am ddarparu gwasanaethau i'r elusen sy'n ychwanegol i'w dyletswyddau arferol fel ymddiriedolwyr.

Yn fwy manwl
Buddiannau gwaharddedig: Nid oes hawl gan ymddiriedolwyr dderbyn unrhyw dâl o gronfeydd yr elusen heblaw am dreuliau parod rhesymol ac angenrheidiol fel costau teithio i fynychu cyfarfodydd ymddiriedolwyr. Ni allant dderbyn budd personol uniongyrchol nac anuniongyrchol ychwaith o'r elusen, trwy, er enghraifft:

  • cymryd prydles ar eiddo'r elusen;
  • benthyca arian o'r elusen; neu
  • lofnodi contractau i wneud busnes â'r elusen.

Pan fydd ymddiriedolwyr yn camddefnyddio eu swydd: Rheol gyfreithiol yw hon, ac mae'n bosibl y bydd rhaid i unrhyw ymddiriedolwr sy'n ei thorri wneud iawn o'i arian ei hun am unrhyw golled i'r elusen sy'n deillio o hyn. Hyd yn oed os nad oes colled, bydd rhaid i ymddiriedolwr sy'n gwneud elw o dorri'r rheol dalu swm unrhyw elw i'r elusen.

Eithriadau: Mae eithriad i'r rheol hon pan fydd y ddogfen lywodraethol (neu reolau eraill y mae'n rhaid i'r elusen eu dilyn) yn caniatáu talu ymddiriedolwyr, a/neu sy'n eu galluogi i drafod busnes â'r elusen. Rhaid i unrhyw fudd personol gydymffurfio'n gaeth â thelerau ac amodau'r awdurdod sy'n caniatáu'r budd. Hefyd, gallwn awdurdodi trafodiad rhwng elusen ac ymddiriedolwr yn bersonol, os gall yr ymddiriedolwyr ddangos bod mantais glir i'r elusen. Yn ogystal, mae Deddf 1993 yn cynnwys darpariaethau sy'n caniatáu talu ymddiriedolwyr, ond dim ond ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaeth i'w helusen sy'n ychwanegol i'w dyletswyddau arferol fel ymddiriedolwyr. Nid yw'n cynnwys cyflogaeth dan gontract neu daliad am weithredu fel ymddiriedolwr. Rhaid i ymddiriedolwyr fodloni rhai amodau ac ystyried ein canllaw wrth ddefnyddio'r pŵer hwn. Cewch wybod mwy trwy ddarllen y daflen wybodaeth ar ein gwefan am y pŵer i dalu ymddiriedolwyr am wasanaethau neu drwy ddarllen ein canllaw Taliadau Ymddiriedolwyr Elusennau (CC11).

Dd3. All ymddiriedolwr gael ei gyflogi gan yr elusen?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Yn gyffredinol, na allant oherwydd ni all ymddiriedolwyr elwa o'u swydd. Unwaith eto, mae eithriadau cyfyngedig i'r rheol hon.

Yn fwy manwl
Y sefyllfa gyfreithiol: Yn gyffredinol, ni all ymddiriedolwr fod yn weithiwr ei elusen, ac ni all gweithiwr fod yn ymddiriedolwr. Yr eithriadau yw pan fydd dogfen lywodraethol yr elusen yn caniatáu hyn yn benodol, neu os yw caniatâd wedi cael ei roi gan y Comisiwn neu lys barn. Mae ein canllaw Talu Ymddiriedolwyr Elusennau (CC11) yn rhoi mwy o wybodaeth am hyn.

Pan fydd ymddiriedolwyr yn camddefnyddio eu swydd: Rheol gyfreithiol yw hon ac mae'n bosibl y bydd rhaid i ymddiriedolwr sy'n ei thorri ad-dalu i'r elusen unrhyw fuddiannau, ee cyflog. Mae'r rheol yn gymwys hyd yn oed os yw'r ymddiriedolwr wedi ymddiswyddo fel ymddiriedolwr cyn neu ar ôl cael ei gyflogi.

Yr eithriad: Yr unig achos pan na fydd angen caniatâd arbennig o bosibl yw pan fydd yr elusen yn gallu dangos bod yr ymddiriedolwr heb gael y swydd oherwydd ei fod yn ymddiriedolwr ac nid oes unrhyw wrthdaro buddiannau parhaus. Byddai hyn yn golygu:

  • nad oedd yr ymddiriedolwr dan sylw yn chwarae unrhyw ran arwyddocaol ym mhenderfyniad yr elusen i greu neu gadw'r swydd, neu unrhyw agwedd berthnasol ar y broses recriwtio; ac
  • roedd yr ymddiriedolwr dan sylw wedi ymddiswyddo fel ymddiriedolwr er mwyn gwneud cais am y swydd cyn i swydd gael ei hysbysebu'n gyhoeddus mewn cystadleuaeth deg ac agored.

Ceisio cyngor: Os oes unrhyw ansicrwydd, dylai elusen gysylltu â'r Comisiwn neu gynghorydd cyfreithiol am gyngor yn gynnar yn y broses.

Dd4. Oes rhaid i elusennau gofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Oes, yn gyffredinol. Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o elusennau gofrestru. Mae rhai eithriadau i'r rheol hon ar gyfer dosbarthiadau arbennig o elusen. Ar ôl cofrestru, mae'n rhaid i elusennau gydymffurfio â'n gofynion.

Yn fwy manwl
Mae'r gyfraith yn dweud
: Mae Deddf Elusennau 1993 yn mynnu bod ymddiriedolwyr yn cofrestru elusennau yng Nghymru a Lloegr gyda ni a rhoi unrhyw wybodaeth y mae ei hangen at ddibenion cofrestru. Mae'n ofynnol i unrhyw elusen sydd ag incwm gros o fwy na £5,000 y flwyddyn gofrestru. Mae rhai dosbarthiadau arbennig o elusen wedi'u heithrio o'r gofyniad i gofrestru. Cewch fwy o fanylion yn Cofrestru fel Elusen (CC21).

Statws fel elusen: Ar ôl i elusen gofrestru, mae'r gyfraith yn dweud y dylai cyrff allanol ei derbyn yn gyffredinol fel elusen. Gall hyn gynorthwyo wrth gael rhyddhad treth a threthi lleol neu gael grantiau gan elusennau eraill.

Penawdau llythyron ac ati: Mae'n rhaid i bob elusen gofrestredig sydd ag incwm o fwy na £10,000 yn ei blwyddyn ariannol ddiwethaf nodi ei bod yn elusen gofrestredig ar unrhyw ddogfennau apêl ac ar nifer o'i dogfennau ariannol, megis sieciau, anfonebau a derbyniadau. Nid oes rhaid nodi rhif cofrestru'r elusen, ond mae nifer o elusennau yn gwneud hynny.

Rhoi gwybodaeth i ni: Ar ôl i elusen gofrestru, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i'r manylion sy'n ymddangos ar y Gofrestr Elusennau Ganolog, fel enw neu ddibenion yr elusen neu enw neu gyfeiriad gohebydd yr elusen, neu os yw'r elusen yn gorffen gweithredu neu fodoli.

Dd5. Oes rhaid i ymddiriedolwyr gadw cyfrifon?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Oes. Mae'n rhaid i bob elusen baratoi cyfrifon blynyddol. Mae rheolau gwahanol yn gymwys yn ôl math a maint yr elusen. Wrth gwrs, paratoi cyfrifon yw un rhan yn unig o gynllunio a rheolaeth ariannol briodol.

Yn fwy manwl
Y sefyllfa gyfreithiol: Mae gofynion cyfreithiol (yn Neddf 1993 a rheoliadau cysylltiedig) ar gyfer elusennau, sy'n ymwneud â:

  • chynnal a chadw cofnodion cyfrifeg;
  • paratoi cyfrifon elusen ac Adroddiadau Blynyddol;
  • archwiliadau ariannol neu annibynnol cyfrifon;
  • cyflwyno cyfrifon, Adroddiadau Blynyddol a Ffurflenni Blynyddol i ni; a
  • sicrhau bod cyfrifon ar gael i'r cyhoedd.

Trothwyon ariannol: Mae penderfynu i ba raddau y mae'n rhaid i unrhyw elusen unigol gydymffurfio â'r gofynion hyn yn dibynnu ar lefel yr incwm gros. Rhaid i ymddiriedolwyr ymgyfarwyddo â'r gofynion priodol. Rhaid i elusennau cofrestredig sydd ag incwm gros neu gyfanswm gwariant o fwy na £10,000 y flwyddyn gyflwyno eu cyfrifon i ni yn flynyddol, cyn pen 10 mis o ddiwedd y flwyddyn ariannol berthnasol.

Methu â chyflwyno cyfrifon: Os yw ymddiriedolwyr yn methu â chyflwyno eu cyfrifon a'u Ffurflen Flynyddol i ni mewn pryd, gallai hyn arwain at y Comisiwn yn cymryd camau yn erbyn yr ymddiriedolwyr. Gallai hyn gynnwys cynnal ymchwiliad i'r elusen neu gyhoeddi manylion yr elusen ar ein gwefan fel elusen sydd heb gyflwyno cyfrifon a Ffurflenni Blynyddol.

Elusennau corfforedig: Mae rheolau cyfrifeg gwahanol yn gymwys i elusennau sy'n gwmnïau, er y bydd Deddf Elusennau 2006 yn dileu'r gwahaniaethau hyn erbyn 2008. Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Dŷ'r Cwmnïau ac ar y tudalennau 'Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau' ar ein gwefan.

Dd6. Pam mae angen cyflwyno cyfrifon ac adroddiad?

Yr ateb byr
Oherwydd eu bod yn rhan ganolog o atebolrwydd elusennau i noddwyr, rheolyddion a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Yn fwy manwl
Atebolrwydd a rheolaeth: Yr Adroddiad Blynyddol a'r cyfrifon yw'r prif ddull a ddefnyddir gan yr ymddiriedolwyr i adrodd am eu dulliau o reoli'r elusen a dangos atebolrwydd cyhoeddus. Mae'r ddwy ddogfen yn ffurfio pecyn a dylid eu hanfon gyda'i gilydd. Mae'r cyfrifon yn darparu gwybodaeth ariannol ynghylch sut y mae'r elusen yn cael ac yn defnyddio adnoddau a sefyllfa ariannol yr elusen. Mae'n rhaid i'r Adroddiad Blynyddol esbonio'r hyn y mae'r elusen yn ceisio ei wneud, sut y mae'n mynd ati i wneud hynny, a yw wedi cyflawni ei hamcanion, a sut y mae wedi cyflawni ei nodau er budd cyhoeddus. Mae hefyd yn cynnig cyfle i esbonio ffigurau yn y cyfrifon, fel costau codi arian a'u heffeithiolrwydd.

Bydd y manylion sy'n ofynnol yn dibynnu ar faint yr elusen. Cewch fwy o wybodaeth am ofynion adrodd elusennau yn ein canllaw Adroddiadau a Chyfrifon Elusennau: Yr hanfodion Ebrill 2008 (CC15a) ac am fudd cyhoeddus yn ein canllaw Elusennau a Budd Cyhoeddus.

Dd7. Pa ganllawiau sydd ar gael ar gyfer cyfrifon?

Yr ateb byr
Mae amrywiaeth dda o ganllawiau ar gael gennym ni a chyrff eraill.

Yn fwy manwl
Ein canllawiau: Rydym yn darparu amrywiaeth o ganllawiau cyfrifeg i gynorthwyo ymddiriedolwyr wrth iddynt baratoi eu Hadroddiad Blynyddol a chyfrifon. Mae'r rhain i gyd i'w weld ar y tudalennau 'Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau' ar ein gwefan neu ar gael o'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218. Argymhellwn eich bod yn dechrau trwy ddarllen Adroddiadau a Chyfrifon Elusennau: Yr hanfodion Ebrill 2008 (CC15a).

Elusennau llai: Rydym hefyd yn cynhyrchu dau becyn cyfrifon, wedi'u hanelu at elusennau llai a dylai'r holl ofynion cyfreithiol gael eu bodloni trwy eu cwblhau.

Y SORP: Mae Datganiad o Arferion Cymeradwy, 'Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau' ar gael hefyd - rheoliadau sy'n disgrifio sut y dylid paratoi cyfrifon. Cyfeirir ato fel SORP 2005 fel arfer ac mae ar gael yn rhad ac am ddim o'n gwefan neu gallwch archebu copïau o'r cyhoeddwyr CCH pris £15 y copi,a £4.50 tâl post a phacio. I archebu ffoniwch CCH ar 0870 777 2906 (rhwng 08:30 a 17:30 yn ystod yr wythnos) neu anfonwch e-bost at ei wasanaethau cwsmeriaid, gan ddyfynnu cod cynnyrch CCSORP. Fel arall gallwch archebu ar-lein yn www.cch.co.uk.

Dylai pob elusen ddilyn SORP 2005 (oni bai bod SORP mwy arbenigol yn gymwys), neu roi esboniad clir am y rhesymau dros beidio â gwneud hyn.

Dd8. Oes rhaid i gyfrifon elusen gael archwiliad allanol?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Mae'n rhaid i bob elusen, boed yn elusennau anghorfforedig neu'n gwmnïau elusennol, gydag incwm gros o fwy na £10,000 gael 'unigolyn annibynnol' i archwilio eu cyfrifon. Bydd rhaid i elusennau mwy gael archwiliad allanol llawn.

Yn fwy manwl
Penderfynu ar y gofynion: Wrth benderfynu a oes angen archwiliad allanol ar gyfrifon elusen arbennig a sut i fynd ati i gynnal archwiliad allanol, rhaid ystyried gofynion statudol ac unrhyw ddarpariaethau yn nogfen lywodraethol yr elusen. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar Adroddiadau a Chyfrifon Elusennau: Yr hanfodion Ebrill 2008 (CC15a).

Gofynion yn y ddogfen lywodraethol: Gall dogfen lywodraethol elusen osod gofynion archwilio ar gyfer cyfrifon sy'n llymach na gofynion statudol; mewn achosion o'r fath efallai y gall ymddiriedolwyr ddiwygio'r ddogfen lywodraethol yn unol â'r gofynion statudol, a dylent gysylltu â ni am gyngor mewn amgylchiadau o'r fath. Rhaid i ofynion statudol bob amser gymryd blaenoriaeth dros ddarpariaethau yn y ddogfen lywodraethol.

Unigolyn annibynnol: Yn gyffredinol mae gofynion statudol yn golygu bod rhaid i bob elusen sydd ag incwm neu wariant o fwy na £10,000 gael 'unigolyn annibynnol' i archwilio eu cyfrifon. Gall hyn fod yn archwiliad annibynnol neu'n archwiliad gan archwiliwr cofrestredig. Er mwyn bod yn 'annibynnol' ni ddylai'r unigolyn dan sylw fod yn:

  • ymddiriedolwr;
  • cysylltiedig â gweinyddu'r elusen;
  • prif roddwr neu fuddiolwr; neu
  • perthynas agos, partner busnes neu weithiwr unrhyw un o'r uchod.

Os yw incwm gros yr elusen yn fwy na £250,000, rhaid i'r archwiliwr annibynnol feddu ar gymwysterau ychwanegol. Rhaid iddo fod yn gyfrifydd adrodd, yn aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Gyhoeddus (CIPFA) neu'n Gymrawd Cymdeithas Archwilwyr Annibynnol Elusennau.

Archwiliad allanol: Rhaid i gyfrifon elusen gael eu harchwilio gan archwiliwr cofrestredig:

  • os yw ei hincwm gros am y flwyddyn yn fwy na £500,000; neu
  • os yw ei hincwm gros am y flwyddyn yn fwy na £100,000 ac ar ddiwedd y flwyddyn mae cyfanswm gwerth ei hasedau (cyn didynnu rhwymedigaethau) yn fwy na £2.8 miliwn.

Elusennau Anghorfforedig a Chorfforedig:: Mae'r gofynion hyn yr un mor gymwys i gyfrifon elusennau anghorfforedig a chorfforedig sy'n cyfeirio at gyfnodau sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008. Ar gyfer cyfrifon sy'n cyfeirio at gyfnodau cyn y dyddiad hwn mae gwahanol ofynion sy'n dibynnu ar statws yr elusen fel cwmni. Am fwy o wybodaeth, chwiliwch am 'Trothwyon a ddisodlwyd' o dan 'SORP, Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau' ar ein gwefan.

Dd9. Beth yw dyletswyddau ymddiriedolwyr elusen o ran codi arian?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau bod rheolaeth briodol ganddynt dros gronfeydd os yw pobl yn codi arian ar eu rhan neu os ydynt yn cyflogi codwr arian proffesiynol. Rhaid iddynt sicrhau bod cronfeydd yn cael eu gwario (neu eu clustnodi) at y dibenion y cawsant eu codi ar eu cyfer.

Yn fwy manwl
Y sefyllfa gyfreithiol: Os yw ymddiriedolwyr yn rhoi caniatâd i bobl godi arian ar eu rhan (megis rhywun sy'n ymgymryd â digwyddiad noddedig) neu os ydynt yn cyflogi pobl i wneud gwaith codi arian ar eu rhan, dylai'r holl arian sy'n cael ei godi gael ei dalu i gyfrif banc yn enw'r elusen cyn tynnu unrhyw dreuliau. Mewn rhai amgylchiadau mae hyn yn ofyniad cyfreithiol. Dylai ymddiriedolwyr bob amser wneud yn siŵr:

  • bod unrhyw apêl yn disgrifio'n briodol sut y defnyddir cyfraniadau gan y cyhoedd; a
  • bod contract priodol wedi ei arwyddo os cyflogir codwyr arian proffesiynol fel asiantau i'r elusen.

Arfer da: Yn ogystal â'r gofynion cyfreithiol hyn, dylai ymddiriedolwyr bob amser:

  • bod yn ymwybodol o arferion codi arian da, megis Codau Ymarfer Codau Arian yr Institute of Fundraising;
  • mynnu eu bod yn cymeradwyo'r dulliau codi arian ac unrhyw lenyddiaeth apêl a ddefnyddir ar eu rhan;
  • meddwl yn ofalus am y geiriad sy'n esbonio pwrpas unrhyw apêl codi arian. Os oes pwrpas penodol i'r apêl (megis prynu darn arbennig o offer), mae'n ddefnyddiol nodi sut y gellir defnyddio'r arian a godir os yw prif bwrpas yr apêl yn methu neu os oes unrhyw arian dros ben (er enghraifft, dibenion cyffredinol yr elusen);
  • bod yn barod i fod yn agored ac yn onest ynghylch costau apêl o'r fath os gofynnir iddynt; ac
  • esbonio yn eu Hadroddiad Blynyddol effeithiolrwydd codi arian.

Mwy o wybodaeth: Mae Elusennau a Chodi Arian (CC20) ac Elusennau a Phartneriaid Masnachol (RS2) yn esbonio dyletswyddau ymddiriedolwyr o ran codi arian yn fwy manwl.

Dd10. Beth os nad yw amcanion yr elusen yn ateb diben defnyddiol mwyach?

Yr ateb byr
Os nad yw amcanion elusen yn berthnasol mwyach, mae ffyrdd o'u newid. Os nad oes gan elusennau'r pwerau eu hunain i wneud y newidiadau, dylent gysylltu â ni.

Yn fwy manwl
Adolygu'n rheolaidd: Dylai ymddiriedolwyr adolygu'n rheolaidd a yw eu helusen yn parhau i ateb diben defnyddiol. Weithiau gellir gwneud elusen yn fwy effeithiol trwy newid y ffordd y mae'n gweithredu. Mewn achosion eraill, mae'n bosibl y bydd angen newid yr amcanion neu'r darpariaethau (neu'r ddau) yn ei dogfen lywodraethol.

Elusennau anghorfforedig: Mewn rhai achosion gall elusen anghorfforedig newid ei hamcanion os yw ei dogfen lywodraethol a'r gyfraith gyffredinol yn caniatáu hyn. Fel arall bydd angen gwneud cais i ni am Gynllun. Pan fyddwn yn gwneud y newid drwy Gynllun, rhaid i ni ystyried bwriadau'r sylfaenydd yn ogystal ag anghenion cymdeithasol ac economaidd modern.

Gweithdrefnau arbennig i elusennau bach: Gall ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig gydag incwm blynyddol o ddim mwy na £10,000 newid eu dibenion drwy benderfyniad sy'n weithredol oni bai ein bod yn gwrthwynebu, yn gwneud cais am wybodaeth bellach neu'n gofyn am gyhoeddusrwydd cyn pen 60 diwrnod o'i dderbyn.

Elusennau corfforedig: Mae adran 64 Deddf 1993 yn ei gwneud hi'n ofynnol i gwmni elusennol geisio ein caniatâd blaenorol os yw newid i'r cymal amcanion yn cael ei gynnig.

Ar ôl newid yr amcanion: Os oes angen ein caniatâd ymlaen llaw neu beidio mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr roi manylion i ni am unrhyw newid i amcanion yr elusen.

Gwybodaeth bellach: Gall hwn fod yn faes cymhleth - mae ein canllaw Newid dibenion eich elusen (CC36) yn trafod y pwnc ac mae ein hadran 'Gwneud cais amdani' ar ein gwefan yn cynnwys canllawiau mwy manwl a ffurflenni i helpu gyda'r gweithdrefnau.

Dd11. Pa gyfreithiau a rheoliadau eraill mae'n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â nhw?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Fel pob sefydliad, mae elusennau yn gweithredu yn unol â chyfraith gwlad. Gall agweddau ar eu gwaith gael eu rheoleiddio gan gyrff eraill y llywodraeth. Rhaid i ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol o'r gofynion hyn, a rhaid iddynt sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio.

Yn fwy manwl
Rhai enghreifftiau: Bydd yr union ateb yn dibynnu ar y math o elusen, a'r gweithgareddau y mae'n ymgymryd â nhw. Mae'r rhestr ganlynol yn rhoi enghreifftiau o'r meysydd allweddol a all fod yn gymwys i'ch elusen:

  • Ar gyfer elusennau sy'n gwmnïau, y gyfraith cwmnïau.
  • Ar gyfer elusennau sy'n cyflogi staff, y gyfraith gyflogi.
  • Deddfwriaeth iechyd a diogelwch, er enghraifft fel y bo'n berthnasol i staff, gwirfoddolwyr a buddiolwyr.
  • Deddfwriaeth sy'n ymwneud â chydraddoldeb hiliol, gwahaniaethu ar sail anabledd, cyfle cyfartal a meysydd tebyg.
  • Ar gyfer elusennau sy'n darparu gofal cofrestredig, gofynion y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol.
  • Ar gyfer elusennau sy'n gweithio gyda phlant neu bobl eraill sy'n agored i niwed, y ddeddfwriaeth amrywiol sy'n diogelu'r cleientiaid hynny.
  • Ar gyfer elusennau sy'n gymdeithasau tai, gofynion y Gorfforaeth Dai.

Cyngor allanol: Pwysleisiwn nad yw hon yn rhestr gyflawn, ac mae'n bosibl bod nifer o reolyddion ac Arolygiaethau eraill yn ymwneud â rhai elusennau. Efallai y bydd angen i ymddiriedolwyr geisio cyngor allanol er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u holl gyfrifoldebau cydymffurfio.

E. Dyletswydd pwyll

Rhaid i ymddiriedolwyr:

  • sicrhau bod yr elusen yn ddiddyled ac yn parhau'n ddiddyled
  • defnyddio arian ac asedau elusennol yn rhesymol, a dim ond er mwyn hybu amcanion yr elusen
  • osgoi ymgymryd â gweithgareddau a allai beryglu'n ormodol gwaddol, arian, asedau neu enw da'r elusen
  • bod yn arbennig o ofalus wrth fuddsoddi cronfeydd yr elusen neu arian i'r elusen ei ddefnyddio

E1. Beth yw dyletswyddau ariannol ymddiriedolwyr?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Rhaid i ymddiriedolwyr pob elusen sicrhau bod eu cyllid yn cael ei ddefnyddio'n briodol, yn ddoeth, yn gyfreithlon ac yn unol â'i hamcanion.

Yn fwy manwl
Rheolaeth ariannol: Gallai hyn gynnwys gwneud penderfyniadau am godi arian, darparu gwasanaethau, a buddsoddiadau. Mae hon yn ddyletswydd bwysig mewn unrhyw elusen. Beth bynnag fo maint cyfalaf ac incwm yr elusen, mae rheolaeth ariannol briodol yn allweddol i lwyddiant yr elusen a'i gallu i helpu ei buddiolwyr.

E2. Beth yw'r egwyddorion i ymddiriedolwyr?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr weithredu'n rhesymol ac yn ddoeth ym mhob mater sy'n ymwneud â'r elusen a rhaid iddynt gofio bob amser mai eu prif fusnes yw gweithredu er lles yr elusen. Rhaid defnyddio incwm ac eiddo'r elusen at y dibenion a nodir yn y ddogfen lywodraethol yn unig.

Yn fwy manwl
Tegwch a gwrthrychedd: Rhaid gwario arian yr elusen yn deg ymysg pobl sy'n gymwys i elwa ohoni. Rhaid i ymddiriedolwyr elusennau sydd â gwaddol parhaol gadw cydbwysedd teg rhwng buddiannau buddiolwyr nawr ac yn y dyfodol, er enghraifft wrth ddewis buddsoddiadau.

Cronni gwargedion: Rhaid defnyddio incwm yr elusen ar gyfer ei dibenion o fewn cyfnod rhesymol o'i dderbyn, oni bai fod pŵer penodol gan yr ymddiriedolwyr i'w gronni. Heb bŵer o'r fath, ni ddylai'r ymddiriedolwyr ganiatáu i incwm yr elusen gronni oni bai fod defnydd penodol ganddynt mewn golwg ar ei gyfer. Os oes disgresiwn gan yr ymddiriedolwyr ynghylch defnyddio eiddo'r elusen, ond nid ydynt yn siŵr a yw'n briodol defnyddio'r disgresiwn hwnnw, dylent gysylltu â ni am gyngor. Cewch wybodaeth am elusennau sy'n dal cronfeydd wrth gefn yn Datgelu'r cyfan: Swm a pholisïau cronfeydd a pholisïau wrth gefn elusennau (RS13).

Ymddygiad personol yr ymddiriedolwyr: Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr weithredu'n rhesymol ac yn ddoeth ym mhob mater sy'n ymwneud â'r elusen a rhaid iddynt gofio bob amser mai eu prif fusnes yw gweithredu er lles yr elusen. Ni ddylent adael i unrhyw farn neu ragfarnau personol effeithio ar eu hymddygiad fel ymddiriedolwyr. Rhaid iddynt ymarfer gofal priodol wrth weinyddu eu helusen. Gweler Adran F hefyd ynghylch y ddyletswydd gofal y cyfeirir ati yn Neddf Ymddiriedolwyr 2000.

Gwrthdro buddiannau: Os yw'n ofynnol i ymddiriedolwyr wneud penderfyniad sy'n effeithio ar fuddiannau personol un o'r ymddiriedolwyr, gall dogfen lywodraethol yr elusen fynnu na all yr unigolyn hwnnw fod yn bresennol mewn unrhyw drafodaeth neu bleidlais ar y mater. Hyd yn oed os nad yw hyn yn ofynnol yn ôl y ddogfen lywodraethol, dylai'r ymddiriedolwyr ddilyn y drefn hon fel mater o arfer da.

Gwybodaeth bellach: Cewch fwy o fanylion am weithdrefnau ar gyfer delio â gwrthdaro buddiannau yn ein harweiniad i ymddiriedolwyr ar wrthdaro buddiannau, y gallwch ei weld trwy'r dudalen 'Cyhoeddiadau a Chanllawiau' ar ein gwefan.

E3. Pa ddyletswyddau sydd gan ymddiriedolwyr o ran eiddo'r elusen?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr weithredu bob amser i ddiogelu eiddo y mae'r elusen yn berchen arno. Os oes gwaddol parhaol gan elusen, rhaid bod yn arbennig o ofalus i gadw ei werth.

Yn fwy manwl
Rôl yr ymddiriedolwr: Mae ymddiriedolwyr yn atebol am sicrhau bod yr elusen yn effeithiol ac yn ddiddyled, a gwarchod ei gwaddolion. Rhaid iddynt arfer rheolaeth gyffredinol dros ei materion ariannol. Dylent sicrhau nad yw'r dull o weinyddu'r elusen yn agored i'w gamddefnyddio gan gyd-aelodau neu weithwyr diegwyddor; a bod eu systemau rheoli yn fanwl gywir ac yn cael eu cynnal yn gyson. Cewch fwy o fanylion a rhestr wirio o'r rheoliadau yn ein canllaw Rheolaethau Ariannol Mewnol i Elusennau (CC8).

Tir ac adeiladau: Os yw'r elusen yn berchen ar dir neu adeiladau, rhaid i'r ymddiriedolwyr wybod yn barhaus ym mha gyflwr y mae'r tir neu'r adeilad, ei fod yn cael ei ddefnyddio'n briodol, a bod yswiriant digonol ar ei gyfer. Mae Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn rhoi pŵer i yswirio eiddo ond nid yw'n gosod dyletswydd i wneud hynny. Fodd bynnag, nid yw ymddiriedolaethau nifer o elusennau yn pennu dyletswydd bositif i yswirio: os yw'r ymddiriedolwyr yn methu ag yswirio eiddo bydd hyn yn cael ei ystyried yn dor-ymddiriedaeth. Cewch fwy o fanylion yn ein canllaw Elusennau ac Yswiriant (CC49).

Rheoli arian: Dylid buddsoddi arian nad oes angen ei wario ar unwaith. Argymhellwn os disgwylir gwario arian yn y dyfodol agos, dylid rhoi arian dros ben mewn cyfrif adnau er mwyn ennill llog. Mae angen adolygu buddsoddiadau bob hyn a hyn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i anghenion yr elusen. Lle bynnag y bo'n bosibl, awgrymwn fod arian yn cael ei roi mewn amrywiaeth o fuddsoddiadau er mwyn osgoi colledion sylweddol os yw sefydliad neu fuddsoddiad unigol yn methu.

Cyfrifon banc: Rhaid i ymddiriedolwyr ddilyn unrhyw gymal perthnasol yn nogfen lywodraethol yr elusen sy'n pennu pwy sydd wedi'i awdurdodi i arwyddo sieciau. Os nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y ddogfen lywodraethol sy'n ymwneud â gweithredu cyfrifon banc, rhaid i'r mandad banc bennu o leiaf dau ymddiriedolwr fel llofnodwyr, oni bai ei fod yn rhesymol i'r ymddiriedolwyr hawlio bod angen i weithwyr arwyddo sieciau er mwyn i'r elusen allu gweithredu. Mae arweiniad pellach ar faterion diogelwch sy'n ymwneud â chyllid elusennau ar gael yn ein canllaw Rheolaethau Ariannol Mewnol i Elusennau (CC8). Fe welwch ganllawiau ar fancio electronig ar ein gwefan.

Diogelu eiddo gwaddol: Dylai ymddiriedolwyr ofalu'n arbennig fod eiddo sy'n waddol parhaol yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n creu digon o arian i'w wario ac ar yr un pryd yn diogelu gwerth y buddsoddiad. Os ydynt yn fodlon y byddai'n fwy effeithiol ac er lles yr elusen i dalu am gost project trwy wario gwaddolion parhaol yn ogystal ag incwm, gall ymddiriedolwyr elusen benderfynu gwneud hynny os ydynt yn cydymffurfio â rhai amodau. Mae ein taflen wybodaeth Gwaddol Parhaol: Beth yw hwn a phryd gellir ei wario? yn rhoi mwy o fanylion.

Dyledion ac arian sy'n ddyledus: Rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau bod yr holl incwm sy'n ddyledus i'r elusen yn cael ei dderbyn, a bod yr holl ryddhad treth a threthi lleol sy'n ddyledus yn cael ei hawlio.

E4. Pa bwerau sydd gan ymddiriedolwyr elusen o ran buddsoddi arian?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Mae Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn rhoi pŵer buddsoddi cyffredinol i ymddiriedolwyr. Mae hyn yn golygu y gall ymddiriedolwyr roi arian mewn unrhyw fath o fuddsoddiad fel pe baent yn berchennog absoliwt yr arian hwnnw: rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â rhai amodau pan fyddant yn defnyddio'r pŵer hwn. Mae'r pŵer buddsoddi cyffredinol yn ychwanegol i unrhyw bŵer sy'n bod, ond mae'n amodol ar unrhyw gyfyngiadau a gwaharddiadau yn nogfen lywodraethol yr elusen.

Yn fwy manwl
Dyletswyddau Ymddiriedolwyr: Wrth ymarfer unrhyw bŵer buddsoddi rhaid i ymddiriedolwyr ddilyn y meini prawf buddsoddi safonol ynglŷn ag addasrwydd ac amrywiaeth buddsoddiadau. Rhaid iddynt hefyd adolygu buddsoddiadau'r elusen o bryd i'w gilydd, a cheisio cyngor priodol pan fyddant yn buddsoddi neu'n adolygu'r buddsoddiadau hyn. Rhaid iddynt hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd gofal ac eithrio, yn achos pŵer buddsoddi cyfansoddiadol, lle y gwaherddir hyn.

Elusennau corfforedig: Fel arfer, bydd dogfennau llywodraethol cwmnïau elusennol yn rhoi pwerau buddsoddi tebyg; gellir eu newid os nad ydynt yn rhoi pwerau o'r fath.

Gwybodaeth bellach: Cewch fwy o arweiniad ar ddewis a rheoli buddsoddiadau'r elusen yn Buddsoddi Cronfeydd Elusennol: Egwyddorion Sylfaenol (CC14).

E5. Beth yw Cronfeydd Buddsoddi Cyffredin a Chronfeydd Adnau Cyffredin?

Yr ateb byr
Mae Cronfeydd Buddsoddi Cyffredin a Chronfeydd Adnau Cyffredin yn gynlluniau buddsoddi cyfunol sydd ar gael i elusennau yn unig.

Yn fwy manwl
Cronfeydd Buddsoddi Cyffredin: Mae Cronfa Fuddsoddi Gyffredin yn fath o gynllun buddsoddi cyfunol lle mae'r arian y mae buddsoddwyr yn ei gyfrannu at y cynllun yn cael ei gronni ac mae gweithredydd y cynllun yn buddsoddi'r arian mewn amrywiaeth o fuddsoddiadau yn unol â pholisi cyhoeddedig y cynllun. Maent yn debyg i ymddiriedolaethau uned ac yn darparu rheolaeth buddsoddiadau arbenigol. Mae nifer o gronfeydd ar gael, ac mae amcanion gwahanol gan bob un ohonynt. Gallant gymryd buddsoddiadau gan elusennau yn unig a gall fod gofynion gwahanol ganddynt ynghylch buddsoddiadau lleiaf. Bydd ymddiriedolwyr elusen sy'n buddsoddi yn gyfrifol o hyd am adolygu eu buddsoddiadau bob hyn a hyn a bydd rhaid iddynt wneud hynny o hyd er mwyn sicrhau bod buddsoddi mewn Cronfa Fuddsoddi Gyffredin yn parhau i fod yn briodol.

Cronfeydd Adnau Cyffredin: Maent yn debyg i Gronfeydd Buddsoddi Cyffredin, ond maent yn delio ag adneuon arian parod yn hytrach na buddsoddiadau. Mae Cronfeydd Adnau Cyffredin yn galluogi elusennau i osod eu harian ar adnau gyda'i gilydd, gyda chyfradd llog well na phe baent yn buddsoddi ar eu pennau eu hunain.

Cewch fwy o wybodaeth ar Gronfeydd Buddsoddi Cyffredin ar dudalen Cyhoeddiadau a Chanllawiau ein gwefan.

E6. All ymddiriedolwyr brynu tir?

Yr ateb byr
Gallant - mae pŵer er cyffredinol gan ymddiriedolwyr i brynu tir (mae'r term hwn yn cynnwys adeiladau).

Yn fwy manwl
Y sefyllfa gyfreithiol: Mae Deddf Ymddiriedolwyr 2000 a Deddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 yn rhoi pŵer i ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig brynu a rheoli tir rhydd-ddaliad a lesddaliad yn y Deyrnas Unedig. Gellir prynu'r tir fel buddsoddiad, i fuddiolwyr ei ddefnyddio, neu am unrhyw reswm arall.

Dyletswydd gofal: Dylai ymddiriedolwyr gofio fod y pŵer cyffredinol i brynu tir yn amodol ar y ddyletswydd gofal statudol.

Elusennau corfforedig: Fel arfer bydd dogfennau llywodraethol cwmnïau elusennol yn rhoi pwerau tebyg i brynu tir. Gweler hefyd ein canllaw Prynu Tir (CC33).

E7. All ymddiriedolwyr werthu neu brydlesu tir sy'n eiddo'r elusen?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Gallant. Gall y rhan fwyaf o elusennau werthu tir oni bai fod yr ymddiriedolaethau y delir y tir arnynt yn atal hyn. Mae rhai gofynion y mae'n rhaid iddynt eu bodloni pan fyddant yn gwerthu tir elusen.

Yn fwy manwl
Pŵer i werthu neu brydlesu tir: Bydd dogfennau llywodraethol nifer o elusennau (gan gynnwys y rhan fwyaf o gwmnïau elusennol) yn rhoi pŵer i'r ymddiriedolwyr waredu tir. Gall y rhai sydd heb bŵer o'r fath ddibynnu ar bwerau statudol yn Neddf Ymddiriedolwyr 2000 a Deddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996, ar yr amod bod hyn yn unol â'r ymddiriedolaethau elusennol y delir y tir arnynt.

Y drefn ar gyfer gwaredu: Cyn y gall ymddiriedolwyr werthu tir neu adeiladau, eu prydlesu, neu eu gwaredu mewn modd arall, fel rheol bydd rhaid iddynt ddilyn y drefn statudol. Mewn rhai amgylchiadau, bydd rhaid i'r ymddiriedolwyr gael Gorchymyn gennym ymlaen llaw, sy'n rhoi cydsyniad. Dylai ymddiriedolwyr sy'n ystyried gwerthu eiddo elusen ddarllen Gwerthu Tir Elusennau (CC28).

Y gofynion: Yn fyr, rhaid i ymddiriedolwyr gyfarwyddo syrfëwr cymwys a rhaid iddynt ystyried y cyngor a gânt. Ni all ymddiriedolwyr werthu tir am lai na'r pris gorau y gellir yn rhesymol ei gael. Er mwyn prydlesu tir am fwy na saith mlynedd, rhaid i ymddiriedolwyr ddilyn y drefn statudol ar gyfer gwerthu, ond mae trefn symlach ar gyfer rhai prydlesi sy'n para saith mlynedd neu lai. Os na all ymddiriedolwyr ddilyn y drefn statudol, neu os ydynt yn dymuno gwerthu tir i rywun sy'n gysylltiedig â hwy, rhaid iddynt gael gorchymyn gennym ni.

Eiddo sy'n amodol ar ymddiriedolaethau: Os yw'r eiddo sy'n cael ei werthu neu ei brydlesu yn amodol ar ymddiriedolaethau sy'n mynnu ei fod yn cael ei ddefnyddio at ddibenion penodol yr elusen, rhaid i'r ymddiriedolwyr roi rhybudd cyhoeddus o'u bwriad i werthu. Efallai y bydd angen iddynt wneud cais i'r Comisiwn hefyd am gynllun sy'n rhoi'r pŵer iddynt werthu eiddo o'r fath; dylid gwneud hyn cyn rhoi'r eiddo ar y farchnad.

Gwerthu rhwng elusennau: Gall ystyriaethau gwahanol fod yn gymwys os yw elusen yn gwerthu i elusen arall. Gall ymddiriedolaethau'r elusen gyntaf ganiatáu gwerthu'r tir i'r elusen arall am lai na'r pris gorau y byddai'n rhesymol i'w gael.

E8. All yr elusen fenthyca arian wedi'i warantu ar ei dir?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Yn gyffredinol gall elusen fenthyca arian a rhoi arwystl (hy, morgais) ar ei thir fel gwarant ar gyfer y benthyciad ond rhaid i'w hymddiriedolwyr gydymffurfio â rhai amodau.

Yn fwy manwl
Angen ceisio cyngor
: Cyn cael morgais ar eiddo'r elusen, rhaid i'r ymddiriedolwyr geisio cyngor gan rywun sydd â gallu a phrofiad wrth ymdrin â materion ariannol, ac nid oes ganddo fudd personol yn y benthyciad arfaethedig. Gall yr unigolyn hwn fod yn ymddiriedolwr neu'n weithiwr yr elusen, a rhaid iddo gynghori'r ymddiriedolwyr a yw'r benthyciad yn angenrheidiol i'r elusen, a yw'r telerau'n rhesymol, ac a fydd yr elusen yn gallu ad-dalu'r benthyciad ar y telerau hynny.

Benthyca anwarantedig: Dylai ymddiriedolwyr geisio cyngor yn yr un modd hyd yn oed os yw'r benthyciad, megis gorddrafft dros dro, heb ei warantu. Os nad yw ymddiriedolwyr yn ceisio cyngor ar faterion nad ydyn nhw eu hunain yn arbenigwyr arnynt, gellid ystyried eu bod nhw wedi gweithredu'n annoeth. Gall hyn olygu eu bod yn atebol yn bersonol am y canlyniadau.

Mwy o wybodaeth: Cewch fwy o fanylion ar forgeisiau yn Gwerthu Tir Elusennau (CC28).

F. Dyletswydd gofal

Rhaid i ymddiriedolwyr:

  • ddefnyddio gofal a medr rhesymol yn eu gwaith fel ymddiriedolwyr, gan ddefnyddio eu sgiliau a'u profiad personol fel y bo angen er mwyn sicrhau bod yr elusen yn cael ei gweinyddu'n dda ac yn effeithlon
  • ystyried ceisio cyngor proffesiynol allanol ar bob mater lle y gall fod perygl perthnasol i'r elusen, neu lle gall yr ymddiriedolwyr weithredu'n groeso i'w dyletswyddau

F1. Beth yw'r ddyletswydd gofal statudol?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Mae'r ddyletswydd gyffredinol hon sydd gan ymddiriedolwyr yn golygu bod rhaid iddynt neilltuo digon o amser, meddwl ag egni i'w dyletswyddau fel ymddiriedolwyr, a gwneud defnydd rhesymol o'u sgiliau a'u profiad.

Yn fwy manwl
Mae'r gyfraith yn dweud: Mae Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn amlinellu'r hyn a elwir yn 'ddyletswydd gofal' - ymarfer y gofal a'r medr sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau gan roi ystyriaeth arbennig i'r canlynol:

  • unrhyw wybodaeth neu brofiad arbennig sydd gan yr ymddiriedolwr neu mae'r ymddiriedolwr yn honni sydd ganddo;
  • os yw ymddiriedolwr yn gweithredu wrth ymgymryd â busnes neu broffesiwn, unrhyw wybodaeth neu brofiad arbennig y mae'n rhesymol ei ddisgwyl gan rywun sy'n gweithredu wrth ymgymryd â'r math hwn o fusnes neu broffesiwn.

Defnyddio dyletswydd gofal: Yn fyr, mae'r ddyletswydd gofal statudol yn gymwys i ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig yn unig sy'n ymarfer pwerau penodol a roddir iddynt gan Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000. Mae hefyd yn gymwys pan fydd ymddiriedolwyr o'r fath yn ymarfer yr un math o bwerau sy'n deillio o ffynhonnell heblaw'r Ddeddf honno. Er enghraifft, pan fyddant yn ymarfer pwerau buddsoddi a bennir yn y ddogfen lywodraethol. Yn fwy cyffredinol, mae cynsail gyfreithiol ac arfer da yn golygu y dylid ystyried bod y ddyletswydd gofal yn gymwys i bob agwedd ar waith yr ymddiriedolwyr wrth wneud penderfyniadau am eu helusen. Fel y nodir uchod, dylai ymddiriedolwyr sicrhau eu bod yn gwybod ac yn deall sut mae Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn gymwys iddyn nhw a'u helusen.

Elusennau corfforedig: Yn y rhan fwyaf o achosion nid yw Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn gymwys, ond mae egwyddorion y gyfraith elusennau gyffredinol yn rhoi dyletswyddau a gofynion tebyg i ymddiriedolwyr sy'n gyfarwyddwyr.

F2. Pa mor aml ddylai ymddiriedolwyr gwrdd?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Rhaid iddynt gwrdd mor aml ag y bo angen i fod yn deg i faterion yr elusen, a gwneud penderfyniadau gwybodus. Mae ymddiriedolwyr sy'n methu â chwrdd yn ddigon aml mewn perygl o dorri eu dyletswydd gofal.

Yn fwy manwl
Angen cael cyfarfodydd rheolaidd: Nid yw pob elusen yn ymgymryd â'i holl fusnes mewn cyfarfodydd Ymddiriedolwyr, ond mae nifer yn gwneud hynny. Os yw'r elusen yn gwneud hynny, ni all gael ei gweinyddu'n briodol oni bai fod yr Ymddiriedolwyr yn cwrdd yn rheolaidd. Bydd amlder cyfarfodydd yn dibynnu ar faint a natur yr elusen, ond gall gofynion ar gyfer cyfarfodydd gael eu pennu yn y ddogfen lywodraethol.

Cworwm ymddiriedolwyr: Gall y ddogfen lywodraethol fynnu bod cworwm yng nghyfarfodydd ymddiriedolwyr. Os felly, rhaid i'r ymddiriedolwyr sicrhau nad yw eu nifer yn disgyn islaw'r lleiafswm sy'n ofynnol ar gyfer cworwm, neu os ydyw, sicrhau nad yw'n aros felly. Os nad oes gofynion o'r fath yn y ddogfen lywodraethol, rhaid sicrhau fod nifer yr ymddiriedolwyr yn ddigonol ar gyfer gweithredu'n effeithiol. Bydd y nifer hwn yn dibynnu ar ofynion gweinyddol yr elusen a'r rheol gyfreithiol (os nad yw'r ddogfen lywodraethol yn nodi fel arall) sy'n mynnu na ellir gwneud penderfyniad ond trwy gytundeb y cyfan neu'r mwyafrif o'r ymddiriedolwyr. Cewch arweiniad manwl yn Elusennau a Chyfarfodydd (CC48).

F3. Faint o amser fydd ei angen?

Yr ateb byr
Bydd hyn yn dibynnu'n llwyr ar faint a gweithgareddau'r elusen. Ond bydd nifer o ymddiriedolwyr elusennau mwy yn canfod bod angen iddynt neilltuo'r hyn sy'n cyfateb i tua diwrnod y mis.

Yn fwy manwl
Neilltuo digon o amser ac egni: Bydd swydd ymddiriedolwr yn golygu paratoi ar gyfer cyfarfodydd ymddiriedolwyr a'u mynychu, a hefyd cyfarfodydd a digwyddiadau eraill. Mae'n hanfodol bod ymddiriedolwyr yn gallu neilltuo digon o amser i'r dyletswyddau hanfodol hyn fel ymddiriedolwr. Mae hyn yn golygu y dylent fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'u dyletswyddau a faint o amser y bydd angen iddynt ei neilltuo.

F4. Beth arall ddylai ymddiriedolwyr ei ystyried?

Yr ateb byr
Gall gweinyddu elusen fod yn gymhleth, ac mae'n rhaid i ymddiriedolwyr wybod y diweddaraf am amgylchedd gweithredu eu helusen. Gall hyn olygu rhwydweithio ehangach, achub ar gyfleoedd hyfforddi, neu ddarllen taflenni newyddion perthnasol neu bapurau masnach arbenigol.

Yn fwy manwl
Cydweithio: Dylai ymddiriedolwyr geisio gwybod pa waith sy'n cael ei wneud gan elusennau tebyg sy'n gweithio yn yr un ardal. Mewn rhai achosion gallant wneud hyn trwy ymuno â chymdeithas fantell sy'n cydgysylltu gwaith mewn rhyw faes arbennig. Dylai ymddiriedolwyr geisio cydweithredu ag elusennau eraill ac osgoi dyblygu ymdrechion. Awgrymwn eu bod yn cydweithio hefyd ag awdurdodau lleol a chyrff statudol eraill sy'n cynnig gwasanaethau tebyg neu ategol i wasanaethau'r elusen.

Mae Uned Gydweithio NCVO yn darparu cymorth a chyngor ar bob math o gydweithio, o brosiectau ar y cyd i gyfuniadau llawn. Cewch fwy o wybodaeth fanwl am weithio gydag elusennau eraill yn ein canllaw Cydweithio a Chyfuniadau: Cyflwyniad (CC34) a'n hadroddiad ymchwil Cydweithio a Chyfuniadau (RS4).

Darparu gwasanaethau cyhoeddus: Gall elusennau arwyddo cytundebau â'r llywodraeth neu awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus y mae'r awdurdodau hynny yn gyfrifol am eu darparu. Fodd bynnag, rhaid iddynt allu bodloni'r gofynion cyfreithiol canlynol:

  • Rhaid i ymddiriedolwyr ymgymryd â gweithgareddau sydd wedi'u cynnwys yn nibenion yr elusen yn unig a rhaid iddynt weithredu dim ond er lles yr elusen a'i buddiolwyr.
  • Rhaid i ymddiriedolwyr weithredu'n rhesymol a gwneud penderfyniadau yn unol â'u dyletswydd gofal a'u dyletswydd i weithredu'n bwyllog. Mae hyn yn golygu y dylent geisio adennill y costau llawn am y gwasanaeth a ddarparant oni bai nad yw hyn er lles y buddiolwyr.
  • Hefyd rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau bod yr elusen yn parhau i fod yn annibynnol.

Cewch wybodaeth fanwl am y materion y dylai ymddiriedolwyr eu hystyried wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn ein cyhoeddiad Elusennau a Darparu Gwasanaeth Cyhoeddus: Cyflwyniad a Throsolwg (CC37).

Strategaeth a risg: Mae'r ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am bennu nodau, amcanion a chyfeiriad strategol yr elusen. Mae adnabod risgiau sy'n deillio o weithgareddau'r elusen a rheoli'r risgiau hynny yn bwysig wrth helpu sicrhau bod yr elusen yn cyflawni ei nodau a'i hamcanion strategol. Os yw digwyddiad difrifol yn codi, a all achosi colli cronfeydd sylweddol neu risg arwyddocaol i fuddiolwyr, adnoddau neu enw da'r elusen, mae'n arfer da i ymddiriedolwyr adrodd am hyn cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt fod yn ymwybodol ohono. Rhaid i ymddiriedolwyr elusennau sydd ag incwm gros blynyddol o fwy na £500,000, neu asedau gros o fwy na £2.8 miliwn wneud datganiad yn eu Hadroddiad Blynyddol sy'n nodi a ydynt wedi ystyried y prif risgiau y mae'r elusen yn eu hwynebu a systemau sy'n ceisio lleihau’r risgiau hynny. Fel rhan o'u Hadroddiad Blynyddol rhaid i ymddiriedolwyr adrodd am unrhyw ddigwyddiad difrifol os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes neu wedi cadarnhau nad yw unrhyw ddigwyddiad o'r fath wedi digwydd. Mae arweiniad ar sut i reoli risg ac adrodd am ddigwyddiadau difrifol ar gael ar y dudalen 'Ateb ein Gofynion' ar ein gwefan.

Ff. Os yw pethau'n mynd o chwith

Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynnig gwybodaeth a chyngor i elusennau i'w cynorthwyo i weithredu mor effeithiol â phosib ac atal problemau rhag codi. Yn yr achosion prin lle mae problemau difrifol yn codi mae pwerau eang gennym i archwilio'r problemau hynny a cheisio eu datrys. Gall ymddiriedolwyr fod yn atebol yn bersonol hefyd am unrhyw ddyledion neu golledion y mae'r elusen yn eu hwynebu o ganlyniad. Bydd hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau a dogfen lywodraethol yr elusen. Fodd bynnag, nid yw atebolrwydd personol o'r fath yn codi'n aml, ac yn gyffredinol bydd ymddiriedolwyr sydd wedi dilyn y gofynion yn yr arweiniad hwn wedi'u diogelu

Ff1. Beth yw rhwymedigaethau ymddiriedolwyr elusen?

Yr ateb byr
Fel y nodwyd uchod, nid oes llawer gan ymddiriedolwr cydwybodol ac ymroddedig i'w boeni yn ei gylch o ran atebolrwydd personol. Ond mae'n bwysig bod pob ymddiriedolwr yn deall ei sefyllfa.

Yn fwy manwl
Y sefyllfa arferol: Os yw ymddiriedolwyr yn gweithredu'n bwyllog, yn gyfreithiol ac yn unol â'r ddogfen lywodraethol, yna gellir talu am unrhyw atebolrwydd (hy, dyledion neu rwymedigaethau ariannol) a ddaw i'w rhan fel ymddiriedolwyr o adnoddau'r elusen. Ond os oes atebolrwydd neu ddyledion gan ymddiriedolwyr sydd gyda'i gilydd yn fwy na gwerth asedau'r elusen, mae'n bosibl na fyddant yn gallu indemnio eu hunain yn llawn o eiddo'r elusen, hyd yn oed os yw'r atebolrwydd wedi codi'n briodol.

Os yw ymddiriedolwyr yn gweithredu'n annoeth: Os yw'r ymddiriedolwyr yn gweithredu'n annoeth, neu'n gweithredu fel arall yn groes i'r gyfraith neu'r ddogfen lywodraethol, mae'r sefyllfa yn wahanol. Yn yr achos hwn, gall ymddiriedolwyr fod yn atebol yn bersonol am rwymedigaethau a ddaw i ran yr elusen, neu wneud iawn am unrhyw golled i'r elusen. Gan fod ymddiriedolwyr yn gweithredu ar y cyd wrth weinyddu elusen, fel arfer byddant yn gyfrifol ar y cyd am fodloni atebolrwydd o'r fath.

Ein pwerau: Gallwn ddwyn achos cyfreithiol mewn llys i adennill oddi wrth ymddiriedolwyr yn bersonol arian a gollwyd gan elusen o ganlyniad i dor-ymddiriedaeth gan yr ymddiriedolwyr. Fodd bynnag, nid yw ymddiriedolwyr yn debygol iawn o orfod talu o'u poced ei hun tuag at golled ariannol y mae'r elusen yn ei hwynebu, neu tuag at ddigolledu trydydd parti sydd wedi dioddef colled ariannol o ganlyniad i'w ddeliadau â'r elusen. Mewn achosion lle mae tor-ymddiriedaeth yn achosi colled i'r elusen, gallwn ryddhau ymddiriedolwyr o'u rhwymedigaeth i dalu, ar yr amod eu bod wedi gweithredu'n onest ac yn rhesymol. Er gwaethaf hyn, gwerthfawrogwn fod gwir bryder ynghylch y perygl o atebolrwydd personol.

Lleihau risg: Argymhellwn yn gryf fod ymddiriedolwyr yn arbennig o ofalus wrth arwyddo contractau neu dderbyn benthyciadau sylweddol gan sicrhau fod modd i'r elusen fodloni ei rhwymedigaethau. Os yw ymddiriedolwyr yn glir ynghylch yr holl risgiau posib ac adnabod y meysydd, os oes, lle y gall yr elusen fod yn agored i risg, gall ymddiriedolwyr gymryd camau ataliol i leihau'r posibilrwydd o atebolrwydd personol. Er enghraifft, argymhellwn fod ymddiriedolwyr yn:

  • ymgyfarwyddo â'r ddogfen lywodraethol;
  • sefydlu gweithdrefnau sefydlu effeithiol i ymddiriedolwyr newydd;
  • ceisio cyngor proffesiynol os oes angen neu os yw'n ofynnol gan statud;
  • ceisio cyngor gan y Comisiwn neu arbenigwr proffesiynol os ydynt yn ansicr ynghylch eu dyletswyddau;
  • egluro pa bwerau sydd ganddynt i ddirprwyo awdurdod naill ai i asiant neu weithwyr;
  • gweithredu rheolaeth fewnol a rheolaethau ariannol effeithiol;
  • gwybod pa feysydd o'r gyfraith allai gael effaith ar weithgareddau'r elusen, ee cyflogaeth, iechyd a diogelwch, hawliau dynol a diogelu data;
  • cyn arwyddo contract, bodloni eu hunain bod yr adnoddau gan yr elusen i gyflawni ei rhan o'r contract a deall canlyniadau gweithredu'n groes i'r contract.

Elusennau corfforedig: Mae rheolau gwahanol yn gymwys i gyfarwyddwyr cwmnïau elusennol, gan fod y gyfraith cwmnïau yn gymwys hefyd; mae hyn yn rhoi atebolrwydd cyfyngedig i ymddiriedolwyr cyfarwyddwyr cwmni. Ond mae egwyddorion cyffredinol pwyll yr un fath.

Ff2. All elusen yswirio ymddiriedolwyr yn erbyn atebolrwydd personol?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Os yw er lles yr elusen, gall ymddiriedolwyr gael eu hyswirio gan eu helusen yn erbyn atebolrwydd personol.

Yn fwy manwl
Yswiriant sydd heb fod yn fudd personol: Os yw'n rhesymol i wneud hynny, gall ymddiriedolwyr yswirio'r elusen o gronfeydd yr elusen yn erbyn atebolrwydd i drydydd parti sy'n codi o weithredoedd a gyflawnwyd yn briodol wrth weinyddu'r elusen. Nid yw'n fudd ymddiriedolwr, ac nid oes rhaid cael awdurdod penodol i brynu'r math hwn o yswiriant.

Yswiriant sy'n fudd personol: Mae Deddf 1993 yn caniatáu i bron pob elusen brynu polisïau yswiriant indemniad ymddiriedolwyr. Mae rhai cyfyngiadau - er enghraifft, ni all y polisïau gynnwys yswiriant am ddirwyon neu gosbau troseddol, costau ymddiriedolwyr ar gyfer amddiffyn achos troseddol os yw'n cael ei ddyfarnu'n euog o dwyll, anonestrwydd neu ymddygiad byrbwyll, neu os yw rhwymedigaeth yr ymddiriedolwr yn deillio o esgeuluso buddiannau'r elusen yn fwriadol.

Mwy o wybodaeth: Cewch fwy o fanylion am ddefnyddio cronfeydd yr elusen i brynu'r math hwn o yswiriant yn ein canllaw Elusennau ac Yswiriant (CC49).

Ff3. All elusen gael ei dirwyn i ben?

Yr ateb byr Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol
Mewn rhai sefyllfaoedd, gall elusen gael ei dirwyn i ben, neu gellir trosglwyddo ei hasedau i elusen arall. Mae hwn yn faes cymhleth o'r gyfraith, a rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau eu bod yn gweithredu'n gyfreithlon. Gallwn gynghori, ac mae'n bosibl y bydd angen i ni ddefnyddio ein pwerau statudol.

Yn fwy manwl
Mae'r gyfraith yn dweud: Gellir dirwyn elusen i ben dim ond:

  • os gellir defnyddio ei holl eiddo a gwaredwyd â'r eiddo hwnnw; neu
  • mae'r ddogfen lywodraethol yn cynnwys darpariaeth dirwyn i ben neu ddiddymu; neu
  • yn achos elusen sydd â gwaddol parhaol, mae'r ymddiriedolwyr wedi defnyddio'r pwerau yn adrannau 75, 75A neu 75B Deddf1993 i ddileu'r cyfyngiad gwaddol parhaol ar gyfalaf eu helusen ac yna wedi penderfynu dirwyn yr elusen i ben; neu
  • mae'r ymddiriedolwyr wedi penderfynu trosglwyddo eu helusen i elusen arall gydag amcanion tebyg. Gall hyn fod yn weddol syml i elusennau gyda chyfalaf sy'n hollol wariadwy: i elusennau gyda gwaddol parhaol, mae'n bosibl o hyd i wneud trosglwyddiad naill ai trwy ddefnyddio'r pŵer yn adran 74 Deddf 1993 (i elusennau y mae eu hincwm blynyddol yn £10,000 neu lai) neu (i elusennau mwy) sy'n ceisio Cynllun gennym ni i ganiatáu symudiad o'r fath.

Ar ôl dirwyn i ben: Pryd bynnag y caiff elusen gofrestredig ei dirwyn i ben neu os yw'n gorffen gweithredu oherwydd bod ei heiddo i gyd wedi'i ddefnyddio neu ei drosglwyddo i elusennau eraill, rhaid i'r ymddiriedolwyr anfon copi o'r cyfrifon terfynol (sy'n dangos gweddill o ddim a sut y dosbarthwyd yr asedau sy'n weddill) atom ni, gyda chais i ddileu enw'r elusen o'r Gofrestr Elusennau.

Elusennau corfforedig: Mae rheolau gwahanol yn gymwys yn achos dirwyn cwmnïau elusennol i ben. Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Dŷ'r Cwmnïau.

Mwy o wybodaeth: Fe gewch fwy o arweiniad a ffurflenni i helpu gyda'r prosesau o ddirwyn elusen i ben a gwario gwaddol parhaol yn yr adran 'Gwneud cais amdani' ar ein gwefan.

G. Gwybodaeth bellach a chyngor

Mae nifer o adnoddau y gall ymddiriedolwyr elusen eu defnyddio i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau. Nid yw hon yn rhestr derfynol o'r holl ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael, ond mae'n cynnig golwg gyffredinol dda a man cychwyn defnyddiol. Ceisiwn annog ymddiriedolwyr i ddefnyddio'r ystod eang o sefydliadau sy'n gallu helpu ymddiriedolwyr i weinyddu eu helusen mor effeithiol â phosibl. Cewch fanylion am ffynonellau gwybodaeth pellach yn yr adran 'Cysylltiadau defnyddiol' ar hafan ein gwefan.

G1. Sefydliadau allanol

Action with Communities in Rural England (ACRE)
Mae'n darparu cyngor, hyfforddiant ac yn cyhoeddi taflenni. Mae'n cynnig gwasanaeth arbennig i ymddiriedolwyr rheoli neuaddau pentref. Mae grwpiau ACRE lleol yn cynorthwyo elusennau a chyrff gwirfoddol yn eu hardal.

Action with Communities in Rural England
Somerford Court
Somerford Road
Cirencester
Swydd Gaerloyw GL7 1TW
Ffôn: 01285 653477
Ffacs: 01285 654537
E-bost: acre@acre.org.uk
Gwefan: www.acre.org.uk

British Association of Settlements and Social Action Centres (bassac)
Rhwydwaith aelodaeth o sefydliadau cymunedol amlbwrpas. Mae bassac yn cynrychioli ei aelodau ar lefel genedlaethol ac yn cynnig cymorth strategol iddynt.

bassac
33 Corsham Street
Llundain N1 6DR
Ffôn: 0845 241 0375
Ffacs: 0845 241 0376
E-bost: info@bassac.org.uk
Gwefan: www.bassac.org.uk

Community Matters
Community Matters yw'r ffederasiwn cenedlaethol ar gyfer cymdeithasau cymunedol a sefydliadau tebyg. Mae'n cefnogi ac yn datblygu gallu sefydliadau cymunedol ac yn eu cynrychioli ar lefel genedlaethol.

Community Matters
12-20 Baron Street
Llundain N1 9LL
Ffôn: 020 7837 7887
Ffacs: 020 7278 9253
E-bost: communitymatters@communitymatters.org.uk
Gwefan: www.communitymatters.org.uk

Cynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru (CVC)
Rôl y Cynghorau Gwirfoddol Sirol yw darparu cyngor a gwybodaeth i sefydliadau gwirfoddol lleol ar unrhyw fater a all effeithio arnynt. Maen nhw'n cefnogi gweithredu gwirfoddol trwy gynorthwyo gwirfoddolwyr, cynghori ar arfer da a darparu gwybodaeth ar ffynonellau nawdd ac amryw o faterion eraill. Maen nhw hefyd yn cynrychioli'r sector gwirfoddol ar bartneriaethau traws-sector. Cewch fanylion cyswllt pob Cyngor ar wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) (am fanylion gweler isod).

Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO)
Mae'n cynhyrchu ystod eang o wybodaeth a gwasanaethau cynnal i'r rheiny sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys cyhoeddiad ar sefydlu a chefnogi ymddiriedolwyr.

Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol
Regent's Wharf
8 All Saints Street
Llundain N1 9RL
Ffôn: 020 7713 6161
Ffacs: 020 7713 6300
Ffôn di-dâl: 08002 798 798
E-bost: ncvo@ncvo-vol.org.uk
Gwefan: www.ncvo-vol.org.uk

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
Llais y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae'n cynrychioli buddiannau, ac yn ymgyrchu dros gyrff gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru. Mae'n darparu ystod gynhwysfawr o wybodaeth, gwasanaeth ymgynghorol, cyllid, gwasanaethau rheoli a hyfforddi. Gall elusennau ddefnyddio gwefan WCVA i gael hyd i'w Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) agosaf.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Baltic House
Mount Stuart Square
Bae Caerdydd
Caerdydd CF10 5FH
Ffôn: 029 2043 1700
Llinell gymorth: 0870 607 1666
Ffacs: 029 2043 1701
E-bost: enquiries@wcva.org.uk
Gwefan: www.wcva.org.uk

Cymdeithas Genedlaethol Gweithredu Gwirfoddol a Chymunedol (NAVCA)
Gall elusennau lleol ddefnyddio gwefan NAVCA i gael hyd i'w Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol (CVS) agosaf. Mae'r Cynghorau hyn yn darparu cymorth a hyfforddiant i sefydliadau gwirfoddol lleol ar nifer o faterion ymarferol, gan gynnwys materion rheoli, TG a gwirfoddoli.

NAVCA
The Tower
2 Furnival Square
Sheffield S1 4QL
Ffôn: 0114 278 6636
Ffacs: 0114 278 7004
E-bost: navca@navca.org.uk
Gwefan: www.navca.org.uk

Cymdeithas Prif Weithredwyr Cyrff Gwirfoddol (acevo)
Mae acevo yn darparu adnoddau a gwybodaeth arfer da ar faterion sy'n berthnasol i'r sector.

Cymdeithas Prif Weithredwyr Cyrff Gwirfoddol (acevo)
3rd Floor
1 New Oxford Street
Llundain
WC1A 1NU
Ffôn: 0845 345 8481
Ffacs: 0845 345 8482
E-bost: info@acevo.org.uk
Gwefan: www.acevo.org.uk

Charities Aid Foundation (CAF)
Mae'n darparu gwasanaethau i hwyluso rhoi mewn ffordd treth-effeithlon, ac yn cynnig gwasanaethau gweinyddu cyfamod. Mae'n gwneud gwaith ymchwil ac yn cyhoeddi gwybodaeth am gyllid y sector gwirfoddol.

Charities Aid Foundation
25 Kings Hill Avenue
Kings Hill
West Malling
Caint ME19 4TA
Ffôn: 01732 520 000
Ffacs: 01732 520 001
E-bost: enquiries@cafonline.org
Gwefan: www.cafonline.org.uk

Charity Trustee Networks (CTN)
Mae'n cynnig cyd-gymorth i ymddiriedolwyr trwy annog a datblygu grwpiau rhwydwaith ymddiriedolwyr hunangymorth gan ddarparu gwasanaeth ymgynghorol a mentora.

Charity Trustee Networks
3-4 Frensham Suite
Friary Court
13 -21 High Street
Guildford
Surrey GU1 3DG
Ffôn: 01483 230280
Ffacs: 01483 303932
E-bost: info@trusteenet.org.uk
Gwefan: www.trusteenet.org.uk

Directory of Social Change (DSC)
Mae'r Directory of Social Change yn ffynhonnell wybodaeth a chymorth annibynnol i'r sector gwirfoddol. Mae'n darparu cyrsiau hyfforddi ymarferol, cynadleddau a seminarau ac yn cyhoeddi canllawiau cyfeirio, llawlyfrau a chyfnodolion.

Directory of Social Change
24 Stephenson Way
Llundain NW1 2DP
Ffôn: 020 7391 4800
Ffacs: 020 7391 4808
E-bost: enquiries@dsc.org.uk
Gwefan: www.dsc.org.uk

Ethnic Minority Foundation (EMF)
Mae EMF yn datblygu adnoddau i sefydliadau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, sy'n cynnwys cyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi a chofrestr ymddiriedolwyr.

Ethnic Minority Foundation (EMF)
Forbes House
9 Artillery Lane
Llundain
E1 7LP
Ffôn: 020 7426 8950
Ffacs: 020 7426 8429
E-bost: enquiries@ethnicminorityfoundation.org.uk
Gwefan: www.ethnicminorityfund.org.uk

Fundraising Standards Board
Sefydlwyd y corff newydd hwn i weithredu cynllun hunanreoleiddio agored i'r sector codi arian, gyda'r nod o annog rhagoriaeth ym maes codi arian a darparu trefn gwyno drylwyr a hygyrch.

Fundraising Standards Board
Hampton House
20 Albert Embankment
Llundain SE1 7TJ
Ffôn: 0845 402 5442
Ffacs: 0845 402 5443
E-bost: info@frsb.org.uk
Gwefan: www.frsb.org.uk

Grŵp Cyfarwyddwyr Arian Elusennau (CFDG)
Sefydliad aelodaeth sy'n arbenigo mewn cynorthwyo elusennau i reoli eu cyfrifon, materion treth, archwilio a swyddogaethau cyllid cysylltiedig eraill.

Charity Finance Directors' Group
3rd Floor
Downstream Building
1 London Bridge
Llundain SE1 9BG
Ffôn: 0845 345 3192
Ffacs: 0845 345 3193
E-bost: info@cfdg.org.uk
Gwefan: www.cfdg.org.uk

The Institute of Chartered Secretaries and Administrators (ICSA)
Y corff proffesiynol i ysgrifenyddion siartredig. Mae'n cynhyrchu canllawiau arfer orau ac arweiniad. Mae hefyd yn cynorthwyo elusennau sy'n chwilio am ymddiriedolwyr newydd.

ICSA
16 Park Crescent
Llundain W1B 1AH
Ffôn: 020 7580 4741
Ffacs: 020 7323 1132
E-bost: info@icsa.co.uk
Gwefan: www.icsa.org.uk

Institute of Fundraising
Y corff proffesiynol sy'n cynrychioli ac yn cefnogi codwyr arian. Mae'r sefydliad yn gweithio i hybu'r safonau uchaf ym maes arfer a rheoli codi arian.

Institute of Fundraising
Park Place
12 Lawn Lane
Llundain SW8 1UD
Ffôn: 020 7840 1000
Ffacs: 020 7840 1001
E-bost: enquiries@institute-of-fundraising.org.uk
Gwefan: www.institute-of-fundraising.org.uk

Tŷ’r Cwmnïau
Yr awdurdod corfforedig i gwmnïau cyfyngedig. Mae hefyd yn cynnal seminarau i gyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion cwmni newydd eu penodi.

Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Maindy
Caerdydd CF14 3UZ
Ffôn: 0870 3333 636
E-bost: enquiries@companies-house.gov.uk
Gwefan: www.companieshouse.gov.uk

G2. Cyhoeddiadau allweddol y Comisiwn Elusennau

Mae gwefan y Comisiwn Elusennau yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth a byddem yn eich annog i ddefnyddio ein cronfa ddata cwestiwn ac ateb Right Now - gweler 'Gofynnwch i'r Comisiwn: Cwestiynau Cyffredinol'. Mae'r Comisiwn hefyd yn cynhyrchu ystod eang o gyhoeddiadau a chanllawiau ar y wefan sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ymddiriedolwyr elusen a'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith elusennau, rheoleiddio ac arfer gorau. Mae rhestr gyhoeddiadau lawn i'w gweld ar ein gwefan ac yn ein cyhoeddiad CC1, ond mae'r rhestr isod yn ddetholiad yn seiliedig ar y materion a drafodwyd yn y canllaw hwn.

Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau

CC8 Rheolaethau Ariannol Mewnol i Elusennau
CC11 Talu Ymddiriedolwyr Elusennau
CC14 Buddsoddi Cronfeydd Elusennol: Egwyddorion Sylfaenol
CC15 Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: Yr hanfodion
CC16 Pecyn Cyfrifon Derbyniadau a Thaliadau
CC17 Pecyn Cyfrifon Croniadau
CC20 Elusennau a Chodi Arian
CC21 Cofrestru fel Elusen
CC24 Cynnwys Defnyddwyr: Buddiolwyr sy'n dod yn ymddiriedolwyr
CC28 Gwerthu Tir Elusennau
CC30 Cael Hyd i Ymddiriedolwyr Newydd: Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod
CC33 Prynu Tir
CC34 Cydweithio a Chyfuniadau: Cyflwyniad
CC37 Elusennau a Darparu Gwasanaeth Cyhoeddus: Cyflwyniad a Throsolwg
CC42 Penodi Enwebedigion a Gwarcheidwaid: Arweiniad dan adran 19(4) Deddf Ymddiriedolwyr 2000
CC48 Elusennau a Chyfarfodydd
CC49 Elusennau ac Yswiriant
RS2 Elusennau a Phartneriaid Masnachol
RS4 Cydweithio a Chyfuniadau
Datgelu'r cyfan: Swm a pholisïau cronfeydd a pholisïau wrth gefn elusennau.
RS15 - Darparu ai peidio: Dyfodol elusennau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus (PDF)
Y Comisiwn Elusennau a Rheoleiddio

Cyhoeddiadau'r wefan

Elusennau a Rheoli Risg
Canllawiau ar fancio electronig
Canllaw i Wrthdaro Buddiannau i Ymddiriedolwyr Elusen

I gael copïau o'r rhain neu unrhyw un o'n cyhoeddiadau gallwch:

  • edrych arnynt a'u hargraffu o'n gwefan;
  • eu harchebu yn ystod oriau agor - Llun - Gwener 08:00 - 20:00 a 09:00 -13:00 ar ddydd Sadwrn drwy ffonio ni ar 0845 300 0218; neu
  • ysgrifennu at y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol, Blwch SP 1227, Lerpwl, L69 3UG

I gael copïau o SORP 2005 gallwch:

  • edrych arnynt a'u hargraffu o'n gwefan;
  • eu harchebu o'r cyhoeddwyr CCH pris £15 y copi, trwy:
    • eu ffonio ar 0870 777 2906 (rhwng 0830 - 1730 yn ystod yr wythnos);
    • anfon e-bost at ei wasanaethau cwsmeriaid, gan ddyfynnu cod cynnyrch CCSORP, neu
    • eu harchebu ar-lein yn www.cch.co.uk

v1.2.2