Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

CC42 - Penodi Enwebedigion a Gwarcheidwaid: Arweiniad dan adran 19(4) Deddf Ymddiriedolwyr 2000

(Version Chwefror 2001)


Cynnwys

Am beth mae'r cyhoeddiad hwn?

1. Mae'r cyhoeddiad hwn yn:

  • disgrifio'r darpariaethau ar gyfer penodi enwebedigion a gwarcheidwaid a gyflwynwyd yn Neddf Ymddiriedolwyr 2000;
  • rhoi manylion am y gofynion y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr sydd am arfer y pwerau hyn gydymffurfio â nhw.

2. Yn arbennig mae'n cynnwys arweiniad statudol ym mharagraffau 17-47 a roddir gan y Comisiwn Elusennau dan adran 19(4) Deddf Ymddiriedolwyr 2000, ac mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr gydymffurfio â hyn hefyd. O fewn y paragraffau hyn, mae'r hyn sy'n ffurfio arweiniad statudol wedi'i nodi mewn print du.

Diffinio "enwebedig" a "gwarcheidwad"

3. At ddiben y cyhoeddiad hwn, mae "enwebedig" yn rhywun sy'n dal y teitl i eiddo ymddiriedolaeth elusennol (neu ryw rhan o'r eiddo hwnnw) ar ran ei ymddiriedolwyr cyfan. Yr enwebedig yw'r person y bydd ei enw yn cael ei roi ar gofrestr cyfranddaliadau unrhyw gwmni y mae eu cyfranddaliadau yn cael eu dal gan yr ymddiriedolaeth. Yn achos tir cofrestredig, yr enwebedig yw'r person y mae ei enw yn cael ei roi ar y gofrestr perchenogaeth. Mae "gwarcheidwad" yn berson sydd, ar ran yr ymddiriedolwyr cyfan, yn gofalu am asedion yr ymddiriedolaeth, yn arbennig y dogfennau neu dystiolaeth arall o deitl yr ymddiriedolaeth i'w heiddo - er enghraifft tystysgrifau cyfranddaliadau a thir. Defnyddir y geiriau hyn yn Neddf Ymddiriedolaeth 2000 yn yr ystyr hwn.

4. Gall yr un person fod yn "enwebedig" ac yn "warcheidwad": weithiau defnyddir yr ymadrodd "gwarcheidwad" i ddisgrifio rhywun sy'n enwebedig ac yn warcheidwad, neu sy'n darparu gwasanaethau yn ogystal â'r rheiny a ddisgrifir ym mharagraff 3.

Deddf Ymddiriedolwyr 2000

5. Pasiwyd Deddf Ymddiriedolwyr 2000 (y cyfeirir ati fel "y Ddeddf" o hyn ymlaen) ar 23 Tachwedd 2000 a daeth i rym ar 1 Chwefror 2001. Yn amodol ar rai cymwysterau, mae'r Ddeddf yn galluogi ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth, gan gynnwys ymddiriedolaeth elusennol, i benodi person i weithredu fel eu "henwebedig" a/neu yr un person neu berson gwahanol i weithredu fel eu "gwarcheidwad" ar gyfer asedion yr ymddiriedolaeth a bennir ganddynt.

6. Mae'r pŵer statudol newydd yn ychwanegol i unrhyw bŵer i benodi enwebedig/gwarcheidwad yn nogfen lywodraethol yr elusen, ac ni fydd yn disodli'r pŵer statudol i benodi ymddiriedolwr gwarchodaeth. Yn achos tir elusen, ni fydd yn disodli pŵer ymddiriedolwyr ychwaith i wneud cais i'r Comisiwn drosglwyddo'r teitl i'r tir i enw'r Gwarcheidwad Swyddogol i Elusennau. Hefyd bydd y Comisiwn yn gallu rhoi pwerau i ymddiriedolwyr elusennau o hyd i benodi enwebedigion a gwarcheidwaid sy'n ehangach na'r pwerau a roddir gan y Ddeddf, os yw hyn o fudd i'r elusen.

7. Gall y pŵer statudol newydd fod yn gymwys i unrhyw eiddo a ddelir ar ymddiriedolaeth. Felly, mae'n gymwys i eiddo cymdeithasau anghorfforedig elusennol ac elusennau eraill y mae eu heiddo yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth, yn ogystal ag eiddo'r ymddiriedolaethau elusennol eu hunain. Felly, at ddiben yr arweiniad hwn, mae "ymddiriedolaeth elusennol" yn cynnwys "cymdeithas elusennol" ac unrhyw elusen arall o'r fath: ym mhob achos, bydd yr "ymddiriedolwyr elusennol" yn gyfrifol am arfer y pŵer. Ond ni fydd y pŵer newydd yn berthnasol i:

  • Eiddo cronfeydd buddsoddi cyffredin (heblaw gronfeydd cynllun cronni) neu gronfeydd adnau cyffredin. Bydd y rheiny sy'n rheoli'r cronfeydd hyn yn parhau i ddefnyddio'r pwerau penodol i benodi enwebedigion/gwarcheidwaid a roddir yn y cynlluniau sy'n rheoleiddio'r cronfeydd.
  • Os oes ymddiriedolwr gwarchodaeth gan ymddiriedolaeth elusennol. Rhaid i'r ymddiriedolwr gwarchodaeth ddal y teitl i holl eiddo'r ymddiriedolaeth y mae'n ymddiriedolwr gwarchodaeth drosto. Rhaid iddo/iddi hefyd ddal y dogfennau teitl i'r eiddo hwnnw. Felly, byddai penodi person ar wahân fel enwebedig/gwarcheidwad yn groes i gyfrifoldebau ymddiriedolwr gwarchodaeth.
  • Eiddo a ddelir gan y Gwarcheidwad Swyddogol. Unwaith eto, byddai penodi person ar wahân fel enwebedig/gwarcheidwad yn groes i gyfrifoldebau statudol y Gwarcheidwad Swyddogol.
  • Eiddo corfforaethol cwmni elusennol neu elusen arall sydd wedi'i hymgorffori gan neu dan statud. Ni ddelir eiddo o'r fath ar ymddiriedolaeth.

8. Ni fydd y pŵer statudol newydd ar gael os yw dogfen lywodraethol ymddiriedolaeth elusennol yn gwahardd yn benodol neu drwy oblygiad anorfod y defnydd o enwebedig/gwarcheidwad.

9. Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth bod rhaid i ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth elusennol, nad yw'n elusen a esgusodir, weithredu yn unol ag unrhyw arweiniad a roddir gan y Comisiynwyr Elusennau sy'n ymwneud â dewis person i'w benodi fel enwebedig neu warcheidwad dan y pwerau a roddir gan y Ddeddf.

10. Yn nhermau'r pwerau a roddir i benodi enwebedig/gwarcheidwad, mae'r Ddeddf yn cydnabod bod risgiau, yn ogystal â manteision yn deillio o benodi enwebedigion a gwarcheidwaid. Rhaid cael cydbwysedd rhwng economi a chyfleustra gweinyddu'r ymddiriedolaeth ar un llaw, a diogelwch eiddo'r ymddiriedolaeth ar y llaw arall. Rhaid i unrhyw un a benodir fel enwebedig/gwarcheidwad dan y pwerau a roddir dan y Ddeddf naill ai fod:

  • yn rhywun sy'n ymgymryd â busnes sy'n cynnwys gweithredu fel enwebedig/gwarcheidwad; neu'n
  • gorff corfforaethol a reolir gan yr ymddiriedolwyr; neu'n
  • gwmni enwebedig cyfreithwyr a gydnabyddir dan adran 9 Deddf Gweinyddu Cyfiawnder 1985.

11. Gall darparu gwasanaethau enwebedig/gwarcheidwad, mewn rhai amgylchiadau, fod yn ddosbarth o fusnes buddsoddi at ddibenion Deddf Gwasanaethau Ariannol 1986 ("DGA").

12. Bydd darpariaeth o'r fath yn ddosbarth o fusnes buddsoddi os:

  • yw'r gwasanaethau a ddarperir gan yr enwebedig/gwarcheidwad yn cynnwys "gweinyddu", er enghraifft, mae'r enwebedig/gwarcheidwad hefyd yn delio â gohebiaeth o'r cwmni y mae ei gyfranddaliadau yn cael eu dal, neu'n ymdrin ag adennill treth ar ddifidendau ar ran yr ymddiriedolwyr; ac
  • os yw'r asedion o fewn rhychwant y gwasanaethau a ddarperir gan yr enwebedig/gwarcheidwad yn cynnwys "buddsoddiadau" o fewn ystyr y DGA (e.e. cyfranddaliadau, debenturau etc, ond nid tir) neu gallent, dan delerau'r cytundeb rhwng yr enwebedig/gwarcheidwad a'r ymddiriedolwyr, gynnwys "buddsoddiadau"; ac
  • os yw'r enwebedig/gwarcheidwad yn ymgymryd â'r busnes o ddarparu'r gwasanaethau perthnasol yn y DU.

13. Fel a nodwyd ym mharagraff 8, gall y pŵer statudol newydd i benodi enwebedig/gwarcheidwad gael ei wahardd gan ddarpariaeth briodol yn nogfen lywodraethol yr elusen. Ond mae'r pŵer statudol wedi'i fynegi mewn ffordd sydd, os yw ar gael, yn ddigon eang i alluogi cyflawni'r dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff 15 isod.

14. Mae'r Ddeddf yn amlinellu'r rheolau a'r dyletswyddau cyffredinol canlynol mewn perthynas â'r defnydd o enwebedigion/gwarcheidwaid dan y pŵer a roddir:

  • Ni all unig ymddiriedolwr benodi ei hun fel enwebedig/gwarcheidwad, ac ni all corff o ymddiriedolwyr benodi un o'u nifer yn unig fel enwebedig neu warcheidwad oni bai fod yr enwebedig/gwarcheidwad yn gorfforaeth ymddiriedolaeth.
  • Rhaid i'r ymddiriedolwyr gyflawni'r ddyletswydd statudol o ofal wrth ddewis yr enwebedig/gwarcheidwad, ac wrth bennu'r telerau y bydd yr enwebedig/gwarcheidwad yn gweithredu arnynt. Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob ymddiriedolwr ddefnyddio'r gofal a'r gallu sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau, gan ystyried yn arbennig unrhyw wybodaeth neu brofiad arbennig sydd gan yr ymddiriedolwr, neu y mae ef/hi yn honni sydd ganddo/ganddi. Yn achos ymddiriedolwr proffesiynol, ystyrir unrhyw wybodaeth neu brofiad hefyd y mae'n rhesymol i'w ddisgwyl gan rywun mewn proffesiwn perthnasol.
  • Dim ond os yw'n rhesymol angenrheidiol i wneud hynny gall yr ymddiriedolwyr benodi enwebedig/gwarcheidwad ar delerau sy'n ei alluogi (Yn y cyhoeddiad hwn, wrth gyfeirio at enwebedig/gwarcheidwad, a all fod yn berson o’r naill ryw neu’r llall, ond sy’n gorff corfforaethol yn aml, defnyddir y rhagenwau gwrywaidd yn eu hystyr cyfreithiol cynhwysol) i benodi dirprwy, neu sy'n cyfyngu ar atebolrwydd yr enwebedig/gwarcheidwad neu'r dirprwy, neu sy'n galluogi'r enwebedig/gwarcheidwad i weithredu mewn amgylchiadau sy'n gallu esgor ar wrthdaro buddiannau.
  • Rhaid i benodi enwebedig/gwarcheidwad fod yn ysgrifenedig, neu ei dystio'n ysgrifenedig.
  • Rhaid i'r ymddiriedolwyr adolygu'n barhaus trefniadau gweithredu'r enwebedig/gwarcheidwad a sut y mae'r trefniadau hynny yn cael eu rhoi ar waith. Rhaid iddynt ystyried a yw'n briodol yn yr amgylchiadau i roi cyfarwyddiadau i'r enwebedig/gwarcheidwad, neu i derfynu'r penodiad, ac os yw'r amgylchiadau hynny'n bodoli, mae dyletswydd arnynt i roi cyfarwyddiadau neu derfynu'r penodiad yn ôl yr achos. Mae'r ddyletswydd statudol ô ofal y cyfeirir ato uchod hefyd yn berthnasol i'r ddyletswydd hon o adolygu.

Dibenion defnyddio enwebedig/gwarcheidwad

15. Mae defnyddio enwebedigion/gwarcheidwaid wrth weinyddu'r ymddiriedolaeth elusennol yn cyflawni'r dibenion canlynol:

  • Mae'n dileu'r angen i drosglwyddo'r teitl i eiddo ymddiriedolaeth pryd bynnag y mae newidiadau yn y corff ymddiriedolwyr: mae hefyd yn dileu'r anfanteision gweinyddol sy'n codi, yn ymarferol, pan fydd yr angen i wneud hyn yn cael ei ddiystyru.
  • Mae'n hwyluso trosglwyddo eiddo ymddiriedolaeth i mewn ac allan o'r ymddiriedolaeth (er enghraifft, pan fydd cyfranddaliadau yn cael eu prynu a'u gwerthu).
  • Mae'n lleihau'r risg o golli'r dogfennau ymddiriedolaeth sy'n dangos y teitl i eiddo'r ymddiriedolaeth. Ar wahân i'r risg ddilynol o golled i eiddo'r ymddiriedolaeth ei hun, gall ailosod dogfennau o'r fath fod yn gostus.

16. Ond, ar hyn o bryd, mae'r gyfraith ymddiriedolaeth yn gosod cyfyngiadau ar y defnydd o enwebedigion a gwarcheidwaid gan ymddiriedolwyr. Esbonnir y cyfyngiadau hyn, a'r rheswm dros eu bodolaeth, yn Atodiad A.

Arweiniad y Comisiwn

17. Mae'r Ddeddf yn cydnabod, yn achos elusennau, bod pryderon arbennig ynglŷn â'r cwestiwn o ddiogelwch eiddo ymddiriedolaeth, na fydd yn codi efallai yn achos ymddiriedolaethau anelusennol. Mae elusennau yn gweithredu er budd y cyhoedd, ac nid oes ganddynt fuddiolwyr adnabyddadwy i ofalu am eu buddiannau eu hunain yn yr ymddiriedolaeth. Felly dyma'r rheswm am y ddarpariaeth dan adran 19(4) y Ddeddf am arweiniad gan y Comisiwn. Nid yw'r ddyletswydd i weithredu yn unol â'r arweiniad hwn yn codi yn achos elusennau a esgusodir o awdurdod rheolaethol y Comisiwn.

18. Mae'r arweiniad hwn yn cwmpasu pedwar prif faes:

  • y berthynas rhwng yr enwebedig sydd i'w ddewis a'r elusen (paragraffau 21-28);
  • cymhwyster a lleoliad yr enwebedig/gwarcheidwad sydd i'w ddewis (paragraffau 29-37);
  • annibyniaeth yr enwebedig a'r gwarcheidwad sydd i'w ddewis, o'i gilydd ac o unrhyw un y mae ymddiriedolwyr yr elusen wedi dirprwyo'r swyddogaeth o reoli buddsoddiadau'r elusen iddo/iddi (paragraffau 38-42); ac
  • adrodd gan yr enwebedig/gwarcheidwad sydd i'w ddewis (paragraffau 43-47).

19. Mae'r arweiniad hwn yn uniongyrchol berthnasol i arfer y pwerau yn y Ddeddf i benodi enwebedigion/gwarcheidwaid yn unig. Nid yw'n uniongyrchol berthnasol i arfer unrhyw bŵer arall i benodi enwebedig/gwarcheidwad, ond argymhellir y dylai ymddiriedolwyr elusennau sy'n arfer pŵer o'r fath gadw'r arweiniad hwn mewn cof. Mae'r arweiniad statudol ei hun mewn print du; mae gweddill y testun yn y paragraffau isod yn wybodaeth ac yn gyngor ategol.

20. Mae'r Ddeddf yn caniatáu i ymddiriedolwyr ddirprwyo dewis enwebedig neu warcheidwad i asiant; fel arfer bydd hyn yn rheolwr buddsoddi dewisol yr ymddiriedolwyr. Ond mae enwebedig/gwarcheidwad a ddewisir fel hyn yn cael ei ddewis ar ran yr ymddiriedolwyr o hyd. Mae'r arweiniad isod yn berthnasol os yw'r ymddiriedolwyr wedi dewis yr enwebedig/gwarcheidwad yn uniongyrchol neu drwy asiant fel rheolwr buddsoddi dewisol. Os yw'r ymddiriedolwyr wedi defnyddio asiant i ddewis yr enwebedig/gwarcheidwad bydd angen iddynt wybod pwy sydd wedi cael ei ddewis ar eu rhan ac ar ba delerau y mae'r enwebedig/gwarcheidwad wedi cael ei benodi. Heb y wybodaeth hon ni allent gyflawni'n briodol y dyletswyddau adolygu a nodwyd ar ddiwedd paragraff 14 uchod.

Y berthynas rhwng yr enwebedig sydd i'w ddewis a'r elusen

21. Dan gyfraith Lloegr, y berthynas gyfreithiol arferol rhwng enwebedig a'r sawl y mae'n dal yr eiddo ar ei ran yw ymddiriedolwr a buddiolwr. Ar y sail honno, mae'r teitl i eiddo'r elusen yn cael ei ddal gan yr enwebedig, ond yr elusen sydd â'r berchenogaeth fuddiol.

22. Nid yw'r berchenogaeth fuddiol hon yn cael ei heffeithio gan fethdaliad yr enwebedig: nid yw'r eiddo o fewn cyrraedd credwyr eraill yr enwebedig. Ac os yw'r enwebedig wedi gwerthu asedion yr elusen heb awdurdod, gall fod modd i'r elusen adennill yr asedion o'r derbynnydd ("dilyn"). Neu gall fod modd i'r elusen hawlio budd perchenogol yn yr asedion sydd erbyn hyn yn cynrychioli'r ased a gafodd ei werthu'n amhriodol, os yw yn nwylo'r enwebedig neu fel arall ("olrhain"). Esbonnir yr hyn a olygir wrth "ddilyn" ac "olrhain" mewn achos llys diweddar (Foskett v McKeown (2000) 3 All ER 97): mae'r darn perthnasol o'r achos hwn, gydag esboniad byr o gyfyngiadau unrhyw hawl berchenogol i'w gweld yn Atodiad B.

23. Gellid dadlau bod y pŵer a rhydd y Ddeddf i benodi enwebedig yn ymestyn i greu'r math o berthynas a ddisgrifiwyd yn y paragraff blaenorol yn unig. Ond hyd yn oed os yw'n rhoi pŵer i benodi enwebedig lle mae'r berthynas rhwng yr elusen a'r enwebedig yn un cytundebol yn unig, fel rheol rhaid i ymddiriedolwyr elusennau osgoi dewis enwebedig sy'n mynnu cael perthynas gytundebol yn unig.

24. Mewn achos o'r fath mae gan yr enwebedig y teitl i'r asedion a pherchnogaeth fuddiol o'r rhain. Felly ni all gael mwy nag atebolrwydd cytundebol i roi cyfrif i'r elusen am werth yr asedion y mae'n eu rheoli ar ei rhan. Os yw'r enwebedig yn troi'n fethdalwr nid yw'r elusen mewn sefyllfa well o ran diogelu ei buddiannau nag unrhyw gredydwr anwarantedig arall. Os yw'r enwebedig yn diflannu y tu hwnt i gyrhaeddiad y gyfraith, nid oes modd i'r elusen adennill yr eiddo o drydydd person y gellid fod wedi dilyn neu olrhain yr eiddo hwnnw neu'r eiddo sy'n ei gynrychioli i'w ddwylo.

25. Fel yr esboniwyd ym mharagraff 22, mae ymddiriedolaeth yn sail i hawl berchenogol yr elusen. Er mwyn i'r ymddiriedolaeth fodoli, rhaid cael tystiolaeth o fwriad i greu ymddiriedolaeth a rhaid i gynnwys yr ymddiriedolaeth allu cael ei adnabod yn briodol. Felly, mae'n bwysig i'r ymddiriedolwyr sicrhau bod y trefniadau arfaethedig gyda'r enwebedig a ddewiswyd:

  • yn egluro bod y cyfranddaliadau neu'r eiddo arall y bydd yr enwebedig yn eu dal ar ran yr ymddiriedolaeth elusennol yn eiddo i'r ymddiriedolaeth mewn gwirionedd (dan gyfraith Lloegr ni ellir cydnabod ymddiriedolaethau ar gofrestrfeydd cyfranddaliadau cwmnïau - adran 360 Deddf Cwmnïau 1985);
  • yn ei wneud yn ofynnol i'r enwebedig adnabod yr eiddo a ddelir ar ran yr ymddiriedolaeth elusennol, a'i wahanu o unrhyw eiddo a ddelir ganddo ar ei ran ei hun. Gall trefniadau sy'n rhoi perchnogaeth fuddiol ar y cyd o ased i elusen unigol gyda chleientiaid eraill yr enwebedig fod yn dderbyniol.

26. Rhaid i'r trefniadau fod yn rhai a fydd yn galluogi'r ymddiriedolwyr, os oes angen, i brofi'n gyfreithiol eu hunig berchnogaeth neu eu perchnogaeth ar y cyd buddiol o'r asedion a ddelir gan yr enwebedig ar eu rhan (er enghraifft, os yw'r enwebedig yn troi'n fethdalwr). Os ydynt yn ansicr a fydd y trefniadau a gynigir gan yr enwebedig i'w ddewis yn cael yr effaith hon, dylent geisio cyngor cyfreithiol.

27. Hefyd mae gan ymddiriedolwyr ddyletswydd glir dan y Ddeddf i adolygu'r trefniadau cytundeb yn gyson, a chymryd camau addas i sicrhau bod y trefniadau hynny yn cael eu gweithredu'n briodol gan yr enwebedig. Os nad ydynt yn gwneud hyn, gallant fod yn atebol yn bersonol am y colledion sy'n deillio o gamymddygiad yr enwebedig.

28. Fel y nodwyd uchod, ystyrir, fel rheol, mai gallu'r elusen i hawlio unig fudd perchenogol neu fudd perchenogol ar y cyd yn yr asedion a ddelir gan yr enwebedig yw'r ffordd fwyaf boddhaol o ddiogelu ei safle. Ond, gall fod amgylchiadau lle y gall gwarantu atebolrwydd cytundebol yr enwebedig gan gwmni yswiriant neu gwmni arall sydd mewn cyflwr ariannol priodol fod yn ddewis derbyniol arall. Cynghorir ymddiriedolwyr elusennau sy'n ystyried gwneud trefniadau o'r fath i drafod y mater yn gyntaf gyda'r Comisiwn.

Cymhwyster a lleoliad yr enwebedig/gwarcheidwad sydd i'w ddewis

29. Oni bai fod yr enwebedig/gwarcheidwad yn gwmni a reolir gan yr ymddiriedolwyr, neu'n gwmni enwebedig cyfreithwyr, mae'n ofynnol yn ôl y Ddeddf i'r person a ddewisir ymgymryd â'r busnes o ddarparu gwasanaethau'r enwebedig/gwarcheidwad. Fel y nodwyd uchod, gall darparu'r gwasanaethau hyn fod yn ddosbarth o fusnes buddsoddi at ddibenion DGA. Ond nid yw'r Ddeddf yn cyfyngu ar yr enwebedigion/gwarcheidwaid y gall yr ymddiriedolwyr eu dewis dan y pŵer a roddir, trwy gyfeirio at ofyniad awdurdodi neu eithrio dan y DGA.

30. Mae'r pwerau yn y Ddeddf yn ddigon eang i ganiatáu ar gyfer penodi enwebedig/gwarcheidwad sydd heb fod dan reolaeth yr ymddiriedolwyr nac yn ddarostyngedig i'r math o reolaeth a fyddai'n gymwys i rywun sy'n ymgymryd â busnes buddsoddi yn y DU. Rhaid i ymddiriedolwyr elusennau sy'n cynnig dewis enwebedig/gwarcheidwad o'r fath fod yn arbennig o ofalus i ystyried cymwysterau a phriodweddau unigol y sawl y cynigir ei benodi fel enwebedig/gwarcheidwad, ac addasrwydd y telerau penodi arfaethedig.

31. Gwerthfawrogir os yw ymddiriedolwyr elusennau yn buddsoddi y tu allan i'r DU, efallai na fydd ganddynt unrhyw ddewis mewn gwirionedd heblaw defnyddio gwasanaethau enwebedig/gwarcheidwad sy'n byw'n lleol, a derbyn diffyg unrhyw ddiogelwch rheolaethol sy'n cymharu â'r hyn sydd ar gael wrth ddefnyddio gwasanaethau tebyg yn y DU.

32. Ond, mae angen i ymddiriedolwyr elusennau ystyried y risgiau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â throsglwyddo eiddo'r ymddiriedolaeth i awdurdodaeth lle y lleolir yr enwebedig/gwarcheidwad. Dylai'r risgiau hyn fod yn rhan o unrhyw benderfyniad ynglŷn ag addasrwydd y lleoliad perthnasol neu beidio i fuddsoddi asedion yr elusen, ac i'r broses o adolygu buddsoddiadau sydd, wrth gwrs, yn ddyletswydd yn ôl y Ddeddf.

33. Mae pedair elfen yn y risg hon:

  • Efallai nad yw system gyfreithiol y wlad dan sylw yn darparu unrhyw ddull effeithiol o orfodi rhwymedigaethau'r enwebedig/gwarcheidwad dan ei gytundeb gyda'r ymddiriedolwyr, neu orfodi trosglwyddo eiddo'r elusen yn ôl i'r ymddiriedolwyr os yw'r ymddiriedolwyr yn penderfynu terfynu'r cytundeb.
  • Efallai nad yw system gyfreithiol y wlad honno yn cydnabod y cysyniad o ymddiriedolaeth o gwbl.
  • Efallai fod y system gyfreithiol yn cydnabod y cysyniad o ymddiriedolaeth, ond, yn ei chyfraith methdaliad, efallai nad yw'n cydnabod gwahaniaeth rhwng eiddo ymddiriedolaeth a ddelir gan y sawl sy'n fethdalwr ac eiddo sydd ym mherchenogaeth fuddiol y person hwnnw.
  • Efallai nad oes gan y system gyfreithiol ddull boddhaol o ddilyn neu olrhain eiddo ymddiriedolaeth.

34. Mae angen i ymddiriedolwyr elusennau sy'n ystyried penodi enwebedig/gwarcheidwad a leolir y tu allan i'r DU gael dealltwriaeth glir o agweddau perthnasol ar y gyfraith yn y wlad lle y lleolir y person hwnnw. Efallai y bydd angen iddynt geisio cyngor cyfreithiol lleol.

35. Ni ddylai ymddiriedolwyr elusennau drosglwyddo eiddo ymddiriedolaeth, neu dystiolaeth o deitl iddo, i enwebedig/gwarcheidwad a leolir mewn gwlad lle nad oes unrhyw ddull effeithiol yn weithredol o orfodi rhwymedigaethau'r enwebedig/gwarcheidwad, neu orfodi trosglwyddo eiddo'r elusen yn ôl i'r ymddiriedolwyr os yw'r ymddiriedolwyr yn penderfynu terfynu'r cytundeb. Os yw eiddo ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i awdurdodaeth arbennig nad yw'n cydnabod y cysyniad o ymddiriedolaeth o gwbl, neu nid yw, yn ei chyfraith methdaliad, yn cydnabod gwahaniaeth rhwng eiddo ymddiriedolaeth ac eiddo sydd ym mherchnogaeth fuddiol, mae'r elusen yn agored i'r posibilrwydd o gael ddim mwy na hawl ddigolledu anwarantedig yn erbyn yr enwebedig/gwarcheidwad os aiff pethau o chwith. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusennau gydnabod y peryglon; esbonnir y rhain ym mharagraff 24.

36. Gall fod modd i'r ymddiriedolwyr ddiogelu safle'r elusen yn y ffordd a nodwyd ym mharagraff 28, ond unwaith eto, cynghorir ymddiriedolwyr elusennau sy'n ystyried trefniadau o'r fath i drafod y mater yn gyntaf gyda'r Comisiwn.

37. Hyd yn oed pan fydd yr elusen yn cadw perchnogaeth fuddiol o'r eiddo lle mae'r teitl wedi cael ei drosglwyddo i enwebedig, mae bob amser rhywfaint o risg y gall ei hawl berchenogol gael ei dinistrio gan weithrediadau anawdurdodedig yr enwebedig/gwarcheidwad. Er enghraifft, os yw asedion yr elusen yn cael eu gwerthu i rywun nad yw'n ymwybodol o'r diffyg awdurdod priodol ar gyfer gwerthu'r asedion, ac mae'r enwebedig/gwarcheidwad yn gwasgaru'r elw. Ond, fel yr esboniwyd ym mharagraff 22, mae cyfraith Lloegr yn aml yn caniatáu i fuddiolwr gael yr hawl i barhau i hawlio budd perchenogol mewn ased sydd wedi cael ei drosglwyddo i drydydd person mewn tor-ymddiriedaeth ("dilyn") neu yn yr asedion sy'n cynrychioli'r ased a drosglwyddwyd felly ("olrhain"). Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusennau gydnabod y risgiau o drosglwyddo eiddo ymddiriedolaeth i awdurdodaeth nad yw'n diogelu hawliau perchenogol trwy ganiatáu i asedion gael eu dilyn neu eu holrhain. Mewn achos o'r fath, os yw eiddo'r ymddiriedolaeth yn cael ei werthu heb awdurdod, gall yr elusen gael ei gadael unwaith eto gyda hawl ddigolledu anwarantedig yn erbyn yr enwebedig/gwarcheidwad.

Annibyniaeth yr enwebedig a'r gwarcheidwad

38. Mae hyn yn golygu annibyniaeth o'i gilydd ac o unrhyw un y mae ymddiriedolwyr yr elusen wedi dirprwyo'r swyddogaeth o reoli buddsoddiadau'r elusen iddo/iddi.

39. Mae'r Ddeddf yn caniatáu i'r un berson gael ei benodi fel enwebedig a gwarcheidwad ac, yn ymarferol, gall cyfleustra gweinyddol ac ystyriaethau cost awgrymu y dylid penodi'r un person i gyflawni'r ddwy swyddogaeth ar ran yr elusen. Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi pŵer i ddirprwyo swyddogaeth rheoli buddsoddi dewisol; mae'n caniatáu i'r sawl a benodir fel rheolwr buddsoddi dewisol fod yn enwebedig neu'n gwarcheidwad neu'r ddau.

40. Fel yr esboniwyd ym mharagraff 14, dim ond os yw'n rhesymol angenrheidiol i wneud hynny y dylai ymddiriedolwyr benodi enwebedig/gwarcheidwad ar delerau sy'n ei ganiat u i weithredu mewn amgylchiadau lle y gall gwrthdaro buddiannau godi. Mae angen i ymddiriedolwyr elusennau gydnabod y risgiau posib sy'n gysylltiedig â diffyg annibyniaeth yn y rheiny sy'n gyfrifol am y broses o weinyddu buddsoddiadau'r elusen ar ei rhan. Gall gwrthdaro buddiannau yma olygu bod buddiannau'r elusen yn cael eu hisraddio gan y sawl sydd â'r gwrthdaro â'i fuddiannau ei hun, neu fuddiannau trydydd person.

41. Gall diffyg annibyniaeth hefyd olygu diffyg diogelwch a fyddai wedi cael ei ddarparu gan rannu swyddogaethau rhwng pobl annibynnol. Er enghraifft, bydd y risg o drosglwyddo asedion yr elusen heb awdurdod gan yr enwebedig (gyda'r canlyniadau a ddisgrifiwyd yn gynharach yn yr arweiniad hwn) yn cynyddu os yw'r enwebedig hefyd yn warcheidwad ac felly mae'n dal y dogfennau teitl i asedion yr elusen a ddelir yn ei enw.

42. Tra y gall y risg gynyddol fod yn ddibwys os yw'r gwasanaethau yn cael eu darparu gan rywun a awdurdodwyd neu a eithriwyd dan y DGA, gall fod yn fwy arwyddocaol yn achos enwebedigion/gwarcheidwaid sydd y tu allan i rychwant y rheoliadau gwasanaethau ariannol. Unwaith eto, gall graddfa'r risg ddibynnu ar gyflwr y gyfraith yn yr awdurdodaeth lle y lleolir y person dan sylw, ac unwaith eto, efallai y bydd angen i'r ymddiriedolwyr geisio cyngor cyfreithiol.

Adrodd gan enwebedigion/gwarcheidwaid

43. Fel yr esboniwyd ym mharagraff 14, mae dyletswydd gan ymddiriedolwyr sy'n penodi enwebedig/gwarcheidwad dan y pŵer statudol i arolygu'n barhaus berfformiad yr enwebedig/gwarcheidwad. Mae'n bwysig i ymddiriedolwyr yr elusen sicrhau bod unrhyw enwebedig/gwarcheidwad y cynigant ei ddewis yn barod i gytuno i drefniadau adrodd priodol.

44. Bydd y trefniadau adrodd a fydd eu hangen yn dibynnu ar yr amgylchiadau, fel gwerth eiddo'r ymddiriedolaeth ac a yw'r enwebedig/gwarcheidwad wedi'i reoleiddio neu beidio.

45. Mae angen cael datganiadau ased cyfnodol i'w hanfon i'r cwsmer yn ôl rheolau rheoli busnes IMRO. Ond erbyn hyn mae'n arfer gyffredin i'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau enwebedigion a gwarcheidwaid i ofyn am adroddiadau cyfnodol gan gyfarwyddwyr yr enwebedig/gwarcheidwad ar y rheoliadau mewnol sy'n cael eu gweithredu gan yr enwebedig/gwarcheidwad er mwyn sicrhau diogelwch asedion y cwsmer. Gallai'r adroddiadau hyn gynnwys:

  • amcanion rheoli cyffredinol y mae'r enwebedig/gwarcheidwad wedi'u sefydlu;
  • y trefniadau ar gyfer diogelwch ffisegol asedion ac ar gyfer gwahanu asedion sy'n eiddo i gwsmeriaid arbennig;
  • gweithdrefnau cysoni asedion;
  • rheoliadau prosesu cyfrifiadurol;
  • gweithdrefnau setlo;
  • gweithdrefnau benthyca stoc;
  • gweithdrefnau i sicrhau cydymffurfio â mandadau buddsoddi; a
  • gweithdrefnau systemau monitro.

46. Lle y caniateir gan y cytundeb gyda'r cwsmer, gallai'r gweithdrefnau ar gyfer dewis a monitro'r rhai y mae swyddogaethau wedi cael eu dirprwyo iddynt gael eu cynnwys hefyd.

47. Gall adroddiad yr enwebedig/gwarcheidwad ar y materion hyn gynnwys adolygiad a baratowyd gan gyfrifwyr annibynnol.

48. Rhaid i ymddiriedolwyr ystyried a oes angen i'r cytundebau gydag enwebedigion/gwarcheidwaid y cynigir eu penodi gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â llunio adroddiadau o'r fath.

Crynodeb

49. Mae'r Comisiwn Elusennau, trwy gydol y trafodaethau a arweiniodd at weithredu Deddf Ymddiriedolwyr 2000, wedi cefnogi'r cynnig i ymestyn pwerau ymddiriedolwyr ymddiriedolaethau elusennol i benodi enwebedigion a gwarcheidwaid yn y ffordd a amlinellir yn y Ddeddf. Nid oes dwywaith y bydd hyn yn hwyluso gweinyddu nifer o ymddiriedolaethau elusennol. Ond mae risgiau yn y defnydd o enwebedigion a gwarcheidwaid, ac mae'n bwysig bod y rhain yn cael eu cydnabod a'u rheoli. Mae'r Ddeddf yn amlinellu'r fframwaith sylfaenol:

  • Rhaid i enwebedigion/gwarcheidwaid ymwneud yn broffesiynol â darparu gwasanaeth (neu gael eu rheoli gan yr ymddiriedolwyr, neu fod yn gwmni enwebedig cyfreithwyr);
  • Dylai'r ymddiriedolwyr ddefnyddio'r gofal priodol wrth ddewis yr enwebedig/gwarcheidwad ac wrth bennu ei gylch gorchwyl.
  • Dylid osgoi rhai cylchau gorchwyl sy'n cynyddu'r risg i eiddo'r ymddiriedolaeth elusennol oni bai fod hyn yn anymarferol.
  • Dylai fod proses briodol ar gyfer adolygu perfformiad yr enwebedig/gwarcheidwad.

50. Yn ogystal mae'r arweiniad hwn:

  • yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod asedion a ddelir gan enwebedig/gwarcheidwad yn eiddo'r elusen o hyd, a gall yr elusen brofi hyn yn gyfreithiol, os oes angen;
  • yn tynnu sylw at risgiau arbennig penodi enwebedigion/gwarcheidwaid nad oes gan eu busnes unrhyw gysylltiad â'r DU;
  • yn pwysleisio'r angen i ymddiriedolwyr elusennau gydbwyso manteision ac anfanteision penodi pobl sy'n annibynnol o'i gilydd ac unrhyw reolwr buddsoddi dewisol fel enwebedigion a gwarcheidwaid;
  • yn nodi ei fod yn ddymunol sicrhau adroddiadau cyfnodol gan yr enwebedig/gwarcheidwad i'r ymddiriedolwyr ar y rheoliadau a weithredir i ddiogelu eiddo'r elusen.

Atodiad A - Y gyfraith bresennol ar y defnydd o enwebedigion a gwarcheidwaid gan ymddiriedolwyr

A1. Roedd un o reolau'r gyfraith ymddiriedolaeth a ddatblygodd yn y 19eg ganrif i ddiogelu eiddo ymddiriedolaethau rhag y perygl o golled yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r teitl i holl eiddo'r ymddiriedolaeth gael ei ddal yn enwau'r holl ymddiriedolwyr ar y cyd. Felly roedd angen cael cyfraniad pob ymddiriedolwr er mwyn i'r teitl i eiddo ymddiriedolwyr gael ei drosglwyddo'n effeithiol naill ai i ymddiriedolwyr newydd neu i neu o drydydd person. Roedd hyn yn lleihau'r risg o gamddefnyddio eiddo'r ymddiriedolaeth neu'r elw a gafwyd o werthu'r eiddo. Byddai caniatáu i eiddo ymddiriedolaeth gael ei ddal yn enw un neu ddau ymddiriedolwr yn unig, neu yn enw rhywun nad oedd yn ymddiriedolwr, ar ran yr ymddiriedolwyr cyfan ("enwebedig"), wedi golygu y gallai'r enwebedig(ion) ei hun (eu hunain) drosglwyddo'r eiddo i drydydd person, er nad oedd ganddo/ganddynt ganiatâd yr ymddiriedolwyr cyfan i drosglwyddo'r eiddo.

A2. Ar yr amod bod y trosglwyddedig (neu unrhyw drosglwyddedig dilynol o'r trosglwyddwr gwreiddiol) yn brynwr, ac nid oedd yn ymwybodol o ddiffyg caniatâd yr enwebedig, ni allai'r ymddiriedolaeth adennill ei heiddo. Oni bai y gallai'r ymddiriedolaeth "ddilyn" yr eiddo a gafodd ei drosglwyddo'n amhriodol, neu "olrhain" yr eiddo hwnnw i rywbeth yr oedd yn ei gynrychioli bellach, naill ai yn nwylo'r enwebedig neu fel arall, gallai adennill ei cholled o'r enwebedig a oedd yn gyfrifol am drosglwyddo'r eiddo heb awdurdod yn unig. Efallai na fyddai hyn yn ymarferol e.e. oherwydd bod yr enwebedig wedi diflannu neu'n fethdalwr. Esbonnir yr hyn a olygir wrth "ddilyn" ac "olrhain" yn Atodiad B.

A3. Felly roedd ymddiriedolwyr yn cael caniatâd i ddefnyddio enwebedig dim ond os oedd y sawl a sefydlodd yr ymddiriedolaeth yn awdurdodi hyn yn nogfen lywodraethol yr elusen, neu os oedd y Llys, neu yn achos elusen, y Comisiwn, yn ei awdurdodi. Ond roedd pris i dalu am y lefel uchel hon o ddiogelwch ar gyfer eiddo ymddiriedolaeth. Bob tro yr oedd newid ymddiriedolwr, roedd rhaid i'r ymddiriedolaeth dalu'r gost o drosglwyddo'r teitl i holl eiddo'r ymddiriedolaeth i enwau'r holl bobl a oedd yn parhau i fod yn ymddiriedolwyr, neu a oedd yn ymddiriedolwyr newydd. Bob tro y cafodd eiddo ymddiriedolaeth ei werthu i drydydd person, a bob tro y prynwyd eiddo gan yr ymddiriedolaeth o drydydd person, roedd rhaid i'r holl ymddiriedolwyr gymryd rhan yn y broses o drosglwyddo yn ffurfiol y teitl i'r eiddo iddyn nhw neu oddi wrthyn nhw, yn ôl yr achos (yn amodol, yn achos elusen, ar y darpariaethau a gynhwysir bellach yn adran 82 Deddf Elusennau 1993).

A4. Mae'n amlwg y byddai'r angen i drosglwyddo teitl i eiddo ymddiriedolaeth pan fyddai newidiadau i'r ymddiriedolwyr yn cael ei ddileu pe byddai enwebedig yn dal y teitl i'r eiddo. Os oedd yr enwebedig yn gorff corfforaethol, a oedd yn gallu bodoli am byth, efallai na fyddai byth angen trosglwyddo'r teitl i'r eiddo ymddiriedolaeth. Wrth gwrs, byddai'r teitl yn parhau i gael ei ddal gan yr enwebedig, er gwaetha'r newidiadau yn yr ymddiriedolwyr, ar ran yr ymddiriedolaeth. Ym marn nifer o bobl a sefydlodd ymddiriedolaethau, gan gynnwys ymddiriedolaethau elusennol, roedd y cyfleustra gweinyddol a'r economi yn fwy na'r risgiau o ganiatáu i eiddo ymddiriedolaeth gael ei ddal gan enwebedig, ac felly awdurdodwyd y defnydd o enwebedig. Yn ymarferol, roedd y ddarpariaeth a oedd yn rhoi awdurdod o'r fath yn aml yn cynnwys dulliau diogelu e.e. gwneud hi'n ofynnol i'r enwebedig fod yn gorfforaeth ymddiriedolaeth, neu gynnwys o leiaf dau unigolyn.

A5. Yn ôl Deddf Ymddiriedolwyr Cyhoeddus 1906 roedd gan unrhyw un sydd â phŵer i benodi ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth (neu sylfaenydd yr ymddiriedolaeth, neu'r llys) y pŵer yn gyffredinol i benodi "ymddiriedolwr gwarchodol" corfforaethol yr ymddiriedolaeth honno. Yn yr hyn a welwyd ar y pryd fel ymarfer cydbwyso priodol rhwng cyfleustra ac economi wrth weinyddu ymddiriedolaeth ar un llaw, a diogelwch ar gyfer eiddo'r ymddiriedolaethau ar y llaw arall, trwy'r pŵer statudol hwn roedd eiddo ymddiriedolaeth yn gallu cael ei drosglwyddo i ymddiriedolwr gwarchodaeth neu enwebedig mewn gwirionedd, ond yn amodol ar rai dulliau diogelu.

A6. Yn ôl y ddeddfwriaeth, roedd yn ofynnol i'r ymddiriedolwr gwarchod, er lles diogelwch eiddo'r ymddiriedolaeth, fod yn gorff corfforaethol gyda chymwysterau penodol. Diffiniwyd y berthynas rhwng yr ymddiriedolwr gwarchodaeth a'r "ymddiriedolwyr rheoli" yn drylwyr yn Neddf 1906, ac ni ellid ei newid trwy gytundeb: yn benodol cafodd yr ymddiriedolwr gwarchodaeth amrywiaeth o gyfrifoldebau statudol a geisiai i ddiogelu eiddo'r ymddiriedolaethau rhag colled. Os oedd ymddiriedolwr gwarchodaeth yn cael ei benodi i ymddiriedolaeth, roedd rhaid i holl eiddo'r ymddiriedolaeth gael ei drosglwyddo iddo. Mae'r Gwarcheidwad Swyddogol i Elusennau yn cyflawni swyddogaeth yn benodol i elusennau sy'n debyg i'r hyn a gyflawnir gan ymddiriedolwr gwarchodaeth, ond dim ond mewn perthynas thir elusennau yn gyffredinol bellach.

A7. Gellir hwyluso trosglwyddo eiddo i ymddiriedolaeth ac o ymddiriedolaeth trwy'r defnydd o enwebedig i ddal y teitl i'r eiddo. Yr enwebedig yw'r unig berson y mae'n rhaid iddo gymryd rhan yn y broses trosglwyddo ffurfiol, ac felly'n cynyddu cyflymdra a lleihau costau. Mae'r ystyriaeth hon wedi dod yn fwyfwy pwysig yn y blynyddoedd diweddar gyda mwy o soffistigeidrwydd a chyflymdra yn y broses o setlo masnachau'r farchnad stoc a disylweddu nifer o drosglwyddiadau stoc trwy'r defnydd o'r system 'Crest'. Gellir hwyluso agweddau gweinyddol eraill ar reoli buddsoddiad hefyd trwy'r defnydd o enwebedigion.

A8. Yn wir, ers sawl blwyddyn bellach, mae'r system bresennol ar gyfer trosglwyddo stociau a chyfranddaliadau yn y DU sy'n deillio o drafodion yn y farchnad wedi gofyn am ddefnyddio enwebedigion yn y broses, ac mae deddfwriaeth wedi cael ei phasio i roi'r awdurdod angenrheidiol i ymddiriedolwyr yn gyffredinol (adran 5, Deddf Cyfnewidfa Stoc (Cwblhau Bargeinion) 1976; erthygl 33, Rheoliadau Gwarannau Heb Dystysgrif 1995). Ond mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi awdurdod i ddefnyddio enwebedigion ar gyfer y cyfnod byr lle mae hwn yn rhan hanfodol o'r broses trosglwyddo stoc modern. Os yw'r defnydd o enwebedig yn gyfleus yn unig, rhaid i ymddiriedolwyr ddibynnu ar bwerau yn eu dogfen ymddiriedolaeth fel rheol, neu awdurdod gan y Llys neu'r Comisiwn.

A9. Mae'r rheolau statudol sy'n ymwneud ag ymddiriedolwyr gwarchodaeth wedi golygu na all y math arbennig hwn o enwebedigion fod yn ymateb ymarferol i ofynion y system fodern o drosglwyddo stoc. Er enghraifft, byddai ymddiriedolwr gwarchodaeth yn cael ei atal dan delerau'r berthynas statudol rhyngddo/rhyngddi a'r ymddiriedolwyr rheoli rhag gwneud y math o drefniadau gyda'r ymddiriedolwyr rheoli a fyddai'n angenrheidiol i gyflawni'r nod o gyflymu'r broses trosglwyddo stoc, a'i gwneud hi'n fwy cyfleus ac economaidd.

A10. Roedd yn ofynnol yn ôl rheol y gyfraith ymddiriedolaeth y cyfeirir ato ym mharagraff A1 i'r teitl i'r eiddo ymddiriedolaeth gael ei ddal ar y cyd gan pob un o'r ymddiriedolwyr, ond hefyd dylai'r dystiolaeth o'r teitl hwnnw - tystysgrifau cyfranddaliadau a thir etc - fod ym meddiant o leiaf un ohonynt. Nid oedd y rheol yn mynnu yn gyffredinol ar feddiant casgliadol trwy ei rhoi ar adnau, dyweder, mewn banc ar orchymyn yr ymddiriedolwyr ar y cyd, er bod pŵer statudol i roi dogfennau teitl ymddiriedolaeth ar adnau mewn banc neu sefydliad tebyg (adran 21 Deddf Ymddiriedolwyr 1925), ac mae dyletswydd statudol i roi gwarannau dygiedydd ar adnau (adran 7 Deddf Ymddiriedolwyr 1925). Os yw ymddiriedolwr gwarchodaeth yn cael ei benodi, rhaid iddo/iddi gael rheolaeth o ddogfennau teitl yr ymddiriedolaeth (gall y Gwarcheidwad Swyddogol ganiatáu i'r dogfennau hyn gael eu cadw dan reolaeth yr ymddiriedolwyr). Mae pŵer statudol gan ymddiriedolwyr elusennau i roi dogfennau teitl ymddiriedolaeth ar adnau gyda'r Comisiwn, gyda'n caniatâd ni (adran 30 Deddf Elusennau 1993). Os yw'r dogfennau ymddiriedolaeth i'w dal gan rywun nad yw'n ymddiriedolwr mewn unrhyw amgylchiadau eraill, rhaid i hyn gael ei awdurdodi gan ddogfen lywodraethol yr elusen neu gan y Llys neu'r Comisiwn.

A11. Mae'r rheol hon, llawn cymaint â'r rheol sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r teitl i eiddo ymddiriedolaeth gael ei ddal gan yr ymddiriedolwyr ar y cyd, yn llesteirio'r system fodern o drosglwyddo stoc, ac mae'r Ddeddf yn ymestyn y pŵer presennol i roi dogfennau teitl ymddiriedolaeth ar adnau. Cedwir y ddyletswydd bresennol i roi gwarannau dygiedydd ar adnau gyda rhai mân addasiadau.

Atodiad B - Olrhain a dilyn

B1. Yn Foskett v McKeown (2000) 3 All ER 97, esboniodd yr Arglwydd Millet olrhain a dilyn fel hyn:

"Mae olrhain a dilyn yn golygu lleoli asedion sy'n cynrychioli, neu y gellir ystyried eu bod yn cynrychioli ased sy'n eiddo i'r buddiolwyr ac y maent yn hawlio perchnogaeth ohono. Ond mae gwahaniaeth rhwng prosesau olrhain a dilyn. Mae dilyn yn broses o ddilyn yr un ased wrth iddo symud o law i law. Mae olrhain yn broses o adnabod ased newydd fel yr un yn lle'r hen ased. Os yw un ased yn cael ei gyfnewid am un arall gall hawliwr ddewis naill ai i ddilyn yr ased gwreiddiol i ddwylo'r perchennog newydd, neu olrhain ei werth i'r ased newydd yn nwylo'r un perchennog. Mae ei ddewis yn cael ei bennu gan yr amgylchiadau yn aml iawn".

B2. Os na ellir adnabod yr ased sydd yn lle'r hen ased (e.e. oherwydd y cafodd yr ased gwreiddiol ei wasgaru) ni all fod unrhyw hawl berchenogol. Ac ni all fod unrhyw hawl berchenogol i ased sydd wedi pasio i ddwylo prynwr dilys am werth heb roi rhybudd bod teitl y gwerthwr wedi deillio o dor-ymddiriedaeth.