Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Fersiwn - Mawrth 2008)
Annwyl Ddarllenydd,
Gweledigaeth o gymdeithas well yw'r hyn sy'n uno elusennau. Mae nifer o wahanol ddibenion ganddynt, ac maen nhw'n canolbwyntio ar wahanol anghenion. Ond yr un yw eu hawydd, sef sicrhau newid, boed ar gyfer grŵp arbennig o bobl sydd mewn angen, neu er lles pawb. Nid yw'n syndod felly bod nifer o elusennau yn dymuno dweud eu dweud, defnyddio eu llais a'u dylanwad, ac ymgyrchu dros y newidiadau a fyddai'n eu helpu orau i gyflawni eu dibenion.
Rydym wedi cynhyrchu'r canllaw hwn sydd wedi'i ddiweddaru ar adeg o newid mawr i elusennau. Mae Deddf Elusennau newydd wedi dod i rym yn ddiweddar. Hefyd, bu cryn ddadlau cyhoeddus am rôl ymgyrchu elusennau. Er nad yw hanfodion y gyfraith elusennau ar ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol wedi newid, rydym wedi ailysgrifennu ein canllaw er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol i ymddiriedolwyr heddiw. Yn arbennig rydym wedi ceisio cael hyd i ffordd fwy defnyddiol o ddisgrifio'r termau 'pennaf' ac 'ategol', termau yr oedd nifer o'r rhai a oedd yn defnyddio ein canllaw blaenorol yn ei chael yn anodd i'w deall.
Mae profiad elusennau yn golygu ei bod yn hollol briodol iddynt gael llais cryf a phendant. Yn aml byddant yn siarad dros y rhai analluog, y rhai na allant frwydo eu hachos eu hunain. Weithiau bydd elusennau yn wynebu anghyfiawnder cymdeithasol eithafol, a byddant yn dymuno mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol. Mae gwaith elusennau, a'r rôl bwysig a chwaraeant mewn bywyd cyhoeddus, yn rhywbeth a ddylai fod yn destun balchder i ni.
Mae'r gyfraith yn gwahaniaethu rhwng dibenion elusennol a gweithgareddau elusennol. Rhaid i elusen gael ei sefydlu ar gyfer diben elusennol, ac fel egwyddor gyffredinol, gall elusennau ymgyrchu ac ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol fel ffordd gadarnhaol o hyrwyddo neu gefnogi eu dibenion. Mae tipyn o ryddid gan elusennau i wneud hynny, yn amodol ar y gyfraith a thelerau eu dogfennau llywodraethol. Wrth wneud hynny, rhaid i elusennau gadw eu hannibyniaeth mewn cof. Wrth gwrs, ni all elusennau ymgymryd ag unrhyw fath o weithgaredd plaid wleidyddol.
Mae'r canllaw hwn yn ceisio helpu ymddiriedolwyr i benderfynu ar y ffordd orau o gyfleu eu neges yn hyderus. Mae rhai cwestiynau y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr eu hystyried cyn dechrau unrhyw ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol, er enghraifft a yw'r gweithgaredd yn cyd-fynd â'u strategaeth gyffredinol, ac a yw'n debygol o lwyddo. Yn y canllaw hwn, rhown atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin sy'n codi, ac rydym wedi cynnwys Rhestr Wirio i Ymddiriedolwyr, er mwyn iddynt wneud penderfyniadau gwybodus, a dweud eu dweud ar y pethau sydd o'r pwysigrwydd mwyaf i'w helusen, os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Gobeithio y bydd o ddefnydd i chi.
| Y Fonesig Suzi Leather Cadeirydd |
Andrew Hind Prif Weithredwr |
Mae'r adran hon yn crynhoi'r prif bwyntiau i ymddiriedolwyr elusen eu hystyried. Fe'u seilir ar gymysgedd o gyfraith achosion, cyfraith elusennau ac arferion da, ac yn cael eu trafod yn fwy manwl yn y canllaw hwn.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnig arweiniad ar y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol i elusennau sy'n dymuno ymgyrchu ac ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol. Mae'r canllaw yn:
Mae'r canllaw wedi'i anelu'n bennaf at elusennau sydd eisoes yn bod, ond gall fod o ddiddordeb hefyd i sefydliadau sy'n ystyried gwneud cais i gofrestru fel elusennau. Er bod nifer o'r ffactorau i'w hystyried yn berthnasol i feysydd eraill o weithgarwch elusennol hefyd, rydym wedi eu cynnwys yma er mwyn cynnal llywodraethu da yn y maes pwysig hwn yng ngwaith elusennau. Er mwyn cynorthwyo ymddiriedolwyr elusen wrth iddynt ddefnyddio'r canllaw hwn rydym wedi cynnwys enghreifftiau, a Rhestr Wirio i Ymddiriedolwyr (Atodiad 1).
Mae'r canllaw hwn yn cymryd lle'r fersiwn cynharach, CC9 - Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau, a gafodd ei ddiweddaru yn 2004, a hefyd y Cwestiynau a'r Atebion ar CC9, a gyhoeddwyd yn 2007. Ers hynny, mae Deddf Elusennau newydd wedi cael ei phasio, ac mae'r cyd-destun cymdeithasol wedi parhau i newid. Yn ein profiad ni mae rhai elusennau wedi bod yn rhy ofalus, ac wedi tueddu hunan-sensro eu gweithgarwch ymgyrchu. Rydym am i bob elusen fod yn hyderus ynghylch yr hyn y mae'n gyfreithiol iddynt ei wneud. Felly, er bod y safle cyfreithiol sylfaenol o ran ymgyrchu gan elusennau heb newid, mae'r canllaw hwn yn canolbwyntio yn gyntaf ar y rhyddid a'r posibilrwydd i elusennau ymgyrchu, a dim ond wedi hynny ar y cyfyngiadau a'r risgiau y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr eu cadw mewn cof.
Mae ymgyrchu, eiriolaeth a gweithgareddau gwleidyddol i gyd yn weithgareddau cyfreithlon a gwerthfawr y gall elusennau ymgymryd â nhw. Mae gan nifer o elusennau gysylltiadau cryf â'u buddiolwyr, ac yn fwy cyffredinol â'u cymunedau lleol, gan fynnu lefelau uchel o ymddiriedaeth a hyder cyhoeddus, ac maent yn cynrychioli llu o achosion amrywiol. Oherwydd hynny, maent mewn safle unigryw i ymgyrchu a phleidio ar ran eu buddiolwyr. Pan fydd elusennau yn ceisio newid y gyfraith neu bolisi'r llywodraeth, mae rhai rheolau yn gymwys. Yn y canllaw hwn, esboniwn y rheolau hyn mewn termau syml sy'n darparu eglurhad. Yn yr un modd â'n canllawiau blaenorol, rydym hefyd wedi cynnwys peth arweiniad ar feysydd arfer da.
Yn ogystal â'r newidiadau y soniwyd amdanynt uchod, bu datblygiadau pwysig eraill a newidiadau yn yr amgylchedd y mae elusennau yn gweithredu ynddo, sydd wedi llywio ailysgrifennu'r canllaw hwn:
Gall fod ystyr eithaf cyffredinol i'r defnydd a'r ddealltwriaeth bob dydd o'r termau 'ymgyrchu' a 'gweithgareddau gwleidyddol'. Er enghraifft, gall rhai pobl gysylltu'r term 'gweithgareddau gwleidyddol' â gweithgareddau plaid wleidyddol; ond nid yw wedi'i ddefnyddio felly yn y canllaw hwn. At ddiben y canllaw hwn mae ein diffiniadau, yn seiliedig ar y gyfraith elusennau, wedi'u nodi isod:
1. Ymgyrchu: Defnyddiwn y gair hwn i gyfeirio at godi ymwybyddiaeth ac at ymdrechion i addysgu neu gynnwys y cyhoedd trwy ennyn eu cefnogaeth ar fater arbennig, neu ddylanwadu neu newid agweddau cyhoeddus. Hefyd mae'n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at weithgareddau ymgyrchu sy'n ceisio sicrhau bod y cyfreithiau sy'n bod yn cael eu dilyn. Rydym yn gwahaniaethu rhwng hyn a gweithgaredd sy'n cynnwys ceisio sicrhau cefnogaeth i newid yn y gyfraith neu ym mholisi neu benderfyniadau llywodraeth ganol, awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill, boed yn y wlad hon neu dramor, neu wrthwynebu newid, polisi neu benderfyniad, a chyfeiriwn at hyn yn y canllaw hwn fel 'gweithgaredd gwleidyddol'. Gallai enghreifftiau o ymgyrchu gynnwys:
- elusen iechyd sy'n hybu manteision diet cytbwys er mwyn lleihau problemau'r galon;
- elusen ffoaduriaid, sy'n pwysleisio'r cyfraniad cadarnhaol y mae ffoaduriaid wedi'i wneud i gymdeithas ac sy'n galw ar y Llywodraeth i orfodi deddfwriaeth bresennol sy'n cefnogi hawliau ffoaduriaid;
- elusen plant sy'n tynnu sylw at beryglon trais yn y cartref a cham-drin plant;
- elusen hawliau dynol sy'n galw ar y llywodraeth i barchu rhai hawliau dynol sylfaenol, ac i'r arfer o arteithio gael ei ddiddymu;
- elusen sy'n ymwneud â thlodi a'r amgylchedd yn ymgyrchu yn erbyn buddsoddiadau gan rai banciau mewn prosiectau echdynnu tanwydd ffosil; neu
- elusen anabledd sy'n galw am barchu deddfwriaeth bresennol er mwyn sicrhau bod pob plentyn gydag anghenion addysgol arbennig yn cael y cymorth y mae hawl iddynt ei gael i astudio.
Weithiau cyfeiriau at weithgarwch codi arian fel 'ymgyrch' codi arian - nid yw hyn yn ymgyrchu yn ôl y diffiniad yn y canllaw hwn.
2. Gweithgareddau gwleidyddol: Gall elusen ymgymryd â gweithgaredd gwleidyddol, yn ôl y diffiniad ohono yn y canllaw hwn, dim ond yng nghyd-destun cefnogi cyflawni ei dibenion elusennol. Defnyddiwn y term hwn i gyfeirio at weithgarwch gan elusen sy'n eisio sicrhau, neu wrthwynebu, unrhyw newid yn y gyfraith neu ym mholisi neu benderfyniadau'r llywodraeth ganol, yr awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill, boed yn y wlad hon neu dramor. Mae'n cynnwys gweithgareddau i ddiogelu darn presennol o ddeddfwriaeth, os yw elusen yn gwrthwynebu ei diddymu neu ei diwygio. Mae hyn yn wahanol i weithgarwch sy'n ceisio sicrhau bod deddf bresennol yn cael ei pharchu, sydd wedi'i gynnwys o dan (1), Ymgyrchu.
Gallai gweithgareddau gwleidyddol gynnwys rhai neu bob o'r canlynol:
- ennyn cefnogaeth gyhoeddus am newid o'r fath;
- ceisio dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr annibynnol, penderfynwyr, gwleidyddion neu weision sifil ar safle'r elusen mewn ffyrdd amrywiol i gefnogi'r newid a ddymunir; ac ymateb i ymgynghoriadau gan bleidiau gwleidyddol.
Mae'n hanfodol nodi na all elusennau roi eu cefnogaeth i blaid wleidyddol (mae adran D1 yn rhoi arweiniad ar weithio gyda phleidiau, gwleidyddion ac ymgeiswyr annibynnol).
Yn amlwg, nid oes gwahaniaeth clir bob amser rhwng ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol, ac mae'n dra phosibl y bydd elusen yn ymgymryd â gweithgaredd sydd ag elfennau amrywiol. Mae'r canllaw hwn yn canolbwyntio ar y ffactorau y bydd angen i ymddiriedolwyr eu hystyried wrth benderfynu ar yr hyn sy'n briodol iddyn nhw ei wneud. Hefyd, mae'n egluro nad yw cefnogi plaid wleidyddol yn fath derbyniol o weithgaredd gwleidyddol i elusen.
Yn y canllaw:
'Rhaid' a 'dylai': Yn y canllaw hwn, pan ddefnyddiwn 'rhaid', golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol rydym wedi defnyddio'r symbol
wrth ochr yr ateb byr yn yr adran honno. Defnyddiwn 'dylai' ar gyfer eitemau sy'n cael eu hystyried yn arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
Dogfen lywodraethol: Dogfen sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, y dull o'i gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol neu Gynllun y Comisiwn Elusennau.
Ystyr ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, ymddiriedolwyr rheoli, aelodau pwyllgor, llywodraethwyr, cyfarwyddwyr neu gall fod rhyw deitl arall ganddynt. Yn achos cymdeithas anghorfforedig, aelodau'r pwyllgor gwaith neu'r pwyllgor rheoli yw ei hymddiriedolwyr elusen; yn achos cwmni elusennol, y cyfarwyddwyr yw'r ymddiriedolwyr elusen.
Dibenion elusennol yw dibenion sydd yn elusennol yn ôl y gyfraith. Erbyn hyn maent wedi'u pennu yn Neddf Elusennau 2006. Er mwyn bod yn elusen, mae'n rhaid i ddibenion sefydliad fod yn elusennol yn unig. Ni all elusen gael rhai dibenion sy'n elusennol yn ogystal ag eraill sydd heb fod yn elusennol; rhaid i bob diben elusen fod yn elusennol ynddo'i hun. Mae dibenion elusen wedi'u pennu yn ei dogfen elusennol.
Diben gwleidyddol: Ystyr diben gwleidyddol yw unrhyw ddiben sy'n ceisio hyrwyddo buddiannau unrhyw blaid wleidyddol; neu sicrhau, neu wrthwynebu, unrhyw newid yn y gyfraith neu ym mholisi neu benderfyniadau'r llywodraeth ganol, awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill, boed yn y wlad hon neu dramor.
Corff cyhoeddus: Mae'n cynnwys holl weinidogaethau, adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth, boed yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol, yn y DU neu dramor. Mae enghreifftiau yn cynnwys:
Ni fwriedir i'r term gynnwys elusennau, cwmnïau preifat neu gorfforaethau, neu gyrff annibynnol a phreifat.
Mae'r adran hon yn ateb naw cwestiwn allweddol am hanfodion yr hyn y gall elusennau ei wneud a'r hyn na allant ei wneud o dan y gyfraith elusennau (mae adran E1 yn cyfeirio at ddeddfwriaeth arall). Mae'n disgrifio'r gwahanol fathau o ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol sy'n bodoli, a sut y dylai elusennau ystyried y posibilrwydd o wneud gwaith ymgyrchu. Mae'n pwysleisio bod elusennau yn rhydd i ymgyrchu, ac y gallant ddisgwyl ein cefnogaeth os ydynt yn penderfynu wneud hynny. Hefyd, mae'n disgrifio'r terfynau y mae statws elusennol yn eu creu - yn ei hanfod bod rhaid i'r holl ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol hyrwyddo neu gefnogi dibenion elusennol, ac ni all gweithgarwch o'r fath fyth fod yn blaid wleidyddol.
Yr ateb byr
Gall - gall unrhyw elusen ymwneud ag ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol sy'n hyrwyddo neu'n cefnogi ei dibenion elusennol, oni bai fod ei dogfen lywodraethol yn gwahardd hyn.
Yn fwy manwl
Mae ymwneud ag ymgyrchu yn ffordd y bydd nifer o elusennau yn gweithio i hyrwyddo eu dibenion, a bydd nifer o elusennau hefyd yn ymwneud â gweithgareddau gwleidyddol i gefnogi'r dibenion hynny.
Ar yr amod bod elusen yn ymwneud ag ymgyrchu neu weithgareddau gwleidyddol dim ond er mwyn hyrwyddo neu gefnogi ei dibenion elusennol, ac mae'n rhesymol debygol o fod yn effeithiol, gall ymgyrchu ac ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol, fel y'u disgrifir yn y canllaw hwn. Rhaid i'r gweithgareddau y mae'n ymgymryd â nhw fod yn ffordd gyfreithlon a rhesymol i'r ymddiriedolwyr hyrwyddo'r dibenion hynny, ac ni allant fyth bod yn blaid wleidyddol.
Gall elusen gynnig sylwadau cyhoeddus ar faterion cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol os yw'r rhain yn ymwneud â diben yr elusen, neu'r modd y mae'r elusen yn gallu cyflawni ei gwaith.
Mae'r egwyddorion hyn yn sail i'r holl ganllaw hwn. Er nad oes unrhyw derfyn ar hyd a lled ymwneud elusennau ag ymgyrchu er mwyn hyrwyddo eu dibenion elusennol, gall gweithgareddau gwleidyddol fod yn ddull o gefnogi neu gyfrannu at gyflawni'r dibenion hynny yn unig, er gall fod yn gyfraniad sylweddol. Felly, ni all gweithgareddau gwleidyddol fod yr unig ffordd y bydd elusen yn ceisio cyflawni ei dibenion elusennol.
Gall fod rhai elusennau na all ymgyrchu oherwydd cyfyngiadau yn eu dogfen lywodraethol.
Yr ateb byr
Nac oes - mae disgresiwn gan ymddiriedolwyr i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio adnoddau eu helusen i gyflawni ei dibenion. Nid yw'n ofynnol i ymddiriedolwyr ymgyrchu, ac ni ddylent deimlo dan bwysau allanol i wneud hynny.
Yn fwy manwl
Er nad oes rhaid i elusennau ymgyrchu, dylai ymddiriedolwyr elusen ystyried y ffordd orau o gyflawni eu dibenion elusennol, ac fel rhan o'r ystyriaeth hon mae'n bosibl y bydd angen iddynt feddwl am y rôl y gallai ymgyrchu ei chwarae.
Os ydynt yn credu y byddai er lles buddiolwyr yr elusen i wneud hynny, mae hawl gan ymddiriedolwyr ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol hefyd. Fodd bynnag, nid ydynt o dan unrhyw rwymedigaeth i ymgymryd â gweithgareddau o'r fath.
Gall y gweithgareddau hyn fod yn ffordd effeithiol iawn o geisio cyflawni diben elusennol, hyd yn oed os yw'r materion dan sylw yn ddadleuol. Mae rôl hanfodol gan elusennau i'w chwarae yn gymdeithas o ran hybu lles eu buddiolwyr a chyfrannu at ddadlau cyhoeddus. Mae eu profiad uniongyrchol o anghenion eu buddiolwyr yn golygu eu bod mewn safle unigryw i wneud hynny yn aml.
Yr ateb byr
Ni all elusen gael diben gwleidyddol. Ni all elusen ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol sydd heb fod yn berthnasol i gefnogi dibenion elusennol yr elusen, ac nid yw'n rhesymol i ddisgwyl y bydd yn eu cefnogi.
Er na all elusen gael gweithgaredd gwleidyddol fel diben, mae'r amrywiaeth o ddibenion elusennol y gall sefydliad gofrestru fel elusen oddi danynt yn golygu, yn anochel, bod rhai dibenion (megis hybu hawliau dynol) sy'n fwy tebygol nag eraill i arwain at awydd ar ran yr ymddiriedolwyr i ymgyrchu ac ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol. (Gweler adran Ch4 am wybodaeth ar gynnwys ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol mewn dogfen lywodraethol.)
Yn fwy manwl
Ni all elusen gael gweithgaredd gwleidyddol fel unrhyw un o'i dibenion elusennol. Rhaid i ddiben elusennol gael ei gynnwys o fewn y disgrifiad o ddibenion a bennwyd yn Neddf Elusennau 2006. Fodd bynnag, gall elusen ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol i gefnogi ei gwaith o gyflawni ei dibenion elusennol.
Gweithgareddau gwleidyddol: Gall elusen ymgymryd â gweithgaredd gwleidyddol, yn ôl y diffiniad ohono yn y canllaw hwn, dim ond yng nghyd-destun cefnogi cyflawni ei dibenion elusennol. Defnyddiwn y term hwn i gyfeirio at weithgarwch gan elusen sy'n ceisio sicrhau, neu wrthwynebu, unrhyw newid yn y gyfraith neu ym mholisi neu benderfyniadau'r llywodraeth ganol, awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill, boed yn y wlad hon neu dramor. Mae hyn yn wahanol i weithgareddau sy'n ceisio sicrhau bod deddf bresennol yn cael ei chynnal, sydd wedi'i gynnwys o dan ein diffiniad o Ymgyrchu.
Gallai gweithgareddau gwleidyddol gynnwys rhai neu bob o'r canlynol:
Mae'n hanfodol nodi na all elusennau roi eu cefnogaeth i blaid wleidyddol. (Mae Adran D1 yn darparu arweiniad ar weithio gyda phleidiau, gwleidyddion ac ymgeiswyr annibynnol).
Diben gwleidyddol: Ystyr diben gwleidyddol yw unrhyw ddiben sy'n ceisio hyrwyddo buddiannau unrhyw blaid wleidyddol; neu sicrhau, neu wrthwynebu, unrhyw newid yn y gyfraith neu ym mholisi neu benderfyniadau'r llywodraeth ganol neu'r awdurdodau lleol, boed yn y wlad hon neu dramor.
Sefydliadau gyda diben gwleidyddol: Er mwyn bod yn elusen, rhaid i sefydliad gael dibenion sy'n elusennol ac er budd y cyhoedd. Nid yw'n gyfreithiol i sefydliad gyda diben gwleidyddol, megis hybu newid yn y gyfraith, fod yn elusen. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os oes dibenion eraill gan y sefydliad sy'n elusennol. Byddai hyn yn golygu ystyried cwestiynau 'gwleidyddol', nad ydym ni na'r llysoedd mewn sefyllfa i'w hateb. Yn gyfansoddiadol, nid yw'n bosibl i'r Comisiwn Elusennau neu'r Llysoedd benderfynu a fyddai newid yn y gyfraith neu ym mholisi'r Llywodraeth er budd y cyhoedd. Fodd bynnag, ni fydd sefydliadau a sefydlwyd i sicrhau bod y gyfraith yn cael ei dilyn, er enghraifft parchu hawliau dynol sylfaenol, wedi'u cynnwys yn awtomatig o fewn y diffiniad hwn. Mae hwn yn faes cymhleth a byddwn yn archwilio gydag elusennau a ffurfiwyd i hyrwyddo hawliau dynol, ffiniau'r diben elusennol arbennig hwn mewn perthynas ag ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol.
Enghraifft: Mae sefydliad a ffurfiwyd i wrthwynebu rhedfa newydd mewn maes awyr yn gwneud cais i gofrestru fel elusen. Byddai'r Comisiwn Elusennau yn gwrthod y cais fel un sydd â diben gwleidyddol, oherwydd byddai'n groes i bolisi'r Llywodraeth ar feysydd awyr.
Enghraifft: Mae sefydliad a ffurfiwyd i warchod yr amgylchedd yn gwneud cais i gofrestru fel elusen. Mae'r sefydliad yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau, gan gynnwys rhai gweithgareddau gwleidyddol sy'n ceisio sicrhau newid ym mholisi'r Llywodraeth ar feysydd awyr. Byddai'r Comisiwn Elusennau yn derbyn y cais pe byddai'n glir nad sicrhau newid ym mholisi'r Llywodraeth oedd unig weithgaredd neu weithgaredd parhaus yr elusen, ond yn hytrach roedd yn rhan o ystod ehangach o weithgareddau sy'n ceisio hyrwyddo ei dibenion elusennol.
Enghraifft: Mae sefydliad a ffurfiwyd i warchod bywyd ac eiddo trwy atal erthyliadau yn gwneud cais i gofrestru fel elusen. Oherwydd y gall y diben gael ei gyflawni dim ond trwy newid yn y gyfraith, byddai'r Comisiwn Elusennau yn gwrthod y cais fel un sydd â diben gwleidyddol.
Yr ateb byr
Gall - ar yr amod yr esbonnir yn ei dogfen lywodraethol y bydd yr ymgyrchu neu'r gweithgareddau gwleidyddol yn ddull o hyrwyddo neu gefnogi ei dibenion elusennol.
Yn fwy manwl
Yr angen am bŵer i ymgyrchu: Nid yw'n angenrheidiol yn gyfreithiol i elusen gofrestredig gael pŵer penodol i ymgyrchu yn ei dogfen lywodraethol er mwyn ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu (boed yn wleidyddol neu fel arall). Mae hyn yn golygu y bydd angen i elusen newid ei dogfen lywodraethol er mwyn ymgyrchu dim ond os oes rhyw gyfyngiad ar ei phŵer i wneud hynny.
Dogfen lywodraethol: Ar gyfer elusen neu sefydliad sy'n gwneud cais i gofrestru fel elusen, ac mae ymgyrchu yn brif ran o'i gwaith, gall fod yn synhwyrol iddi nodi'n glir yn ei dogfen lywodraethol beth y gall ei wneud, ac unrhyw gyfyngiadau. Er enghraifft, awgrymwn eiriad arbennig yn ein hamcanion enghreifftiol i elusennau a sefydlwyd i hybu hawliau dynol, os oes pŵer i ymgyrchu. Mae hwn ar gael ar ein gwefan.
Enghraifft: Mae elusen hawliau dynol yn ymgyrchu ac yn ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol fel prif ran o'i gwaith. Er enghraifft, mae'n ceisio sicrhau bod Llywodraethau rhai gwleidydd dramor yn dilyn statudau rhyngwladol. Hefyd mae'n ymgymryd â rhai o'r gweithgareddau canlynol a gall ei dogfen lywodraethol gyfeirio atynt:
Yr ateb byr
Er na all sefydliad gwleidyddol fod yn elusen, gall elusen, wrth gefnogi ei dibenion elusennol, ymgymryd ag ystod o weithgareddau gwleidyddol. Fodd bynnag, ni allant fod yr unig weithgareddau y mae'r elusen yn ymgymryd â nhw.
Yn fwy manwl
Y brif egwyddor: Er na all sefydliadau a ffurfiwyd i ddilyn dibenion gwleidyddol fod yn elusennau, gall elusennau ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol, ond dim ond fel ffordd o gefnogi eu dibenion elusennol. Am yr un rheswm pam na all diben gwleidyddol fod yn elusennol, gall gweithgareddau gwleidyddol gefnogi, neu gyfrannu at gyflawni dibenion elusennol yn unig. Mae hyn yn golygu na all gweithgareddau gwleidyddol fod yn weithgaredd parhaus neu'n unig weithgaredd yr elusen.
Wrth benderfynu p'un ai i ymgymryd â gweithgaredd gwleidyddol neu beidio, rhaid i ymddiriedolwyr benderfynu yn gyntaf a yw'n rhesymol i ddisgwyl y bydd yn cefnogi dibenion yr elusen. (Gweler adran Dd1 am ffactorau pellach y dylai ymddiriedolwyr eu hystyried.)
Enghraifft: Mae elusen a sefydlwyd er lles ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn adnabod bod newidiadau i reoliadau budd-daliadau yn gadael rhai dosbarthiadau o geiswyr lloches yn hollol amddifad. Mae'n penderfynu y bydd newid y rheoliadau er lles nifer o geiswyr lloches, ac mae'n cefnogi dibenion yr elusen. Felly, mae'n ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol sy'n ceisio darbwyllo'r llywodraeth i wneud y newidiadau angenrheidiol, gyda deiseb yn cael ei chyflwyno i Stryd Downing, lobïo'r Senedd a gweithgareddau cysylltiedig eraill.
Pethau i ymddiriedolwyr eu hystyried: Fel unrhyw weithgaredd rhaid i ymddiriedolwyr ymarfer eu disgresiwn yn briodol wrth benderfynu ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol. Dylai ymddiriedolwyr ystyried yr amrywiaeth o weithgareddau eraill sy'n agored iddynt, rhoi sylw i ffactorau priodol, ystyried y ffactorau perthnasol yn unig, a gwneud penderfyniadau y byddai ymddiriedolwyr rhesymol yn eu gwneud. Fel rhan o'r broses gwneud penderfyniadau, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ystyried sut y mae'r penderfyniad yn cyd-fynd â chenhadaeth a nodau cyffredinol yr elusen, a yw unrhyw honiadau y bwriadant eu gwneud yn gadarn eu seiliau, ac a yw ei lwyddiant tebygol yn seiliedig ar ddisgwyliadau realistig. Dylai ymddiriedolwyr adolygu effeithiolrwydd ac effaith yr ymgyrch yn gyson hefyd, a'u penderfyniad i ymgymryd ag ef. (Gweler adran Dd1 am fanylion pellach ar y materion y dylai ymddiriedolwyr eu hystyried.)
Yr ateb byr
Gall - er bod hyn yn dibynnu ar y dibenion y ffurfiwyd y sefydliad i'w cyflawni, a sut yr hoffai'r sefydliad hyrwyddo'r dibenion hynny, gan gynnwys trwy ymgyrchu. (Gweler adrannau Ch3-Ch5.)
Yn fwy manwl
Gall sefydliad ymgyrchu fod yn elusen, ar yr amod bod ganddi ddibenion elusennol yn unig, ac mae'r ymgyrchu i gyd yn cefnogi'r dibenion hynny. Fodd bynnag, os mai diben gwleidyddol yw ei reswm dros ei fodolaeth ni all fod yn elusen, oherwydd nid oes modd asesu a yw er budd cyhoeddus neu beidio. Felly ni allai sefydliad sy'n dymuno gwneud ei waith ymgyrchu trwy weithgareddau gwleidyddol yn bennaf fod yn elusen.
Cofrestru elusen: Gall sefydliad ymgyrchu sydd â dibenion elusennol, fel y'u diffinnir erbyn hyn yn Neddf Elusennau 2006, wneud cais i gofrestru fel elusen. Yn wir, os oes dibenion elusennol yn unig ganddo, rhaid iddo gofrestru. Nid yw sefydliad sydd â rhai dibenion nad ydynt yn elusennol yn gymwys i fod yn elusen, hyd yn oed os yw ei ddibenion eraill yn elusennol. Er ei fod yn hollol gyfreithlon i grŵp o bobl ffurfio sefydliad o'r fath, er enghraifft i geisio cyflawni dibenion gwleidyddol yn unig, ni fydd yn gymwys i gofrestru fel elusen.
Dewisiadau eraill: Bydd rhai sefydliadau ymgyrchu yn dewis peidio â cheisio statws elusennol er mwyn bod yn rhydd i ddilyn dibenion gwleidyddol fel y gwelant yn dda. Gall sefydliad ymgyrchu anelusennol gael ei ffurfio fel sefydliad di-elw, er enghraifft fel cwmni cyfyngedig drwy warant, neu Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus anelusennol. Bydd rhai elusennau yn dewis cydweithio â sefydliad ymgyrchu anelusennol cysylltiedig, ac mae hwn hefyd yn ddewis cyfreithlon.
Yr ateb byr
Gall - gall elusennau ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol er mwyn newid yn y gyfraith os yw'n cefnogi eu diben elusennol eu hunain.
Yn fwy manwl
Mae gweithgareddau gwleidyddol, gan gynnwys ymgyrchu dros newid yn y gyfraith, yn weithgaredd hollol gyfreithlon a gall fod yn ffordd effeithiol o gefnogi diben elusennol. Fodd bynnag, fel y nodir yn adran Ch3, nid yw'n ddiben elusennol i ymgyrchu dros newidiadau yn y gyfraith, boed yn y DU neu dramor.
Deddfwriaeth sy'n mynd trwy'r Senedd: Gall elusen gefnogi neu wrthwynebu hynt Mesur Seneddol, neu Fesur Arfaethedig Cynulliad Cymru (yn debyg i Fesur Seneddol), os yw'n rhesymol i ddisgwyl y bydd hyn yn cefnogi cyflawni ei dibenion elusennol. Gall elusen ddarparu a chyhoeddi sylwadau ar newidiadau posibl neu arfaethedig yn y gyfraith neu ym mholisi'r llywodraeth, boed hynny mewn Papur Gwyrdd neu Bapur Gwyn, Mesur Seneddol drafft neu mewn man arall. Hefyd gall elusen roi gwybodaeth berthnasol neu ddeunydd briffio i Aelodau'r naill Dŷ neu'r llall am oblygiadau Mesur Seneddol, i'w defnyddio mewn dadl. Hefyd, gall elusen geisio hybu newid mewn deddfwriaeth neu bolisi cyhoeddus dramor (gweler adran E7).
Hybu deddfwriaeth newydd: Ar yr un sail gall elusen hybu'r angen am ddarn arbennig o ddeddfwriaeth hefyd. Yn amodol ar eu dibenion, gall elusennau ddarbwyllo adrannau'r llywodraeth i gyflwyno neu fabwysiadu deddfwriaeth. Roedd Deddf y Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004, er enghraifft, yn ganlyniad uniongyrchol i lobïo gan nifer o elusennau.
Dulliau derbyniol: Gall elusen wneud yr hyn y gall unrhyw gorff neu unigolyn arall sy'n ceisio newid y gyfraith ei wneud. Er enghraifft, gall ysgrifennu neu gwrdd â'r gweinidog perthnasol yn y llywodraeth gan esbonio ei phryderon, briffio Aelodau Seneddol, a gofyn i'w chefnogwyr i helpu. Wrth gwrs, mae'r un cyfyngiadau yn weithredol. Er enghraifft, ni all ddifenwi pobl neu ysgogi pobl i ddefnyddio trais. Rhaid iddi barchu'r gyfraith sifil a throsedd ac unrhyw reoliadau perthnasol.
Enghraifft: Cafodd sefydliad ei ffurfio i ymgyrchu dros ddiwedd i'r holl arbrofion ar anifeiliaid yn y DU. Barnodd y llysoedd nad oedd hyn yn elusennol, oherwydd yr unig ffordd o gyflawni ei ddiben oedd ceisio newid yn y gyfraith, felly ni fyddai ei reswm dros fodoli wedi'i gynnwys o dan unrhyw ddibenion elusennol a ddiffiniwyd yn y gyfraith elusennau. Hefyd, barnwyd y gallai'r diwedd i arbrofi ar anifeiliaid fod yn groes i fudd y cyhoedd, oherwydd byddai ymchwil meddygol yn cael ei gwtogi. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gallai elusen gydag amcanion lles anifeiliaid ehangach ymgyrchu dros newidiadau i'r gyfraith ar arbrofi ar anifeiliaid pe gallai ddangos y byddai newidiadau o'r fath yn debygol o gefnogi cyflawni ei dibenion elusennol.
Yr ateb byr
Gall elusen ddewis canolbwyntio'r rhan fwyaf, neu ei holl adnoddau ar weithgareddau gwleidyddol am gyfnod. Y prif fater i ymddiriedolwyr elusen ei ystyried yw'r angen i sicrhau nad yw'r gweithgaredd hwn, ac nid yw'r gweithgaredd hwn yn troi'n rheswm dros fodolaeth yr elusen.
Ar gyfer unrhyw elusen, gall gweithgareddau gwleidyddol fod yn ddull o gefnogi neu gyfrannu at gyflawni ei dibenion elusennol yn unig. Ni all fod yn ddiben elusennol ynddo'i hun, neu'r unig ffordd y mae'r elusen yn ceisio cyflawni ei hamcanion.
Yn fwy manwl
Dibenion elusennol: Mae'r gyfraith elusennau yn mynnu bod rhaid i weithgareddau gwleidyddol gefnogi diben elusennol bob tro. Mae Deddf Elusennau 2006 yn disgrifio'r dibenion elusennol y gall sefydliad gael ei ffurfio fel elusen ar eu cyfer.
Defnydd o adnoddau elusennol: Gallai fod sefyllfaoedd arbennig lle y gall fod yn gyfreithiol i elusen gymhwyso'r rhan fwyaf, neu hyd yn oed y cyfan o'i hadnodau i weithgareddau gwleidyddol, i gefnogi diben elusennol. Rhaid i'r sefyllfaoedd hyn fod yn gymwys am gyfnod ym mywyd cyffredinol yr elusen yn unig. Mewn achosion o'r fath, rhaid bod yr ymddiriedolwyr wedi ystyried yn ofalus yr amrywiaeth o ddulliau sy'n agored iddynt, ac wedi penderfynu bod dibenion yr elusen yn cael eu cyflawni'n fwyaf effeithiol am y tro trwy weithgareddau gwleidyddol.
Gallai sefyllfa o'r fath godi pan fydd elusen wedi adnabod y gallai gweithgareddau gwleidyddol gynnig manteision mawr i'w buddiolwyr, a bod gobaith da o lwyddo. Yna gallai ystyried ymgyrch sy'n ceisio sicrhau newid yn y gyfraith neu godi ymwybyddiaeth gyhoeddus. Gallai fod yn gyfreithiol iddi ymrwymo ei hadnoddau i gyd felly i ymgyrch o'r fath.
Enghraifft: Mae elusen leol, hir sefydlog, a ffurfiwyd i sicrhau cadwraeth pentref yn Lloegr yn ymwybodol bod awdurdod lleol wrthi'n cymeradwyo cynnig am ddatblygiad newydd mawr a fyddai'n cael effaith negyddol ar y pentref pe byddai'n mynd rhagddo. Mae'r elusen yn penderfynu y dylai neilltuo ei holl adnoddau i ymgyrchu yn erbyn y cynnig, oherwydd bod sail resymol ganddi dros gredu y byddai hyn yn ffordd effeithiol o gefnogi, neu gyfrannu at gyflawni ei dibenion elusennol. Ar y cychwyn nid yw'n gwybod am faint y gall fod angen iddi ymgyrchu ond mae'r ymddiriedolwr wedi ystyried y risgiau ac maen nhw hefyd yn penderfynu adolygu'n rheolaidd briodoldeb parhau i ddefnyddio adnoddau'r elusen ar gyfer y gweithgaredd.
Mae hwn yn weithgaredd gwleidyddol derbyniol er bod yr elusen yn bwriadu defnyddio ei holl adnoddau am y tro, yn amodol ar adolygu'r sefyllfa.
Yr ateb byr
Gall - gall elusen geisio dylanwadu ar y llywodraeth neu gyrff cyhoeddus eraill, ar yr amod ei fod yn cefnogi eu dibenion elusennol. Fodd bynnag, rhaid i ymddiriedolwyr fod yn ofalus i osgoi ymagwedd sy'n canolbwyntio'n unig ar weithgareddau gwleidyddol oherwydd gallai hyn godi amheuon am briodoldeb eu gweithredoedd, neu yn y pen draw, eu statws elusennol.
Yn fwy manwl
Llywodraeth: Gall elusen geisio dylanwadu ar faterion llywodraeth ganol neu leol neu farn gyhoeddus sy'n ymwneud â dibenion yr elusen. Hefyd gall elusen fynegi barn am faterion sy'n berthnasol i les ehangach y sector elusennol. Mae'r egwyddorion hyn yn gymwys wrth ystyried polisi cyhoeddus newydd ac sy'n bod. Maen nhw hefyd yn gymwys ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.
Cefnogi deddfwriaeth sy'n bod: Gall elusen ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu sy'n ceisio sicrhau bod y cyfreithiau sy'n bod yn cael eu dilyn. Rydym yn gwahaniaethu rhwng hyn a gweithgareddau gwleidyddol, sy'n golygu ceisio sicrhau cefnogaeth dros newid, neu wrthwynebu newid yn y gyfraith neu bolisi cyhoeddus; mae'n cynnwys gweithgareddau i warchod darn o ddeddfwriaeth sy'n bod, lle mae'r elusen yn gwrthwynebu ei ddiddymu neu ei ddiwygio (gweler adran C4).
Cefnogi polisi'r llywodraeth: Yn yr un modd ag y gall gwrthwynebu polisi'r llywodraeth hyrwyddo amcanion elusen, gall cefnogi polisi hefyd gyfrannu at gyflawni dibenion elusen. Yn gyfreithiol, mae'r un ystyriaethau yn gymwys.
Cyrff cyhoeddus eraill: Pan fydd elusen yn ceisio dylanwadu ar unrhyw gorff cyhoeddus, mae'r materion yr un fath ag ar gyfer gwaith wedi'i gyfeirio at adrannau'r llywodraeth neu awdurdodau lleol - mae'r gweithgaredd yn ein barn ni yn un gwleidyddol. Mae barn eang gennym am yr hyn sy'n cael ei ystyried yn gorff cyhoeddus. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
Cwmnïau preifat: Os yw targed ymgyrch yn gwmni preifat ni ystyrir bod y gweithgaredd yn un gwleidyddol. Er enghraifft, ymgyrch sy'n ceisio newid polisïau neu ymddygiad cwmni preifat trwy weithredu gan randdeiliaid, neu ymgyrch i annog cwmni cydwladol mawr i werthu cynnyrch masnach deg. Rhaid i ymddiriedolwyr barhau i ofyn i'w hunain a fydd yr ymgyrch yn hyrwyddo dibenion yr elusen, ac a fydd yn gwneud hynny i'r fath raddau fel ei fod yn cyfiawnhau'r adnoddau sy'n cael eu defnyddio arno.
Enghreifftiau o weithgareddau gwleidyddol derbyniol:
Mae'r adran hon yn sôn am y berthynas y gall elusennau ei chael â phleidiau gwleidyddol, gwleidyddion unigol neu ymgeiswyr annibynnol. Yn aml bydd elusennau yn dymuno dylanwadu ar benderfynwyr gwleidyddol. Er na all elusennau roi eu cefnogaeth i blaid wleidyddol, mae sawl ffordd y gallant weithio'n gyfreithiol yn yr arena wleidyddol.
Yr ateb byr
Na all - ni all elusen roi ei chefnogaeth i unrhyw blaid wleidyddol unigol. Gall ddatgan ei bod o blaid polisïau arbennig a fydd yn cyfrannu at gyflawni ei dibenion elusennol ei hun ar yr amod ei bod yn cynnal ei hannibyniaeth, ac nid yw canfyddiadau o'i hannibyniaeth yn cael eu heffeithio'n andwyol.
Yn fwy manwl
Cefnogaeth i blaid wleidyddol: Nid yw cefnogi plaid wleidyddol yn ddiben elusennol ynddo'i hun. Fodd bynnag, gall elusen gefnogi polisi penodol a arddelir gan blaid wleidyddol. Ni all elusen roi cefnogaeth gyffredinol i blaid wleidyddol, oherwydd mae gan bob plaid wleidyddol amrywiaeth o bolisïau. Felly, os yw elusen yn cefnogi plaid oherwydd ei bod yn cytuno ag un polisi (ar newid hinsawdd, dyweder), mewn gwirionedd mae'n cefnogi'r blaid gyfan a bydd yn cymeradwyo polisïau ehangach y blaid (ar drethi, addysg, amddiffyn, ac ati, dyweder), pethau nad os ganddynt unrhyw beth i'w wneud â dibenion yr elusen. Er y gall cefnogi polisi penodol fod yn ffordd bwysig o gyfrannu at ddiben elusen, ni all elusen gefnogi plaid wleidyddol hyd yn oed os yw'n arddel polisi y mae'r elusen yn ei ffafrio. Ni all elusen roi cymorth ariannol, neu gymorth o fath arall, i blaid wleidyddol.
Cefnogaeth i bolisïau Llywodraeth: Fel y nodwyd yn adran D2 gall elusen gefnogi polisi arbennig a arddelir gan blaid neu ymgeisydd gwleidyddol, ar yr amod ei bod yn cefnogi polisïau'r elusen. Hefyd gall elusen cefnogi polisi sy'n cyd-fynd â pholisi'r Llywodraeth ar yr amod ei bod yn egluro'r rhesymau dros wneud hynny.
Annibyniaeth elusennau: Rhaid i elusen warchod ei hannibyniaeth bob amser, a sicrhau ei bod yn parhau'n annibynnol. Wrth gefnogi polisi y mae plaid wleidyddol neu Lywodraeth yn ei arddel hefyd, dylai elusen bwysleisio ac egluro ei hannibyniaeth i'w chefnogwyr ac i'r bobl hynny y mae'n ceisio dylanwadu ar eu barn.
Gwybodaeth bellach: Mae canllaw ar wahân gennym ar Ymgyrchu ac Etholiadau y gall elusennau ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod rhwng cyhoeddi etholiad, a dyddiad cynnal yr etholiad. www.charitycommission.gov.uk/supportingcharities/elect.asp
Enghraifft: Mae prif weithredwr elusen, yn rhinwedd ei swydd, yn llofnodi llythyr i bapur newydd yn cefnogi ymgeisydd gwleidyddol. Yn amlwg byddai hyn yn weithgaredd plaid wleidyddol, ac felly nid yw'n weithgaredd a ganiateir i elusennau.
Yr ateb byr
Gall - gall elusen ymwneud â phlaid wleidyddol mewn ffyrdd sy'n cefnogi ei dibenion elusennol ei hun. Drwy wneud hynny, rhaid iddi fod yn amhleidiol yn wleidyddol a dylai ystyried cydweithio â phleidiau eraill i helpu sicrhau canfyddiadau cyhoeddus o amhleidioldeb. Dylai ymddiriedolwyr fod mor agored a thryloyw â phosibl ynghylch unrhyw gysylltiad sydd gan eu helusen â phlaid wleidyddol.
Yn fwy manwl
Cysylltiad â phleidiau: Mae'r egwyddorion sy'n gymwys i ymwneud elusennau ag ymgyrchu yr un mor gymwys i gysylltiad elusennau â phleidiau gwleidyddol a'u cynrychiolwyr. Mae cysylltiad o'r fath yn rhan naturiol o rai ymgyrchoedd. Ond rhaid wrth ofal. Mae annibyniaeth elusennau a chael hyder yn eu gwaith o'r pwys mwyaf i'r cyhoedd. Er mwyn gwarchod eu henw da, mae angen i elusennau roi ystyriaeth arbennig i ganlyniadau gweithio gyda phleidiau gwleidyddol a'u cynrychiolwyr, a bod yn agored ac yn dryloyw am unrhyw gysylltiad sydd ganddynt.
Cefnogaeth i bolisïau: Mae'n dderbyniol i elusen gefnogi polisi arbennig a arddelir gan blaid neu ymgeisydd gwleidyddol, ar yr amod bod y polisi yn cefnogi dibenion yr elusen. Fodd bynnag, rhaid i elusen beidio â chefnogi plaid neu ymgeisydd gwleidyddol.
Dadleuon polisi: Gall elusennau gael cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau polisi a drefnwyd gan bleidiau gwleidyddol, er enghraifft mewn cyfarfod ymylol mewn cynhadledd plaid. Yr egwyddor sy'n sail i'r math hwn o weithgarwch yw y gall elusen geisio dylanwadu ar bolisïau pleidiau gwleidyddol (er lles ei buddiolwyr), ond ni all gynorthwyo unrhyw blaid wleidyddol i gael ei hethol. Felly, gallai'r elusen dderbyn gwahoddiadau gan yr holl bleidiau gwleidyddol mawr i esbonio anghenion ei grŵp o fuddiolwyr (er enghraifft, esbonio'r problemau a wynebir gan rieni sy'n ceisio cyflogaeth). Yn wir, mae'n bosibl y bydd eisiau cysylltu â'r holl bleidiau mawr yn rhagweithiol i esbonio'r anghenion hynny. Pe byddai'n derbyn gwahoddiadau gan un o'r pleidiau gwleidyddol mawr yn unig, neu'n cysylltu ag un ohonynt yn unig, ac roedd yn gwneud hynny'n gyson dros gyfnod, gallai hyn godi cwestiynau ynghylch amhleidioldeb parhaus yr elusen.
Y perygl o 'ecsploetio': Dylai elusen fod yn effro i'r perygl y gallai plaid wleidyddol ecsploetio cyfranogiad elusen mewn trafodaethau polisi er ei budd ei hun yn hytrach nag er budd buddiolwyr yr elusen. Fel rhan o reoli'r perygl hwn dylai'r elusen fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch unrhyw ymwneud â phleidiau gwleidyddol.
Enghraifft: Mae prif weithredwr elusen, yn rhinwedd ei swydd, yn cael ei wahodd i siarad mewn digwyddiad ymylol mewn cynhadledd plaid. Byddai hyn yn weithgaredd gwleidyddol derbyniol ar yr amod bod ef/hi, a'i ymddiriedolwyr/hymddiriedolwyr yn glir bod ei bresenoldeb/phresenoldeb yno yn cefnogi dibenion elusennol a bod canfyddiadau am annibyniaeth yr elusen heb eu heffeithio.
Enghraifft: Mae elusen yn cael ei gwahodd gan blaid wleidyddol i gynnig sylwadau ar ei maniffesto drafft. Mae'r elusen yn cytuno i gynnig sylwadau, ond dim ond ar yr agweddau hynny sy'n cael effaith ar ei buddiolwyr. Hefyd mae'n gwneud yr un cynnig i'r holl brif bleidiau gwleidyddol. Mae hyn yn dderbyniol.
Yr ateb byr
Gall - mae sawl ffordd y gall elusennau ymwneud â gwleidyddion unigol. Drwy wneud hynny, rhaid iddynt fod yn amhleidiol yn wleidyddol ac ystyried cydweithio â phleidiau eraill i helpu sicrhau canfyddiadau cyhoeddus o amhleidioldeb.
Yn fwy manwl
Gwahoddiadau i annerch: Gall elusen wahodd gwleidydd i siarad i gefnogi ei nodau, er enghraifft, mewn cinio i lansio ymgyrch cenedlaethol, neu mewn CCB. Yn ddelfrydol, dylai elusen sy'n ceisio cefnogaeth gwleidyddion geisio cael cynrychiolaeth drawsbleidiol, am resymau annibyniaeth ac amhleidioldeb, ond gallai rhai mathau o ddulliau ymgyrchu olygu bod hyn yn anymarferol.
Yr angen i fod yn amhleidiol: Byddem yn bryderus pe byddai elusen yn ceisio cefnogaeth gwleidyddion o un blaid wleidyddol yn unig yn gyson. Dylai elusen ystyried a yw'r dulliau a ddewisir ar gyfer cynnal ymgyrch yn rhan o strategaeth sydd wedi'i hystyried yn drylwyr ac nid yw'n creu unrhyw fath o gefnogaeth bleidiol anfwriadol.
Cyhoeddi barn gwleidyddion, a'r Llywodraeth a Gweinidogion yr Wrthblaid: Gall elusen gyhoeddi barn cynghorwyr lleol, Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad Cymru, ac ymgeiswyr etholiad, a hefyd barn Gweinidogion y Llywodraeth a siaradwyr y Gwrthbleidiau, os yw'r barnau hyn yn ymwneud â dibenion yr elusen, a bydd eu cyhoeddi yn cefnogi gwaith yr elusen mewn rhyw ffordd. Dylai'r elusen ystyried effaith ystod a chwmpas y barnau, a sut y cânt eu mynegi, ar ei gwaith yn gyffredinol. Fel rhan o'r ystyriaeth hon dylai'r ymddiriedolwyr asesu a yw'r barnau a fynegir yn cynrychioli unrhyw risg i enw da'r elusen.
Materion unigol: Gall elusen ofyn i gynrychiolwyr yr holl bleidiau am eu barn ar fater arbennig, a chyhoeddi eu hatebion. Felly, er enghraifft, gallai'r elusen drefnu dadl lle y cafodd y pleidiau i gyd eu gwahodd i drafod y mater - neu gallai argraffu cyfweliadau gyda chynrychiolwyr o'r holl bleidiau yn ei chylchgrawn neu wefan.
Darparu gwybodaeth am wleidyddion: Gall elusen ddarparu gwybodaeth i'w chefnogwyr neu'r cyhoedd ar sut y mae Aelodau Seneddol unigol, Aelodau Cynulliad Cymru, cynghorwyr lleol neu bleidiau wedi pleidleisio ar fater, er mwyn dwyn pwysau arnynt i newid eu safbwynt. Rhaid iddi allu esbonio ei rhesymau dros wneud hynny ar gais - rhaid i'r mater dan sylw fod yn gysylltiedig â dibenion yr elusen.
Enghraifft: Mae elusen yn gwahodd gwleidydd i fynychu ac annerch wrth agor siop elusennol newydd. Mae'r gwahoddiad hwn yn dderbyniol, ar yr amod bod yr elusen wedi briffio'r gwleidydd am ddiben y digwyddiad, ac mae'n rhesymol i ddisgwyl y bydd y gwleidydd yn siarad o blaid gwaith yr elusen, yn hytrach na'i defnyddio i hybu unrhyw neges plaid wleidyddol.
Enghraifft: Mae elusen yn lansio adroddiad yn ystod cinio arbennig. Yn y digwyddiad, mae lluniau'n cael eu tynnu o wleidyddion arweiniol yn sefyll wrth ochr buddiolwyr yr elusen. Mae hyn yn dderbyniol ar yr amod bod yr elusen wedi egluro bod y llun yn cael ei dynnu i hybu gwaith yr elusen ac nid gwaith y gwleidyddion eu hunain.
Yr ateb byr
Ydynt - pan fydd etholiad wedi cael ei alw, bydd angen i elusennau sy'n ymgyrchu fod yn arbennig o ofalus er mwyn sicrhau eu bod yn amhleidiol yn wleidyddol. Er enghraifft, ni all elusen ddarparu cronfeydd, neu adnoddau eraill, i ymgeisydd gwleidyddol.
Yn fwy manwl
Ni all elusen byth ddweud wrth ei chefnogwyr pa ymgeisydd i'w gefnogi mewn etholiad. Gweler adran D3 am weithgareddau derbyniol i elusen mewn perthynas â gwleidyddion. Yn ystod cyfnod etholiad, mae'r angen am amhleidioldeb a chydbwysedd yn dwysáu, a rhaid i elusennau fod yn arbennig o ofalus wrth ymgymryd ag unrhyw weithgareddau yn yr arena wleidyddol.
Gwybodaeth bellach
Mae canllaw ar wahân gennym y gall elusen ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod rhwng cyhoeddi etholiad, a dyddiad cynnal yr etholiad.
Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar ymddiriedolwyr elusennau, a'r materion y dylent eu hystyried cyn cychwyn ymgyrchu neu weithgareddau gwleidyddol. Er bod ymgyrchu yn weithgaredd cyfreithlon i elusennau ac mae'r ystyriaethau sy'n gymwys yn debyg i'r rhai ar gyfer unrhyw weithgaredd arall, dylai ymddiriedolwyr deimlo'n hyderus bod yr opsiynau, risgiau, costau a buddiannau wedi cael eu pwyso a'u mesur yn ofalus cyn dechrau ymgyrchu.
Yr ateb byr
Fel unrhyw weithgaredd, bydd ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol yn cynnig rhai cyfleoedd a pheryglon y bydd angen i ymddiriedolwyr eu hadnabod a'u cynllunio er mwyn eu rheoli. Rhaid i ymddiriedolwyr fodloni eu hunain ar sail resymol bod y gweithgareddau yn debygol o fod yn ddull effeithiol o hyrwyddo neu gefnogi dibenion yr elusen a gallant gyfiawnhau'r adnoddau a ddefnyddir. Mae amrywiaeth o ffyrdd y gallai ymddiriedolwyr ystyried eu defnyddio i fodloni eu hunain am hyn, ac i ddangos eu bod wedi gwneud hynny, er enghraifft, drwy gadw cofrestr risg, cynllun busnes, a chadw cofnodion o'r cyfarfodydd lle mae materion o'r fath wedi cael eu trafod.
Yn fwy manwl
Mae natur ymgyrchu, a natur newidiol yr amgylchedd y bydd yr ymgyrchu yn digwydd ynddo, yn golygu ei fod yn faes gweithgaredd lle mae ymagweddau newydd a blaengar yn cael eu datblygu'n aml. O fewn fframwaith y canllaw hwn, mae'r Comisiwn yn cefnogi elusennau yn hyn o beth. Mae'n bwysig bod y risgiau yn cael eu hadnabod a'u rheoli; mae hefyd yn bwysig nad yw ymddiriedolwyr yn rhy ofalus neu ofnus o'r risgiau.
Cytuno ar amcanion: Wrth gynllunio neu ystyried ymgyrch neu weithgaredd gwleidyddol, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr fod yn glir ynghylch sut y bydd yr ymgyrch neu'r gweithgaredd yn hyrwyddo neu'n cefnogi gwaith yr elusen a, gyda hynny mewn cof, gosod amcanion clir a mesuradwy. Gallai gweithgaredd gwleidyddol fod yn llwyddiannus iawn o ran cyflawni yr amcan o godi ymwybyddiaeth gyhoeddus, neu annog y cyhoedd i gefnogi gwaith yr elusen, er nad yw hynny'n arwain at newid syth yn y gyfraith neu bolisi'r llywodraeth. Ni fydd pob gweithgaredd gwleidyddol yn llwyddiannus. Felly mae'n bwysig i ymddiriedolwyr allu esbonio penderfyniad eu helusen i ymgyrchu neu ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol, a gosod amcanion ar gyfer yr ymgyrch sy'n rhesymol debygol o lwyddo, yn ogystal â sicrhau eu bod wedi monitro cynnydd tuag at eu cyflawni yn ystod cam gweithredu'r ymgyrch.
Wrth ddatblygu amcanion, dylai Ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol o arferion da (fe welwch rai ffynonellau gwybodaeth ar arferion da o dan adran Ff, Gwybodaeth Bellach a Chyngor
Gwerthuso a rheoli risgiau: Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am adnabod ac adolygu'r prif risgiau y mae'r elusen yn eu hwynebu, ac am weithredu systemau i geisio lleihau'r risgiau hyn. Mae potensial gan rai mathau o ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol, yn enwedig y rhai sydd â phroffil cyhoeddus uchel, i wella a niweidio enw da'r elusen, a hefyd i gyfaddawdu ei hannibyniaeth. Mae hyn yn golygu bod angen i elusennau adnabod a rheoli'r risgiau posibl dan sylw; nid yw'n golygu bod rhaid iddynt osgoi'r holl risgiau.
Fel rhan o'i hasesiad o risgiau a manteision cyffredinol y gweithgaredd, dylai elusen ystyried y canlynol:
Ni all ymddiriedolwyr ganiatáu i'r elusen gael ei defnyddio fel cyfrwng i fynegi barn wleidyddol unrhyw ymddiriedolwr unigol neu aelod staff (yn y cyd-destun hwn golygwn farn bersonol neu blaid wleidyddol).
Dylai ymddiriedolwyr hefyd sicrhau bod lefel ddigonol o wybodaeth ganddynt am eu noddwyr. Dylai ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol o'r risg y gall fod cymhelliad cudd gan roddwr, mewn achosion prin iawn, dros roi'r arian i'w helusen sydd efallai heb unrhyw gysylltiad â gwaith yr elusen, ac a allai gael effaith niweidiol ar enw da'r elusen. Yn y pen draw, cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr yw bodloni eu hunain bod rhodd er lles gorau'r elusen.
Risg i enw da: Hefyd, bydd angen i ymddiriedolwyr ystyried effaith yr ymgyrchu neu'r gweithgareddau gwleidyddol arfaethedig ar enw da'r elusen. Rhaid gwarchod annibyniaeth ac enw da'r elusen, a bydd rhaid i'r ymddiriedolwyr, fel rhan o'u strategaeth ymgyrchu gyffredinol, ystyried trefniadau i warchod enw da'r elusen.
Cydbwyso risgiau a buddiannau: Yn gyffredinol, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr fod wedi'u darbwyllo'n rhesymol bod manteision tebygol ymgyrchu yn drech na'r costau a'r risgiau. Mae hynny'n golygu asesu a yw canlyniad llwyddiannus yn debygol. Rhaid i'r ymddiriedolwyr ofyn y cwestiynau canlynol:
Os gallant ateb ydy i'r ddau gwestiwn, gallant fwrw ati i ymgyrchu yn hyderus.
Monitro effaith a llwyddiant: Dylai monitro a gwerthuso llwyddiant ymgyrch fod yn rhan o strategaeth ymgyrch o'r cychwyn cyntaf. Mae'n ffordd allweddol o sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio'n ddoeth, ac o gyfrannu at effeithiolrwydd ymgyrchoedd yn y dyfodol.
Ymgynghori: Wrth geisio dylanwadu ar ddeddfwriaeth neu bolisi cyhoeddus gall elusen ystyried ymgynghori â'i phrif fudd-ddeiliaid, ac o bosibl, ag aelodau'r cyhoedd. Er enghraifft, gallai drefnu cyfarfodydd ymgynghorol er mwyn profi barn ei buddiolwyr cyn cefnogi newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi cyhoeddus. Ond nid yw ymgynghori o'r fath yn ofyniad ffurfiol. Y brif ystyriaeth i ymddiriedolwyr elusen yw bod dealltwriaeth glir ganddynt o sut y bydd y gweithgaredd yn hyrwyddo neu'n cefnogi gwaith yr elusen.
Gwybodaeth bellach
Gweler ein gwefan i gael gwybodaeth am reoli risgiau i elusennau.
Os nad oes dyddiad terfyn realistig gan weithgaredd gwleidyddol neu ymgyrch cysylltiedig, gall gael ei ystyried yn ddiben gwleidyddol, a gall fod amheuon am briodoldeb y gweithgaredd, neu yn y pen draw statws elusennol yr elusen.
Y prif fater i'r ymddiriedolwyr yw penderfynu a yw'r gweithgaredd gwleidyddol yn cefnogi diben eu helusen i'r graddau sy'n cyfiawnhau'r adnoddau a ddefnyddiwyd. Mae gwybodaeth ymddiriedolwyr am eu helusen yn golygu eu bod mewn sefyllfa dda i benderfynu a yw gweithgaredd arbennig yn debygol o fod yn ffordd effeithiol o gefnogi dibenion yr elusen. Yn ogystal â gwneud penderfyniad gwybodus, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr allu esbonio'r rhesymau sy'n sail iddo. Hefyd, mae'n rhaid iddynt allu delio ag unrhyw feirniadaeth a all godi - er enghraifft, bod y newid yn y gyfraith yr oedd yn ceisio dylanwadu arno yn bosibilrwydd rhy afrealistig i'w gyflawni, neu fod yr ymddiriedolwyr yn dilyn agenda a oedd yn gysylltiedig, neu a oedd yn cael ei weld fel un oedd yn gysylltiedig â'u barn wleidyddol bersonol. Rhaid i ymddiriedolwyr bob amser ystyried eu cyfrifoldeb i ddefnyddio cronfeydd ac asedau elusennol yn ddoeth, a dim ond i hybu neu gefnogi dibenion yr elusen.
Mae'r adran hon wedi'i hanelu at elusennau sydd eisoes wedi penderfynu ymgyrchu neu weithio yn yr arena wleidyddol. Mae amrywiaeth o gwestiynau manwl a materion a all godi, ynghyd â'r angen i gydymffurfio â'r gyfraith elusennau a deddfau a rheoliadau eraill. Os nad yw'r ateb i'ch cwestiwn yma, rydym bob amser wrth law i helpu a chynghori - gweler adran olaf y canllaw hwn am fanylion cyswllt.
Yr ateb byr
Pan fydd yr elusen yn ymgyrchu ac yn ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol, rhaid i'r ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol o'r gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol sy'n gymwys yn gyffredinol, a gweithredu yn unol â'r rhain.
Yn fwy manwl
Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASH): Dylai elusennau sy'n ymgyrchu fod yn ymwybodol o waith yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, a hefyd Pwyllgor Darlledu Arferion Hysbysebu (PDAH). Mae'r ASH yn gorff annibynnol, hunanreoleiddiol ar gyfer hysbysebion sy'n cael eu darlledu, ac sydd heb eu darlledu, hyrwyddiadau gwerthu a marchnata uniongyrchol yn y DU. Mae'r Awdurdod yn gweinyddu Cod Hysbysebu, Hyrwyddo Gwerthiannau a Marchnata Uniongyrchol Prydain (Cod CAP) er mwyn sicrhau bod hysbysebion yn gyfreithiol, yn deg, yn onest ac yn dweud y gwir. Ers 1993 mae'r Cod wedi bod yn gymwys i elusennau a grwpiau pwyso. Fel mater o arfer da, dylai elusennau gymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â'r Cod. Mae'r PDAH yn gweinyddu'r Cod Safonau Hysbysebion Radio, ac mae'r Cod Safonau Hysbysebion Teledu yn cael ei weinyddu ar y cyd gan PDAH ac ASH.
Torri Codau'r ASH neu'r PDAH: Os yw elusen yn torri'r Cod yn ddifrifol, neu yn ei dorri'n gyson, gall hyn fod yn arwydd o gamreoli neu gamweinyddu materion yr elusen, ac felly bydd angen i'r Comisiwn Elusennau gymryd camau rheoleiddiol.
Deddfwriaeth arall: Yn ogystal â'r gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol cyffredinol a nodwyd yn ein canllawiau i elusennau, bydd angen i ymddiriedolwyr ystyried gofynion mwy cyffredinol hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft:
Gwybodaeth bellach
Mae'r Cod CAP hefyd yn cynnwys rhestr o statudau a rheoliadau sy'n effeithio ar hysbysebion a hyrwyddiadau yng Nghymru a Lloegr. Cewch fwy o wybodaeth am ASH a'r Cod CAP ar www.asa.org.uk
Yr ateb byr
Gall elusen ddefnyddio unrhyw ddull rhesymol i ymgyrchu, ar yr amod ei fod yn gyfreithiol, ac yn ddefnydd effeithiol o adnoddau elusennol.
Yn fwy manwl
Mae sawl math o weithgareddau a ddefnyddir gan elusennau i ymgyrchu, ac mae'r rhain yn newid ac yn datblygu trwy'r amser. Mae'r adran hon yn sôn am rai o'r materion y dylai elusennau eu hystyried, ac mae'n darparu arweiniad ar rai o'r dulliau a ddefnyddir.
Defnyddio deunyddiau ymgyrchu: Os yw'r elusen yn ceisio cefnogaeth y cyhoedd, neu gymuned leol, mae'n rhydd i ddefnyddio pa bynnag dull cyfathrebu cyfreithiol y cred sy'n briodol i'r ymgyrch.
Esbonio barn yr elusen: Weithiau bydd elusen yn dewis rhoi esboniad llawn o'i barn a'r rhesymau dros yr ymgyrch, er mwyn cael cefnogaeth i'r ymgyrch. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol i esbonio ei barn yn llawn yn yr holl ddeunyddiau ymgyrchu. Bydd sawl ffurf o gyfathrebu a ddefnyddir ar gyfer gwaith ymgyrchu, er enghraifft, hysbyseb papur newydd sydd wedi'i gyfyngu gan ei faint, neu amser cyfyngedig ar y teledu neu'r radio, yn golygu ei fod yn anymarferol i wneud hynny.
Technolegau newydd: Mae technegau newydd a blaengar ar gyfer ymgyrchu effeithiol yn cael eu datblygu trwy'r amser. Er enghraifft, mae ymgyrchoedd dros y rhyngrwyd yn gyffredin erbyn hyn ac mae defnyddio cyfleusterau negeseuon ffôn testun yn ddull poblogaidd o geisio cefnogaeth ymgyrchwyr. Yn yr amgylchedd hwn sy'n newid yn gyflym, dylai elusennau geisio cyngor arbenigol os ydynt yn ansicr o gwbl ynghylch cyfreithlondeb, priodoldeb neu yn wir gost-effeithiolrwydd eu hymgyrch neu eu gweithgaredd arfaethedig.
Ennyn cefnogaeth: Gall elusen ddarparu deunydd i'w chefnogwyr, neu aelodau'r cyhoedd, i'w anfon i Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad Cymru, cynghorwyr, llywodraeth ganol, neu'r awdurdod lleol, ar yr amod, os gofynnir am hyn, y gall gyfiawnhau a dangos bod penderfyniad ystyriol wedi cael ei wneud i ymgymryd â'r gweithgaredd ac mae sail resymegol dros ddefnyddio'r deunydd a ddewiswyd.
Yr ateb byr
Gall - gall elusennau ddefnyddio deunydd emosiynol yn eu hymgyrchoedd, ond dim ond os yw hyn wedi'i gyfiawnhau yng nghyd-destun nodau'r ymgyrch. Rhaid i ddeunydd o'r fath fod yn gywir o ran eu ffeithiau a chael sail dystiolaeth gadarn. Ni all elusennau dorri'r gyfraith, a dylent ddilyn y Codau perthnasol yn y maes hwn.
Yn fwy manwl
Ymgyrchoedd emosiynol: Gall elusennau sy'n gweithio mewn meysydd sy'n ysgogi emosiynau cyhoeddus cryf benderfynu eu bod yn barod i dderbyn risgiau ymgyrchu sy'n codi risgiau sylweddol oherwydd y manteision posibl y gallai'r ymgyrch eu cynnig, ac a allai gynnwys:
Enghraifft: Roedd elusen lles anifeiliaid wedi cynnal ymgyrch hir i sicrhau gwaharddiad ar hela â chŵn. Roedd hyn yn ddadleuol, ond roeddem wedi derbyn bod amcan yr ymgyrch a'r dull a fabwysiadwyd (oedd yn cynnwys hysbysebu emosiynol) yn gyfreithlon i elusen lles anifeiliaid.
Deunydd ymgyrchu: Bydd nifer o elusennau, trwy natur eu gwaith a'r materion y maent yn delio â nhw, yn codi materion y bydd rhai pobl yn eu cael yn emosiynol. Yn aml bydd cynnwys emosiynol gan ddeunyddiau ymgyrchu elusennau o'r fath, ac mae hyn yn hollol dderbyniol ar yr amod bod sylfaen dystiolaeth gadarn ganddo ac mae'n fanwl yn ffeithiol. Fodd bynnag, bydd angen i ymddiriedolwyr ystyried risgiau arbennig defnyddio deunyddiau emosiynol neu ddadleuol, a all fod yn arwyddocaol oherwydd y risg i ganfyddiad y cyhoedd o'r elusen. Bydd angen pwyso a mesur y risgiau hyn yn erbyn y manteision posibl a allai gynnwys gwella dealltwriaeth y cyhoedd a newid agwedd tuag at fater arbennig.
Yr ateb byr
Weithiau bydd elusennau yn dewis defnyddio ymchwil i gefnogi a chryfhau ymgyrch neu weithgaredd gwleidyddol, er nad oes unrhyw ofyniad i wneud hynny. Y pwynt allweddol yma yw bod unrhyw honiadau sy'n cael eu gwneud o blaid ymgyrch yn gadarn eu seiliau. Gall elusennau ddefnyddio eu hadnoddau i ymgymryd â gwaith ymchwil neu ei gomisiynu, ar yr amod bod yr ymddiriedolwyr yn fodlon ag ansawdd a dilysrwydd y gwaith.
Yn fwy manwl
Fel rhan o'u hymgyrchu a'u gweithgareddau gwleidyddol bydd elusennau yn defnyddio ymchwil weithiau i gynnig gwybodaeth ac addysgu'r cyhoedd, neu gefnogi a llywio safle polisi ac ychwanegu pwysau at unrhyw weithgareddau dylanwadu. Mae'r math o ymchwil a ddefnyddir yn amrywio yn ôl natur yr ymgyrch, er enghraifft, os yw'r ymchwil yn cefnogi ymgyrch addysg a chodi ymwybyddiaeth, neu'n cefnogi neu'n ychwanegu pwysau at ymgyrch i newid y gyfraith neu newid polisi.
Wrth ymgymryd â gwaith ymchwil, neu gymeradwyo sefydliad arall i ymgymryd â gwaith ymchwil, dylai elusennau sicrhau ei fod yn cael ei gynnal yn briodol trwy ddefnyddio dulliau ymchwil cadarn a gwrthrychol. Ar gyfer rhai ymgyrchoedd gallai ymddiriedolwyr ddewis comisiynu ymchwil annibynnol - gan sefydliad academaidd neu gwmni ymchwil dyweder - i sicrhau bod y ffigurau a'r ystadegau a ddefnyddiant mewn ymgyrch wedi'u dilysu, ac felly'n cael eu hystyried yn wrthrychol. Nid oes unrhyw ofyniad i gomisiynu ymchwil annibynnol, neu ddefnyddio ymchwil i gefnogi ymgyrch, ac nid oes gan nifer o elusennau llai yr adnoddau i wneud hynny. Y pwynt allweddol i unrhyw elusen yw'r angen i unrhyw ymgyrch fod yn gadarn ei seiliau ac yn effeithiol, ac weithiau defnyddio ymchwil fydd y ffordd orau o sicrhau hyn.
Yr ateb byr
Yn gyffredinol, gall elusen ddefnyddio ei hadeiladau ei hun i gefnogi unrhyw weithgaredd elusennol, gan gynnwys ei hymgyrchu ei hun. Mae rhai cyfyngiadau arbennig ar ddefnyddio adeiladau elusennau at ddibenion gwleidyddol.
Yn fwy manwl
Neuaddau pentref: Gall elusen leol neu genedlaethol y mae ei diben yn cynnwys darparu adeiladau (megis cymdeithas gymunedol neu neuadd bentref) i grwpiau cymunedol ganiatáu i'w hadeiladau gael eu defnyddio gan grwpiau gwleidyddol neu ymgyrchu lleol ond dim ond ar yr un telerau â sefydliadau defnyddwyr anfasnachol eraill. Yn gyffredinol ni ddylai elusennau o'r fath wahaniaethu rhwng sefydliadau ar sail y safbwyntiau a arddelir. Er bod defnydd o'r fath wedi'i ganiatáu er hyrwyddo diben yr elusen, nid yw'n cael ei ystyried yn weithgaredd gwleidyddol gan yr elusen.
Hurio adeiladau: Er mwyn codi arian, gall elusennau lleol o bob math ganiatáu i sefydliadau anelusennol ddefnyddio eu hadeiladau ar delerau masnachol pan nad yw'r adeiladau yn cael eu defnyddio at ddibenion elusennol yr elusen. Gallai hyn gynnwys grwpiau ymgyrchu a gwleidyddol lleol, ymgeiswyr ar gyfer etholiad, ac Aelodau Seneddol lleol neu gynghorwyr sy'n dymuno cynnal cymorthfeydd gyda'u hetholwyr. Unwaith eto, nid yw'r hurio yn cael ei ystyried yn weithgaredd gwleidyddol gan yr elusen.
Gwrthod sefydliadau anaddas: Gall elusen wrthod caniatáu i sefydliad neu unigolyn arbennig ddefnyddio ei hadeiladau oherwydd byddai nodau'r sefydliad neu weithgareddau unigolyn yn gwrthdaro â dibenion yr elusen, neu oherwydd y perygl o anrhefn gyhoeddus neu ddieithrio buddiolwyr neu gefnogwyr yr elusen (er enghraifft, sefydliad oedd yn gysylltiedig â chredoau hiliol).
Cyfarfodydd etholiad: Gall fod yn ofynnol i ymddiriedolwyr rhai elusennau lleol (ysgolion yn bennaf) ganiatáu i ymgeiswyr etholiad ddefnyddio adeiladau eu helusen ar gyfer cynnal cyfarfodydd etholiad yn rhad ac am ddim o dan Ddeddf Cynrychioli'r Bobl 1983. Rydym wedi cyhoeddi canllaw ar wahân y gall elusennau ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod rhwng cyhoeddi etholiad, a dyddiad cynnal yr etholiad.
Gwybodaeth bellach
Rydym wrthi'n gweithio ar ganllaw ar wahân sy'n amlinellu goblygiadau a darpariaethau'r gyfraith etholiadol i elusennau. Bydd y canllaw hwn ar gael ar ein gwefan.
Yr ateb byr
Gall - gall elusen gydweithio â sefydliadau eraill i hyrwyddo neu gefnogi ei dibenion elusennol ei hun. Mae rhai risgiau yn hyn o beth, ac mae'n rhaid i ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol o'r risgiau a'u rheoli.
Yn fwy manwl
Clymbleidiau lobïo: Mae elusennau yn rhydd i ffurfio clymbleidiau, cynghreiriau a chonsortia at ddiben lobïo Aelodau Seneddol a'r llywodraeth i newid y gyfraith. Nid yw'n realistig i ddisgwyl y bydd popeth a wna cynghrair ymgyrchu, yn enwedig os oes aelodaeth fawr ganddo, yn cyfateb â phob un o ddibenion elusennol ei haelodau ac felly mae rhai ystyriaethau pwysig.
Enghreifftiau: Roedd clymblaid o elusennau anabledd wedi lobïo dros gyflwyno hawliau a mesurau diogelu newydd i bobl anabl yn Neddfau Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a 2006.
Roedd nifer o elusennau a sefydlwyd i frwydro tlodi wedi ymuno â'r glymblaid ymgyrchu, "Rhown Derfyn ar Dlodi". Heb ystyried unrhyw newidiadau i bolisi'r llywodraeth, mae'r ymgyrch wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth ac ennyn cefnogaeth boblogaidd dros y syniad y dylai fod ymgais fwy strategol a mwy proffil uchel i ddiddymu tlodi.
Ffactorau i'w hystyried: Dylai elusen sy'n dymuno cymryd rhan mewn cynghrair o'r fath ystyried:
Hefyd, gall fod adegau pan nad yw elusen yn gallu cefnogi cynghrair ar fater arbennig, ond nid yw eisiau niweidio ei pherthynas â'r gynghrair. Yn yr achos hwn, bydd angen i'r elusen ystyried y ffordd orau o reoli'r risg.
Gweithio gyda sefydliadau anelusennol: Gall fod rhai materion sy'n creu diddordeb a chefnogaeth ymysg amrywiaeth o gyrff gwahanol, ac nid yw pob un ohonynt yn elusennol. Weithiau bydd cynghreiriau yn cynnwys cynrychiolwyr o nifer o elusennau, sefydliadau anelusennol, unigolion ac efallai cynrychiolwyr plaid wleidyddol. Yn yr amgylchiadau hyn, mae'r ystyriaethau a nodir uchod hefyd yn gymwys.
Colli cronfeydd: Rhaid i elusen sy'n cydweithio â sefydliadau eraill ochel rhag y posibilrwydd o 'golli' ei chronfeydd elusennol - sy'n golygu na all arian y mae wedi'i gyfrannu at glymblaid neu gynghrair gael ei wario ar ddibenion heblaw dibenion yr elusen.
Yr ateb byr
Gall - mae'r sefyllfa sylfaenol yr un fath i elusennau, ble bynnag y maent yn gweithio. Mae ffactorau ychwanegol y bydd angen i ymddiriedolwyr feddwl amdanynt pan fyddant yn ystyried ymgyrchu ac ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol dramor.
Yn fwy manwl
Mewn amgylchiadau lle mae elusen yn gweithio'n rhyngwladol, ac yn ceisio hybu unrhyw newid mewn deddfwriaeth neu bolisi cyhoeddus, rhaid bodloni ei hun y bydd newid o'r fath yn cyfrannu at ei diben elusennol. Yn yr un modd â newidiadau i gyfraith y DU, ni all ymgyrchu dros newid i ddeddfwriaeth arbennig fod yn ddiben elusennol ynddo'i hun.
Yn dibynnu ar eu dibenion elusennol, bydd rhai mathau o elusennau yn fwy tebygol o ymgyrchu neu ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol dramor, er enghraifft elusennau sy'n atal neu'n lleddfu tlodi, hyrwyddo crefydd, neu'n hyrwyddo hawliau dynol. Mewn rhai achosion, gall fod angen arbennig i ystyried y rhyngwyneb rhwng cyfreithiau domestig, tramor a rhyngwladol. Mae hwn yn faes a gaiff ei ystyried ymhellach, wrth i'r Comisiwn baratoi canllawiau atodol ar fudd cyhoeddus, a phan fydd yn diweddaru ei ganllaw Elusennau sy'n gweithio'n rhyngwladol.
Enghraifft: Mae sefydliad a ffurfiwyd i warchod yr amgylchedd yn lansio ymgyrch i geisio darbwyllo Llywodraeth gwlad dramor i gynyddu ei chyfyngiadau ar dorri coed oherwydd pryder am effeithiau datgoedwigo. Mae hwn yn weithgaredd gwleidyddol derbyniol i'r elusen oherwydd ei fod yn cefnogi ei diben elusennol.
Enghraifft: Mae sefydliad yn cael ei ffurfio'n bennaf i ymgyrchu yn erbyn defnyddio'r gost eithaf am odineb mewn rhai gwledydd. Ni all y sefydliad hwn fod yn elusen y DU, oherwydd ni all unrhyw lys yn y DU fod yn gymwys i wneud penderfyniad ar y budd cyhoeddus y bydd yn ei ddarparu. Fodd bynnag, byddai elusen sy'n gweithio'n fwy cyffredinol ym maes hawliau dynol yn gallu ymgymryd ag ymgyrch o'r fath, yn amodol ar yr ystyriaethau arferol, ac ochr yn ochr â gweithgareddau ehangach sydd wedi'u hanelu at wella'r sefyllfa mewn gwledydd o'r fath.
Gwybodaeth bellach
Mae ein canllaw Elusennau sy'n gweithio'n rhyngwladol, yn amlinellu'r gofynion cyfreithiol penodol ac arferion da cymeradwy i elusennau sy'n gweithio'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn rhyngwladol neu dramor.
Yr ateb byr
Gall - mewn egwyddor gall elusen drefnu gwahanol fathau o weithredu uniongyrchol i gefnogi gweithgaredd ymgyrchu elusennol. Mae gofynion cyfreithiol yn gymwys, a gall fod risgiau arbennig hefyd y mae angen i'r ymddiriedolwyr eu hystyried wrth wneud hynny.
Yn fwy manwl
Gall elusennau, fel rhan o ymgyrch, ddymuno trefnu, hyrwyddo neu gymryd rhan mewn rhyw fath o wrthdystiad neu weithredu uniongyrchol. Gallai hyn gynnwys darparu gwybodaeth mewn lle cyhoeddus, megis dosbarthu taflenni er mwyn codi ymwybyddiaeth. Yn yr achos hwn, bydd y canllawiau ar ddefnyddio deunyddiau ymgyrchu a nodir yn adran E3 yn gymwys.
Rhaid ystyried hyn ymhellach os yw elusen yn dymuno cymryd rhan mewn digwyddiad ac yn gwneud mwy na darparu gwybodaeth. Gallai digwyddiadau o'r fath gynnwys cymryd rhan mewn gorymdeithiau, ralïau, neu bicedu heddychlon. Gallai cyfranogiad o'r fath gynnig cyfleoedd sylweddol i roi cyhoeddusrwydd i farn yr elusen ar y mater, a hyrwyddo ei dibenion, neu ddangos i ba raddau y mae'r cyhoedd yn cefnogi'r mater. Bydd y Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 yn berthnasol i elusennau sy'n ymgymryd â gweithgareddau o'r fath.
Y risgiau: Yn yr un modd, bydd angen i elusen gydbwyso'r manteision posibl hyn yn erbyn unrhyw risgiau posibl sy'n codi drwy gymryd rhan yn y digwyddiad. Er enghraifft, bydd bob amser rhai pobl sy'n ystyried unrhyw gyfranogiad gan elusen mewn digwyddiadau o'r fath yn amhriodol. Gallai'r farn hon achosi risgiau i enw da'r elusen. Felly, ar y cychwyn mae'n bwysig asesu tebygolrwydd a graddfa unrhyw berygl o niweidio cefnogaeth gyhoeddus i'r elusen.
Trefn gyhoeddus: Gall digwyddiadau fel gwrthdystiadau a ralïau hefyd greu problemau rheoli i'r elusen, oherwydd cymhlethdodau deddfwriaeth trefn gyhoeddus. Mae natur gwrthdystiadau cyhoeddus yn golygu bod mwy o risg o droseddu gan gynrychiolwyr yr elusen, neu eraill sy'n cymryd rhan, o'i gymharu â gweithgareddau ymgyrchu eraill. Am y rheswm hwn dylai'r elusen ystyried yn ofalus pa gamau y gall eu cymryd i leihau neu leddfu'r perygl o'r troseddau hyn, er enghraifft trwy baratoi'n ofalus a chydweithredu da â'r heddlu neu awdurdodau eraill.
Cydweithio â sefydliadau eraill: Dylai elusennau sy'n cymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n cynnwys nifer o sefydliadau ystyried a rheoli'r risgiau o gymryd rhan gyda sefydliadau sydd heb yr un amcanion â threfnwyr y digwyddiad. Hefyd, dylai elusen geisio sicrhau bod unrhyw ddigwyddiad o dan reolaeth lawn y trefnydd (os yw'r elusen ei hun yn trefnu'r digwyddiad neu beidio) ac yn heddychlon.
Yr ateb byr
Gall - gall elusen drefnu deiseb i gefnogi ei gweithgaredd ymgyrchu elusennol. Mae rhai gofynion cyfreithiol ac arfer da y mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr eu hystyried cyn gwneud hynny.
Yn fwy manwl
Gall elusen drefnu a chyflwyno deiseb i un o'r Tai Seneddol, Cynulliad Cymru neu unrhyw gorff llywodraeth genedlaethol neu leol. Dylai'r ddeiseb, neu'r deunydd atodol a ddarperir gan yr elusen, egluro beth yw diben y ddeiseb, er mwyn i'r unigolion hynny sy'n ystyried ei chefnogi wybod beth y maent yn ei arwyddo. Bydd y Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 yn berthnasol i elusennau sy'n ymgymryd â gweithgareddau o'r fath.
Dylai'r elusen allu dangos hefyd, ar gais, fod modd profi dilysrwydd y ddeiseb.
Mae'r adran fer hon yn sôn am yr hyn sy'n digwydd pan fydd elusen, am ba bynnag rheswm, yn ymwneud ag ymgyrchu neu weithgareddau gwleidyddol nad ydynt efallai'n cyd-fynd â'i statws elusennol. Dylem bwysleisio bod problemau difrifol yn anghyffredin, ac fel arfer ymdrinnir â'r rhan fwyaf o broblemau yn anffurfiol. Ni ddylai fod gan ymddiriedolwyr sydd wedi ystyried y canllawiau hyn, ac sydd wedi gweithredu mewn ewyllys da, lawer i'w boeni amdano.
Yr ateb byr
Mae gweithdrefnau teg ac agored gennym ar gyfer gwerthuso a delio â'r holl gwynion a dderbynnir am elusennau, gan gynnwys cwynion am ymgyrchoedd. Os yw achwynwyr dim ond yn anghytuno â safle ymgyrchu neu wleidyddol yr elusen, ni fyddwn yn ymyrryd fel rheol. Fel y rheolydd elusennau, ein prif bryder yw bod elusennau yn gweithredu o fewn eu dibenion elusennol eu hunain bob amser.
Yn fwy manwl
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf dim ond ychydig iawn o gwynion sydd wedi cael eu cynnal yn erbyn elusennau cofrestredig am ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol.
Ymgyrchoedd dadleuol: Mae ymgyrchoedd yn ddadleuol yn aml ac rydym yn ymwybodol bod aelodau'r cyhoedd weithiau'n cwyno i ni am ymgyrch elusen dim ond oherwydd eu bod yn anghytuno â'r safbwynt y mae'r elusen wedi'i mabwysiadu. Bydd rhai pobl yn cwyno na ddylai'r elusen ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol o gwbl; bydd eraill yn cwyno am dôn neu gywirdeb yr hyn y mae'r elusen wedi'i ddweud, neu fod yr elusen ei hun yn dwyn anfri ar ei hun trwy ymwneud ag ymgyrch dadleuol.
Rheolyddion eraill: Byddwn yn cyfeirio rhai achwynwyr at reolydd arall, yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, er enghraifft, neu'r Swyddfa Gyfathrebiadau (Ofcom).
Ein pryderon: Yn ymarferol, yr achosion sy'n debygol o fod o fwyaf o bryder i ni yw'r rhai lle mae'n ymddangos nad yw'r ymgyrch wedi'i gysylltu'n ddigonol â dibenion yr elusen. Byddwn yn bryderus iawn mewn achosion lle mae'n ymddangos bod yr ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu diben gwleidyddol ar gyfer yr elusen, boed yn fwriadol neu ar gam.
Gwybodaeth bellach
(Gweler ein canllaw Cwynion am Elusennau (CC47) am ragor o fanylion.)
Yr ateb byr
Os yw'n ymddangos bod elusen, boed yn fwriadol neu ar gam, yn ymgymryd â gweithgaredd ymgyrchu nad yw wedi'i gysylltu'n ddigonol â'i diben, byddwn yn ystyried hyn. Yn gyffredinol byddwn yn ceisio datrys sefyllfaoedd o'r fath yn anffurfiol, ond mae'n bosibl y bydd angen i ni gymryd camau rheoleiddiol os yw adnoddau'r elusen wedi cael eu camddefnyddio neu mewn achos o gamymddwyn.
Yn fwy manwl
Gweithredu rheoleiddiol: Os yw elusen, am ba bynnag rheswm, yn ymgyrchu ac yn ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol sy'n groes i ofynion cyfreithiol neu reoleiddiol, mae camau gwahanol ar gael i ni. Bydd unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos, graddfa a natur y gweithgaredd dan sylw, ac i ba raddau y mae'r elusen wedi ceisio cydymffurfio â'r canllawiau hyn.
Yr atebion posibl: Os yw cwyn wedi'i chyfiawnhau, mae ystod eang o fesurau adferol ar gael i ni. Yn ymarferol, rydym yn debygol o roi cyngor cadarn ar gyfer y dyfodol fel yr ymateb mwyaf priodol a chyfatebol, yn hytrach na defnyddio unrhyw un o'r pwerau adferol. Rydym yn fwy tebygol o fabwysiadu ymagwedd hyblyg os yw ymddiriedolwyr wedi gweithredu'n groes i'r gyfraith yn anfwriadol, ac maen nhw - yn ein barn ni - wedi gweithredu mewn ewyllys da. Fodd bynnag, os yw'r ymddiriedolwyr wedi camddefnyddio cronfeydd elusennol sylweddol yn fwriadol ar weithgareddau gwleidyddol amhriodol, maent yn atebol i wneud iawn am y golled i'r elusen.
Dileu elusennau o'r gofrestr: Mewn achosion eithriadol, gallwn ddileu sefydliad o'r gofrestr os yw'n glir y cafodd ei ffurfio ar gyfer diben gwleidyddol yn hytrach na diben elusennol.
Enghraifft: Roedd elusen gydag amcanion i baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd wedi noddi hysbyseb papur newydd ar wrthdystiad gwrthryfel. Roedd hwn yn dor-ymddiriedaeth yn ein barn ni, oherwydd roedd y cysylltiad rhwng yr hysbyseb a diben yr elusen yn rhy bell. Derbyniodd yr ymddiriedolwyr hyn ac, yn amodol ar rai ymrwymiadau, nid oeddem wedi cymryd unrhyw gamau rheoleiddiol pellach.
Canllawiau'r Comisiwn Elusennau
Rhai ffynonellau eraill o wybodaeth a chyngor
Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol
1. Beth yw amcan(ion) yr ymgyrch?
2. Sut byddai'r ymgyrch neu'r gweithgareddau gwleidyddol yn hyrwyddo neu'n cefnogi dibenion yr elusen?
3. Ydy unrhyw amcanion yr ymgyrch y tu allan i ddibenion yr elusen?
4. Ydy unrhyw weithgareddau yn blaid wleidyddol?
5. Pa mor debygol yw hi y byddai'r ymgyrch yn cyflawni ei amcan(ion)?
6. Ydy'r holl ddeunydd ymgyrchu yn gywir yn ffeithiol?
7. Pa dystiolaeth sydd i gefnogi'r atebion i gwestiynau 2-5 (ee, ymgynghori â buddiolwyr, sail dystiolaeth gredadwy)?
8a. Pa weithgareddau eraill allai'r elusen ymgymryd â nhw a fyddai'n cyflawni'r un amcanion?
8b. Ym mha ffyrdd y byddai'r gweithgareddau eraill hyn yn fwy neu'n llai effeithiol nag ymgyrchu?
9a. Beth fyddai hyd a chost ariannol yr ymgyrch?
9b. Fyddai ymgyrchu yn unig weithgaredd yr elusen, ac os felly, am ba gyfnod?
10a. Fyddai'r ymgyrch yn cael ei chyflawni mewn partneriaeth â sefydliadau eraill?
10b. Os felly, sut byddai trefniadau ariannol a phartneriaeth yn cael eu rheoli?
11a. Pa risgiau fyddai'r elusen yn eu hwynebu wrth ymgymryd â'r ymgyrch?
11b. Sut gellid lleihau'r risgiau hyn?
12. Sut byddai'r elusen yn monitro ac yn gwerthuso effeithiolrwydd yr ymgyrch?