Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Fersiwn 09/04)
1. Mae'r Comisiynwyr Elusennau wedi derbyn bod hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd yn ddiben elusennol ynddo'i hun.
2. Mae'r arweiniad hwn yn esbonio'r nodweddion y mae angen i sefydliadau sy'n ymwneud â hybu'r diben hwnnw feddu arnynt er mwyn iddynt gael eu cydnabod fel sefydliadau elusennol. Rydym wedi ystyried hyn fel rhan o'n Hadolygiad o'r Gofrestr. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad cyhoeddus a arweiniodd at yr arweiniad hwn.
3. Rydym yn ystyried isod beth yw'r 'sector gwirfoddol' yn y cyd-destun arbennig hwn. Yn gyffredinol, mae 'sector gwirfoddol' yn golygu cyrff sydd wedi'u "cyfansoddi'n ffurfiol, yn annibynnol ar y llywodraethol (ganol a lleol), yn hunanlywodraethol, ddim yn dosbarthu elw, ddim yn ymwneud â busnes yn bennaf ac yn cael budd o wirfoddoliaeth"(1) a chyrff nad ydynt yn sefydliadau plaid wleidyddol . Mae'r arweiniad hwn yn ymwneud â sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau a chymorth i ystod eang o gyrff, nid yn unig cyrff elusennol ond hefyd sefydliadau gwirfoddol anelusennol sy'n ffurfio'r sector gwirfoddol, gyda'r nod o hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd.
4. Mae cyrff eraill hefyd yn darparu gwasanaethau a chymorth i elusennau a'r sector gwirfoddol ehangach ond eu nod yw hybu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd elusennau neu'r defnydd effeithiol o adnoddau at ddibenion elusennol. Gall y cyrff hyn fod yn elusennol hefyd ac maent yn destun arweiniad ar wahân Hybu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd elusennau a'r defnydd effeithiol o adnoddau elusennol (RR14).
5. Cydnabyddwn fod y sector gwirfoddol yn rhan bwysig o economi heddiw ac mae rôl bwysig ganddo i'w chwarae ym mywyd y genedl:
"Mae rôl hanfodol gan y sector gwirfoddol a chymunedol i'w chwarae yn y gymdeithas fel 'trydydd sector' y genedl, gan weithio wrth ochr y wladwriaeth a'r farchnad. Trwy ei ddefnydd o wirfoddolwyr, y gwasanaethau y mae'n eu darparu a'r cymorth y mae'n ei roi i unigolion a grwpiau, mae ei gyfraniad at y gymuned a bywyd sifil yn enfawr, yn amhrisiadwy ac yn unigryw"(2).
6. Derbyniwn nifer o geisiadau i gofrestru fel elusen gan sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau er budd sefydliadau gwirfoddol eraill, rhai elusennol ac anelusennol. Anhawster wrth gydnabod darparwyr gwasanaeth o'r fath fel elusennau yn y gorffennol oedd y gallent gynnig budd i gyrff anelusennol yn ogystal â chyrff elusennol yn y sector gwirfoddol. Mae rhai o'r cyrff hyn yn ymgymryd â rhai gweithgareddau elusennol, ond nid yw eraill yn gwneud hynny. Er enghraifft, mae'n bosib eu bod yn cynnig budd i gyrff datblygiad economaidd, nad ydynt yn elusennol oherwydd eu bod yn cynnig budd i fusnes preifat, ac undebau credyd neu sefydliadau cydfuddiannol eraill nad ydynt yn elusennol oherwydd eu bod wedi'u sefydlu er budd eu haelodau yn unig yn hytrach na'r cyhoedd yn gyffredinol.
7. Fodd bynnag, credwn fod hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd yn gallu bod yn ddiben elusennol. Felly gall rhai o'r sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i sefydliadau'r sector gwirfoddol elusennol ac anelusennol fod yn gymwys i fod yn elusennau oherwydd eu bod yn hybu dibenion elusennol.
8. Mae darparwyr gwasanaeth y sector gwirfoddol yn gwasanaethu ystod eang o sefydliadau gwirfoddol ac yn ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau, ond nid ydynt yn ymgymryd â gweithgareddau "rheng flaen" eu hunain fel arfer. Mae rhai darparwyr gwasanaeth y sector gwirfoddol wedi mabwysiadu rhestr hir o ddibenion elusennol cymeradwy yn y gorffennol mewn ymdrech i geisio cynnwys yn eu hamcanion yr amrywiaeth o sefydliadau y maent yn eu gwasanaethu a'u hamrywiaeth o weithgareddau. O ganlyniad, mae dibenion amrywiol gan rai darparwyr gwasanaeth y sector gwirfoddol i leddfu tlodi, hybu addysg a chrefydd, darparu cyfleusterau adloniadol, gwarchod ac amddiffyn iechyd ac ati. Yn wir, nid yw'r amcanion hyn yn adlewyrchu gwir weithgareddau darparwyr gwasanaeth y sector gwirfoddol a'r diben cyffredinol, sef darparu cyngor, cymorth a chefnogaeth i'r sector gwirfoddol, neu fod y sefydliadau gwirfoddol hyn yn ceisio cynorthwyo'r sector gwirfoddol anelusennol yn ogystal â'r sector gwirfoddol elusennol.
9. Yn ein barn ni, dylai elusennau fabwysiadu amcanion sy'n adlewyrchu eu gweithgareddau yn gywir. Mae cydnabod hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd fel diben elusennol ynddo'i hun yn golygu y gall sefydliadau elusennol sy'n gweithio yn y maes hwn fabwysiadu amcanion sy'n disgrifio’r gwaith a wnânt yn fwy manwl erbyn hyn.
10. Mae angen i amcanion elusennol fod yn ddigon pendant i'r Llys a'r Comisiwn allu eu rheoleiddio. Felly bydd angen i gymal amcanion sy'n hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd ddiffinio'r hyn a olygir wrth 'y sector gwirfoddol'. Gan mai pwrpas y diffiniad hwn fydd pennu ffiniau'r sector gwirfoddol y gellid bod yn elusennol i'w hybu, gall y diffiniad y byddwn yn ei ddewis amrywio o ddiffiniadau a ddefnyddir ar gyfer dibenion eraill(3).
11. Mae'r diffiniad o 'sector gwirfoddol' a dderbyniwyd ar gyfer y diben elusennol hwn fel a ganlyn:
"Mae'r 'Sector Gwirfoddol' yn golygu elusennau a sefydliadau gwirfoddol.
12. Yn ogystal, oherwydd natur y diben, credwn fod rhaid i'r cymal amcanion gynnwys y prif weithgareddau a ddilynir i gyflawni'r amcan. Bydd angen addasu'r rhain ar gyfer pob sefydliad unigol yn ôl ei weithgareddau. Y Comisiwn fydd yn penderfynu ym mhob achos a yw gweithgareddau'r sefydliad yn rhai a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar hybu'r amcan ac a yw'r amcanion yn cael eu hybu mewn modd priodol ar gyfer elusen.
13. Mae cydnabod elusen sy'n ymwneud â hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd yn golygu hybu, yn gyffredinol, y sector gwirfoddol cyfan neu ran ddigonol ohono.
14. Bydd angen ystyried yn ofalus yr hyn a olygir wrth 'rhan ddigonol o'r cyhoedd. Ar yr amod bod y rhan o'r sector gwirfoddol y mae'r sefydliad yn ymwneud â hi yn cael ei chydnabod yn rhan ar wahân ac o werth o ran gwasanaethu angen cymdeithasol ac economaidd, yna byddai'n elusennol i'w hybu. Ar y sail hon, er enghraifft, byddai sefydliadau lleiafrif ethnig yn cynrychioli rhan ddigonol o'r sector gwirfoddol i wneud hybu'r sector hwnnw yn elusennol. Yn yr un modd, gall fod yn bosib dweud bod sefydliad sy'n hybu'r sector gwirfoddol mewn ardal ddaearyddol arbennig yn elusennol.
15. Mae'r gwasanaethau a ddarparwyd gan y sefydliadau hyn wedi'u disgrifio yn fwy manwl isod, ond maent yn cynnwys cydlynu sefydliadau gwirfoddol sy'n gweithio mewn maes arbennig, rhoi cyngor iddynt, a darparu rhwydwaith o wybodaeth berthnasol iddynt. Mae sefydliad o'r fath yn darparu gwasanaethau sy'n gwella ansawdd a gwaith cyrff sy'n gweithredu o fewn y sector gwirfoddol, rhai elusennol ac anelusennol.
16. Bydd y sefydliadau hynny sy'n darparu gwasanaethau i sefydliadau sector gwirfoddol elusennol ac anelusennol yn gymwys i fod yn elusennau os yw eu gwaith a'u hamcanion yn dangos eu bod yn hybu rhan ddigonol o'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd.
17. Mae'r math o wasanaethau a ddarperir gan ddarparwyr gwasanaeth y sector gwirfoddol yn y sector gwirfoddol elusennol ac anelusennol yn aml yn cynnwys rhai neu bob un o'r canlynol:
18. Yn ogystal, gallai darparwyr gwasanaeth y sector gwirfoddol gymryd rhan mewn darparu cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd a sefydliadau sy'n bodoli ynghylch sut i sefydlu elusennau a sefydliadau gwirfoddol.
19. Os yw corff yn gwneud cais i gael ei gofrestru fel elusen ar gyfer hybu'r sector gwirfoddol, bydd asesu'r cais yn ystyried:
20. Y mater allweddol wrth asesu gweithgareddau yw a ellir dangos budd i'r cyhoedd ac a oes unrhyw beth mwy na budd preifat atodol. Yn gyffredinol, mae'n rhaid i'r gweithgaredd/au a ddilynir gan y sefydliad sy'n ymgeisio, ac effaith hyn ar y sefydliadau gwirfoddol y mae'r ceisydd yn darparu ei wasanaethau iddynt, gael arwyddocâd sy'n mynd ymhellach na chynnig budd i'r sefydliadau arbennig sy'n derbyn y gwasanaethau. Dylai'r buddiannau i'r cyrff unigol sy'n derbyn y gwasanaeth fod yn atodol i gyflawni'r amcan elusennol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i'r sefydliad sy'n ymgeisio naill ai:
21. Unwaith eto, byddwn yn mabwysiadu ymagwedd hyblyg. Ond, yn gyffredinol, rhaid i'r sefydliadau sydd wedi'u cynnwys yn y rhan berthnasol o'r sector gwirfoddol gael effaith neu fod yn debygol o gael effaith (a) ar weithredu'r sector gwirfoddol, neu'r canfyddiad o'r sector gwirfoddol mewn ardal ddaearyddol arbennig neu faes gweithgaredd neu ymysg rhan ddigonol o'r cyhoedd neu (b) trwy'r is-sector hwnnw ar y gymuned ehangach.
22. Mae effaith yn cael ei mesur naill ai trwy nifer y sefydliadau dan sylw neu drwy arwyddocâd y gweithgareddau o fewn maes gweithgaredd arbennig neu ymysg rhan ddigonol o'r cyhoedd.
23. Bydd yn bwysig bod unrhyw fudd posib i sefydliad gwirfoddol unigol yn atodol yn briodol i hybu'r diben elusennol. Bydd angen i amcanion ymgeiswyr y mae'r diben hwn yn gymwys iddynt esbonio’n glir pa weithgareddau y maent yn ymgymryd â nhw i hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd. Rhaid i unrhyw elusen sy'n hybu'r sector gwirfoddol allu dangos bod unrhyw fudd preifat sy'n deillio o weithgareddau o'r fath yn atodol i hybu'r diben elusennol.
24. Os yw'r sefydliad yn bwriadu gweithredu dramor, dylai ein bodloni ei fod yn gallu adnabod y sector gwirfoddol yn y gwledydd dan sylw gan ddefnyddio'r diffiniad a roddir uchod yn yr arweiniad hwn neu ddiffiniad gwahanol sy'n dderbyniol i ni.
25. Os yw'r sefydliad yn darparu rhai neu'r cyfan o'i wasanaethau i'w aelodau yn unig, dylai ein bodloni y gall pawb a allai gael budd ymuno a bod meini prawf agored a gwrthrychol ar gyfer penderfynu ar yr aelodaeth.
26. Mae rhai enghreifftiau o'r math o waith y gallai sefydliadau elusennol sy'n hybu'r sector gwirfoddol ei wneud yn cynnwys:
27. Ni ddylai fod angen i elusennau sy'n bod newid eu hamcanion o ganlyniad i'r arweiniad hwn. Fodd bynnag, gall elusennau sy'n bod sy'n ymwneud â hybu'r sector gwirfoddol, neu ran ohono, ystyried diwygio eu hamcanion i'r diben newydd hwn pe byddai'n disgrifio’r gwaith a wnânt yn fwy manwl.
28. Os nad yw ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig yn sicr a yw'r arweiniad hwn yn gymwys iddynt neu beidio, neu os oes ymholiadau eraill ganddynt, cysylltwch â ni ar 0870 333 0123.
29. Mae'r arweiniad hwn yn berthnasol i elusennau sy'n rhoi grantiau i sefydliadau sy'n ymwneud â hybu'r sector gwirfoddol. Mae elusennau o'r fath yn cynnwys y rheiny a sefydlwyd gydag amcanion elusennol eang a phwerau rhoi grantiau cyffredinol. Er mwyn bodloni ei hun ei fod yn cyflawni dibenion elusennol, dylai unrhyw elusen sydd yn y sefyllfa hon ystyried yr arweiniad hwn pan fyddant yn rhoi grantiau i ddarparwyr gwasanaeth y sector gwirfoddol.
A1. Er mwyn derbyn hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd fel diben elusennol ynddo'i hun, roedd angen i ni fodloni'n hunain bod:
A2. Lluniwyd y farn fod y diben yn ddigon tebyg i ddibenion sydd eisoes wedi cael eu cydnabod fel dibenion elusennol yn gyfreithiol yn y rhagymadrodd i Statud Elisabeth 1(4) ac mewn penderfyniadau dilynol y llysoedd(5). Wrth lunio'r farn hon mae'r Comisiynwyr wedi mabwysiadu ymagwedd adeiladol at geisio cyfatebiaeth briodol yn unol â'u polisi(6).
A3. Mae natur elusennol yr amcan hwn, hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd, yn deillio o bedwerydd pennawd dosbarthiad yr Arglwydd McNaghten yn Comisiynwyr Arbennig Treth Incwm v Pemsel [1891] 1 AC 131 fel dibenion sy'n fuddiol i'r gymuned. IRC v White [1951] All ER 528 yw'r awdurdod ar gyfer y cynnig nad oes rhaid i fuddiannau fod yn uniongyrchol.
A4. Bernir y gall y diben gael ei ystyried yn un sy'n debyg i ddibenion elusennol sy'n hybu categori cyfan o fywyd cymdeithasol ac economaidd y gymuned, megis hybu masnach a diwydiant er budd y cyhoedd(7) a hybu diwydiannau unigol er budd y cyhoedd megis amaethyddiaeth(8) neu arddwriaeth. Gall hefyd fod yn elusennol o ran hybu lles meddyliol a moesol y gymuned a hybu dinasyddiaeth dda(9).
A5. Mae hybu amaethyddiaeth yn elusennol oherwydd bod "Amaethyddiaeth yn ddiwydiant sydd nid yn unig o fudd i'r gymuned ond yn hanfodol i'w lles"(10). Dywedwyd bod Cymdeithas Amaethyddol Sir Gaerefrog yn elusennol ar y sail ei bod yn hybu amaethyddiaeth oherwydd "fe'i ffurfiwyd at y diben o wella amaethyddiaeth gyfan, ac nid at unrhyw ddiben cyfyngedig o gynnig budd i aelodau arbennig y Gymdeithas yn unig neu'r rheiny sy'n byw yn yr ardal leol yr oedd ei henw yn ei chysylltu â hi, ac at ddiben a all hybu a gwella budd y gymuned gyfan."(11). Mae hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd yn debyg i hybu amaethyddiaeth, gan fod y sector gwirfoddol hefyd yn hanfodol i les y gymuned. Mae'n cyfrif am ran sylweddol o'r economi; amcangyfrifir fod cyfanswm gwariant y sector elusennol yn £24 biliwn. Credwn fod gwariant y sector gwirfoddol yn llawer mwy a chyfeirir ato yn gyffredinol fel trydydd sector yr economi. Mae ei amrywiaeth a'i hyblygrwydd yn caniatáu iddo ymateb i anghenion y gymuned mewn ffordd fwy effeithion gyda mwy o ffocws nag y gall y llywodraeth a gwasanaethau statudol ei wneud. Mae hefyd yn hybu sefydlogrwydd cymdeithasol a pharch at reolaeth cyfraith trwy gynnig falf ddiogelu hanfodol i bwysau cymdeithasol.
A6. Mae hanfod elusennol hybu masnach a diwydiant er budd y cyhoedd wedi'i seilio ar warchod neu wella ansawdd cynhyrchion neu wasanaethau er budd y cyhoedd, a gafodd ei gyferbynnu â hybu buddiannau'r rheiny sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau arbennig sydd heb fod yn elusennol. Mae sefydliadau y gellid dweud eu bod yn hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd hefyd yn cadw neu'n gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliadau gwirfoddol y maent yn eu cynorthwyo trwy ddarparu "cymorth, cyngor neu wybodaeth" ac "adnabod anghenion newydd ac ymatebion priodol"(12). Maent yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau penodol ac yn gweithredu fel llefarwyr ar ran y sector. Oherwydd maint a phwysigrwydd y sector gwirfoddol, mae gwarchod a gwella ansawdd ei wasanaethau yn debygol o fod er budd y cyhoedd, yn hytrach na budd preifat y sefydliadau gwirfoddol unigol, ac o'r un gwerth â hybu masnach a diwydiant er budd y cyhoedd.
A7. Gellir ystyried fod y diben yn debyg i hybu lles meddyliol a moesol a gwella'r gymuned hefyd, sy'n ddiben y mae'r llysoedd wedi penderfynu cyn hyn ei fod yn elusennol(13), gan fod y sector gwirfoddol yn gyfrwng y gellid dweud bod diben o'r fath yn cael ei gyflawni drwyddo: "mae gweithgaredd gwirfoddol a chymunedol yn hanfodol i ddatblygu cymdeithas ddemocrataidd, sy'n gymdeithasol gynhwysol(14)". Mae nifer o sefydliadau gwirfoddol yn dibynnu'n fawr ar wirfoddolwyr ac felly'n "galluogi unigolion i gyfrannu at fywyd cyhoeddus a datblygu eu cymunedau"(15) sy'n debygol o fod er budd y cyhoedd. Yn yr un modd, mae'r broses o wirfoddoli yn debygol o hybu lles meddyliol a moesol y gymuned er budd y cyhoedd oherwydd ei bod yn cynnwys pobl yn yr hyn sy'n weithred ddyngarol yn ei hanfod. Mae gwirfoddoli yn debygol o feithrin ysbryd gyffredinol o haelioni a chynhwysiad cymdeithasol. Rydym eisoes wedi cymhwyso’r agwedd hon ar y gyfraith elusennau wrth dderbyn hybu safonau moesegol ymddygiad a chydymffurfio â'r gyfraith yn ddiben elusennol mewn perthynas â'r elusen Public Concern at Work. Yn ogystal, mewn perthynas â'r Payroll Giving Association, rydym wedi cydnabod bod hybu dibenion elusennol trwy annog pobl i roi trwy'r gyflogres fel dull o brynu adnoddau i elusennau yn ddiben elusennol(16).
A8. Gellid dweud hefyd fod hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd yn elusennol trwy gyfatebiaeth â hybu dinasyddiaeth dda a gafodd ei dderbyn fel diben elusennol ar gyfer Cymdeithas y Sgowtiaid(17). Gellid dweud bod gwirfoddoli ar gyfer sefydliad gwirfoddol yn weithred ddyngarol o ddinasyddiaeth dda. Fel y nododd Adroddiad Deakin(18) "Mewn democratiaeth, mae gweithredu gwirfoddol yn fathodyn dinasyddiaeth".
A9. Ar y cwestiwn o gynnig budd i'r cyhoedd, cafodd y prawf budd cyhoeddus ar gyfer sefydliadau sy'n hybu diben sy'n fuddiol i'r gymuned ei ystyried yn ddiweddar gan y Comisiynwr(19). Cydnabu'r Comisiynwyr fod y gyfraith elusennau yn mynnu y dylai tuedd sefydliad o'r fath fod tuag at fuddiannau sylweddol a gwrthrychol ond, yn achos unrhyw fuddiannau ansylweddol, rhaid i'w budd i'r cyhoedd gael ei dderbyn gan gonsensws barn cyffredin ymysg pobl sy'n deg ac yn rhydd rhag rhagfarn.
A10. Mae cael sector gwirfoddol effeithiol yn cynnig budd sylweddol i'r cyhoedd. Byddai hyd yn oed y rheiny nad ydynt yn cael cymorth uniongyrchol yn bersonol gan sefydliad neu elusen wirfoddol yn cytuno mae'n debyg bod y gymdeithas gyfan yn cael budd arwyddocaol o weithgareddau'r sector gwirfoddol.
A11. Mae pwysigrwydd y sector gwirfoddol a'r cyfraniad a wna i gymdeithas iach wedi cael ei gydnabod gan y llywodraeth. Mae'r Papur Gwyn ar "Elusennau: Fframwaith ar gyfer y Dyfodol"(20) yn nodi y bu'r ymdrech wirfoddol o bwysigrwydd enfawr yn hanes y wlad hon. Mae'r sector gwirfoddol yn ymgymryd ag amrywiaeth fawr o weithgareddau ac mae'n chwarae rôl hanfodol wrth gynnwys a chyfeirio ymdrechion unigolion sy'n dymuno cynorthwyo'r rheiny sydd mewn angen gartref a thramor.
A12. Mae Adroddiad y Swyddfa Gartref(21) "Effeithlonrwydd archwilio cyllido'r sector gwirfoddol gan y llywodraeth" 1990 yn disgrifio'r sector gwirfoddol fel "grym pwysig... O safbwynt y Llywodraeth, mae cyrff gwirfoddol yn ychwanegu at ansawdd a maint yr hyn y gall y wladwriaeth ei ddarparu." Yn yr un adroddiad, amcangyfrifodd NCVO(22) bod cyfanswm y cyrff gwirfoddol yn ddwbl nifer yr elusennau cofrestredig, er nad oedd unrhyw ffigurau manwl sy'n dangos maint y sector(23).
A13. Cydnabu Adroddiad Deakin fod y sector gwirfoddol yn gwneud cyfraniad sylweddol at iechyd cymdeithas a chydnabu fod cyrff cyfryngol yn rym pwysig, sy'n cyflawni pedair prif swyddogaeth: datblygiad; gwasanaethau i sefydliadau eraill; cydgysylltiad; a chynrychiolaeth.
A14. Mae sefydliadau sy'n hybu'r sector gwirfoddol yn darparu rhai buddiannau sylweddol i'r sefydliadau a'r unigolion hynny sy'n derbyn eu cymorth yn uniongyrchol. Felly rydym yn fodlon fod sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i hybu'r sector gwirfoddol yn cynnig budd sylweddol i'r cyhoedd.
A15. Yn ogystal, mae darparwyr gwasanaeth y Sector Gwirfoddol yn darparu nifer o fuddiannau ansylweddol i'r cyhoedd sy'n derbyn cymorth gan y sector gwirfoddol a'r gymdeithas gyfan. Mae buddiannau o'r fath yn cynnwys:
A16. Yn unol â hyn rydym yn fodlon fod hybu'r sector gwirfoddol hefyd yn creu budd ansylweddol i'r cyhoedd.
A17. Ym mhob achos bydd angen i ni ystyried a yw'r budd sylweddol ac ansylweddol hwn i'r cyhoedd yn ddigonol i fod yn drech nag unrhyw fudd preifat i'r sefydliadau, neu unigolion sy'n fuddiolwyr sefydliadau o'r fath, ac a yw budd preifat o'r fath yn atodol gyfreithlon i ddilyn yr amcan o hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd. Nodir yr egwyddorion cyfreithiol sy'n sail i'r egwyddor hon o fudd atodol cyfreithlon yn ein harweiniad RR8: Natur Gyhoeddus Elusen. Bydd sefydliadau gwirfoddol sy'n derbyn gwasanaethau gan ddarparwyr gwasanaeth y sector gwirfoddol yn cael budd eu hunain trwy, er enghraifft, strwythur rheoli fwy effeithlon neu ffurflen grant mwy priodol i'w chwblhau er mwyn gwneud cais am arian o'r llywodraeth, yn yr un modd ag y gall unigolion sy'n derbyn gwasanaethau gan y sefydliadau gwirfoddol hyn, trwy dderbyn gwasanaethau mwy priodol ac amserol, er enghraifft. Yn gyffredinol byddai'r budd preifat hwn i'r sefydliadau sy'n derbyn cymorth gan ddarparwyr gwasanaeth y sector gwirfoddol er mwyn hyrwyddo amcan i hybu'r sector gwirfoddol yn ymddangos ei fod yn atodol ac yn angenrheidiol i'r diben da cyhoeddus cyffredinol o hybu'r sector gwirfoddol, ond byddai'n rhaid i hyn gael ei ystyried yn sgîl amgylchiadau pob darpar ddarparwr gwasanaeth sector gwirfoddol elusennol.
A18. Yn IRC v Cyngor Hyfforddiant a Menter Oldham(24) penderfynwyd nad oedd sefydliad gyda rhai amcanion a gweithgareddau elusennol yn elusennol oherwydd barnwyd bod yr ail brif amcan, sef hybu masnach, crefft a menter, a'r amcan ategol, sef darparu gwasanaethau cefnogi a chyngor i fusnesau newydd, yn cynnig modd i'r sefydliad hybu buddiannau unigolion sy'n ymwneud â masnach, crefft neu fenter ac yn darparu buddiannau neu wasanaethau iddynt. Nid oedd yn amcan elusennol oherwydd byddai wedi caniatáu rhoi budd preifat nad oedd yn atodol gyfreithlon i hybu diben elusennol. Mae'r achos hwn yn pwysleisio pwysigrwydd unrhyw fudd i sefydliad gwirfoddol unigol sy'n atodol briodol i hybu'r diben elusennol.
A19. I grynhoi, teimlwn nad oes unrhyw rwystr yn y gyfraith rhag ystyried bod hybu'r sector gwirfoddol er budd y cyhoedd yn ddiben elusennol ynddo'i hun.
(1) Galwodd Kendall a Knapp hyn y "Sector Gwirfoddol Bras" yn Sector Gwirfoddol y DU, Gwasg Prifysgol Manceinion, 1996
(2) Compact ar y Berthynas rhwng y Llywodraeth a'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol yn Lloegr - Cm 4100 - Tachwedd 1998
(3) Fel y diffiniad a fabwysiadwyd gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru
(5) Barralet v y Twrnai Gwladol [1980] 3 AER 918, 926j yn ôl Dillon J
(6) Adroddiad y Comisiynwyr 1985 paragraffau 24-27
(7) Ymddiriedolwyr Crystal Palace v Gweinidog Cynllunio Tref a Gwlad [1951] Ch 132. Yn ogystal, yn Cymdeithas Crefftwyr Clerkenwell Green [1980] TR 155 barnwyd bod darparu gweithdai i grefftwyr yn ddiben elusennol dilys oherwydd ei fod yn hyrwyddo amcan y Gymdeithas o hybu unrhyw ddiben elusennol a fyddai'n hybu arbenigedd a chynnal safonau crefftau hynafol a modern a gwarchod a gwella crefftwaith. Yn yr un modd gellid dweud bod hybu'r sector gwirfoddol yn hybu ac yn cynnal safonau'r sector gwirfoddol
(8) Y sail gyfreithiol ar gyfer derbyn hybu amaethyddiaeth yn gyffredinol (yn wahanol i hybu buddiannau pobl sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth) yw IRC v Cymdeithas Amaethyddiaeth Sir Gaerefrog [1928] 1 KB 611.
(9) Y sail gyfreithiol ar gyfer hybu garddwriaeth yw Re Pleasants (1923) 39 TLR 675
(10) Lawrence LJ yn IRC v Cymdeithas Amaethyddiaeth Sir Gaerefrog ar dudalen 635
(11) Yr Arglwydd Hanworth MR yn IRC v Cymdeithas Amaethyddiaeth Sir Gaerefrog ar dudalen 623
(12) Adroddiad Deakin paragraff 2.4.2
(13) Y sail gyfreithiol ar gyfer derbyn sefydliadau sydd â'r amcan o hybu lles meddyliol a moesol a gwella'r gymuned fel sefydliadau elusennol yw Re Scowcroft [1862] 2 Ch 638 (hybu egwyddorion Ceidwadol a gwelliant crefyddol a moesol); Re Hood [1931] Ch 240 (hybu dirwest heblaw trwy ddulliau gwleidyddol); Re Price [1943] Ch 422 (ymgymryd ag athrawiaethau Rudolph Steiner); Re Cymdeithas Foesegol South Place [1980] 1 WLR 1565
(14) Compact ar y Berthynas rhwng y Llywodraeth a'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol Cm 4100 Tachwedd 98 paragraff 4
(15) Cm 4100 Tachwedd 98 paragraff 5
(16) Gweler Penderfyniadau'r Comisiynwyr Cyfrol 2 tudalennau 7-10
(17) Re Webber [1954] 1 WLR 1500
(18) Adroddiad y Comisiynwyr ar Ddyfodol y Sector Gwirfoddol Paragraff 1.3.16
(19) Mewn perthynas â chais i gofrestru gan yr Eglwys Seientoleg Gweler Penderfyniad y Comisiynwyr a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 1999
(20) Cm 694, paragraffau 1.1-1.4
(23) Paragraff 2.4.1. Gweler hefyd paragraff 2.4.15 am rai sylwadau cyffredinol y mae Adroddiad Deakin yn eu gwneud am gyrff cyfryngol