Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

CC8 - Rheolaeth Ariannol Mewnol i gyfer Elusennau

(Fersiwn Rhagfyr 2003)

Cynnwys

Am beth mae'r canllaw hwn a phwy ddylai ei ddarllen?

1. Mae'r canllaw hwn yn amlinellu'r rheolaeth ariannol fewnol sylfaenol y mae angen i ymddiriedolwyr ei hystyried. Fe'i mynegir mewn geiriau sy'n briodol i elusennau bach nad ydynt yn gwmnïau. Mae'r un egwyddor yn gymwys i gwmnïau elusennol llai. Gall y canllaw hwn hefyd ffurfio fframwaith i elusennau mwy ystyried eu rheolaeth.

2. Ni fwriedir i'r canllaw hwn fod yn rhestr gynhwysfawr o reolaethau a chydnabyddwn na fydd pob dull rheoli y sonnir amdano yn gymwys i bob math o elusen. Argymhellwn fod pob ymddiriedolwr yn darllen y canllaw hwn ochr yn ochr â'n canllaw Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: Yr hyn y mae angen i chi wybod (CC3) a Nodweddion Elusen Effeithiol (CC60).

3. Dyletswydd sylfaenol pob ymddiriedolwr elusen yw gwarchod eiddo ei elusen a sicrhau y caiff ei ddefnyddio i gyflawni amcanion yr elusen. Er mwyn ymgymryd â'r ddyletswydd hon mae'n hanfodol i gael rheolaeth ariannol fewnol ddigonol dros asedion yr elusen a'r defnydd ohonynt. Lluniwyd y canllaw hwn i gynorthwyo ymddiriedolwyr i sicrhau diogelwch yr eiddo sydd yn eu gofal, i'w cynghori ynglŷn â'r arferion gorau i'w defnyddio, ac i gynorthwyo wrth hybu mwy o broffesiynoldeb ym maes rheoli elusennau. Seiliwyd y cyngor hwn yn gyntaf ar ein profiad o elusennau a'r anawsterau mwyaf cyffredin a ddaw i'w rhan, ac yn ail ar brofiad uniongyrchol y rheiny sy'n rhedeg elusennau.

4. Mae rheolaeth yn nodwedd angenrheidiol unrhyw sefydliad sy'n cael ei redeg yn dda. Oherwydd nodweddion arbennig y sector elusennol, mae rheolaeth yn chwarae rhan allweddol wrth geisio dangos i ddarpar-roddwyr a darpar-fuddiolwyr fod eiddo elusen wedi'i ddiogelu, a'i fod yn cael ei reoli'n effeithlon. Prif nod y canllaw hwn yw hyrwyddo gallu elusennau i wella eu dulliau diogelu, a thrwy hynny, hybu effeithiolrwydd a ffydd yn y sector elusennol cyfan.

5. Nid yw'r canllaw yn golygu nad oes angen i ymddiriedolwyr geisio cyngor proffesiynol priodol lle bo angen. Ni all y canllaw gobeithio ymdrin â phob achos ac mae'n bosib y bydd angen i ymddiriedolwyr gysylltu â ni am arweiniad pellach mewn rhai achosion. Mae ein rhif ffôn canolog a'r cyfeiriad ar gyfer pob swyddfa i'w gweld tu mewn i glawr blaen y cyhoeddiad hwn.

Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir

6. Yn y canllaw hwn:

Ystyr cyllideb yw amcangyfrif o'r arian a gaiff ei dderbyn, y gwariant a'r defnydd arall o arian yn y dyfodol ar gyfer cyfnod cyfrifyddu arbennig.

Ystyr ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusennau. Ymddiriedolwyr elusennau yw'r bobl hynny sydd, dan ddogfen lywodraethol yr elusen, yn gyfrifol am "reoli gweinyddiad cyffredinol yr elusen" (adran 97 Deddf Elusennau 1993) . Felly, byddech yn ymddiriedolwr os ydych:

  • yn ymddiriedolwr ymddiriedolaeth elusennol neu elusen a sefydlwyd gan ewyllys rhywun; neu
  • yn gyfarwyddwr cwmni elusennol; neu
  • yn aelod o bwyllgor rheoli neu bwyllgor gweithredol sefydliad elusennol.

Mae asedion cyfredol yn cynnwys arian parod, adneuon banc a chymdeithas adeiladu, stociau treuliadwy, stociau masnachu, dyledwyr a rhagdaliadau neu unrhyw symiau eraill y gellir eu derbyn yn y tymor byr.

Mae asedion sefydlog yn cynnwys tir, adeiladau, cerbydau ac offer a buddsoddiadau a ddelir ar sail barhaus.

Ystyr dogfen lywodraethol yw unrhyw ddogfen sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, y dull o'i gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, yn gyfansoddiad, yn drawsgludiad, yn ewyllys, yn femorandwm ac erthyglau cwmni, yn Siartr Frenhinol, neu'n Gynllun gan y Comisiwn.

Mae archwiliwr annibynnol yn rhywun sy'n annibynnol o'r ymddiriedolwyr a chredir yn rhesymol iddo feddu ar y gallu a'r profiad ymarferol angenrheidiol i gynnal archwiliad cymwys o gyfrifon yr elusen.

Ystyr archwilir ariannol yw rhywun sydd â'r hawl dan adran 25 Deddf Cwmnïau 1989 i archwilio cyfrifon cwmnïau (h.y. archwiliwr cofrestredig) neu, yn achos archwiliad y mae'n ofynnol i'w gynnal dan ddogfen lywodraethol elusen yn hytrach na Deddf Elusennau 1993, fel y'l diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006 neu Ddeddf Cwmnïau 1985, person sy'n gymwys i gynnal yr archwiliad.

Defnyddir rhaid neu angen i gyfeirio at y camau y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr, neu eu hasiantau neu eu gweithwyr eu cymryd yn ôl y gyfraith.

Pan fyddwn yn defnyddio termau fel dylai’r ymddiriedolwyr neu awgrymwn, argymhellwn neu cynghorwn cyfeiriwn at y camau y gallai’r ymddiriedolwyr, eu hasiantau neu eu gweithwyr, eu cymryd sy’n arfer dda yn ein barn ni, ond nid yw’n ofynnol iddynt eu cymryd yn ôl y gyfraith.

A oes gwir angen am reolaeth ar gyfer elusennau?

7. Weithiau bydd ymddiriedolwyr yn dadlau na ddylai fod yn ofynnol i elusennau weithredu systemau rheoli positif oherwydd dylent allu gweithredu ar ymddiriedaeth yn unig. Er mai hon yw'r sefyllfa ddelfrydol efallai, nid yw'n un realistig. Mae elusennau yn sefydliadau anghyffredin oherwydd cânt eu rheoli ar gyfer buddiolwyr yr elusen honno yn hytrach nag er budd cyfranddalwyr/aelodau. Felly, mae'n ddoeth i'r ymddiriedolwyr allu dangos i'r rhoddwyr a'r buddiolwyr fod yr eiddo yn ddiogel. Heb y gallu i ddangos bod dulliau gwirio a rheoli yn cael eu gweithredu, ni fyddai'n bosib i gynnig y sicrwydd hwnnw.

8. Mae'n bwysig cofio tra bo'r mwyafrif helaeth o bobl yn onest, mae'n rhaid i bob sefydliad gymryd camau i osgoi rhoi pobl mewn sefyllfaoedd lle y gallant gael eu temtio i dwyllo. Hefyd, os nad yw elusen yn cyhoeddi canllawiau priodol, gall unigolion, mewn anwybodaeth, weithredu mewn ffordd sy'n niweidio enw da yr elusen (e.e. trwy beidio â gwahanu arian yr elusen o'u harian eu hunain).

9. Dangoswyd drwy brofiad fod gweithredu rheolaeth ariannol fewnol yn rhywbeth a groesewir gan bawb sy'n ymwneud ag elusennau. Mae'r rheolaeth yn diogelu buddiannau buddiolwyr yr elusen, ei gweithwyr, ac yn wir yr ymddiriedolwyr eu hunain (sydd drwy hyn yn cael eu diogelu rhag unrhyw gyhuddiad o esgeuluso eu dyletswydd o ddiogelu arian yr elusen).

10. Yr ymddiriedolwyr eu hunain sydd â'r cyfrifoldeb sylfaenol dros reoli gweithgareddau ac arian yr elusen. Felly mae'n hanfodol os yw ymddiriedolwyr yn gweinyddu'r elusen yn bersonol, eu bod yn rhannu dyletswyddau yn briodol ymhlith ei gilydd er mwyn sicrhau nad oes gan yr un ymddiriedolwr ormod o ddyletswyddau neu awdurdod. Er hynny, os yw ymddiriedolwyr yn dirprwyo dyletswyddau gweinyddol i staff neu asiantau, yna bydd angen cael rheolaeth ychwanegol er mwyn sicrhau bod y dyletswyddau a ddirprwywyd yn cael eu cyflawni'n gywir.

Gofynion cyfrifeg

11. Cyn trafod y mathau gwahanol o reolaeth y disgwylir eu gweithredu, mae'n bosib yr hoffai ymddiriedolwyr gael eu hatgoffa am eu dyletswyddau mewn perthynas â chyfrifon elusennau.

  • Mae ymddiriedolwyr pob elusen dan ddyletswydd i sicrhau fod yr elusen yn cadw llyfrau a chofnodion cywir, a bod cyfrifon blynyddol yn cael eu paratoi. Mewn sawl achos, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr baratoi Adroddiad Blynyddol hefyd. Dylai'r Adroddiad a'r cyfrifon gydymffurfio ag unrhyw ofynion ac argymhellion perthnasol, yn arbennig Rhan VI Deddf Elusennau 1993, Rheoliadau (Cyfrifon ac Adroddiadau) Elusennau 1995 a 2000 a Chadw Cyfrifon ac Adrodd gan Elusennau - Datganiad o Arferion Cymeradwy (SORP 2005), ac yn achos cwmnïau elusennol, Rhan VII Deddf Cwmnïau 1985. Edrychwch ar ein canllaw Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: Yr hanfodion Ebrill 2008 (CC15a).
  • Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau bod cyfrifon yn cael archwiliad allanol os yw hyn yn ofynnol dan ddeddfwriaeth neu yn ôl dogfen lywodraethol yr elusen. Unwaith eto, edrychwch ar CC15a am fanylion pellach ynglŷn â sut y gall hyn effeithio ar eich elusen arbennig chi.
  • Hefyd mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr gymeradwyo yn Ffurfiol Adroddiad a chyfrifon blynyddol yr elusen.
  • Argymhellwn fod pob ymddiriedolwr yn cael copïau o adroddiad a chyfrifon yr elusen bob blwyddyn. Dylai ymddiriedolwyr newydd gael copi o'r cyfrifon diweddaraf pan gânt eu penodi, ynghyd â dogfennau allweddol eraill megis y ddogfen lywodraethol, a gwybodaeth am hanes yr elusen.

Strwythur trefniadol yr elusen

12. Mae angen i'r holl systemau rheoli mewnol gael eu seilio ar gynllun cydnabyddedig o strwythur yr elusen sy'n dangos yn glir:

  • meysydd cyfrifoldeb;
  • llinellau o awdurdod; a
  • llinellau adrodd.

13. Bydd system reoli dda yn cwmpasu pob elfen unigol o weinyddu cyllid yr elusen. Os yw maint yr elusen yn golygu na ellir gweithredu unrhyw reolaeth arbennig, bydd rhaid i'r ymddiriedolwyr sicrhau bod dulliau rheoli ar waith i wneud iawn am hyn. Yn achos elusennau llai sy'n canfod nad yw'n bosib rhannu dyletswyddau, er enghraifft, mae swyddogaeth rheoli corff yr ymddiriedolwyr yn bwysicach byth.

Rhwymedigaethau ymddiriedolwyr

14. Ni all unrhyw system reoli, waeth pa mor gymhleth, warantu y bydd elusen wedi'i diogelu'n llwyr rhag camddefnydd. Yn aml bydd ymddiriedolwyr yn mynegi pryder ynglŷn â graddfa eu rhwymedigaeth bersonol os daw colled i'r elusen trwy gamddefnyddio ei harian. Mae cael rheolaeth sy'n ddigon cadarn yn cynnig diogelwch i eiddo'r elusen a hefyd y dull gorau o ddiogelu yn erbyn cyhuddiad o fethu â diogelu arian yr elusen a thrwy hynny, cyflawni tor-ymddiriedaeth. Os yw arian yn cael ei golli oherwydd bod ymddiriedolwyr yn esgeuluso eu dyletswydd o ofal gallant fod yn gyfrifol yn bersonol am ad-dalu'r arian a gollwyd. Serch hynny, os yw rheolaeth resymol ar waith yna ni ddylai ymddiriedolwyr fod mewn sefyllfa lle mae'n rhaidd iddynt wneud iawn am unrhyw golled o'r fath.

Dirprwyo dyletswyddau ariannol i weithwyr neu swyddogion eraill yr elusen

15. Yn gyffredinol, mae dyletswydd ar ymddiriedolwyr elusennau i sicrhau bod holl eiddo'r elusen yn dod dan eu cyd-reolaeth cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a'i fod yn aros dan eu cyd-reolaeth hyd nes y caiff ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen. Bwriad y canllaw hwn yw esbonio'r ffordd orau bosib o gyflawni'r ddyletswydd hon yn ymarferol. Ond nid yw hyn yn golygu bod rhaid i bob cam gael ei gymryd gan yr ymddiriedolwyr eu hunain. Os yw'r ymddiriedolwyr o'r farn, gan ystyried maint yr elusen, nad yw'n ymarferol iddynt ymgymryd yn bersonol â rhai o'r gwiriadau a'r rheolaethau y sonnir amdanynt yn y canllaw hwn, gallant ystyried y posibilrwydd o ddirprwyo rhai o'r tasgau hyn, er enghraifft, i weithwyr allweddol penodol. Os yw'r ymddiriedolwyr yn gwneud penderfyniad cydwybodol i ddirprwyo mae'n ofynnol iddynt sicrhau bod dirprwyo wedi'i ganiatáu gan naill ai ddogfen lywodraethol yr elusen, neu gan adran 11 Deddf Ymddiriedolwyr 2000.

16. Gall y pŵer dirprwyo y mae ymddiriedolwyr yn dibynnu arno osod amodau y mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr eu dilyn wrth ddefnyddio'r pŵer, ond, man lleiaf, byddem yn argymell:

  • bod graddfa'r dirprwyo wedi'i hamlinellu'n glir ar bapur ac fe'i deellir gan yr ymddiriedolwyr a chan y dirprwy (byddai'n arferol i'r tasgau dirprwyedig a chyfyngiadau caniatâd dirprwyedig gael eu cofnodi yn nisgrifiadau swyddi'r gweithwyr); a
  • bod adroddiad rheolaidd ac effeithiol ynglŷn â'r defnydd o bwerau dirprwyedig yn cael ei baratoi.

17. Hyd yn oed os yw swyddogaeth reoli wedi cael ei dirprwyo'n briodol, dylai ymddiriedolwyr sicrhau bod systemau a gweithdrefnau yn weithredol er mwyn eu galluogi i wirio bod y rheolaethau angenrheidiol mewn grym ac yn gweithredu'n gywir. Mae dyletswydd gyfreithiol gan ymddiriedolwyr i ddefnyddio'r gofal a'r medr sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau wrth ddewis dirprwy, ac wrth bennu ar ba delerau y bydd y dirprwy yn gweithredu. Hefyd:

  • mae dyletswydd gyfreithiol arnynt i adolygu'r trefniadau y bydd y dirprwy yn gweithredu oddi danynt, a sut y caiff y trefniadau hynny eu rhoi ar waith; ac
  • mae'n rhaid iddynt ystyried yr angen i:
    • roi cyfarwyddiadau i'r dirprwy ynglŷn ag ymarfer ei swyddogaethau;
    • adolygu telerau'r dirprwyo; a
    • therfynu'r dirprwyo.

18. Mae dyletswydd gan ymddiriedolwyr i ddefnyddio'r gofal a'r medr sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau wrth gyflawni'r dyletswyddau adolygu. Os nad ydynt yn llwyddo i ddefnyddio gofal a medr rhesymol wrth benodi dirprwyon ac adolygu eu perfformiad, gallant fod yn gyfrifol yn bersonol am y colledion a ddaw i'r elusen yn sgîl gweithredu'r dirprwy.

19. Felly, yn y pen draw, cyfrifoldeb ymddiriedolwyr elusennau yw ystyried beth sy'n briodol yn sefyllfa arbennig eu helusen hwy. Dylent gofio'r angen i edrych yn arbennig o feirniadol ar feysydd sy'n peri'r risg fwyaf yn eu helusen. Er enghraifft, os yw'r rhan fwyaf o incwm yr elusen yn cael ei dderbyn trwy'r post argymhellir eu bod yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau rheolaeth gadarn yn y maes hwn. Er hynny, ni ddylid esgeuluso meysydd sydd â blaenoriaeth is. Mae rheolaeth briodol dros roddion mewn nwyddau a'r ffordd y'u defnyddir yr un mor bwysig â rheoli arian.

20. Gall datblygiadau ym maes technoleg gael eu defnyddio i symleiddio nifer o brosesau cadw cofnodion a thrafodion. Nid yw hyn yn golygu nad oes angen cael rheolaeth ddigonol. Er hynny, bydd angen addasu dulliau rheoli i gyfateb â'r newidiadau arfer a gyflwynir.

Rheolaeth fewnol sylfaenol

Rhannu dyletswyddau

21. Un o'r prif ddulliau rheoli yw rhannu'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau hynny a fyddai o'u cyfuno yn galluogi un person i gofnodi a phrosesu gweithrediad cyfan. Os yw dyletswyddau yn cael eu rhannu, mae hyn yn lleihau yn sylweddol y posibilrwydd o gamgymeriadau ac esgeulustod, ynghyd â chamddefnydd bwriadol, ac mae'n fodd o ymgorffori dulliau gwirio ychwanegol. Er enghraifft, os yw'r person sy'n cofnodi'r arian parod a dderbynnir hefyd yn gwirio bod arian parod sy'n cael ei dalu i mewn yn cael ei gofnodi ar y cyfriflenni banc, ni fyddai'n hawdd darganfod unrhyw anonestrwydd. Mae'n fwy tebygol na fydd camgymeriadau yn dod i'r amlwg os yw rhywun yn gwirio ei waith ei hun. Mae'r egwyddor o rannu yn bwysig ar gyfer incwm a gwariant, a thrafodion cyfalaf. Gwerthfawrogwn y bydd y raddfa o rannu dyletswyddau yn amrywio yn ôl maint a natur yr elusen dan sylw.

Cymhwyster staff a chynghorwyr

22. Argymhellir bod ymddiriedolwyr yn sicrhau, lle bo angen, eu bod yn ceisio cyngor proffesiynol annibynnol. Dylent hefyd sicrhau bod eu staff ac unrhyw wirfoddolwyr yn gymwys, wedi'u hyfforddi'n briodol a bod ganddynt y cymwysterau i ymgymryd â'r tasgau y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni. Dylai'r berthynas rhwng ymddiriedolwyr elusennau, y cyfrifydd a'r archwiliwr annibynnol neu'r archwiliwr ariannol fod yn un o ddeialog parhaus, lle bynnag y bo'n bosib, yn hytrach na chyfnewid cofnodion a gwybodaeth bob blwyddyn. Mae'n rhaid i unrhyw gyngor cyffredinol neu benodol gan y cyfrifydd, yr archwiliwr annibynnol neu'r archwiliwr ariannol gael ei ddwyn at sylw pob ymddiriedolwr.

Rheolaeth gyllidebol

23. Os yw'r rheolaeth fewnol a ddisgrifir yn y canllaw hwn yn cael ei rhoi ar waith, bydd ymddiriedolwyr wedi cymryd camau mawr i sicrhau eu bod wedi cymryd rhagofalon da i ddiogelu arian yr elusen. Serch hynny, er mwyn cael rheolaeth lawn dros gyllid yr elusen, mae angen gweithio o fewn cyllideb gytunedig ac ymgymryd â chynllunio ariannol llawn. Dylid nodi amcangyfrifon priodol a realistig o'r incwm a'r gwariant a ddisgwylir ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Cynghorwn fod adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal i sicrhau nad yw cyllidebau'r elusen yn cael eu hestyn ymhellach na'u terfynau.

24. Dylai cyllidebau a chyfrifon gael eu cymeradwyo yn dilyn trafodaeth mewn cyfarfodydd ymddiriedolwyr yn unig a dylid cadw cofnodion llawn o'r trafodaethau hyn. Mae'n bwysig bod ymddiriedolwyr yn deall y wybodaeth ariannol a gyflwynir iddynt. Felly, efallai y bydd angen iddynt ystyried recriwtio ymddiriedolwyr sydd ag arbenigedd ariannol arbennig ac, yn bendant dylent sicrhau bod esboniadau a hyfforddiant llawn yn cael eu rhoi i'r rheiny nad ydynt mor gyfarwydd â materion ariannol.

25. Mewn sefydliadau mwy mae'n bosib dirprwyo rhywfaint o'r gwaith cyllidebol, ond mae'r ymddiriedolwyr yn parhau i fod yn gyfrifol am yr hyn y cyfeirir ato ym mharagraffau 17 ac 18.

Rheolaeth dros arian a dderbynnir

26. Mae dyletswydd gan ymddiriedolwyr i reoli a diogelu'r holl arian y mae gan yr elusen hawl iddo.

Derbyniadau trwy'r post

27. Mae'n bwysig i gymryd pob cam posibl i sicrhau bod yr holl arian a anfonir at yr elusen trwy'r post yn dod dan ei rheolaeth cyn gynted â phosibl. Bydd amgylchiadau yn amrywio o un elusen i'r llall ond mae'r dulliau rheoli sydd i'w hystyried yn cynnwys y canlynol:

  • Agor post a dderbynnir cyn gynted â phosib ac ym mhresenoldeb dau berson cyfrifol.
  • Rhaid cofnodi pob siec a'r holl arian parod a dderbynnir ar unwaith a dylai'r cofnodion gael eu cadarnhau gan rywun heblaw'r person a wnaeth y cofnod. (Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer arian parod). Gwerthfawrogir y gall hyn achosi problemau os nad oes gan elusennau adeiladau na staff cyflogedig. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai ymddiriedolwyr sicrhau bod yr holl roddion yn cael eu hanfon at fan canolig a bod llyfr yn cael ei gadw i gofnodi derbyn post sy'n cynnwys arian.
  • Dylid ystyried creu rota ar gyfer staff sy'n agor y post, lle y bo'n ymarferol.
  • Rhaid sicrhau diogelwch post sydd heb ei agor.

Casgliadau cyhoeddus

28. Bwriad rheolaeth ariannol fewnol yn y cyswllt hwn yw sicrhau bod gan yr elusen gymaint o reolaeth â phosibl dros yr hyn a allai fod yn rhwydwaith eang o ymdrechion codi arian. Mae hefyd yn bwysig cofio bod rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau eu bod yn gweithredu yn unol â'r rheoliadau statudol gwahanol sy'n rheoli casgliadau cyhoeddus. Nodir y rheoliadau hyn dan Ddeddf Casglu o Dŷ i Dŷ 1939, Deddf (Darpariaethau Amrywiol) yr Heddlu a Ffatrïoedd 1916 etc (sy'n rheoli casgliadau stryd). Mae ein canllaw Elusennau a Chodi Arian (CC20) yn esbonio'r fframwaith deddfwriaethol y mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr weithredu oddi dano wrth godi arian o'r cyhoedd.

29. Yn ogystal â dilyn y gofynion statudol, argymhellwn fod y dulliau rheoli canlynol yn cael eu gweithredu.

  • Dylai pob blwch casglu gael ei rifo'n unigol a dylid cadw cofnod o ddosbarthu a dychwelyd y blychau hyn.
  • Dylai pob blwch casglu gael ei selio er mwyn sicrhau bod agor blychau cyn cofnodi yn gwbl amlwg.
  • Dylai blychau casglu sefydlog gael eu hagor yn rheolaidd a dylid cyfrif y cynnwys ym mhresenoldeb o leiaf dau berson a gafodd caniatâd yr ymddiriedolwyr i gyflawni'r ddyletswydd hon. (Mae hefyd yn syniad da i gadw dyddiadur yn dangos lleoliad y blychau sefydlog a hefyd cofnod o'r arian a gasglwyd ynddynt ac enw'r person a ddirprwywyd i'w gwagio).
  • Dylai casgliadau cyhoeddus cyffredinol gael eu cyfrif ym mhresenoldeb y casglwr a dylid rhoi derbynneb o lyfr ysgrifennu dyblygu iddynt.
  • Dylai fod rheolaeth ddeuol dros drin a chofnodi'r holl arian ac asedion eraill, yn yr un modd â'r derbyniadau post.

30. Mae pwyntiau tebyg yn codi ar gyfer casgliadau mewn amlenni a awdurdodwyd gan Dystysgrif Esgusodiad y Swyddfa Gartref.

Digwyddiadau codi arian

31. Mae cyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr yn debyg i'r rhai ar gyfer casgliadau, h.y. i sicrhau bod yr elusen yn rheoli'r arian a godwyd ar ei rhan a'i bod yn derbyn yr holl arian y mae ganddi'r hawl iddo o ddigwyddiadau o'r fath.

32. Argymhellwn fod y dulliau rheoli canlynol yn cael eu gweithredu:

  • dylid cadw cofnodion ar gyfer pob digwyddiad codi arian, cofnodion digon manwl sy'n nodi derbyniadau gros a sut y codwyd yr arian hwn, a'r holl gostau a gafwyd; ac
  • ar gyfer pob digwyddiad lle y codir incwm drwy docynnau neu arian gât:

(i) dylai'r tocynnau i gyd cael eu rhifo ymlaen llaw;
(ii) dylid cadw cofnod o'r bobl y dosbarthwyd tocynnau iddynt i'w gwerthu, a pha rifau tocynnau a roddwyd i bob un ohonynt;
(iii) dylid cadw cofnod o'r tocynnau a werthwyd; a
(iv) dylid gwirio derbynebiadau yn erbyn y tocynnau a werthwyd.

33. Dylid cadw cofnodion tebyg ar gyfer digwyddiadau noddedig.

34. Os yw codwyr arian allanol yn cael eu defnyddio, mae angen gofalu eich bod yn cydymffurfio â gofynion Rhan II Deddf Elusennau 1992 (mae ein canllaw Elusennau a Chodi Arian (CC20) yn rhoi rhagor o fanylion).

Y Cynllun Rhodd Cymorth

35. Mae cyfrannu trwy'r Cynllun Rhodd Cymorth yn cael ei annog yn fwyfwy gan ymddiriedolwyr fel ffordd dreth-effeithlon o godi arian. Mae'n faes pwysig oherwydd mae annog rhoddwyr i gyfrannu mewn ffordd dreth-effeithlon yn rheolaeth ariannol dda. Mae'n bwysig cadw cofnodion manwl-gywir er mwyn sicrhau bod yr elusen yn derbyn popeth sy'n ddyledus iddi gan y rhoddwr a Cyllid a Thollau EM, a bod yr holl arian sy'n ddyledus yn dod dan reolaeth yr elusen yn ddi-oed.

36. Er mwyn sicrhau bod yr elusen yn derbyn yr holl arian y mae hawl ganddi ei gael, argymhellwn fod ymddiriedolwyr yn gwneud y canlynol:

  • gwirio'n rheolaidd yn erbyn cofnodion er mwyn sicrhau bod y symiau disgwyliedig wedi cael eu derbyn gan y rhoddwr;
  • gwirio'n rheolaidd er mwyn sicrhau yn achos cyfraniadau Rhodd Cymorth gan unigolion bod yr holl dreth y gellir ei hadennill wedi cael ei hawlio o Cyllid a Thollau EM (nid oes unrhyw beth i'r elusen ei adennill yn achos taliadau Rhodd Cymorth gan gwmnïau); a
  • bod yn ofalus i beidio â gor-hawlio addaliadau treth - dylid bod yn arbennig o ofalus i osgoi hawlio ad-daliadau treth mewn perthynas â thaliadau Rhodd Cymorth sydd heb gael eu derbyn gan y rhoddwr.

37. Am fwy o wybodaeth ar y Cynllun Rhodd Cymorth, edrychwch ar Nod Arweiniad Cyllid a Thollau EM Cynllun Rhodd, sydd ar gael ynghyd â chyngor ac arweiniad arall trwy ffonio 0845 302 0203.

Trefniadaethau bancio a gwarchodaeth

38. Dylid sicrhau bob amser unwaith y derbynnir arian i reolaeth yr elusen, fod ei ddiogelwch parhaol yn cael ei gynnal. Bydd dilyn y canllawiau a restrir isod yn darparu lefel sylfaenol o ddiogelwch ar gyfer arian yr elusen, ond mae'n bosib y bydd angen dulliau rheoli ychwanegol yn dibynnu ar amgylchiadau arbennig yr elusen.

  • Dylai derbyniadau a dderbynnir gael eu bancio yn rheolaidd a chyn gynted ag y bo modd - o leiaf unwaith yr wythnos. Bydd amlder bancio yn dibynnu ar swm yr arian a dderbynnir. Mae cadw arian parod mewn blwch arian parod dan glo ond yn addas i symiau bach o arian, llai na £100 dyweder.
  • Dylid rhoi arian parod neu sieciau mewn coffor neu flwch arian parod dan glo os na ellir ei fancio y diwrnod hwnnw. Dylai swyddog a enwebwyd gadw'r allweddi i unrhyw goffor neu flwch arian parod. Cynghorwn y dylid llofnodi amdanynt bob tro y cânt eu defnyddio. Argymhellwn fod yswiriant gan yr elusen i ddiogelu arian parod a ddelir yn y coffor neu'r blwch arian parod hyd at derfyn penodedig.
  • Dylai'r holl arian a dderbynnir gael ei fancio'n gros - ni ddylid cadw unrhyw symiau yn ôl ar gyfer 'bwydo' arian mân. Os nad yw arian a dderbynnir yn cael ei fancio yn ei gyfanrwydd mae'n amhosib olrhain derbyniadau arbennig i'r elusen.
  • Dylai elusen gael datganiad ysgrifenedig o bolisi ac arfer sy'n cynnwys trefniadaethau bancio a gwarchodaeth ac sydd ar gael i bob aelod o'r staff a'r ymddiriedolwyr.
  • Mae'n bwysig bod arian yr elusen yn cael ei gadw ar wahân i arian personol unrhyw unigolyn. Er enghraifft, ni ddylai trysoryddion elusennau ddefnyddio eu cyfrifon banc eu hunain ar gyfer cyllid yr elusen.
  • Argymhellwn fod ymddiriedolwyr yn ystyried diogelwch wrth fynd ag arian i'r banc e.e. mae'n bosib y bydd angen dau berson os yw'r symiau'n fawr, yn enwedig os yw symiau sylweddol o arian yn cael eu trin. Dylid hefyd ystyried yswiriant ar gyfer arian parod sy'n cael ei gludo.
  • Dylid hefyd cadw rheolaeth dros lyfrau derbyniadau sy'n cael eu dosbarthu gan yr elusen - o ran cadw cyfrifon ar gyfer yr holl dderbyniadau a ddosbarthwyd ac ar gyfer stociau o lyfrau derbyniadau.

Gwirio cofnodion incwm

39. Mae'n bwysig bod ymddiriedolwyr yn gwirio'n rheolaidd er mwyn sicrhau cofnodion cywir (er mwyn i arian ac asedion eraill a dderbynnir gael eu holrhain trwy'r system gyfrifyddu) ac nid oes unrhyw anghysondebau yn y cofnodion cyfrifon. Mae hon yn rheolaeth elfennol, sy'n cael ei hanwybyddu yn aml. Os caiff ei gweithredu'n rheolaidd, bydd yn cynnig rhybudd cynnar o unrhyw beth sy'n mynd o'i le. Mewn elusennau mwy o faint bydd rhai o'r dulliau gwirio hyn yn cael eu dirprwyo i weithwyr ond mae'r ymddiriedolwyr yn parhau i fod yn gyfrifol am yr hyn y cyfeirir ato ym mharagraffau 17 ac 18 . Argymhellwn fod yr elusen yn hapwirio yn aml er mwyn sicrhau (man lleiaf):

  • bod cofnodion o arian a sieciau a dderbyniwyd yn cyfateb â slipiau talu'r banc;
  • bod slipiau talu yn cyfateb â chyfriflenni banc, o ran y swm sy'n cael ei fancio a dyddiad y credyd; ac
  • y gellir nodi a chadarnhau'r holl drosglwyddiadau neu daliadau uniongyrchol eraill i'r banc yn erbyn gwaith papur.

40. Dylai rhywun heblaw'r person sy'n gyfrifol am gofnodi'r trafodion gwreiddiol wneud hyn.

41. Dylid gofalu hefyd bod unrhyw arian a dderbynnir yn cael ei nodi a'i weinyddu ar wahân os yw'r rhoddwr wedi rhoi cyfyngiadau ar ei ddefnydd, ac er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r cyfyngiadau hyn yn unig.

42. Hefyd dylid gwirio cofnodion er mwyn sicrhau na roddwyd unrhyw gredyd heb ei awdurdodi (ee trwy gyfleuster gorddrafft) ac nid yw cyllid yr elusen yn cael ei roi dan unrhyw straen gan gredyd a gymeradwywyd.

Rheolaeth dros wariant

43. Mae'n bwysig bod yr ymddiriedolwyr yn cofio mai hwy sy'n gyfrifol am holl wariant arian elusennol ac mae'n rhaid iddynt gyfiawnhau sut y mae arian yr elusen wedi cael ei ddefnyddio. Mae'r rheolau sylfaenol o gadw cofnodion cywir, rhannu dyletswyddau, a diogelu pethau gwerthfawr i gyd yn hanfodol. Mewn elusennau mwy o faint, bydd rhai o'r dyletswyddau yn cael eu dirprwyo i weithwyr, ond mae'r ymddiriedolwyr yn parhau i fod yn gyfrifol am yr hyn y cyfeirir ato ym mharagraffau 17 ac 18.

44. Wrth wneud taliadau, argymhellwn fod y rheolau canlynol yn cael eu dilyn.

  • Dylai'r holl arian elusennol sy'n cael ei wario a'i fuddsoddi gael eu hawdurdodi'n briodol ac mae'n hanfodol i gael dogfennaeth ategol (ee derbynneb fanwl, tystysgrif cyfranddaliad neu anfoneb) ar gyfer pob eitem o wariant.
  • Dylai offerynnau talu (megis llyfr sieciau, paslyfr y gymdeithas adeiladu a ffurflenni gorchymyn banc) gael eu cadw'n ddiogel, gyda'r defnydd ohonynt wedi'i gyfyngu i bobl a enwebir.
  • Dylai rhywun heblaw'r bobl sy'n awdurdodi'r taliad baratoi dogfennaeth sydd i'w hawdurdodi.
  • Dylai elusennau gael datganiad ysgrifenedig o bolisi ac arfer sy'n cynnwys trefniadaethau talu ac sydd ar gael i'r holl ymddiriedolwyr a'r staff. Byddai hyn yn cynnwys cyfarwyddiadau ynglŷn â phwy sydd â'r hawl (ac ym mha amgylchiadau a hyd at ba derfyn) i roi archebion neu gytundebau, neu i gymryd unrhyw gyfrifoldeb ar ran yr elusen.

Rheolaeth dros bryniant

45. Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb dros sicrhau gwirio priodol er mwyn cadarnhau bod pryniadau wedi cael eu hawdurdodi'n briodol, a hefyd bod nwyddau neu wasanaethau a archebwyd wedi cael eu derbyn. Argymhellwn fod y dulliau rheoli canlynol yn cael eu rhoi ar waith (a'u gweithredu).

  • Dylid gwirio anfonebau a dderbynnir yn erbyn yr archebion a wnaed.
  • Dylid cadw cofnodion o'r archebion a roddwyd ond sydd heb gael eu derbyn eto.
  • Dylid edrych ar ansawdd a swm y nwyddau a gyflenwyd er mwyn sicrhau eu bod yn cyfateb ag archebion a'r rhai yr anfonwyd anfonebau ar eu cyfer. Dylid gwirio gwasanaethau a gyflenwyd yn yr un modd.
  • Dylid gwneud cofnod o'r stoc yn rheolaidd.
  • Dylai'r lefelau awdurdodi ar gyfer rhoi archebion gael eu nodi.
  • Dylai taliadau gael eu gwneud yn erbyn anfonebau gwreiddiol yn unig.

Talu â siec

46. Er bod talu â siec yn cael ei ystyried yn ddull diogel o dalu yn gyffredinol, argymhellwn ddulliau rheoli sylfaenol er mwyn atal unrhyw gamddefnydd o arian yr elusen (amlinellir y rhain isod). Os yw unrhyw reolaeth arbennig yn cael ei dirprwyo i weithwyr, mae'r ymddiriedolwyr yn parhau i fod yn gyfrifol am yr hyn cyfeirir ato ym mharagraffau 17 ac 18.

  • Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ddilyn unrhyw gymal perthnasol yn eu dogfen lywodraethol sy'n nodi enw'r bobl hynny a awdurdodwyd i lofnodi sieciau. Ni ellir caniatáu i weithwyr arwyddo sieciau os yw'r ddogfen lywodraethol yn caniatáu llofnodion ymddiriedolwyr yn unig.
  • Os nad oes darpariaeth yn y ddogfen lywodraethol sy'n ymwneud â gweithredu cyfrifon banc, rhaid i'r gorchymyn banc bennu o leiaf dau ymddiriedolwr fel llofnodwyr, oni bai y gall yr ymddiriedolwyr hawlio'n rhesymol bod rhaid dilyn rhyw drefn arall oherwydd ei fod yn angenrheidiol o ran gweithredu'r elusen. Yn nogfennau llywodraethol elusennau mwy bydd darpariaeth benodol yn aml ynglŷn â gweithredu cyfrifon banc ond, os nad oes, gall fod yn rhesymol i'r ymddiriedolwyr hawlio ei fod yn angenrheidiol o ran gweithredu i weithwyr allu arwyddo sieciau, efallai hyd at derfyn penodedig. Un fath o adrodd 'nôl ar y defnydd o'r pwerau dirprwyedig hyn yw i bob taliad sy'n cael ei wneud dan awdurdod dirprwyedig gael ei grynhoi'n rheolaidd er mwyn i'r ymddiriedolwyr eu harchwilio.
  • Mae bob amser yn ddoeth i gael 'grŵp' o bobl sydd wedi'i hawdurdodi i lofnodi sieciau, grŵp sydd yn fwy o ran nifer na'r nifer lleiaf o lofnodwyr sy'n ofynnol i'w gael ar y gorchymyn. Gallai hyn osgoi unrhyw sefyllfa lle nad oes digon o lofnodwyr ar gael e.e. yn ystod cyfnodau gwyliau poblogaidd. Wrth gwrs, mae'n rhaid i'r holl bobl yn y 'grŵp' fod naill ai'n ymddiriedolwyr neu yn gymwys fel arall i arwyddo sieciau.
  • Ni ddylai sieciau sy'n daladwy i lofnodwr a enwebwyd gael eu llofnodi gan y person hwnnw. Dyma reswm arall pam ei fod yn bwysig i gael 'grŵp' o lofnodwyr mandadol.
  • Dylai'r defnydd o lyfrau sieciau gael ei reoli'n ofalus.
  • Mae'n well osgoi sefyllfa lle mae ymddiriedolwyr sy'n perthyn i'w gilydd yn gallu llofnodi sieciau gyda'i gilydd.
  • Mae llofnodi sieciau gwag ymlaen llaw yn dor-reolaeth ariannol beryglus dros wariant arian elusen. Byddai'r arfer o lofnodi sieciau gwag yn golygu bod ymddiriedolwyr yn esgeuluso'r ddyletswydd o ofal.
  • Dylai'r terfynau cytunedig (os oes) ar gyfer llofnodwyr unigol gael eu cofnodi yn y gorchymyn banc a'u dosbarthu i'r ymddiriedolwyr.
  • Dylai'r holl wariant â sieciau gael eu cofnodi yn y llyfr arian parod a'u croesgyfeirio i rif y siec, gan nodi natur y taliad a'r sawl a delir yn glir.
  • Dylai bonyn pob llyfr sieciau (neu'r hyn sy'n cyfateb) gael ei gwblhau adeg y taliad, a'i gadw (mae'r bonyn yn ffurfio rhan o gofnodion cyfrifon yr elusen).
  • Dylid hapwirio'r cofnodion gwariant yn rheolaidd yn erbyn prif ddogfennau megis anfonebau. Ni ddylai unrhyw sieciau gael eu llofnodi heb anfoneb gyfatebol, neu dystiolaeth ddogfennol arall sy'n nodi natur y taliad. Dylai gwariant gael ei grynhoi yn rheolaidd er mwyn i'r ymddiriedolwyr ei archwilio gan amlygu eitemau arbennig o fawr a brynwyd.

Talu ag arian parod

47. Mae graddfa ychwanegol o risg wrth ddelio mewn arian parod, felly mae angen graddfa ychwanegol o ofal. Argymhellwn y canlynol:

  • Dylid gwneud pob ymdrech i wneud y defnydd mwyaf o dalu â siec ac i leihau'r angen am daliadau arian parod.
  • Dylai pob taliad arian parod gael ei wneud o'r fflôt arian sy'n cynnwys swm penodedig ac sy'n cael ei ail-lenwi yn rheolaidd o'r cyfrif banc neu'r gymdeithas adeiladu ac nid trwy ddal arian a dderbynnir yn ôl (gweler paragraff 38).
  • Dylai pob cais ar gyfer ail-lenwi'r fflôt arian parod gynnwys dogfennaeth ategol a dylai gael ei lofnodi gan yr ariannwr.
  • Dylai'r ddogfennaeth ategol gael ei hawdurdodi gan rywun heblaw'r ariannwr neu'r hawliwr.
  • Dylai person awdurdodedig sy'n annibynnol o'r ariannwr hapwirio'r fflôt arian parod yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys cyfrif gweddill yr arian mewn llaw ac ail-lenwi'r fflôt trwy nodi cyfanswm y talebau ar gyfer symiau a dalwyd ac sydd heb gael eu hadennill eto gan yr ariannwr.

Cyflogau wythnosol a misol

48. Yn aml iawn mae hyn yn eitem sylweddol o wariant elusen, ac felly mae angen gofal arbennig er mwyn osgoi unrhyw gamddefnydd o arian. Dylai ymddiriedolwyr sicrhau nad yw'r elusen yn agored i rwymedigaethau ychwanegol trwy dorri rheoliadau statudol eraill, er enghraifft, trwy fethu â didynnu a rhoi cyfrif am TWE. Argymhellwn y canlynol:

  • Dylid cadw cofnodion person‚l ar gyfer pob aelod o staff a dylid cadw'r rhain ar wahân i'r cofnodion tâl. Dylid gwirio un yn erbyn y llall er mwyn osgoi talu gweithwyr 'ffug'. Dylai bodolaeth gweithiwr gael ei wirio'n 'gorfforol' ar hap hefyd. Mae'n bosib na fydd angen gwneud hyn os yw'r elusen yn un fach gydag ychydig o weithwyr yn unig. Er hynny, dylai ymddiriedolwyr sicrhau eu bod bob amser yn gwbl ymwybodol o'r staff a gyflogir gan yr elusen a bod penodiadau wedi'u hawdurdodi'n briodol; dylid sicrhau hefyd bod taliadau cyflog wedi'u hawdurdodi'n briodol ac yn cael eu talu yn unol â'r awdurdodiad hwnnw. Dylai ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod staff yn ymgymryd â'r dyletswyddau y mae taliad wedi'i awdurdodi ar eu cyfer.
  • Os yw taliadau yn cael eu gwneud mewn arian parod (os yw'n gwbl angenrheidiol) dylai rhywun heblaw'r person sy'n llunio'r rhestr gweithwyr wneud y taliadau hyn, gyda'r gweithiwr yn llofnodi fel tystiolaeth ei fod wedi derbyn y tâl.
  • Dylai ymddiriedolwyr sicrhau bod gan weithwyr gytundeb cyflogaeth priodol ac nad yw unigolion yn cael eu dosbarthu yn anghywir fel gweithwyr hunangyflogedig. Dylid ceisio arweiniad gan Cyllid a Thollau EM os oes unrhyw amheuaeth. Dylai ymddiriedolwyr wneud pob ymdrech i osgoi methu â didynnu a rhoi cyfrif am TWE a chyfraniadau yswiriant gwladol, oherwydd mae'n bosib na fyddant yn gallu adennill y gor-daliad o'r gweithiwr, a bydd rhaid iddynt dalu hawliadau Cyllid y Wlad eu hunain. Mewn achos o'r fath ni fyddent yn gallu indemnio eu hunain o asedion yr elusen fel rheol.
  • Dylai fod trefniadaethau priodol ar gyfer talu costau ymddiriedolwyr, gweithwyr a gwirfoddolwyr. Dylai fod systemau i sicrhau mai wrth ymgymryd â busnes yr elusen y cafwyd y costau hyn. Argymhellwn y dylai ad-daliad fod yn daliad syth o'r gost go iawn yn hytrach na thaliadau swm crwn. Dylai tystiolaeth o'r costau go iawn fod ar gael hefyd e.e. biliau neu dderbynebion. Os byddai hyn yn golygu baich gweinyddol sylweddol, mae'n bosib y bydd elusennau am ystyried a oes modd anwybyddu hyn ar gyfer symiau bach iawn. Os yw'r elusen yn defnyddio system lle y telir costau teithio ar raddfa y filltir yna dylent sicrhau nad oes perygl i'r elusen neu ei hymddiriedolwyr gael rhwymedigaeth treth neu yswiriant gwladol. Gellir cael cyngor am faterion sy'n ymwneud â threth ac yswiriant gwladol o Cyllid a Thollau EM.

49. Argymhellwn fod trefniadaethau yn weithredol hefyd i sicrhau nad yw systemau rheoli yn cael eu bygwth pan fydd aelod o staff yn absennol neu yn gadael.

Gwirio cofnodion gwariant

50. Yn yr un modd â dulliau rheoli arian a dderbynnir, mae'n hanfodol i wirio'n rheolaidd fod cofnodion o'r arian a ddefnyddir yn cael eu cadw yn gywir. Eto argymhellwn hapwirio er mwyn cadarnhau bod:

  • cofnodion o daliadau yn cytuno â bonyn sieciau, anfonebau a dalwyd neu awdurdodiadau eraill, a'u bod yn cyfateb â chyllidebau;
  • sieciau wedi'u cyflwyno i'w talu yn y banc neu'r gymdeithas adeiladu fel a ddangosir ar y gyfriflen;
  • archebion sefydlog a thaliadau debyd uniongyrchol yn cyfateb â chyfarwyddiadau dilys a roddwyd i'r banc neu'r gymdeithas adeiladu.

51. Dylai rhywun heblaw'r person sy'n gysylltiedig â chofnodi'r trafodion gwreiddiol ymgymryd â'r gwirio. Dylid sicrhau hefyd bod taliadau yn cael eu gwneud o'r gronfa gywir pryd bynnag y mae'r elusen yn gweinyddu cronfeydd cyfyngedig o unrhyw fath e.e. cronfa apêl arbennig neu gronfa waddoledig.

Rheolaeth dros asedion

52. Yn ogystal â sicrhau bod ganddynt reolaeth dros yr arian y mae'r elusen yn ei dderbyn a'i wario, mae dyletswydd gan yr ymddiriedolwyr hefyd i sicrhau bod asedion yr elusen yn cael eu cadw'n ddiogel er mwyn eu defnyddio'n effeithiol i hyrwyddo amcanion yr elusen.

Asedion sefydlog i'w defnyddio gan yr elusen

53. Mae'r term hwn yn cynnwys eitemau megis tir, adeiladau, cerbydau, gosodion a ffitiadau, ac offer (ee cyfrifiaduron a'r data a gynhwyswyd ynddynt, peiriannau ffacs) a ddefnyddir yng ngwaith yr elusen. Argymhellwn fod y canllawiau canlynol yn cael eu dilyn:

  • Dylid cadw rhestr o asedion sefydlog a'i diweddaru'n rheolaidd. Dylai hon gynnwys yr holl asedion a roddwyd i'r elusen ar gyfer defnydd parhaus.
  • Dylai'r holl asedion sefydlog gael eu gwirio yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr da ac o ddefnydd i'r elusen.
  • Dylai ymddiriedolwyr roi ystyriaeth briodol i'r angen i yswirio asedion, a'r math o yswiriant sy'n addas.
  • Dylai'r defnydd a wneir o asedion sefydlog gael eu hadolygu'n flynyddol er mwyn sicrhau y gwneir y defnydd gorau ohonynt a'u bod yn gwasanaethu buddiannau'r elusen yn effeithiol.

Buddsoddiadau

54. Fel rheol cedwir buddsoddiadau (gan gynnwys stociau, cyfranddaliadau, tir ac adeiladau) er mwyn cynhyrchu incwm i'r elusen a diogelu ei chyfalaf. Felly mae'n hanfodol i sicrhau eu bod yn ddiogel. Cyflwynwyd pwerau a dyletswyddau newydd mewn perthynas â buddsoddiadau gan Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000, ac er mwyn i'r ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r rhain argymhellwn fod y cyngor a roddir isod yn cael ei ddilyn:

  • Dylai'r ymddiriedolwyr sicrhau y cedwir cofnodion llawn o'r holl fuddsoddiadau a ddelir (gan gynnwys manylion am bopeth a werthir neu a brynir) gan yr elusen, a bod y rhain yn cael eu cadw mewn lle diogel.
  • Yr ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol am lunio polisi buddsoddi. Yn aml bydd manylion gweithredu'r polisi hwn yn cael eu dirprwyo i bobl broffesiynol ym maes buddsoddi ond dylai'r ymddiriedolwyr, trwy fynnu cael adroddiadau addas neu ddogfennau eraill, sicrhau bod eu polisi yn cael ei weithredu. Bydd hyn yn caniatáu iddynt adolygu'n briodol berfformiad eu buddsoddiadau.
  • Fel rheol dylai ymddiriedolwyr geisio cyngor proffesiynol cyn dethol neu werthu buddsoddiadau. Mewn rhai achosion bydd yn ofynnol iddynt wneud hyn yn ôl y gyfraith.
  • Os yw datganiadau o berfformiad buddsoddiadau yn cael eu hanfon at ymddiriedolwr a enwebwyd, dylent gael eu harchwilio yn rheolaidd gan gorff yr ymddiriedolwyr cyfan.
  • Dylai fod dulliau rheoli i sicrhau bod yr holl ddifidendau neu daliadau llog sy'n ddyledus yn cael eu derbyn yn brydlon a bod yr holl bryniadau a gwerthiannau o fuddsoddiadau yn cael eu hawdurdodi'n briodol.
  • Lle bynnag y bo'n bosibl, dylid amrywio buddsoddiadau er mwyn sicrhau nad yw methiant un buddsoddiad yn cael effaith sylweddol ar yr elusen. Mae dyletswydd gyfreithiol gyffredinol gan ymddiriedolwyr i ystyried yr angen i amrywio buddsoddiadau'r ymddiriedolaeth cyn belled ag y bo hynny'n briodol i amgylchiadau'r ymddiriedolaeth.

55. Gellir cael gwybodaeth bellach yn ein canllaw Buddsoddi Cronfeydd Elusennol (CC14), sydd ar gael ar ein gwefan.

Adneuon banc neu gymdeithas adeiladu

56. Yn achos adneuon banc neu gymdeithas adeiladu, argymhellwn y canlynol:

  • Dylid cadw cofnod (yn ogystal â phaslyfrau) o'r holl adneuon banc neu gymdeithas adeiladu mewn lle diogel.
  • Dylid ymgymryd â chysoniadau banc yn rheolaidd, ac os mai gweithwyr dirprwyedig sy'n ymgymryd â'r ddyletswydd hon, dylai'r ymddiriedolwyr sicrhau bod y ddyletswydd yn cael ei chyflawni. (Os yw gweithwyr yn cael eu dirprwyo i ymgymryd â chysoniadau banc dylent fod yn rhywun heblaw'r bobl sy'n cynnal cofnodion llyfrau arian parod). Dylai unrhyw anghysondeb gael ei archwilio'n drwyadl a'i gywiro.
  • Dylai corff yr ymddiriedolwyr cyfan awdurdodi cyfarwyddiadau i agor neu gau cyfrifon adnau, neu os yw hyn yn cael ei ddirprwyo i is-bwyllgor cyllid neu swyddog cyllid, dylai'r ymddiriedolwyr gael gwybod am yr holl ddatblygiadau.
  • Ni ddylid caniatáu i gyfrifon fod yn segur.
  • Dylai cyfriflenni gael eu hanfon at ymddiriedolwr a enwebwyd a dylent fod ar gael i unrhyw ymddiriedolwr eu harchwilio.

Casgliad

57. Os yw ymddiriedolwyr yn teimlo, ar ôl darllen y canllaw hwn, bod angen arweiniad pellach arnynt, sy'n ystyried eu hamgylchiadau arbenning nhw, argymhellwn eu bod yn cysyltu a'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol.

Newididiadau ers y fersiwn blaenorol o'r arweiniad hwn

Dyddiad y fersiwn blaenorol o'r arweiniad hwn oedd Mai 2001. Gwnaethpwyd nifer o fân newidiadau i gadw'r testun mor gyfoes â phosib.

(v7 5/07)