Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

RR5 -Hybu Adeiladu Gallu'r Gymuned

(Version - Tachwedd 2000)


Cynnwys

Am y cyhoeddiad hwn

1. Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnig canllaw ar hybu adeiladu gallu'r gymuned fel diben elusennol. Cafodd hyn ei ystyried fel rhan o'r Adolygiad o'r Gofrestr Elusennau. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad cyhoeddus a arweiniodd at y canllaw hwn.

Yr Adolygiad o'r Gofrestr

2. Mae'r Comisiwn Elusennau yn ceisio rhoi ffydd i'r cyhoedd mewn onestrwydd elusennau. Rydym yn atebol i'r llysoedd am ein penderfyniadau ac i'r Ysgrifennydd Cartref am ein heffeithlonrwydd. Mae amrywiaeth o swyddogaethau gennym gan gynnwys cofrestru, monitro a chefnogi elusennau ac ymchwilio i gamweinyddu honedig.

3. Mae'r Gofrestr Elusennau yn rhestr o elusennau a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr a arolygir gennym ni. Mae cyfrifoldeb statudol gennym i'w chadw'n gywir. Mae'r ddealltwriaeth o'r hyn sy'n gyfreithiol elusennol wedi parhau i ddatblygu ers i'r Gofrestr gael ei chreu yn gyntaf dros 35 o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae'n sicr bod rhai sefydliadau ar y Gofrestr y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ystyried nad ydynt yn elusennol erbyn hyn, a sefydliadau nad ydynt ar y Gofrestr ond y dylai efallai fod arni.

4. Mae'r Adolygiad yn ystyried a oes lle, o fewn y gyfraith, a thrwy'r defnydd hyblyg o bwerau'r Comisiwn, i ddatblygu ymhellach ffiniau statws elusennol, ac a ddylai'r sefydliadau hynny sy'n manteisio ar statws elusennol ar hyn o bryd barhau i wneud hynny.

5. Mae'r egwyddorion a ddefnyddir i gyd wedi'u seilio ar y gyfraith elusennau bresennol. Mae "nodweddion hanfodol elusennau" i'w gweld mewn cyhoeddiad ar wahân Yr Adolygiad o'r Gofrestr Elusennau (RR1), sydd hefyd yn esbonio'r broses yn fwy manwl.

Hybu adeiladu gallu'r gymuned fel diben elusennol

6. Mae'r Comisiwn wedi penderfynu bod hybu adeiladu gallu'r gymuned mewn perthynas â chymunedau sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd (neu, mewn rhai achosion, sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol yn unig) yn dderbyniol fel diben elusennol.

Beth yw 'adeiladu gallu'r gymuned'?

7. Mae'r term 'adeiladu gallu'r gymuned' yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Yn ein barn ni, mae'n golygu:

datblygu gallu a sgiliau aelodau'r gymuned mewn ffordd sy'n eu galluogi i adnabod, a helpu i ateb eu hanghenion yn well ac i gyfrannu yn llawnach yn y gymdeithas.

8. Yn ôl ein dealltwriaeth ni felly, mae adeiladu gallu'r gymuned yn ymwneud â:

  • darparu cyfle i bobl ddysgu trwy brofiad - cyfleoedd na fyddai ar gael iddynt fel arall;
  • cynnwys pobl mewn cyd-ymdrech er mwyn iddynt fagu hyder yn eu galluoedd eu hunain a'u gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Felly mae cyfranogiad unigol a gweithredu ar y cyd yn mynd law yn llaw: y nod yw annog pobl mewn cymuned i ymuno gydag eraill er mwyn darparu'r hyn sydd ei angen ar y gymuned trwy gyd-ymdrech, ond mewn ffordd sy'n rhoi cyfle i'r rheiny sy'n cymryd rhan i ddatblygu eu potensial eu hunain fel aelodau o'r gymdeithas.

Beth a olygir wrth 'gymuned' yn y cyswllt hwn?

9. Mae'n golygu grw^p o bobl sy'n rhannu sefyllfa o fod yn ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd neu fod yn ddifreintiedig yn gymdeithasol yn unig. Gallant rannu'r nodwedd hon oherwydd eu bod yn byw yn yr un ardal ddaearyddol ('cymuned ddaearyddol'). Neu gallant eu rhannu oherwydd bod ganddynt rywbeth arall yn gyffredin, fel anabledd neu aelodaeth o grw^p ethnig arbennig ('cymuned o fudd').

10. Nid oes rhaid i'r gymuned, os yw'n gymuned ddaearyddol neu'n gymuned o fudd, fod yn y Deyrnas Unedig, gallai fod dramor.

11. Er mwyn cefnogi cais i gael statws elusennol, bydd angen i'r gymuned dan sylw fod yn ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd neu, mewn rhai achosion, yn ddifreintiedig yn gymdeithasol yn unig. (Gweler A3 i A6 yn Atodiad A isod).

Beth a olygir gan 'adeiladu gallu' yn y cyswllt hwn?

12. Mae'n golygu gwneud gwahaniaeth positif i allu a sgiliau aelodau'r gymuned dan sylw oherwydd eu bod yn cymryd rhan gydag aelodau eraill y gymuned honno mewn gweithgareddau sy'n ceisio ateb eu hanghenion mewn rhyw ffordd. Weithiau disgrifir y broses hon fel 'ymrymuso'.

13. Yn fwy penodol, mae hyn yn debygol o gynnwys:

  • rhoi'r sgiliau a'r cymwyseddau i bobl na fyddai ganddynt fel arall;
  • gwireddu sgiliau presennol a datblygu potensial;
  • hybu hunan-hyder cynyddol pobl;
  • hybu gallu pobl i fod yn gyfrifol am adnabod ac ateb eu hanghenion eu hunain ac anghenion pob eraill;
  • o ganlyniad, annog pobl i gymryd rhan lawnach yn eu cymuned a'r gymdeithas ehangach.

14. Gellir cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i'r diben hwn. Rhoddir enghreifftiau yn A14 ac A15 yn Atodiad A isod.

A yw adeiladu gallu'r gymuned yn wahanol i weithgareddau cymunedol yn gyffredinol?

15. Ni ellir ystyried pob gweithgaredd sy'n cynnig budd i'r gymuned fel un sy'n hybu adeiladu gallu'r gymuned yn yr ystyr a ddisgrifir uchod. Gall nifer o weithgareddau sy'n seiliedig yn y gymuned gryfhau gallu'r gymuned. Ond er mwyn cael statws elusennol yn yr ystyr a ddisgrifir uchod, rhaid i gorff gael ei sefydlu gyda'r diben o hybu adeiladu gallu'r gymuned. Nid yw'n ddigonol bod buddiannau o'r fath a ddisgrifir uchod yn gallu codi fel is-gynnyrch atodol i'w weithgareddau.

Esbonnir y gwahaniaeth hanfodol hwn yn fwy manwl yn Atodiad B.

Sut mae hybu adeiladu gallu'r gymuned o fudd i'r cyhoedd?

16. Er mwyn hawlio statws elusennol, rhaid i sefydliad fod o fudd i'r cyhoedd. Pan fydd adeiladu gallu'r gymuned wedi'i anelu at gymunedau sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd (neu, mewn rhai achosion, cymunedau sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol yn unig), credir bod budd anuniongyrchol i'r cyhoedd yn codi yn nhermau:

  • cynyddu sgiliau, cymwyseddau a hunan-hyder ar ran aelodau cymunedau o'r fath;
  • cyflwyno gwasanaethau mewn ffordd fwy effeithiol, effeithlon a chynaliadwy i gymunedau o'r fath;
  • hybu cydlyniad cymdeithasol.

Beth yw'r gofynion ar gyfer cofrestru fel elusen gyda'r diben hwn?

17. Bydd angen i sefydliad sy'n gwneud cais i gofrestru fel elusen ar gyfer hybu adeiladu gallu'r gymuned ddangos y canlynol:

  • ei fod yn ymgymryd â'i weithgareddau ymhlith aelodau o gymuned sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd neu, mewn rhai achosion, cymuned sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol yn unig (gweler A7 i A11 isod);
  • bod diben y gweithgareddau hynny yw gwella gallu a sgiliau'r rheiny sy'n cymryd rhan ynddynt (gweler A12 i A16 isod a B1 a B6);
  • bod y gweithgareddau hynny yn gallu gwella gallu a sgiliau'r rheiny sy'n cymryd rhan ynddynt (gweler A12 i A16 isod);
  • bod unrhyw fudd personol a gaiff unigolion neu grwpiau o weithgareddau sefydliad yn atodol i'r budd ehangach i'r cyhoedd (gweler A17 i A29 isod);
  • bod ei amcanion mewn ffurf sy'n disgrifio'r diben a'r buddiannau a ddaw ohono gyda digon o eglurdeb, ac yn ddelfrydol, dylai gael ei fynegi fel a ganlyn:

    " datblygu gallu a sgiliau aelodau cymuned sy'n ddifreintiedig [yn gymdeithasol ac yn economaidd] [yn gymdeithasol] o [ ] mewn ffordd sy'n golygu eu bod yn gallu adnabod, a helpu i ateb eu hanghenion yn well ac i gymryd rhan lawnach yn y gymdeithas."

    (gweler A30 ac A31 isod).

18. Mae Atodiad A yn amlinellu yn fwy manwl ar ba sail y gall sefydliad sy'n adeiladu gallu'r gymuned fod yn elusen a'r hyn y mae'n rhaid i'r rheiny sy'n gwneud cais i gofrestru ei wneud er mwyn dangos bod eu sefydliad yn bodloni'r gofynion a nodwyd ym mharagraff 17 uchod. Mae Atodiad B yn ehangu ar y gwahaniaeth pwysig rhwng cyrff sy'n bodoli i hybu adeiladu gallu'r gymuned a chyrff eraill sy'n ymgymryd â gweithgareddau sy'n cynnig budd i gymunedau.

Gwybodaeth bellach

Os ydych am sefydlu elusen i hybu adeiladu gallu'r gymuned, cysylltwch â'n staff Cofrestru ar 0870 333 0123.

Rhagor o wybodaeth

Am wybodaeth bellach efallai y bydd o fudd i chi gyfeirio at y cyhoeddiadau canlynol gan y Comisiwn Elusennau:

RR1 - Yr Adolygiad o'r Gofrestr Elusennau

RR2 - Hybu Adfywiad Trefol a Gwledig.

Atodiad A - Gofynion ar gyfer cofrestru fel elusen sy'n adeiladu gallu'r gymuned

Beth sy'n cael ei gyfrif fel cymuned yn y cyswllt hwn?

A1. Er mwyn cynnal hawl i gael statws elusennol ar sail adeiladu gallu'r gymuned:

  • rhaid i weithgareddau sefydliad fod wedi'u cyfeirio at gymuned lle mae angen gwella gallu a sgiliau'r aelodau trwy weithgareddau adeiladu gallu'r gymuned;
  • rhaid i'r gwahaniaeth a ddaw o wella eu gallu a'u sgiliau gynnig digon o fudd i'r cyhoedd (yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mharagraff 16 uchod) i gyfiawnhau bod y diben yn un elusennol.

Beth a olygir wrth 'mewn angen'?

A2. Ni olygir angen y gallai fod yn elusennol i'w ateb dan ddibenion elusennol cydnabyddedig eraill, fel angen ariannol neu gorfforol. Mae'n golygu angen i wella gallu pobl - hynny yw, eu hunan-hyder, eu sgiliau sylfaenol a'u gallu i gael effaith ar eu bywydau eu hunain, eu cymuned eu hunain a'r gymdeithas yn gyffredinol.

Oes rhaid bod yn ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd?

A3. Ni fydd y rhan fwyaf o gymunedau yn bodloni'r gofynion a esbonnir yn A2 uchod oherwydd bydd gan eu haelodau y sgiliau sydd eu hangen arnynt yn gyffredinol i weithredu ar y cyd er mwyn dylanwadu ar eu hamodau byw. Ond, ni fydd yr un peth yn wir am gymunedau sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd (sef, wrth gwrs, yr union gymunedau y mae adeiladu gallu'r gymuned yn ymwneud â nhw yn gyffredinol).

A4. Mewn rhai achosion, credir y gall fod yn bosib i fodloni'r gofynion a esbonnir yn A2 uchod mewn perthynas â chymunedau sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol yn unig. (Nid yw bod yn ddifreintiedig yn economaidd yn unig yn creu cymuned gymwys dim ond oherwydd y derbynnir y bydd y gymuned yn ddifreintiedig yn gymdeithasol hefyd yn ymarferol.) Gallai enghreifftiau o gymunedau cymwys sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol gynnwys cymunedau lle mae'r aelodau yn profi gwaharddiad cymdeithasol sylweddol o ganlyniad i lefelau uchel o drosedd, defnyddio cyffuriau neu densiwn ethnig, er nad yw'r aelodau eu hunain yn dioddef incwm isel neu ddiweithdra uchel. Mewn cymunedau o'r fath gall fod modd cynhyrchu tystiolaeth i ddangos bod angen i nifer sylweddol o'r aelodau:

  • wella eu gallu a'u sgiliau a fyddai'n digwydd trwy weithgareddau adeiladu gallu'r gymuned;
  • bod y gwahaniaeth y gall gwella gallu a sgiliau ei wneud iddynt gynnig y mathau o fudd i'r cyhoedd a ddisgrifir ym mharagraff 16 uchod.

A5. Mae'r gofyniad olaf yn golygu bod y sefydliadau hynny y mae angen adeiladu gallu'r gymuned ar eu buddiolwyr, ond diben y sefydliad yw ateb eu hanghenion cymdeithasol, y tu allan i gwmpas y diben newydd. Yn lle hynny, gallai'r sefydliadau hyn ddod o fewn cwmpas dibenion elusennol cydnabyddedig eraill (oherwydd cânt eu sefydlu i leddfu salwch ymhlith defnyddwyr cyffuriau, dyweder).

A6. Felly, credir y dylid cyfyngu diben elusennol i enghreifftiau lle mae adeiladu gallu'r gymuned yn digwydd mewn perthynas â:

  • chymunedau sy'n ddifreintiedig yn economaidd ac yn gymdeithasol; neu
  • gymunedau sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol yn unig, ar yr amod bod tystiolaeth i ddangos bod angen gwella gallu a sgiliau nifer sylweddol o aelodau'r gymuned dan sylw trwy weithgareddau adeiladu gallu'r gymuned, a gall y gwahaniaeth a ddaw trwy wella eu gallu a'u sgiliau gynnig y mathau o fudd i'r cyhoedd a ddisgrifir ym mharagraff 16 uchod.

Sut gall hyrwyddwyr ddangos bod cymuned yn ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd neu'n ddifreintiedig yn gymdeithasol?

Beth ellir eu defnyddio i ddangos bod cymuned yn ddifreintiedig yn economaidd ac yn gymdeithasol?

A7. Bydd angen i hyrwyddwyr ddangos bod statws y gymuned yn un sy'n ddifreintiedig yn economaidd ac yn gymdeithasol, neu'n ddifreintiedig yn gymdeithasol yn unig, trwy gyfeirio at ddangosyddion priodol. Ni fyddwn yn pennu'r rhain mewn unrhyw achos arbennig. Yn lle hynny, dylai'r hyrwyddwyr gynnig dangosyddion priodol. Efallai y bydd hyrwyddwyr yn canfod y gallant lunio dangosyddion priodol trwy edrych ar y technegau gwerthuso ar gyfer y math hwn o weithgaredd. Wrth ddewis dangosyddion, bydd angen i hyrwyddwyr gadw'r canlynol mewn cof:

  • byddant yn dibynnu ar a yw'r gymuned yn gymuned ddaearyddol neu'n gymuned o fudd;
  • dylent ddangos bod angen am adeiladu gallu'r gymuned yn bodoli;
  • dylent fod yn berthnasol i'r rheswm pam y mae'r angen hwnnw yn bodoli ymhlith aelodau'r gymuned honno.

A8. Gallai dangosyddion priodol gynnwys:

  • dangosyddion economaidd e.e. lefelau diweithdra, y nifer sy'n derbyn budd-daliadau a thai gwael;
  • dangosyddion cymdeithasol e.e. i ba raddau y mae pobl o rannau gwahanol o'r gymuned yn cael eu cynrychioli wrth wneud penderfyniadau o fewn y gymuned, y raddfa a'r defnydd o'r cyfleusterau sydd ar gael yn yr ardal a lefelau y troseddau a adroddir, y bobl ifanc a waherddir o'r ysgol neu nifer y defnyddwyr cyffuriau a gofrestrwyd.

Mae'n amlwg nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr.

A9. Ni fyddwn ychwaith yn pennu ffynhonnell dangosyddion priodol. Gall ffynonellau gynnwys:

  • data a gynhyrchwyd gan y llywodraeth (e.e. Adran yr Amgylchedd, Cludiant a'r Rhanbarthau neu Gynulliad Cymru (neu ei ragflaenydd y Swyddfa Gymreig)), gan gynnwys mapiau gwrth-dlodi (yn seiliedig ar bobl sy'n derbyn budd-daliadau) ac adroddiadau ar amddifadedd mewn ardaloedd gwledig;
  • deunydd sy'n benodol i gymunedau arbennig, gan gynnwys ffynonellau o'r sector cymunedol a gwirfoddol fel arolygon cymunedol, archwiliadau lleol, crynodeb o wardiau dynodedig cyngor (i wahaniaethu rhwng ardaloedd mewn angen ac ardaloedd mwy cyfoethog) ac ymchwil ansoddol ac astudiaethau achos (yn arbennig o berthnasol i gymunedau nad ydynt yn ddaearyddol);
  • deunydd sy'n benodol i nodwedd arbennig cymuned a gasglwyd gan gyrff penodol (e.e. ar lefelau incwm a gasglwyd gan y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn eu harolygon gosod eiddo a thenantiaeth).

Unwaith eto, nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o ffynonellau posib o ddangosyddion priodol.

Cymhwyso'r dangosyddion

A10. Bydd y wybodaeth sydd ei hangen o'r dangosyddion priodol i ddangos bod cymuned yn ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd, neu'n ddifreintiedig yn gymdeithasol, yn dibynnu ar y math o gymuned dan sylw a pham y mae angen adeiladu gallu aelodau'r gymuned. Efallai na fydd y wybodaeth sydd ei hangen neu sy'n briodol mewn un achos yn briodol mewn achos arall. Felly bydd angen i hyrwyddwyr a'r Comisiwn fod yn hyblyg yn hyn o beth. Cydnabyddir y bydd achosion pan fydd sefydliad yn gynnar iawn o ran ei ddatblygiad a phan fydd hyrwyddwyr yn llai abl i baratoi tystiolaeth i gefnogi eu cais am statws elusennol.

A11. Ym mhob achos, yr hyn sy'n bwysig yw bod y dangosyddion yn briodol i ddangos bod angen ar ran aelodau'r gymuned dan sylw. Er enghraifft, ni fyddai tystiolaeth am angen i wella lefel sgiliau ymhlith y di-waith mewn cymuned ddaearyddol yn ddigon i ddangos bod angen yn bodoli ar gyfer adeiladu gallu'r gymuned ymhlith pob aelod o'r gymuned honno. Ond ni fyddai'n rhaid dangos bod angen i wella lefel sgiliau ymhlith pob aelod o'r gymuned pe byddai adeiladu gallu'r gymuned yn cael ei weithredu gyda rhan o'r gymuned honno yn unig.

Pa weithgareddau sy'n briodol?

A12. Gan fod adeiladu gallu'r gymuned yn gallu digwydd mewn cyd-destunau gwahanol, nid oes modd darparu rhestr gynhwysfawr neu gyffredinol o weithgareddau. Mae natur y gweithgareddau yn llawer pwysicach na nifer neu amrywiaeth y gweithgareddau hynny.

A13. Mae'r angen i wneud gwahaniaeth i aelodau'r gymuned trwy gyd-ymdrech yn golygu mai gweithgareddau priodol yw'r rheiny sy'n cynnig gwir gyfle i'r unigolion hynny gymryd rhan a chyfrannu. Felly byddem yn disgwyl gweld gweithgareddau sy'n:

  • cyfuno anogaeth â chymorth ymarferol;
  • helpu aelodau'r gymuned i helpu eu hunain.

A14. Gan fod pwyslais ar alluogi pobl i wneud pethau eu hunain yn well, bydd gweithgareddau addas yn cynnwys:

  • gweithio gydag aelodau o'r gymuned;
  • darparu cymorth a chefnogaeth sy'n eu galluogi i adnabod a delio â phroblemau sy'n effeithio arnyn nhw fel aelodau o'r gymuned honno;
  • datblygu strwythurau sy'n eu galluogi i fod mewn sefyllfa well i gydweithredu â'i gilydd a delio â sefydliadau yn y gymuned ehangach;
  • darparu cyngor a chefnogaeth i werthuso projectau;
  • meithrin rhwydweithio a rhannu profiadau fel rhan o'r broses ddysgu;
  • galluogi grwpiau i atgyfnerthu ac adeiladu ar y sgiliau sydd ganddynt eisoes.

A15. Yn benodol, gallai gweithgareddau priodol gynnwys:

  • darparu hyfforddiant neu gyfarwyddyd o unrhyw fath, gan gynnwys hyfforddiant ffurfiol (e.e. yn y defnydd o gyfrifiaduron personol neu baratoi cyfrifon);
  • darparu cyngor/cefnogaeth yngly^n â sut i adnabod anghenion neu flaenoriaethau grwpiau, neu i gynllunio projectau a'u gweithrediad (e.e. llunio cynlluniau busnes, cyllidebau, ceisiadau cyllido);
  • datblygu neu roi sgiliau trosglwyddadwy i bobl fel gweithio mewn tîm a datrys problemau;
  • datblygu gallu pobl i drefnu strwythurau ac arferion o fewn eu sefydliad(au) (e.e. trwy hyfforddiant mewn sgiliau cyfarfod, dulliau rheoli a thechnegau ar gyfer projectau a phobl);
  • datblygu gallu pobl i weithio o fewn strwythurau y tu allan i'w grw^p(iau) (e.e. trwy gynnig hyfforddiant mewn trafodaeth, pendantrwydd ac adfocatiaeth).

A16. Ni fyddwn yn disgwyl i hyrwyddwyr ddangos yn union pa fuddiannau y byddai gweithgareddau yn eu cynnig. Ond byddem yn disgwyl iddynt esbonio'r math o weithgareddau y mae'r sefydliad yn bwriadu eu cynnig a pham y byddent yn gallu gwneud gwahaniaeth i alluoedd aelodau'r gymuned dan sylw.

Pa fathau o fudd personol sy'n dderbyniol a pha rai nad ydynt yn dderbyniol?

A17. Er mwyn bod yn elusen, rhaid i gorff sy'n hybu adeiladu gallu'r gymuned gael ei sefydlu er budd y cyhoedd. Mae hyn yn golygu bod rhaid i unrhyw fuddiannau personol fod yn atodol neu'n ategol i fuddiannau ehangach y cyhoedd sy'n deillio o'i weithgareddau. Hynny yw, rhaid iddynt gael eu cyfeirio tuag at gyflawni'r budd ehangach i'r cyhoedd, neu raid iddynt lifo'n naturiol ohono; ac yn y naill achos neu'r llall, ni ddylai graddfa'r budd personol fod yn fwy na'r hyn sy'n rhesymol. Bydd bodloni'r gofyniad hwn yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos.

A18. Bydd budd personol i aelodau'r gymuned o waith y sefydliad sy'n adeiladu gallu'r gymuned, yn nhermau gwella sgiliau, hyder a gallu (e.e. gwella gallu i gyflwyno dadleuon ar lafar neu ar bapur) yn dderbyniol. Y rheswm am hyn yw oherwydd dyma'r union fudd i unigolion sy'n rhoi'r budd angenrheidiol i'r cyhoedd (gweler paragraff 16 uchod).

A19. Ni fyddai'r fantais bersonol y gallai pobl ei chael o ganlyniad i gymhwyso'r sgiliau hyn (yn y farchnad swyddi, er enghraifft) yn annerbyniol ychwaith. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn atodol i fudd ehangach y cyhoedd sy'n dod o ennill neu wella sgiliau - yn yr un ffordd ag y mae'r buddiannau personol a gaiff unigolion o addysg yn cael eu hystyried yn atodol.

A20. Ymhellach na hyn, nid oes modd dweud yn fanwl pa weithgareddau fydd neu na fydd yn dod â mwy na budd personol atodol neu ategol i unigolion neu grwpiau. Ym mhob achos byddwn yn ystyried y cydbwysedd rhwng y budd cyhoeddus a phersonol sy'n deillio o'r gweithgareddau a gynigir.

A21. Bydd hyn yn cynnwys rhoi ystyriaeth i unrhyw ganlyniadau eraill a ddaw i aelodau'r gymuned o weithgareddau'r sefydliad. Gall rhai canlyniadau fod o fudd i'r cyhoedd eu hunain sy'n golygu eu bod yn elusennol (e.e. canolfan gymunedol: gweler Atodiad B) ond efallai y bydd canlyniadau eraill yn mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n dderbyniol (gweler paragraff A24).

A22. Derbynnir y gall yr ymarfer hwn fod yn anodd mewn nifer o achosion. Gall fod yn anodd i hyrwyddwyr adnabod budd preifat pan fyddant yn gwneud cais i gofrestru. Efallai na fyddant yn gallu rhagfynegi yn fanwl pa fuddiannau allai godi, yn enwedig os nad ydynt yn gwybod pa grwpiau y byddant yn gweithio â nhw.

A23. Ond byddem yn disgwyl i hyrwyddwyr allu adnabod y potensial o leiaf o fudd i unigolion a grwpiau y tu hwnt i'r mathau a grybwyllwyd ym mharagraffau 12 ac 13 uchod (trwy gynnal asesiad o'r math a esboniwyd ym mharagraffau A24 i A29). Heb hyn ni allwn fod yn sicr bod y cydbwysedd rhwng budd cyhoeddus a phreifat yn un sy'n cyfiawnhau cofrestru'r sefydliad fel elusen.

Sut gall hyrwyddwyr ddangos bod unrhyw fuddiannau preifat yn dderbyniol?

A24. Bydd angen i hyrwyddwyr ystyried eu gweithgareddau arfaethedig a nodi a fydd unrhyw unigolyn yn cael buddiannau o'r gweithgareddau hyn sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n dderbyniol (gweler paragraffau 12 ac 13 uchod). Hefyd bydd angen iddynt ystyried y buddiannau i unrhyw grwpiau y byddant yn gweithio â hwy: efallai na fydd ystyried i ba raddau y byddant yn fwy trefnus, yn fwy gwybodus gyda mwy o ffocws yn atodol bob amser i fudd ehangach y cyhoedd.

A25. Y math o fuddiannau y bydd angen eu hystyried yn arbennig o ofalus fydd y rhai:

  • sy'n codi o weithgareddau sy'n rhoi buddiannau personol sylweddol i unigolion (er enghraifft, rhoi cyngor manwl yngly^n â sut i sefydlu a rhedeg busnes);
  • sy'n codi o weithgareddau sy'n rhoi buddiannau personol sylweddol i grw^p bach o unigolion (fel clwb cynilo);
  • sy'n codi o weithgareddau a gyfeirir tuag at aelodau o grw^p anelusennol sy'n ymwneud â buddiannau personol ei aelodau (fel cymdeithas preswylwyr neu gymdeithas siopwyr).

A26. Gall gweithgaredd o fath arbennig, mewn rhai amgylchiadau, roi budd personol i unigolion neu grwpiau i'r fath raddau fel ei bod yn bosib dweud ei fod ei angen er mwyn datblygu eu gallu. Ond, mewn amgylchiadau eraill, efallai nad dyma yw'r achos.

A27. Felly bydd angen i hyrwyddwyr edrych ar weithgareddau ar wahân, gan roi ystyriaeth i ffactorau a allai gael effaith ar y buddiannau sy'n deillio ohonynt. Gallai'r ffactorau canlynol fod yn berthnasol:

  1. Pwy fydd yn cael budd o'r gweithgareddau?
  2. Pa fath o fudd sydd dan sylw?
  3. Beth yw gwerth y budd?
  4. Sut caiff unrhyw fudd ei ddefnyddio?
  5. Am faint fydd y budd yn para?

A28. Mae angen i hyrwyddwyr fod yn ymwybodol efallai na fydd buddiannau materol a phersonol sy'n dderbyniol dan ddibenion elusennol eraill yn dderbyniol ar gyfer y diben elusennol hwn. Gyda rhai dibenion elusennol, mae rhai buddiannau personol yn dderbyniol oherwydd eu bod yn rhan annatod o gyflwyno budd i'r cyhoedd. Felly, er enghraifft, gallai rhoi cyngor busnes manwl gael ei gyfiawnhau fel dull o gefnogi'r di-waith neu roi cymorth i'r tlawd1 Ni fyddai o anghenraid yn bosib cyfiawnhau'r un buddiannau fel rhai sy'n rhan annatod o'r hyn sydd ei angen er mwyn gwella gallu aelodau'r gymuned. Ond mewn rhai amgylchiadau dyma fyddai'r achos. (Er enghraifft, lle y rhoddir cyngor tymor byr ar ddechrau busnes i fusnes cynnal a chadw ceir a sefydlwyd fel ymarfer adeiladu gallu i ddynion ifanc a waharddwyd yn gymdeithasol).

1 Gweler RR3 Elusennau sy'n Rhoi Cymorth i'r Di-waith

A29. Hefyd bydd angen i hyrwyddwyr ystyried a allai'r corff ymddiriedolwyr gynnwys unigolion a all gael budd eu hunain o weithgareddau'r sefydliad. Mae'n rhaid i'r budd a ddaw i'r unigolion hynny fod yn dderbyniol fel a ddisgrifir uchod (gweler paragraffau A18, A19 ac A21): ac mae'n rhaid iddo hefyd fod yn fudd y mae gan yr ymddiriedolwr hawl penodol i'w dderbyn, naill ai trwy ddogfen lywodraethol yr elusen arfaethedig, y Comisiwn neu'r Llys. Felly mae'n rhaid i'r hyrwyddwyr ystyried yr angen i gynnwys darpariaethau yn y ddogfen lywodraethol sy'n awdurdodi buddiannau o'r fath ac sy'n darparu ar gyfer yr hyn fydd yn digwydd pan fydd y corff ymddiriedolwyr yn gwneud penderfyniad sy'n cael effaith uniongyrchol ar ymddiriedolwr unigol. 2

2 Gweler CC24 Cynnwys Defnyddwyr: Buddiolwyr sy'n troi'n ymddiriedolwyr.

Beth ddylai fod ffurf yr amcanion?

A30. Argymhellir yn gryf bod yr amcanion a gynigir ym mharagraff 17 uchod yn cael eu mabwysiadu. Mae amcanion yn y ffurf honno yn nodi'n glir i ba bwrpas y cyflawnir gweithgareddau adeiladu gallu'r gymuned. Maent hefyd yn egluro beth sy'n achosi'r budd i'r cyhoedd sy'n cyfiawnhau'r diben hwn fel diben elusennol. Maent hefyd yn osgoi unrhyw amheuon yngly^n â'r hyn a olygir gan y cymal 'adeiladu gallu'r gymuned' (mae sicrwydd amcanion yn ofyniad ar gyfer diben elusennol 3). Mae'r cyfeiriad penodol at nodweddion cymuned gymwys yn helpu osgoi gwastraffu amser ac adnoddau ar ran yr hyrwyddwyr a allai fel arall wneud ceisiadau ar ran cymunedau nad ydynt yn gymwys.

3 Gweler e.e. Re Koeppler's Will Trusts [1948] Ch 243, 257-258. Er i'r penderfyniad gael ei wrthdroi ar apêl ar sail wahanol, cafodd y datganiad safle hwn ei gadarnhau'n benodol gan y Llys Apêl: gweler [1986] Ch 423, 432 per Slade L.J.

A31. Os nad yw'r amcanion yn y ffurf a gynigir ym mharagraff 17 uchod, bydd angen iddynt gael eu mynegi gyda digon o eglurdeb er mwyn i ddibenion y corff fod yn gwbl amlwg.

Atodiad B - Gwahaniaethu rhwng y diben hwn a dibenion eraill

Sut mae hybu adeiladu gallu'r gymuned yn wahanol i hybu gweithgareddau eraill sy'n seiliedig yn y gymuned?

B1. Fel arfer, bydd adeiladu gallu'r gymuned yn canolbwyntio ar ddarparu canlyniad syth, pendant i'r gymuned ('budd cymunedol uniongyrchol'). Yn achos cymuned ddaearyddol, er enghraifft, bydd hyn yn rhyw fath o gyfleuster cymunedol ffisegol yn aml fel canolfan gymunedol.

B2. Ni fydd gweithio tuag at fudd cymunedol uniongyrchol yn atal sefydliad rhag bodloni gofynion y diben hwn. Cydnabyddwn y bydd darparu budd o'r fath yn aml yn ffocws ar gyfer yr hyn y bydd sefydliad sy'n adeiladu gallu'r gymuned yn ei wneud. Ond ni fydd sefydliad wedi'i ffurfio i hybu adeiladu gallu'r gymuned os mai cyflawni'r budd cymunedol yn uniongyrchol yw ei bwrpas, ac mae gwella gallu'r gymuned yn ganlyniad atodol i hyn yn unig. Mae'n rhaid i wella gallu'r gymuned fod yn bwrpas y sefydliad, ac ni ddylai darparu budd cymunedol uniongyrchol fod yn ddim mwy na ffordd o gyflawni hyn.

B3. Felly, er enghraifft, os yw corff wedi'i sefydlu i ddarparu canolfan gymunedol, ac mae'r buddiannau i'r gymuned leol yn nhermau adeiladu gallu sy'n deillio o ddarparu'r cyfleuster hwnnw yn rhan annatod o ddiogelu'r canlyniad hwnnw, yna ni fydd y corff wedi'i sefydlu i hybu adeiladu gallu'r gymuned. Ond, os yw corff wedi'i sefydlu i wella gallu'r gymuned leol, a darparu'r ganolfan gymunedol yw'r ffordd y bwriedir gyflawni hyn, yna ei ddiben yw hybu adeiladu gallu'r gymuned.

B4. Un ffordd ymarferol o brofi ai pwrpas corff yw darparu budd cymunedol uniongyrchol neu hybu adeiladu gallu'r gymuned yw gofyn a fyddai'r corff yn ystyried ei fod wedi methu â chyflawni ei bwrpas pe na fyddai'n gallu darparu budd cymunedol uniongyrchol: os byddai, yna byddai'n ymddangos mai darparu'r cyfleuster hwn yw ei bwrpas yn hytrach na hybu adeiladu gallu'r gymuned.

B5. Weithiau bydd dibenion elusennol gan sefydliad sy'n cynnwys hybu adeiladu gallu'r gymuned. Gellir cyflawni'r diben hwnnw ochr yn ochr â hybu diben elusennol arall. Gall fod yn ddiben sefydliad a ffurfiwyd ar gyfer diben elusennol arall o fewn cymuned gymwys. Neu, fel arall, gall sefydliad a ffurfiwyd i hybu adeiladu gallu'r gymuned ddatblygu mewn ffordd fel bod unrhyw fudd cymunedol uniongyrchol yn dod yn un o ddibenion y sefydliad, ac nid ffocws ei weithgareddau yn unig.

B6. Felly gall fod yn bosib dod i'r casgliad bod sefydliad yn bodoli i wella gallu aelodau'r gymuned a darparu budd cymunedol uniongyrchol sy'n hyrwyddo diben elusennol. Os mai hybu adeiladu gallu'r gymuned yw un diben sefydliad elusennol yn unig, byddai'n rhaid i'r sefydliad hwn bodloni'r un meini prawf â phe byddai'n unig ddiben y corff hwnnw.

B7. Yn wir, mae'n bosib i'r dosbarth buddiolwyr ar gyfer pob diben fod yn wahanol. Os felly, yr hyn sy'n bwysig yw bod gofynion y diben newydd yn cael eu bodloni i'r aelodau hynny o'r gymuned a fydd yn rhan o weithgareddau adeiladu gallu'r gymuned.

Y berthynas ag adfywiad trefol a gwledig

B8. Mae hybu adfywiad trefol a gwledig yn ddiben elusennol ynddo'i hun, yn wahanol i hybu adeiladu gallu'r gymuned.4

4 Gweler RR2 Hybu Adfywiad Trefol a Gwledig.

B9. Ond os yw adeiladu gallu'r gymuned yn ymwneud â chymuned ddaearyddol, gall weithredu ochr yn ochr â hybu adfywiad trefol a gwledig - yn enwedig os yw'r gweithgareddau yn canolbwyntio ar geisio cyflawni newidiadau ffisegol yn yr ardal (e.e. trwy ddarparu amwynderau cyhoeddus neu gyfleusterau adloniadol er budd aelodau'r gymuned). Ond byddai'n briodol i gorff sy'n ymwneud ag adfywiad trefol a gwledig i fabwysiadu amcan sy'n ceisio hybu adeiladu gallu'r gymuned, pe byddai hyn yn un o'i ddibenion, ac nid yn unig yn is-gynnyrch o'i weithgareddau.

Y berthynas â dibenion elusennol eraill

B10. Gall nifer o fathau gwahanol o elusennau ddefnyddio gweithgareddau ar ddull adeiladu gallu'r gymuned i hybu eu hamcanion. Byddai enghreifftiau yn cynnwys elusennau a sefydlwyd i roi cymorth i'r tlawd dramor ac elusennau a sefydlwyd i roi cymorth i'r henoed neu bobl sâl o fewn y Deyrnas Unedig, ac y gallant i gyd gynnig gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar adeiladu ar allu'r dosbarthiadau o fuddiolwyr sy'n bodoli fel ffordd o ateb eu hanghenion. Ond ni fyddai angen, neu'n briodol, iddynt newid eu dibenion er mwyn cynnwys hybu adeiladu gallu'r gymuned oni bai eu bod yn bodloni gofynion y diben hwnnw yn yr un ffordd â hyrwyddwyr elusen newydd. Byddai hynny'n golygu bod hybu adeiladu gallu'r gymuned yn un o'u dibenion unwaith eto, ac nid yn ffordd o gyflawni rhyw ddiben elusennol arall yn unig.