Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Chwefror 2007)
Cynnwys
Annwyl Ddarllenydd,
Mae elusennau yn gweithio mewn nifer eang o ffyrdd i helpu eu buddiolwyr ac yn cael cyllid o sawl ffynhonnell. Gallai un o'r rhain fod wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy gytundeb ariannu gydag awdurdod lleol, Ymddiriedolaeth Gofal Cychwynnol y GIG neu hyd yn oed gydag adran o'r llywodraeth. Efallai eich bod yn chwilio am yr wybodaeth a geir yma oherwydd bod eich elusen eisoes yn darparu'r fath wasanaethau cyhoeddus, neu'n ystyried gwneud hynny.
Ar yr adeg pan oeddem ni'n cyhoeddi'r fersiwn wreiddiol o'r canllaw hwn roedd 'diwylliant contract' yn ddatblygiad diweddar iawn i elusennau. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd nifer cynyddol o elusennau'n ysgwyddo'r gwaith hwn ac yn sicr mae'r ddadl wedi symud yn ei blaen. Efallai mai un o'r rhesymau pennaf dros hynny yw bod y Llywodraeth yn prysur annog elusennau a sefydliadau gwirfoddol i chwarae rhan bwysig mewn darparu a diwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Fel rheolydd annibynnol ar elusennau, nid gwaith y Comisiwn yw annog elusennau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ond nid ei waith yw eu rhwystro ychwaith. Gallai rhai fod ar eu mantais wrth gael cyfleon ariannu sylweddol a chael cyfle i ddarparu gwell gwasanaethau i'r rhai maent yn eu helpu. Ond hefyd mae risg: risg i annibyniaeth, risg na cheir cyllid llawn a risg o genhadaeth yn crwydro. Mae rhai elusennau eisoes yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yn llwyddiannus, ond yn sicr nid dyma'r unig ffordd y gall elusennau gyflawni eu cenhadaeth.
Mae'r rhain yn faterion pwysig i ymddiriedolwyr eu hystyried wrth benderfynu ai darparu gwasanaeth cyhoeddus fyddai'r peth iawn i'w helusen nhw. Ein swyddogaeth ni yw amlygu problemau cyfreithiol ac fel arall a hefyd amlygu enghreifftiau o ymarfer da y dylai ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol ohonynt wrth gymryd y penderfyniadau hyn. Dyma'r hyn mae'r canllaw hyn yn ei gylch
Y Fonesig Suzi Leather Cadeirydd
Andrew Hind Prif Weithredwr
B1. Beth mae'r canllaw hyn yn ei gylch?
Anelir y cyflwyniad hwn, ynghylch darparu gwasanaeth cyhoeddus, yn bennaf at elusennau llai a'r elusennau hynny sy'n ystyried darparu gwasanaethau cyhoeddus am y tro cyntaf. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i'r elusennau hynny sydd eisoes yn darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n rhoi trosolwg o broblemau cyfreithiol ac ymarfer da y mae'n rhaid elusennau eu hystyried. Rhai o'r cwestiynau allweddol mae'r canllaw yn eu hystyried yw:
Mae'r canllaw hwn yn canolbwyntio ar y materion rheolaethol mae'n rhaid i elusennau eu hystyried. Rydym hefyd yn cyfeirio at ganllawiau a gynhyrchir gan sefydliadau eraill sy'n darparu cyngor pellach yn y maes hwn.
B2. 'Rhaid' a 'dylai': beth a olygwn ni
Yn y llyfryn hwn, pan fyddwn yn defnyddio 'rhaid', rydym yn ei olygu yn yr ystyr bod rheidrwydd cyfreithiol neu reoleiddiol penodol ar ymddiriedolwyr neu elusen. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Er mwyn eich cynorthwyo i wybod pa adrannau sy'n cynnwys rheidrwydd cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio'r
symbol ger yr ateb byr yn yr adran honno.
Defnyddiwn 'dylai' am yr hyn rydym yn ei ystyried fel ymarfer da gofynnol, ond does dim rheidrwydd cyfreithiol penodol i gadw atynt. Dylai'r ymddiriedolwyr ddilyn y canllaw ymarfer da oni bai fod rheswm da dros beidio.
Rydym hefyd yn cynnig cyngor ac argymhellion llai ffurfiol a allai fod o gymorth i ymddiriedolwyr wrth reoli'u helusen.
Mae'r llyfryn hwn yn disodli Elusennau a Chontractau (CC37). Mae'r cyfan wedi'i ail ysgrifennu mewn fformat newydd. Mae pwyslais y canllaw wedi symud y tu hwnt i gontractau'n unig i'r materion ehangach o ariannu a darparu, gan adlewyrchu'r newidiadau yn y sector elusennol a'i pherthynas gyda'r sector cyhoeddus.
B4. Sut i ddefnyddio'r canllaw hwn
Mae strwythur y canllaw hwn yn dilyn y prif benawdau a ddefnyddir yn yr adran nesaf, 'Cipolwg ar elusennau a darparu gwasanaeth cyhoeddus'. O dan bob pennawd, gofynnwn nifer o gwestiynau y gallai ymddiriedolwyr neu reolwyr elusennau eu gofyn ynghylch darparu gwasanaeth cyhoeddus. Yn gyffredinol rydym yn rhoi ateb cryno ("yr ateb byr") ac yna'n rhoi mwy o gefndir ("yn fanylach").
B5. Ffynonellau eraill o gymorth a chyngor
Sonnir am fanylion rhai adnoddau sy'n darparu canllaw defnyddiol ac ymarferol yn y canllaw hwn ac fe'u rhestrir yn adran H, ynghyd â manylion cyswllt ar gyfer pob sefydliad y sonnir amdano, gyda disgrifiad byr o beth mae'n ei wneud.
B6. Rhai o'r termau technegol a ddefnyddir
Er i ni geisio ysgrifennu'r llyfryn mewn iaith pob dydd, roedd raid i ni ddefnyddio termau technegol mewn mannau. Mae'r rhestr hon yn egluro rhai ohonynt:
Buddiolwr: Term cyfreithiol am berson sy'n gymwys i elwa o waith yr elusen. Diffinnir grŵp buddiolwr yr elusen yn nogfen lywodraethol yr elusen. Gelwir buddiolwyr weithiau'n gleientiaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth.
Y Compact, a sefydlwyd ym 1998, sef fframwaith ar gyfer partneriaeth a sefydlwyd rhwng y llywodraeth a'r sector gwirfoddol a chymunedol (nid yw'n gytundeb sy'n ymrwymo'n gyfreithiol). Hefyd mae compactau lleol rhwng y sector, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus lleol eraill. Mae gan Compact godau o ymarfer da ar gyfer Grwpiau Ethnig Lleiafrifol a Du, Grwpiau Cymunedol, Ymgynghori a Gwerthuso Polisi, Cyllido a Chaffael a Gwirfoddoli. Am wybodaeth bellach, ymwelwch â gwefan y Compact www.thecompact.org.uk
Cynllun y Sector Gwirfoddol: Mae Cynllun y Sector Gwirfoddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cyflawni'r un swyddogaeth yng Nghymru â'r Compact yn Lloegr. Mae'r Cynllun yn gosod allan egwyddorion eang a gwerthoedd cyffredin sy'n rheoli'r berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru. Am wybodaeth bellach ymwelwch â thudalen Cynllun y Sector Gwirfoddol ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru www.wales.gov.uk
Dogfen lywodraethu: Dogfen gyfreithiol yw hon sy'n dangos dibenion yr elusen ac, fel rheol, sut y bydd yn cael ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cydweithio, ewyllys, trosglwyddiad, Siarter Brenhinol, Cynllun y Comisiwn neu'n ddogfen ffurfiol arall.
Cenhadaeth neu ddatganiad o genhadaeth: Term sy'n cael ei ddefnyddio gan lawer o elusennau i ddisgrifio paham maen nhw'n bodoli a pha effaith maen nhw eisiau ei gael. Gall datganiad o genhadaeth:
Rhaid i genhadaeth (neu ddatganiad o genhadaeth) elusen fod yn gyson gydag a pheidio â bod yn ehangach na'i hamcanion.
Amcanion neu ddibenion: Y rheswm neu'r rhesymau cyfreithiol pam fod elusen yn bodoli, neu'r peth(au) y cafodd ei sefydlu i'w cyflawni, fel sy'n cael eu datgan yn ei dogfen lywodraethu. Gallai'r amcanion cael eu geirio'n eithaf eang a'u mynegi mewn iaith gyfreithiol. Maen nhw'n cyfeirio at (ac o ganlyniad yn cyfyngu) ar sut mae'n rhaid defnyddio asedau'r elusen.
Awdurdod cyhoeddus: Unrhyw sefydliad sy'n rhan o lywodraeth genedlaethol neu leol, gan gynnwys y Cynulliad Cenedlaethol, adrannau'r llywodraeth, cynghorau sir a dosbarth a chyrff y GIG. Yn aml cyfeirir at sefydliadau o'r fath fel 'comisiynwyr', hy cyrff sy'n comisiynu gwasanaethau.
Prosesau yw Comisiynu a Chaffael lle mae awdurdodau cyhoeddus fel rheol yn cael gwasanaethau, gan ddechrau wrth nodi'r angen am wasanaeth, sefydlu manyleb y gwasanaeth hyd at gael neu brynu'r gwasanaeth.
Mae Ymddiriedolwyr yn golygu ymddiriedolwyr elusennau. Dyma'r bobl sy'n gwasanaethu ar gorff llywodraethu'r elusen. Gellir eu galw'n ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau'r bwrdd, llywodraethwyr, aelodau'r pwyllgor neu ryw deitl arall. Nhw sy'n gyfrifol am reolaeth gyffredinol ac am reoli gweinyddiaeth yr elusen. (Ni sonnir am fathau eraill o ymddiriedolwr yn y canllaw hwn.)
TUPE: Mae Rheoliadau Trosglwyddo Gwaith (Gwarchod Cyflogaeth) 2006 yn gwarchod hawliau gweithwyr sy'n cael eu trosglwyddo o un cyflogwr i un arall ac yn dweud fod rhaid i'r cyflogwr newydd gynnal rhai amodau a thelerau megis cyflog, gwyliau a hawliadau pensiwn.
Y Sector Gwirfoddol a Chymunedol: Mae elusennau'n rhan arwyddocaol o'r sector ehangach mewn cymdeithas a adwaenir fel y Sector Gwirfoddol neu'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol (VCS). Nid yw pob sefydliad gwirfoddol a chymunedol yn elusen. Mae'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol yn cynnwys yr holl sefydliadau nad ydynt yn rhan o sector y llywodraeth (sector cyhoeddus neu wladol) na'r sector (er elw) preifat. Mae llawer o ddogfennau ar ddarparu gwasanaeth cyhoeddus yn cyfeirio at y VCS ac nid at elusennau'n unig.
Adwaenir y sector hwn weithiau fel y Trydydd Sector. Mae'r diffyniad o'r Trydydd Sector a ddefnyddir yn gyffredinol hefyd yn cynnwys mentrau cymdeithasol (rhai ohonynt yn elusennau), mentrau cydweithredol a chymdeithasau cilyddol.
C. Cipolwg ar elusennau a darparu gwasanaeth cyhoeddus
Mae'r tudalennau hyn yn rhoi crynodeb cyflym o'r hyn mae'n rhaid i elusennau eu hystyried os ydynt yn bwriadu darparu gwasanaeth cyhoeddus.
Elusennau a gwasanaethau cyhoeddus
Wrth sôn am 'wasanaethau cyhoeddus' rydym yn golygu gwasanaethau mae awdurdodau cyhoeddus yn eu darparu neu'n eu comisiynu fel arfer. Nid yw pob gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei ddarparu o dan ddyletswydd cyfreithiol; darperir rhai o dan hawliau dewisol (mewn geiriau eraill, nid oes raid eu darparu). Hyd yn oed pan fo ddyletswydd cyfreithiol i'w darparu, nid yw'r gyfraith yn nodi bob amser yn union pa lefel o wasanaeth mae'n rhaid ei ddarparu.
Mater i'r elusennau yw penderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o gyfarfod ag anghenion eu buddiolwyr. I'r elusennau sy'n dewis darparu gwasanaeth cyhoeddus, rydym yn cynghori:
Fframwaith cyfraith elusennau
![]()
Does dim gwaharddiad cyfreithiol cyffredinol ar elusennau rhag darparu gwasanaethau cyhoeddus o dan gytundeb ariannu gydag awdurdod cyhoeddus nac yn erbyn defnyddio'u harian eu hunain i wneud hynny. Nid yw hynny'n newid cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr i gydymffurfio â chyfraith elusennau a chyda gofynion dogfen lywodraethu'r elusen.
Mae'r rheolau cyfreithiol canlynol yn berthnasol i bob elusen ond yn arbennig o berthnasol i elusennau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus:
Deall y risgiau
![]()
Mae darparu gwasanaeth cyhoeddus yn golygu bod cyfleoedd yn ogystal â risgiau i elusennau. Mae'r meysydd risg allweddol yn cynnwys risgiau ariannol, y risg o gyfaddawdu annibyniaeth yr elusen, y perygl o grwydro o'r genhadaeth, risgiau darparu gwasanaeth a chytundebol a pheryglu enw da.
Dylai unrhyw elusen sy'n ystyried darparu gwasanaeth cyhoeddus bwyso a mesur y risgiau a'r cyfleoedd. Mae'n bwysig nodi a rheoli risgiau a sicrhau eu bod yn cael eu rhannu'n briodol rhwng yr elusen a'r awdurdod cyhoeddus.
Rhaid i ymddiriedolwyr beidio â chytuno i unrhyw gontract neu gytundeb cyllido oni bai eu bod yn fodlon fod y telerau er budd yr elusen. Dylent felly, ystyried yr angen am gyngor proffesiynol (cyfreithiol a chyfrifeg) ar delerau dogfennau o'r fath.
Glynwch wrth eich cenhadaeth
![]()
Rhaid i genhadaeth elusen a'i holl weithgareddau fod o fewn ei hamcanion a'i phwerau. Yn yr un modd dylai fod yn glir sut mae unrhyw weithgaredd yn cyfrannu tuag at gyflawni'i hamcanion a'i chenhadaeth.
Mae ganymddiriedolwyr, ac mae'n rhaid iddynt ei dderbyn, gyfrifoldeb terfynol yngylch cyfeirio materion busnes eu helusen. Dylent sicrhau eu bod yn cyfranogi'n briodol i'r broses o gymryd penderfyniadau ynghylch pa weithgareddau mae'r elusen yn eu gwneud. Pan fo'r broses o gymryd penderfyniadau'n cael ei dirprwyo, dylai'r ymddiriedolwyr osod ffiniau clir ynghylch sut, a chan bwy, y gall penderfyniadau o'r fath gael eu cymryd, a sut y bydd yr ymddiriedolwyr yn dal i gael gwybod am weithgareddau'r elusen.
Dylai pob ymddiriedolwr ystyried y cwestiynau canlynol wrth ystyried a ddylai'u helusen ymgymryd ag unrhyw weithgaredd neu wasanaeth, ond maen nhw'n arbennig o berthnasol i elusennau sy'n ystyried darparu gwasanaethau cyhoeddus:
Fel ymarfer da, dylai'r ymddiriedolwyr adolygu amcanion a chenhadu yr elusen o dro i dro er mwyn sicrhau eu bod dal yn briodol.
Gwarchodwch eich annibyniaeth
![]()
Wrth ymgymryd â'i g/chyfrifoldebau, rhaid i ymddiriedolwr weithredu er lles yr elusen yn unig. Nid yw ymddiriedolwr yn ddirprwy nac yn gynrychiolydd unrhyw gorff apwyntio neu gyllido. Mae'n hanfodol fod yr holl ymddiriedolwyr yn deall eu dyletswydd cyfreithiol a bod gwrthdaro buddiannau'n cael ei reoli.
Ni ddylai elusennau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus deimlo eu bod yn cael eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol neu ymgyrchu; mae'r un rheolau'n berthnasol i bob elusen, beth bynnag yw ei gweithgareddau eraill. Am ragor o wybodaeth darllenwch Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9).
Sylweddolwch eich gwerth
Wrth 'sylweddolwch eich gwerth' golygwn:
Dylai elusen adfer costau llawn ym mhob achos pan fo awdurdod cyhoeddus yn prynu gwasanaethu oddi wrthi, oni bai ei bod er budd yr elusen i hepgor adfer y gost lawn. Mae gan elusennau hawl i gael arian yn weddill ar gytundebau cyllido.
Os yw elusen naill ai'n ystyried dechrau, neu adnewyddu, cytundeb cyllido ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus ac na fydd y cyllid sydd ar gael yn talu am gostau llawn y gwasanaeth, gallai:
Rhaid i benderfyniad yr elusen fod yn seiliedig ar fuddion yr elusen ac anghenion ei fuddiolwyr. Mae cwestiynau penodol y dylai'r ymddiriedolwyr eu hystyried cyn penderfynu defnyddio arian elusennol i dalu'r diffyg, a cheir manylion hynny yn y canllaw hwn.
Efallai y gallai'r elusen gymryd camau i wneud i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio gyda'r Compact neu gyda dyletswydd statudol. Ceir manylion y rhain yn adran I y canllaw hwn.
Canllawiau i elusennau sy'n rhoi grantiau
Dim ond pan fo cyfiawnhad clir dros wneud hynny y dylid gofyn i elusennau sy'n rhoi grant sybsideiddio gwasanaethau cyhoeddus a darpariaeth gyhoeddus arall. Dim ond pan fo cyfiawnhad o'r fath y dylai'r elusen gytuno.
Wrth ystyried ceisiadau am gyllid ar gyfer darparu gwasanaeth cyhoeddus, argymhellwn fod elusennau sy'n rhoi grant yn:
Materion eraill i'w hystyried
Gall elusennau gymryd rhai camau i reoli rhai o'r risgiau sy'n gysylltiedig gyda darparu gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys mabwysiadu ffurf cwmni cyfyngedig (' wedi ymgorffori'), defnyddio yswiriant neu ddarparu gwasanaeth trwy gwmni masnachol.
Pan fo partneriaeth yn addas gallai hynny alluogi elusennau i gystadlu am gytundebau mwy neu i elwa o enillion effeithiolrwydd wrth leihau dyblygu gwaith gweinyddol. Gallai hynny fod o fudd neilltuol i elusennau llai. Rhaid i'r elusennau ystyried y manteision a'r peryglon cyn mynd i mewn i bartneriaeth neu drefniadau cydweithio. Mae'r rhain yn cael eu hegluro'n fanylach yn ein canllaw Cydweithio a Chyfuniadau: Cyflwyniad (CC34).
Yn gyffredinol, nid yw elusennau'n cael eu trin yn wahanol ynghylch TAW ar eu gweithgareddau busnes. Mae'n rhaid cofrestru ar gyfer TAW os yw'r trosiant trethadwy'n fwy na'r cyfyngiad statudol. Gall elusen drafod unrhyw agwedd o TAW sy'n ei heffeithio gyda Chanolfan Gyngor Cenedlaethol Tollau Gartref a Thramor Ei Mawrhydi.
Gwybodaeth a chyngor pellach
Mae'r rhain wedi'u crynhoi yn adran H o'r canllaw hwn.
Ch. Elusennau a gwasanaethau cyhoeddus
Mae'r adran hon yn egluro beth a olygwn wrth wasanaethau cyhoeddus yn y canllaw hwn, a'r berthynas rhwng gwasanaethau cyhoeddus a darparu gwasanaeth elusennol (neu wirfoddol).
Ch1. Beth yw gwasanaethau cyhoeddus?
Yr ateb byr
Wrth sôn am 'wasanaethau cyhoeddus' golygwn y gwasanaethau mae'r awdurdodau cyhoeddus yn eu darparu neu'n eu comisynu fel arfer. (Ceir rhai enghreifftiau isod.)
Yn fanylach
Mae 'Gwasanaethau cyhoeddus' yn cynnwys amrywiaeth eang o wasanaethau a ddarperir neu a gomisiynir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae'r gwasanaethau hynny'n cynnwys:
Ers canrifoedd, bu elusennau yn gwneud gwaith y mae pobl erbyn hyn yn tueddu i feddwl amdano fel 'gwasanaethau cyhoeddus' ac yn aml roedd elusennau'n gweithredu cyn ac wedi bod yn annog, darpariaeth statudol. Er enghraifft, nid oedd addysg wladol yn bodoli tan ganol y 19eg ganrif, ac ym 1948 y sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Cyn hynny, elusennau oedd yn darparu ysgolion ac ysbytai. Mae canfyddiad cyhoeddus o beth ddylai'r llywodraeth ei ddarparu'n newid dros amser, ac felly hefyd lefelau cymharol y ddarpariaeth gan y sectorau elusennol a chyhoeddus. Mae awdurdodau cyhoeddus wedi derbyn y cyfrifoldeb am rai gwasanaethau wrth i ddisgwyliadau cyhoedd, polisi'r llywodraeth a dyletswyddau statudol newid. Yn fwy diweddar, tra'n cadw'r cyfrifoldeb am ddarparu (neu gyllido) gwasanaethau, mae awdurdodau cyhoeddus wedi contractio'r gwaith o ddarparu rhai gwasanaethau i sefydliadau'r sector preifat neu wirfoddol.
Nid oes gan awdurdodau cyhoeddus dyletswyddau cyfreithiol bob amser i ddarpar pob un o'u gwasanaethau; darperir rhai o dan hawliau dewisol (mewn geiriau eraill, nid oes raid iddynt eu darparu). Hyd yn oed pan fo ddyletswydd cyfreithiol i ddarparu gwasanaeth, nid yw'r gyfraith bob amser yn nodi pa lefel o wasanaeth mae'n rhaid ei ddarparu.
Ni all y Comisiwn roi cyngor awdurdodol ar ddyletswydd awdurdodau cyhoeddus i ddarparu neu gyllido gwasanaethau penodol, ond mae adran I o'r canllaw hwn yn dangos rhai o'r camau y gallai elusen eu cymryd i gael eglurhad o ddyletswydd awdurdod cyhoeddus.
Ch2. A yw Cymru a Lloegr yn gwneud pethau'n wahanol?
Yn y blynyddoedd diweddar cafwyd nifer o fentrau'r llywodraeth yng Nghymru a Lloegr sydd wedi'u hanelu at ddatblygu'r berthynas rhwng y llywodraeth a'r sector gwirfoddol a chymunedol, a'i rôl wrth ddarparu gwasanaeth cyhoeddus.
I ddarganfod mwy am bolisi'r llywodraeth yn Lloegr gweler Third Sector Action Plan Swyddfa'r Trydydd Sector a dogfen drafodaeth Trysorlys Ei Mawrhydi Exploring the role of the third sector in public service delivery and reform. Am ragor o wybodaeth ar bolisïau, blaenoriaethau a rhaglen ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gweler dogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru Gwneud y Cysylltiadau. Ceir rhagor o fanylion ynghylch y rhain a dogfennau eraill yn adran H.
Mae gwahaniaethau pwyslais rhwng Cymru a Lloegr, ond mae elusennau yn y ddwy wlad yn wynebu problemau tebyg wrth ddarparu gwasanaeth cyhoeddus.
Ch3. A allai elusennau gyfrannu tuag at wella gwasanaethau heb eu darparu?
Gall elusennau chwarae rôl allweddol i wella'r gwasanaethau mae'u buddiolwyr yn eu derbyn (a ydynt yn darparu'r gwasanaethau ai peidio) wrth ddefnyddio'u profiad o anghenion a sylwadau buddiolwyr, gan gynnwys yr hyn sy'n eu rhwystro rhag cael gwasanaethau a hysbysu a dylanwadau ar ddyluniad a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.
Pan fo elusennau'n darparu cyngor ynghylch dyluniad a darpariaeth gwasanaethau, dylent ystyried a ydynt, mewn gwirionedd, yn darparu 'ymgynghoriaeth' rhad ac am ddim neu'n rhoi eiddo deallusol i ffwrdd. Gallai'r wybodaeth yma fod yn werthfawr a dylai elusennau ystyried a ydynt yn cael eu gwobrwyo'n deg neu'u cyllido amdano.
D. Fframwaith cyfraith elusennau
Mae'r adran hon yn tynnu sylw at y gofynion cyfreithiol sy'n rhaid i elusennau gydymffurfio â nhw wrth ymgymryd â chyflenwi gwasanaeth cyhoeddus.
D1. Beth mae'r gyfraith yn ei dweud ynghylch elusennau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus?
![]()
Yr ateb byr
Ychydig iawn. Nid oes gwaharddiad cyfreithiol cyffredinol ar elusennau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus o dan gytundeb ariannu gydag awdurdod cyhoeddus neu sy'n defnyddio eu cyllid eu hunain i wneud hynny, hyd yn oed os oes dyletswydd gyfreithiol ar yr awdurdod i ddarparu'r gwasanaeth. Nid yw hyn yn newid cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr i gydymffurfio â gofynion a chyfyngiadau cyfraith elusennau fel sy'n cael ei grynhoi yn yr adran hon, na gofynion dogfen lywodraethu'r elusen.
Yn fanylach
Mae'r egwyddorion cyfreithiol allweddol fel a ganlyn:
Nid yw hyn yn newid cyfrifoldeb ymddiriedolwyr i gydymffurfio â chyfraith elusennau a dogfen lywodraethu'r elusen.
Elusennau newydd: Gellir sefydlu elusen i gyflenwi gwasanaeth neu wasanaethau cyhoeddus penodol naill ai'n gyfan gwbl neu fel rhan o ystod ehangach o weithgareddau. Mae'n rhaid sefydlu'r corff at ddibenion cyfan gwbl elusennol neu er lles y cyhoedd (y prawf cyfreithiol ar gyfer statws elusennol), ac nid yn unig fel modd o ymgymryd â dyletswyddau neu bolisi'r awdurdod cyhoeddus.
Elusennau cyfredol: Mae gostyngiad treth yn ddiben elusennol cyhyd a'i fod er budd y cyhoedd. Ychydig iawn o elusennau sydd â'r amcan elusennol clir hwn, ond gallant hwy ac elusennau â dibenion elusennol cyffredinol gymorthdalu cyllid cyhoeddus yn uniongyrchol, cyhyd a'u bod yn gallu dangos bod hyn er budd y cyhoedd.
Heb naill ai'r amcan penodol hwn neu ddibenion elusennol cyffredinol, ni all elusen ddefnyddio ei gyllid yn uniongyrchol ar gyfer gostwng treth. Ond ni fyddai elusen angen yr amcanion penodol hyn os yw'r ymddiriedolwyr yn fodlon mai dim ond sgil effaith i gyflawni diben elusennol penodol yr elusen.
D2. Pa ofynion y gyfraith elusennau sy'n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â hwy wrth ymgymryd â darparu gwasanaeth cyhoeddus?
![]()
Yr ateb byr
Mae'r rheolau cyfreithiol a ganlyn yn berthnasol i bob elusen ond yn arbennig o berthnasol i elusennau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus:
Yn fanylach
Amcanion a phwerau'r elusen: Rhaid i'r elusen weithredu o fewn yr amcanion yn eu dogfennau llywodraethu bob amser. Mae'n bosibl y bydd yr amcanion yn cyfeirio at leoliad neu grŵp penodol o fuddiolwyr (er enghraifft wedi'u seilio ar ryw, oed, anabledd neu angen). Gellir nodi'r mathau penodol o wasanaethau neu weithgareddau y gall elusen eu cynnig.
Rhaid i elusennau weithredu o fewn eu pwerau cyfreithiol hefyd. Fel arfer, bydd pwerau'r elusen i'w gweld yn ei dogfen lywodraethu, ond gellir cynnwys pwerau mewn deddfwriaeth neu gyfraith achosion hefyd.
Dylai ymddiriedolwyr ddeall, a gallu esbonio, pam fod yr elusen yn ymgymryd ag unrhyw weithgarwch a sut mae hynny'n hyrwyddo amcanion yr elusen.
Annibyniaeth gyfreithiol: Er mwyn bod yn elusen, rhaid i gorff fodoli at ddibenion elusennol yn unig, ac nid er mwyn gweithredu ar bolisïau neu gyfarwyddiadau awdurdod cyhoeddus. Fel tystiolaeth o hyn, byddai'r Comisiwn yn edrych am nifer o nodweddion, a esbonnir yn Annibyniaeth Elusennau o'r Wladwriaeth (RR7).
Ni fyddai hyn yn atal awdurdod cyhoeddus rhag enwebu neu benodi ymddiriedolwyr, neu hyn oed rhag bod yn ymddiriedolwr o ran ei fodolaeth corfforaethol. Serch hynny, lle ceir hyn, mae'n rhaid rheoli gwrthdaro buddion yn briodol (gweler adran F, Gwarchod eich annibyniaeth).
Buddion yr elusen: Mae gan ymddiriedolwyr ddyletswydd cyffredinol i ymddwyn er budd yr elusen a'i fuddiolwyr. Golyga hyn:
Yn ymarferol, ychydig iawn o elusennau sy'n gallu cynorthwyo pob buddiolwr posibl, a rhaid i ymddiriedolwyr wneud dewisiadau anodd ynghylch blaenoriaethau. Rhaid i ymddiriedolwyr ystyried anghenion buddiolwyr presennol ac yn y dyfodol, a chaniatáu i hyn hysbysu penderfyniadau ynghylch nawdd a chynaliadwyedd. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd ymddiriedolwyr yn teimlo y gellir cael manteision tymor byr, megis y gallu i gyrraedd buddiolwyr newydd, drwy ddarparu gwasanaeth nad yw'n talu am ei gostau ei hunan. Serch hynny, yn y tymor hirach, mae'n bosibl y bydd y manteision yn cael eu gorbwyso gan yr effaith ar lefel cronfeydd wrth gefn yr elusen, ei sefydlogrwydd ariannol cyffredinol a'i allu i ymgymryd â gwaith arall.
Dyletswydd doethineb: Er mwyn cydymffurfio â'u dyletswydd doethineb, rhaid i ymddiriedolwyr:
Gall hyn olygu, er enghraifft, cymryd cyngor proffesiynol annibynnol ar faterion pan nad oes gan yr ymddiriedolwyr ddigon o arbenigedd (a allai gynnwys drafftio a thrafod cytundeb - gweler adran Dd4 y cyfarwyddyd hwn).
Am wybodaeth bellach ynghylch y ddyletswydd hon, gweler Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod (CC3)..
Dyletswydd gofal: Rhaid i ymddiriedolwyr roi digon o amser, ystyriaeth ac egni i'w dyletswyddau a gwneud defnydd rhesymol o'u sgiliau a'u profiad. Y 'dyletswydd gofal' penodol yn y Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 yw bod mor ofalus a sgilgar ag sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau gan roi ystyriaeth benodol i:
A bod yn fanwl gywir, dim ond i ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig sy'n defnyddio pwerau yn y Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 mae hyn yn berthnasol, neu pan fyddant yn defnyddio pwerau tebyg sy'n deillio o ffynhonnell arall. Fodd bynnag, mae cyfraith achosion a Deddf Cwmnïau 2006 yn gorfodi dyletswyddau tebyg ar gyfarwyddwyr cwmnïau elusennol. Golyga ymarfer da y dylid ystyried fod dyletswydd gofal yn berthnasol i'r bob ymddiriedolwr ac i bob agwedd ar eu gwaith wrth wneud penderfyniadau ynghylch eu helusen.
Esbonnir dyletswydd gofal ymddiriedolwyr yn fanylach yn Yr Ymddiriedolwr Hanfodol (CC3) a'n cyfarwyddyd gweithredol ar Statutory Duty of Care (OG86 B6).
Mae darparu gwasanaeth cyhoeddus yn cyflwyno nifer o gyfleoedd i elusennau, ond gallai godi rhai risgiau hefyd. Dylai ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch a ddylid cynnal yn y math hwn o weithgaredd a'r telerau sy'n sail i wneud hynny.
Dd1. Pa gyfleoedd y gall darparu gwasanaeth cyhoeddus ei gynnig i elusennau?
Mae darparu gwasanaeth cyhoeddus yn un ffordd y gall elusennau hyrwyddo eu cenhadaeth, ehangu ar eu gweithgareddau a darparu gwasanaethau newydd i gyfarfod ag anghenion eu buddiolwyr. Mewn egwyddor (fel yr esbonnir isod), dylid ei gyllido'n briodol ac felly byddai'n ffynhonnell bosibl incwm.
Ar yr un pryd fe all fod yn ffordd o wella'r gwasanaethau cyhoeddus y mae'r buddiolwyr yn eu derbyn, ac yn gyfle i ddylanwadu ar bolisïau awdurdodau cyhoeddus tuag at fuddiolwyr.
Dd2. Pa risgiau dylai elusennau fod yn ymwybodol ohonynt?
Yr ateb byr
Mae risg yn rhan o fywyd bob dydd. Ni all elusennau osgoi risg yn gyfan gwbl, ac weithiau dim ond wrth gymryd risg y ceir arloesi a newid gwirioneddol.
Mae profiad elusennau o ddarparu gwasanaeth cyhoeddus hyd yma wedi tynnu sylw at y meysydd risg posibl a ganlyn:
Nid risgiau sy'n benodol i gyflenwi gwasanaeth cyhoeddus yw llawer o'r rhain ac mae'n bosibl y bydd elusennau yn gyfarwydd â nhw drwy agweddau eraill o'u gwaith.
Mae'n bwysig bod elusennau yn ymwybodol ba risgiau sy'n codi. Rydym yn cynghori'r elusennau i ddefnyddio'r wybodaeth hon wrth ystyried a thrafod telerau unrhyw gytundeb ariannu.
Yn fanylach
Risgiau ariannol:
Risgiau rheolaethol:
Risgiau yn gysylltiedig â'r gwasanaeth:
Mae telerau rhai prosesau tendro yn clymu ymgeiswyr mewn cytundebau. Mewn achosion o'r fath gellir ystyried, drwy dendro, bod elusen wedi derbyn y telerau cytundebol onid yw wedi gwarchod ei safle yn benodol o flaenllaw. I'r gwrthwyneb, wrth geisio gwarchod ei safle mae'n bosibl y bydd yr elusen yn peryglu bod ei thendr yn mynd i gael ei wrthod.
Mae ymdrin ag aelodau'r cyhoedd hefyd yn cynnwys risg o atebolrwydd, er enghraifft anaf personol.
Risgiau i enw da:
Dylai'r ymddiriedolwyr nodi ac asesu'r risgiau a phenderfynu pa un yw'r ffordd orau i'w lleihau, eu hosgoi a'u rheoli ar gyfer pob agwedd o waith yr elusen. Dylai trafod cytundeb ariannu gydag awdurdod cyhoeddus olygu hefyd archwilio'r cydbwysedd ynghylch risgiau a'u rhannu rhwng yr elusen a'r awdurdod. Nid yw o fudd i unrhyw un bod yr elusen yn cario baich annheg o ran risgiau pe byddai hynny'n tanseilio effeithlonrwydd ac ansawdd y gwasanaeth a'r gwerth am arian.
Ffordd arall o reoli neu leihau rhai risgiau ariannol, cytundebol neu o ran darparu yw chwarae rhan yn y broses gomisiynu (cynllunio a manylion gwasanaeth) o gyfnod cynnar. Gall elusennau ddylanwadau'n bositif ar y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu llunio, gan ddefnyddio eu dealltwriaeth o anghenion buddiolwyr.
Dd3. Pa gymorth a chyfarwyddyd sydd ar gael ynghylch rheoli risgiau?
Mae nifer o gyhoeddiadau ar gael ynghylch darparu gwasanaethau cyhoeddus, a rhestrir rhai ohonynt yn adran H y cyfarwyddyd hwn. Mae'n bosibl y bydd elusennau yn cael y cyfarwyddyd penodol a ganlyn yn ddefnyddiol:
(Mae'r dogfennau hyn wedi'u hanelu at ddarllenwyr yn y sector cyhoeddus ac mae'n bosibl y byddai elusennau'n dymuno tynnu sylw'r comisiynwyr atynt wrth drafod cytundebau ariannu.)
Mae'r Comisiwn wedi cynhyrchu cyfarwyddyd Charities and Risk Management
Dd4. A ddylai elusennau ystyried cymryd cyngor cyn llofnodi cytundeb ariannu?
![]()
Yr ateb byr
Dylent. Yn benodol, dylai ymddiriedolwyr ystyried maint y cytundeb ac unrhyw risgiau posibl penodol sydd ynddo wrth benderfynu pa gyngor maent ei angen.
Yn fanylach
Mae cytundebau yn ddogfennau cyfreithiol. Mae'n bosibl y gellir gorfodi telerau'r cytundebau a chytundebau ariannu eraill yn erbyn yr elusen a hwyrach y byddant yn cynnwys cosbau ar gyfer diffyg perfformiad. Mae gwahanol ystyriaethau cyfreithiol yn dibynnu ar natur y cytundeb ariannu (gweler Ff3, Gwahanol fathau o gytundebau ariannu). Dylai'r telerau gynnwys, er enghraifft, manylion y gwasanaeth sydd i'w ddarparu, telerau talu, trefniadau ar gyfer monitor a gwerthuso, iawn am wasanaeth gwael, darpariaethau ar gyfer unrhyw arian dros ben neu ddiffyg, adolygu a therfynu. Yn aml bydd rhwymedigaethau ar yr elusen i indemnio'r awdurdod yn erbyn hawliadau trydydd parti, neu o bosibl i gymryd eiddo neu staff penodol. Mae'n bosibl na fydd telerau'r cytundeb er budd yr elusen.
Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod cyhoeddus yn ceisio mynnu nad oes modd newid telerau'r cytundeb, ond yn gyfreithiol dylai elusen gael y dewis bob amser i drafod neu wrthod llofnodi. Serch hynny dylai elusennau fod yn ofalus ynghylch ymuno â phrosesau tendro os yw'n bosibl y bydd telerau cytundebol yn cael eu gorfodi ar yr elusen oni bai ei bod wedi nodi yn y tender yr hyn y mae'n dymuno eu trafod.
Rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau nad oes unrhyw ddogfen gyfreithiol yn cael ei llofnodi oni bai eu bod yn fodlon bod y telerau er budd yr elusen; byddai gwneud fel arall yn torri ar eu dyletswydd. Felly, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ystyried a oes angen cyngor proffesiynol (cyfreithiol a chyfrifyddiaeth); yn enwedig pan fo'r elusen yn ystyried mynd i gytundeb sydd o werth uchel o gymharu â maint yr elusen neu sy'n cario risgiau posibl. Gall y cyngor hwn ddod gan arbenigwyr allanol neu fewnol. Rhaid i unrhyw ymddiriedolwr sy'n gymwys yn broffesiynol ystyried eu dyletswydd gofal (gweler adran D2 y llawlyfr hwn) wrth benderfynu a yw'n briodol iddynt gynghori eu helusen ar unrhyw fater penodol.
Rhai ffynonellau cyngor cyffredinol:
Mae'n bosibl y bydd elusennau yn cael y canlynol yn ddefnyddiol. Gweler adran H am ragor o fanylion.
Cyhoeddiadau:
Cysylltiadau defnyddiol:
Mae'n hanfodol bod elusennau yn glir ynghylch pam eu bod yn bodoli a phwy y maent i'w cynorthwyo, fel nad ydynt yn colli cyfeiriad. Gall ddiffyg eglurder ynghylch cyfeiriad a diben fod y cam cyntaf tuag at ddrifft cenhadaeth. Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng amcanion neu ddibenion cyfreithiol elusen a'i chenhadaeth, beth mae'n anelu at ei gyflawni, a sut dylai hyn lywio ei gweithgareddau (a allai gynnwys darparu gwasanaeth cyhoeddus).
E1. Sut dylai amcanion elusen fod yn llywodraethu ei chenhadaeth a'i gweithgareddau?
Rhaid i genhadaeth yr elusen a'i holl weithgareddau fod o fewn cwmpas ei hamcanion a'i phwerau. Yn ogystal dylai fod yn glir sut mae unrhyw weithgaredd yn cyfrannu at gyflawni'r amcanion a'r genhadaeth. Yn yr un modd dylai fod yn glir sut mae unrhyw weithgaredd yn cyfrannu tuag at gyflawni'i hamcanion a'i chenhadaeth. Mae hyn yn hanfodol pan fo elusennau yn mynd i gytundebau i ddarparu gwasanaethau pan nad yw telerau neu gwmpas cytundeb ariannu yn cyd-fynd yn union ag amcanion yr elusen.
E2. Pwy ddylai wneud penderfyniadau ynghylch pa weithgareddau y dylai'r elusen ei gwneud?
Yr ymddiriedolwyr sydd â'r cyfrifoldeb eithaf dros gyfarwyddo materion yr elusen a rhaid iddynt dderbyn hynny, gan sicrhau bod yr elusen yn ddiddyled, yn cael ei rhedeg yn dda ac yn darparu canlyniadau elusennol y cafodd ei sefydlu i wneud hynny er budd y cyhoedd. Yn gyffredinol gall ymddiriedolwyr ddirprwyo pwerau penodol i asiantau neu weithwyr, ac yn ymarferol gall rheolwyr chwarae rhan allweddol ym mhenderfyniadau beunyddiol (yn enwedig mewn elusennau mwy). Er hynny, yr ymddiriedolwyr sy'n dal, a rhaid iddynt bob amser gadw, cyfrifoldeb eithaf dros redeg yr elusen. Nhw hefyd sydd â'r cyfrifoldeb yn y pen draw am sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio â thelerau unrhyw gytundeb.
Penderfynu pa weithgareddau i'w gwneud yw un o'r penderfyniadau pwysicaf y bydd yr elusen yn ei wneud. Mae'n dilyn y dylai ymddiriedolwyr sicrhau eu bod yn cymryd rhan briodol mewn cymryd penderfyniadau ynghylch pa weithgareddau y bydd yr elusen yn ei wneud. Pan fo penderfyniadau'n cael eu dirprwyo i staff neu i unrhyw un arall, dylai ymddiriedolwyr osod paramedrau clir ynghylch sut, a phwy sydd â'r hawl, i gymryd penderfyniadau o'r fath, a sut fydd yr ymddiriedolwyr yn cael gwybodaeth ynghylch gweithgareddau'r elusen.
E3. Beth ddylai elusen feddwl amdano cyn ymgymryd â gweithgaredd neu wasanaeth?
![]()
Rhaid i benderfyniadau ynghylch gweithgareddau neu wasanaethau gael eu cyfeirio gan amcanion yr elusen, ac fe ddylai'r elusen gadw at ei chenhadaeth ac at y blaenoriaethau sydd wedi'u cynllunio yn hytrach nag at gyfleoedd ariannu. Mae'n bosibl y bydd ystyriaethau ariannu yn ffactor, ond ni ddylent yrru na phennu'r genhadaeth.
Dylai'r ymddiriedolwyr ystyried y cwestiynau canlynol wrth ystyried unrhyw weithgaredd neu wasanaeth:
Dylai ymddiriedolwyr gofio y gallai awdurdodau cyhoeddus sy'n caffael gwasanaethau cyhoeddus fod yn anwybodus ynghylch amcanion yr elusen neu gyfrifoldebau cyfreithiol yr ymddiriedolwyr. Gall elusennau annog staff cyllid a staff eraill yr awdurdodau cyhoeddus i gymryd mantais ar unrhyw wasanaethau hyfforddi a gwybodaeth sydd ar gael iddynt, er enghraifft gall staff cyllid â chymwysterau CIPFA yn y sector cyhoeddus fanteisio ar arbenigedd Panel Elusennau CIPFA.
E4. A oes modd diweddaru cenhadaeth neu amcanion yr elusen, ac a allwn ni newid yr amcanion er mwyn darparu gwasanaeth penodol?
Mae'n debygol y bydd cenhadaeth yr elusen yn esblygu ac yn newid dros amser mewn ymateb i newid mewn anghenion cymdeithas. Dylai'r ymddiriedolwyr adolygu amcanion cenhadaeth yr elusen yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n briodol.
Gallai diweddaru datganiad cenhadaeth fod yn benderfyniad polisi y gallai fod raid i'r ymddiriedolwyr ei wneud (ond dylai'r genhadaeth barhau i adlewyrchu'r amcanion). Mae newid amcanion yr elusen yn broses gyfreithiol. Rhaid cadw at y darpariaethau yn y ddogfen lywodraethu, y gyfraith a'r pwerau Comisiynu fel y bo'n briodol. Esbonnir hyn mewn cyfarwyddiadau eraill gan y Comisiwn gan gynnwys Diwygio Dogfennau Llywodraethol Elusennau: Gorchmynion a Chynlluniau (CC36).
Os oes angen cymeradwyaeth, caniatâd neu awdurdod cyfreithiol y Comisiwn, ni fyddem fel arfer yn awdurdodi newid os mai'r unig reswm dros wneud hynny yw sicrhau cytundeb ariannu penodol. Amcanion a chenhadaeth yr elusen dylai gyfarwyddo ei strategaeth ariannu, nid i'r gwrthwyneb.
Mae annibyniaeth yn mynd y tu hwnt i statws cyfreithiol sefydliad: dylai diogelu annibyniaeth fod yn weithgaredd parhaus. Rhaid i ymddiriedolwyr fod â barn annibynnol bob amser a rheoli unrhyw wrthdaro buddiannau yn briodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn elusennau sy'n cyflawni gwasanaeth cyhoeddus, lle gall awdurdodau cyhoeddus geisio dylanwadu neu gyfarwyddo penderfyniadau'r elusen. Mae perygl hefyd y gallai'r cyhoedd feddwl bod yr elusen yn cyfaddawdu ei hannibyniaeth os yw'n derbyn arian gan awdurdod cyhoeddus. Mae camau y gall elusennau eu cymryd er mwyn sicrhau nad yw eu hannibyniaeth yn cael ei gyfaddawdu.
F1. Sut all elusennau barhau i fod yn annibynnol a rheoli gwrthdaro buddiannau?
Yr ateb byr
Wrth ysgwyddo ei gyfrifoldebau neu ei chyfrifoldebau, rhaid i ymddiriedolwr weithredu er budd yr elusen yn unig. Nid yw ymddiriedolwr yn ddirprwy neu'n gynrychiolydd unrhyw gorff ariannu. Mae'n hanfodol bod pob ymddiriedolwr yn deall eu dyletswyddau cyfreithiol. Pan fo hynny'n angenrheidiol i ddiogelu buddiannau eu buddiolwyr, dylai elusennau gadw at eu hannibyniaeth ac esbonio pwysigrwydd hynny wrth gomisiynwyr neu gyllidwyr gwasanaeth.
Yn fanylach
Rheoli da: Dylai ymddiriedolwyr a rheolwyr elusennau gadw at ymarfer da wrth reoli. Dylai ymddiriedolwyr newydd gael eu sefydlu a'i hyfforddi fel bo'r gofyn. Dylid nodi, cydnabod a rheoli gwrthdaro buddiannau a dylai'r prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau fod yn atebol ac yn dryloyw. Dylai elusennau ystyried y côd llywodraethu ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol (ceir manylion yn adran H y cyfarwyddyd hwn).
Y Compact: Mae'r Compact yn cydnabod fod elusennau a sefydliadau gwirfoddol eraill yn annibynnol ar y llywodraeth, a bod ganddynt hawl i ymarfer yr annibyniaeth honno sut bynnag maent yn cael eu hariannu. Mae'r Cynllun Sector Gwirfoddol yng Nghymru hefyd yn cydnabod natur annibynnol y sector. Dylai pob awdurdod cyhoeddus gydnabod a chadw at yr egwyddorion hyn.
Rheoli gwrthdaro buddiannau: Ceir gwrthdaro buddiannau mewn unrhyw sefyllfa lle gall buddion personol yr ymddiriedolwr, neu fuddion yn codi o gysylltiad â chorff arall, ddylanwadu ar benderfyniad yr ymddiriedolwr neu ymddangos ei fod yn dylanwadu ar ei benderfyniad. Dylai'r ymddiriedolwyr gyfeirio at gyfarwyddyd y Comisiwn ar sut i reoli gwrthdaro buddiannau sydd ar gael o'n gwefan o dan 'Cyfarwyddyd i Elusennau'.
Os yw awdurdod cyhoeddus yn ymddiriedolwr elusen fel endid corfforaethol gall hyn greu gwrthdaro penodol. Byddai unrhyw gytundeb ariannu rhwng yr awdurdod â'r elusen yn golygu hunan-ddelio ac mae'n bosibl y gallai'r cytundeb ariannu fod yn agored i'w herio oni bai ei fod wedi'i awdurdodi gan y llys neu'r Comisiwn. Byddai'n rhaid i ni fod yn fodlon bod gan yr elusen drefniadau ar gyfer reoli gwrthdaro buddiannau, a bod y cytundeb arfaethedig er budd yr elusen.
Telerau ac amodau cytundebol: Mewn rhai achosion, mae awdurdodau cyhoeddus yn ceisio cynnwys amodau mewn cytundebau ariannu a allai olygu y byddai'r ymddiriedolwyr yn torri eu cyfamod neu'n cyfyngu ar eu gallu i weithredu er budd yr elusen yn unig. Gallai'r rhain gynnwys hawliau i enwebu cleientiaid neu fuddiolwyr, i benodi ymddiriedolwyr neu anfon cynrychiolwyr i gyfarfodydd ymddiriedolwyr. Gallai hefyd gynnwys gofynion cydraddoldeb ac amrywiaeth a allai effeithio ar benodi ymddiriedolwyr neu ar y ffordd y mae buddiolwyr yn cael eu dewis.
Er ei fod yn ddealladwy y bydd awdurdod eisiau rhywfaint o reolaeth dros ddarparu ei wasanaethau, rhaid i'r elusen beidio â derbyn unrhyw delerau neu amodau sy'n groes i delerau'r ddogfen lywodraethu (er enghraifft, y trefniadau ar gyfer penodi ymddiriedolwyr). Rhaid i'r ymddiriedolwyr beidio ag ildio eu disgresiwn, a rhaid iddynt beidio â chyfyngu ar eu disgresiwn onid ydynt yn sicr y byddai hynny er budd yr elusen.
Dweud na: Ni ddylai elusennau deimlo rheidrwydd neu deimlo eu bod yn cael eu gorfodi gan eu cyllidwyr i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, neu wasanaeth penodol. Cyfrifoldeb ymddiriedolwyr yr elusen yw penderfynu pa waith y dylai'r elusen ymgymryd ei wneud a rhaid seilio'r penderfyniad hwnnw ar fuddiannau'r elusen ac anghenion ei holl fuddiolwyr. Gallai fod yn anos cymryd penderfyniad o'r fath, wrth gwrs, os yw'r elusen yn ystyried adnewyddu cytundeb cyfredol pan fo'r buddiolwyr eisoes yn eu lle.
Esbonnir annibyniaeth yn fanylach yn ein cyhoeddiad Annibyniaeth Elusennau o'r Wladwriaeth (RR7).
F2. Os yw'r elusen yn darparu gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn gallu parhau i ymgyrchu?
Yr ateb byrBydd, yn amodol yn unig ar y rheolau a'r cyfyngiadau sy'n berthnasol i bob elusen.
Yn fanylach
Ni ddylai elusennau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus deimlo eu bod yn cael eu rhwystro rhag cynnal gweithgarwch gwleidyddol neu ymgyrchu; mae'r un rheolau yn berthnasol i bob elusen, a yw ei gweithgareddau'n gysylltiedig â chyflenwi gwasanaeth cyhoeddus ai peidio. Esbonnir y rheolau hyn yn ein cyfarwyddyd Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9).
Ni ddylid annog elusen i beidio ag ymgyrchu neu geisio dylanwadu ar bolisi cyhoeddus ynghylch yr hyn mae'r ymddiriedolwyr yn ei gredu ei bod er budd i'r buddiolwyr wneud hynny. Hwyrach y bydd yn bwysig hefyd o ran canfyddiad a hyder y cyhoedd i'r elusen ddangos y gall ddangos ei hannibyniaeth drwy leisio barn.
Dylai elusennau fod yn gwbl glir ynghylch agweddau ariannol ar gyflenwi gwasanaeth cyhoeddus.
Ff1. Beth mae'r Comisiwn yn ei olygu wrth 'wybod eich gwerth'?
Yr ateb byr
Wrth 'wybod eich gwerth' rydym yn golygu:
Yn fanylach
Cost y gwasanaeth: Mae costau llawn gwasanaeth yn cynnwys ei gostau uniongyrchol yn ogystal â'r costau anuniongyrchol (a elwir weithiau yn gostau gorbenion, gweinyddol neu 'graidd') sy'n gysylltiedig â hynny. Mae'r costau craidd yn cynnwys cyfran o gostau rheoli (megis amser yr uwch staff a chyfarfodydd y bwrdd), costau ymchwil a datblygu (gan gynnwys hyfforddiant) a chostau cynnal eraill (gan gynnwys costau eiddo a gwasanaethau) y gellir eu dyrannu yn deg i'r gwasanaeth.
Dylai elusennau wybod yn iawn beth yw costau llawn unrhyw wasanaeth y maent yn ei ddarparu neu'n bwriadu ei ddarparu.
Drwy wybod yn iawn a deall beth yw eu costau llawn, gall ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ymgymryd â gwasanaethau penodol neu dderbyn cynigion ariannu.
Cydnabod cyfyngiadau'r elusen: Mae'n bwysig cydnabod cyfyngiadau gallu'r elusen. Ni ddylai elusen ymgymryd â gwasanaethau, prosiectau neu weithgareddau na fydd yn gallu eu darparu neu eu cwblhau.
Nodweddion unigryw neu nodedig: Mae'n bosibl bod gan elusennau nodweddion unigryw neu nodedig a fyddai'n golygu y gallant ddarparu gwasanaethau'n well. Mae'n bosibl y byddai nodweddion o'r fath yn cynnwys gwybodaeth neu brofiad arbenigol, ethos yr elusennau (er enghraifft, wedi'i arwain gan y defnyddiwr), neu gyflenwi gwasanaeth mewn ffordd arloesol. (Yn aml disgrifir y nodweddion hyn yn 'werth ychwanegol'). Pan fo gan elusen nodweddion o'r fath, dylid cadw hynny yn y cof wrth:
Prisio gwasanaeth: Heblaw am gostau llawn ac unrhyw nodweddion penodol, ffactorau eraill yr ydym ni'n cynghori ymddiriedolwyr i'w hystyried wrth brisio gwasanaeth yw unrhyw ffactorau o risg neilltuol (er enghraifft, mae'n bosibl y byddai angen prisio gwasanaethau newydd neu gytundebau byrrach yn benodol er mwyn gwneud iawn am y ffaith y gallai risg fod yn uwch), eu perthynas â'r awdurdod comisiynu, cryfder enw neu frand yr elusen, a'i chystadleuedd yn y farchnad.
Mae'n berffaith resymol i elusen ennill arian dros ben. Fel yr amlinellwyd yn The Reform of Public Services: the Role of the Voluntary Sector (NCVO, 2005), os yw hynny o fudd i'r elusen wneud hynny, gellir gosod pris y gwasanaeth er mwyn:
Ff2. Sut all elusennau ddeall beth yw eu costau llawn?
Mae nifer o adnoddau ar gyfer adennill costau llawn ar gael i elusennau, gan gynnwys modelau costio, hyfforddiant a chyngor, a cheir manylion pellach amdanynt yn adran H:
Dylai ymddiriedolwyr ddeall natur y gwasanaeth sydd i'w darparu a'r ffordd y mae costau'n gweithio er mwyn sicrhau bod y cytundeb yn cael ei reoli'n dda. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd rhai costau yn amrywio'n uniongyrchol gyda'r lefel o wasanaeth a ddefnyddir; hwyrach y bydd eraill yn benodol neu'n rhannol benodol ac na fydd newidiadau mewn defnydd gwasanaeth yn effeithio cymaint arnynt. Mae'n rhaid deall y costau'n iawn, gan gynnwys yr hyn sydd y tu ôl iddynt ac sy'n eu gyrru, er mwyn eu defnyddio yn y prosesau cynllunio, tendro a chyllidebu.
Ff3. Pa bryd ddylai elusennau ddisgwyl a thrafod ar gyfer adennill costau llawn?
Yr ateb byr
Dylai elusennau ddisgwyl a thrafod ar gyfer adennill costau llawn mewn unrhyw achos pan fo awdurdod cyhoeddus yn prynu gwasanaeth ganddynt, oni bai bod yr elusen yn penderfynu ei fod o fudd i'w fuddiolwyr beidio ag adennill y costau'n llawn.
Yn fanylach
Gwahanol fathau o gytundebau ariannu: Gall y derminoleg a ddefnyddir i ddisgrifio cytundebau ariannu fod yn ddryslyd ac amwys iawn. Mae gwahaniaethau pwysig rhwng y gwahanol fathau o gytundebau ariannu. Mae'r gwahaniaethau hyn yn gymhleth yn gyfreithiol, ond at ddiben y cyfarwyddyd hwn:
Diben yr arian: Mae'n bwysig bod elusennau yn deall diben yr arian. Gan amlaf bydd awdurdod cyhoeddus eisiau sicrhau (prynu) gwasanaeth cyhoeddus penodol. Mewn achosion o'r fath, mae'r cytundeb ariannu yn debygol o gynnwyd amodau a thelerau.
Mae'n bosibl y bydd awdurdod cyhoeddus hefyd yn cyfrannu'n ariannol ar wahân er mwyn gefnogi gweithgareddau elusennol y mae'n cydnabod eu gwerth, gan eu bod yn cefnogi amcanion cymunedol ehangach yr awdurdod.
Adennill costau'n llawn: O dan delerau'r Compact a'i Gôd Ariannu a Chaffael (a'r Côd Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Sector Gwirfoddol, yng Nghymru), dylid adennill costau'n bob tro pan mae awdurdod cyhoeddus yn prynu gwasanaeth gan elusen, onid yw'r elusen yn penderfynu peidio ag adennill y costau'n llawn.
Lle nad yw'r awdurdod cyhoeddus yn prynu gwasanaeth ond yn cefnogi gweithgaredd elusennol yna mae'r lefel o gefnogaeth a roddir yn rhywbeth y gellir ei drafod rhwng yr elusen a'r awdurdod ond yn y pendraw mae ar ddisgresiwn yr awdurdod.
Ff4. Beth os nad yw'r arian a gynigir yn talu am gostau llawn y gwasanaeth mae'r awdurdod cyhoeddus yn ei brynu?
![]()
Yr ateb byr
Os yw elusen naill ai'n ystyried cymryd, neu adnewyddu, cytundeb ariannu ar gyfer darparu gwasanaeth cyhoeddus lle nad yw'r arian ar gynnig yn talu am gostau llawn y gwasanaeth, gall:
Rhaid seilio penderfyniad yr ymddiriedolwyr ar fuddion yr elusen ac anghenion ei buddiolwyr.
Yn fanylach
Rhaid i'r ymddiriedolwyr gytuno i beidio â defnyddio unrhyw gyllid yr elusen os nad ydynt yn fodlon ei fod o fudd i'r elusen a'i buddiolwyr ac y byddai hynny'n gyfan gwbl gytûn â'i hamcanion. Rhaid i'r elusen wneud unrhyw benderfyniad i sybsideiddio neu atodi gwasanaeth ac ni ddylid ei orfodi i wneud hynny fel amod o'r ariannu.
Cyn penderfynu defnyddio cyllid yr elusen ei hun naill ai i sybsideiddio neu i wella gwasanaeth, dylai'r ymddiriedolwyr ystyried y cwestiynau a ganlyn:
Mewn rhai sefyllfaoedd, mae'n bosibl y bydd elusennau yn gallu sicrhau cyllid neu adnoddau ychwanegol na fyddai ar gael fel arfer i awdurdod cyhoeddus. Pan fo adnoddau o'r fath ar gael, dylai elusennau anelu at ddefnyddio'r rhain i wella'r gwasanaethau'n wirioneddol ar gyfer buddiolwyr. Ni ddylai awdurdodau cyhoeddus gymryd yn ganiataol bod elusennau yn gallu cael cyllid ychwanegol yn awtomatig neu fod 'gwerth ychwanegol' yn golygu darparu gwell gwasanaeth heb gost ychwanegol.
Pan fo gan awdurdod cyhoeddus ddyletswydd gyfreithiol lwyr i ddarparu gwasanaeth a heb ddisgresiwn dros lefel y gwasanaeth, byddai'n rhaid cael cyfiawnhad clir iawn o ran y budd i'r elusen o sybsideiddio'r gwasanaeth.
Ff5. A all elusennau orfodi awdurdodau cyhoeddus i gydymffurfio â'r Compact (neu Gynllun Sector Gwirfoddol yng Nghymru)?
Disgwylir i holl adrannau'r llywodraeth gydymffurfio â'r Compact neu'r Cynllun Sector Gwirfoddol (fel y bo'n berthnasol) ac â chodau ymarfer da cysylltiol. Bellach mae'r rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol wedi sefydlu compactau sy'n adlewyrchu telerau'r Compact cenedlaethol a'r Cynllun Sector Gwirfoddol. Dylai'r egwyddorion yn y cytundebau hyn fod yn sail i unrhyw berthynas rhwng elusen ac awdurdod cyhoeddus, ac felly rydym yn argymell bod elusennau yn dod yn gyfarwydd â'r dogfennau hyn ac yn gwneud defnydd ohonynt.
Ni ellir gorfodi'r cytundebau hyn yn gyfreithiol, ond mae nifer o'u hegwyddorion wedi'u cynnwys ym mholisi'r llywodraeth neu mewn cyfraith gyhoeddus. Defnyddiwyd y Compact yn llwyddiannus mewn achosion cyfraith gyhoeddus, ac mae wedi bod o gymorth wrth ddatrys anghydfodau cyfreithiol. Mae'n bosibl y bydd elusennau yn gallu sicrhau cymorth a chyngor ynghylch toriadau yn y Compact oddi wrth Raglen Eiriolaeth Compact (manylion ar gael oddi wrth Gyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol) neu oddi wrth Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar doriadau yn y Cynllun Sector Gwirfoddol. Mae'n bosibl y bydd toriadau mwy difrifol ar y Compact yn cael eu cyfeirio at Gomisiwn y Compact, corff annibynnol a sefydlwyd gan y llywodraeth yn 2006 er mwyn hyrwyddo'r Compact a hyrwyddo cysylltiadau da rhwng y Sector Cymunedol Gwirfoddol a'r llywodraeth.
Ff6. Sut all elusen fynd ati i nodi a gorfodi dyletswydd cyfreithiol yr awdurdod cyhoeddus?
Yr ateb byr
Gall fod yn anodd iawn yn ymarferol nodi yr union ddyletswydd cyfreithiol sydd gan awdurdod cyhoeddus i ddarparu neu i ariannu gwasanaeth penodol, ond gall elusen ofyn am eglurhad o gyfrifoldeb yr awdurdod. Mae rhai camau penodol y gall elusennau ystyried eu cymryd wrth orfodi dyletswydd o'r fath.
Yn fanylach
Gan fod awdurdodau cyhoeddus yn gallu darparu gwasanaethau o dan ddyletswydd gyfreithiol lwyr, dyletswydd gyfreithiol sy'n rhoi disgresiwn iddynt dros lefel y gwasanaeth, neu o dan hawliau dewisol, mae'n anodd yn aml darganfod yr hyn sy'n ddyletswydd statudol mewn gwirionedd.
Byddai'n rhesymol gofyn i'r awdurdod am eglurhad ysgrifenedig ar ba ddyletswydd y mae'n rhaid iddo ddarparu gwasanaeth, neu ba arian sydd ar gael ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Os bydd angen, gellid gwneud cais yn ffurfiol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 am gopïau o unrhyw wybodaeth sydd gan yr awdurdod ynghylch eu dyletswydd. Gallai'r elusen hefyd geisio cyngor annibynnol ar ddyletswyddau cyfreithiol yr awdurdod, er y byddai hyn yn cynnwys costau cyfreithiol.
Pan fo elusen yn canfod nad yw gwasanaeth sy'n effeithio ar ei defnyddwyr yn cael ei ddarparu i'r lefel ofynnol o gyllid cyhoeddus, mae'n bosibl y bydd yn ystyried a oes unrhyw beth rhesymol y gellir ei wneud i berswadio'r awdurdod cyhoeddus i ddarparu cyllid i lanw'r bwlch. Gallai'r elusen, naill ai ar ei phen ei hun neu gyda sefydliadau eraill, geisio trafod gyda'r awdurdod cyhoeddus am gyllid ychwanegol.
Mae'n dderbyniol i elusennau, cyhyd a'u bod yn gweithredu yn unol â'u hamcanion, roi pwysau cyfreithiol, gwleidyddol neu weinyddol er mwyn sicrhau lefel well o gyllid cyhoeddus ar gyfer y gwasanaeth dan sylw i'w buddiolwyr. Rydym yn argymell darllen ein cyfarwyddyd Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9) os yw elusen yn ystyried rhoi pwysau gwleidyddol i wella'r ariannu cyhoeddus.
Mae nifer o gamau cyfreithiol y gall elusennau a'u buddiolwyr eu hystyried, gan gynnwys adolygiad barnwrol o benderfyniad awdurdod cyhoeddus, neu ddwyn achos o dan y Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae'n bosibl y bydd elusen yn dymuno cynorthwyo buddiolwr i ddwyn achos lle nad oes gan y buddiolwr arian i wneud hynny fel arall a bod yr elusen yn fodlon y byddai hyn yn ffordd effeithiol o hyrwyddo ei ddibenion elusennol. Ni ddylid cymryd camau cyfreithiol yn ysgafn neu heb gymryd cyngor proffesiynol yn gyntaf.
Oni bai bod yr ymddiriedolwyr yn cael awdurdod o flaen llaw gan y Comisiwn i ddefnyddio cyllid yr elusen i gyfarfod â chostau camau cyfreithiol, mae risg y byddant hwy'n bersonol yn atebol am y costau hyn. Dylai ymddiriedolwyr felly drafod gyda'r Comisiwn cyn cychwyn cymryd camau cyfreithiol. Dylai'r elusennau gofio hefyd bod terfynau amser ynghlwm wrth ddwyn camau cyfreithiol.
Ff7. Beth os yw dogfen lywodraethu'r elusen yn gwahardd cymorthdalu cyllid statudol?
![]()
Yr ateb byr
Ni all yr elusennau gymryd unrhyw gamau y mae'r ddogfen lywodraethu yn eu gwahardd yn benodol. Os yw'r ymddiriedolwyr o'r farn bod pŵer neu gyfyngiad penodol yn atal yr elusen rhag ymgymryd â'i dibenion, dylent ystyried diwygio'r ddogfen lywodraethu. Fel y crybwyllwyd yn adran E4, gall y Comisiwn gynghori'r elusennau ynghylch diwygiadau a'u hawdurdodi yn ôl yr angen.
Yn fanylach
Datgan gwaharddiad: Mae rhai dogfennau llywodraethu yn gwahardd yr elusen yn benodol rhag ychwanegu at neu sybsideiddio cyllid statudol. (Gellir datgan hyn mewn termau positif fel 'ni fydd'.) Rhaid peidio ag anwybyddu gwaharddiad o'r fath; rhaid i'r ymddiriedolwyr ddeall beth yn union sy'n cael ei wahardd.
Beth sy'n cael ei ganiatáu? Ni fyddai unrhyw anhawster mewn unrhyw achos lle'r oedd yr elusen yn darparu gwasanaeth ar delerau adennill costau llawn. Pe na bai'r elusen yn adennill costau llawn, byddai'n rhaid i'r ymddiriedolwyr fod yn glir ynghylch faint o ddyletswydd cyfreithiol fyddai gan yr awdurdod ariannu, a pha un a oedd yr arian oedd yn cael ei roi yn bodloni'r dyletswydd hwnnw. Pe byddi gan yr awdurdod ddyletswydd lwyr, byddai'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ystyried a fyddai'r ddogfen lywodraethu yn caniatáu i'r elusen sybsideiddio cyllid statudol.
Diwygio dogfennau llywodraethu: Mae rhan fwyaf o ddogfennau llywodraethu yn cynnwys pŵer i'w diwygio ac yn amlinellu'r broses ddiwygio. Mae'n bosibl y bydd angen caniatâd neu gymeradwyaeth ysgrifenedig y Comisiwn o flaenllaw ar gyfer diwygio cymalau allweddol, megis yr amcanion a'r cymalau eraill sy'n effeithio ar sut y defnyddir asedau'r elusen, neu hwyrach y cânt eu gwrthod yn gyfan gwbl.
Gall y Comisiwn darparu cyngor ar ddiwygio dogfennau llywodraethu, ac mae ganddo hawl i wneud rhai newidiadau na all yr elusennau eu hunain eu gwneud, ond byddai'n rhaid iddo ystyried unrhyw gais gan yr elusen yn unol ag amgylchiadau penodol a buddiannau'r elusen. Esbonnir hyn yng nghyfarwyddyd arall y Comisiwn gan gynnwys Diwygio Dofennau Llywodraethol Elusennau: Gorchmynion a Chynlluniau (CC36).
G. Cyfarwyddyd i elusennau sy'n rhoi grantiau
Gellir cymhwyso rhai o egwyddorion sylfaenol y cyfarwyddyd hwn ar gyfer elusennau sy'n rhoi grantiau, ond mae materion eraill y dylai'r elusennau hynny eu hystyried. Nid yw'r rhain fel arfer yn darparu gwasanaethau eu hunain nac yn cael cyllid gan y llywodraeth. Serch hynny, mae'n bosibl eu bod yn derbyn ceisiadau am arian, naill ai'n uniongyrchol gysylltiedig â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau cyhoeddus, neu gan elusen neu sefydliad arall sydd wrthi'n cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus.
G1. Pa faterion dylai elusennau sy'n rhoi grantiau eu hystyried?
Yr ateb byr
Wrth ystyried ceisiadau am arian grant, rydym yn argymell bod elusennau yn:
Yn fanylach
Defnyddio egwyddorion cyfreithiol: Mae'r un egwyddorion cyfreithiol allweddol yn berthnasol i elusennau sy'n rhoi grantiau. Nid oes gwaharddiad cyfreithiol ar elusennau sy'n defnyddio'u cyllid eu hunain i sybsideiddio neu'n ychwanegu at wasanaethau cyhoeddus, ond dim ond pan fo hynny o fewn eu hamcanion a'u pwerau a'i fod o fudd i'r elusen a'i buddiolwyr y dylent wneud hynny.
Yn gyffredinol dylai elusennau ddisgwyl i awdurdodau cyhoeddus ariannu cost y gwasanaeth maent yn prynu yn llawn, ac yn benodol dalu'n llawn am gost cyfrifoldebau statudol. Felly, dim ond pan fo cyfiawnhad clir dros roi grantiau i sybsideiddio gwasanaethau cyhoeddus neu ddarpariaeth gyhoeddus eraill y dylid gofyn i elusennau am grantiau ar gyfer hynny.
Profiad y gorffennol: Dylai'r elusen ystyried a yw'r gwasanaeth o dan sylw yn wasanaeth newydd. Os nad ydyw, pwy oedd yn ei ddarparu yn y gorffennol, a pha lefel o wasanaeth oedd yr awdurdodau cyhoeddus yn ei ariannu?
Dyletswyddau awdurdodau cyhoeddus: Hwyrach y bydd yn bosibl canfod a yw awdurdod cyhoeddus â dyletswydd i ddarparu'r gwasanaeth hwn, beth yw lefel ofynnol y gwasanaeth mae'n rhaid i'r awdurdod ei hariannu, a pha lefel o ariannu statudol sydd ar gael. Fel yr esboniwyd yn adran I, y ffordd fwyaf ymarferol o wneud hyn fyddai gofyn i'r awdurdod. Gellir gwneud cais o'r fath yn ysgrifenedig a'i wneud o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth os bydd angen.
Gosod paramedrau polisi: Cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr yw penderfynu ar flaenoriaethau a pharamedrau'r elusen ar gyfer rhoi grantiau. Yn yr un modd ag agweddau eraill o ddiffinio polisi rhoi grantiau, hwyrach y bydd hyn yn cynnwys blaenoriaethu rhai buddiolwyr dros eraill. Mae'n bosib y bydd yn cynnwys ystyried blaenoriaethau ac anghenion ariannu yn y byr dymor a'r hir dymor hefyd.
Mae rhai elusennau sy'n rhoi grantiau yn pryderu bod perygl i awdurdodau cyhoeddus ddod yn ddibynnol ar arian elusennol ychwanegol yn y tymor hir, neu y bydd gallu elusennau rhoi grantiau i ariannu darpariaeth ychwanegol neu arloesol yn lleihau. Mae'r rhain yn ffactorau y mae'n bosibl y bydd yr ymddiriedolwyr yn dewis eu hystyried wrth osod polisïau ar gyfer rhoi grantiau.
Ng. Materion eraill i'w hystyried
Mae llawer o'r dadlau ynghylch darparu gwasanaeth cyhoeddus yn canolbwyntio ar ariannu, ond mae materion eraill i'w hystyried, yn enwedig ynghylch rheoli risg a bod mor effeithiol â phosibl.
Ng1. Pa gamau eraill y gallwn ni eu cymryd i reoli risg?
Yr ateb byr
Mae rhai camau penodol y gall elusennau eu cymryd i reoli rhai o'r risgiau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys defnyddio ffurf ar gwmni cyfyngedig, yswiriant, neu ddarparu'r gwasanaeth drwy gwmni masnachol.
Yn fanylach
'Ymgorffori'r' elusen: Os yw'r elusen yn anghorfforedig (yn ymddiriedolaeth neu'n gymdeithas), yna byddai unrhyw atebolrwydd cytundebol yn disgyn ar ysgwyddau'r ymddiriedolwyr yn bersonol yn hytrach nag ar yr elusen. Dylai ymddiriedolwyr unrhyw elusen anghorfforedig sy'n ystyried darparu gwasanaeth cyhoeddus ystyried yn gyntaf sefydlu strwythur ymgorfforedig.
Bydd strwythur ymgorfforedig fel arfer yr un peth â chwmni cyfyngedig elusennol. Yn gyntaf manteision strwythur cwmni yw ei fod yn endid cyfreithiol ohono'i hun (y cwmni, yn hytrach na'r ymddiriedolwyr unigol, sy'n cael ei ymrwymo gan gytundebau ac yn cyflogi staff); ac yn ail, o dan amgylchiadau arferol, mae atebolrwydd yr aelodau yn gyfyngedig. Er hynny, dylid nodi na fyddai'r ymgorfforiad yn diogelu'r elusen ei hun rhag y risgiau ariannol sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaeth cyhoeddus. Hefyd, ceir beichiau gweinyddol a rheoleiddiol ychwanegol. Trafodir y materion hyn yn fanylach yn Dewis a Pharatoi Dogfen Llywodraethol (CC22) ac yn Charity Incorporation: How to 'incorporate' an unincorporated charity and apply for registration (STS-1302).
Cafodd ffurf newydd o ymgorffori elusen ei chreu gan Ddeddf Elusennau 2006 sef Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO). Ei bwriad yw darparu ffurf fwy uniongyrchol o ymgorffori ar gyfer elusennau. Disgwylir i ddarpariaethau perthnasol y Ddeddf ddod i rym yn 2008.
Pan fo gan yr elusen sy'n ymgorffori cynllun budd pensiwn diffiniedig, mae'n bwysig cymryd cyngor proffesiynol a chadarnhau cyn ymgorffori gyda'r Rheolydd Pensiynau beth fyddai effaith ymgorffori ar y gronfa bensiwn. Mae cyfarwyddyd ychwanegol ar gael ar ein gwefan: Defined Benefit Pension Schemes - Questions and Answers.
Sefydlu cwmni ar wahân: Dewis arall i elusen anghorfforedig yn hytrach nag 'ymgorffori' yw sefydlu cwmni ar wahân yn benodol ar gyfer darparu gwasanaeth neu wasanaethau o dan y cytundeb. Mae hyn hefyd yn ddewis ar gyfer cwmnïau elusennol. Byddai defnyddio cwmni ar wahân yn galluogi'r ymddiriedolwyr i 'gorlannu' yr atebolrwydd o dan y cytundeb drwy eu cadw ar wahân i weithgareddau a chyllid eraill yr elusen. Mae costau ynghlwm wrth sefydlu a rhedeg cwmni, a byddai raid i'r ymddiriedolwyr bwyso a mesur a fyddai o fudd i'r elusen drosglwyddo gweithgaredd i gwmni ar wahân neu gadw gweithgaredd, a'r risg, o fewn yr elusen.
Gallai'r cwmni ar wahân fod yn elusen ei hunan, neu fe allai fod yn gwmni masnachu anelusennol. Gellir sefydlu elusen ar gyfer ac er mwyn masnachu sy'n cyflawni ei ddibenion elusennol fel arfer i alluogi elusen i godi arian neu fasnachu y tu allan i gwmpas ei hamcanion, er enghraifft drwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, boed hynny'n elusennol neu beidio, o dan gytundeb. Er hynny, gan nad yw'r cwmni ei hunan yn elusen bydd mewn egwyddor yn gorfod talu treth a TAW. Gellir osgoi treth incwm a threth corfforaeth drwy ddefnyddio Rhodd Cymorth i drosglwyddo elw i'r elusen.
Mae manteision ac anfanteision sefydlu cwmnïau masnachu anelusennol, a'r cyfyngiadau cyfreithiol sy'n rhaid i elusennau eu cadw yn gymhleth. Esbonnir y rhain yn fanylach yn ein cyfarwyddyd Elusennau a Masnachu (CC35).
Yswiriant: Esbonnir y gwahanol fathau o yswiriant sydd ar gael i elusennau yn fanylach yn ein llawlyfr Elusennau ac Yswiriant (CC49).
Mae cytundebau yn aml yn cynnwys cymalau sy'n gofyn i'r elusen indemnio'r awdurdod cyhoeddus yn erbyn hawliadau trydydd parti sy'n deillio o ddarparu'r gwasanaeth (er enghraifft, os yw defnyddiwr gwasanaeth yn cael anaf o ganlyniad i esgeulustod un o weithwyr yr elusen). Mae angen yr indemniad er mwyn diogelu'r awdurdod cyhoeddus rhag hawliadau yn ei erbyn, er enghraifft mewn achosion pan fo'r elusen fel darparwr y gwasanaeth wedi bod yn esgeulus. Mae gan yr ymddiriedolwyr ddyletswydd i ddiogelu eiddo'r elusen hefyd. Dylai'r ymddiriedolwyr ystyried a ddylai'r elusen gymryd yswiriant atebolrwydd cyhoeddus er mwyn diogelu'r elusen a'r corff cyhoeddus.
Mae rhai cytundebau yn cynnwys cymalau indemnio eang iawn, a hwyrach y byddai hyn yn fater y bydd yr ymddiriedolwyr angen cyngor penodol yn ei gylch (gweler adran Dd4).
Ng2. A ddylai elusennau ystyried cydweithio gydag elusennau eraill er mwyn darparu gwasanaethau?
Mae manteision a risgiau ynghlwm wrth weithio mewn partneriaeth neu ar y cyd ag elusennau eraill. Gall gweithio mewn partneriaeth alluogi elusennau i gystadlu am gytundebau mwy neu elwa o enillion effeithlonrwydd drwy leihau dyblygu swyddogaethau gweinyddol.Mae'n bosibl y bydd hyn o fudd penodol i elusennau llai. Rhaid i elusennau fod yn glir ynghylch eu rôl benodol mewn unrhyw bartneriaeth, yn enwedig o ran rhannu cyfrifoldebau cytundebol.
Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi cyfarwyddyd manwl, Cydweithio a Chyfyngiadau: Cyflwyniad (CC34), sy'n amlinellu'r materion i'w hystyried yn fanylach.
Ng3. Beth yw goblygiadau TAW darparu gwasanaeth cyhoeddus?
Yn gyffredinol, nid yw elusennau yn cael eu trin yn wahanol o ran TAW ar eu gweithgareddau busnes. Mae angen cofrestru ar gyfer TAW os yw eu trosiant trethadwy yn mynd y tu hwnt i'r cyfyngiad statudol (£61,000 ym mis Ionawr 2007, ond yn amodol ar adolygiad rheolaidd). Mae hysbysiadau TAW 700/1 ("Should I be registered for VAT?"), 701/1 ("Charities") a 701/5 ("Clubs and Associations") yn rhoi gwybodaeth bellach a gellir eu cael drwy ffonio llinell gymorth Cyllid Cartref a Thramor ei Mawrhydi ar 08453 02 02 03. Gall elusen drafod unrhyw agwedd ar TAW sy'n effeithio arni gyda Chanolfan Gyngor Cenedlaethol Cyllid Cartref a Thramor ei Mawrhydi ar 0845 010 9000 neu drwy'r post HMRC Charities, St Johns House, Merton Road, Bootle, Merseyside L69 9BB.
Ng4. Beth yw goblygiadau cyfraith gystadleuol ar gyfer elusennau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus?
Rhaid i elusennau fod yn ymwybodol y gall cyfraith gystadleuol effeithio ar gyflenwi gwasanaeth cyhoeddus o dan rai amgylchiadau. Mae cyfarwyddyd ar gyfraith gystadleuol ar gael ar wefan y Swyddfa Masnachu Teg (www.oft.gov.uk/Business/Legal/Competition/default.htm)
H. Gwybodaeth a chyngor pellach
Mae'r Comisiwn yn cynhyrchu amrywiaeth eang o gyhoeddiadau a chanllawiau ar wefan i roi gwybodaeth a chyngor i ymddiriedolwyr elusennau a'r cyhoedd yn gyffredinol ar nifer o faterion mewn perthynas â chyfraith a rheoleiddio elusennau. Ceir rhestr gyflawn o gyhoeddiadau ar ein gwefan. Mae'r rhestr isod yn ddetholiad yn seiliedig ar rai o'r materionsydd wedi'u trafod yn y canllaw hwn.
H1. Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau
Mae'r rhestr isod yn ddetholiad yn seiliedig ar rai o'r materion a nodwyd yn y canllaw hwn.
Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod (CC3)
Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9)
Cofrestru fel Elusen (CC21)
Dewis a Pharatoi Dogfen Llywodraethol (CC22)
Elusennau ac Awdurdodau Lleol (CC29)
Cydweithio a Chyfyngiadau: Cyflwyniad (CC34)
Elusennau a Masnachu (CC35)
Diwygio Dofennau Llywodraethol Elusennau: Gorchmynion a Chynlluniau (CC36)
Elusennau ac Yswiriant (CC49)
Nodweddion Elusen Effeithiol (CC60)
Annibyniaeth Elusennau o'r Wladwriaeth (RR7)
Policy Statement on Charities and Public Service Delivery
Darparu ai Beidio: Dyfodol elusennau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus (RS15)
Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau ar y We
I gael copïau o'r rhain neu unrhyw un arall o'n cyhoeddiadau gallwch naill ai:
Rydym hefyd wedi rhestru detholiad o sefydliadau a chyhoeddiadau eraill y gellir eu defnyddio fel ffynonellau o wybodaeth.
Capacitybuilders a ChangeUp
Mae fframwaith ChangeUp, sydd wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth gyda'r sector, yn canolbwyntio ar wella gallu a seilwaith yn y sector. Rheolir ChangeUp gan Capacitybuilders, asiantaeth yn cael ei harwain gan fwrdd o arbenigwyr o'r sector. Mae ChangeUp yn gweithio trwy chwe echel o arbenigedd yn cael eu rhedeg gan barterniaethau'r sector gwirfoddol ac sy'n cynnwys cyllid, rheolaeth, TGCh, perfformiad, gwirfoddoli a gweithlu (pob un ohonynt gyda'i wefan ei hunan).
Capacitybuilders
77 Paradise Circus
Birmingham B1 2DT
Ffôn : 0121 237 5100/5111
E-bost: jane.fewkes@capacitybuilders.org.uk
Gwefannau: www.changeup.org.uk
www.capacitybuilders.org.uk
Community Matters
Mae Community Matters yn ffederasiwn ledled y deyrnas ar gyfer cymdeithasau cymunedol a sefydliadau tebyg. Mae'n cefnogi ac yn datblygu gallu sefydliadau cymunedol ac yn eu cynrychioli ar lefel genedlaethol.
Community Matters
12-20 Baron Street
London N1 9LL
Ffôn: 020 7837 7887
E-bost: communitymatters@communitymatters.org.uk
Gwefan: www.communitymatters.org.uk
Cronfa Buddsoddiad Cymunedol
Lansiwyd y Gronfa Buddsoddiad Cymunedol gan Gyngor Sefydliadau Gwirfoddol Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Chanolfan Gydweithredol Cymru, i wneud buddsoddiadau tymor hir trwy becyn cyllido benthyciad hyblyg.
Am fanylion cysylltwch â Chyngor Sefydliadau Gwirfoddol Cymru
Cyfeirlyfr Newid Cymdeithasol (DCS)
Mae Cyfeirlyfr Newid Cymdeithasol yn ffynhonnell annibynnol o wybodaeth a chefnogaeth i'r sector gwirfoddol. Mae'n darparu cyrsiau hyfforddi ymarferol, cynadleddau a seminarau ac yn cyhoeddi arweinlyfrau cyfeiriol, llawlyfrau a chyfnodolion.
Directory of Social Change
24 Stephenson Way
London NW1 2DP
Ffôn: 08450 77 77 07
E-bost: info@dsc.org.uk
Gwefan: www.dsc.org.uk
Cymdeithas Cenedlaethol Gweithredu Gwirfoddol a Chymunedol (NAVCA, y cyn NACVS)
NAVCA yw llais cenedlaethol seilwaith y sector gwirfoddol a chymunedol lleol yn Lloegr. Ei diben yw hyrwyddo gweithredu gwirfoddol a chymunedol lleol yn genedlaethol. Gwneir hyn trwy 360 o sefydliadau seilwaith lleol sy'n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi, datblygu a chynrychioli i'r Gwasanaeth Cymunedol Gwirfoddol lleol. Mae cyfeirlyfr o sefydliadau seilwaith lleol i'w gael yn www.navca.org.uk/liodir/
NAVCA
The Tower
2 Furnival Square
Sheffield S1 4QL
Ffôn: 0114 278 6636
E-bost: navca@navca.org.uk
Gwefan: www.navca.org.uk
Cymdeithas Llywodraeth Leol
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol yn bodoli i hyrwyddo gwell llywodraeth leol. Mae'n anelu at roi cynghorau lleol yng nghanol yr ymgyrch i wella gwasanaethau cyhoeddus ac i weithio gyda llywodraeth er mwyn sicrhau fod polisi a'r cyd-destun deddfwriaethol ac ariannol yn cefnogi'r nod hynny.
Local Government Association
Local Government House
Smith Square
London
SW1P 3HZ
Ffôn: 020 7664 3131
E-bost: info@lga.gov.uk
Gwefan: www.lga.gov.uk
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n cynrychioli diddordebau awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r tri awdurdod tân ac achub, y pedwar awdurdod yr heddlu a thri awdurdod parc cenedlaethol yn aelodau cysylltiol.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Tŷ Llywodraeth Leol
Drake Walk
Caerdydd CF10 4LG
Ffôn: 029 2046 8600
Gwefan: www.wlga.gov.uk
Cymdeithas Prif Weithredwyr Sefydliadau Gwirfoddol (acevo)
Corff aelodau ar gyfer prif weithredwyr sefydliadau gwirfoddol, mae'n gweithio i gysylltu, datblygu a chynrychioli arweinwyr y sector.
Association of Chief Executives of Voluntary Organisations
1 New Oxford Street
London WC1A 1NY
Ffôn: 0845 345 8481
Ffacs : 0845 345 8482
E-bost: info@acevo.org.uk
Gwefan: www.acevo.org.uk
Cymdeithas Sefydliadau Elusennol (ACF)
Y Gymdeithas Sefydliadau Elusennol (ACF) yw'r sefydliad aelodaeth sy'n cefnogi gwaith sefydliadau elusennol ac ymddiriedolaethau sy'n rhoi grantiau yn y DU.
ACF
Central House
14 Upper Woburn Place
London WC1H 0AE
Ffôn: 020 7255 4499
E-bost: acf@acf.org.uk
Cymdeithas y Gyfraith Elusennau
Amcan Cymdeithas y Gyfraith Elusennau yw galluogi'r rhai sy'n cynghori ar neu'n defnyddio cyfraith elusennau i gyfarfod gyda'i gilydd, cyfnewid syniadau a gwybodaeth a defnyddio'u profiad ac arbenigedd er budd y sector elusennau.
Shivaji Shiva
Honorary Secretary,
Charity Law Association
Russell Cooke
2 Putney Hill
Putney
London
SW15 6AB
Ffôn: 020 8394 6486
E-bost: shivas@russell-cooke.co.uk neu: admin@charitylawassociation.org.uk
Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO)
Mae NCVO yn sefydliad sy'n lobio ac yn cynrychioli barn ei aelodau a'r sector gwirfoddol ehangach wrth drafod gyda'r llywodraeth, yr Undeb Ewropeaidd a chyrff eraill. Mae hefyd ar y blaen mewn ymchwilio, a dadansoddi'r, sector gwirfoddol. Mae NCVO yn cynhyrchu rhychwant eang o wybodaeth a gwasanaethau cefnogi ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol. Cysylltwch â NCVO am fanylion am ei Rwydwaith Darparu Gwasanaeth Cyhoeddus.
National Council for Voluntary Organisations
Regent's Wharf
8 All Saints Street
London N1 9RL
Ffôn: 020 7713 6161
Ffacs: 020 7713 6300
Desg Gymorth: 08002 798 798
E-bost: ncvo@ncvo-vol.org.uk
Gwefan: www.ncvo-vol.org.uk
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru'n cynrychioli diddordebau ac yn ymgyrchu ar ran sefydliadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru. Mae'n darparu rhychwant cynhwysfawr o wybodaeth, ymgynghoriaeth, cyllid, rheolaeth a gwasanaethau hyfforddi. Gall Elusennau ddefnyddio gwefan WCVA i ganfod eu Cyngor Gwirfoddol y Sir agosaf.
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Tŷ Baltic
Sgwâr Mount Stuart
Bae Caerdydd
Caerdydd CF10 5FH
Ffôn: 029 2043 1700
Llinell gymorth: 0870 607 1666
E-bost: help@wcva.org.uk
Gwefan: www.wcva.org.uk
Futurebuilders England
Mae Futurebuilders England yn gronfa buddsoddi sy'n cael cefnogaeth y Llywodraeth i helpu'r sector gwirfoddol a chymunedol i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r gronfa'n darparu cyfuniad o grantiau a benthyciadau ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Futurebuilders England
Level 14
Cale Cross House
156 Pilgrim Street
Newcastle-upon-Tyne
NE1 6SU
Ffôn : 0191 269 2850
E-bost: info@futurebuilders-england.org.uk
Gwefan: www.futurebuilders-england.org.uk
Governance Hub
Mae Governance Hub, rhan o ChangeUp, yn bartneriaeth o sefydliadau'n gweithio i wella rheolaeth trwy'r sector gwirfoddol a chymunedol yn Lloegr.
The Governance Hub
NCVO
Regent's Wharf
8 All Saints Street London
N1 9RL
Ffôn: (020) 7520 2514
E-bost: governance.hub@ncvo-vol.org.uk
Gwefan: www.governancehub.org.uk
Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Elusennau (CFDG)
Sefydliad aelodaeth sy'n arbenigo mewn helpu elusennau i reoli'u cyfrifeg, treth, archwilio a gwaith ariannol cysylltiedig arall.
Charity Finance Directors Group
3rd Floor
Downstream Building
1 London Bridge
London
SE1 9BG
Ffôn: 0845 345 3192
E-bost: info@cfdg.org.uk
Gwefan: www.cfdg.org.uk
Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Gallwch gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch llywodraeth leol, sefydliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan gynnwys meddygon teulu, ac ynghylch Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Ombwdsmon yn ystyried cwynion ynghylch materion megis tai, cynllunio, addysg, y gwasanaethau cymdeithasol a'r gwasanaethau iechyd.
Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: (01656) 641 150
E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk
Gwefan: www.ombudsman-wales.org.uk
Ombwdsmon Llywodraeth Leol
Mae Ombwdsmon Llywodraeth Leol yn ymchwilio i gwynion am anghyfiawnder yn codi o gamweinyddu gan awdurdodau lleol a rhai cyrff eraill.
Mae tri Ombwdsmon Llywodraeth Leol yn Lloegr. Mae pob un ohonynt yn ymdrin â chwynion o wahanol rannau o'r wlad.
Llinell gyngor: 0845 602 1983
Gwefan (gyda manylion cyswllt): www.lgo.org.uk
Public Law Project
Mae'r Public Law Project yn elusen gyfreithiol genedlaethol, annibynnol sy'n anelu at helpu'r rhai sy'n methu â defnyddio'r gyfraith gyhoeddus i ateb eu problemau oherwydd tlodi, gwahaniaethu neu rwystrau tebyg eraill.
Public Law Project
150 Caledonian Road
London
N1 9RD
Ffôn: 020 7697 2190
E-bost: admin@publiclawproject.org.uk
Gwefan: www.publiclawproject.org.uk
Rhaglen Compact Eiriolaeth
Mae'r Rhaglen Compact Eiriolaeth yn ymgyrchu ac yn eiriol dros y sector gwirfoddol a chymunedol. Ei swyddogaeth yw sicrhau fod y llywodraeth yn cadw at y Compact. Mae hefyd yn cynnig cyngor a chefnogaeth ac yn derbyn achosion ble mae'n amlwg fod y Compact yn cael ei dorri.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol.
Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Cyhoeddus (CIPFA)
Mae CIPFA yn un o'r cyrff cyfrifeg proffesiynol arweiniol yn y DU a'r unig un sy'n arbenigo ar y sector cyhoeddus. Mae CIPFA yn cymryd diddordeb byw mewn materion cyllid elusennau trwy'i Banel Elusennau o ymarferwyr a rheolyddion ariannol yn y sector gwirfoddol a chymunedol. Cysylltwch â CIPFA am fanylion y Dystysgrif newydd mewn Cyllid Elusennau.
CIPFA
3 Robert Street
London
WC2N 6RL
Ffôn: 020 7543 5600
E-bost: corporate@cipfa.org
Gwefan: www.cipfa.org.uk
Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA)
Y corff proffesiynol ar gyfer ysgrifenyddion siartredig. Mae ICSA yn hyrwyddo ymarfer gorau ac yn darparu arweiniad ar drefn lywodraethol dda. Mae ICSA yn cynnig cymhwyster proffesiynol sy'n cynnwys busnes, cyfraith cwmnïau, rheolaeth gorfforaethol, rheolaeth, gweinyddiaeth ariannol/cyfrifyddu ac ymarfer ysgrifenyddol mewn cwmnïau.
ICSA
16 Park Crescent
London
W1B 1AH
Ffôn: 020 7580 4741
Ffacs: 020 7323 1132
E-bost: info@icsa.co.uk
Gwefan: www.icsa.org.uk
Swyddfa Archwilio Cymru
Mae Swyddfa Archwilio Cymru'n delio gyda phob sector o'r llywodraeth, ar wahân i'r rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer llywodraeth y DU. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, fel pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru naill ai'n archwilio cyrff yn uniongyrchol, megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r GIG neu, fel yn achos llywodraeth leol, yn penodi archwilwyr i wneud felly.
Prif Swyddfa Archwilio Cymru
Tŷ Deri
2-4 Park Grove
Caerdydd
CF10 3PA
Ffôn: 029 2026 0260
Ffôn testun: 029 2026 2646
Gwefan: www.wao.gov.uk
Swyddfa Archwilio Genedlaethol
Mae'n archwilio cyfrifon holl adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth ganol, yn ogystal â rhychwant eang o gyrff cyhoeddus eraill, ac yn adrodd yn ôl i San Steffan ar ba mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y maen nhw wrth wario arian cyhoeddus.
National Audit Office
157-197 Buckingham Palace Road
Victoria
London SW1W 9SP
Ffôn: 020 7798 7400
E-bost: enquiries@nao.gsi.gov.uk
Gwefan: www.nao.gov.uk
Swyddfa'r Trydydd Sector, Swyddfa'r Cabinet
Sefydlwyd y Swyddfa hon i yrru rôl y llywodraeth mewn cefnogi'r sector hon sy'n ffynnu ac mae'n dod â gwaith y Gyfadran Cymunedau Bywiog a'r Uned Menter Gymdeithasol ynghyd.
Active Communities Directorate
1st Floor
Peel Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
Ffôn: 020 7035 4413
E-bost: thirdsector@cabinet-office.x.gsi.gov.uk
Gwefan: http://www.cabinetoffice.gov.uk/third_sector/.
Uned Cyllid Elusennau a'r Trydydd Sector, Trysorlys Ei Mawrhydi
Mae'r Uned Cyllid Elusennau a'r Trydydd Sector yn gyfrifol am ddatblygu polisi strategol ar draws Trysorlys Ei Mawrhydi ar faterion y trydydd sector.
Charity and Third Sector Finance Unit
HM Treasury
1 Horse Guards Road
London
SW1A 2HQ
Ffôn: 020 7270 4558
E-bost: CTSFU@hm-treasury.x.gsi.gov.uk
Gwefan: www.hm-treasury.gov.uk/ctsfu
Y Comisiwn Archwilio
Corff cyhoeddus annibynnol sy'n gyfrifol am sicrhau fod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n economaidd, yn effeithiol ac yn effeithlon mewn llywodraeth leol, tai, iechyd, cyfiawnder troseddol a'r gwasanaethau tân ac achub.
The Audit Commission
1st Floor, Millbank Tower
Millbank
London
SW1P 4HQ
Ffôn: 020 7828 1212
Gwefan: www.audit-commission.gov.uk
Uned Cyllid Elusennau a'r Trydydd Sector, Trysorlys Ei Mawrhydi
Mae'r Uned Cyllid Elusennau a'r Trydydd Sector yn gyfrifol am ddatblygu polisi strategol ar draws Trysorlys Ei Mawrhydi ar faterion y trydydd sector.
Charity and Third Sector
Finance Unit
HM Treasury
1 Horse Guards Road
London
SW1A 2HQ
Ffôn: 020 7270 4558
E-bost: CTSFU@hm-treasury.x.gsi.gov.uk
Gwefan: www.hm-treasury.gov.uk/ctsfu
Good Governance: a code for the voluntary and community sector
Governance Hub, 2005
Full Cost Recovery: a guide and toolkit on cost allocation
acevo & New Philanthropy Capital, 2004
Mind the gap - A funder's guide to Full Cost Recovery
acevo, 2006. Ar gael oddi wrth www.acevo.org.uk/uploads/pdfs/FCRfundersmanual.pdf
Before Signing on the Dotted Line: all you need to know about procuring public sector contracts
acevo, 2006. Ar gael oddi wrth www.ncvo-vol.org.uk/sfp/publications;
Introductory Pack on Funding and Finance: Guide to Procurement and Contracting
NCVO, 2007, NCVO a'r Institute of Public Finance. Ar gael oddi wrth www.ncvovol.org.uk/sfp/introductory-pack..
Improving financial relationships with the Third Sector: Guidance to Funders and Purchasers
Trysorlys Ei Mawrhydi, 2006
The CJC Guide to Buying from the Third Sector
CIPFA, 2006
The Compact on Relations between Government and the Voluntary Sector
Gweithgor Compact,1998; gweler www.thecompact.org.uk
Funding and Procurement: Compact Code of Good Practice
Gweithgor Compact, 2005; gweler www.thecompact.org.uk
The Role of the Voluntary and Community Sector in Service Delivery: A Cross Cutting Review
Trysorlys Ei Mawrhydi, 2002
Exploring the role of the third sector in public service delivery and reform: a discussion document
Trysorlys Ei Mawrhydi, 2005
Working with the Third Sector
NAO and Home Office, 2005 (Report by the Comptroller and Auditor General, HC 75 Session 2005-2006)
Partnership in Public Services: an action plan for third sector involvement
Swyddfa'r Cabinet/ Swyddfa'r Trydydd Sector, 2006
Gwneud y Cysylltiadau: darparu gwasanaethau gwell ar gyfer Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru, (2004); gweler http://new.wales.gov.uk/about/strategy/makingtheconnections/?lang=en
The Reform of Public Services: the Role of the Voluntary Sector
NCVO, 2005
How voluntary and community organisations can help transform public services
NCVO, 2006
Beyond Transfer to Transformation
Julia Unwin a Peter Molyneux, 2005; in The voluntary sector delivering public services (Joseph Rowntree Foundation)
Surer funding: improving third sector public service delivery
acevo & New Philanthropy Capital, 2004
Partnership in Public Service - An action plan for third sector involvement
Swyddfa'r Trydydd Sector, 2006
Cynllun y Sector Gwirfoddol
http://new.wales.gov.uk/
v1.0.0