Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Fersiwn Mehefin 2008)
Gallwch weld fersiwn lliw argraffedig o'r cyhoeddiad hwn hefyd: CC47 - Cwynion am elusennau (fformat PDF Saesneg 250kb)
Mae elusennau yn chwarae rhan bwysig yn ein cymdeithas ac mae gan nifer ohonom gysylltiad â nhw, fel ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, drwy ddefnyddio eu gwasanaethau neu fel rhoddwyr. Weithiau bydd achos gan bobl gwyno am elusennau a byddant yn troi at y Comisiwn Elusennau fel y rheolydd elusennau yng Nghymru a Lloegr i ystyried eu cwynion.
Mae'r canllaw hwn yn esbonio pryd y byddwn, a phryd na fyddwn yn ystyried y materion a adroddwyd i ni.
Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ein gwaith ni fel rheolydd yw cydweithio'n agos ag elusennau er mwyn sicrhau eu bod yn atebol, yn cael eu gweithredu'n dda ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol er mwyn hybu ffydd a hyder y cyhoedd.
Pan fyddwn yn derbyn cwyn am elusen byddwn yn ystyried y mater a adroddwyd i ni, yn penderfynu a ydym yn y sefyllfa orau i ddelio â'r mater ac yn ystyried y ffurf fwyaf priodol o weithredu yn yr amgylchiadau. Bydd nifer o achosion pan na fyddwn yn ymdrin â'r mater.
Nid yw cylch gwaith y Comisiwn yn ymestyn i elusennau sydd wedi'u lleoli neu sy'n gweithredu yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, lle mae deddfwriaeth wahanol yn gymwys. Mae manylion am y rheolyddion elusennau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i'w gweld yn adran E.
Mae'r canllaw hwn yn cymryd lle'r fersiwn blaenorol o Gwynion am Elusennau (CC47) a gyhoeddwyd ym mis Mai 2003 ac mae'n adlewyrchu ymagwedd ddiwygiedig y Comisiwn at reoli risg yn dilyn cyflwyno Deddf Elusennau 2006.
Mae'r wybodaeth yn y canllaw hwn yn ymwneud â chwynion sydd gennych efallai am elusennau; nid yw'n cynnwys cwynion sydd gennych am ein lefel gwasanaeth neu yn erbyn ein penderfyniadau. Os ydych yn cwyno am y Comisiwn a'i wasanaeth neu, fel rhywun sy'n gysylltiedig ag elusen, rydych am i ni adolygu penderfyniad ar fater arbennig, dylech gyfeirio at ein canllaw Cwynion y Comisiwn Elusennau ac Adborth Cwsmeriaid ar ein gwefan.
Mae pennawd pwnc gan bob adran ac o dan y pennawd gofynnir cwestiynau perthnasol y byddwch efallai yn eu gofyn am sut yr ydym yn delio â chwynion am elusennau. Yn gyffredinol rhown ateb cryno ('Yr ateb byr') ac yna mwy o gefndir ('Yn fwy manwl').
Mae ein gwaith sy'n ymwneud â chwynion yn canolbwyntio ar gynghori elusennau a'u cael i ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael iddynt i ddatrys problemau eu hunain. Ceisiwn annog ymddiriedolwyr i ddefnyddio arbenigedd sefydliadau perthnasol i'w cynorthwyo i redeg eu helusennau mor effeithiol â phosibl. Gallant geisio cymorth ar faterion a godwyd gan achwynwyr mewn sefydliadau heblaw'r Comisiwn.
Fe welwch fanylion cyswllt ar gyfer yr holl sefydliadau a nodwyd yn y canllaw hwn yn adran E.
Yn y canllaw hwn pan ddefnyddiwn 'rhaid' golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio'r symbol C wrth ochr yr ateb byr yn yr adran honno.
Defnyddiwn 'dylai' ar gyfer eitemau a ystyrir yn arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai fod rheswm dilys dros beidio â gwneud hynny.
Er ein bod wedi gwneud pob ymdrech i ysgrifennu'r canllaw hwn mewn iaith bob dydd, roedd rhaid i ni ddefnyddio termau technegol mewn mannau. Mae'r rhestr hon yn esbonio rhai ohonynt:
Archwiliad annibynnol: Mae'n fath o archwiliad allanol o gyfrifon elusen, llai manwl nag archwiliad ariannol ffurfiol.
Anghydfod: Yng nghyd-destun y canllaw hwn mae anghydfod yn golygu anghytundeb o fewn elusen sy'n esgor ar farnau gwahanol, brwydr i reoli'r elusen a hyd yn oed methu â rheoli'r elusen yn effeithiol o ddydd i ddydd.
Dogfen lywodraethol: Mae'n ddogfen gyfreithiol sy'n disgrifio dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, Cynllun y Comisiwn neu ddogfen ffurfiol arall.
Sefydliad gwaharddedig: Sefydliadau yw'r rhain a enwir yn y gyfraith fel sefydliadau sy'n ymwneud neu sy'n gysylltiedig â gweithgarwch troseddol. Mae'n dramgwydd troseddol i fod yn aelod o sefydliad gwaharddedig, neu wahodd pobl i gefnogi sefydliad gwaharddedig.
Ymddiriedolwyr elusen: Dyma'r bobl sy'n gwasanaethu ar gorff llywodraethu'r elusen ac maent yn gyfrifol am reolaeth a gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Gall fod teitlau eraill ganddynt, megis ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor.
Ymchwiliad: Pan gaiff ei ddefnyddio yng nghyd-destun y canllaw hwn mae'n golygu ymchwiliad ffurfiol a gychwynnwyd o dan adran 8 o Ddeddf Elusennau 1993. Mae'n cynnig modd i ni ystyried sut y gweinyddir materion elusen ac, os oes angen, defnyddio ein pwerau i ddiogelu eiddo'r elusen.
Mae'r dudalen hon yn cyfeirio'n gyflym at gynnwys y canllaw hwn.
Mae Rhan C yn disgrifio'r hyn a wna'r Comisiwn fel rheolydd a'n polisi o ran trin cwynion.
Mae Rhan Ch yn esbonio'r wybodaeth y mae ei hangen arnom a phryd y byddwn a phryd na fyddwn yn ymwneud â'r mater. Mae'n cynnig arweiniad ar sut i baratoi'ch cwyn ac i ble y dylech ei hanfon. Hefyd, mae'n esbonio'r hyn y gallwn ei wneud i atal eich hunaniaeth rhag gael ei datgelu.
Mae Rhan D yn ystyried cwynion o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 sy'n darparu ar gyfer math o chwythu'r chwiban a ddiogelir yn gyfreithiol. Mae'n helpu gweithwyr elusennau i chwythu'r chwiban pan fydd rhywbeth o'i le o fewn yr elusen ac yn disgrifio pryd y mae'r diogelwch cyfreithiol yn gymwys.
Mae Rhan Dd yn dangos sut y gall archwilwyr ariannol ac archwilwyr annibynnol adrodd i ni am faterion arbennig ynghylch elusennau o fewn eu codau proffesiynol eu hunain a'r gyfraith elusennau.
Mae Rhan E yn rhoi manylion am sefydliadau sy'n gallu helpu elusennau.
Yr ateb byr
Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ein nod yw darparu'r dull rheoleiddio gorau posibl er mwyn cynyddu effeithiolrwydd elusennau a ffydd a hyder y cyhoedd ynddynt.
Mae'r gwaith bob dydd o redeg elusennau yn parhau i fod yn gyfrifoldeb ymddiriedolwyr elusen i raddau helaeth. Os yw pethau'n mynd o'i le mewn elusennau bydd y camau a gymerwn yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gymesur, gan ystyried y mater, y risg i'r elusen a'i buddiolwyr a gallu'r elusen i gydymffurfio.
Ein rôl yw galluogi elusennau i ddarparu gwasanaethau effeithiol a hefyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith elusennau. Gwnawn hyn drwy gydweithio ag elusennau a thrwy roi cyngor ac arweiniad ac amlinellu arferion gorau er mwyn datrys unrhyw anawsterau. Er mwyn delio â materion o bryder difrifol, byddwn yn ymyrryd i ddiogelu'r elusen drwy ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol lle y bo angen a lle y bo'n gymesur i wneud hynny.
Fel y rheolydd elusennau byddwn yn derbyn cwynion am elusennau. Natur cwynion o'r fath sy'n pennu pa gamau y byddwn yn eu cymryd.
Yn gyffredinol bydd y Comisiwn yn ystyried cwynion:
ac
Mae'r hyn a ystyriwn yn risg difrifol neu'r hyn a ystyriwn yn niwed arwyddocaol wedi'i nodi yn adran Ch1.
Mae mabwysiadu ymagwedd gymesur yn golygu ein bod yn gweithredu'n bwyllog yn ôl difrifoldeb a graddfa'r hyn sydd wedi digwydd ac ystyried y potensial ar gyfer risg pellach i'r elusen a gallu'r elusen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion am newid.
Er y byddwn yn ystyried pob cwyn a dderbyniwn, nid ein rôl ni yw ymwneud â phob problem neu anghydfod sy'n codi rhwng unigolion ac elusennau. O ganlyniad, ni fyddwn yn gallu datrys pob mater sy'n cael ei ddwyn at ein sylw.
Yr ateb byr
Bydd pob cwyn yn cael ei hystyried er mwyn i ni allu penderfynu pa gamau pellach sy'n ofynnol ac ai'r Comisiwn yw'r rheolydd priodol i fynd i'r afael â'r mater o bryder. Caiff y gŵyn ei hasesu er mwyn penderfynu pa mor ddifrifol yw'r gŵyn a'r risg sydd i'r elusen, ei hasedau, ei buddiolwyr neu ei henw da.
Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn rhoi gwybod i chi os ydym yn bwriadu ei hystyried ymhellach, ond ni fyddwn yn gohebu'n fanwl â chi am y camau y bwriadwn eu cymryd. Pan fyddwn wedi dod i gasgliad yn dilyn ymchwiliad i gŵyn byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysebu am y canlyniad.
Yn fwy manwl
Mae'r mathau o gwynion a dderbyniwn yn niferus ac yn amrywiol. Fel rheolydd seiliedig ar risg, canolbwyntiwn ein blaenoriaethau a'n hadnoddau lle y teimlwn y gall ein hymdrechion fod yn fwyaf effeithiol i elusennau a'r bobl sy'n eu defnyddio. Drwy wneud hynny byddwn yn ystyried natur y gŵyn sy'n cael ei gwneud a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r hyn sy'n cael ei honni a'i heffaith ar yr elusen.
Yn ein profiad ni, gall cwyn gael ei datrys yn y rhan fwyaf o achosion drwy roi cyngor neu drwy dynnu sylw at wybodaeth yn ein canllaw sydd ar gael ar ein gwefan. Gall fod materion difrifol eraill y byddem yn disgwyl i ymddiriedolwyr elusen eu datrys, gyda'n cymorth ni os oes angen. Dim ond cwynion sy'n adnabod y risgiau mwyaf difrifol i elusen, ei hasedau neu ei buddiolwyr sy'n cael eu hymdrin gan ymchwiliad o dan adran 8 o Ddeddf Elusennau 1993 - gweler adran Ch1. Byddwn yn dweud wrthych os yw cwyn y tu allan i'n hawdurdodaeth ac, os felly, ble y dylech adrodd am eich cwyn.
Byddwn yn aml yn derbyn cwynion am elusen o ganlyniad i anghydfod. Mae anghydfod yn anghytundeb o fewn elusen sy'n esgor ar farnau gwahanol, brwydr i reoli'r elusen a hyd yn oed methu â rheoli'r elusen yn effeithiol o ddydd i ddydd. Gall gael effaith negyddol ar sut y mae elusen yn gweithredu ac mae'n rhywbeth y mae angen i'r ymddiriedolwyr elusen ei ddatrys yn gyflym. Bydd y Comisiwn yn ymyrryd dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, fel arfer pan nad oes unrhyw ymddiriedolwyr sydd wedi'u penodi'n ddilys ac mae pob dull o ddatrys y materion wedi cael ei ddefnyddio. Dylai'r rhai sy'n ymwneud ag anghydfod geisio defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ddatrys yr anghydfod eu hunain. Mae 'Gwrthdaro yn eich Elusen: datganiad ymagwedd gan y Comisiwn Elusennau' sydd ar gael ar ein gwefan, yn cynnwys gwybodaeth i helpu'r rhai sy'n ymwneud ag anghydfod.
Deallwn y gall rhai materion fod yn bwysig iawn i unigolyn neu grŵp ond ni fyddant bob amser yn peri risg difrifol i'r elusen. Mae sail ein hymyrraeth yn gysylltiedig â'r effaith ar yr elusen dan sylw. Mae Adran Ch1 yn edrych ar y mathau o faterion y mae'r Comisiwn yn teimlo sy'n ddifrifol ac y byddwn yn eu hystyried ar unwaith. Mae Adran Ch2 yn esbonio ble y teimlwn nad yw hi'n briodol i ymyrryd.
Yr ateb byr
Mae angen i ni gael gwybod pan fydd risg difrifol o niwed arwyddocaol i'r elusen neu gamddefnydd arwyddocaol o'r elusen, ei hasedau, ei buddiolwyr neu ei henw da.
Yn fwy manwl
Mae'r materion y teimlwn sy'n ddifrifol neu'n arwyddocaol ac mae'n annerbyniol i unrhyw elusen, ei hymddiriedolwyr, ei gweithwyr neu ei hasiantau ymwneud â nhw wedi'u nodi yn y rhestr isod. Nid yw'r materion wedi'u rhestru mewn unrhyw drefn blaenoriaeth:
Bydd difrifol neu arwyddocaol yn wahanol ar gyfer elusennau o wahanol faint. Wrth ystyried colled ariannol rydym yn sôn am unrhyw dwyll neu ladrad amheus neu sydd wedi digwydd (neu golled oherwydd unrhyw weithgarwch troseddol amheus neu sydd wedi digwydd) waeth beth fo graddfa'r cronfeydd neu werth yr eiddo arall dan sylw. Yn achos unrhyw golled arwyddocaol oherwydd achosion eraill rydym yn sôn, fel canllaw, am unrhyw golli cronfeydd neu eiddo arall sy'n werth 20% neu fwy o incwm yr elusen, neu £25,000, p'un bynnag yw'r swm lleiaf. Ar gyfer symiau sy'n is na hynny, bydd lefel ein pryder yn dibynnu ar arwyddocâd y golled i'r elusen gan bwyso a mesur incwm, gwaith a ffactorau addasu eraill yr elusen. Nid yw'n cynnwys gwerth cronfeydd buddsoddi a gollwyd yn ystod busnes buddsoddi arferol. Gall fod achosion, fodd bynnag, lle mae'r swm a gollwyd yn fach iawn ac felly nid yw'n gymesur i gymryd y mater ymhellach.
Nid yw cylch gwaith y Comisiwn yn estyn i ymchwilio i weithgarwch troseddol neu bryderon am drethu. Os yw'r materion hyn yn cael eu dwyn at ein sylw byddwn yn eich cynghori at bwy y dylech gyfeirio eich cwyn. Bydd y camau y bydd y Comisiwn yn eu cymryd mewn materion o'r fath wedi'u cyfyngu i ystyried a fu unrhyw gamymddygiad neu gamreoli wrth weinyddu'r elusen gan ganiatáu i weithgarwch anghyfreithlon neu afreoleidd-dra treth i ddigwydd. Hefyd gall fod angen i ni weithredu i ddiogelu eiddo'r elusen. Os teimlwch fod trosedd wedi digwydd dylech roi gwybod i'r heddlu yn ogystal â'r Comisiwn.
Mae Adran Ch3 yn esbonio sut i adrodd am faterion i ni; fel rhan o'r broses hon gofynnwn am dystiolaeth o unrhyw gamweinyddu a honnir.
Yr ateb byr
Ni fyddwn yn ymyrryd â materion sydd y tu allan i gwmpas cyfrifoldebau'r Comisiwn. Mae ein pwerau i ymyrryd wedi'u cyfyngu gan y canlynol:
Mae'r terfynau hyn yn golygu na fydd pob cwyn yn cael ei hystyried.
Yn fwy manwl
Yn ymarferol mae'r terfynau ar ein gallu i ymyrryd yn golygu na fyddwn yn ystyried cwynion:
Fel rheolydd cymesur byddwn yn ystyried materion dim ond os credwn fod sylwedd i'r gŵyn. Felly, os nad oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r gŵyn neu'r honiad gallwn benderfynu nad yw ymyrryd yn briodol. Ni fyddwn yn gweithredu ar honiadau, sïon neu farn nas profwyd - byddai gwneud hyn ac, o ganlyniad, amharu ar waith yr elusen yn annheg i'r elusen honno, ei gweithgareddau a'i defnyddwyr a'i buddiolwyr.
Yr ateb byr
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl arnom. Mae gwybodaeth gynhwysfawr yn cynnig modd i ni asesu eich cwyn yn fwy effeithiol a phenderfynu a oes unrhyw fater i ni ei ystyried. Anfonwch yr wybodaeth i'r cyfeiriad ar ddiwedd yr adran hon.
Os yw'ch cwyn yn ymwneud ag anghydfod o fewn elusen darllenwch ein canllaw pellach 'Gwrthdaro yn eich elusen; datganiad ymagwedd gan y Comisiwn Elusennau' cyn anfon eich gwybodaeth atom.
Yn fwy manwl
Ar gyfer unrhyw fater a adroddwch i ni, byddai o gymorth pe allech ddweud wrthym:
Dylai'r holl wybodaeth sydd gennych gael ei chynnwys ar y cychwyn ac nid cael ei chyflwyno bob yn dipyn.
Dylech fod yn ymwybodol:
Mae gennym ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth at ein gwaith a byddwn bob amser yn profi honiadau cyn penderfynu sut i weithredu.
Os hoffech i ni ystyried eich cwyn, ysgrifennwch at:
Comisiwn Elusennau Uniongyrchol, Blwch SP 1227, Lerpwl, L69 3UG
Yr ateb byr
Byddwn yn parchu cyfrinachedd cyn belled ag y gallwn, gan ystyried yn briodol eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, rhyddid gwybodaeth a hawliau dynol. Fodd bynnag, gall fod rhai achosion pan fydd eich hunaniaeth yn cael ei datgelu neu fe ddaw i'r amlwg.
Yn fwy manwl
Os ydych yn ysgrifennu atom, nodwch:
Nid yw'n bolisi arferol gennym anfon copi o lythyr yr achwynydd (neu unrhyw bapurau eraill lle y gellir ei adnabod) i'r elusen oni bai ei fod wedi rhoi ei ganiatâd. Fodd bynnag, mae hawl gan yr elusen wybod natur yr honiadau sy'n cael eu gwneud yn ei herbyn. Hefyd, mae hawl gan unrhyw berson i gael gwybod natur y dystiolaeth y mae'r gŵyn amdano yn seiliedig arni. Er y byddwn yn cymryd pob cam i geisio sicrhau nad yw'ch enw yn cael ei roi heb eich caniatâd, mewn rhai achosion mae'n bosibl y bydd natur yr honiadau neu'r dystiolaeth yn awgrymu'r ffynhonnell. Gall fod rwymedigaeth i ddatgelu gwybodaeth o dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth oni bai fod eithriad yn gymwys ac mae'n briodol iddo gael ei ymarfer. Mae Adran E1 yn darparu manylion ar gyfer y Comisiynydd Gwybodaeth a chewch wybod mwy am ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth ganddo.
Mewn achosion pan ddefnyddiwn ein pwerau statudol i gychwyn ymchwiliad, byddwn yn cyhoeddi Datganiad o Ganlyniadau Ymchwiliad fel arfer ar ein gwefan. Gall gwybodaeth o ymchwiliadau gael ei defnyddio hefyd mewn achosion Llys. Bydd dogfennau a gwybodaeth a gesglir yn ystod yr ymchwiliad, ac at ddibenion ymchwiliad, yn cael eu trin yn gyfrinachol, hyd nes ein bod yn cyhoeddi'r Datganiad o Ganlyniadau Ymchwiliad (er hyd yn oed bryd hynny, bydd peth wybodaeth yn parhau i gael ei heithrio rhag cael ei datgelu) neu oni bai fod eu hangen o dan Orchymyn Llys yn ystod achos cyfreithiol.
Mae hawliau a diogelwch statudol gan rai chwythwyr chwiban o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998, ac mae hawliau a rhwymedigaethau datgelu gan y rhai sy'n archwilio neu'n archwilio'n annibynnol gyfrifon elusennau i'r Comisiwn dan rai amgylchiadau. Esbonnir yr hawliau a'r rhwymedigaethau hyn yn Adran D.
Yr ateb byr
Mae'r Ddeddf hon yn diogelu gweithwyr rhag triniaeth niweidiol neu rhag cael eu herlid gan eu cyflogwr os ydynt, er lles y cyhoedd, yn datgelu camarfer.
Mae'n diogelu'r rhan fwyaf o weithwyr yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, ond nid yw'n gymwys i weithwyr proffesiynol hunangyflogedig (heblaw yn y GIG), gweithwyr gwirfoddol (gan gynnwys ymddiriedolwyr elusen a gwirfoddolwyr elusennau), swyddogion yr heddlu neu'r gwasanaethau cudd-wybodaeth. Byddai rhywun sydd wedi'i gyflogi gan elusen yn gallu defnyddio darpariaethau'r Ddeddf hon.
Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o'r gweithdrefnau datgelu o'r Ddeddf lle y gallent fod yn gymwys i weithwyr elusennau. Os hoffech wneud datgeliad mae'n bosibl yr hoffech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol neu wybodaeth bellach gan y sefydliad a restrir yn adran D5.
Yn fwy manwl
Mae'r Ddeddf yn diogelu gweithwyr mewn sawl ffordd, er enghraifft:
Mae'r senedd yn ceisio cynyddu atebolrwydd sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol trwy gyflwyno dulliau diogelu gweithwyr sy'n chwythu'r chwiban o fewn y sefydliad neu sy'n ymwneud â sefydliad, ac mae elusennau (fel rhan o'r sector gwirfoddol) wedi'u cynnwys o fewn awdurdodaeth y Ddeddf.
Yr ateb byr
Y Comisiwn Elusennau yw'r corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am sicrhau bod ymddiriedolwyr elusen yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol wrth ymarfer rheolaeth dros weinyddu elusennau. Mae'r Comisiwn yn 'berson rhagnodedig' o dan DDLIC sy'n ei ganiatáu i dderbyn datgeliadau gan weithwyr elusennau.
Yn fwy manwl
Gall gweithwyr sy'n ymwybodol o gamarfer o fewn elusen neu gorff anelusennol (os yw hyn yn cynnwys gweinyddu elusennau neu gronfeydd elusennol) ddatgelu gwybodaeth i ni am weinyddu elusennau a chronfeydd a roddwyd, neu a ddelir, at ddibenion elusennol ar yr amod eu bod yn codi eu pryderon yn unol â darpariaethau DDLIC.
Er mwyn i ddatgeliad gael ei ddiogelu gan ddarpariaethau DDLIC (gweler adran D4), rhaid iddo ymwneud â materion sy'n 'gymwys' i'w diogelu o dan y Ddeddf (gweler adran D3).
Bydd datgeliadau a wnaed i'r Comisiwn am yr elusen yn cael eu hystyried fel rhan o'n drefn gwyno.
Yr ateb byr
Mae datgeliad cymwys yn un sy'n darparu gwybodaeth am faterion penodol fel yr amlinellir gan y Ddeddf y mae'r person yn credu'n rhesymol yn ei dilysrwydd.
Yn fwy manwl
Rhaid i'r datgeliad ymwneud â:
Er mwyn gwneud datgeliad cymwys rhaid i'r gweithiwr gredu'n rhesymol fod yr wybodaeth sy'n cael ei darparu yn tueddu i ddangos bod un neu fwy o'r digwyddiadau yn y rhestr bwledi uchod yn digwydd nawr, wedi digwydd yn y gorffennol neu'n debygol o ddigwydd yn y dyfodol.
Rhaid i rai amodau fod yn gymwys er mwyn sicrhau bod y datgeliad yn 'warchodedig'. Nodir y rhain yn yr adran nesaf.
Yr ateb byr
Mae'n ddatgeliad cymwys a wneir gan y gweithiwr, yn destun amodau arbennig, i sicrhau ei fod wedi'i ddiogelu gan DDLIC.
Yn fwy manwl
Bydd datgeliad cymwys i'r Comisiwn Elusennau yn ddatgeliad 'gwarchodedig' ar yr amod bod y gweithiwr:
Gall gweithwyr adrodd yn uniongyrchol i'r Comisiwn pan fydd pryderon ganddynt sydd wedi'u cynnwys o fewn y disgrifiad uchod. Mae'n bwysig nodi os yw gweithiwr yn cael ei erlid am wneud datgeliad i'r Comisiwn Elusennau, mae unrhyw honiad sydd ganddo neu ganddi o dan y Ddeddf yn honiad yn erbyn y cyflogwr ac nid yn erbyn y Comisiwn.
Yr ateb byr
Oes, mae gwybodaeth ar gael gan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio a hefyd gan yr elusen Public Concern at Work.
Yn fwy manwl
Mae Public Concern at Work yn rhoi cyngor cyfrinachol am ddim i weithwyr sydd â phryderon am gamarfer yn y gweithle. Gallwch gysylltu â'r elusen yn Ystafell 301, 16 Baldwins Gardens, Llundain EC1N 7RJ neu drwy ffonio 020 7404 6609 neu drwy'r e-bost
Mae'r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio yn rhoi cyngor cyflogaeth cyffredinol i gyflogwyr a gweithwyr yn y canllaw Hawliau a Chyfrifoldebau Unigol i Weithwyr (cyfeirnod 07/1416). Mae ar gael o wefan yr Adran neu gallwch ei archebu dros y ffôn 0845 015 0010.
Gallwch ysgrifennu at:
Comisiwn Elusennau Uniongyrchol, Blwch SP 1227, Lerpwl, L69 3UG
Gallwch ffonio:
Canolfan Gyswllt y Comisiwn Elusennau 0845 300 0218
Gallwch anfon e-bost at:
whistleblowing@charitycommission.gsi.gov.uk
Pa bynnag ffordd rydych yn cysylltu â ni dywedwch wrthym eich bod eisiau cwyno o dan reoliadau chwythu'r chwiban SSLIC.
Yr ateb byr

Mae dyletswyddau cyfreithiol gan archwilwyr ariannol ac archwilwyr annibynnol o gyfrifon elusennau heb fod yn gwmnïau ac elusennau sy'n gwmnïau i adrodd am rai materion.
Yn fwy manwl
Mae Deddf Elusennau 1993 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006 yn gosod dyletswydd statudol ar archwilwyr annibynnol neu archwilwyr ariannol elusennau heb fod yn gwmnïau ac elusennau sy'n gwmnïau i ddweud wrthym am unrhyw faterion sy'n dod at eu sylw sydd o 'arwyddocâd perthnasol' i ymarfer ein pwerau o dan:
Yr ateb byr
Maent yn debygol o fod yn faterion sy'n ymwneud â gweithgarwch troseddol neu anghyfreithlon difrifol neu ddigwyddiadau difrifol a allai effeithio ar elusen, ei hasedau, ei buddiolwyr neu ei henw da.
Yn fwy manwl
Bydd dyletswydd yr archwiliwr ariannol neu'r archwiliwr annibynnol i adrodd am faterion o arwyddocâd perthnasol yn codi'n bennaf pan fyddant yn nodi:
Mae'r materion sydd o arwyddocâd perthnasol ym marn y Comisiwn Elusennau yn cynnwys:
Yr ateb byr
Oes, mae canllawiau ar gael i archwilwyr ariannol ac archwilwyr annibynnol i'w cynorthwyo i benderfynu a ddylent adrodd i ni am rywbeth sydd o dan eu rhwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny neu er lles y cyhoedd.
Yn fwy manwl
Dylai archwilwyr ariannol ymgymryd â'u gwaith yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol y Bwrdd Arferion Archwilio gan roi ystyriaeth i Nodyn Ymarfer 11: Archwilio Elusennau, a gyhoeddwyd gan y Bwrdd. Rhoddir arweiniad penodol o fewn Nodyn Ymarfer 11 ar y ffactorau sydd i'w hystyried wrth weithredu'r ddyletswydd adrodd neu adrodd er lles y cyhoedd. Paratowyd y canllaw hwn trwy ymgynghori â ni. Gallwch brynu copïau gan ABG Professional Information, Blwch SP 21375, Llundain WC1N 1QP. Gallwch archebu dros y ffôn hefyd ar 020 7920 8991, neu o'r wefan yn www.apb.org.uk.
Dylai archwilwyr annibynnol gyfeirio at y cyfarwyddiadau a'r nodiadau canllaw sydd yn ein canllaw Archwiliad Annibynnol o Gyfrifon Elusennau: Cyfarwyddiadau a Chanllawiau (CC31).
Mae nifer o adnoddau i helpu unigolion i drafod materion gyda mathau arbennig o elusennau. Nid yw hon yn rhestr gyflawn o'r holl ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael, ond mae'n cynnig golwg gyffredinol a man cychwyn da.
Association of Charity Shops
Mae'r sefydliad hwn yn cefnogi aelod-elusennau sy'n rhedeg siopau elusennol fel rhan o'u gweithgareddau codi arian. Mae'n hybu cod ymarfer ar gyfer adwerthu elusennau.
Association of Charity Shops
5th Floor Central House
14 Upper Woburn Place
Llundain WC1H 0AE
Ffôn: 020 7255 4470
E-bost
Gwefan: www.charityshops.org.uk
Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO)
Mae NCVO yn cynhyrchu ystod eang o wybodaeth ac yn darparu gwasanaethau cymorth i'r rheiny sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys cyhoeddiad ar sefydlu a chefnogi ymddiriedolwyr.
Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol
Regent's Wharf
8 All Saints Street
Llundain N1 9RL
Ffôn: 020 7713 6161
Ffacs: 020 7713 6300
Desg gymorth: 08002 798 798
E bost:
Gwefan: www.ncvo-vol.org.uk
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
Mae WCVA yn cynrychioli buddiannau, ac yn ymgyrchu dros gyrff gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru. Mae'n darparu ystod gynhwysfawr o wybodaeth, gwasanaethau ymgynghori, cyllid, rheolaeth a hyfforddiant.
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Tŷ Baltig
Sgwâr Mount Stuart
Bae Caerdydd
Caerdydd CF10 5FH
Ffôn: 029 2043 1701
Llinell gymorth: 0870 607 1666
E-bost:
Gwefan: www.wcva.org.uk
Directgov
Y wefan sy'n rhestru holl wasanaethau llywodraeth ganol a lleol. Mae adran Cartref a Chymuned sy'n tynnu sylw at faterion o ddiddordeb am elusennau ac mae'n rhoi cyngor ar gwyno am faterion arbennig.
Gwefan: www.direct.gov.uk
Fundraising Standards Board
Sefydlwyd y corff newydd hwn i weithredu cynllun hunanreoleiddio agored i'r sector codi arian, gyda'r nod o annog rhagoriaeth ym maes codi arian a darparu trefn gwyno gadarn a hygyrch. Bydd yn ystyried cwynion am ei aelodau.
Fundraising Standards Board
Hampton House
20 Albert Embankment
Llundain SE1 7TJ
Ffôn: 0845 402 5442
Ffacs: 0845 402 5443
E-bost
Gwefan: www.frsb.org.uk
Gogledd Iwerddon - Adran Datblygiad Cymdeithasol
Gellir cyfeirio cwynion am elusennau sy'n gweithredu yng Ngoledd Iwerddon i'r:
Adran Datblygiad Cymdeithasol
Yr Uned Wirfoddol a Chymunedol
Ground Floor
Lighthouse Building
1 Cromac Place
Gasworks Business Park
Ormeau Road
Belfast BT7 2JB
Ffôn: 02890 829414
E-bost
Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)
Mae ACAS yn ceisio gwella sefydliadau a bywyd gwaith drwy gysylltiadau cyflogaeth gwell. Mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf, cyngor annibynnol a bydd yn gweithio gyda chyflogwyr a gweithwyr i ddatrys problemau. Mae gwasanaeth ACAS yn cael eu darparu'n rhanbarthol.
ACAS
Gwefan: www.acas.org.uk
Llinell gymorth: 08457 47 47 47
National Mediation Helpline
Bydd y sefydliad hwn yn esbonio sut y gallai cyfryngu helpu i ddatrys ystod eang o sefyllfaoedd anghydfod a bydd yn eich helpu i gael hyd i wasanaethau cyfryngu priodol.
National Mediation Helpline
Ffôn: 0845 60 30 809
Gwefan: www.nationalmediationhelpline.com
Office of the Scottish Charity Regulator (OSCR)
Gellir cyfeirio cwynion am elusennau sy'n gweithredu yn yr Alban i:
OSCR
2nd Floor
Quadrant House
9 Riverside Drive
Dundee DD1 4NY
Ffôn: 01382 346890 neu 07724 150833
E-bost
Public Concern at Work
Suite 301
16 Baldwin Gardens
Llundain
EC1N 7RJ
Ffôn: 020 7404 6609
E-bost
Yr Adran Busnes Menter a Diwygio Rheoleiddio
Ffôn: 020 7215 5000
Minicom: 020 7215 6740
Ffacs: 020 7215 0105
E-bost
Safonau Masnach
Bydd y wefan ganolog hon yn dweud wrthych sut i gael hyd i'ch swyddfa Safonau Masnach agosaf a sut i gwyno am gyflenwi nwyddau neu wasanaethau. Gall fod o gymorth i chi os yw'ch cwyn yn ymwneud â siop elusennol.
Gwefan: www.tradingstandards.gov.uk
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Awdurdod annibynnol y DU a sefydlwyd i hybu mynediad i wybodaeth swyddogol a diogelu gwybodaeth bersonol.
Gwefan: www.ico.gov.uk
Tŷ'r Cwmnïau
Yr awdurdod corffori a rheolydd ar gyfer cwmnïau cyfyngedig sy'n cynnwys cwmnïau elusennol. Mae gwybodaeth gyhoeddus am gwmnïau ar gael gan Dŷ'r Cwmnïau.
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Maindy
Caerdydd CF14 3UZ
Ffôn: 0870 3333 636
E-bost
Gwefan: www.companieshouse.gov.uk
Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynhyrchu ystod eang o gyhoeddiadau a chanllawiau ar y wefan sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ymddiriedolwyr elusen a'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith elusennau, rheoleiddio ac arfer orau. Mae'r rhestr lawn o gyhoeddiadau i'w gweld ar ein gwefan ac yn ein cyhoeddiad CC1, ond mae'r rhestr isod yn ddetholiad ohonynt yn seiliedig ar y materion a drafodir yn y canllaw hwn.
Cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau
Y Comisiwn Elusennau a Rheoleiddio
CC3 Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: yr hyn y mae angen i chi wybod
CC8 Rheolaethau Ariannol Mewnol i Elusennau
CC11 Talu Ymddiriedolwyr Elusennau
CC15a Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: Yr hanfodion Ebrill 2008
CC20 Elusennau a Chodi Arian
CC21 Cofrestru fel Elusen CC24 Cynnwys Defnyddwyr: Buddiolwyr sy'n dod yn ymddiriedolwyr
CC28 Gwerthu Tir Elusennau
CC31 Archwiliad Annibynnol o Gyfrifon Elusennau
CC33 Prynu Tir
CC48 Elusennau a Chyfarfodydd
RS2 Elusennau a Phartneriaid Masnachol
RS11 Lle i Gwyno? Sut mae elusennau yn rheoli cwynion am eu gwasanaethau
Cyhoeddiadau'r wefan
Elusennau a Rheoli Risg
Canllaw i wrthdaro buddiannau i ymddiriedolwyr elusen
Elusennau a Therfysgaeth
Gwrthdaro yn eich elusen: datganiad ymagwedd gan y Comisiwn Elusennau
I gael copïau o'r rhain neu unrhyw un o'n cyhoeddiadau gallwch:
v1.1.0