Sut gall elusennau fasnachu'n gyfreithiol
Cynnwys
C. Elusennau sy'n masnachu
C1. Beth yw masnachu?
Yr ateb byr
Yn anffodus, does dim ateb byr. Mae gwerthu nwyddau (gan gynnwys eiddo) neu wasanaethau yn nodwedd hanfodol o unrhyw fasnach. Fodd bynnag, mae achosion lle y gall elusennau werthu nwyddau neu wasanaethau, heb i'r gweithgarwch gael ei ystyried yn 'fasnach', a heb i'r incwm sy'n deillio gael ei drin fel elw masnachu. Mae'r gwahaniaeth hwn yn bwysig, er enghraifft, oherwydd gall elw masnachu fod yn drethadwy (gweler C4).
Yn fwy manwl
Mae penderfynu a yw gwerthu nwyddau a gwasanaethau gan elusen yn 'fasnachu' yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys:
- nifer ac amlder y trafodion;
- natur y nwyddau neu'r gwasanaethau sy'n cael eu gwerthu;
- beth yw bwriad yr elusen os yw'n prynu nwyddau sydd i'w gwerthu;
- a oes modd i'r elusen sy'n eu gwerthu ddefnyddio'r nwyddau a'u mwynhau;
- natur a dull gwerthiannau; a
- phresenoldeb neu absenoldeb cymhelliad i wneud elw.
Ond nid yw'r ffaith bod gwerthu nwyddau, gwasanaethau ac eiddo yn hybu amcanion yr elusen, neu fod elw masnachu yn cael ei ddefnyddio i hybu'r amcanion hyn, yn atal gweithgarwch rhag cael ei ystyried yn 'fasnachu'.
Nid yw'r gweithgareddau canlynol yn cael eu hystyried yn 'fasnachu' fel rheol, ac nid yw'r incwm sy'n deillio ohonynt yn cael ei ystyried yn elw masnachu:
- gwerthu neu osod nwyddau a roddwyd i elusen at ddiben gwerthu neu osod (gweler C3);
- gwerthu buddsoddiadau;
- gwerthu asedau y mae'r elusen yn eu defnyddio, neu wedi'u defnyddio, ar gyfer ei dibenion elusennol; a
- gosod tir ac adeiladau pan nad yw unrhyw wasanaethau yn cael eu darparu i'r defnyddiwr.
Os yw elusen yn masnachu, mae'r elw masnachu, mewn egwyddor, yn agored i dreth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol), heblaw'r eithriadau penodol. Gweler C4 am wybodaeth bellach.
Gwybodaeth bellach
Dylech gyfeirio at wefan HMRC a'r canllaw Masnachu a gweithgareddau busnes i gael mwy o wybodaeth am elusennau sy'n masnachu.
Pan fydd elusen yn gosod eiddo, fel rheol bydd angen i'r ymddiriedolwyr geisio cyngor syrfëwr cymwysedig ynglŷn â rhent priodol ar gyfer yr eiddo: gweler canllaw'r Comisiwn Gwerthiannau, prydlesi, trosglwyddiadau neu forgeisiau: Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod am waredu tir elusennau (CC28). Os yw gwasanaethau yn cael eu darparu i'r defnyddiwr, gall gosod o'r fath gael ei ystyried yn fusnes eiddo, a fyddai'n cael ei ystyried yn 'fasnachu'.
C2. Pa fath o fasnachu all elusennau ymgymryd ag ef?
Yr ateb byr
Gall elusennau ymgymryd â gweithgareddau masnachu sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at hybu eu hamcanion elusennol, neu (os mai'r diben yw codi arian i'r elusen) sydd heb beri risg sylweddol.
Yn fwy manwl
Mae'r gyfraith elusennau yn caniatáu i elusennau fasnachu ar yr amod bod masnachu wedi'i gynnwys mewn un o'r categorïau canlynol:
- 'masnachu prif ddiben' (gweler C6);
- 'masnachu ategol' (gweler C7); a
- 'masnachu heb fod yn brif ddiben' nad yw'n beri risg sylweddol i adnoddau'r elusen (gweler C8).
Sylwer, deellir fel rheol bod y trydydd categori masnachu a restrir uchod, 'masnachu heb fod yn brif ddiben' nad yw'n creu risg sylweddol i adnoddau'r elusen, yn cynnwys:
- cynnal lotrïau, yn destun amodau (gweler C11); a
- masnachu o fewn telerau'r 'eithriad ar raddfa fach' (gweler C12).
Ond gall hefyd gynnwys mathau eraill o fasnachu: mae'n dibynnu ar yr amgylchiadau.
Gwybodaeth bellach
Mae canllaw'r Comisiwn Darparu Alcohol ar Safleoedd Elusennau (CC27) yn rhoi gwybodaeth bellach am werthu alcohol ar safleoedd elusennau.
C3. Ydy gwerthu neu hurio nwyddau a roddwyd yn 'fasnachu'?
Yr ateb byr
Nac ydy. Fel rheol os yw elusen yn gwerthu, neu'n gosod ar log nwyddau a roddwyd iddi gyda'r bwriad y dylid eu gwerthu (neu eu gosod) nid yw hyn yn 'fasnachu'. Ni ystyrir bod yr incwm sy'n deillio felly yn elw masnachu ac nid yw treth gorfforaeth yn daladwy (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol). Mae gwerthiannau o'r fath yn gyfradd sero at ddibenion TAW.
Yn fwy manwl
Ni ystyrir bod gwerthu neu osod nwyddau a roddwyd yn 'fasnachu'. Mae'n weithgarwch busnes at ddibenion TAW, ac mae gwerthu neu osod o'r fath wedi'i gynnwys o fewn TAW. Fodd bynnag, mae gwerthiannau yn gyfradd sero os caiff y nwyddau eu gwerthu neu eu gosod drwy siopau elusennau, neu drwy arwerthiannau elusennol neu ddigwyddiadau tebyg, i'r cyhoedd, pobl anabl neu bobl sy'n derbyn rhai budd-daliadau arbennig, neu os cânt eu hallforio. Gall gwerthu neu osod nwyddau a roddwyd gan is-gwmni masnachu fod yn gyfradd sero hefyd (gweler Rhan Ch, yn arbennig Ch13).
Os yw nwyddau a roddwyd i elusen gyda'r nod o'u gwerthu yn cael eu haddasu neu eu gwella'n sylweddol cyn eu gwerthu, er enghraifft drwy droi deunyddiau crai a roddwyd yn nwyddau gorffenedig, gwerthadwy, gall yr elw o werthiannau o'r fath gael ei drin fel elw masnachu, a gall effeithio ar y modd y caiff ei drin at ddiben TAW. Fodd bynnag, nid yw didoli a glanhau eitemau, neu wneud mân atgyweiriadau iddynt, yn gwneud yr elw sy'n deillio o'u gwerthu yn elw masnachu.
Gweler hefyd C10.
C4. Oes rhaid i elusennau dalu treth ar elw masnachu?
Yr ateb byr
Oes. Mae elw masnachu, a pheth incwm elusen o ffynonellau eraill, yn agored i dreth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) oni bai ei fod wedi'i eithrio'n benodol.
Yn fwy manwl
Mae elw masnachu elusennau wedi'i eithrio o dreth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) os yw'r masnachu yn:
- 'fasnachu prif ddiben' (gweler C6);
- 'masnachu ategol' (gweler C7);
- o fewn telerau 'eithriad ar raddfa fach' (gweler C12).
- loteri (gweler C11); neu
- yn gysylltiedig â digwyddiadau codi arian arbennig (gweler C13).
Ym mhob un o'r achosion hyn mae'r eithriad yn destun i'r amod bod elw yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen yn unig.
Dylech nodi hefyd nad yw gwerthu neu hurio nwyddau a roddwyd at y diben hwnnw yn 'fasnachu' fel rheol ac nid yw incwm o'r gweithgarwch hwn yn agored i dreth incwm neu dreth gorfforaeth (gweler C3).
Nid yw'r rhan fwyaf o fathau o incwm elusen - heblaw elw masnachu - naill ai'n agored i dreth incwm neu dreth gorfforaeth o gwbl, neu'n gymwys ar gyfer eithriadau cyffredinol, ar yr amod bod yr incwm yn cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol yn unig. Ond mae rhai mathau o incwm heb fod yn fasnachu (a ddisgrifir yn dechnegol fel 'adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol') yn drethadwy. Mewn rhai achosion gall yr 'eithriad ar raddfa fach' fod ar gael, mewn eraill nid oes unrhyw eithriad o gwbl. Mae enghreifftiau o 'adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol' yn cynnwys:
- incwm o warantu cyfranddaliadau (ac eithrio pan fydd hyn yn cael ei wneud yn gyson, ac mae'n debygol o gael ei drin fel masnachu); ac
- enillion sy'n codi ar werthu tir, sy'n cael eu trin at ddibenion treth fel incwm yn hytrach na chyfalaf, oherwydd prynwyd y tir yn benodol gyda'r nod o gael elw ar werthu, neu oherwydd bod y tâl ar gyfer gwerthu wedi'i strwythuro'n llwyr neu'n rhannol drwy gyfeirio at elw'r datblygiad dilynol o'r tir gan y prynwr.
Gall fod yn fuddiol i'r elusen ymgymryd â busnes mewn is-gwmni masnachu y disgwylir iddo gynhyrchu adnoddau a dderbynnir o'r natur hon, oherwydd gall atebolrwydd yr is-gwmni i dalu treth gorfforaeth gael ei leihau neu ei ddileu fel y nodir yn Ch4.
Fodd bynnag, mae'r canllaw hwn yn ymwneud ag elusennau a masnachu yn bennaf, nid sut y gall elusennau leihau eu hatebolrwydd i dalu treth. Dylid ceisio cyngor proffesiynol cyn bod elusen yn neilltuo gweithgareddau heb fod yn weithgareddau masnachu o'r natur hon i is-gwmni masnachu.
Gwybodaeth bellach
Cewch fwy o wybodaeth am atebolrwydd elusennau i dalu treth ar wefan HMRC.
C5. Oes rhaid i elusennau godi TAW ar werthiannau?
Yr ateb byr
Oes. Rhaid i elusennau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW godi TAW ar werthiannau cyfradd safonol/gostyngol yn yr un ffordd â sefydliadau eraill, ond mae rhai darpariaethau penodol ar gyfer cyfradd sero neu eithriadau, sy'n gymwys i elusennau, neu i rai elusennau, ond nid i sefydliadau eraill, neu nid i bob sefydliad arall.
Yn fwy manwl
Mae TAW yn daladwy ar werthu nwyddau gan elusennau ar yr un sail ag y byddai'n gymwys i sefydliadau masnachol, oni bai fod darpariaethau penodol ar gyfer cyfradd sero neu eithriad yn gymwys. Mae nifer o ddarpariaethau o'r fath yn gymwys i rai elusennau, i elusennau yn gyffredinol, neu i ddosbarth o gyflenwr sy'n cynnwys rhai elusennau neu elusennau yn gyffredinol. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o'r hyn sy'n cael triniaeth arbennig:
- mae gwerthu neu hurio nwyddau a roddwyd i elusennau at y diben hwnnw yn gyfradd sero ar gyfer TAW (gweler C3); ac
- mae gwerthu nwyddau neu wasanaethau mewn rhai digwyddiadau codi arian elusennau wedi'i eithrio o TAW (gweler C13).
Gwybodaeth bellach
Cewch fwy o wybodaeth am atebolrwydd elusennau i dalu treth ar wefan HMRC. Mae maes TAW yn un cymhleth, a dylai unrhyw elusen sy'n gwerthu geisio cyngor arbenigwr treth.
C6. Beth yw 'masnachu prif ddiben'?
Yr ateb byr
Mae 'masnachu prif ddiben' yn fasnachu sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at un neu fwy o amcanion elusen fel y nodwyd yn ei dogfen lywodraethol. At ddibenion presennol, mae'n cynnwys masnachu lle mae'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r masnachu yn cael ei wneud gan fuddiolwyr yr elusen yn bennaf, oherwydd bydd hynny'n fasnachu prif ddiben fel rheol. Os yw felly neu beidio, mae'r gyfraith elusennau a'r rheolau treth yn debyg.
Yn fwy manwl
Mae enghreifftiau cyffredin o fasnachu prif ddiben yn cynnwys:
- ysgol neu goleg elusennol yn darparu gwasanaethau addysgol yn gyfnewid am ffioedd cyrsiau;
- gwerthu nwyddau a gynhyrchwyd gan bobl anabl sy'n fuddiolwyr elusen i'r anabl;
- oriel gelf neu amgueddfa elusennol yn cynnal arddangosfa celf yn gyfnewid am ffioedd mynediad;
- elusen gofal preswyl yn darparu llety preswyl yn gyfnewid am dâl;
- theatr elusennol yn gwerthu tocynnau am gynhyrchiad theatrig sydd i'w lwyfannu gan yr elusen;
- oriel gelf neu amgueddfa elusennol yn gwerthu nwyddau addysgol arbennig.
Mae'r elw o fasnachu prif ddiben wedi'i eithrio o dreth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol). Mae'r eithriad hwn rhag talu treth ar gael dim ond os yw'r elw yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen yn unig. Fodd bynnag, bydd y gwerthiannau y mae'r elw hwnnw wedi deillio ohonynt yn cael eu hystyried yn weithgarwch busnes at ddibenion pennu atebolrwydd i dalu TAW.
Gwybodaeth bellach
Bydd HMRC Elusennau yn cynghori ymddiriedolwyr a yw gweithgarwch arbennig, yn eu barn nhw, wedi'i gynnwys o fewn y diffiniad o fasnachu prif ddiben. Ond os oes unrhyw amheuaeth neu anhawster mae'n bosibl y bydd angen i ymddiriedolwyr ymgynghori â'u cynghorwyr proffesiynol eu hunain hefyd.
C7. Beth yw 'masnachu ategol'?
Yr ateb byr
Mae 'masnachu ategol' yn cyfrannu'n anuniongyrchol at hybu dibenion yr elusen yn llwyddiannus. Mae hyn yn cael ei drin fel rhan o 'fasnachu prif ddiben' at ddibenion y gyfraith elusennau a threth.
Yn fwy manwl
Enghraifft o fasnachu ategol yw elusen theatrig sy'n gwerthu bwyd a diod mewn bwyty neu far i aelodau'r gynulleidfa. Gall lefel y trosiant blynyddol mewn masnachu yr ystyrir ei fod yn ategol ddylanwadu ar y cwestiwn a yw'r masnachu yn ategol mewn gwirionedd, ond nid oes unrhyw lefel benodol o drosiant blynyddol wedi'i phennu pan na fydd masnachu sydd y tu hwnt i'r lefel yn cael ei ystyried yn bendant fel masnachu ategol. Nid yw masnachu yn cael ei ystyried yn ategol i gyflawni prif ddiben yr elusen dim ond oherwydd mai codi arian i'r elusen yw ei ddiben.
Gwybodaeth bellach
Cewch fwy o fanylion ar wefan HMRC a'r canllaw Masnachu a gweithgareddau busnes o fewn yr adran 'Elusennau'.
C8. Beth yw 'masnachu heb fod yn brif ddiben', a phryd all elusennau wneud hyn?
Yr ateb byr
Mae 'masnachu heb fod yn brif ddiben' yn fasnachu sy'n bwriadu codi arian i'r elusen, yn wahanol i fasnachu sydd ynddo'i hun yn hybu amcanion yr elusen. Gall elusennau ymgymryd â masnachu o'r fath dim ond os nad oes unrhyw risg sylweddol.
Yn fwy manwl
Mae'r gyfraith elusennau yn caniatáu i elusennau ymgymryd â masnachu heb fod yn brif ddiben er mwyn codi arian, ar yr amod nad yw masnachu yn cynnwys unrhyw risg sylweddol i asedau'r elusen.
Y 'risg sylweddol' i'w osgoi yma yw bod y trosiant yn annigonol i dalu costau masnachu, a rhaid talu am y gwahaniaeth o asedau'r elusen.
Er nad dyma yw'r achos o anghenraid, fel rheol byddai hawl ddigolledu gan gredydwyr masnach i unrhyw asedau'r elusen, os oedd gan yr asedau hynny unrhyw gysylltiad â'r masnachu neu beidio. Gallai'r lleihad dilynol yn asedau'r elusen atal yr elusen rhag gallu parhau i wasanaethu'r gymuned mor effeithiol ag y gallai fod wedi'i wneud fel arall, neu ddim o gwbl. Mae'n debyg bod y rhai a ddarparodd asedau'r elusen yn disgwyl y byddai'r asedau hynny yn cael eu defnyddio i hybu dibenion yr elusen, neu eu buddsoddi'n ddoeth, ac ni fyddent yn cael eu peryglu mewn gweithgareddau masnachu gyda'r nod syml o godi mwy o arian.
Mae penderfynu a yw'r risg o fasnachu heb fod yn brif ddiben yn 'sylweddol' neu beidio yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys:
- maint yr elusen;
- natur y busnes;
- y treuliau disgwyliedig;
- rhagamcaniadau o'r trosiant; a
- sensitifrwydd proffidioldeb y busnes i ddringo a disgyn yn y farchnad.
Yn anochel, bydd asesu difrifoldeb y risg yn cynnwys elfen o farn ar ran yr ymddiriedolwyr a'u cynghorwyr. Fodd bynnag, yn gyffredinol, gall loteri, neu fasnach sy'n gymwys ar gyfer 'yr eithriad ar raddfa fach' ' (gweler C12) gael ei ystyried yn weithgarwch nad yw'n cynnwys risg sylweddol.
Nid oes unrhyw eithriad cyffredinol rhag talu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) ar elw masnachu heb fod yn brif ddiben a gyflawnir gan elusen, hyd yn oed os yw'r elw i gyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau yn gymwys, hy yr eithriad lotrïau (gweler C11), yr 'eithriad ar raddfa fach' (gweler C12), a'r eithriad codi arian (gweler C13).
Os hoffai elusennau ymgymryd â masnachu heb fod yn brif ddiben sy'n cynnwys risg sylweddol, rhaid iddynt wneud hynny drwy is-gwmni masnachu, fel y nodir yn Rhan Ch. Mae hyn yn trafod a fyddai'r elw masnachu, pe bai'r elusen ei hun yn ymgymryd â'r masnachu, wedi'i eithrio rhag talu treth.
C9. Beth os yw masnachu yn cynnwys elfennau 'prif ddiben' a 'heb fod yn brif ddiben'?
Enghraifft o'r math hwn o fasnachu yw siop sy'n cael ei rhedeg gan elusen sy'n darparu oriel gelf gyhoeddus, a all werthu amrywiaeth o nwyddau, rhai'n gysylltiedig â hybu prif ddiben yr elusen (ee llyfrau sy'n ymwneud â'r arddangosfa, copïau o baentiadau'r elusen), a rhai sydd heb fod yn gysylltiedig (ee, pennau, mygiau a llieiniau hyrwyddol).
Er y bydd un fasnach yn unig gan elusen yn gyffredinol, at ddibenion treth rhaid trin y math hwn o weithgarwch masnachu prif ddiben a heb fod yn brif ddiben cymysg fel dwy fasnach ar wahân, ac mae'r rheolau sy'n gymwys i fasnachu prif ddiben a heb fod yn brif ddiben yn gymwys i bob un ar wahân. Rhaid cael dosraniad rhesymol o dreuliau a derbyniadau rhwng y masnachau y tybir eu bod ar wahân.
Mae'r driniaeth hon yn newydd ac yn gymwys i gyfnodau cyfrifyddu sy'n dechrau ar neu ar ôl 22 Mawrth 2006. Cyn hynny roedd y math hwn o fasnachu yn cael ei drin fel prif ddiben yn llwyr neu heb fod yn brif ddiben yn llwyr, yn dibynnu ar faint yr elfen heb fod yn brif ddiben. Bydd angen i ymddiriedolwyr elusennau sy'n ymgymryd â'r math hwn o fasnachu ystyried a yw unrhyw ailstrwythuro yn ddymunol.
C10. Beth os yw nwyddau a roddwyd yn cael eu gwerthu gyda nwyddau eraill?
Yr ateb byr
Nid yw gwerthu nwyddau sydd wedi cael eu rhoi i elusen yn fasnachu. Pan fydd nwyddau a roddwyd yn cael eu gwerthu gyda nwyddau eraill y mae eu gwerthu yn cael eu hystyried yn fasnachu, rhaid i'r incwm o werthu nwyddau a roddwyd fod ar wahân i'r elw masnachu.
Yn fwy manwl
Ni ystyrir bod gwerthu neu osod nwyddau a roddwyd yn fasnachu (gweler C3). Rhaid bod modd adnabod incwm o werthu neu osod nwyddau a roddwyd ar wahân mewn cofnodion yr elusen o'r elw masnachu. Rhaid ystyried masnachu cysylltiedig ar wahân, boed yn 'fasnachu prif ddiben' (gweler C6 a C7), neu 'fasnachu heb fod yn brif ddiben' (gweler C8).
Gallai'r sefyllfa hon godi mewn siop elusen sy'n cael ei rhedeg gan elusen sydd â'r nod o wella sgiliau pobl anabl. Er enghraifft, gallai'r siop werthu:
- llyfrau, CDs a fideos a roddwyd i'w gwerthu - nid masnachu;
- teganau pren wedi'u gwneud gan bobl anabl - 'masnachu prif ddiben'; a
- theganau meddal wedi'u prynu i mewn - 'masnachu heb fod yn brif ddiben' gyda'r unig ddiben o godi arian.
Yn yr achos hwn, yr unig fasnachu sy'n mynd rhagddo yw masnachu teganau pren a theganau meddal. Mae'r fasnach hon yn cael ei rhannu'n elfennau prif ddiben a heb fod yn brif ddiben, fel y nodwyd yn C9.
Gwybodaeth bellach
Os yw ymddiriedolwyr yn bryderus am oblygiadau treth busnes o'r natur hon, dylid ceisio cyngor proffesiynol, neu dylid cysylltu â HMRC Elusennau am wybodaeth. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i ymddiriedolwyr gyfeirio at y canllaw masnachu ar wefan HMRC.
C11. Ydy cynnal loteri yn cael ei ystyried yn 'fasnachu'?
Yr ateb byr
Ydy. Mae cynnal loteri yn cael ei ystyried yn fasnachu. Fodd bynnag, yn destun amodau, caniateir i elusennau gynnal lotrïau ac mae'r elw o lotrïau o'r fath wedi'u heithrio rhag talu treth.
Yn fwy manwl
Ni ystyrir bod hybu a chynnal loteri yn unol â naill ai adran 3 neu adran 5 Deddf Loterïau a Difyrion 1976 yn groes i gyfyngiadau'r gyfraith elusennau ar fasnachu heb fod yn brif ddiben, oherwydd mae unrhyw risg i asedau'r elusen sy'n deillio o ymgymryd â'r math hwn o fasnachu yn ddibwys.
Mae'r elw o loteri sy'n cael ei hybu a'i chynnal gan elusen wedi'i eithrio o dalu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol), ar yr amod bod:
- y loteri yn cael ei hybu a'i chynnal yn unol â naill ai adran 3 neu adran 5; ac
- mae'r elw o'r loteri yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen yn unig.
Rhaid i loteri adran 3, a elwir hefyd yn 'loteri fach', gadw at yr amodau hyn:
- rhaid iddi fod yn wirioneddol ategol i'r hyn a elwir yn Neddf 1976 yn 'ddifyrion wedi'u heithrio', gan gynnwys garddwesti, ffeiriau sborion, arwerthiannau, ac ati;
- ni all cyfanswm gwerth y gwobrau fod yn fwy na £250;
- rhaid i'r derbyniadau o'r loteri gael eu defnyddio ar gyfer y dibenion heblaw budd preifat;
- ni ellir rhoi unrhyw wobrau arian parod; a
- rhaid i werthu a dosbarthu tocynnau a chyhoeddi'r canlyniadau ddigwydd yn ystod yr adloniant ac ar y safle lle y'i cynhelir.
Mae loteri adran 5, a elwir hefyd yn 'loteri cymdeithas' wedi'i rheoleiddio'n fwy caeth, a gellir gwahodd y cyhoedd i gymryd rhan. Gall loteri o'r fath gael ei chynnal gan gorff sydd wedi cofrestru gyda'r Comisiwn Hapchwarae, neu'r awdurdod lleol, yn dibynnu ar faint busnes y loteri. Gall elusennau ac is-gwmnïau masnachu geisio cofrestru.
Os yw is-gwmni masnachu, yn hytrach na'r elusen ei hun, wedi'i gofrestru fel y 'gymdeithas' o dan adran 5 Deddf 1976, bydd yn hybu ac yn cynnal y loteri, ac nid oes unrhyw driniaeth treth arbennig ar gyfer unrhyw elw'r fasnach.
Mae darpariaethau Deddf 1976 y cyfeirir atynt uchod wedi cael eu disodli gan y Ddeddf Hapchwarae 2005 gyda darpariaethau cyfatebol. Nid yw'r darpariaethau olaf mewn grym eto.
C12. Beth yw'r eithriad ar raddfa fach?
Yr ateb byr
Mae'r eithriad ar raddfa fach hon yn eithriad o dalu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) ar elw masnachu heb fod yn brif ddiben ar raddfa fach a'r incwm o rai gweithgareddau busnes eraill y bydd elusennau yn ymgymryd â nhw. Mae'n gymwys dim ond os yw'r holl elw neu incwm perthnasol yn cael eu defnyddio at ddibenion yr elusen. Nid yw'n gymwys os yw'r elw masnachu neu incwm arall wedi'i eithrio o dalu treth ar ryw sail arall.
Yn fwy manwl
Mae'r eithriad ar raddfa fach yn gymwys i elw o fasnachu heb fod yn brif ddiben, a hefyd incwm arall sydd wedi'i gynnwys yn y categori 'adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol.' Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad ar raddfa fach o fewn cyfnod trethadwy penodol, naill ai:
- ni all trosiant blynyddol masnachu heb fod yn brif ddiben perthnasol yr elusen, a hefyd 'adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol' a all fod yn gymwys ar gyfer eithriad, fod yn fwy na'r 'trothwy perthnasol' yn ystod y cyfnod trethadwy; neu
- os yw'n fwy na'r 'trothwy perthnasol', rhaid iddo fod yn rhesymol i'r elusen ddisgwyl ar ddechrau'r cyfnod trethadwy na fyddai'n fwy na'r lefel honno.
Ni ddylid cyfrif trosiant masnachu, y mae ei elw yn destun eithriadau treth penodol, megis masnachu sy'n gysylltiedig â digwyddiadau codi arian (gweler C13), wrth benderfynu beth yw'r 'trothwy perthnasol'. Ni ddylid cyfrif 'adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol' ychwaith na fyddant o bosibl yn gymwys ar gyfer yr eithriad ar raddfa fach.
Mae'r tabl isod yn dangos sut y cyfrifir y trothwy perthnasol. Mae'n cymryd nad oes gan yr elusen unrhyw 'adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol' perthnasol yn y cyfnod trethadwy a fyddai'n gymwys ar gyfer yr eithriad.
| Cyfanswm yr holl adnoddau a dderbynnir mewn cyfnod trethadwy arbennig yr elusen |
Uchafswm trosiant blynyddol a ganiateir ar gyfer fasnach berthnasol yn y cyfnod trethadwy hwnnw |
| Llai na £20,000 |
£5,000 |
| £20,000 i £200,000 |
25% o gyfanswm adnoddau a dderbynnir yr elusen |
| Dros £200,000 |
£50,000 |
Nid oes unrhyw ddiffiniad statudol o'r 'holl adnoddau a dderbynnir'. Ond mae HMRC Elusennau yn ystyried ei fod yn golygu bod cyfanswm derbyniadau'r elusen am y cyfnod trethadwy o bob ffynhonnell - grantiau, cyfraniadau, incwm o fuddsoddiadau, derbyniadau masnachu etc - wedi'i gyfrifo yn unol â rheolau cyfrifyddu arferol elusennau.
Os yw trosiant y fasnach berthnasol (wedi'i gymryd gyda'r 'incwm o weithgareddau amrywiol' perthnasol) yn fwy na'r lefel uchaf (fel y nodwyd yn y golofn ar y dde yn y tabl uchod) nid yw'r eithriad ar raddfa fach yn gymwys oni bai ei fod yn rhesymol i'r elusen ddisgwyl ar ddechrau'r cyfnod trethadwy na fyddai'n fwy na'r lefel honno.
Nid yw masnach elusen y mae ei drosiant wedi'i gynnwys o fewn cwmpas yr eithriad ar raddfa fach yn debygol o fod yn groes i gyfyngiadau'r gyfraith elusennau ar fasnachu heb fod yn brif ddiben (gweler C8). Mae uchafswm isel y lefel trosiant masnachu a ganiateir yn golygu bod unrhyw risg i adnoddau'r elusen o'r fasnach yn debygol o fod yn fach.
Felly, oni bai y gwaherddir hyn gan ei dogfen lywodraethol, gall unrhyw elusen ymgymryd â masnach heb fod yn fasnachu prif ddiben, ar raddfa fach, a chael ei heithrio rhag talu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) ar yr elw, ar yr amod bod yr elw yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen.
Gwybodaeth bellach
Cewch fwy o fanylion am yr eithriad ar wefan HMRC a'r canllaw Masnachu a gweithgareddau busnes o fewn yr adran 'Elusennau'. Os yw ymddiriedolwyr yn ansicr ynghylch yr eithriad dylent gysylltu â HMRC Elusennau.
C13. Pa fanteision treth sy'n gymwys i ddigwyddiadau codi arian?
Yr ateb byr
Mae cyflenwi nwyddau neu wasanaethau mewn neu mewn perthynas ag ystod eang o ddigwyddiadau codi arian wedi'i eithrio rhag talu TAW, ac mae elw masnachu wedi'i eithrio rhag talu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol), yn destun i amodau caeth.
Yn fwy manwl
- Mae rhai eithriadau treth arbennig yn gymwys i werthiannau/incwm mewn neu mewn perthynas â digwyddiadau sydd wedi'u cynnwys o fewn telerau Grŵp 12 Atodlen 9 Deddf TAW 1994. Cyfeiriwn at y digwyddiadau hyn fel 'digwyddiadau cymwys.' Maent yn destun yr amodau canlynol:
- rhaid i'r digwyddiad gael diben elusennol;
- rhaid i'r digwyddiad gael ei drefnu gan elusen, neu is-gwmni masnachu (gweler Rhan Ch) neu gorff cymwys arall, er budd yr elusen ei hun;
- nid yw masnachu'n mynd rhagddo drwy gyfres o ddigwyddiadau (digwyddiadau lluosog - megis, dyweder, cinio a dawns wythnosol rheolaidd);
- ni ddarperir llety ar gyfer y digwyddiad am fwy na 2 noson yn olynol;
- ni all elusen (gan gynnwys is-gwmni masnachu'r elusen) neu gorff cymwys gael mwy na 15 digwyddiad o'r un fath ym mlwyddyn ariannol yr elusen mewn unrhyw leoliad.
(Sylwch os yw elusen yn cynnal mwy na 15 digwyddiad o'r un fath yn yr un lleoliad yn ystod ei blwyddyn ariannol, ni fydd unrhyw un o'r digwyddiadau yn gymwys ar gyfer eithriad.)
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran natur y digwyddiad. Nid yw'r rhestr ganlynol, sy'n rhoi enghreifftiau o ddigwyddiadau y gellir eu cynnal at ddibenion codi arian, a lle y gall elw o fasnachu achlysurol gael ei eithrio o dalu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol), a lle y gall gwerthiannau gael eu heithrio rhag talu TAW, yn derfynol.
- dawnsiau, er enghraifft, dawnsiau mawreddog, cinio a dawns, disgo neu ddawnsiau gwerin;
- perfformiadau byw, er enghraifft, cyngherddau, cynyrchiadau theatrig, bale, perfformiadau gymnastig, sioeau pypedau a digwyddiadau tebyg gyda chynulleidfa sy'n talu;
- dangos ffilm, fideo neu DVD;
- garddwesti, ffeiriau a gwyliau;
- sioeau garddwriaethol;
- arddangosfeydd, er enghraifft, gwrthrychau o ddiddordeb artistig, hanesyddol, diwylliannol, addysgol, crefyddol, gwyddonol, mecanyddol, chwaraeon, ecolegol neu amgylcheddol;
- basarau, ffeiriau sborion, arwerthiannau cist car ac arwerthiannau nwyddau fel newydd;
- gemau o sgìl, gwybodaeth neu allu, gan gynnwys gornestau a chwisiau;
- arddangosiadau tân gwyllt;
- prydau, megis ciniawau, cinio canol dydd, te a barbiciw;
- arwerthiannau o nwyddau a roddwyd; (Sylwch mae nwyddau a roddwyd yn gyfradd sero ar gyfer TAW, ac nid wedi'u heithrio, ac mae hyn yn golygu bod modd adennill TAW ar gostau sy'n gysylltiedig â'r gwerthiant; gall nwyddau a roddwyd mewn digwyddiadau fod yn gymwys ar gyfer cyfradd sero, yn wahanol i eithriad);
- arwerthiannau o nwyddau wedi'u prynu i mewn (a all ddenu TAW).
Mae'r eithriadau treth canlynol yn berthnasol i ddigwyddiadau cymwys o'r fath:
- mae nwyddau neu wasanaethau a werthir gan elusen neu is-gwmni masnachu wrth fasnachu mewn, neu mewn perthynas â, digwyddiad cymwys wedi'u heithrio rhag talu TAW; ac
- mae'r elw o werthiannau o'r fath gan elusen (ond nid gan is-gwmni masnachu) wedi'i eithrio o dalu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) ar yr amod eu bod yn cael eu defnyddio at ddibenion elusennol yn unig.
Nid oes unrhyw derfynau trosiant i'r eithriad hwn. Felly, mae ganddo'r posibilrwydd o ddarparu rhyddhad rhag talu treth ar gyfer elw o fasnachu sylweddol. Mewn rhai achosion gallai masnachu sylweddol o'r fath gynnwys risg sylweddol i asedau'r elusen sy'n ymgymryd â'r fasach. Byddai hyn yn groes i'r egwyddor na all 'masnachu heb fod yn brif ddiben' gynnwys risg sylweddol, fel y nodir yn C8.
Mewn achosion o'r fath os oes risg sylweddol yn gysylltiedig â digwyddiad codi arian elusen, rhaid i'r digwyddiad gael ei gynnal gan is-gwmni masnachu, ac nid gan yr elusen ei hun. Mae hyn yn wir er y byddai'r elw o'r digwyddiad, pe byddai wedi cael ei gynnal gan yr elusen ei hun, cymwys wedi'i eithrio rhag talu treth. Gall gwerthiannau a wnaed gan is-gwmni masnachu mewn digwyddiadau codi arian hefyd gael eu heithrio rhag talu TAW, ond nid yw'r is-gwmni masnachu yn mwynhau unrhyw driniaeth arbennig o ran treth gorfforaeth (gweler Ch3).
Gwybodaeth bellach
Gweler canllaw y Comisiwn Elusennau a Chodi Arian (CC20), a pharagraff 36 o ganllaw ar-lein HMRC Masnachu a gweithgareddau busnes.
C14. Beth sy'n digwydd os yw elusen yn colli arian o fasnachu heb fod yn brif ddiben?
Yr ateb byr
Os yw elusen yn wynebu colledion o fasnachu heb fod yn brif ddiben, gall eithriadau treth yr elusen ar incwm arall fod mewn perygl, a gall yr ymddiriedolwyr fod yn atebol am dor-ymddiriedaeth.
Yn fwy manwl
Os yw elusen yn wynebu colled o'i masnachu heb fod yn brif ddiben, ystyrir y golled mewn perthynas â'r masnachu yn 'wariant anelusennol', o fewn ystyr adran 506(1) Deddf 1988. Gallai hyn olygu cyfyngu ar eithriadau treth yr elusen ar incwm a/neu enillion eraill.
Barn y Comisiwn yw y byddai cael colled o'r fath yn cael ei ystyried yn dor-ymddiriedaeth dim ond os yw'r golled wedi codi drwy weithred anghyfrifol. Ym marn y Comisiwn, ni fyddai unrhyw dor-ymddiriedaeth, os:
- oedd yn rhesymol ddisgwyl y byddai'r fasnach yn llwyddiannus;
- oedd yn rhesymol i'r elusen ymgymryd â'r fasnach ei hun, yn hytrach na defnyddio is-gwmni masnachu;
- oedd y gwariant y deilliodd y golled ohono wedi'i gynnwys o fewn y pwerau sydd ar gael i'r ymddiriedolwyr.
Fodd bynnag, mae eithriad treth mewn perygl os yw'r golled yn codi drwy weithred anghyfrifol neu beidio. Wrth benderfynu a ddylai is-gwmni masnachu ymgymryd â'r fasnach neu beidio, dylai ymddiriedolwyr ystyried y ffaith os yw'r elusen ei hun yn ymgymryd â'r fasnach, gallai colled masnachu gyfyngu ar eithriadau treth yr elusen. Mewn rhai achosion, ond nid pob achos, gellid gosod cyfyngu'r eithriadau hyn yn erbyn y rhyddhad colled sydd ar gael. Mae paragraffau 52 i 55 canllaw ar-lein HMRC Elusennau Masnachu a gweithgareddau busnes yn rhoi manylion llawn.
Gwybodaeth bellach
Gweler Rhan Ch i gael mwy o wybodaeth am is-gwmnïau masnachu.