Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

CC47 - Cwynion am Elusennau

(Fersiwn Mehefin 2008)

Gallwch weld y fersiwn lliw argraffedig o'r cyhoeddiad hwn hefyd: CC47 - Cwynion am elusennau (fformat PDF 226kb)

Cynnwys

A. Cyflwyniad

A1. Y canllaw hwn

Mae elusennau yn chwarae rhan bwysig yn ein cymdeithas ac mae gan nifer ohonom gysylltiad â nhw, fel ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, drwy ddefnyddio eu gwasanaethau neu fel rhoddwyr. Weithiau bydd achos gan bobl gwyno am elusennau a byddant yn troi at y Comisiwn Elusennau fel y rheolydd elusennau yng Nghymru a Lloegr i ystyried eu cwynion.

Mae'r canllaw hwn yn esbonio pryd y byddwn, a phryd na fyddwn yn ystyried y materion a adroddwyd i ni.

A2. Ein rôl

Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ein gwaith ni fel rheolydd yw cydweithio'n agos ag elusennau er mwyn sicrhau eu bod yn atebol, yn cael eu gweithredu'n dda ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol er mwyn hybu ffydd a hyder y cyhoedd.

Pan fyddwn yn derbyn cwyn am elusen byddwn yn ystyried y mater a adroddwyd i ni, yn penderfynu a ydym yn y sefyllfa orau i ddelio â'r mater ac yn ystyried y ffurf fwyaf priodol o weithredu yn yr amgylchiadau. Bydd nifer o achosion pan na fyddwn yn ymdrin â'r mater.

Nid yw cylch gwaith y Comisiwn yn ymestyn i elusennau sydd wedi'u lleoli neu sy'n gweithredu yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, lle mae deddfwriaeth wahanol yn gymwys. Mae manylion am y rheolyddion elusennau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i'w gweld yn adran E.

A3. Canllawiau blaenorol

Mae'r canllaw hwn yn cymryd lle'r fersiwn blaenorol o Gwynion am Elusennau (CC47) a gyhoeddwyd ym mis Mai 2003 ac mae'n adlewyrchu ymagwedd ddiwygiedig y Comisiwn at reoli risg yn dilyn cyflwyno Deddf Elusennau 2006.

A4. Cwmpas y canllaw hwn

Mae'r wybodaeth yn y canllaw hwn yn ymwneud â chwynion sydd gennych efallai am elusennau; nid yw'n cynnwys cwynion sydd gennych am ein lefel gwasanaeth neu yn erbyn ein penderfyniadau. Os ydych yn cwyno am y Comisiwn a'i wasanaeth neu, fel rhywun sy'n gysylltiedig ag elusen, rydych am i ni adolygu penderfyniad ar fater arbennig, dylech gyfeirio at ein canllaw Cwynion y Comisiwn Elusennau ac Adborth Cwsmeriaid.

A5. Defnyddio'r canllaw hwn

Mae pennawd pwnc gan bob adran ac o dan y pennawd gofynnir cwestiynau perthnasol y byddwch efallai yn eu gofyn am sut yr ydym yn delio â chwynion am elusennau. Yn gyffredinol rhown ateb cryno ('Yr ateb byr') ac yna mwy o gefndir ('Yn fwy manwl').

A6. Ffynonellau eraill o gymorth a chyngor

Mae ein gwaith sy'n ymwneud â chwynion yn canolbwyntio ar gynghori elusennau a'u cael i ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael iddynt i ddatrys problemau eu hunain. Ceisiwn annog ymddiriedolwyr i ddefnyddio arbenigedd sefydliadau perthnasol i'w cynorthwyo i redeg eu helusennau mor effeithiol â phosibl. Gallant geisio cymorth ar faterion a godwyd gan achwynwyr mewn sefydliadau heblaw'r Comisiwn.

Fe welwch fanylion cyswllt ar gyfer yr holl sefydliadau a nodwyd yn y canllaw hwn yn adran E.

A7. 'Rhaid' a 'dylai': beth ydym yn ei olygu

Yn y canllaw hwn pan ddefnyddiwn 'rhaid' golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio'r symbol C wrth ochr yr ateb byr yn yr adran honno.

Defnyddiwn 'dylai' ar gyfer eitemau sy'n arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai fod rheswm dilys dros beidio â gwneud hynny.

A8. Rhai termau technegol a ddefnyddir

Er ein bod wedi gwneud pob ymdrech i ysgrifennu'r canllaw hwn mewn iaith bob dydd, roedd rhaid i ni ddefnyddio termau technegol mewn mannau. Mae'r rhestr hon yn esbonio rhai ohonynt:

Anghydfod: Yng nghyd-destun y canllaw hwn mae anghydfod yn golygu anghytundeb o fewn elusen sy'n esgor ar farnau gwahanol, brwydr i reoli'r elusen a hyd yn oed methu â rheoli'r elusen yn effeithiol o ddydd i ddydd.

Archwiliad annibynnol: Mae'n fath o archwiliad allanol o gyfrifon elusen, llai manwl nag archwiliad ariannol ffurfiol.

Dogfen lywodraethol: Mae'n ddogfen gyfreithiol sy'n disgrifio dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, Cynllun y Comisiwn neu ddogfen ffurfiol arall.

Sefydliad gwaharddedig: Sefydliadau yw'r rhain a enwir yn y gyfraith fel sefydliadau sy'n ymwneud neu sy'n gysylltiedig â gweithgarwch troseddol. Mae'n dramgwydd troseddol i fod yn aelod o sefydliad gwaharddedig, neu wahodd pobl i gefnogi sefydliad gwaharddedig.

Ymchwiliad: Pan gaiff ei ddefnyddio yng nghyd-destun y canllaw hwn mae'n golygu ymchwiliad ffurfiol a gychwynnwyd o dan adran 8 o Ddeddf Elusennau 1993. Mae'n cynnig modd i ni ystyried sut y gweinyddir materion elusen ac, os oes angen, defnyddio ein pwerau i ddiogelu eiddo'r elusen.

Ymddiriedolwyr elusen: Dyma'r bobl sy'n gwasanaethu ar gorff llywodraethu'r elusen ac maent yn gyfrifol am reolaeth a gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Gall fod teitlau eraill ganddynt, megis ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor.

B. Cipolwg cyflym ar y canllaw hwn

Mae'r dudalen hon yn cynnig cipolwg cyflym ar gynnwys y canllaw hwn.

Mae Rhan C yn disgrifio'r hyn a wna'r Comisiwn fel rheolydd a'n polisi o ran trin cwynion.

Mae Rhan Ch yn esbonio'r wybodaeth y mae ei hangen arnom a phryd y byddwn a phryd na fyddwn yn ymwneud â'r mater. Mae'n cynnig arweiniad ar sut i baratoi'ch cwyn ac i ble y dylech ei hanfon. Hefyd, mae'n esbonio'r hyn y gallwn ei wneud i atal eich hunaniaeth rhag gael ei datgelu.

Mae Rhan D yn ystyried cwynion o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 sy'n darparu ar gyfer math o chwythu'r chwiban a ddiogelir yn gyfreithiol. Mae'n helpu gweithwyr elusennau i chwythu'r chwiban pan fydd rhywbeth o'i le o fewn yr elusen ac yn disgrifio pryd y mae'r diogelwch cyfreithiol yn gymwys.

Mae Rhan Dd yn dangos sut y gall archwilwyr ariannol ac archwilwyr annibynnol adrodd i ni am faterion arbennig ynghylch elusennau o fewn eu codau proffesiynol eu hunain a'r gyfraith elusennau.

Mae Rhan E yn rhoi manylion am sefydliadau sy'n gallu helpu elusennau.

C. Y Comisiwn Elusennau fel rheolydd

C1. Beth yw rôl y Comisiwn?

Yr ateb byr

Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ein nod yw darparu'r dull rheoleiddio gorau posibl er mwyn cynyddu effeithiolrwydd elusennau a ffydd a hyder y cyhoedd ynddynt.

Mae'r gwaith bob dydd o redeg elusennau yn parhau i fod yn gyfrifoldeb ymddiriedolwyr elusen i raddau helaeth. Os yw pethau'n mynd o'i le mewn elusennau bydd y camau a gymerwn yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gymesur, gan ystyried y mater, y risg i'r elusen a'i buddiolwyr a gallu'r elusen i gydymffurfio.

Yn fwy manwl

Ein rôl yw galluogi elusennau i ddarparu gwasanaethau effeithiol a hefyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith elusennau. Gwnawn hyn drwy gydweithio ag elusennau a thrwy roi cyngor ac arweiniad ac amlinellu arferion gorau er mwyn datrys unrhyw anawsterau. Er mwyn delio â materion o bryder difrifol, byddwn yn ymyrryd i ddiogelu'r elusen drwy ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol lle y bo angen a lle y bo'n gymesur i wneud hynny.

Fel y rheolydd elusennau byddwn yn derbyn cwynion am elusennau. Natur cwynion o'r fath sy'n pennu pa gamau y byddwn yn eu cymryd.

Yn gyffredinol bydd y Comisiwn yn ystyried cwynion:

  • os penderfynwn fod risg difrifol o niwed arwyddocaol i'r elusen neu gamddefnydd arwyddocaol o'r elusen, ei hasedau, ei buddiolwyr neu ei henw da.

ac

  • os ydym yn teimlo bod ein hymyrraeth yn ymateb angenrheidiol a chymesur i'w diogelu.

Mae'r hyn a ystyriwn yn risg difrifol neu'r hyn a ystyriwn yn niwed arwyddocaol wedi'i nodi yn adran Ch1.

Mae mabwysiadu ymagwedd gymesur yn golygu ein bod yn gweithredu'n bwyllog yn ôl difrifoldeb a graddfa'r hyn sydd wedi digwydd ac ystyried y potensial ar gyfer risg pellach i'r elusen a gallu'r elusen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion am newid.

Er y byddwn yn ystyried pob cwyn a dderbyniwn, nid ein rôl ni yw ymwneud â phob problem neu anghydfod sy'n codi rhwng unigolion ac elusennau. O ganlyniad, ni fyddwn yn gallu datrys pob mater sy'n cael ei ddwyn at ein sylw.

C2. Beth yw'r Comisiwn yn ei wneud pan fydd yn derbyn cwyn am elusen?

Yr ateb byr

Bydd pob cwyn yn cael ei hystyried er mwyn i ni allu penderfynu pa gamau pellach sy'n ofynnol ac ai'r Comisiwn yw'r rheolydd priodol i fynd i'r afael â'r mater o bryder. Caiff y gwyn ei hasesu er mwyn penderfynu pa mor ddifrifol yw'r gwyn a'r risg sydd i'r elusen, ei hasedau, ei buddiolwyr neu ei henw da.

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn rhoi gwybod i chi os ydym yn bwriadu ei hystyried ymhellach, ond ni fyddwn yn gohebu'n fanwl â chi am y camau y bwriadwn eu cymryd. Pan fyddwn wedi dod i gasgliad yn dilyn ymchwiliad i gwyn byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysebu am y canlyniad.

Yn fwy manwl

Mae'r mathau o gwynion a dderbyniwn yn niferus ac yn amrywiol. Fel rheolydd seiliedig ar risg, canolbwyntiwn ein blaenoriaethau a'n hadnoddau lle y teimlwn y gall ein hymdrechion fod yn fwyaf effeithiol i elusennau a'r bobl sy'n eu defnyddio. Drwy wneud hynny byddwn yn ystyried natur y gwyn sy'n cael ei gwneud a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r hyn sy'n cael ei honni a'i heffaith ar yr elusen.

Yn ein profiad ni, gall cwyn gael ei datrys yn y rhan fwyaf o achosion drwy roi cyngor neu drwy dynnu sylw at wybodaeth yn ein canllaw. Gall fod materion difrifol eraill y byddem yn disgwyl i ymddiriedolwyr elusen eu datrys, gyda'n cymorth ni os oes angen. Dim ond cwynion sy'n adnabod y risgiau mwyaf difrifol i elusen, ei hasedau neu ei buddiolwyr sy'n cael eu hymdrin gan ymchwiliad o dan adran 8 o Ddeddf Elusennau 1993 - gweler adran Ch1. Byddwn yn dweud wrthych os yw cwyn y tu allan i'n hawdurdodaeth ac, os felly, ble y dylech adrodd am eich cwyn.

Byddwn yn aml yn derbyn cwynion am elusen o ganlyniad i anghydfod. Mae anghydfod yn anghytundeb o fewn elusen sy'n esgor ar farnau gwahanol, brwydr i reoli'r elusen a hyd yn oed methu â rheoli'r elusen yn effeithiol o ddydd i ddydd. Gall gael effaith negyddol ar sut y mae elusen yn gweithredu ac mae'n rhywbeth y mae angen i'r ymddiriedolwyr elusen ei ddatrys yn gyflym. Bydd y Comisiwn yn ymyrryd dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, fel arfer pan nad oes unrhyw ymddiriedolwyr sydd wedi'u penodi'n ddilys ac mae pob dull o ddatrys y materion wedi cael ei ddefnyddio. Dylai'r rhai sy'n ymwneud ag anghydfod geisio defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ddatrys yr anghydfod eu hunain. Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth i helpu'r rhai sydd mewn sefyllfa o anghydfod - 'Gwrthdaro yn eich Elusen: datganiad ymagwedd gan y Comisiwn Elusennau'.

Deallwn y gall rhai materion fod yn bwysig iawn i unigolyn neu grwp ond ni fyddant bob amser yn peri risg difrifol i'r elusen. Mae sail ein hymyrraeth yn gysylltiedig â'r effaith ar yr elusen dan sylw. Mae Adran Ch1 yn edrych ar y mathau o faterion y mae'r Comisiwn yn teimlo sy'n ddifrifol ac y byddwn yn eu hystyried ar unwaith. Mae Adran Ch2 yn esbonio ble y teimlwn nad yw hi'n briodol i ymyrryd.

Ch. Y Comisiwn Elusennau a Chwynion

Ch1. Pa faterion yr hoffai'r Comisiwn wybod amdanynt?

Yr ateb byr

Mae angen i ni gael gwybod pan fydd risg difrifol o niwed arwyddocaol i'r elusen neu gamddefnydd arwyddocaol o'r elusen, ei hasedau, ei buddiolwyr neu ei henw da.

Yn fwy manwl

Mae'r materion y teimlwn sy'n ddifrifol neu'n arwyddocaol ac mae'n annerbyniol i unrhyw elusen, ei hymddiriedolwyr, ei gweithwyr neu ei hasiantau ymwneud â nhw wedi'u nodi yn y rhestr isod. Nid yw'r materion wedi'u rhestru mewn unrhyw drefn blaenoriaeth:

  • colled ariannol arwyddocaol i'r elusen;
  • niwed difrifol i fuddiolwyr ac, yn arbennig, buddiolwyr agored i niwed;
  • bygythiadau i ddiogelwch gwladol, yn enwedig terfysgaeth;
  • troseddoldeb o fewn elusen neu sy'n cynnwys elusen;
  • ffug elusennau wedi'u sefydlu at ddiben anghyfreithlon neu amhriodol;
  • elusennau sy'n cael eu defnyddio'n fwriadol er mantais breifat arwyddocaol;
  • os oes amheuaeth ddifrifol ynghylch annibyniaeth elusen;
  • methu â chydymffurfio difrifol mewn elusen sy'n niweidio neu sydd â'r potensial i niweidio ei henw da a/neu enw da elusennau yn gyffredinol;
  • diffyg cydymffurfio difrifol mewn elusen a allai, os nad yw'n cael ei unioni, niweidio ffydd a hyder y cyhoedd yn y Comisiwn Elusennau fel rheolydd effeithiol.

Bydd difrifol neu arwyddocaol yn wahanol ar gyfer elusennau o wahanol faint. Wrth ystyried colled ariannol rydym yn sôn am unrhyw dwyll neu ladrad amheus neu sydd wedi digwydd (neu golled oherwydd unrhyw weithgarwch troseddol amheus neu sydd wedi digwydd) waeth beth fo graddfa'r cronfeydd neu werth yr eiddo arall dan sylw. Yn achos unrhyw golled arwyddocaol oherwydd achosion eraill rydym yn sôn, fel canllaw, am unrhyw golli cronfeydd neu eiddo arall sy'n werth 20% neu fwy o incwm yr elusen, neu £25,000, p'un bynnag yw'r swm lleiaf. Ar gyfer symiau sy'n is na hynny, bydd lefel ein pryder yn dibynnu ar arwyddocâd y golled i'r elusen gan bwyso a mesur incwm, gwaith a ffactorau addasu eraill yr elusen. Nid yw'n cynnwys gwerth cronfeydd buddsoddi a gollwyd yn ystod busnes buddsoddi arferol. Gall fod achosion, fodd bynnag, lle mae'r swm a gollwyd yn fach iawn ac felly nid yw'n gymesur i gymryd y mater ymhellach.

Nid yw cylch gwaith y Comisiwn yn estyn i ymchwilio i weithgarwch troseddol neu bryderon am drethu. Os yw'r materion hyn yn cael eu dwyn at ein sylw byddwn yn eich cynghori at bwy y dylech gyfeirio eich cwyn. Bydd y camau y bydd y Comisiwn yn eu cymryd mewn materion o'r fath wedi'u cyfyngu i ystyried a fu unrhyw gamymddygiad neu gamreoli wrth weinyddu'r elusen gan ganiatáu i weithgarwch anghyfreithlon neu afreoleidd-dra treth i ddigwydd. Hefyd gall fod angen i ni weithredu i ddiogelu eiddo'r elusen. Os teimlwch fod trosedd wedi digwydd dylech roi gwybod i'r heddlu yn ogystal â'r Comisiwn.

Mae Adran Ch3 yn esbonio sut i adrodd am faterion i ni; fel rhan o'r broses hon gofynnwn am dystiolaeth o unrhyw gamweinyddu a honnir.

Ch2. Pryd na fydd y Comisiwn yn ymyrryd?

Yr ateb byr

Ni fyddwn yn ymyrryd â materion sydd y tu allan i gwmpas cyfrifoldebau'r Comisiwn. Mae ein pwerau i ymyrryd wedi'u cyfyngu gan y canlynol:

  • i ba raddau y mae'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu elusennau a'u rheoleiddio yn caniatáu i ni ymwneud â'r mater neu ymyrryd;
  • hawliau ymddiriedolwyr elusen i redeg yr elusen o fewn telerau ei dogfen lywodraethol;
  • a yw'n briodol i reolydd neu asiantaeth arall ddelio â'r mater;
  • ydy'r camau y byddwn yn eu cymryd yn ymateb cymesur i'r materion dan sylw; ac
  • a fyddai ein hymyrraeth yn cynnig ateb uniongyrchol.

Mae'r terfynau hyn yn golygu na fydd pob cwyn yn cael ei hystyried.

Yn fwy manwl

Yn ymarferol mae'r terfynau ar ein gallu i ymyrryd yn golygu na fyddwn yn ystyried cwynion:

  • lle rydych yn anghytuno â phenderfyniadau'r ymddiriedolwyr ac mae'r penderfyniadau hynny wedi cael eu gwneud yn briodol o fewn y gyfraith a darpariaethau dogfen lywodraethol yr elusen;
  • i ddatrys anghytuno mewnol ynghylch polisi neu strategaeth elusen oherwydd mae'r rhai sy'n ymwneud â'r mater yn gyfrifol am ddatrys y mater eu hunain;
  • am achosion o wasanaeth gwael gan elusen lle nad oes unrhyw risg cyffredinol i'w gwasanaethau, ei chleientiaid neu ei hadnoddau;
  • os yw'r gwyn yn codi o anghydfod elusen ac mae ymddiriedolwyr wedi'u penodi'n briodol sy'n gyfrifol am ddelio â'r materion a adroddwyd;
  • os nad yw'r mater a adroddwyd yn peri risg difrifol i'r elusen, ei hasedau neu ei buddiolwyr;
  • os yw'r mater yn cael ei drin gan gorff statudol neu arolygu arall, neu'n gyfrifoldeb y corff hwnnw;
  • os oes anghytundeb ynghylch telerau neu ddarparu contract;
  • os yw achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn gan barti arall yn erbyn elusen, gan gynnwys achosion o gasglu dyledion, ac eithrio yn yr achosion prin hynny lle mae'r Twrnai Gwladol wedi gofyn i ni wneud hynny yn benodol.

Fel rheolydd cymesur byddwn yn ystyried materion dim ond os credwn fod sylwedd i'r gwyn. Felly, os nad oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r gwyn neu'r honiad gallwn benderfynu nad yw ymyrryd yn briodol. Ni fyddwn yn gweithredu ar honiadau, sïon neu farn nas profwyd - byddai gwneud hyn ac, o ganlyniad, amharu ar waith yr elusen yn annheg i'r elusen honno, ei gweithgareddau a'i defnyddwyr a'i buddiolwyr.

Ch3. Pa wybodaeth ddylwn i ei rhoi gyda chwyn?

Yr ateb byr

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl arnom. Mae gwybodaeth gynhwysfawr yn cynnig modd i ni asesu eich cwyn yn fwy effeithiol a phenderfynu a oes unrhyw fater i ni ei ystyried. Anfonwch yr wybodaeth i'r cyfeiriad ar ddiwedd yr adran hon.

Os yw'ch cwyn yn ymwneud ag anghydfod o fewn elusen darllenwch ein canllaw pellach 'Gwrthdaro yn eich elusen; datganiad ymagwedd gan y Comisiwn Elusennau' cyn anfon eich gwybodaeth atom.

Yn fwy manwl

Ar gyfer unrhyw fater a adroddwch i ni, byddai o gymorth pe allech ddweud wrthym:

  • enw'r elusen a'i rhif gofrestru os ydych yn ei wybod;
  • natur yr hyn rydych eisiau adrodd amdano gan gynnwys a yw'n ddigwyddiad sydd wedi digwydd neu a yw'n honiad neu rydych yn amau rhywbeth sydd efallai wedi digwydd neu sy'n debygol o ddigwydd;
  • pwy sy'n ymwneud â'r mater a'u swydd yn yr elusen;
  • a yw'r person neu'r bobl dan sylw yn ymwneud â'r elusen o hyd;
  • yr effaith y mae'r mater wedi'i chael ar yr elusen a/neu ei buddiolwyr;
  • y camau y mae'r elusen wedi'u cymryd yn sgîl yr hyn a ddigwyddodd;
  • a fu unrhyw gyhoeddusrwydd am y mater;
  • manylion neu gopïau o unrhyw dystiolaeth ddogfennol i gefnogi eich pryderon;
  • manylion am unrhyw ymdrechion a wnaethoch i gael yr elusen i roi sylw i'ch pryderon;
  • manylion am unrhyw ohebiaeth neu gysylltiad blaenorol â ni neu unrhyw gorff cyhoeddus arall ynglyn â'r materion hyn;
  • eich enw, cyfeiriad post ac e-bost a rhif ffôn a chysylltiad (os oes) â'r elusen.

Dylai'r holl wybodaeth sydd gennych gael ei chynnwys ar y cychwyn ac nid cael ei chyflwyno bob yn dipyn.

Dylech fod yn ymwybodol:

  • ei bod yn dramgwydd troseddol, yn ymwybodol neu'n fyrbwyll, i roi gwybodaeth i ni sy'n anghywir neu'n gamarweiniol;
  • os ydych eisoes wedi adrodd am fater, nid oes rhaid i chi ddweud wrthym eto. Fel rheol ni fyddwn yn ailystyried cwynion yr ydym eisoes wedi delio â nhw oni bai fod amgylchiadau wedi newid yn sylweddol neu os yw tystiolaeth newydd arwyddocaol wedi dod i'r amlwg.

Mae gennym ymagwedd seiliedig ar dystiolaeth at ein gwaith a byddwn bob amser yn profi honiadau cyn penderfynu sut i weithredu.

Os hoffech i ni ystyried eich cwyn, ewch i'r dudalen 'Cysylltu â ni' i gael gwybod sut i gysylltu â ni.

Ch4. A fydd elusen yn cael gwybod pwy sy'n cwyno?

Yr ateb byr

Byddwn yn parchu cyfrinachedd cyn belled ag y gallwn, gan ystyried yn briodol eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, rhyddid gwybodaeth a hawliau dynol. Fodd bynnag, gall fod rhai achosion pan fydd eich hunaniaeth yn cael ei datgelu neu fe ddaw i'r amlwg.

Yn fwy manwl

Os ydych yn ysgrifennu atom, nodwch:

  • a allwn ddweud wrth yr elusen mai chi yw'r achwynydd; ac
  • a allwn gyflwyno eich cwyn ac unrhyw dystiolaeth rydych wedi'i rhoi yn uniongyrchol i'r elusen.

Nid yw'n bolisi arferol gennym anfon copi o lythyr yr achwynydd (neu unrhyw bapurau eraill lle y gellir ei adnabod) i'r elusen oni bai ei fod wedi rhoi ei ganiatâd. Fodd bynnag, mae hawl gan yr elusen wybod natur yr honiadau sy'n cael eu gwneud yn ei herbyn. Hefyd, mae hawl gan unrhyw berson i gael gwybod natur y dystiolaeth y mae'r gwyn amdano yn seiliedig arni. Er y byddwn yn cymryd pob cam i geisio sicrhau nad yw'ch enw yn cael ei roi heb eich caniatâd, mewn rhai achosion mae'n bosibl y bydd natur yr honiadau neu'r dystiolaeth yn awgrymu'r ffynhonnell. Gall fod rwymedigaeth i ddatgelu gwybodaeth o dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth oni bai fod eithriad yn gymwys ac mae'n briodol iddo gael ei ymarfer. Mae Adran E1 yn darparu manylion ar gyfer y Comisiynydd Gwybodaeth a chewch wybod mwy am ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth ganddo.

Mewn achosion pan ddefnyddiwn ein pwerau statudol i gychwyn ymchwiliad, fel arfer byddwn yn cyhoeddi Datganiad o Ganlyniadau Ymchwiliad. Gall gwybodaeth o ymchwiliadau gael ei defnyddio hefyd mewn achosion Llys. Bydd dogfennau a gwybodaeth a gesglir yn ystod yr ymchwiliad, ac at ddibenion ymchwiliad, yn cael eu trin yn gyfrinachol, hyd nes ein bod yn cyhoeddi'r Datganiad o Ganlyniadau Ymchwiliad (er hyd yn oed bryd hynny, bydd peth wybodaeth yn parhau i gael ei heithrio rhag cael ei datgelu) neu oni bai fod eu hangen o dan Orchymyn Llys yn ystod achos cyfreithiol.

Mae hawliau a diogelwch statudol gan rai chwythwyr chwiban o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998, ac mae hawliau a rhwymedigaethau datgelu gan y rhai sy'n archwilio neu'n archwilio'n annibynnol gyfrifon elusennau i'r Comisiwn dan rai amgylchiadau. Esbonnir yr hawliau a'r rhwymedigaethau hyn yn Adran D.

D. Cwyno o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (DDLIC) a elwir hefyd yn 'chwythu'r chwiban'

D1. Beth yw effaith y Ddeddf?

Yr ateb byr

Mae'r Ddeddf hon yn diogelu gweithwyr rhag triniaeth niweidiol neu rhag cael eu herlid gan eu cyflogwr os ydynt, er lles y cyhoedd, yn datgelu camarfer.

Mae'n diogelu'r rhan fwyaf o weithwyr yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, ond nid yw'n gymwys i weithwyr proffesiynol hunangyflogedig (heblaw yn y GIG), gweithwyr gwirfoddol (gan gynnwys ymddiriedolwyr elusen a gwirfoddolwyr elusennau), swyddogion yr heddlu neu'r gwasanaethau cudd-wybodaeth. Byddai rhywun sydd wedi'i gyflogi gan elusen yn gallu defnyddio darpariaethau'r Ddeddf hon.

Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o'r gweithdrefnau datgelu o'r Ddeddf lle y gallent fod yn gymwys i weithwyr elusennau. Os hoffech wneud datgeliad mae'n bosibl yr hoffech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol neu wybodaeth bellach gan y sefydliad a restrir yn adran D5.

Yn fwy manwl

Mae'r Ddeddf yn diogelu gweithwyr mewn sawl ffordd, er enghraifft:

  • pan fydd gweithiwr yn cael ei ddiswyddo oherwydd ei fod wedi gwneud datgeliad gwarchodedig (gweler adran D4) caiff hyn ei drin fel diswyddo annheg;
  • mae gweithwyr yn cael hawl i beidio â cael unrhyw 'niwed' gan eu cyflogwyr ar y sail eu bod wedi gwneud datgeliad gwarchodedig;
  • mae gweithwyr yn gallu cyflwyno cwyn i dribiwnlys cyflogaeth os ydynt yn cael niwed o ganlyniad i wneud datgeliad gwarchodedig.

Mae'r senedd yn ceisio cynyddu atebolrwydd sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol trwy gyflwyno dulliau diogelu gweithwyr sy'n chwythu'r chwiban o fewn y sefydliad neu sy'n ymwneud â sefydliad, ac mae elusennau (fel rhan o'r sector gwirfoddol) wedi'u cynnwys o fewn awdurdodaeth y Ddeddf.

D2. Beth sydd gan hyn i'w wneud â'r Comisiwn Elusennau?

Yr ateb byr

Y Comisiwn Elusennau yw'r corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am sicrhau bod ymddiriedolwyr elusen yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol wrth ymarfer rheolaeth dros weinyddu elusennau. Mae'r Comisiwn yn 'berson rhagnodedig' o dan DDLIC sy'n ei ganiatáu i dderbyn datgeliadau gan weithwyr elusennau.

Yn fwy manwl

Gall gweithwyr sy'n ymwybodol o gamarfer o fewn elusen neu gorff anelusennol (os yw hyn yn cynnwys gweinyddu elusennau neu gronfeydd elusennol) ddatgelu gwybodaeth i ni am weinyddu elusennau a chronfeydd a roddwyd, neu a ddelir, at ddibenion elusennol ar yr amod eu bod yn codi eu pryderon yn unol â darpariaethau DDLIC.

Er mwyn i ddatgeliad gael ei ddiogelu gan ddarpariaethau DDLIC (gweler adran D4), rhaid iddo ymwneud â materion sy'n 'gymwys' i'w diogelu o dan y Ddeddf (gweler adran D3).

Bydd datgeliadau a wnaed i'r Comisiwn am yr elusen yn cael eu hystyried fel rhan o'n drefn gwyno.

D3. Beth yw datgeliad 'cymwys'?

Yr ateb byr

Mae datgeliad cymwys yn un sy'n darparu gwybodaeth am faterion penodol fel yr amlinellir gan y Ddeddf y mae'r person yn credu'n rhesymol yn ei dilysrwydd.

Yn fwy manwl

Rhaid i'r datgeliad ymwneud â:

  • thramgwydd troseddol;
  • torri rhwymedigaeth gyfreithiol;
  • aflwyddiant cyfiawnder;
  • perygl i iechyd a diogelwch unrhyw unigolyn;
  • niwed i'r amgylchedd; neu
  • guddio gwybodaeth yn fwriadol sy'n tueddu i ddangos unrhyw un o'r pum mater uchod.

Er mwyn gwneud datgeliad cymwys rhaid i'r gweithiwr gredu'n rhesymol fod yr wybodaeth sy'n cael ei darparu yn tueddu i ddangos bod un neu fwy o'r digwyddiadau yn y rhestr bwledi uchod yn digwydd nawr, wedi digwydd yn y gorffennol neu'n debygol o ddigwydd yn y dyfodol.

Rhaid i rai amodau fod yn gymwys er mwyn sicrhau bod y datgeliad yn 'warchodedig'. Nodir y rhain yn yr adran nesaf.

D4. Beth yw datgeliad 'gwarchodedig'?

Yr ateb byr

Mae'n ddatgeliad cymwys a wneir gan y gweithiwr, yn destun amodau arbennig, i sicrhau ei fod wedi'i ddiogelu gan DDLIC.

Yn fwy manwl

Bydd datgeliad cymwys i'r Comisiwn Elusennau yn ddatgeliad 'gwarchodedig' ar yr amod bod y gweithiwr:

  • yn gwneud y datgeliad mewn ewyllys da;
  • yn credu'n rhesymol bod y methiant perthnasol yn ymwneud â gweinyddu elusennau a chronfeydd a roddir, neu a ddelir at ddibenion elusennol, yn briodol; ac
  • yn credu'n rhesymol bod yr wybodaeth a ddatgeli, ac unrhyw honiad sydd wedi'i gynnwys ynddo, yn wir o ran sylwedd.

Gall gweithwyr adrodd yn uniongyrchol i'r Comisiwn pan fydd pryderon ganddynt sydd wedi'u cynnwys o fewn y disgrifiad uchod. Mae'n bwysig nodi os yw gweithiwr yn cael ei erlid am wneud datgeliad i'r Comisiwn Elusennau, mae unrhyw honiad sydd ganddo neu ganddi o dan y Ddeddf yn honiad yn erbyn y cyflogwr ac nid yn erbyn y Comisiwn.

D5. Oes unrhyw wybodaeth arall am y Ddeddf hon?

Yr ateb byr

Oes, mae gwybodaeth ar gael gan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio a hefyd gan yr elusen Public Concern at Work.

Yn fwy manwl

Mae Public Concern at Work yn rhoi cyngor cyfrinachol am ddim i weithwyr sydd â phryderon am gamarfer yn y gweithle. Gallwch gysylltu â'r elusen yn Ystafell 301, 16 Baldwins Gardens, Llundain EC1N 7RJ neu drwy ffonio 020 7404 6609 neu drwy'r e-bost

Mae'r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio yn rhoi cyngor cyflogaeth cyffredinol i gyflogwyr a gweithwyr yn y canllaw Hawliau a Chyfrifoldebau Unigol i Weithwyr (cyfeirnod 07/1416). Mae ar gael o wefan yr Adran neu gallwch ei archebu dros y ffôn 0845 015 0010.

D6. Os ydw i eisiau gwneud adroddiad DDLIC i'r Comisiwn am elusen, pwy ydw i'n cysylltu ag ef/hi?

Gallwch anfon e-bost at:

whistleblowing@charitycommission.gsi.gov.uk

Gallwch fynd i'n tudalen 'Cysylltu â ni'.

Pa bynnag ffordd rydych yn cysylltu â ni dywedwch wrthym eich bod eisiau cwyno o dan reoliadau chwythu'r chwiban SSLIC.

Dd. Adroddiadau gan archwilwyr ariannol ac archwilwyr annibynnol

Dd1. Pam mae hyn wedi'i gynnwys yn y canllaw hwn?

Yr ateb byr

Symbol cyfreithiol

Mae dyletswyddau cyfreithiol gan archwilwyr ariannol ac archwilwyr annibynnol o gyfrifon elusennau heb fod yn gwmnïau ac elusennau sy'n gwmnïau i adrodd am rai materion.

Yn fwy manwl

Mae Deddf Elusennau 1993 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006 yn gosod dyletswydd statudol ar archwilwyr annibynnol neu archwilwyr ariannol elusennau heb fod yn gwmnïau ac elusennau sy'n gwmnïau i ddweud wrthym am unrhyw faterion sy'n dod at eu sylw sydd o 'arwyddocâd perthnasol' i ymarfer ein pwerau o dan:

  • adran 8 o Ddeddf Elusennau 1993 i gychwyn ymchwiliadau; neu
  • adran 18 o Ddeddf Elusennau 1993 i weithredu i ddiogelu elusennau.
Dd2. Beth yw'r materion o arwyddocâd sylweddol?

Yr ateb byr

Maent yn debygol o fod yn faterion sy'n ymwneud â gweithgarwch troseddol neu anghyfreithlon difrifol neu ddigwyddiadau difrifol a allai effeithio ar elusen, ei hasedau, ei buddiolwyr neu ei henw da.

Yn fwy manwl

Bydd dyletswydd yr archwiliwr ariannol neu'r archwiliwr annibynnol i adrodd am faterion o arwyddocâd perthnasol yn codi'n bennaf pan fyddant yn nodi:

  • diffyg cydymffurfio honedig neu wirioneddol â'r gyfraith a rheoliadau; neu
  • dor-ymddiriedaeth neu dor-ddyletswydd perthnasol gan ymddiriedolwyr elusen o dan y gyfraith elusennau.

Mae'r materion sydd o arwyddocâd perthnasol ym marn y Comisiwn Elusennau yn cynnwys:

  • awgrymu anonestrwydd neu dwyll sy'n cynnwys colled sylweddol o gronfeydd neu asedau elusennol, neu risg mawr iddynt;
  • dangos methiant rheolaethau mewnol, gan gynnwys methiant yn null llywodraethu'r elusen sydd wedi esgor, neu a all esgor ar golled sylweddol neu gamddefnyddio cronfeydd elusennol, neu risg mawr i gronfeydd elusennol.
  • materion sy'n arwain at wybod neu amau bod cronfeydd yr elusen neu gronfeydd elusennol wedi cael eu defnyddio i wyngalchu arian neu fod cronfeydd o'r fath yn enillion troseddau cyfundrefnol difrifol neu fod yr elusen yn gyfrwng i weithgarwch troseddol;
  • arwain at gredu neu amau bod yr elusen, ei hymddiriedolwyr, ei gweithwyr cyflogedig neu ei hasedau wedi ymwneud neu gael eu defnyddio i gefnogi terfysgaeth neu sefydliadau gwaharddedig yn y DU neu'r tu allan i'r DU;
  • tystiolaeth sy'n awgrymu bod y ffordd y mae'r elusen yn ymgymryd â'i gwaith ynghylch gofal a lles buddiolwyr, yn golygu bod y buddiolwyr hynny wedi bod mewn perygl arwyddocaol o gael eu cam-drin neu eu camddefnyddio;
  • lle mae gofynion deddfwriaethol neu ymddiriedolaethau'r elusen yn cael eu torri'n berthnasol neu'n gyson;
  • lle mae Gorchymyn neu gyfarwyddyd a wnaed gan reolydd elusennau o dan bwerau statudol wedi cael ei dorri'n fwriadol neu'n arwyddocaol, gan gynnwys diarddel ymddiriedolwr elusen, gwahardd trafodiad neu weithgaredd arbennig neu roi cydsyniad ar delerau arbennig sy'n cynnwys asedau neu rwymedigaethau elusennol arwyddocaol; ac
  • os yw datganiad yr archwiliwr ariannol i'r ymddiriedolwyr, pan fydd yr archwiliwr yn gorffen yn ei swydd, yn cynnwys materion y dylid eu hadrodd i'r ymddiriedolwyr.
Dd3. Oes canllawiau eraill ar gael i archwilwyr ariannol neu archwilwyr annibynnol?

Yr ateb byr

Oes, mae canllawiau ar gael i archwilwyr ariannol ac archwilwyr annibynnol i'w cynorthwyo i benderfynu a ddylent adrodd i ni am rywbeth sydd o dan eu rhwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny neu er lles y cyhoedd.

Yn fwy manwl

Dylai archwilwyr ariannol ymgymryd â'u gwaith yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol y Bwrdd Arferion Archwilio gan roi ystyriaeth i Nodyn Ymarfer 11: Archwilio Elusennau, a gyhoeddwyd gan y Bwrdd. Rhoddir arweiniad penodol o fewn Nodyn Ymarfer 11 ar y ffactorau sydd i'w hystyried wrth weithredu'r ddyletswydd adrodd neu adrodd er lles y cyhoedd. Paratowyd y canllaw hwn trwy ymgynghori â ni. Gallwch brynu copïau gan ABG Professional Information, Blwch SP 21375, Llundain WC1N 1QP. Gallwch archebu dros y ffôn hefyd ar 020 7920 8991, neu o'r wefan yn www.apb.org.uk.

Dylai archwilwyr annibynnol gyfeirio at y cyfarwyddiadau a'r nodiadau canllaw sydd yn ein canllaw Archwiliad Annibynnol o Gyfrifon Elusennau: Cyfarwyddiadau a Chanllawiau (CC31).

E. Gwybodaeth bellach a chyngor

Mae nifer o adnoddau i helpu unigolion i drafod materion gyda mathau arbennig o elusennau. Nid yw hon yn rhestr gyflawn o'r holl ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael, ond mae'n cynnig golwg gyffredinol a man cychwyn da.

E1. Sefydliadau Eraill

Bwrdd Safonau Codi Arian

Sefydlwyd y corff newydd hwn i weithredu cynllun hunanreoleiddio agored i'r sector codi arian, gyda'r nod o annog rhagoriaeth ym maes codi arian a darparu trefn gwyno gadarn a hygyrch. Bydd yn ystyried cwynion am ei aelodau.

Bwrdd Safonau Codi Arian
61 London Fruit Exchange
Brushfield Street
Llundain E1 6EP
Ffôn: 0845 402 5442
Ffacs: 0845 402 5443
E-bost: info@frsb.org.uk
Gwefan: www.frsb.org.uk

Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO)

Mae NCVO yn cynhyrchu ystod eang o wybodaeth ac yn darparu gwasanaethau cymorth i'r rheiny sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys cyhoeddiad ar sefydlu a chefnogi ymddiriedolwyr.

Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol
Regent's Wharf
8 All Saints Street
Llundain N1 9RL
Ffôn: 020 7713 6161
Ffacs: 020 7713 6300
Desg gymorth: 08002 798 798
E-bost: ncvo@ncvo-vol.org.uk
Gwefan: www.ncvo-vol.org.uk

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Mae WCVA yn cynrychioli buddiannau, ac yn ymgyrchu dros gyrff gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru. Mae'n darparu ystod gynhwysfawr o wybodaeth, gwasanaethau ymgynghori, cyllid, rheolaeth a hyfforddiant.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Ty Baltig
Sgwâr Mount Stuart
Bae Caerdydd
Caerdydd CF10 5FH
Ffôn: 029 2043 1701
Llinell gymorth: 0870 607 1666
E-bost: help@wcva.org.uk
Gwefan: www.wcva.org.uk

Cymdeithas Siopau Elusennol Mae'r sefydliad hwn yn cefnogi aelod-elusennau sy'n rhedeg siopau elusennol fel rhan o'u gweithgareddau codi arian. Mae'n hybu cod ymarfer ar gyfer adwerthu elusennau.

Cymdeithas Siopau Elusennol
5th Floor Central House
14 Upper Woburn Place
Llundain WC1H 0AE
Ffôn: 020 7255 4470
E-bost: mail@charityshops.org.uk
Gwefan: www.charityshops.org.uk

Directgov

Y wefan sy'n rhestru holl wasanaethau llywodraeth ganol a lleol. Mae adran Cartref a Chymuned sy'n tynnu sylw at faterion o ddiddordeb am elusennau ac mae'n rhoi cyngor ar gwyno am faterion arbennig.
Gwefan: www.direct.gov.uk

Gogledd Iwerddon - Adran Datblygiad Cymdeithasol

Gellir cyfeirio cwynion am elusennau sy'n gweithredu yng Ngoledd Iwerddon i'r:

Adran Datblygiad Cymdeithasol
Yr Uned Wirfoddol a Chymunedol
Ground Floor
Lighthouse Building
1 Cromac Place
Gasworks Business Park
Ormeau Road
Belfast BT7 2JB
Ffôn: 02890 829414
E-bost

Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)

Mae ACAS yn ceisio gwella sefydliadau a bywyd gwaith drwy gysylltiadau cyflogaeth gwell. Mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf, cyngor annibynnol a bydd yn gweithio gyda chyflogwyr a gweithwyr i ddatrys problemau. Mae gwasanaeth ACAS yn cael eu darparu'n rhanbarthol.

ACAS
Gwefan: www.acas.org.uk
Llinell gymorth: 08457 47 47 47

National Mediation Helpline

Bydd y sefydliad hwn yn esbonio sut y gallai cyfryngu helpu i ddatrys ystod eang o sefyllfaoedd anghydfod a bydd yn eich helpu i gael hyd i wasanaethau cyfryngu priodol.

National Mediation Helpline
Ffôn: 0845 60 30 809
Gwefan: www.nationalmediationhelpline.com

Office of the Scottish Charity Regulator (OSCR)

Gellir cyfeirio cwynion am elusennau sy'n gweithredu yn yr Alban i:

OSCR
2nd Floor
Quadrant House
9 Riverside Drive
Dundee DD1 4NY
Ffôn: 01382 346890 neu 07724 150833
E-bost: info@oscr.org.uk

Public Concern at Work
Suite 301
16 Baldwin Gardens
Llundain
EC1N 7RJ
Ffôn: 020 7404 6609
E-bost: whistle@pcaw.co.uk

Yr Adran dros Fusnes Menter a Diwygio Rheoleiddio
Ffôn: 020 7215 5000
Minicom: 020 7215 6740
Ffacs: 020 7215 0105
E-bost: enquiries@berr.gsi.gov.uk

Safonau Masnach

Bydd y wefan ganolog hon yn dweud wrthych sut i gael hyd i'ch swyddfa Safonau Masnach agosaf a sut i gwyno am gyflenwi nwyddau neu wasanaethau. Gall fod o gymorth i chi os yw'ch cwyn yn ymwneud â siop elusennol.
Gwefan: www.tradingstandards.gov.uk

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Awdurdod annibynnol y DU a sefydlwyd i hybu mynediad i wybodaeth swyddogol a diogelu gwybodaeth bersonol.
Gwefan: www.ico.gov.uk

Ty'r Cwmnïau

Yr awdurdod corffori a rheolydd ar gyfer cwmnïau cyfyngedig sy'n cynnwys cwmnïau elusennol. Mae gwybodaeth gyhoeddus am gwmnïau ar gael gan Dy'r Cwmnïau.

Ty'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Maindy
Caerdydd CF14 3UZ
Ffôn: 0870 3333 636
E-bost: enquiries@companies-house.gov.uk
Gwefan: www.companieshouse.gov.uk

E2. Cyhoeddiadau allweddol y Comisiwn Elusennau

Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynhyrchu ystod eang o ganllawiau sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ymddiriedolwyr elusen a'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith elusennau, rheoleiddio ac arfer gorau. Mae'r rhestr isod yn ddetholiad yn seiliedig ar y materion a drafodwyd yn y canllaw hwn.

Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod CC3
Rheolaethau Ariannol Mewnol ar gyfer Elusennau CC8
Treuliau a thaliadau ymddiriedolwyr CC11
Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: Yr hanfodion Ebrill 2009 CC15b
Elusennau a Chodi Arian CC20
Cofrestru fel Elusen CC21
Cynnwys Defnyddwyr: Buddiolwyr sy'n dod yn ymddiriedolwyr CC24
Elusennau a Rheoli Risg: Canllaw i ymddiriedolwyr CC26
Gwerthiannau, prydlesi, trosglwyddiadau neu forgeisiau: Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod am waredu tir elusennau CC28
Archwiliad Annibynnol o Gyfrifon Elusennau: Canllaw Ymddiriedolwyr CC31
Archwiliad Annibynnol o Gyfrifon Elusennau: Canllaw Archwilwyr CC32
Prynu Tir CC33
Elusennau a Chyfarfodydd CC48
Elusennau a Phartneriaid Masnachol RS2
Lle i Gwyno? Sut mae elusennau yn rheoli cwynion am eu gwasanaeth RS11
Y Comisiwn Elusennau a Rheoleiddio  
Canllaw i wrthdaro buddiannau i ymddiriedolwyr elusen  
Elusennau a Therfysgaeth  
Gwrthdaro yn eich elusen: datganiad ymagwedd gan y Comisiwn Elusennau  

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd