Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

CC61 - Cyfrifon Elusennau: Y fframwaith

(Fersiwn Hydref 2002)


Cynnwys

Am beth mae'r arweiniad hwn?

1. Mae'r arweiniad hwn yn amlinellu'r fframwaith cyfrifyddu diwygiedig i elusennau yng Nghymru a Lloegr. Mae'r fframwaith yn cynnwys datblygiadau mewn safonau cyfrifyddu ac yn ganlyniad adolygiad o'r Datganiad o Arferion Cymeradwy Elusennau blaenorol a'r Rheoliadau cysylltiedig (gweler paragraff 3 isod).

2. Mae'r fframwaith diwygiedig yn ymdrin â:

  • chadw cofnodion cyfrifyddu;
  • paratoi cyfrifon ac Adroddiadau Blynyddol elusennau;
  • archwiliad ariannol neu archwiliad allanol o'r cyfrifon;
  • cyflwyno cyfrifon, Adroddiadau Blynyddol a Ffurflenni Blynyddol i'r Comisiwn Elusennau, o fewn terfynau amser priodol; a
  • sicrhau bod cyfrifon ar gael i'r cyhoedd.

3. Mae tri phrif ddylanwad ar sut y bydd elusennau yn adrodd ac yn cael eu rheoleiddio:

  • Mae'r gofynion lleiaf ar gyfer pob elusen (heblaw cwmnïau elusennol), o ran y cofnodion sydd i'w cadw, wedi'u pennu yn Neddf Elusennau 1993.
  • Rhaid i bob elusen gydymffurfio hefyd â'r gofynion cyfreithiol ar gyfer paratoi cyfrifon ac adroddiadau. Yn achos rhai categorïau o elusen (er enghraifft, cwmnïau elusennol neu'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hynny sy'n elusennau sydd wedi'u hesgusodi) caiff y gofynion hyn eu pennu mewn deddfwriaeth sy'n briodol i'r math hwnnw o sefydliad. Rhaid i elusennau nad ydynt wedi'u cwmpasu gan ddeddfwriaeth benodol gydymffurfio â'r gofynion a bennir yn Rhan VI Deddf Elusennau 1993 a, lle y bo'n briodol, y Rheoliadau Cyfrifon ac Adroddiadau cysylltiedig a gyhoeddwyd yn 1995 a 2000 ("y Rheoliadau").
  • Mae'r Datganiad o Arferion Cymeradwy 2000 yn esbonio sut y dylai elusennau y mae'n rhaid i'w cyfrifon roi darlun gwir a theg baratoi eu cyfrifon. Eithriad i hyn yw elusennau y mae Datganiad arbennig yn bodoli ar eu cyfer.

Nod y fframwaith

4. Bwriad y fframwaith yw ateb yr angen am atebolrwydd cyhoeddus cyson a thryloyw ar gyfer yr adnoddau a ddelir gan elusennau heb ychwanegu'n ddiangen at y baich sydd ar ymddiriedolwyr. Dyma'r rheswm pam y mae'r gofynion y mae'n rhaid i elusennau llai eu bodloni yn llai na'r rheiny ar gyfer elusennau mwy.

Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir

5. Yn yr arweiniad hwn:

Deddf 1993 yw Deddf Elusennau 1993.

Mae'r Adroddiad Blynyddol yn adolygiad cryno ond cynhwysfawr o weithgareddau'r elusen a baratowyd gan yr ymddiriedolwyr ar gyfer pob blwyddyn gyfrifyddu. Mae'r Rheoliadau yn amlinellu'r gofynion sylfaenol a rhoddir arweiniad mwy manwl yn Natganiad 2000. Mae gofynion y rheoliadau, gan gynnwys rheoliadau symlach ar gyfer yr elusennau hynny sydd ag incwm blynyddol o £250,000 neu lai, wedi'u nodi yn Atodiad 1.

Rhaid i ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig sydd ag incwm gros neu gyfanswm gwariant ar gyfer y flwyddyn o fwy na £10,000 gwblhau'r Ffurflen Flynyddol a'i chyflwyno i'r Comisiwn. Mae'n helpu ni i fonitro elusennau.

Ystyr archwiliad, at ddibenion gofynion Rhan VI Deddf 1993, yw'r gwaith o archwilio cyfrifon a wneir gan archwiliwr cofrestredig sy'n rhaid defnyddio'r safonau cyfrifyddu yn unol â Nodyn Arfer Archwilio 11 a gynhyrchwyd gan y Bwrdd Arferion Archwilio. Archwiliwr cofrestredig yw un sydd wedi'i gofrestru gyda chorff arolygol cymeradwy yn unol â Deddf Cwmnïau 1989. Mewn rhai elusennau e.e. y rheiny sy'n gysylltiedig â'r GIG neu'r awdurdodau lleol, gall trefniadau archwilio eraill fod yn bosib.

Ystyr cwmni elusennol yw cwmni:

  • a ffurfiwyd ac a gofrestrwyd dan Ddeddf Cwmnïau 1985; neu
  • y mae darpariaethau Deddf 1985 yn gymwys iddo fel y maent yn gymwys i gwmni a ffurfiwyd ac a gofrestrwyd fel hynny; ac
  • sydd wedi'i sefydlu at ddibenion elusennol yn unig.

Mae Ffurflen Gwirio'r Gofrestr yn ffurflen sy'n ein galluogi i gasglu gwybodaeth ffeithiol am yr elusen er mwyn diweddaru'r Gofrestr Elusennau. Mae'n ffordd gyfleus i ymddiriedolwyr gyflawni eu dyletswydd o roi gwybod i'r Comisiwn am unrhyw newidiadau i'r Gofrestr.

Elusennau sydd wedi'u hesgusodi yw elusennau sy'n cael eu hesgusodi dan Ddeddf 1993 o nifer o'u darpariaethau, gan gynnwys cofrestru gyda'r Comisiwn. Fel rheol bydd elusen sydd wedi'i hesgusodi yn dilyn gofynion cyfrifyddu ac adrodd penodol a gyfarwyddwyd gan neu dan ryw ddarpariaeth statudol sy'n ymwneud yn benodol â'r elusen: os nad oes darpariaeth o'r fath, bydd yn dilyn gofynion adran 46(1) Deddf 1993.

Mae elusennau sydd wedi'u heithrio yn rhannu'n dri phrif grŵp:

  • elusennau sydd wedi'u heithrio trwy Orchymyn neu Reoliad;
  • elusennau bach iawn (incwm o £1000 y flwyddyn neu lai sydd heb unrhyw waddoliad parhaol nac unrhyw dir a feddiannir neu a ddefnyddir); a
  • llefydd addoli cofrestredig (y lle addoli yn unig, nid elusennau eraill sy'n gysylltiedig â nhw).

Mae elusennau sydd wedi'u heithrio hefyd yn ddarostyngedig i ofynion cyfrifyddu ac adrodd Deddf 1993 lle y bo'n briodol, ond nid yw'n ofynnol iddynt gofrestru gyda'r Comisiwn.

Mae archwiliad annibynnol yn fath o archwiliad sy'n llai beichus nag archwiliad ariannol. Mae archwilwyr yn adrodd a yw materion penodol sy'n cael eu nodi yn Rheoliadau 1995 wedi dod at eu sylw. Mae Rheoliadau 1995 (ac mae rhai rhannau ohonynt yn weithredol o hyd ochr yn ochr â Rheoliadau 2000) yn nodi beth sydd angen ei gynnwys yn adroddiad yr archwiliwr. Rydym wedi cyhoeddi arweiniad i ymddiriedolwyr ar ddewis archwilwyr a chyfarwyddiadau i archwilwyr ar gynnal archwiliad (Archwiliad Annibynnol Cyfrifon Elusennau: Cyfarwyddiadau a Chanllawiau - CC63).

Mae elusennau nad ydynt yn gwmnïau yn elusennau nad ydynt yn gwmnïau elusennol (gweler uchod). Mae enghreifftiau yn cynnwys ymddiriedolaethau, cymdeithasau anghorfforedig, a hefyd cyrff corfforedig sydd wedi cael eu hymgorffori trwy ddull heblaw dan Ddeddf Cwmnïau 1985 (e.e. trwy Siarter Frenhinol).

Ystyr gwaddoliad parhaol yw eiddo'r elusen (e.e. tir, adeiladau, arian neu fuddsoddiadau) na all yr ymddiriedolwyr wario fel pe bai'n incwm. Rhaid iddo gael ei ddal yn barhaol, weithiau i'w ddefnyddio i hybu dibenion yr elusen ac weithiau i gynhyrchu incwm i'r elusen. Fel rheol ni all yr ymddiriedolwyr wario gwaddoliad parhaol heb ein caniatâd ni. Gall telerau'r gwaddoliad ganiatáu i asedau gael eu gwario a'u hailfuddsoddi, neu gall ddarparu bod rhai neu'r holl asedau yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol (e.e. adeilad arbennig).

Defnyddir rhaid neu angen i gyfeirio at y camau y mae'n ofynnol i'r ymddiriedolwyr, neu eu hasiantau neu weithwyr, eu cymryd yn ôl y gyfraith.

Pan fyddwn yn defnyddio termau megis dylai'r ymddiriedolwyr neu awgrymwn, argymhellwn neu cynghorwn, cyfeiriwn at y camau y gallai'r ymddiriedolwyr, eu hasiantau neu eu gweithwyr eu cymryd sy'n arfer dda yn ein barn ni, ond nid ydynt yn ofynion cyfreithiol.

Y sail ar gyfer paratoi cyfrifon

6. Mae dwy sail ar gyfer paratoi cyfrifon elusennau: y sail derbyniadau a thaliadau a'r sail croniadau. Yn fras:

  • Mae cyfrifon sy'n cael eu paratoi ar sail derbyniadau a thaliadau yn cynnwys cyfrif sy'n crynhoi'r holl arian a dderbyniwyd ac a dalwyd allan gan yr elusen yn y flwyddyn dan sylw, a datganiad sy'n rhoi manylion am ei hasedau a'i rhwymedigaethau ar ddiwedd y flwyddyn. Hon yw'r sail symlaf o'r ddwy sail a gellir ei mabwysiadu os oes gan elusen nad yw'n gwmni incwm gros o £100,000 neu lai yn ystod y flwyddyn.
  • Mae cyfrifon sy'n cael eu paratoi ar sail croniadau yn cynnwys mantolen sy'n dangos sefyllfa ariannol yr elusen ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw, datganiad o weithgareddau ariannol (SOFA) yn ystod y flwyddyn (ac weithiau cyfrif incwm a gwariant) a nodiadau esboniadol. Fel rheol mae'n ofynnol i gyfrifon elusennau, yn nhermau cyfrifyddu, roi darlun "gwir a theg". Rhaid i elusennau nad ydynt yn gwmnïau sydd ag incwm gros o fwy na £100,000 yn ystod y flwyddyn a phob cwmni elusennol baratoi eu cyfrifon ar sail croniadau.

Beth sydd ei angen?

7. Mae rhai gofynion sylfaenol sy'n gymwys i bob elusen. Fe welwch y rhain ym mharagraff 10. Mae hefyd gofynion ychwanegol yn dibynnu ar incwm neu wariant yr elusen - yn fras, po fwyaf yr elusen mwyaf y gofynion. Mae'r union fanylion yn dibynnu ar y math o elusen. Yn ogystal, mae gofynion arbennig yn bodoli ar gyfer mathau arbennig o elusen, yn enwedig:

8. Os nad ydych yn siŵr pa achos sy'n gymwys i'ch elusen chi, neu os yw'n achos arbennig nad yw wedi'i gwmpasu gan yr arweiniad hwn, bydd staff yn y Ganolfan Gyswllt (ar 0845 300 0218) yn falch i ateb eich cwestiynau.

9. Gall dogfen lywodraethol yr elusen hefyd gynnwys rheolau arbennig ar gyfrifon, adroddiadau ac archwilio. Os yw'r rhain yn fwy beichus na'r gofynion a amlinellir yn yr arweiniad hwn, rhaid i'r ymddiriedolwyr ddilyn y gofynion a bennir yn y ddogfen lywodraethol, neu fel arall ddiwygio'r ddogfen lywodraethol yn gyntaf. Mae paragraffau 20-21 yn ymdrin â hyn yn fwy manwl.

Y gofynion i bob elusen

10. Rhaid i bob elusen:

  • Baratoi a chadw cofnodion cyfrifyddu. Rhaid cadw'r cofnodion hyn (llyfrau arian, anfonebau, derbyniadau ac ati) am o leiaf chwe blynedd (o leiaf tair blynedd yn achos cwmnïau elusennol).
  • Paratoi cyfrifon.
  • Sicrhau bod y cyfrifon ar gael i'r cyhoedd eu gweld ar gais. Mae hwn yn ffurfio sail allweddol i'r egwyddor atebolrwydd cyhoeddus, a rhaid cydymffurfio â hyn ym mhob achos. Gall ymddiriedolwyr godi tâl rhesymol am y costau sy'n gysylltiedig â chydymffurfio â'r cais (e.e. llungopïo a thâl post). Fel mater o arfer dda argymhellir y dylai copi o Adroddiad Blynyddol yr elusen, lle bynnag y bo'n bosib, gael ei anfon gyda'r cyfrifon.

11. Bydd pob elusen gofrestredig yn derbyn Ffurflen Gwirio'r Gofrestr gan y Comisiwn. Er nad yw'n ofynnol i ymddiriedolwyr gwblhau a dychwelyd hon, byddant yn cyflawni eu rhwymedigaeth gyfreithiol i roi gwybod i'r Comisiwn am unrhyw newidiadau i'r Gofrestr trwy wneud hynny.

Y gofynion i elusennau cofrestredig nad ydynt yn gwmnïau

Incwm gros a chyfanswm gwariant nad yw'n fwy na £10,000 yn y flwyddyn ariannol berthnasol

12. O fewn y band hwn, mae'r gofynion amrywiol fel a ganlyn:

  • sail paratoi: gellir paratoi cyfrifon naill ai ar sail derbyniadau a thaliadau neu ar sail croniadau - os dewisir yr olaf, rhaid iddynt gael eu paratoi yn unol â'r Rheoliadau;
  • archwiliad allanol: nid oes unrhyw ofyniad i gael archwiliad annibynnol neu archwiliad ariannol o'r cyfrifon, oni bai fod dogfen lywodraethol yr elusen yn pennu hynny, ond mae'r pŵer gennym ofyn am archwiliad mewn amgylchiadau eithriadol. Yr unig eithriadau eraill i hyn yw ar gyfer elusennau:
  • sydd ag incwm o lai na £10,000 ond sydd â chyfanswm gwariant sy'n fwy na £250,000 yn yr un flwyddyn; neu
  • sydd ag incwm o lai na £10,000 yn y flwyddyn y cyfeiria'r cyfrifon ati ond ar gyfer un o'r ddwy flynedd flaenorol roedd gan yr elusen incwm gros neu gyfanswm gwariant o fwy na £250,000.

Yn yr amgylchiadau hyn, rhaid cynnal archwiliad gan archwiliwr cofrestredig;

  • math o Adroddiad Blynyddol: rhaid paratoi Adroddiad Blynyddol ond gellir ei symleiddio (gweler paragraff 6);
  • gwybodaeth i'w hanfon i'r Comisiwn: nid oes angen Ffurflen Flynyddol ac ni ddylai'r elusen anfon copi o'i Hadroddiad Blynyddol a'i chyfrifon atom oni bai ein bod yn gofyn amdanynt.

Incwm gros neu gyfanswm gwariant sy'n fwy na £10,000 (ond incwm gros nad yw'n fwy na £100,000) yn y flwyddyn ariannol berthnasol

13. O fewn y band hwn, mae'r gofynion amrywiol fel a ganlyn:

  • sail paratoi: gellir paratoi cyfrifon naill ai ar sail derbyniadau a thaliadau neu ar sail croniadau - os dewisir yr olaf, rhaid iddynt gael eu paratoi yn unol â'r Rheoliadau;
  • archwiliad allanol: rhaid i'r cyfrifon gael eu harchwilio'n allanol ond gall ymddiriedolwyr ddewis naill ai archwiliad annibynnol neu archwiliad ariannol gan archwiliwr cofrestredig, oni bai fod dogfen lywodraethol yr elusen yn pennu'r naill neu'r llall (mae'r pŵer gennym ofyn am archwiliad ariannol mewn amgylchiadau eithriadol hefyd). Mae'r eithriad y sonnir amdano ym mharagraff 12 ynglŷn â'r trothwy o £250,000 hefyd yn gymwys i elusennau yn y band incwm hwn ac yn yr achosion hyn gofynnir i elusennau gynnal archwiliad gan archwiliwr cofrestredig;
  • math o Adroddiad Blynyddol: rhaid paratoi Adroddiad Blynyddol ond gellir ei symleiddio (gweler paragraff 6); a
  • gwybodaeth i'w hanfon i'r Comisiwn: rhaid anfon Ffurflen Flynyddol ac Adroddiad Blynyddol a chyfrifon yr elusen atom o fewn 10 mis o ddiwedd blwyddyn ariannol yr elusen fel rheol.

Incwm gros sy'n fwy na £100,000 yn y flwyddyn ariannol berthnasol

14. Ar gyfer elusennau sy'n dod o fewn y band hwn:

  • sail paratoi: rhaid paratoi cyfrifon ar sail croniadau a'u paratoi yn unol â'r Rheoliadau;
  • archwiliad allanol: rhaid i'r cyfrifon gael eu harchwilio'n allanol ond gall ymddiriedolwyr ddewis naill ai archwiliad annibynnol neu archwiliad ariannol gan archwiliwr cofrestredig, oni bai fod dogfen lywodraethol yr elusen yn nodi'r un neu'r llall - os dewisir archwiliad annibynnol yna mae'r Comisiwn yn argymell bod yr archwiliwr yn gyfrifydd cymwys (mae'r pŵer gennym ofyn am archwiliad ariannol mewn amgylchiadau eithriadol hefyd). Mae'r eithriad ym mharagraff 12 ynglŷn â'r trothwy o £250,000 yn gymwys ac yn yr achosion hyn gofynnir am archwiliad gan archwiliwr cofrestredig.
  • math o Adroddiad Blynyddol: rhaid paratoi Adroddiad Blynyddol ond gellir ei symleiddio (gweler paragraff 6); a
  • gwybodaeth i'w hanfon i'r Comisiwn: rhaid anfon Ffurflen Flynyddol ac Adroddiad Blynyddol a chyfrifon yr elusen atom o fewn 10 mis o ddiwedd blwyddyn ariannol yr elusen fel rheol.

Incwm gros sy'n fwy na £250,000 yn y flwyddyn ariannol berthnasol

15. Ar gyfer elusennau sy'n dod o fewn y band hwn:

  • sail paratoi: rhaid paratoi cyfrifon ar sail croniadau a'u paratoi yn unol â'r Rheoliadau:
  • archwiliad allanol: rhaid i'r cyfrifon gael eu harchwilio gan archwiliwr cofrestredig;
  • math o Adroddiad Blynyddol: rhaid paratoi Adroddiad Blynyddol llawn (gweler paragraff 6); a
  • gwybodaeth i'w hanfon i'r Comisiwn: rhaid anfon Ffurflen Flynyddol ac Adroddiad Blynyddol a chyfrifon yr elusen atom o fewn 10 mis o ddiwedd blwyddyn ariannol yr elusen fel rheol.

Cwmnïau elusennol

16. Mae'r Datganiad o Gyfrifon Cymeradwy 2000 yn berthnasol i gwmnïau elusennol yn ogystal ag elusennau nad ydynt yn gwmnïau.

  • Rhaid i gwmni elusennol baratoi adroddiad a chyfrifon y cyfarwyddwyr dan y Deddfau Cwmnïau a'u ffeilio gyda'r Tŷ Cwmnïau. Rhaid i'r cyfrifon hyn gael eu paratoi ar sail croniadau.
  • Mae'r gofynion ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol yr un fath â'r gofynion i elusennau eraill ac felly rhaid i'r elusen gydymffurfio â'r Rheoliadau. Yn ymarferol, bydd cwmnïau yn cynhyrchu adroddiad y cyfarwyddwyr fel rheol a bydd yr adroddiad hwnnw'n cael ei ehangu i gynnwys yr holl wybodaeth y mae angen ei chynnwys yn ôl y Rheoliadau yn yr Adroddiad Blynyddol.
  • Os yw incwm neu wariant cwmni elusennol yn fwy na £10,000 rhaid i'r ymddiriedolwyr hefyd anfon Adroddiad Blynyddol atom (neu adroddiad y cyfarwyddwyr wedi'i addasu'n briodol), y cyfrifon a'i ffurflen flynyddol.
17. Mae'n ofynnol i gwmnïau elusennol gynnal archwiliad ariannol o'u cyfrifon gan archwiliwr cofrestredig os yw eu hincwm gros yn fwy na £250,000. Ond os yw'r incwm gros yn yr ystod £90,001 i £250,000, gall adroddiad eithrio archwiliad gael ei baratoi fel rheol yn lle adroddiad archwiliad llawn. Os yw'r incwm gros yn £90,000 neu'n llai, nid oes angen unrhyw archwiliad allanol fel rheol.

Elusennau sydd wedi'u heithrio

18. Os yw'r ymddiriedolwyr wedi dewis cofrestru bydd rhaid iddynt fodloni'r un gofynion cyfrifyddu ac adrodd ag unrhyw elusen gofrestredig arall. Os nad ydynt yn cofrestru rhaid iddynt gynhyrchu cyfrifon blynyddol yn yr un ffordd ag elusen gofrestredig o'r un fath (cwmni neu heb fod yn gwmni). Rhaid iddynt ddarparu copïau o'u cyfrifon i aelodau'r cyhoedd ar gais, ond ni ddylent eu hanfon atom oni bai ein bod yn gofyn amdanynt.

Elusennau sydd wedi'u hesgusodi

19. Rhaid i elusennau sydd wedi'u hesgusodi gadw cofnodion cyfrifyddu priodol a pharatoi cyfrifon. Os yw'n ofynnol iddynt baratoi cyfrifon sy'n rhoi darlun gwir a theg, dylent ddilyn y Datganiad o Arferion Cymeradwy 2000 wrth baratoi'r cyfrifon hyn, oni bai fod Datganiad mwy arbenigol yn gymwys. Rhaid iddynt ddarparu copïau o'u cyfrifon i aelodau'r cyhoedd ar gais.

Yr angen am archwiliad ariannol neu archwiliad allanol arall

20. Gall dogfen lywodraethol unrhyw elusen gynnwys darpariaethau penodol ynglŷn ag archwiliad allanol cyfrifon elusennau. Mewn achosion o'r fath rhaid i'r elusen ddilyn naill ai'r fframwaith statudol neu'r ddogfen lywodraethol, p'un bynnag sy'n gofyn am y safon uchaf o archwiliad.

21. Mewn dogfennau llywodraethol mae'n bosib y bwriedir i'r gair "archwiliad" gwmpasu amrywiaeth o wahanol fathau o archwiliad allanol o archwiliad llawn gan archwiliwr cofrestredig i wiriad annibynnol gan rywun nad yw'n gyfrifydd. Bydd rhaid i ymddiriedolwyr ddehongli union eiriad y ddogfen lywodraethol. Er enghraifft, fel rheol ni fyddai "archwiliad gan reolwr banc" yn golygu archwiliad statudol llawn. Ar y llaw arall, mae "archwiliad gan gyfrifydd cymwys" yn awgrymu bod angen cael archwiliad statudol gan archwiliwr cofrestredig, hyd yn oed os yw'r elusen yn fach ac nid yw'n ofynnol iddi gael archwiliad yn ôl deddfwriaeth. Argymhellir fod ymddiriedolwyr yn gwneud cofnod o sut y maent yn dehongli dogfen lywodraethol yr elusen ac yn ymgynghori â'r Comisiwn ynglŷn â'u dehongliad.

Cyhoeddiadau sy'n darparu cymorth pellach wrth baratoi cyfrifon

22. Mae'r cyhoeddiadau canlynol sy'n ymwneud â'r drefn gyfrifyddu ddiwygiedig wedi cael eu cynhyrchu gan y Comisiwn Elusennau. Mae pob un ar gael ar ein safle ar y rhyngrwyd (www.charitycommission.gov.uk) neu trwy ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 0845 300 0218. Mae pob un yn rhad ac am ddim, ond gellir codi tâl am gopïau ychwanegol o'r Datganiad o Arferion Cymeradwy 2000.

23. Mae nifer o gyhoeddiadau masnachol ar gael hefyd sy'n darparu cymorth ar gyfrifon.

Cymorth pellach

24. Os oes angen cymorth pellach arnoch gallwch ffonio staff yn ein Canolfan Gyswllt rhwng 08:30 a 18:00 yn ystod yr wythnos (0845 300 0218; minicom 0845 300 0219) a fydd yn falch i'ch helpu.

Atodiad 1

Cynnwys Adroddiadau Blynyddol elusennau sy'n cael eu paratoi ar gyfer y blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2001

Mae pob cyfeiriad at Reoliadau sydd wedi'u cynnwys yn:

Rheoliadau (Cyfrifon ac Adroddiadau) Elusennau 2000 (SI 2000 Rhif 2868) neu'r Datganiad o Arferion Cymeradwy - Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau

Cynnwys pob Adroddiad Blynyddol

Rheoliad
Gofyniad
7(3)
Y flwyddyn ariannol y cyfeiria'r adroddiad ati.
7(3)(a)
Crynodeb byr o brif weithgareddau a chyraeddiadau'r elusen yn ystod y flwyddyn mewn perthynas ag amcanion yr elusen.

7(4)(a)

Enw'r elusen fel yr ymddangosa yn y gofrestr elusennau ac unrhyw enw arall a ddefnyddir.

Nodyn: Dylai elusennau sydd wedi'u heithrio nad ydynt yn gofrestredig roi'r enw fel y mae wedi'i nodi yn eu dogfen lywodraethol ac unrhyw enw arall a ddefnyddir.

7(4)(b)

Y rhif a roddwyd iddi yn y gofrestr ac, yn achos cwmni elusennol, y rhif ar gyfer ei chofrestru fel cwmni.

Nodyn: Nid oes gan elusennau sydd wedi'u heithrio nad ydynt yn gofrestredig rif cofrestru elusen.

7(4)(c)

7(5)

Prif gyfeiriad yr elusen ac, yn achos cwmni elusennol, cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig.

Nodiadau: Gall y Comisiynwyr Elusennau hepgor y gofyniad i ddatgelu cyfeiriad yr elusen os gallai hyn arwain at roi unrhyw un mewn perygl personol.

7(4)(d)

Manylion, gan gynnwys y dyddiad os gwyddys, unrhyw weithred neu ddogfen arall sy'n cynnwys darpariaethau sy'n rheoli dibenion a gweinyddiad yr elusen.

7(4)(e)

Disgrifiad o amcanion yr elusen.

SORP 30(f)

Lle y bo'n gymwys, manylion am unrhyw gyfyngiadau penodol a osodir gan y ddogfen lywodraethol sy'n ymwneud â'r ffordd y gall yr elusen weithredu.

SORP 30(e)

Enwau a chyfeiriadau sefydliadau neu bobl berthnasol eraill gan gynnwys y rheiny sy'n gweithredu fel bancwyr, cyfreithwyr, archwiliwr (neu archwiliwr annibynnol neu gyfrifydd adrodd) neu brif ymgynghorwyr eraill.
7(4)(f)
Enw unrhyw berson neu gorff o bobl y mae ymddiriedolaethau'r elusen wedi rhoi hawl iddynt benodi un ymddiriedolwr elusen newydd neu fwy, a disgrifiad o'r dull a ddarparwyd gan yr ymddiriedolaethau hynny ar gyfer penodiad o'r fath.

7(4)(g)

 

 

7(4)(h)

Enw unrhyw un sy'n ymddiriedolwr elusen yr elusen ar y dyddiad pan gaiff yr adroddiad ei arwyddo ac, os yw unrhyw ymddiriedolwr elusen ar y dyddiad hwnnw yn gorff corfforedig, enw'r sawl sy'n gyfarwyddwr y corff corfforedig ar y dyddiad hwnnw.

Enw unrhyw un arall sydd wedi bod, ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw, yn ymddiriedolwr elusen yr elusen.

7(5)

 

7(6)

Nodiadau: Gall y Comisiynwyr Elusennau hepgor y gofyniad i ddatgelu enwau'r ymddiriedolwr(wyr) elusen pe gallai hyn roi'r person (y bobl) hynny mewn perygl personol.


Os oes gan yr elusen fwy na 50 o ymddiriedolwyr yna raid nodi enwau ddim llai na 50 o'r ymddiriedolwyr.

7(4)(i)

 

7(4)(j)

Enw unrhyw un sy'n ymddiriedolwr yr elusen (hynny yw, y rheiny sy'n dal eiddo ar ran yr elusen) ar y dyddiad y caiff yr adroddiad ei arwyddo.

Enw unrhyw un arall sydd wedi bod, ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw, yn ymddiriedolwr yr elusen (hynny yw, y rheiny sy'n dal eiddo ar ran yr elusen).

7(4)(k)

Disgrifiad o'r polisïau (os oes) sydd wedi cael eu mabwysiadu gan ymddiriedolwyr yr elusen -

  1. at y diben o bennu lefel yr incwm wrth gefn y mae'n briodol i'r elusen ei chynnal er mwyn ateb yn effeithiol yr anghenion a bennwyd gan ei hymddiriedolwyr;
  2. ar gyfer dewis buddsoddiadau i'r elusen; a
  3. ar gyfer dewis unigolion a sefydliadau sydd i dderbyn grantiau o asedau'r elusen.
SORP 30(g)
Manylion am unrhyw bwerau buddsoddi penodol a'u hawdurdod.

SORP 31(c)

Datganiad ynglŷn â'r berthynas rhwng yr elusen a phartïon cysylltiedig a gydag unrhyw elusennau a sefydliadau eraill y mae'n cydweithio â nhw wrth gyflawni ei hamcanion elusennol.
7(3)(c)
Caiff yr adroddiad ei ddyddio a'i arwyddo gan un neu ragor o ymddiriedolwyr yr elusen, a bydd awdurdod gan bob un ohonynt i wneud hynny.

Gofynion ychwanegol i elusennau sydd ag incwm gros o fwy na £250,000.

Rheoliad Gofyniad

7(3)(b)

Yn lle crynodeb byr o gyraeddiadau a gweithgareddau dylai fod:

Adolygiad o'r holl weithgareddau, gan gynnwys:

  • trafodion perthnasol, datblygiadau a chyraeddiadau arwyddocaol yr elusen yn ystod y flwyddyn mewn perthynas â'i hamcanion;
  • unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y gweithgareddau hynny yn ystod y flwyddyn;
  • unrhyw ddigwyddiadau pwysig sy'n effeithio ar y gweithgareddau hynny sydd wedi digwydd ers diwedd y flwyddyn ac unrhyw ddatblygiadau tebygol yn y gweithgareddau hynny yn y dyfodol;
  • os oedd diffyg yn unrhyw gronfa'r elusen ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, y camau a gymerwyd gan ymddiriedolwyr yr elusen i ddileu'r diffyg hwnnw.
7(4)(l)
Datganiad ynglŷn â pherfformiad buddsoddiadau sy'n eiddo'r elusen (os oes) yn ystod y flwyddyn ariannol.
7(4)(m)
Disgrifiad o strwythur trefniadaethol yr elusen.

7(4)(n)

Disgrifiad o unrhyw asedau a ddelir gan yr elusen neu gan unrhyw ymddiriedolwr yr elusen, neu ymddiriedolwr ar ran yr elusen, ar ran elusen arall, a manylion unrhyw drefniadau arbennig a wnaed mewn perthynas â gwarchodaeth ddiogel asedau o'r fath a'u gwahanu oddi wrth asedau'r elusen sydd heb eu dal felly a disgrifiad o amcanion yr elusen y mae'r asedau yn cael eu dal ar eu rhan.


(Diwygiwyd Gorffennaf 2004)