Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Awst 2009)
Y Comisiwn Elusennau yw'r rheolydd annibynnol ar gyfer gweithgarwch elusennol. Nod y gwaith ymchwil hwn oedd asesu i ba raddau yr oedd rhai o'r ymddiriedolaethau a sefydliadau mwyaf yng Nghymru a Lloegr yn mabwysiadu ymagwedd strategol weithredol at eu buddsoddiadau a chyflawni eu hamcanion (gan gynnwys rhoi grantiau), ac archwilio'r berthynas rhwng y ddau o fewn cyd-destun y dirywiad economaidd.
Gallwch weld fersiwn lliw argraffedig o'r cyhoeddiad hwn hefyd: Sylfeini Cadarn: Braslun o sut y mae ymddiriedolaethau a sefydliadau yn ymateb i'r dirywiad economaidd yn 2009 (fformat PDF 185kb)
Yn Nhachwedd 2009, cynhaliwyd seminar ar y cyd gan y Comisiwn Elusennau a Chymdeithas y Sefydliadau Elusennol gyda grŵp allweddol o arweinwyr o'r sector ymddiriedolaethau a sefydliadau i drafod y gwaith ymchwil. Cewch weld crynodeb o'r drafodaeth honno yma.
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu a'n galluogi i gyhoeddi'r adroddiad ymchwil hwn, yn enwedig yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau a roddodd o'u hamser i gael eu cyfweld.
Diolch yn arbennig i Dr Diana Leat, yr ymgynghorydd a gomisiynwyd i ymgymryd â'r gwaith ymchwil hwn, ac mae ei hadroddiad cychwynnol o'r casgliadau yn ffurfio prif gynnwys y cyhoeddiad hwn.
Mae ymddiriedolaethau a sefydliadau yn chwarae rôl unigryw a gwerthfawr iawn yn y gymdeithas sydd ohoni. Mae gan nifer ohonynt hanes hir, ac yn dyddio'n ôl i oes Fictoria - amser o newid mawr, angen eithafol a chymhelliad dyngarol cryf. Heddiw mae eu cyfraniad i'r sector elusennol ehangach yn allweddol, ac mae eu rôl a'u dylanwad ar yr adeg hon o ddirywiad economaidd yn hanfodol.
Mae'r adroddiad yn ceisio rhoi braslun o brofiadau ymddiriedolaethau a sefydliadau wrth iddynt wynebu'r dyfodol. Mae gan nifer ohonynt gyllid mwy cadarn na mathau eraill o elusennau, megis y rhai sy'n darparu gwasanaethau. Mae'r incwm sy'n deillio o fuddsoddiadau yn yr 'adegau ffyniannus' wedi eu gwasanaethu'n arbennig o dda ac mae rhai yn dechrau gwario o'r gronfa hon heb orfod torri'n ddwfn i'w sylfaen cyfalaf.
Fodd bynnag, roedd yr holl ymddiriedolaethau a sefydliadau a gafodd eu cyfweld ar gyfer yr ymchwil hwn yn glir bod y sefyllfa gyfredol yn gofyn am ymateb gwahanol. Yn debyg i nifer o gyllidwyr eraill, mae'r ymddiriedolaethau a sefydliadau hyn yn cynyddu eu harolygiaeth o ba mor effeithiol y caiff eu harian ei ddefnyddio gan yr elusennau sy'n ei dderbyn. Hefyd mae'n ymddangos eu bod yn fwy effro i'r risgiau, gyda'r mwyafrif helaeth o'r rhai a gafodd eu cyfweld yn dweud wrthym eu bod yn archwilio hyfywedd ariannol sefydliadau sy'n gwneud cais am gronfeydd yn fwy manwl erbyn hyn.
Yr hyn sy'n glir o'r adroddiad hwn yw bod yr ymddiriedolaethau a sefydliadau a gafodd eu cyfweld wedi gweld y dirywiad yn dod, ymwybyddiaeth naturiol efallai gan fod eu prif ffrwd incwm yn seiliedig ar fuddsoddiad. Mae eu hymagwedd sy'n hanesyddol ofalus at reoli buddsoddiadau hefyd fel petai wedi eu gwasanaethu'n dda, gan sicrhau bod y rhan fwyaf ohonynt wedi neilltuo amser a sicrhau'r gallu i ymateb i newidiadau sydyn yn yr economi.
Mae hyn yn newyddion da i'r miloedd o elusennau sy'n dibynnu ar ymddiriedolaethau a sefydliadau ar gyfer cronfeydd ac ar gyfer eu miliynau o fuddiolwyr. Eto i gyd mae llawer yn dibynnu ar barhad y dirywiad cyfredol. Er y cafodd awydd clir ei fynegi ar ran ymddiriedolaethau a sefydliadau i warchod yr elusennau y maent yn eu cyllido rhag unrhyw ostyngiad mewn incwm y gallant fod yn eu hwynebu eu hunain, ni welodd yr adroddiad dystiolaeth o unrhyw ymrwymiad clir i gyllid gwrth-gylchol. Mae'n bosibl na fydd profiadau llawn ymddiriedolaethau a sefydliadau o'r dirywiad, a'r effeithiau cynyddol, i'w gweld tan y flwyddyn nesaf neu du hwnt.
Yn y cyfamser, bydd casgliadau'r adroddiad hwn yn annog ymddiriedolaethau a sefydliadau i ystyried y ffordd orau o gynnal eu sefydlogrwydd cymharol ar hyn o bryd yn y blynyddoedd i ddod.
|
Y Fonesig Suzi Leather |
Andrew Hind |
Pwrpas y gwaith ymchwil
Comisiynodd y Comisiwn Elusennau y gwaith ymchwil hwn yng Ngwanwyn 2009. Pwrpas y gwaith ymchwil oedd asesu i ba raddau yr oedd rhai o'r ymddiriedolaethau a sefydliadau mwyaf yn mabwysiadu ymagwedd strategol weithredol at eu buddsoddiadau a chyflawni eu hamcanion (gan gynnwys rhoi grantiau), ac archwilio'r berthynas rhwng y ddau o fewn cyd-destun y dirywiad economaidd.
Yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau a gafodd eu cyfweld
Roedd yr ymchwil yn ansoddol ei natur. Yn Ebrill 2009, cynhaliwyd cyfweliadau manwl gydag un deg naw ymddiriedolaeth a sefydliad rhoi grantiau yn bennaf (gan gynnwys y Gronfa Loteri Fawr sydd wedi cael ei chategoreiddio, er hwylustod, fel ymddiriedolaeth neu sefydliad at ddiben y gwaith ymchwil hwn).
Er bod y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau a sefydliadau yn fach, roedd y cyfweliadau ar gyfer y gwaith ymchwil hwn yn canolbwyntio ar y rhoddwyr grantiau mwyaf o ran gwariant grantiau, ond roedd hefyd yn cynnwys un ymddiriedolaeth/sefydliad llai heb ei leoli yn Llundain, un ymddiriedolaeth/sefydliad cymunedol ac un ymddiriedolaeth/sefydliad corfforaethol llai. Mae nodweddion yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau a gafodd eu cyfweld o ran ffynhonnell incwm, maint sylfaen asedau a maint gwariant wedi'u nodi yn Atodiad A.
Fel mewn gwledydd eraill, mae asedau ac incwm y sector ymddiriedolaethau a sefydliadau yng Nghymru a Lloegr wedi'u dosbarthu'n anwastad iawn gyda nifer fach iawn o ymddiriedolaethau a sefydliadau yn derbyn y rhan fwyaf o asedau ac incwm. Mae'r astudiaeth hon wedi canolbwyntio'n fwriadol ar yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau mwyaf hynny y mae eu gwariant yn ffurfio'r mwyafrif o gyfanswm cyfraniad (o ran gwariant grantiau) y sector ymddiriedolaethau a sefydliadau, ac felly mae eu hymdriniaeth a'u heffaith ar draws y sector elusennol yn helaeth.
Mae'r gwaith ymchwil yn rhoi braslun o ymddiriedolaethau a sefydliadau yn Ebrill 2009. Fel y trafodir y nes ymlaen yn yr adroddiad hwn, am amryw o resymau, mae'n bosibl y bydd gallu ymddiriedolaethau a sefydliadau yn newid yn y misoedd i ddod.
Amcangyfrifir bod 8,800 o ymddiriedolaethau a sefydliadau yn y DU sy'n rhoi grantiau ac yn gweithredu rhaglenni ar draws ystod o weithgareddau elusennol. Mae nifer ohonynt yn fach eu natur a'u hincwm. Fodd bynnag, mae'r 500 rhoddwr grantiau mwyaf yn ddylanwadol, gan wario tua £2.7 biliwn (fel ar 2006) y flwyddyn, ac yn darparu tua 10% o incwm y sector elusennol.
Mae ymddiriedolaethau a sefydliadau yn chwarae rôl wahanol mewn meysydd gwahanol. Mewn ymchwil meddygol, er enghraifft, ceir chwaraewyr mawr; ym maes iechyd a lles cymdeithasol, yn nhermau ariannol, ceir chwaraewyr gweddol fach. Boed yn chwaraewyr mawr neu fach, mae ymddiriedolaethau a sefydliadau yn cael eu hystyried yn bwysig yn gyffredinol o ran darparu cyfalaf risg, ymchwil a datblygiad.
Mae ymddiriedolaethau a sefydliadau gwaddoledig yn cael rhwydd hynt i gefnogi'r grwpiau a'r achosion nad ydynt yn cael cefnogaeth boblogaidd a gwleidyddol. Gall ymddiriedolaethau a sefydliadau gefnogi syniadau a gweithgareddau sy'n wirioneddol arloesol ac felly sydd â risg uchel o fethu. Gall ymddiriedolaethau a sefydliadau gefnogi'r gweithgareddau newydd gyda mwy o risg - sef y pethau y mae newid ac arloesi yn deillio ohonynt yn aml iawn. Ar adeg pan fydd pwyslais cynyddol ar bwysigrwydd contractau penodedig tynn a chanlyniadau mesuradwy, mae rhai yn dadlau na fu ymddiriedolaethau a sefydliadau erioed mor bwysig. Felly mae iechyd ymddiriedolaethau a sefydliadau yn fater o bryder nid yn unig i'r sector gwirfoddol ond i'r gymdeithas gyfan.
Fel arfer, ond nid o reidrwydd, bydd ymddiriedolaethau a sefydliadau yn dibynnu ar incwm o waddol a fuddsoddwyd yn y marchnadoedd ariannol. Mae hyd yn oed yr ymddiriedolaethau a sefydliadau hynny sy'n codi arian o'r cyhoedd neu gan fusnes, a heb waddol, yn dibynnu'n aml ar incwm o fuddsoddi'r cronfeydd hynny ar gyfer eu costau cynnal. Mae ymddiriedolaethau a sefydliadau corfforaethol, heb unrhyw waddol, sy'n dibynnu ar ddyraniad blynyddol gan gwmni, hefyd yn cael eu heffeithio gan berfformiad ariannol y cwmni hwnnw gan fod dyraniadau o'r fath yn cael eu cyfrifo mewn perthynas ag elw cwmni fel arfer.
Pan fydd yr economi ehangach a'r marchnadoedd ariannol yn dioddef, mae'n rhesymol i dybio y bydd ymddiriedolaethau a sefydliadau yn dioddef hefyd - ar yr union adeg pan fydd angen eu cefnogaeth fwyaf. Er gwaetha'r dybiaeth hon, fodd bynnag, y realiti yw na wyddom effeithiau'r dirywiad cyfredol ar y sector ymddiriedolaethau a sefydliadau, a'r sector gwirfoddol ehangach, yn awr ac yn y tymor canolig.
Mae effeithiau dirywiad economaidd ar ymddiriedolaethau a sefydliadau a'r effeithiau ar y sector gwirfoddol ehangach, trwy roi grantiau, yn ddau fater ar wahân. Gall ymddiriedolaethau a sefydliadau ddioddef neu beidio (oherwydd eu ffynonellau incwm a pholisïau buddsoddi), ond nid yw'n dilyn o reidrwydd y bydd yr effeithiau hyn yn cael eu hadlewyrchu, o leiaf yn y tymor byr, yn lefelau rhoi grantiau i'r sector ehangach. Nodir data sy'n bod a phrofiad o ddirywiadau blaenorol yn Atodiad B.
- ystyried, lle y maent yn tueddu i ddarparu cyllid prosiect yn bennaf, ymagweddau mwy hyblyg at gefnogi elusennau trwy gyllido rhai costau craidd hefyd. Fodd bynnag, ar yr un pryd maent yn glir nad ydynt eisiau i unrhyw gyllido costau craidd effeithio ar eu cymorth ar gyfer cyllido gwaith blaengar gan elusennau;
- dangos ymwybyddiaeth o'r amser caled y mae'r elusennau y maent yn eu cyllido yn ei wynebu, a mynegi'r farn y byddai'n "anghywir i leihau cyllid yn wyneb angen cynyddol"; ar yr un pryd â dangos amharodrwydd i ymrwymo i gyllido gwrth-gylchol sy'n codi o'u hymrwymiad i warchod cronfeydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol;
- dim llawer o frwdfrydedd dros gyllid brys i gefnogi 'sefydliadau sy'n dioddef neu'n methu'. O'r rhai a gafodd eu cyfweld, nid oedd gan unrhyw un ohonynt gynlluniau i greu cronfeydd arbennig ar gyfer elusennau sy'n cael eu heffeithio gan y dirywiad; a
- rhagfynegi nad yw'r effaith ar incwm wedi cael yr effaith lawn eto, a bod yr effaith ar roi grantiau y tu hwnt i 2010 yn ansicr.
Tabl 5.1.1. Effeithiau'r dirywiad ar asedau ers Hydref 2008
| Asedau | Dim newid | Newid | Amherthnasol |
| Nifer yr ymddiriedolaethau a sefydliadau | 4 | 10 | 5 |
O'r deg sefydliad a ddywedodd bod newid yng ngwerth asedau, roedd dau wedi gweld gostyngiad o fwy na 30%; pedwar gostyngiad o 21-30%; ac un gostyngiad o 11-20%; a thri gostyngiad o 10% neu lai.
Tabl 5.1.2. Effeithiau'r dirywiad ar incwm ers Hydref 2008
| % newid | Nifer yr ymddiriedolaethau a sefydliadau sy'n profi gostyngiad mewn incwm | Nifer yr ymddiriedolaethau a sefydliadau sy'n profi cynnydd mewn incwm |
| 0-5% | 8 | 0 |
| 6-10% | 2 | 2 |
| 11-20% | 1 | 2 |
| 21-30 % | 1 | 0 |
| Dros £30% | 3 | 0 |
| Cyfanswm yr ymddiriedolaethau a sefydliadau | 15 | 4 |
Roedd cynnydd mewn incwm i'w briodoli'n bennaf i gynnydd mewn incwm codi arian, neu gynnydd yn y dyraniad gan riant gwmnïau a rhoddwyr.
Tabl 5.1.3. Effeithiau'r dirywiad ar wariant rhoi grantiau yn 2009
| Effeithiau ar roi grantiau | Cynnydd | Gostyngiad | Dim newid/ mân newid |
| Nifer yr ymddiriedolaethau a sefydliadau | 3 | 2 | 14 |
Gan ystyried y ffigurau yn unig, mae'r darlun yn un cymysg o ymddiriedolaethau a sefydliadau sydd wedi gweld gostyngiad mewn gwerth asedau ers Hydref 2008 a rhai y mae eu hasedau wedi cadw eu gwerth, rhai sydd wedi gweld gostyngiad mewn incwm ac eraill gydag incwm sydd wedi cynyddu.
Os ydym yn edrych ar y data ar roi grantiau, mae'n ymddangos bod nifer helaeth o'r ymddiriedolaethau a sefydliadau hyn yn bwriadu cadw rhoi grantiau yn gyson, tra bo eraill yn disgwyl peth gostyngiad neu gynnydd. Yn sail i'r darlun cymysg hwn mae stori fwy cymhleth y mae'r tablau uchod, ac unrhyw ffigurau, yn ei chuddio.
Mae'n rhaid gweld effeithiau gwirioneddol y dirywiad ar asedau, incwm a rhoi grantiau yr ymddiriedolaethau a sefydliadau hyn yng nghyd-destun:
Ymddiriedolaethau a sefydliadau gwaddoledig
Roedd y mwyafrif o ymddiriedolaethau a sefydliadau a gafodd eu cyfweld yn waddoledig ac yn cael incwm o elw buddsoddi ar eu hasedau. Eu prif weithgaredd oedd rhoi grantiau. Fodd bynnag, fel y trafodir ymhellach isod, roedd y rhan fwyaf o'r ymddiriedolaethau a sefydliadau hyn yn gweithredu dull Cyfanswm Elw at wario gan greu perthynas fwy cymhleth rhwng asedau, incwm a gwariant.
Ymddiriedolaethau a sefydliadau corfforaethol
Roedd yr ymddiriedolaethau a sefydliadau corfforaethol mewn sefyllfa ychydig yn wahanol oherwydd roeddent yn dibynnu ar ddyraniad blynyddol gan eu noddwr corfforaethol ar gyfer eu hincwm. Mewn un achos, roedd incwm wedi parhau'n gyson ers Hydref 2008 er gwaethaf anawsterau mewn sefyllfa'r noddwr corfforaethol; mewn achos arall, roedd incwm wedi cynyddu oherwydd bod y noddwr corfforaethol wedi cymryd cwmni arall drosodd ac awydd i gynyddu'r hyn roedd yn ei roi yn unol ag ehangu ei faes busnes a'i broffil uwch.
Ymddiriedolaethau a sefydliadau codi arian
Roedd y ddau sefydliad apêl darlledu a gafodd eu cyfweld heb brofi unrhyw ostyngiad mewn incwm codi arian ers Hydref 2008, ac roedd un wedi gweld cynnydd. Dywedodd y sefydliad cymunedol a gafodd ei gynnwys yn yr astudiaeth fod ei incwm codi arian "yn well na'r hyn roeddem ni wedi'i obeithio; bu rhai colledion o roddwyr corfforaethol ond mae enillion eraill wedi gwneud iawn am hyn."
Y broblem ar gyfer yr ymddiriedolaethau a sefydliadau codi arian oedd eu bod yn dibynnu ar incwm o fuddsoddiadau i dalu costau gweithredu ac mae'r incwm hwn wedi cael ei leihau'n sylweddol. Ar gyfer Comic Relief a BBC Plant mewn Angen y prif gyfyngiad oedd eu haddewid i'r cyhoedd bod pob ceiniog a godwyd o'r cyhoedd yn cael ei roi i'r rhai mewn angen.
Roedd y Gronfa Loteri Fawr hefyd yn dioddef o effeithiau gostyngiad mewn incwm o fuddsoddiadau (tymor byr) i dalu costau gweithredu, ond roedd cynnydd mewn gwerthiannau tocynnau Loteri wedi gwneud iawn am hyn i raddau helaeth.
Rhoddwyr byw
Yn ogystal â'r sefydliad cymunedol ac, mewn ystyr gwahanol, yr ymddiriedolaethau a sefydliadau corfforaethol, roedd gan un grŵp o ymddiriedolaethau a sefydliadau a gafodd eu cynnwys yn yr astudiaeth roddwyr unigol/teulu byw. Er bod y sefydliad cymunedol wedi nodi rhai colledion ac enillion o roddwyr byw, yn y grŵp hwn o ymddiriedolaethau a sefydliadau, mae rhoddwyr "bob amser wedi calibro rhoi ychwanegol yn unol â graddfa'r grantiau yr hoffent eu rhoi ar unrhyw adeg, felly mae'r dirywiad yn ystyriaeth ychwanegol yn hynny o beth."
Byrddau Cyson
Roedd pob un o'r ymddiriedolaethau a sefydliadau a gafodd eu cyfweld wedi treulio llawer o amser mewn cyfarfodydd Bwrdd a phwyllgorau eraill yn trafod effeithiau a goblygiadau’r dirywiad. Defnyddiwyd ymadroddion fel "llawer gormod o amser" ac "oriau di-ri" yn aml iawn.
Roedd ymagweddau cyffredinol Byrddau yn amrywio o ran manylion ond y farn gyffredinol oedd mai "nid dyma'r amser i wneud unrhyw beth radical; nid dyma'r amser i gynhyrfu"; ac "rydym yn dadlau ac yn trafod, ac yn cymryd y camau y gallwn, yn sicrhau bod yr wybodaeth gennym ac yn gwneud penderfyniadau dros dro - aros i weld ble fydd y pwyntiau gwasgu". Roedd "peidio â cholli hyder" yn ymadrodd arall a ddefnyddiwyd yn aml.
Roedd rhai ymddiriedolaethau a sefydliadau yn awgrymu eu bod wedi cael profiadau gwaeth o'r blaen: roedd newidiadau mewn Treth Gorfforaeth Ymlaen Llaw wedi bwrw rhai ymddiriedolaethau a sefydliadau yn galed iawn, yn debyg i'r cwymp dot.com a cholledion buddsodd blaenorol. Roedd yr ymddiriedolaethau a sefydliadau gwaddol parhaol a hynach yn pwysleisio eu bod wedi hen arfer â wynebu ergydion, ac wedi buddsoddi'n eithaf gofalus ar gyfer y tymor hir.
Cynllunio blaenorol
Roedd cynllunio blaenorol hefyd yn ffactor pwysig yn y ffordd yr oedd ymddiriedolaethau a sefydliadau yn ymateb i'r dirywiad cyfredol. Roedd sawl sefydliad wedi ymgymryd ag ymarferion cynllunio ac adolygiadau mawr yn y blynyddoedd diwethaf (weithiau wedi'u hysgogi gan newid Prif Swyddog Gweithredol neu gan ddirywiadau blaenorol mewn incwm) ac, yn y broses, wedi egluro rhai materion ac egwyddorion allweddol yr oeddent yn troi atynt yn awr, ac yn awyddus i'w dilyn.
Roedd adolygiadau wedi egluro maes diddordeb yr ymddiriedolaeth/sefydliad, ei syniadau o 'roi grantiau da' a'i ddull gweithredu. Roedd y penderfyniadau hyn yn ffactor pwysig wrth ystyried unrhyw newidiadau i feysydd rhoi grantiau, maint grantiau a ffyrdd o weithio.
Mae lleihau costau gweithredu yn un ffordd amlwg y gallai ymddiriedolaethau a sefydliadau geisio rhyddhau incwm ar gyfer rhoi grantiau; ond gall lleihau costau gweithredu hefyd gael effeithiau anuniongyrchol pwysig ar ansawdd rhoi grantiau a'r math o gymorth a gynigir i'r rheiny sy'n derbyn grantiau.
Roedd nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau yn y blynyddoedd diwethaf wedi adolygu costau gweithredu a staffio ac roedd rhai wedi gwneud toriadau mawr ar adeg o ostyngiadau blaenorol mewn incwm, neu adeg cymryd drosodd neu uno (ee o riant-gwmni/cwmni cysylltiedig) neu fel rhan o'r adolygiad ehangach sy'n gysylltiedig â diben a gweithgareddau.
Materion staffio
Roedd un ymddiriedolaeth/sefydliad wedi disgrifio ei hun fel un sy'n "ceisio torri costau beth bynnag, heb unrhyw gysylltiad â'r dirywiad", ac roedd un arall yn "edrych yn ofalus ar effeithlonrwydd a phrosiectau sydd heb fod yn hanfodol o ran amser ac y gellir eu gohirio." Roedd un arall yn ceisio torri £100,000 ar gostau staffio a chynnal yn bennaf trwy gymryd mwy o waith gyda'r un nifer o staff: "Fyddwn ni ddim yn cymryd rhan mor weithredol ag o'r blaen ond teimlwn ei fod yn ymarferol."
Fodd bynnag, yn fwy cyffredinol, roedd y rhai a gafodd eu cyfweld yn disgrifio eu sefydliadau fel rhai sy'n ystyried lleihau costau ond, yr un mor bwysig, sy'n ystyried sut i ddyrannu gwariant i gael yr effeithiolrwydd mwyaf a allai gynnwys gwario mwy, nid llai, ar gostau gweithredu - ee dyrannu amser staff ychwanegol ar gyfer gweithio gyda'r rhai sy'n derbyn grantiau neu ar weithgareddau eraill i gynyddu cynaladwyedd prosiectau. Yn ôl un unigolyn: "Ie, wrth gwrs, gallem dorri costau gweithredu ond ni fyddai'n ein gwneud yn fwy effeithiol. Byddai'n ein troi yn fath gwahanol iawn o roddwr grantiau ac nid y math y bydd ymddiriedolwyr eisiau ddychwelyd ato.
Dim ond un ymddiriedolaeth/sefydliad oedd wedi gwneud unrhyw doriadau staff hyd yma. Mewn man arall, gwnaethpwyd toriadau staff fel rhan o adolygiadau blaenorol ac ni ragwelwyd unrhyw ostyngiadau pellach.
Roedd tâl staff yn gysylltiedig yn gyffredinol â'r Mynegai Prisiau Adwerthu (RPI) felly bu 'ychydig' o gynnydd yn unig y mae un unigolyn yn awgrymu ei fod yn 'doriad tâl mewn gwirionedd'. Roedd rhai ymddiriedolaethau a sefydliadau yn gweithredu gyda chytundebau dwy neu dair blynedd hyd yma ac ni fu rhaid iddynt ystyried y mater hwn. Yn achos yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau oedd yn gwario allan roedd ystyriaeth ychwanegol: "Mae'r arian gennym ac oherwydd bod oes cyfyngedig gennym mae'n rhaid i ni weithio i gadw staff da - felly pam byddem yn eu cosbi?"
Roedd yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau oedd yn gwario allan heb gael eu heffeithio'n gyffredinol o ran gwerthoedd asedau oherwydd eu polisïau buddsoddi tymor byr, gofalus iawn, a'u lefelau uchel o hylifedd. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn golygu o reidrwydd bod yr un symiau yn cael eu gwario ar roi grantiau. Ar gyfer yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau hyn (fel ar gyfer rhai eraill) roedd gwario ar roi grantiau yn dibynnu ar sefyllfa rhaglen arbennig, ac ar y strategaeth yr oedd yr ymddiriedolaeth/sefydliad yn ei mabwysiadu yn ei flynyddoedd olaf. Mewn un achos roedd hyn yn golygu bod llai yn cael ei wario ar grantiau y flwyddyn hon - ond nid oedd hyn wedi'i gysylltu â'r dirywiad.
Mae'r ystod eang o wahanol strategaethau buddsoddi yn cael ei amlygu gan yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau a gafodd eu cyfweld. Roedd eu hymagwedd at fuddsoddi yn chwarae rôl hanfodol yn eu hymateb i'r dirywiad mewn o leiaf dwy ffordd gysylltiedig: defnyddio'r dull Cyfanswm Elw, a phatrymau buddsoddi.
Dull Cyfanswm Elw
Roedd y rhan fwyaf o'r ymddiriedolaethau a sefydliadau gwaddoledig a gafodd eu cyfweld wedi mabwysiadu dull Cyfanswm Elw at reoli buddsoddiadau os oedd y dewis hwnnw ar gael ac yn gymwys. Mae hyn yn caniatáu i ymddiriedolwyr reoli buddsoddiadau heb yr angen i ystyried a yw'r elw yn incwm, difidendau, llog neu enillion a cholledion cyfalaf. Fel rheol nid oes modd mabwysiadu dull Cyfanswm Elw mewn perthynas â chronfeydd gwaddol parhaol ond mae'r Comisiwn Elusennau yn gallu caniatáu hyn ar gyfer elusennau yng Nghymru a Lloegr.
Tabl 5.2.4: Defnyddio dull Cyfanswm Elw
| Dull Cyfanswm Elw (DCE) | Defnyddiwyd | Heb ei ddefnyddio | DCA ddim ar gael neu ddim yn gymwys |
| Nifer yr ymddiriedolaethau a sefydliadau | 9 | 1 | 9 |
Gydag un eithriad posibl, roedd ymddiriedolaethau a sefydliadau sy'n mabwysiadu dull Cyfanswm Elw wedi dweud bod hyn yn ddefnyddiol iawn wrth ymateb i'r dirywiad. Fel y dywedodd un unigolyn: "Mae Cyfanswm Elw yn gweithio i osgoi gor-ymateb mewn hawddfyd ac adfyd".
Rhaid gweld effeithiau'r dirywiad ar werth asedau, incwm a rhoi grantiau yng nghyd-destun 'hawddfyd' lawn cymaint ag 'adfyd'. Ar ôl cyfnod o dwf sylweddol mae'r dirywiad wedi cael dwy effaith. Un effaith oedd bod rhai ymddiriedolaethau a sefydliadau yn gweld gwerth eu hasedau yn dychwelyd i'w gwerth cyn y twf, ac roedd rhai yn ystyried y gwerth yn ystod y cyfnod o dwf fel gwerth wedi'i or-chwyddo a heb fod yn gynaliadwy. Yr effaith arall oedd yn y blynyddoedd diwethaf, o ganlyniad i dwf sylweddol, roedd rhai ymddiriedolaethau a sefydliadau wedi penderfynu dechrau gwario peth o'r twf hwnnw a gafodd ei ychwanegu wedyn i'r gronfa 'rhoi grantiau' gan greu cynnydd neu sefyllfa gyson mewn rhoi grantiau er gwaetha'r gostyngiad mewn incwm: "Doedden ni ddim wedi mynd dros ben llestri yn y blynyddoedd da, oherwydd roedd yr elw yn llawer mwy na'r hyn a ddisgwylir. Mae ein polisi buddsoddi yn seiliedig ar bolisi elw real o 6% plws chwyddiant (cyfanswm o tua 8%); gwario ar 4.5% gan adael maint i ddelio â chwyddiant a chynyddu'r portffolio dros amser. Gall hyn ffafrio cenedlaethau'r dyfodol weithiau, felly bydd yr ymddiriedolwyr yn cytuno ar ddifidend arbennig weithiau i'w wario ar roi grantiau".
Addasu polisïau buddsoddi
Roedd ymddiriedolaethau a sefydliadau gyda gwaddol parhaol yn pwysleisio eu bod yn edrych ar fuddsoddiadau yn y tymor hir. Nid dyma'r achos ar gyfer yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau oedd yn gwario allan ar gyfer y ddau sefydliad apêl darlledu oedd yn dibynnu ar eu buddsoddiadau i dalu costau gweithredu yn hytrach na chyllido rhaglenni.
Roedd yr ymddiriedolaethau a sefydliadau sy'n gwario allan a'r sefydliadau apêl darlledu yn poeni mwy am ddiogelu eu hincwm yn y tymor byr gan addasu eu polisïau buddsoddi yn unol â hynny, a phwysleisio diogelwch yn hytrach nag elw a phwysigrwydd hylifedd. Ar gyfer y sefydliadau apêl darlledu, roedd hylifedd hefyd yn bwysig oherwydd eu cylchedau rhoi grantiau a nifer y grantiau sy'n cael eu rhoi.
Dulliau buddsoddi ehangach
Nid oedd polisïau buddsoddi moesegol yn cael eu mabwysiadu'n gyffredinol. Y dull mwyaf tebygol oedd i wahardd un neu ddau fath o fuddsoddiadau (megis buddsoddiadau cysylltiedig â thybaco). Fel arfer roedd diffyg polisi buddsoddi moesegol yn cael ei esbonio o ran gwrthwynebiad ymddiriedolwyr ar sail cyfrifoldeb i sicrhau'r elw mwyaf. Roedd un sefydliad gyda pholisi buddsoddi moesegol datblygedig yn teimlo ei fod wedi dioddef efallai, nid oherwydd ei sylfaen foesegol ond yn hytrach oherwydd ei fod yn agored i gwmnïau canolig a bach; erbyn hyn roedd yn ystyried ymwneud mwy â chwmnïau mawr.
Roedd dulliau buddsoddi cysylltiedig â chenhadaeth - a ddefnyddir yma i gyfeirio at fuddsoddiadau sy'n ceisio hybu amcan elusennol - yn fwy cyffredin na pholisïau buddsoddi moesegol, ond os cawsant eu mabwysiadu cawsant eu cadw ar gyfer rhan fach o'r portffolio fel arfer. Roedd un sefydliad yn awgrymu bod y mathau hyn o fuddsoddiadau wedi perfformio'n well na rhai buddsoddiadau 'marchnad' eraill, gan roi "o leiaf elw o fuddsoddiad os nad elw ar fuddsoddiad. Mae'n ein gorfodi i ail-ystyried beth yn union y mae 'elw marchnad' yn ei olygu".
Cyfnewidfa dramor
Roedd bod yn agored i gyfnewidfeydd arian cyfred tramor yn gweithio er lles yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau hynny oedd wedi buddsoddi'n drwm yn yr Ewro a Doler yr UD. Roedd ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill gyda phortffolios amrywiol byd-eang hefyd wedi elwa mewn ffyrdd amrywiol. Fel y trafodir isod, fodd bynnag, roedd bod yn agored i newidiadau mewn arian cyfred tramor yn broblem i ymddiriedolaethau a sefydliadau oedd yn ymwneud â rhoi grantiau rhyngwladol.
Roedd un sefydliad wedi gwarchod ei hun ('yswirio') yn erbyn bod yn agored i gyfnewidfa dramor - am gost sylweddol - ac roedd dau arall yn ystyried gwneud hyn. Fodd bynnag, roedd rhai yn dadlau er bod hyn yn ddeniadol, roedd yn rhy hwyr yn ôl pob tebyg i fod yn ddefnyddiol. Roedd un ymddiriedolwr wedi awgrymu ymysg yr holl ddyfalu ynghylch yr hyn all neu ni all ddigwydd "nid ein gwaith ni yw mynegi barn ond warchod ein hunain".
Newidiadau i bolisïau buddsoddi
Roedd rhai ymddiriedolaethau a sefydliadau "wedi gweld yr ysgrifen ar y wal" (yn rhannol o ganlyniad i olrhain gwerth asedau dros ddegawdau fel rhan o ddull Cyfanswm Elw) ac wedi newid eu strategaethau buddsoddi.
Roedd sawl ymddiriedolaeth a sefydliad wedi dechrau gwerthu'r asedau hynny y teimlent oedd yn risg uwch yn gynnar iawn. Roedd eraill wedi symud yr asedau hyn o fanciau i arian parod a giltiau. Mewn rhai achosion nid oedd y symudiadau hyn yn cyd-fynd yn hollol â chyngor eu rheolwyr buddsoddi. Yn ddiddorol ddigon, mae un sefydliad yn cyflogi ymgynghorydd annibynnol i esbonio i'r Bwrdd gyngor rheolwyr buddsoddi. "Mae po uchaf y gyfradd, mwyaf y risg yn hen ddywediad ond mae'n wir o hyd", oedd barn nifer o'r rhai a gafodd eu cyfweld.
Roedd y sefydliadau sy'n gwario allan eisoes wedi gwneud y symudiadau hyn ac felly nid oeddent wedi colli llawer iawn, os o gwbl. Roedd eraill yn adrodd am y "lefelau gorau erioed o hylifedd" ac roedd rhai yn bwriadu ail-ymuno â'r farchnad i "fuddsoddi mewn rhai bargeinion". Mewn rhai achosion, roedd lefelau hylifedd yn cael effeithiau pwysig ar eu gallu i gynnal lefelau o roi grantiau (gweler isod).
Dywedodd un sefydliad mai ei athroniaeth oedd bod tri pheth yn dinistrio sefydliad: un ased, gwasgfa hylifedd sy'n arwain at werthu asedau nwyddau am brisiau rhad; a chwyddiant (sy'n gofyn am fuddsoddiad sy'n gallu wynebu hyd yn oed lefelau uchel o chwyddiant).
Roedd ymagweddau at roi grantiau yn y dirywiad yn gysylltiedig â'r farn ar y cydbwysedd sydd i'w gynnal rhwng gwasanaethu anghenion buddiolwyr cyfredol a buddiolwyr y dyfodol. Roedd ymddiriedolaethau a sefydliadau heb fod yn waddoledig yn fwy tebygol o ganolbwyntio ar anghenion buddiolwyr cyfredol. Roedd ymddiriedolaethau a sefydliadau gyda gwaddol parhaol i gyd yn ymwybodol o gyfrifoldeb i fuddiolwyr y dyfodol - ond roedd y ffordd y cafodd hyn ei dehongli yn amrywio yn ymarferol.
Cyllido gwrth-gylchol?
Nid oedd unrhyw un o'r ymddiriedolwyr a sefydliadau a gafodd eu cyfweld yn ymrwymo'n benodol i gyllido gwrth-gylchol er bod sawl un wedi mynegi barn mai eu grŵp cleientiaid/achosion fyddai'n "ei chael hi" a bod hyn yn "amser priodol" i gynnal cyllido hyd yn oed ar draul lleihau'r sylfaen asedau. Awgrymodd un sefydliad: "Mae cyllido gwrth-gylchol yn cael ei adlewyrchu wrth dynnu'r cronfeydd wrth gefni i lawr". Er nad oedd tystiolaeth glir o ymrwymiad i gyllido gwrth-gylchol ar hyn o bryd, mynegwyd awydd clir ar ran ymddiriedolaethau a sefydliadau i warchod yr elusennau y maent yn eu cyllido rhag unrhyw ostyngiad mewn incwm y maent efallai yn ei wynebu eu hunain.
Dywedodd un ymddiriedolaeth/sefydliad ei fod yn cynnal grantiau ar lefelau blaenorol, er y byddai hynny'n golygu defnyddio cyfalaf er mwyn "cynnal ffydd ac ymddiriedaeth y rhai sy'n derbyn grantiau" yr oedd ganddynt berthynas hir-sefydledig â nhw; dywedodd un arall y byddai'n anghywir i leihau gwariant yn wyneb angen cynyddol. Roedd eraill wedi mynegi'r farn y byddai lleihau cyfalaf yn dor-ymddiriedaeth. Roedd sawl sefydliad yn gwahaniaethu rhwng cyfrifoldeb i warchod y gwaddol a cheisio cynyddu'r gwaddol: "does dim byd elusennol ynghylch gweithio i gynyddu'r gwaddol".
Gwario y tu hwnt i elw cyfredol
Roedd amrywiadau yn raddfa'r amharodrwydd i ddefnyddio cyfalaf (sy'n wahanol i wario'r enillion incwm o gyfalaf). Bydd rhai yn gwneud hynny'n rhwydd, bydd eraill eisiau mynd yn arafach, mae rhai yn hyderus iawn y bydd cyfalaf yn adfer yn weddol gyflym. Ar gyfer y rhai gyda gwaddol gwariadwy, roedd lleihau gwerth asedau yn amlwg yn sefyllfa haws iddynt nhw na'r rhai gyda gwaddol parhaol, oherwydd byddai angen caniatâd y Comisiwn i wario gwaddol parhaol.
Roedd parodrwydd i wario y tu hwnt i elw cyfredol hefyd yn gysylltiedig ag ymrwymiadau grant yn y dyfodol ac argaeledd arian parod. Roedd argaeledd arian parod yn golygu bod "gwario'r gwaddol, ond nid asedau wedi'u hamharu, yn gwneud ymddiriedolwyr yn fwy parod i wario". Roedd barn hefyd "os nad yw arian yn ennill llawer iawn man a man i chi ei wario". I'r rhai heb arian parod i'w wario, roedd rhai ystyriaethau mwy ymarferol hefyd yn ymwneud â gwerthu ar waelod y farchnad a lleihau incwm ymhellach.
Roedd un sefydliad wedi cymryd £50 miliwn yn wreiddiol i brynu ar waelod y farchnad ond roedd yn teimlo'n ansicr ynghylch buddsoddi ar hyn o bryd ac felly roedd wedi penderfynu defnyddio peth o'r arian ar gyfer rhoi grantiau yn lle hynny.
Yn gyffredinol, ar gyfer ymddiriedolaethau a sefydliadau gwaddoledig, nid oedd gwario y tu hwnt i enillion, ar hyn o bryd, yn cael ei ystyried yn fater pwysig, ond roedd y rhan fwyaf wedi nodi y byddai'r farn hon yn newid pe byddai'n parhau dros sawl blwyddyn. Mae gan y rhan fwyaf o ymddiriedolaethau a sefydliadau gwaddoledig werth gofynnol neu ddewisedig ac ni fyddant yn caniatáu i'w cyfalaf ddisgyn yn is na hyn.
Os yw'r dirywiad yn parhau neu'n gwaethygu, byddai'n rhaid i rai ymddiriedolaethau a sefydliadau leihau gwariant er mwyn cadw gwerth eu cyfalaf.
Y broblem ar gyfer sefydliadau sy'n codi arian
Fel y nodwyd uchod, ar gyfer dwy o'r ymddiriedolaethau a sefydliadau codi arian, nid y mater allweddol oedd parhad neu gydbwyso anghenion eu buddiolwyr cyfredol a'u darpar fuddiolwyr ond yn hytrach sut i dalu costau gweithredu o lai o incwm llog. Roedd y ddau sefydliad apêl darlledu yn gallu parhau â lefelau blaenorol o roi grantiau a thalu costau gweithredu gan dynnu ar eu cronfeydd gweddol fach - ond nid oedd modd cynnal hyn am fwy nag ychydig o flynyddoedd. Roedd y ddwy yn ystyried sut y gallent ddelio â phroblem tymor hwy.
Mewn rhai achosion, roedd ffigurau ar newidiadau mewn incwm a rhoi grantiau yn deillio o ffactorau heb eu cysylltu â'r dirywiad. Er enghraifft, roedd cronfa rhoi grantiau'r Gronfa Loteri Fawr wedi cael ei lleihau oherwydd ei chyfraniad at y Gemau Olympaidd; mae'n rhaid i City Bridge Trust gyllidebu yn y blynyddoedd i ddod ar gyfer gwaith cynnal a chadw pontydd yn y dyfodol; roedd un ymddiriedolaeth ac un sefydliad wedi cynyddu eu cyfansymiau rhoi grantiau yn sylweddol y flwyddyn ddiwethaf gyda grant mawr iawn (wedi'i gynnwys yn y ffigurau ar gyfer un flwyddyn ond i'w dalu dros dair blynedd) gan greu gostyngiad ymddangosiadol mewn rhoi grantiau y flwyddyn hon.
Fel y nodwyd uchod, yn gyffredinol roedd yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau a gafodd eu cyfweld yn gobeithio cynnal rhoi grantiau ar lefelau blaenorol. Northern Rock Foundation oedd yr unig ymddiriedolaeth/sefydliad a gafodd ei gyfweld oedd wedi lleihau nifer ei raglenni (yn dilyn gwladoli'r Banc a setliad o sefyllfa cyllido diwygiedig).
Felly sut oedd yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau a gafodd eu cyfweld yn ystyried effaith eu strategaethau ar y sector gwirfoddol?
Nid oedd yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau mawr hyn yn ystyried bod effeithiau eu strategaethau ar y sector gwirfoddol yn arwyddocaol yn gyffredinol. Roeddent yn cydnabod bod eu cyfraniad at gyfanswm incwm y sector elusennol yn weddol fach, ac ni allent obeithio gwneud gwahaniaeth mawr mewn mwy nag ychydig feysydd gweithgaredd. Fodd bynnag, mae ymddiriedolaethau a sefydliadau yn poeni am eu hachosion/grwpiau cleientiaid arbennig ac yn ymrwymedig i leddfu'r hyn roeddent yn ei hystyried yn effeithiau tebygol y dirywiad ar y rheiny - er eu bod yn cydnabod mai chwaraewyr bach yn unig yw ymddiriedolaethau a sefydliadau mewn drama fwy.
Cefnogi sefydliadau sy'n methu?
At ei gilydd nid oedd ymddiriedolaethau a sefydliadau yn gweld eu rôl fel un sy'n cefnogi sefydliadau sy'n methu. Yn wir, roedd nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau yn cwestiynu a fyddai bob amser yn ddymuno i 'achub' sefydliadau sy'n methu, ac yn gweld rhai effeithiau manteisiol posibl mewn annog mwy o gydweithredu, "rhoi trefn ar y sector" a "chael gwared â'r ewyn, y rhestrau dymuniadau, yn hytrach na'r craidd." Ond os oedd gan ymddiriedolaeth/sefydliad berthynas agos â sefydliad oedd yn ganolog i gyflawni canlyniadau dymunol gellid ystyried "pontio".
Rhaglenni arbennig?
Roedd sawl ymddiriedolaeth a sefydliad wedi ystyried creu rhaglenni arbennig ar gyfer y dirywiad, ond wedi gwrthod y syniad ar y sail bod eu rhaglenni presennol yn rhoi digon o hyblygrwydd i ymateb i anghenion. Nid oedd llawer o frwdfrydedd dros y syniad o gronfa gymorth brys ar gyfer sefydliadu sy'n methu. Fel y nodwyd mewn man arall roedd yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau yn fwy tebygol o ystyried cymorth o'r fath fesul achos.
Cyllido craidd
Roedd rhai ymddiriedolaethau a sefydliadau yn ystyried y cydbwysedd rhwng cyllido craidd a chyllido prosiectau, ac roedd y rhai oedd yn ffafrio cyllido prosiectau yn disgwyl bod yn fwy 'hyblyg' o ran cefnogi costau craidd. Hyd yn hyn, nid oedd yn glir y union beth fyddai hyn yn ei olygu, ac roedd sefydliadau yn ymwybodol o'r dilemâu sy'n gysylltiedig â bod yn rhy gysylltiedig â chyllido parhaus, craidd.
Grantiau llai a gwario i lwyddo
Nid oedd yr ymddiriedolaethau a sefydliadau a gafodd eu cyfweld yn ystyried gwneud grantiau llai yn gyffredinol. Yn wir, roedd rhai yn sôn am "wario mwy i lwyddo"; roedd amharodrwydd i "fynd yn ôl i'r dyddiau gwael o gyllido ar gyfer methu".
Codwyd 'gwario i lwyddo' hefyd mewn perthynas â chynaladwyedd. "Mae yna gred os ydym yn dangos y ffordd, bydd eraill yn gwella, efallai y bydd angen i ni ail-ystyried hynny" (hy, os nad yw unrhyw rai eraill yn debygol o wella). "Os ydym yn dweud ein bod yn cael ein hysgogi gan ganlyniadau bydd rhaid i ni fod yn ddoethach ynghylch helpu sefydliadau i fod yn gynaliadwy."
Rhoi grantiau rhyngwladol
Roedd gan effeithiau cyfraddau cyfnewid arian tramor oblygiadau i'r rhai oedd yn ymwneud â rhoi grantiau rhyngwladol. Roedd ffyrdd o ddelio â hyn yn amrywio o roi grantiau hyd at y lefel a gytunwyd yn flaenorol, i ofyn i'r rhai oedd yn derbyn grantiau i wneud beth a allant gyda'r adnoddau sydd ar gael. Mae'r dewis hwn yn dibynnu'n rhannol ar nifer a gwerth y grantiau a effeithir, yn ôl gallu'r sefydliad i oddef y golled.
Mwy o archwilio?
Roedd ymddiriedolaethau a sefydliadau yn ystyried archwilio'n fwy manwl hyfywedd ariannol sefydliadau. "bod yn fwy gwyliadwrus ynghylch hyfywedd ariannol y sefydliad a'r prosiect arfaethedig". Roedd yr ymddiriedolaethau a'r sefydliadau hyn yn treulio mwy o amser yn edrych ar gyfrifon sefydliadau, gan asesu a oeddent yn debygol o fod yn gynaliadwy. Roedd rhai hefyd yn ystyried rhoi grantiau mewn rhandaliadau llai, mwy cyson i warchod yr ymddiriedolaeth/sefydliad fel credydwr heb ei warantu.
Tabl 5.3: Effeithiau'r dirywiad ar ymagweddau at risg wrth roi grantiau
| Effeithiau ar Risg |
Mwy gwyliadwrus |
Llai gwyliadwrus |
Dim newid |
|
Nifer yr ymddiriedolaethau a sefydliadau |
16 |
0 |
3 |
Ymagweddau at risg
Yn fwy cyffredinol, oedd ymddiriedolaethau a sefydliadau yn gweld eu bod yn fwy amharod i gymryd risg wrth roi grantiau?
Y brif effaith ar ymagweddau at risg oedd y rhai a nodwyd uchod ynghylch mwy o archwilio o hyfywedd ariannol ymgeiswyr. Yn fwy cyffredinol, roedd ymddiriedolaethau a sefydliadau yn disgrifio eu hunain fel "bod ychydig yn fwy gwyliadwrus", "yn feiddgar ond nid mor feiddgar." Fodd bynnag, ar yr un pryd, roeddent yn ceisio osgoi unrhyw duedd i leihau gallu'r sector ar gyfer arloesi. "Rwy'n poeni ychydig os ydym yn ceisio cefnogi sefydliadau trwy lacio'r gofyniad arloesi, byddwn yn dechrau erydu arloesi."
Ar gyfer rhai ymddiriedolaethau a sefydliadau, pryder arall oedd y byddai toriadau cyllideb yr awdurdod lleol, a cholledion o roi corfforaethol, yn creu goblygiadau o ran defnyddio eu grantiau eu hunain os oeddent yn dibynnu ar argaeledd adnoddau o'r fath. "Bydd rhaid i ni wybod yn well pwy sy'n gwneud beth, a phwy nad yw'n gwneud beth - ni fydd yr hen dybiaethau bod x yn gwneud hynny yn dal dŵr."
Hefyd mae'n werth nodi nad oedd ymddiriedolaethau a sefydliadau yn cael llwyth o geisiadau yn gyffredinol (fel yr oedd rhai wedi disgwyl). Fodd bynnag, os yw'r dirywiad yn parhau teimlid y byddai'r galw yn cynyddu.
Roedd yr ymddiriedolaethau a sefydliadau a gafodd eu cyfweld wedi awgrymu amrywiaeth o fanteision posibl i'r dirywiad. Y manteision posibl oedd:
"Meddwl yn ddyfnach am y polisi buddsoddi cywir," "mwy o gyfranogiad, dealltwriaeth a chwestiynu o bolisïau buddsoddi gan bob aelod o'r Bwrdd", "bod hyd yn oed yn fwy gwyliadwrus", "dwyn ynghyd meddyliau casgliadol aelodau'r Pwyllgor", "bod yn llymach - ond nid yn rhy llym".
"Mae hyn wedi hybu, neu gall hybu, mwy o gydweithredu a rhannu risgiau," "gallai awydd i lenwi'r bylchau sydd wedi cael eu gadael gan gyllidwyr eraill fod yn hwb cadarnhaol i weithio mewn ffordd fwy cyflenwol, cydlynus", "efallai y byddwn yn dechrau cwestiynu tendro cystadleuol a chanolbwyntio mwy ar gael pobl i eistedd o gwmpas y bwrdd a chwarae i'w cryfderau"
Roedd rhai ymddiriedolaethau a sefydliadau eisoes yn cyllido ar y cyd (hy pob un yn cyllido rhan) o raglen waith, neu'n cronni cyllid i greu cronfa fwy ar gyfer rhaglen fwy neu ehangach; ac roedd rhai yn gobeithio y byddai eraill yn cael eu hannog i ystyried trefniadau o'r fath.
"Efallai y bydd mwy o ddadlau am fanteision ac anfanteision gwario allan"; "Erbyn hyn mae rhai ymddiriedolwyr yn gweld achos cryfach dros wario. Os yw gwerthoedd cyfalaf yn gallu cael eu herydu mor gyflym, yna efallai y bydd yn well gwario na cholli yn y farchnad. Ac rydym yn symud tuag at gyfnod o fwy o angen, felly pam peidio â gwneud mwy o effaith yn gynt a chael y fantais ychwanegol o weld manteision hynny yn eich oes eich hun."
"Mae'n rhaid i ni sylweddoli bod pob un ohonom wedi bod yn rhan o'r ffyniant, gan amlygu'r angen i gwestiynu beth yw'r peth 'da' yma rydym yn ei wneud a chael dadl ar ddefnyddio ein holl adnoddau er gwell."
"Mae ymwybyddiaeth gynyddol mai trachwant sydd wrth wraidd hyn i gyd ac rwy'n rhagweld cwestiynu gwerthoedd, mwy o feddwl a chydwybod gymdeithasol, cydweithredu, ymdopi â llai, canolbwyntio ar yr hanfodion."
Ar gyfer rhai ymddiriedolaethau a sefydliadau, roedd y cwestiynu hyn o werthoedd yn ymwneud â materion cymdeithasol eang - y 'gymdeithas dda' - ac ymagweddau at fuddsoddi.
"Efallai y byddwn yn mynd yn ôl i le oedd y sector gwirfoddol cyn iddo gael ei lorio gan gontractau - byddai hynny'n effaith dda iawn er y byddai rhywfaint o boen ar hyd y ffordd."
"Mae'n adeg ddiddorol - ar gyfer ail-wampio'r sector, creadigrwydd yn deillio o argyfwng, ac ati."
"Efallai na fyddai dewis beth i'w achub yn beth drwg - mae pethau sy'n werth eu hachub a rhai nad oes gwerth eu hachub."
Ar gyfer rhai, roedd 'ailwampio'r sector' yn ymwneud yn rhannol â mwy o bwyslais ar adeiladu cymunedol lleol a gwirfoddoli; roedd eraill yn cyfeirio at y ffordd yr oedd y sector wedi tyfu ac weithiau ei ddyblygu yn y blynyddoedd diweddar.
"Er gwaetha'r cwymp mewn rhoi corfforaethol, efallai mai dyma'r adeg pan allai busnesau ystyried ymdrech elusennol fel ffordd o uno morâl staff ac adeiladu tîm."
"Gallai apeliadau elusennol gael proffil a chydnabyddiaeth o'r dirywiad os yw busnesau a sefydliadau eraill yn gwerthfawrogi'r angen i ddangos eu pryder a chyfrifoldeb cymdeithasol ehangach."
"Mae hwn yn gyfle da i fuddsoddi - prynu eiddo ac ati."
"Un o'r effeithiau da i ni yw ei bod wedi lleihau'r tebygolrwydd o or-wario ar brosiectau cyfalaf a'i gwneud hi'n haws trafod gyda chontractwyr."
5.5. Effeithiau disgwyliedig ar roi grantiau y tu hwnt i 2010
Darlun ansicr
Er gwaetha'r effeithiau buddiol posibl hyn, roedd ymddiriedolaethau a sefydliadau yn awyddus i bwysleisio bod effeithiau niweidiol y dirywiad yn ansicr o hyd. Gan edrych ymlaen at yr effeithiau tebygol ar roi grantiau y tu hwnt i 2010, roedd ymddiriedolaethau a sefydliadau yn gweld darlun gwahanol posibl. I'r rhai sy'n gweithredu dull Cyfanswm Elw yn seiliedig ar gyfartaledd treialu tair blynedd (deuddeg chwarter), nid oedd yr effaith ar incwm wedi cael yr effaith lawn eto.
Tabl 5.5. Effeithiau disgwyliedig ar roi grantiau y tu hwnt i 2010
| Effeithiau y tu hwnt i 2010 |
Cynnydd |
Gostyngiad |
Dim newid (sefydlog) |
Ansicr |
|
Nifer yr ymddiriedolaethau a sefydliadau |
0 |
1 |
8 |
10 |
Un ffactor mewn rhagamcaniadau ymddiriedolaethau a sefydliadau y tu hwnt i 2010 oedd eu hoptimistiaeth neu besimistiaeth ynghylch cyfnod y dirywiad. Roedd y rhan fwyaf yn pwysleisio bod eu gallu i barhau i ddefnyddio cyfalaf yn gyfyngedig. Roedd rhai wedi bwriadu cael digon o hylifedd i wynebu storm o sawl blynedd - ond "a fydd hyder ymddiriedolwyr yn para?" Roedd rhai yn cynnig "llaw ar y llyw nawr er mwyn osgoi anafiadau dyfnach nes ymlaen."
Er bod rhywfaint o optimistiaeth bod y gwaethaf drosodd, roedd lleiafrif yn cwestiynu a yw'r dirywiad hwn yn wahanol. "Ydy hwn yn newid paradeim? Pryd ydym ni'n penderfynu? Pa ddangosyddion fyddai'n ein helpu i benderfynu?"
Yr effeithiau mwy tymor hir ar wariant cyhoeddus
Waeth beth am eu hoptimistiaeth - neu besimistiaeth - ynghylch eu hadnoddau eu hunain yn y dyfodol, roedd pryderon mwyaf ymddiriedolaethau a sefydliadau wedi'u hoelio ar effeithiau mwy tymor hir ar wariant cyhoeddus, a'r goblygiadau i'r gymdeithas ehangach a'r galw tebygol arnynt. Gofynnodd un ymddiriedolaeth/sefydliad: "A fydd hyn yn farwolaeth trwy fil o anafiadau gyda sefydliadau heb fynd i'r wal ond yn llwyddo i gadw i fynd, darparu gwasanaethau llai a llai digonol mewn amodau fwyfwy anodd?"
Fel rhan o'r gwaith ymchwil hwn, achubwyd ar y cyfle i ofyn i'r ymddiriedolaethau a'r sefydliadau a gafodd eu cyfweld a oedd unrhyw beth y gallai'r Comisiwn fel rheolydd, neu Swyddfa'r Trydydd Sector neu Gyllid a Thollau EM a'r Llywodraeth yn gyffredinol, ei wneud i helpu'r sector i ymdopi'n haws ag effaith y dirywiad. Codwyd ystod eang o awgrymiadau, materion a chwestiynau.
Roedd y materion yn cynnwys pwyntiau penodol yn ymwneud ag incwm a gwariant, er enghraifft, cynnal cydbwysedd priodol rhwng ymrwymiadau'r gorffennol a'r presennol; yr angen am eglurhad ynghylch yr hyn y gellir ei wario neu beidio; ac angen meddwl trwy ymagweddau gwahanol at Gyfanswm Elw a sut y gellir eu cyflwyno mewn SORP.
Roedd awydd am ddadl bellach ar faterion sy'n ymwneud â buddsoddiadau cynaliadwy, moesegol a chysylltiedig â chenhadaeth ac am drafodaeth ynghylch a ddylid ystyried gwariant fel dewis. Mynegwyd diddordeb mewn sut y mae modd i lais elusennau bach a chanolig gael ei hybu a'i gefnogi'n well, a mynegwyd pryderon am effaith toriadau cyllid cyhoeddus ar y sector elusennol.
Mae'r Comisiwn Elusennau yn bwriadu cynnal seminar ar y cyd gyda Chymdeithas y Sefydliadau Elusennol yn Hydref 2009 i ystyried y materion hyn yn fwy manwl.
Cynhaliwyd nifer o gyfweliadau manwl ag ystod o ymddiriedolaethau a sefydliadau. Mae'r tablau isod yn rhoi manylion o gyfansoddiad enghreifftiol o ran ffynhonnell incwm, maint sylfaen asedau, a maint gwariant.
Tabl A1. Proffil ymddiriedolaethau a sefydliadau a gafodd eu cyfweld yn ôl ffynhonnell incwm
|
Ffynhonnell incwm |
Gwaddoledig |
Codi arian |
Corfforaethol |
|
Nifer yr ymddiriedolaethau a sefydliadau |
13 |
4* |
2 |
* Yn cynnwys y Gronfa Loteri Fawr
Roedd un ymddiriedolaeth ac yn sefydliad yn gwario i lawr yn ffurfiol, ac roedd o leiaf dau arall yn ystyried hyn.
Tabl A2. Proffil ymddiriedolaethau a sefydliadau a gafodd eu cyfweld yn ôl maint sylfaen asedau
| Maint sylfaen asedau |
Nifer yr ymddiriedolaethau a sefydliadau |
|
Dros £1 biliwn |
3 |
|
£501 miliwn - £1 biliwn |
2 |
|
£101 miliwn - £500 miliwn |
5 |
|
£50 miliwn - £100 miliwn |
0 |
|
O dan £50 miliwn |
4 |
|
Dim sylfaen asedau |
4 |
Tabl A3. Proffil ymddiriedolaethau a sefydliadau a gafodd eu cyfweld yn ôl maint gwariant
| Maint gwariant |
Nifer yr ymddiriedolaethau a sefydliadau |
|
Mwy na £100 miliwn |
2 |
|
£81 miliwn - £100 miliwn |
1 |
|
£61 miliwn - £80 miliwn |
1 |
|
£41 miliwn - £60 miliwn |
0 |
|
£21 miliwn - £40 miliwn |
4 |
|
£10 miliwn - £20 miliwn |
5 |
|
O dan £10 miliwn |
6 |
Roedd Cymdeithas y Sefydliadau Elusennol wedi cynnal arolwg o'i haelodau yn Ebrill a Mai 2009 i asesu effaith y dirywiad cyfredol ar ymddiriedolaethau a sefydliadau. Anfonwyd holiaduron at Brif Weithredwyr pob aelod o'r Gymdeithas a derbyniwyd 95 o ymatebion; cyfradd ymateb o 33%.
Adroddodd y Gymdeithas fod y prif gasgliadau o'r arolwg yn awgrymu bod ymddiriedolaethau a sefydliadau yn y DU yn wynebu'r dirywiad yn well na sawl sector arall, gyda bron 75% yn rhagweld lefelau incwm cyson neu gynyddol dros y tymor hwy a dwy ran o dair yn cynllunio i gynnal neu gynyddu eu lefel rhoi grantiau. Roeddent yn teimlo'n optimistaidd er gwaetha gostyngiad yn y tymor byr mewn gwerth eu buddsoddiadau.
Dywedodd dros 75% o ymatebwyr eu bod wedi adolygu eu strategaeth fuddsoddi o ganlyniad i'r wasgfa gredyd, gyda nifer arwyddocaol yn dweud y byddent yn parhau â'u strategaeth gyfredol ond yn ei hadolygu'n barhaus.
Ar gyfer y flwyddyn hon, mae 36% o aelodau'r Gymdeithas yn disgwyl cynnal lefelau cyfredol o roi grantiau, gyda 9% yn cynyddu'r lefelau hyn. Wrth edrych i'r dyfodol, mae 15% yn rhagweld rhoi grantiau uwch yn 2010, ac mae 38% yn bwriadu cynyddu rhoi grantiau dros y tymor hwy.
Ond mae rhai ymatebwyr yn disgwyl newidiadau yn natur y grantiau y maent yn eu rhoi y flwyddyn nesaf: mae 44% yn debygol o roi llai o grantiau; mae 27% yn credu y bydd eu grantiau yn llai, ac mae 23% yn meddwl y byddant yn cael eu rhoi dros gyfnodau byrrach.
Mae asedau ymddiriedolaethau a sefydliadau wedi cael eu bwrw gan y dirywiad, ond mae'r darlun yn fwy addawol na mewn nifer o sectorau eraill. Er bod 75% o ymatebwyr wedi gweld gostyngiad arwyddocaol mewn gwerth buddsoddiadau dros y 12 mis diwethaf, dywedodd 40% bod incwm difidend cyfalaf wedi parhau'n gyson. Dim ond 12% sy'n rhagweld gostyngiad parhaus mewn incwm dros y tymor hwy.
Mae'r data cyfyngedig o ddirywiadau blaenorol yn dangos y gwahaniaeth rhwng effeithiau ar incwm ac asedau ymddiriedolaethau a sefydliadau a phatrymau rhoi. Mae data US Foundation Center yn awgrymu yn ystod dirywiad y 1980au a'r 1990au:
Banc buddsoddi cymdeithasol: Yng nghyllideb Ebrill 2009 roedd y Llywodraeth wedi amlinellu ei bwriad i ymgynghori ar ddyluniad a swyddogaeth banc cyfanwerthu buddsoddi cymdeithasol er mwyn cefnogi trydydd sector ffyniannus yn y tymor hir. Y bwriad yw y bydd Swyddfa'r Trydydd Sector yn adrodd yn ôl gyda chynigion sylweddol.
Buddiolwyr: Yr unigolion a'r grwpiau neu sefydliadau sy'n cael budd neu a allai gael budd o'r cymorth a roddir gan elusen, gan gynnwys ymddiriedolaethau a sefydliadau.
Buddsoddiad cysylltiedig â chenhadaeth: Yr arfer o alinio buddsoddiad ased ymddiriedolaeth/sefydliad â'i chenhadaeth elusennol neu dyngarol. Mae'n gwella'r diben elusennol neu dyngarol trwy ystyried a yw a sut mae'r allanoldebau a gynhyrchir gan strategaeth fuddsoddi asedau'r sefydliad yn gallu fod yn groes i'w genhadaeth, a thrwy harneisio'n ddoeth bŵer asedau buddsoddi i hybu manteision cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol.
Buddsoddiad moesegol: Yr arfer o fuddsoddi mewn menter nad yw'n peri tramgwydd moesol neu foesegol i'r buddsoddwr neu y mae'r buddsoddwr yn ei gymeradwyo ar sail foesegol - hefyd yn cael ei alw'n fuddsoddiad cymdeithasol gyfrifol.
Cronfeydd Wrth Gefn: Mae gan y term 'cronfeydd wrth gefn' amrywiaeth o ystyron technegol a chyffredin, yn dibynnu ar y cyd-destun. Yn SORP Elusennau 2005 (Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: Datganiad o Arferion Cymeradwy), defnyddir y term 'cronfeydd wrth gefn' i ddisgrifio'r rhan honno o gronfeydd incwm elusen sydd ar gael yn rhydd. Yn y cyd-destun hwnnw, 'cronfeydd wrth gefn' yw'r adnoddau sydd gan yr elusen neu y gall fod ar gael iddi i'w gwario ar gyfer unrhyw un neu bob un o ddibenion yr elusen pan fydd wedi bodloni ei hymrwymiadau a chwmpasu ei gwariant arfaethedig arall.
Cyfalaf: Y prif swm neu swm cyfalaf ystad neu ymddiriedolaeth, yn wahanol i log neu incwm.
Cyfalaf risg: Cronfeydd a fuddsoddwyd neu sydd ar gael i'w buddsoddi mewn menter newydd neu heb ei phrofi.
Cyllido craidd: Cyllid i dalu neu dalu'n rhannol gostau gorbenion sefydliad, yn wahanol i gostau penodol prosiect. Er nad yw'r costau hyn yn cynhyrchu allbynnau o weithgaredd elusennol yn uniongyrchol, maent yn angenrheidiol i gyflawni'r gweithgareddau hyn. Mae enghreifftiau yn cynnwys staff rheoli cyffredinol, offer TG a hyfforddiant, codi arian a llywodraethu.
Cynaladwyedd: Dychwelyd ac ailgylchu cyfalaf, gyda'r posibilrwydd ar gyfer effaith ehangach a mwy parhaol.
Dull Cyfanswm Elw: Dull sy'n caniatáu hyblygrwydd wrth reoli gwaddol parhaol wedi'i fuddsoddi pan fydd yr ymddiriedolwr yn ystyried y cyfanswm elw a wnaed, boed o incwm neu enillion neu golledion cyfalaf, ac yn penderfynu faint o'r elw hwnnw i'w ddyrannu i gyllido gwariant am y flwyddyn honno. Mae dull Cyfanswm Elw yn creu oedi mewn effeithiau gostyngiadau mewn gwerth asedau ac incwm.
Giltiau: Bondiau heb risg a gyhoeddir gan lywodraeth Prydain.
Gwaddol: Asedau, cronfeydd neu eiddo a gymynwyd, wedi'i setlo arno neu ei roi i sefydliad, unigolyn neu grŵp fel ffynhonnell incwm:
Gwarchod: Dull o ddiogelu yn erbyn y risgiau sy'n cael eu creu gan amrywiadau arian cyfred byd-eang. Os yw rheolwyr cronfa yn meddwl bod y ddoler yn mynd i fod yn gryfach pan fyddant yn barod i newid yr arian tramor yn ôl i ddoleri'r UD, maent yn llunio contract dyfodolion tramor. Felly, maent yn cloi'r gyfradd cyfnewid ymlaen llaw, ac felly ni fyddant yn colli'r elw a enillir o ddal arian tramor wedi'i ddibrisio. Os yw'r rheolwr yn meddwl y bydd y ddoler yn wannach yn erbyn arian tramor, nid oes unrhyw reswm i warchod. Yn wir, os yw'r rheolwr yn dyfalu'n gywir, bydd yn hybu elw cyffredinol y gronfa oherwydd bydd yr elw yn werth hyd yn oed yn fwy pan gânt eu cyfenwid i ddoleri UD.
Gwario allan: Y sefyllfa lle mae sefydliad cyfyngedig gan amser yn gwario'r cyfan neu ran o'i asedau cyfalaf er mwyn hybu ei amcanion elusennol.
Gwrth-gylchol: Mae polisi ariannol yn cael ei alw'n wrth-gylchol os yw'n gweithio yn erbyn y tueddiadau cylchol yn yr economi.
Hylifedd: I ba raddau neu pa mor hawdd y gall sefydliad droi ei asedau yn arian.
Menter gymdeithasol: Busnes gydag amcanion cymdeithasol yn bennaf y mae eu gwargedion yn cael eu hail-fuddsoddi'n bennaf at y diben hwnnw yn y busnes neu yn y gymuned, yn hytrach na chael eu hysgogi gan yr angen i wneud yr elw mwyaf ar gyfer cyfranddalwyr a pherchnogion.
Mynegai Prisiau Adwerthu: Dangosydd domestig pwysig o chwyddiant yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae'n mesur y newid cyfartalog o fis i fis ym mhrisiau nwyddau a gwasanaethau a brynwyd yn y DU.
Rhodd Cymorth: Ffordd i elusennau neu glybiau chwaraeon amatur cymunedol gynyddu gwerth rhoddion o arian gan drethdalwyr yn y DU trwy hawlio yn ôl y dreth cyfradd sylfaenol a dalwyd gan y rhoddwr. Gall gynyddu gwerth rhoddion gan chwarter heb unrhyw gost ychwanegol i'r rhoddwr.
SORP: Mae'r Datganiad o Arferion Cymeradwy (y cyfeirir ato yn gyffredinol fel SORP) yn cael ei gyhoeddi gan y Comisiwn Elusennau a Swyddfa Rheolydd yr Alban (OSCR). Mae'n rhoi cyfarwyddiadau ynghylch sut y disgwylir i elusennau adrodd am eu gweithgareddau, incwm a gwariant, a'r sefyllfa ariannol yn eu hadroddiad blynyddol a chyfrifon.
Treth Gorfforaeth Ymlaen Llaw: Roedd Treth Gorfforaeth Ymlaen Llaw yn gynllun lle yr oedd cwmnïau yn gwneud taliad treth ymlaen llaw pan oeddent yn dosbarthu taliadau difidend i gyfranddalwyr. Roedd yr egwyddor yn debyg i'r ffordd y mae llog sy'n cael ei ennill ar adneuon banc yn DU yn cael treth cyfradd sylfaenol wedi'i didynnu fel rheol gan y banc cyn cael ei dalu i'r deiliaid cyfrif. Yn gyffredinol roedd y taliad hwn yn golygu yr ystyrir bod y sawl sy'n derbyn y difidend eisoes wedi derbyn treth cyfradd sylfaenol ar ei incwm difidend. Roedd rhai oedd yn ei dderbyn, gan gynnwys elusennau a chronfeydd pensiwn, na fyddent fel arall wedi talu treth incwm ar yr incwm difidend, yn gallu hawlio yn ôl y swm hwn (neu swm llai yn ddiweddarach) o'r Tryslorys. Diddymwyd Treth Gorfforaeth Ymlaen Llaw o 6 Ebrill 1999.
Ymddiriedolaethau a sefydliadau: Mae'r term 'ymddiriedolaeth' a 'sefydliad' yn ymgyfnewidiol. Mae pob sefydliad elusennol yn ymddiriedolaeth - hynny yw, cânt eu rheoli gan ymddiriedolwyr a all gael eu cefnogi gan staff cyflogedig neu beidio. Felly, nid oes gan sefydliadau hunaniaeth neu gyfansoddiad cyfreithiol ar wahân ac maent yn ddarostyngedig i'r un profion budd cyhoeddus, llywodraethu a gofynion cyfrifyddu a rheoleiddio'r Comisiwn Elusennau â phob elusen arall. Mae eu hincwm yn deillio o waddol o dir neu gyfalaf a fuddsoddwyd. Nid yw pob sefydliad yn rhoi grantiau; mae rhai yn defnyddio eu hincwm i gyllido gweithgaredd elusennol ei hun. Mae hyn yn golygu bod y gwahaniaeth rhwng y termau 'sefydliad', 'ymddiriedolaeth' ac 'elusen' yn y DU yn semantig yn unig; fel arfer bydd elusennau sydd â'r prif weithgaredd o roi grantiau yn cael eu galw'n 'ymddiriedolaethau elusennol' neu 'sefydliadau elusennol', yn hytrach nag 'elusennau'.
Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr
Y Comisiwn Elusennau yw rheolydd annibynnol elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ei nod yw darparu'r dull rheoleiddio gorau posibl ar gyfer elusennau yng Nghymru a Lloegr, er mwyn cynyddu effeithiolrwydd elusennau a ffydd a hyder y cyhoedd. Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o elusennau gofrestru gyda'r Comisiwn, ond nid oes rhaid i rai mathau arbennig o elusennau gofrestru. Mae rhyw 190,000 o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae'r fframwaith yn wahanol yn yr Alban, ac nid yw'r Comisiwn yn rheoleiddio elusennau'r Alban.
Mae'r Comisiwn yn darparu ystod eang o gyngor ac arweiniad i elusennau a'u hymddiriedolwyr, a gall helpu gyda phroblemau yn aml. Rhaid i elusennau cofrestredig sydd ag incwm blynyddol dros drothwy arbennig ddarparu gwybodaeth a chyfrifon blynyddol i'r Comisiwn. Mae pwerau eang gan y Comisiwn i ymyrryd mewn materion elusen os yw pethau wedi mynd o'i le.
Mae mwy o wybodaeth am y Comisiwn, ynghyd ag ystod o ganllawiau i elusennau, i'w gweld ar ein gwefan: www.charitycommission.gov.uk, neu drwy gysylltu â'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol:
Ffôn: 0845 300 0218
Minicom: 0845 300 0219
Trwy'r post: Comisiwn Elusennau Uniongyrchol
Blwch SP 1227, L69 3UG
Cyhoeddiadau perthnasol y Comisiwn Elusennau
Gall y cyhoeddiadau canlynol gan y Comisiwn Elusennau fod yn ddefnyddiol i ddarllenwyr - ar gael ar ein gwefan - ac yn berthnasol i rai o'r materion a godwyd yn yr adroddiad hwn:
Cymdeithas Sefydliadau Elusennol (ACF)
Mae ACF yn hybu ac yn cefnogi gwaith ymddiriedolaethau a sefydliadau rhoi grantiau elusennol. Y manylion cyswllt yw:
Central House
14 Upper Woburn Place
Llundain
WC1H 0AE
Ffôn: 020 7255 4499
E-bost: acf@acf.org.uk
Gwefan: www.acf.org.uk