Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Version 04/03)
1. Mae'r canllaw hwn yn ymwneud â phenderfyniad diweddar y Comisiwn i gydnabod hyrwyddo cymryd rhan gymunedol mewn adloniant iach trwy ddarparu cyfleusterau ar gyfer chwaraeon arbennig yn elusennol. (Mae 'cyfleusterau' yn golygu tir, adeiladau ac offer a hefyd trefnu chwaraeon). Mae'r canllaw wedi'i baratoi'n benodol ar gyfer cyrff a elwir weithiau yn glybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChAC).
2. Mae'r Comisiwn hefyd wedi cydnabod "hyrwyddo addysg gorfforol pobl ifanc nad ydynt yn cael addysg ffurfiol" yn elusennol. Yn syml iawn, mae hyn yn ehangu'r sefyllfa bresennol sy'n cydnabod bod addysg gorfforol pobl ifanc sy'n cael addysg ffurfiol yn elusennol. Nid yw'r canllaw hwn yn delio'n benodol â'r diben elusennol newydd hwnnw.
3. Trwy'r canllaw hwn, rydym wedi rhoi enghreifftiau o chwaraeon arbennig. Er enghraifft, rydym wedi rhoi enghreifftiau o chwaraeon a all gael hi'n anodd i ateb y maen prawf 'adloniant iach', neu a all gael eu hystyried yn beryglus neu'n ddrud. Ym mhob achos, mae'r chwaraeon yn rhai enghreifftiol yn unig. Byddwn yn ailystyried ein barn o'r gamp honno os yw tystiolaeth, o glwb unigol neu gorff llywodraethu'r gamp efallai, yn cael ei darparu i gefnogi barn arall. Mewn unrhyw achos, gall fod yn bosib i glwb sy'n gysylltiedig ag un o'r chwaraeon hyn gofrestru fel elusen. Gall clwb sy'n darparu cyfleusterau ar gyfer camp nad yw'n ateb y maen prawf adloniant iach, er enghraifft, fod yn elusennol oherwydd ei fod yn darparu cyfleusterau adloniadol i bobl oedrannus neu anabl neu oherwydd ei fod yn addysgu'r ifanc.
4. Nid yw'r gyfraith yn ystyried hyrwyddo unrhyw gamp arbennig, er ei fwyn ei hunan, yn elusennol. Fodd bynnag, gall elusennau annog pobl I gymryd rhan mewn chwaraeon fel ffordd o ateb amryw o ddibenion elusennol. Fe welwch enghreifftiau o ddibenion elusennol sy'n cynnwys chwaraeon yn yr Atodiad i'r canllaw hwn.
5. Fel rhan o'n prosiect Adolygiad o'r Gofrestr, rydym wedi edrych ar y berthynas rhwng chwaraeon ac elusennau yn sgîl amodau cymdeithasol modern. Rydym wedi ystyried y diddordeb mawr sydd gan y cyhoedd mewn chwaraeon fel ffordd o hybu iechyd a'r rôl hanfodol y mae chwaraeon yn ei chwarae o ran gwella iechyd y genedl. Daethpwyd i'r casgliad ei fod yn briodol i ni, o fewn y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd, gydnabod cyrff sy'n bwriadu annog pobl i gymryd rhan gymunedol mewn chwaraeon iach fel cyrff elusennol.
6. Mae'r penderfyniad hwn yn golygu, am y tro cyntaf erioed, y gall CChAC sy'n rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd gymryd rhan mewn chwaraeon a all hybu iechyd a ffitrwydd corfforol, ac mae eu cyfleusterau ar gael i bawb sy'n dymuno manteisio arnynt, fod yn elusennau.
7. Yn ymarferol, gall CChAC fod yn elusen ar yr amod bod dwy faen prawf yn cael eu bodloni:
(i) Rhaid i'r gamp dan sylw allu gwella iechyd a ffitrwydd corfforol; a
(ii) Rhaid i'r clwb gael aelodaeth agored, hynny yw, rhaid i fynediad i gyfleusterau'r clwb fod ar gael i unrhyw un sy'n dymuno manteisio arnynt.
8. Cydnabyddwn y gall adloniant sy'n hybu iechyd corfforol hefyd gynnig manteision atodol eraill yn nhermau iechyd meddwl a lles ac undod cymunedol. Ond y cysylltiad agos ac amlwg rhwng ymarfer corfforol ac iechyd corfforol sy'n gwneud darparu cyfleusterau ar gyfer adloniant iach yn elusennol. Ni fyddai'n elusennol darparu cyfleusterau ar gyfer gweithgaredd nad yw'n hybu iechyd corfforol ond a all gyfrannu, mewn rhai achosion ac mewn ffordd atodol, at iechyd meddwl a lles. Nid yw'r diben newydd hwn yn ymestyn ychwaith i ddarparu cyfleusterau ar gyfer gweithgaredd nad yw'n hybu iechyd corfforol ond a all olygu bod y rheiny sy'n cymryd rhan yn datblygu sgiliau corfforol arbennig.
9. Y chwaraeon a all ddarparu 'adloniant iach' yw'r chwaraeon hynny a fydd, os cânt eu hymarfer yn ddigon aml, yn tueddu i wneud y sawl sy'n cymryd rhan yn iachach, hynny yw, yn llai tueddol i gael clefyd. Mae ffitrwydd yn cynnwys elfennau o stamina, cryfder ac ystwythder (gall fod elfennau eraill), ond os yw'r gamp yn cyfrannu at un yn unig o'r elfennau hyn, bydd hynny'n ddigon.
10. Yn gyffredinol, ni fydd angen cyflwyno tystiolaeth feddygol i ddangos bod camp yn hybu adloniant iach. Fodd bynnag, gall fod achosion ar yr ymyl pan nad yw'n amlwg bod chwaraeon yn cael effaith gorfforol fuddiol a lle y gall tystiolaeth feddygol (gan gorff llywodraethu'r gamp, efallai) fod yn berthnasol. Nid yw'r budd i iechyd corfforol a ddaw wrth gymryd rhan mewn chwaraeon fel pysgota neu bŵl, er enghraifft, mor amlwg â'r buddiannau corfforol a ddaw wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded, athletau, pêl-droed neu jwdo. Byddwn yn ystyried camp yn fath o adloniant iach os yw'n synhwyrol i ddweud ei bod yn cyfrannu at iechyd corfforol y rheiny sy'n cymryd rhan yn y gamp honno.
11. Nid yw'r chwaraeon canlynol yn ymddangos i ni ar hyn o bryd fel chwaraeon sy'n ateb ein meini prawf ar gyfer 'adloniant iach':
12. Fodd bynnag, rydym yn barod i ystyried unrhyw gais gan CChAC unigol sy'n ymwneud ag un neu fwy o'r chwaraeon hyn, neu gorff llywodraethu'r gamp, os credant y gallant ddangos buddiannau clir i iechyd corfforol y rheiny sy'n cymryd rhan.
13. Mae'n ymddangos bod rhaid cyrraedd lefel ffitrwydd arbennig cyn y gallwch gymryd rhan mewn rhai chwaraeon, e.e. ogofa neu fynydda. Mewn egwyddor, nid oes rheswm pam na ddylai'r chwaraeon hyn gael eu hystyried yn adloniant iach, er y gall y gwaith paratoi corfforol sy'n angenrheidiol er mwyn cymryd rhan ynddynt gyfrannu lawn cymaint at iechyd a ffitrwydd â chymryd rhan yn y gamp ei hun. Ond, yn gyffredinol, os nad yw'r gamp ei hun yn hybu iechyd cyhoeddus, ni fydd y ffaith y bydd y rheiny sy'n cymryd rhan yn gwneud rhyw fath o waith baratoi corfforol fel arfer yn ddigon i wneud darparu cyfleusterau ar gyfer y gamp yn elusennol.
14. Mae aelodaeth agored yn hanfodol os yw clwb am fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus sy'n gymwys i bob elusen. Ni allai clwb sy'n gweithredu cyfyngiadau yn ei ddarpariaethau aelodaeth (heblaw cyfyngiadau rhesymol sy'n angenrheidiol i alluogi'r clwb i weithredu'n effeithiol - gweler paragraffau 15-17 isod) hawlio ei fod yn hybu cymryd rhan gymunedol.
15. Cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bydd angen i CchAC ddarparu cyfleusterau i bawb sy'n dymuno chwarae. Wedi dweud hynny, mae rhai amgylchiadau lle mae rhai cyfyngiadau ar aelodaeth yn rhesymol ac yn deg.
16. Derbyniwn fod cyfleusterau rhai clybiau yn eithaf cyfyngedig ac nid yw bob amser yn bosib darparu ar gyfer pawb sy'n dymuno bod yn aelod, am resymau iechyd a diogelwch neu ymarferol er enghraifft. Yn yr amgylchiadau hyn, mae'n gwbl resymol i glwb gael rhestr aros ar gyfer aelodaeth os oes gordanysgrifio, ar yr amod bod y lle nesaf sydd ar gael yn cael ei gynnig i'r sawl sydd ar ben y rhestr aros (ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu) ac nid yw'n cael ei gynnig i rywun arall yn is i lawr y rhestr ar y sawl ei fod yn chwaraewr gwell.
17. Mae hefyd yn rhesymol i gyfansoddiad CChAC gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â gwrthod neu ddiddymu aelodaeth. Mae hon yn ddarpariaeth safonol mewn nifer o gyfansoddiadau elusennol ac yn golygu bod modd gwrthod neu ddiddymu aelodaeth am reswm da. Fel rheol mae'n rhaid i'r rheswm gael ei esbonio i'r unigolyn, ac mae hawl gan yr unigolyn gael ei glywed, gyda ffrind os oes angen, cyn gwneud penderfyniad terfynol. Gallai'r rhesymau dros wrthod aelodaeth o CChAC gynnwys, er enghraifft, cyflwr corfforol neu feddygol unigolyn, neu'r ffaith nad yw ef neu hi wedi bodloni polisi amddiffyn plant y CChAC. (Disgwyliwn i bob clwb sy'n darparu cyfleusterau i blant gael polisi sy'n sicrhau nad yw pobl na ddylent gael caniatâd i ddod i gysylltiad â phlant yn cael cyfle i wneud hynny).
18. Er mwyn i aelodaeth fod yn agored, rhaid i danysgrifiadau aelodaeth fod yn fforddiadwy i'r rhan fwyaf o'r gymuned y mae'r clwb yn ei gwasanaethu. Bydd yn haws i glybiau sydd, er enghraifft, yn gallu cynnig cyfraddau aelodaeth disgownt i bobl sydd ar incwm isel neu sy'n ddi-waith ddangos eu bod yn wirioneddol gysylltiedig â hybu cymryd rhan gymunedol. Ond sylweddolwn na fydd pob clwb mewn sefyllfa i wneud hyn (yn enwedig clybiau llai) ac ni fyddem yn disgwyl i glybiau gynnig aelodaeth ddisgownt os yw'n amlwg na fyddai hyn yn ymarferol yn ariannol iddynt. Fodd bynnag, byddai angen i'r clybiau hynny barhau i ystyried y posibilrwydd hwn rhag ofn y bydd eu sefyllfa ariannol yn gwella.
19. Ni ddylai fod unrhyw brawf medrusrwydd i gael mynediad i'r clwb (derbyniwn y bydd y rheiny sy'n cymryd rhan, ar ôl iddynt gofrestru fel aelodau, yn cael eu trefnu yn dimau a strwythurau cystadleuol yn seiliedig ar allu - gweler paragraffau 27-28 isod). Os nad oes digon o adnoddau i roi cyfle i bawb chwarae, disgwylir i CChAC sicrhau bod y mwyaf posib yn gallu cymryd rhan ac felly ni fydd yn gallu canolbwyntio ei adnoddau dim ond ar sail gallu sy'n niweidiol i aelodau llai medrus y clwb.
20. Mae 'cymryd rhan gymunedol' yn ymwneud â'r 'gymuned' yn ei hystyr ehangaf. Bydd angen i aelodaeth o'r CChAC fod ar gael i bob aelod o'r cyhoedd sydd am ymuno. Gall cyfansoddiad CChAC ddewis diffinio neu beidio â diffinio'r ardal ddaearyddol a'r trigolion sy'n gymwys i ymuno. Os yw ardal ddaearyddol yn cael ei diffinio, ni ddylai fod yn rhy gyfyng. Gellid ei diffinio fel trigolion tref neu bentref arbennig, er enghraifft, ond mae ardal ddaearyddol o ychydig o strydoedd a enwir yn unig yn debygol o fod yn rhy gyfyngedig. Os nad yw'r CChAC yn cyfyngu ei aelodaeth bosib i drigolion ardal arbennig, bydd unrhyw un yn gallu ymuno, waeth ble y maen nhw'n byw (yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau cyfreithlon fel y trafodwyd uchod). Ni fydd CChAC yn gallu rhoi blaenoriaeth i bobl leol oni bai fod ei gyfansoddiad yn ei alluogi i wneud hynny.
21. Mae cymryd rhan gymunedol yn golygu y dylai cyfleusterau'r clwb fod ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol. Ond, nid oes angen i'r gamp dan sylw fod yn un y gall pob rhan o'r gymuned ei chwarae. Er mwyn bod yn elusen, ni fydd yn ofynnol i CChAC ddarparu cyfleusterau i bobl oedrannus neu bobl ag anabledd. Wedi dweud hynny, ni ddylai fod unrhyw rwystr i bobl oedrannus neu bobl ag anabledd gymryd rhan os yw'r gamp yn addas ac mae'n rhesymol i gyfleusterau'r CChAC gael eu defnyddio gan y grwpiau hyn.
22. Mae'n bosib y bydd rhai chwaraeon, oherwydd eu natur, yn apelio at ran gyfyngedig yn unig o'r gymuned. Ond efallai na fydd hyn ynddo'i hun yn peri problem. Fodd bynnag, os yw camp yn beryglus iawn ei natur, gall fod rhaid ystyried a yw'r gamp yn hybu iechyd corfforol mewn gwirionedd.
23. Cydnabyddwn bod elfen o risg mewn unrhyw chwaraeon ond mae rhai chwaraeon, fel y rheiny a elwir yn chwaraeon "eithafol" er enghraifft, yn cynnwys risgiau sy'n mynd llawer ymhellach na'r risgiau arferol o gael anaf sy'n gysylltiedig ag ymarfer corff egnïol.
24. Os yw clwb sy'n gysylltiedig â chwaraeon eithafol yn gwneud cais i gofrestru fel elusen ar y sail ei fod yn annog y gymuned i gymryd rhan mewn adloniant iach, byddai angen i ni ystyried tystiolaeth feddygol o'r risgiau cysylltiedig a manylion y camau sy'n cael eu cymryd i leihau'r peryglon i ddiogelwch personol. Er enghraifft, mae rhai pobl wedi mynegi pryder am risgiau niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig â phaffio ar lefel broffesiynol. Cyn y gallem gofrestru clwb paffio amatur fel elusen, byddai angen i ni fodloni'n hunain fod camau digonol wedi cael eu cymryd i leihau'r risgiau hynny i'r lleiaf posib.
25. Er y gall fod yn anodd i rai chwaraeon peryglus fodloni'r meini prawf adloniant iach, mae'n bosib bod sefydliad yn defnyddio'r gamp fel ffordd o gyflawni diben elusennol gwbl wahanol. Yn yr achos hwnnw, gall y budd i'r cyhoedd a ddaw o amcan y sefydliad fod yn fwy na'r peryglon sy'n rhan hanfodol o'r gamp.
26. Bydd rhaid i ddillad ac offer fod yn fforddiadwy hefyd. Mae'n amlwg bod rhaid gwario swm sylweddol ar gyfer rhai chwaraeon. Felly, gall fod yn anodd derbyn bod rhai chwaraeon 'drud', fel polo, rasio ceir neu hwylio'r cefnforoedd, er enghraifft, yn fathau o adloniant sy'n wirioneddol ar gael i'r gymuned gyfan. Ond mae'n bosib y gall clybiau sy'n ymwneud â chwaraeon o'r fath ateb y gofynion ar gyfer cymryd rhan gymunedol os mai nod eu gweithgareddau yw cael y nifer mwyaf i gymryd rhan, efallai trwy ddarparu offer a chyfleusterau neu drwy roi cymorth tuag at y gost i'r rheiny sy'n cymryd rhan ac sydd ag incwm cymedrol.
27. Mae'r elfen gystadleuol mewn chwaraeon yn rhan gynhenid a hanfodol o'r hyn sy'n denu chwaraewyr, waeth beth fo'u lefel gallu. Bydd angen, a bydd gan CChAC ryddid eang i drefnu timau cystadleuol, a threfniadau eraill, fel cynghreiriau, yn seiliedig ar gystadleuaeth ac wedi'u strwythuro yn ôl gallu. Mae'n bosib y bydd y chwaraewyr mwyaf medrus ac ymroddedig am roi mwy o amser i hyfforddi a chwarae na chwaraewyr llai ymroddedig, a gall cyfleusterau gael eu neilltuo i adlewyrchu hyn a rhoi cyfle i dimau cystadleuol chwarae, a pharatoi ar gyfer gemau o fewn y clwb a'r tu allan iddo. Mae hyn i gyd yn gwbl gydnaws â statws elusennol, ar yr amod bod trefniadau'r clwb yn parhau i gyfateb â'i ddiben elusennol o hybu cymryd rhan gymunedol. Mewn geiriau eraill, ni ddylai'r graddau y mae cyfleusterau ac adnoddau yn cael eu neilltuo ar gyfer chwarae cystadleuol niweidio'r egwyddor o gael aelodaeth gwbl agored.
28. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gall clwb sy'n neilltuo llawer o'i gyfleusterau i gemau cystadleuol ac i aelodau ei dimau cystadleuol, tra'n parhau i gynnig cyfleoedd priodol a chyfatebol yn fras i eraill chwarae, fod yn elusennol. Ni fyddai clwb yn elusennol os yw'r flaenoriaeth sy'n cael ei rhoi i dimau a chwaraewyr cystadleuol yn golygu bod aelodau sy'n dewis peidio â chwarae'n gystadleuol yn cael cyfleoedd sy'n sylweddol waeth i gymryd rhan. Byddai hyn yn wir hefyd os oedd hi'n glir am resymau eraill mai llwyddiant cystadleuol, ac nid cymryd rhan gymunedol, oedd gwir bwrpas y clwb.
29. Gall CChAC elusennol ddewis darparu neu beidio â darparu hyfforddiant i'r rheiny sy'n cymryd rhan. Os yw'n gwneud hynny, rhaid i'r hyfforddiant fod ar gael i chwaraewyr ar bob lefel, nid i'r chwaraewyr gorau yn unig. Mae hawl gan y clwb roi cymorth i'r chwaraewyr gorau (er enghraifft, eu galluogi i gystadlu mewn digwyddiadau rhanbarthol, cenedlaethol neu ryngwladol) os yw gwneud hynny yn cymell pawb i gymryd rhan, ond ni ddylai'r fath gymorth gael ei roi ar draul eraill sy'n cymryd rhan. Nid ydym yn awgrymu bod rhaid i CChAC gynnig hyfforddiant, neu fod rhaid i bob aelod gael hyfforddiant. Fodd bynnag, os yw hyfforddiant yn cael ei ddarparu, rhaid i'r CChAC ddarparu ar gyfer anghenion chwaraewyr llai profiadol yn ogystal ag anghenion chwaraewyr mwy medrus.
30. Byddai'n dderbyniol i CChAC dalu i aelod o'r clwb ennill cymhwyster hyfforddi perthnasol os, yn gyfnewid am y buddsoddiad hwnnw, mae'r unigolyn yn gallu darparu hyfforddiant yn y clwb. Byddai hefyd yn dderbyniol i CChAC dalu i ddefnyddio hyfforddwr proffesiynol i hyfforddi ei chwaraewyr gorau os yw'r chwaraewyr hynny yn trosglwyddo'r hyn yr oeddent wedi'i ddysgu i'r chwaraewyr llai medrus.
31. I fod yn elusennol, byddai angen i CChAC allu dangos ei fod yn bodoli er budd y cyhoedd yn hytrach nag er budd ei aelodau. Fel arfer bydd CChAC yn mabwysiadu strwythur aelodaeth, ond dim ond fel ffordd hwylus o sicrhau bod ei fuddiannau ar gael i'r cyhoedd. Felly byddai'n rhaid i bob aelod fod yn aelodau sy'n chwarae, neu'n wirfoddolwyr nad ydynt yn chwarae a chynorthwywyr (gallai hyn gynnwys, er enghraifft, unigolion sy'n dymuno fod yn gysylltiedig â'r clwb o hyd ond nid ydynt yn gallu chwarae am resymau iechyd neu henaint). Cydnabyddwn y gall gwirfoddolwyr fod yn ased gwerthfawr iawn i'r clwb. Fodd bynnag, byddai'n rhaid i holl weithgareddau'r clwb gael eu cyfeirio tuag at faterion adloniant iach ac atodol. Os oedd y clwb yn darparu lluniaeth, er enghraifft, gallai wneud hynny dim ond fel gweithgaredd atodol yn unig sy'n gysylltiedig â chymryd rhan yn y gamp dan sylw.
32. Nid yw darparu cyfleusterau i'w defnyddio gan aelodau sydd dim ond yn bwriadu cymryd mantais o gyfleusterau cymdeithasol y clwb yn elusennol, felly ni allai cyfansoddiad y clwb gynnwys categori aelodaeth 'gymdeithasol'.
33. Ond nid yw hyn yn golygu na all CChAC elusennol gynnwys cyfleusterau cymdeithasol, fel bar, ar ei eiddo. Yn syml, mae'n golygu bod rhaid i weithgareddau o'r natur hon gael eu gweithredu gan sefydliad anelusennol ar wahân, fel clwb cymdeithasol, i'w weithredu ar hyd braich o'r elusen. Mae hon yn debyg i'r sail a ddefnyddir gan neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol, er enghraifft, i gynnal gweithgareddau cymdeithasol ar eu heiddo. Nid oes rhaid i'r trefniadau fod yn feichus, a gall yr incwm a gynhyrchir gan y gweithgareddau hyn barhau i gael ei ddefnyddio i gefnogi hyfywedd ariannol y clwb. (Gweler paragraff 37, 2ail bwynt bwled, isod).
34. Mae'r arweiniad a ddisgrifir uchod yn golygu, at ei gilydd, mewn CChAC elusennol:
35. Nid yw ein penderfyniad i gydnabod hyrwyddo cymryd rhan gymunedol mewn adloniant iach fel diben elusennol yn golygu y gall pob corff chwaraeon fod yn elusennol. Ni fyddai'r cyrff hynny sydd ag aelodaeth gyfyngedig (heblaw am y rhesymau a ddisgrifir ym mharagraffau 15-17 uchod), efallai am resymau cymdeithasol neu oherwydd eu bod yn ymwneud â chwaraeon proffesiynol neu i'r goreuon, er enghraifft, neu nad ydynt yn gallu gwella iechyd a ffitrwydd corfforol, yn gallu manteisio ar ein penderfyniad.
36. Mae statws elusennol yn cynnig manteision sylweddol o ran cydnabyddiaeth a chymorth ariannol. Gall elusennau fanteisio ar yr ystod lawn o ostyngiadau treth i elusennau, gan gynnwys cymhellion i roddwyr sy'n rhoi trwy'r gyflogres a rhoddion o gyfranddaliadau, eithriadau ehangach ar eu hincwm eu hunain a gostyngiad trethi busnes gorfodol. Maen nhw hefyd yn cael mwy o gyfleoedd ariannol, gan gynnwys grantiau gan elusennau eraill, fel sefydliadau cymunedol, a chyrff cyhoeddus sy'n ariannu gweithgareddau elusennol. Gall elusennau fwynhau'r buddiannau hyn cyn gynted â'u bod yn sefydlu eu hunain fel elusen.
37. Yn gyfnewid am y buddiannau hyn, mae cyfrifoldebau arbennig gan elusennau i weithredu mewn ffordd sy'n dryloyw ac maen nhw'n atebol i'r Comisiwn Elusennau a'r cyhoedd. Nid yw'r cyfrifoldebau hyn yn feichus ond dylai unrhyw un sy'n ystyried cofrestru ei CChAC fel elusen fod yn ymwybodol o'r cyfrifoldebau hynny a pha newidiadau y bydd rhaid eu gwneud o bosib i'r ffordd y mae ei CChAC yn gweithredu. Mae arweiniad ar y prif fanteision a chyfyngiadau a ddaw wrth fod yn elusen i'w weld ym mharagraff 3 ein cyhoeddiad CC21: Cofrestru fel Elusen ond yn arbennig bydd CChAC am fod yn ymwybodol o'r canlynol:
38. Mater i bob clwb unigol yw penderfynu a ydynt yn gymwys i fod yn CChAC elusennol ac a ydynt yn dymuno manteisio ar y buddiannau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â bod yn elusen. Wrth geisio statws elusennol, bydd clybiau wedi gwneud penderfyniad cydwybodol i weithredu'n barhaol fel elusen. Mae'r Comisiwn Elusennau yn barod i gofrestru unrhyw glwb sy'n amlwg yn ateb y meini prawf i fod yn CChAC elusennol ond mater i bob clwb yw penderfynu a yw cofrestru fel elusen yn rhywbeth y dymunant ei ystyried neu beidio.
39. Os, ar ôl darllen y canllaw hwn, rydych yn teimlo y gallai eich CchAC hawlio statws elusennol, ac mae diddordeb gan y clwb geisio cofrestru fel elusen, bydd angen i chi:
(i) Ffonio 0870 3330123 a gofyn am gopi o'n canllaw CC21: Cofrestru fel Elusen a CC22: Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol. Bydd y rhain yn eich helpu i benderfynu a yw cofrestru fel elusen yn briodol. Os, ar ôl darllen CC21, rydych yn penderfynu bod cofrestru'n briodol, cwblhewch y cwpon ar gefn CC21 i archebu'r Pecyn Cais Cofrestru ynghyd ag unrhyw gyhoeddiadau eraill sydd eu hangen arnoch.
(ii) Gwnewch yn siŵr bod math priodol o ddogfen lywodraethol gan eich CChAC. (Ar gyfer y rhan fwyaf o CChAC, mae'n debygol o fod yn gyfansoddiad, sydd gan eich clwb eisoes efallai, ond bydd angen i chi sicrhau bod ei ddarpariaethau yn briodol i'ch elusen).
Gweler CC22. Mae'r Comisiwn yn cynhyrchu ffurfiau enghreifftiol o ddogfennau llywodraethol y gallwch eu defnyddio naill ai i'w mabwysiadu fel ffurf newydd o gyfansoddiad neu y gallwch gymharu'r cyfansoddiad sydd gennych eisoes yn ei erbyn. Mae'r Comisiwn yn gobeithio gweithio gyda'r cyrff chwaraeon mwy i baratoi ffurfiau addas o gyfansoddiad enghreifftiol y gallai CChAC sy'n dymuno bod yn elusennau eu mabwysiadu. Caiff mwy o wybodaeth am hyn ei chyhoeddi maes o law.
(iii) Gwnewch yn siŵr bod yr amcanion a nodwyd yn nogfen lywodraethol eich clwb (os yw'n gyfansoddiad presennol eich clwb neu'n gyfansoddiad newydd y dymunwch ei fabwysiadu) yn elusennol yn unig.
Nid yw'n debygol y bydd nifer o CChAC yn bodoli ar hyn o bryd dim ond er mwyn "hyrwyddo cymryd rhan gymunedol mewn adloniant iach yn arbennig trwy ddarparu cyfleusterau ar gyfer chwaraeon arbennig" neu "hyrwyddo addysg gorfforol pobl ifanc nad ydynt yn cael addysg ffurfiol". I fod yn elusennol, felly, byddai'n rhaid i CChAC sy'n dymuno gwneud cais i gofrestru fel elusen ddiwygio'n ffurfiol ei ddibenion a nodwyd i'r diben(ion) penodol a bennwyd gennym ni a chyfyngu ei hun i'r dibenion hynny. Byddai enghraifft o eiriad addas yn cynnwys "hyrwyddo cymryd rhan gymunedol mewn adloniant iach [er budd trigolion x] trwy ddarparu cyfleusterau ar gyfer chwarae pêl-droed."
(iv) Dylech gwblhau'r ffurflenni cofrestru angenrheidiol yn unol â'r cyfarwyddiadau yn y Pecyn Cais Cofrestru a'u dychwelyd i'r Is-adran Gofrestru ym mha bynnag swyddfa sy'n gyfrifol am yr ardal lle y lleolir eich clwb.
A1. Mae rôl bwysig gan elusennau i'w chwarae o ran hybu cymryd rhan mewn chwaraeon fel ffordd o gyflawni amryw o ddibenion elusennol. Gall sefydliad sy'n ymwneud â champ neu gampau nad yw'n ateb y meini prawf ar gyfer CChAC elusennol (efallai, er enghraifft, oherwydd nid yw'r gamp yn un y gellid dweud ei bod yn gwella iechyd corfforol rhywun) fod yn elusennol serch hynny ar y sail ei fod yn cyflawni diben elusennol gwahanol. Er enghraifft, mae'n elusennol i roi cyfle i blant ac oedolion anabl farchogaeth os mai'r rheswm dros wneud hynny yw eu galluogi i wella eu cydsymudiad, cydbwysedd, hyder a hunan-barch. Yn yr achos hwnnw, nid diben y clwb yw hybu'r gamp o farchogaeth, rhywbeth na fyddai'n elusennol, ond yn hytrach hybu'r diben elusennol o helpu pobl i ymdopi ag anabledd.
A2. Yn ogystal â "hyrwyddo cymryd rhan gymunedol mewn adloniant iach" mae'r canlynol yn enghreifftiau o ddibenion elusennol eraill y gellid eu hybu trwy chwaraeon. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ond mae'n ceisio dangos y ffyrdd y gall chwaraeon gael eu defnyddio mewn cyd-destunau elusennol eraill.
A3. Mae'n elusennol i ddarparu canolfannau chwaraeon, meysydd chwarae, pyllau nofio a chyfleusterau tebyg ar gyfer adloniant iach y cyhoedd dan ddarpariaethau Deddf Elusennau Adloniadol 1958. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, cyfleuster aml-chwaraeon sy'n ymwneud ag amryw o chwaraeon, rhai sy'n hybu iechyd corfforol a rhai nad ydynt yn gwneud hynny. Fodd bynnag, byddai'n rhaid iddo ddangos bod y cyfleusterau'n cael eu darparu er budd lles cymdeithasol gyda'r nod o wella amodau byw y sawl y darperir y cyfleuster ar ei gyfer. Cewch fwy o arweiniad ar hyn yn ein cyhoeddiad RR4: Deddf Elusennau Adloniadol 1958.
A4. Gall cyfleusterau chwaraeon hefyd gael eu darparu dan Ddeddf 1958 ar gyfer yr anabl, yr henoed neu bobl ifanc.
A5. Fel y soniwyd amdano uchod, gall chwaraeon fod yn elusennol os yw'n gwella amodau byw i'r bobl sydd ag anabledd meddyliol neu gorfforol (trwy chwaraeon mor amrywiol â bowlio1, saethu2, marchogaeth3, barcuta4 a hwylio5 ) a phobl sydd â nam synhwyraidd.6
A6. Mae'n elusennol i ddarparu cyfleusterau chwaraeon i blant a phobl ifanc sy'n mynychu ysgolion neu brifysgolion, oherwydd mae addysg a datblygiad corfforol yn rhan annatod o addysg yr ifanc. Mae hefyd yn elusennol i hyrwyddo addysg gorfforol pobl ifanc nad ydynt yn cael addysg ffurfiol. Gall chwaraeon gael eu defnyddio hefyd yng nghyd-destun materion eraill sy'n effeithio ar bobl ifanc gan gynnwys ymdrin â phroblemau fel troseddau ieuenctid.
A7. Byddai hyfforddiant corfforol sy'n ceisio helpu pobl oedrannus ymdopi ag anystwythder ac anallu i symud yn cael ei ystyried yn elusennol ar y sail ei fod yn rhoi cymorth i'r henoed.
1 Er enghraifft, Cymdeithas Bowlio Cadeiriau Olwyn Prydain (1057204).
2 E.e. Cymdeithas Saethu Paraplegig Prydain Fawr (1050338).
3 Ar hyn o bryd mae 513 o elusennau cofrestredig sy’n ymwneud â darparu marchogaethi bobl anabl.
.6 E.e. Clwb Rygbi i’r Byddar Cymru (1071383) a Chlwb Bowlio Nam ar y Golwg Yeovil (1068224).