Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
(Fersiwn Rhagfyr 2004)
Mae'r Llywodraeth yn cydnabod y gall neuaddau pentref, canolfannau cymunedol ac elusennau eraill sy'n darparu lle a chyfleusterau ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau'r gymuned wneud gwahaniaeth mawr i les eu cymunedau.(1) Mae'r elusennau hyn yn adnodd hynod bwysig ac mae rôl hanfodol ganddynt i'w chwarae, nid yn unig yn adfywiad economaidd a chymdeithasol eu cymunedau lleol, ond hefyd yn eu cyfraniad at agenda Adnewyddu Sifil y Llywodraeth.(2)
Mae papur yr Uned Strategaeth "Gweithredu Preifat, Budd Cyhoeddus" yn cydnabod gwerth elusennau bach (sy'n cynnwys nifer o neuaddau pentref ac adeiladau cymunedol) trwy eu disgrifio fel "cyfrwng ar gyfer cynnwys y gymuned, sy'n cyfrannu at amrywiaeth; maen nhw'n datblygu ymagweddau newydd at broblemau lleol, maen nhw'n adnabod anghenion newydd yn gyflym."(3)
Mae neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol yn bodoli gyda'r diben o ateb anghenion defnyddwyr a buddiolwyr o fewn eu cymuned; anghenion sy'n newid yn gyflym. Mae ffactorau cymdeithasol ac economaidd yn newid demograffeg nifer o bentrefi, trefi a dinasoedd. Mae diddordebau a chwaethau pobl yn newid hefyd. Yr her i ymddiriedolwyr yr elusennau hyn yw addasu er mwyn adlewyrchu newidiadau 'o’r fath yn y ffordd y maent yn gweithredu.
Mae llawer o ymchwil a sylwebaeth yn disgrifio'r newidiadau sy'n effeithio ar gymunedau gwledig a chymunedol. Nid yw'r adroddiad hwn yn ailddatgan y manylion hynny. Nod yr adroddiad hwn yw edrych ar yr hyn y mae elusennau yn ei wneud i gwrdd â'r sialensiau newydd y maent yn eu hwynebu ac amlinellu rhai o'r dewisiadau sydd ar gael iddynt. Mae'r adroddiad yn cynnig golwg gyffredinol ar y sialensiau a wynebir gan neuadd bentref, canolfan gymunedol ac elusennau tebyg ac yn ystyried yr hyn y gall ac ni all ymddiriedolwyr ei wneud o fewn y gyfraith elusennau a rheoleiddio er mwyn addasu eu gweithrediadau i amgylchiadau sy'n newid. Yn arbennig, mae'n amlinellu sut y gall y Comisiwn Elusennau helpu elusennau i foderneiddio ac mae'n eu cyfeirio at gyngor ac arweiniad pellach.
Mae'r adroddiad yn berthnasol i unrhyw un sy'n ymwneud â rheoli neuadd bentref, canolfan gymunedol neu elusen arall sy'n seiliedig yn y gymuned sy'n darparu cyfleusterau i'r gymuned y mae wedi'i lleoli ynddi, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn elusennau o'r fath.
Mae mwy na 9,000 o neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol wedi'u cydnabod fel elusennau yng Nghymru a Lloegr, sy'n cynrychioli mwy na 5% o'r Gofrestr.(4) Mae eu hincwm blynyddol cyfunedig tua £0.25 biliwn.
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno casgliadau gwaith ymchwil ar y ffordd y mae'r elusennau hyn yn newid. Defnyddir enghreifftiau arfer orau i ddangos sut y mae elusennau yn addasu i ateb anghenion eu cymunedau lleol.
Mae cryn dystiolaeth bod rhai elusennau, neuaddau pentref yn arbennig, yn brwydro i oroesi oherwydd llai o alw am y gwasanaethau y maent yn eu darparu. Poblogaeth wledig sy'n heneiddio, diffyg diddordeb ymysg pobl iau neu ymysg trigolion newydd mewn pentrefi cymudwyr, cystadleuaeth o drefi a dinasoedd cyfagos sydd o fewn cyrraedd haws erbyn hyn - mae pob un o'r ffactorau hyn wedi cael eu hadnabod fel problemau i rai neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol gwledig.
Mae anawsterau'n codi'n aml hefyd o ran cyllido cynnal a chadw adeiladau'r elusennau hyn. Mewn rhai achosion, mae gwasanaethau a chyfleusterau y mae nifer o bobl leol yn dibynnu arnynt yn cael eu bygwth oherwydd nid yw incwm o ddefnyddio'r neuadd yn ddigonol i gyllido cynnal y neuadd. Mewn achosion eraill, mae elusennau yn ei chael hi'n anodd cyllido moderneiddio'r adeilad i gydymffurfio â newidiadau mewn rheoliadau megis mynediad i'r anabl ac iechyd a diogelwch.
Mae elusennau neuadd bentref yn arbennig yn wynebu'r angen i addasu eu gwasanaethau a'u hadeiladau. Mae tystiolaeth ein bod yn symud oddi wrth y cysyniad o'r neuadd bentref draddodiadol i ethos yn seiliedig yn y gymuned o elusennau yn cyfuno i ddarparu gwasanaeth ehangach; math o 'ganolbwynt cymunedol'.
Mae'n haws yn aml i adnabod angen o fewn cymuned drefol lle mae'r boblogaeth yn fwy ac yn fwy amrywiol ac, felly, mae'r problemau sy'n gysylltiedig ag amddifadedd cymdeithasol ac economaidd yn fwy tebygol o fod yn amlwg. I ymddiriedolwyr neuaddau pentref neu ganolfannau cymunedol gwledig, mae adnabod yr anghenion hynny sy'n denu cyllid grant yn aml yn fwy o her nag y mae i ymddiriedolwyr a rheolwyr canolfannau cymunedol trefol. I'r elusennau hyn, gall cyllido cynnal y neuadd fod yn broblem os nad yw incwm o ddefnyddio'r neuadd yn ddigon o i dalu am y costau cynnal.
Er nad oes dwywaith bod rhai elusennau yn wynebu brwydr i gael defnyddwyr i gymryd rhan yng ngweithgareddau eu neuadd bentref neu ganolfan gymunedol, mae lle yn sicr i wella'r ffordd y mae rhai elusennau yn ymateb i'r her hon. Dangosodd ein gwaith ymchwil ddarlun cymysg gyda rhai elusennau yn adnabod ac yn cwrdd ag anghenion eu cymuned yn effeithiol iawn ac eraill yn gul iawn eu ffocws. Ar un pen eithaf mae brwdfrydedd mawr dros yr amrywiaeth o ddiddordebau yn y gymuned ac ar y pen eithaf arall mae tuedd i ganolbwyntio ar broblemau yn hytrach nag atebion. Er bod rhai ymddiriedolwyr a'u staff yn cofleidio newid ac yn chwilio am ffyrdd creadigol o ymateb iddo a sicrhau'r cyllid y mae ei angen arnynt, mae eraill wedi'u ffrwyno gan hiraeth neu ddiffyg dychymyg.
Mae'r adroddiad hwn yn ceisio darparu rhai o'r atebion y mae eu hangen ar ymddiriedolwyr er mwyn gweithredu mewn ffordd sy'n bodloni eu hamcanion ac anghenion eu cymuned.
Fel rheol gyffredinol, mae rheolaeth fywiog, egnïol a neuadd bentref neu ganolfan gymunedol fywiog, egnïol yn mynd law yn llaw. Dangosodd ein gwaith ymchwil fod cyswllt clir rhwng gallu elusennau neuadd bentref a chanolfan gymunedol i ddenu defnyddwyr, eu gallu i ddenu ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr eraill, a'u gallu i gynhyrchu cyllid. Roedd gan nifer o'r elusennau llwyddiannus yr oeddwn wedi'u hadnabod bolisi 'o'r crud i'r bedd' o gynnig rhywbeth i bawb. Yr elusennau sy'n ffynnu yw'r rheiny lle mae ymddiriedolwyr yn rhagweithiol wrth ddeall eu cyfrifoldebau a sicrhau bod eu helusen yn darparu gweithgareddau sy'n ateb anghenion lleol.
Dengys ein gwaith ymchwil bod gan elusen neuadd bentref neu ganolfan gymunedol lwyddiannus y canlynol fel arfer:
Rôl y Comisiwn Elusennau mewn perthynas ag elusennau neuadd bentref a chanolfan gymunedol yw eu hannog a'u galluogi i barhau i ateb anghenion eu defnyddwyr neu eu buddiolwyr. Ceisiwn sicrhau nad yw'r fframwaith rheoleiddio yn gosod unrhyw rwystrau diangen i allu'r elusen i addasu a moderneiddio.
Gall y Comisiwn Elusennau helpu ymddiriedolwyr elusennau neuadd bentref a chanolfan gymunedol mewn sawl ffordd. Er enghraifft, gallwn:
Mae ystod eang o arweiniad y Comisiwn Elusennau yn datgan ein safle a'r prif bwyntiau y dylai elusennau eu hystyried mewn perthynas â phob mater dan sylw. Cyfeirir at arweiniad perthnasol ar ddiwedd pob adran o'r adroddiad hwn. Mae cyrff eraill hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad i elusennau a chyfeirir at y rhain yn yr adran adnoddau ar ddiwedd yr adroddiad hwn.
Mae'r adroddiad hwn yn ystyried amrywiaeth o senarios y mae ein gwaith ymchwil a'n profiad wedi dangos eu bod yn effeithio ar elusennau neuadd bentref a chanolfan gymunedol. Wrth gwrs, bydd amgylchiadau gwahanol gan elusennau gwahanol a bydd rhai rhannau o'r adroddiad yn fwy perthnasol i rai elusennau nag eraill. Ar ddiwedd pob adran mae rhestr wirio a all fod yn adnodd defnyddiol i ymddiriedolwyr fesur eu gweithgareddau yn ei herbyn.
Mae'r adroddiad ar Neuaddau Pentref a Chanolfannau Cymunedol wedi cael ei baratoi trwy ddefnyddio tystiolaeth o gofnodion y Comisiwn Elusennau ac archwilio ein ffeiliau achosion. Rydym wedi siarad â sawl elusen a chorff ymgynghorol a mantell hefyd.
I gael copi llawn o'r adroddiad Neuaddau Pentref a Chanolfannau Cymunedol gallwch naill ai:
1. Er mwyn cyfeirio'n hawdd, mae'r adroddiad hwn yn defnyddio'r disgrifiad 'neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol' i gyfeirio at elusennau sy'n darparu lle a chyfleusterau ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau cymunedol. Nid yw'r elusennau hyn yn defnyddio'r geiriau neuadd bentref neu ganolfan gymunedol bob amser yn eu teitl.
2. Mae'r Llywodraeth yn diffinio 'adnewyddu dinesig' fel "meithrin perthynas newydd rhwng y dinesydd a'r wladwriaeth, ceisio ymrymuso pobl i fod yn weithgar wrth hybu nid yn unig eu buddiannau eu hunain ond buddiannau pobl eraill yn eu cymuned (boed yn gymuned o le neu fudd)."
3. Swyddfa'r Cabinet (2002) "Gweithredu Preifat, Budd Cyhoeddus: Adolygiad o Elusennau a'r Sector Dielw Ehangach".
4. Mae 5% yn amcangyfrif ceidwadol. Nid yw pob adeilad cymunedol yn cynnwys y term 'neuadd bentref' neu 'ganolfan gymunedol' yn ei deitl cofrestredig; nid oes diffiniad cyffredinol ychwaith o gyfleusterau o'r fath.
5. Byddai'r gorchymyn yn cael ei baratoi dan adran 26 Deddf Elusennau 1993.
6. Byddai'r cynllun yn cael ei baratoi dan adran 16 Deddf Elusennau 1993.