Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Version Ionawr 2002)
1. Mae'r cyhoeddiad hwn yn amlinellu canllawiau'r Twrnai Gwladol ar gyfer apêl adeg trychineb. Fe'u hargraffwyd yn gyntaf yn Atodiad A Adroddiad Blynyddol y Comisiynwyr Elusennau ym 1981 ac fe'u diweddarwyd yn unol â deddfwriaeth gyfredol.
2. Cynhyrchwyd canllaw ategol ar y driniaeth o gronfeydd apêl o safbwynt treth gan Gyllid y Wlad a Thllau Tramor a Chartref EM ar y cyd. Mae hwn ar gael o Ddesg Gymorth Cronfeydd Apêl Cyllid y Wlad (ffôn 0151 472 6061) neu ar ei wefan ar www.inlandrevenue.gov.uk/afg/index.htm.
3. Yn gyffredinol bydd apêl gyhoeddus, yn dilyn rhyw drychineb neu ddamwain trychinebus, neu ar adeg rhyw anffawd arbennig yn cael ei dwyn at sylw'r cyhoedd, yn cael ei sefydlu heb lawer o amser i baratoi'r tir. Mae'n bosib y bydd y gymuned yn teimlo angen brys i fynegi ei galar a'i pharch mewn modd ymarferol, a gall yr ymateb fod yn llawer mwy na'r hyn a ddisgwylir.
4. Yn yr amgylchiadau hyn nid yw'n annaturiol i gwestiynau godi ynglŷn ag union statws apeliadau ar ôl iddynt gael eu sefydlu; ac mae digwyddia dau yn dilyn trychinebau yn y gorffennol wedi dangos faint o anhapusrwydd y gall y cwestiynau hyn ei achosi.
5. Mae'r Twrnai Gwladol yn awyddus i osgoi amheuon ynglŷn â natur apeliadau os oes modd, a dylai'r rhai sy'n ateb apêl wybod y bydd eu haelioni yn cael y canlyniadau a ddymunir.
6. Felly mae'r Twrnai Gwladol, ar ôl ymgynghori, wedi paratoi'r canllawiau canlynol a all fod yn ddefnyddiol i'r rhai sy'n wynebu'r cyfrifoldeb o wneud apêl yn y dyfodol.
7. Mae'n rhaid i'r rhai sy'n defnyddio'r canllawiau hyn gofio na all unrhyw ddwy apêl fod yr union yr un fath, a dylent wneud popeth a allant i sicrhau bod eu hapêl eu hunain yn briodol i amgylchiadau arbennig eu hachos nhw, ac nid yw'n cael unrhyw anawsterau annisgwyl, naill ai personol, gweinyddol neu ariannol.
8. Ymhlith y penderfyniadau mwyaf pwysig y mae'n rhaid eu gwneud fel mater o frys yw penderfynu a oes galw am apêl elusennol, a gall fod yn ddoeth i geisio cyngor ar gwestiynau o'r fath cyn cyhoeddi'r apêl. Yn gyffredinol, bydd telerau'r apêl yn hollbwysig wrth benderfynu ar statws a defnydd terfynol y gronfa.
9. Ar ôl cytuno ar y telerau, bydd yn ddymunol fel arfer i gyhoeddi'r apêl cyn gynted ag y bo modd ac mor eang ag y bo'n briodol yn yr amgylchiadau.
10. Weithiau gall rhoddion gael eu hanfon cyn cyhoeddi'r apêl. Os oes mwy nag y gellir eu cydnabod yn unigol, dylai'r apêl gyhoeddedig nodi y bydd rhoddion a dderbyniwyd eisoes yn cael eu hychwanegu at gronfa'r apêl oni bai fod y rhoddwr yn hysbysu'r trefnwyr (cyn pen deng niwrnod dyweder) nad dyma yw eu dymuniad.
11. Ceir gostyngiad treth hael ar gyfer cronfeydd elusennol; mae hyn yn gymwys hefyd i roddion i'r cronfeydd hyn, yn enwedig trwy gynllun Cymorth Rhodd, ac mae manylion am hyn ar gael o'ch swyddfa dreth leol. Bydd rhoddion i raddau helaeth yn rhydd rhag treth etifeddiaeth hefyd.
12. Ond gan fod cronfeydd elusennol yn gyhoeddus o ran natur yn eu hanfod, ni ellir eu defnyddio i roi buddiannau i unigolion sy'n mynd ymhellach na'r rhai sy'n briodol i'w hanghenion; a bydd gweithrediad yr ymddiriedolaeth elusennol yn destun archwiliad y Comisiynwyr Elusennau.
13. Nid yw cronfeydd an-elusennol yn denu unrhyw ostyngiadau treth; nid yw rhoddion iddynt yn gymwys ar gyfer unrhyw driniaeth arbennig o safbwynt treth (a bydd rhaid rhoi ystyriaeth iddynt at ddibenion treth etifeddiaeth oni bai, fel sy'n debygol yn achos y rhan fwyaf o roddion, eu bod o fewn y gostyngiadau treth arferol).
14. Ond dan ymddiriedolaeth an-elusennol ni cheir unrhyw derfyn ar y swm y gellir ei dalu i fuddiolwyr unigol os na osodwyd unrhyw rai gan yr apêl; a dim ond y Llys sy'n gweithredu ar ran y buddiolwyr fydd â rheolaeth dros yr ymddiriedolaeth, ac ni fydd yn destun archwiliad gan y Comisiynwyr Elusennau.
15. Mae'n rhaid i delerau'r apêl an-elusennol gael eu paratoi gan gymryd gofal arbennig i sicrhau nad oes amheuaeth pwy fydd yn cael budd, a yw eu budd yn destun barn yr ymddiriedolwyr neu beidio, ac a yw'r budd cyfan yn mynd i'r buddiolwyr, ac os nad ydyw, er enghraifft oherwydd bod dibenion penodol wedi'u gosod a gall y cronfeydd fod yn fwy na'r hyn sy'n ofynnol ar gyfer y dibenion hynny, neu oherwydd bod y buddiolwyr i gymryd yr hyn sy'n briodol ym marn yr ymddiriedolwyr yn unig, beth sy'n digwydd i unrhyw arian dros ben.
16. Os yw dibenion arbennig wedi'u gosod a cheir arian dros ben ar ôl i'r rhain gael eu hateb, ac ni nodwyd unrhyw ddefnydd ar gyfer yr arian hwn, bydd yr arian dros ben yn eiddo'r rhoddwyr, a all arwain at broblemau gweinyddol drud a chostus.
17. Os bwriedir creu cronfa elusennol yna gallai'r apêl fod ar y ffurf ganlynol:
"Bwriad yr apêl hon yw sefydlu cronfa elusennol i leddfu'r gofid a achoswyd gan y ddamwain/trychineb yn
...................................................................
ar
...................................................................
Y diben yw defnyddio'r arian i gynorthwyo'r rhai a all fod angen cymorth (naill ai yn awr neu yn y dyfodol) o ganlyniad i'r drychineb hon yn unol â chyfraith elusennau. Bydd unrhyw arian sydd dros ben ar ôl diwallu eu hanghenion yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion elusennol mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:
(iii) Cynorthwyo'r ardal leol y mae'r ddamwain/trychineb yn effeithio arni".
18. Os bwriedir sefydlu cronfa an-elusennol a bydd y rhai yr effeithir arnynt yn cymryd yr holl gronfa mewn cyfrannau sy'n briodol ym marn yr ymddiriedolwyr, gallai'r apêl fod ar y ffurf ganlynol:
"Bwriad yr apêl hon yw sefydlu cronfa. Bydd y budd cyfan o'r gronfa yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y rhai a anafwyd neu a gollodd perthynas yn y ddamwain/trychineb yn
...................................................................
...................................................................
ar
...................................................................
a'u teuluoedd a'u dibynyddion yn ôl doethineb yr ymddiriedolwyr. Ni fydd y gronfa hon yn elusen".
19. Gallai cronfa an-elusennol, lle y byddai gan ymddiriedolwyr y dewis i roi yr hyn sy'n briodol yn eu barn nhw i'r rhai sydd wedi dioddef gydag unrhyw arian dros ben yn mynd i'r elusen, gael ei sefydlu ar sail y ffurf ganlynol:
"Bwriad yr apêl hon yw sefydlu cronfa ar gyfer y rhai a anafwyd neu a gollodd perthynas yn y ddamwain/trychineb yn
...................................................................
ar
...................................................................
a'u teuluoedd a'u dibynyddion. Bydd yr ymddiriedolwyr yn penderfynu sut i roi budd i unigolion ac i ba raddau y rhoddir budd i unigolion: ni fydd y gronfa ei hun yn elusen ond bydd unrhyw arian dros ben yn cael ei gymhwyso ar gyfer dibenion elusennol sydd yn fwyaf priodol ym marn yr ymddiriedolwyr i goffáu y rhai a fu farw".
20. Weithiau bydd y cyhoeddusrwydd a roddir i unigolyn sy'n dioddef yn ysgogi pobl i gyfrannu. Mewn achos o'r fath mae'n arbennig o ddymunol i'r rhai sy'n gwneud apeliadau nodi a yw'r apêl ar gyfer cronfa elusennol neu beidio.
21. Mae hefyd yn ddymunol i'r rhai sy'n cyfrannu ddweud os yw eu rhodd ar gyfer budd yr unigolyn, neu ar gyfer dibenion elusennol gan gynnwys cynorthwyo'r unigolyn cyn belled ag y bo hynny'n elusennol; os na nodir bwriad o'r fath yna dylid cydnabod y rhodd gan awgrymu sut y bydd yn cael ei defnyddio os nad yw'r rhoddwr yn anghytuno â hyn.
22. Dylai'r rhai sy'n gwneud apêl gadw mewn cof y posibilrwydd y gall ymateb hael gynhyrchu mwy nag sy'n briodol ar gyfer anghenion yr unigolyn, a dylent ofyn i'w hunain beth y dylid ei wneud gydag unrhyw arian dros ben.
23. Felly, os yw plentyn yn dioddef o glefyd y dewisiadau yw:
24. Efallai na fydd y plentyn yn byw yn hir, ac felly efallai na fydd yn gallu mwynhau'r cyfraniadau hael fel unigolyn; fel arall, efallai y bwriedir iddo dderbyn cymaint â phosib oherwydd ei fod yn wynebu bywyd o ddioddefaint.
25. Dylid ystyried manylion sefydlu cronfa elusennol neu gronfa an-elusennol cyn gwneud yr apêl a dylai'r apêl nodi pa ddewis arall a fwriedir; unwaith eto, hyd yn oed os ydych yn gwneud apêl an-elusennol, efallai eich bod yn teimlo ei fod yn iawn i'w gwneud ar y telerau y gall unrhyw arian dros ben gael ei ddefnyddio ar gyfer elusen.
26. Mae'r telerau a awgrymir yn y memorandwm hwn yn enghreifftiau yn unig o'r ffurfiau y gellid eu defnyddio; a chyn gwneud apêl mae'n well ceisio cyngor ar ba ffurf i'w defnyddio bob amser.
27. Byddwn yn barod bob amser fel mater o frys i roi cyngor ar delerau unrhyw apêl elusennol, neu ystyried a yw apêl arfaethedig yn debygol o fod yn elusennol, ac os felly rhoi cyngor ar y canlyniadau tebygol.
28. I gloi, hoffai'r Twrnai Gwladol bwysleisio y dylai'r rhai sy'n trefnu apeliadau wneud popeth y gallant i sicrhau bod diben yr apêl yn glir a bod rhoddwyr yn gwybod sut y caiff eu rhoddion eu defnyddio.
29. Bydd hyn yn gwneud llawer i leihau'r perygl o ddryswch a gofid. Nid yw'n ddymunol gwneud apêl cyffredinol gan ohirio, hyd nes y gwyddys maint y gronfa, benderfyniadau megis a ddylai'r gronfa fod yn elusennol ac a ddylai'r rhai yr effeithir arnynt gael y budd cyflawn; gall hyn roi'r argraff i'r rhoddwyr a'r buddiolwyr nad y canlyniad terfynol yw'r hyn a fwriadwyd, yn ogystal â chreu problemau cyfreithiol.
30. Mae ein canllaw Cofrestru fel Elusen (CC21) ar gael i gynorthwyo hyrwyddwyr adeg apêl trychineb benderfynu a ydynt yn dymuno i'r apêl honno fod yn elusen neu beidio; bydd hefyd yn eu tywys trwy'r broses gofrestru os mai dyma'r llwybr a ddewisir.
31. Dylai darpar ymddiriedolwyr y gronfa apêl fod yn ymwybodol o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, yn enwedig os yw'r gronfa yn mynd i fod yn elusen - fe'u cynghorir yn gryf i ddarllen ein canllaw Cyfrifoldebau Ymddiriedolwyr Elusennau (CC3).
32. Rhoddir rhestr lawn o'n cyhoeddiadau yn Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau (CC1).
33. I gael copïau o unrhyw un o'n cyhoeddiadau gallwch naill ai: