Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

RS9 - Neuaddau Pentref a Chanolfannau Cymunedol: Atodiad A, B, C ac Ch

(Fersiwn - Rhagfyr 2004)


Cynnwys

Atodiad A - Rhestr termau

Defnyddir y term Neuaddau Pentref a Chanolfannau Cymunedol i ddisgrifio elusennau sy'n darparu lle a chyfleusterau i wasanaethau a gweithgareddau cymunedol. Mae'n bosib na fydd y geiriau 'neuadd bentref' neu 'ganolfan gymunedol' wedi'u cynnwys yn eu teitl cofrestredig. Mae teitlau eraill yn cynnwys cymdeithas gymunedol, neuadd goffa, ystafell ddarllen, a sefydliad pentref.

Mae tor-ymddiriedaeth yn digwydd pan fydd ymddiriedolwyr yn gweithredu yn groes i delerau eu dogfen lywodraethol neu ofynion y gyfraith ymddiriedolaeth. Gall ymddiriedolwr sy'n cyflawni tor-ymddiriedaeth fod yn gyfrifol yn bersonol am rwymedigaethau sy'n codi i'r elusen, ac ar ran yr elusen, neu wneud iawn am unrhyw golled i'r elusen.

Ymddiriedolwyr elusennau yw'r bobl hynny sy'n gyfrifol dan ddogfen lywodraethol yr elusen am reoli gweinyddiad yr elusen (adran 97(1) Deddf Elusennau 1993). Gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, yn ymddiriedolwyr rheoli, yn aelodau pwyllgor, yn llywodraethwyr neu'n gyfarwyddwyr, neu gall fod rhyw deitl arall ganddynt. Yn achos cymdeithas anghorfforedig, aelodau'r pwyllgor gwaith neu'r pwyllgor rheoli yw ei hymddiriedolwyr elusen. Yn achos cwmni elusennol y cyfarwyddwyr yw'r ymddiriedolwyr elusen.

Mae dogfen lywodraethol yn unrhyw ddogfen sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, y dull o'i gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, yn gyfansoddiad, yn femorandwm ac erthyglau cwmni, yn drawsgludiad, yn ewyllys, yn Siartr Frenhinol, yn Gynllun gan y Comisiwn neu'n ddogfen ffurfiol arall.

Mae enwebai yn unigol neu'n gorfforaeth gorfforedig, a benodir fel rheol gan yr ymddiriedolwyr elusen, sy'n gyfrifol am ddal y teitl cyfreithiol i eiddo neu fuddsoddiadau'r elusen ar ran ymddiriedolwyr yr elusen. Gelwir enwebeion yn ymddiriedolwyr gwarchodaeth neu'n ymddiriedolwyr dal weithiau, ac nid oes unrhyw rôl ganddynt fel y cyfryw yn rheolaeth yr elusen. Rhaid iddynt weithredu ar gyfarwyddiadau'r ymddiriedolwyr elusen oni bai y dywedir iddynt wneud rhywbeth sy'n groes i'r ymddiriedolaeth.

Mae'r Ceidwad Swyddogol i Elusennau yn gorfforaeth sydd wedi'i chreu gan statud i ddal tir ar ran elusennau; yn ymarferol, mae'n aelod o staff y Comisiwn Elusennau a benodir i'r rôl hon gan y Comisiynwyr. Os yw tir yn cael ei ddal gan y Ceidwad Swyddogol mae'n rhaid iddo gael ei freinio ynddo/ynddi.

Mae gorchymyn yn ddogfen gyfreithiol sy'n cael ei pharatoi gan y Comisiwn ac mae'n awdurdodi'r ymddiriedolwyr elusen i gyflawni rhywbeth y mae, neu efallai nad oes ganddynt y pŵer i'w wneud. Er enghraifft, gall Gorchymyn:

  • Roi pŵer diwygio i'r ymddiriedolwyr, yn amodol ar rai terfyniadau.
  • Darparu pwerau ychwanegol nad ydynt ar gael ar hyn o bryd yn y ddogfen lywodraethol.
  • Awdurdodi tailad fel un sydd er budd yr Elusen.
  • Rhoi pŵer i'r ymddiriedolwyr ychwanegu neu ddiwygio darpariaethau gweinyddol penodol yn nogfen lywodraethol yr elusen.
  • Darparu pŵer i wario cyfalaf ar delerau ailosod.

Gall yr awdurdod y mae'n ei roi fod yn ddewisol yn unig: rhaid i ymddiriedolwyr allu dewis ymarfer yr awdurdod a roddir gan y Gorchymyn neu beidio. Fodd bynnag, gall y Comisiwn Elusennau osod amodau gorfodol y mae'n rhaid eu dilyn os yw'r pŵer yn cael ei ymarfer.

Ystyr gwaddoliad parhaol yw eiddo'r elusen (h.y. tir, adeiladau, buddsoddiadau neu arian parod) na all yr ymddiriedolwyr ei wario fel pe bai'n incwm. Rhaid iddo gael ei ddal yn barhaol, weithiau i'w ddefnyddio i hybu dibenion yr elusen, weithiau i gynhyrchu incwm i'r elusen. Fel rheol ni all yr ymddiriedolwyr wario gwaddoliad parhaol heb ein hawdurdod.

Mae masnachu prif ddiben yn fasnach y mae elusen yn ymgymryd â hi wrth gyflawni ei hamcanion. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o'r hyn y gellid ei ystyried yn fasnachu yn y cyswllt hwn:

  • Darparu gwasanaethau addysgol gan ysgol neu goleg yn gyfnewid am ffïoedd cwrs.
  • Darparu llety preswyl gan elusen gofal preswyl yn gyfnewid am dâl.
  • Masnach lle mae prif ddiben yr elusen yn cael ei gyflawni gan fuddiolwyr.

Mae cynllun yn ddogfen gyfreithiol sy'n diwygio, yn disodli neu'n ehangu ymddiriedolaethau elusen. Gall fod yn:

  • gynllun rheoleiddio llawn sy'n delio â phob agwedd ar weinyddiaeth yr elusen ac mae'n gweithredu fel dogfen lywodraethol yr elusen; neu
  • cynllun sy'n delio â rhyw agwedd arbennig ar ddibenion neu weinyddiad yr elusen trwy ddiwygio neu ehangu dogfen lywodraethol yr elusen, neu drwy awdurdodi gweithred arbennig a waherddir gan ymddiriedolaethau'r elusen.

Diffinnir elusen fach yn fras yn nhermau ei hincwm. Os oes gan elusen incwm blynyddol o £10,000 neu lai wedi'i gofnodi ar ein cronfa ddata yn ei blwyddyn ariannol lawn ddiwethaf byddwn yn ei hystyried yn elusen fach. Mae bron 100,000 o elusennau yng Nghymru a Lloegr wedi'u cynnwys yn y categori hwn.

Eiddo specie yw tir y mae'n ofynnol ei ddefnyddio at ddiben elusennol arbennig.

Ystyr is-gwmni masnachu yw unrhyw gwmni masnachu anelusennol y mae un neu ragor o elusennau yn berchen arno i ymgymryd â gweithgareddau masnachu ar ran yr elusen(au) gyda'r nod o godi arian mewn ffordd dreth-effeithlon.

Bwrdd ymddiriedolwyr. Defnyddiwn y gair 'bwrdd' i gyfeirio at gorff llywodraethu'r elusen.

Defnyddir rhaid i gyfeirio at y camau y mae'n ofynnol i ymddiriedolwyr, neu eu hasiantau neu eu gweithwyr, eu cymryd yn ôl y gyfraith.

Defnyddir dylai i awgrymu camau sy'n arfer dda yn ein barn ni ac y disgwyliwn i ymddiriedolwyr eu dilyn.

Atodiad B - Methodoleg ymchwil

Roedd gwaith ymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn ar ffurf dadansoddiad ystadegol o gofnodion achosion y Comisiwn Elusennau a gychwynnwyd ar gyfer elusennau neuadd bentref a chanolfan gymunedol, yn ogystal ag archwiliad manwl o brofiad gwaith achosion y Comisiwn Elusennau. Cyfwelwyd â nifer fawr o ymddiriedolwyr elusennau neuadd bentref a chanolfan gymunedol ac ymgynghorwyd â grwpiau ymgynghorol a mantell sydd â phrofiad o weithio gydag elusennau neuadd bentref a chanolfan gymunedol.

Atodiad C - Adnoddau i ymddiriedolwyr

Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr

Mae cyfrifoldeb am elusennau wedi'i rannu rhwng ein pedair swyddfa. Mae elusennau sydd ag incwm o £10,000 neu lai yn gyfrifoldeb yr Uned Elusennau Bach sydd wedi'i lleoli yn swyddfa Lerpwl. Mae gwybodaeth bellach i elusennau o unrhyw faint ar gael gan y Comisiwn Elusennau yn:

Lerpwl
Llundain
Casnewydd
Taunton
12 Princes Dock Harmsworth House 8fed Llawr, Tŷ Clarence Woodfield House
Princes Parade 13-15 Bouverie Street Clarence Place Tangier
Lerpwl Llundain Casnewydd Taunton
L3 1DE EC4Y 8DP Gwent Gwlad yr Haf
    NP19 7AA TA1 4BL

Mae Canolfan Gyswllt y Comisiwn Elusennau yn darparu cyngor o natur cyffredinol ar ystod eang o faterion.

Ffôn: 0870 333 0123
Minicom: 0870 333 0125

E-bost: Canolfan Gyswllt

Sefydliadau sy'n darparu gwybodaeth, cyngor, hyfforddiant a grantiau (1)

Action with Communities in Rural England (ACRE)

Mae ACRE yn elusen genedlaethol a'i ddiben yw cynnal datblygiad cymunedol gwledig cynaliadwy. Mae ACRE a'i rwydwaith o Gynghorau Cymunedol Gwledig yn darparu Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor i Neuaddau Pentref ac yn trefnu digwyddiadau hyfforddi i ymgynghorwyr Neuaddau Pentref sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am newidiadau cyfredol a datblygiadau arfaethedig mewn deddfwriaeth. Mae cyfres o daflenni gwybodaeth ar gael ar gais, ynghyd â chyfansoddiad enghreifftiol. Mae ACRE hefyd yn darparu swyddfa ar gyfer Fforwm Neuaddau Pentref Cenedlaethol sy'n cynnig llais i gynrychiolwyr pwyllgorau rheoli neuadd bentref a sefydliadau eraill sydd â diddordebau tebyg.

Mae ACRE wedi cynhyrchu'r Governance Plus Project yn ddiweddar mewn partneriaeth â Community Matters. Mae'r prosiect hwn yn ceisio datblygu a lledaenu deunyddiau a phecynnau adnoddau sy'n ceisio helpu pwyllgorau rheoli neuaddau cymunedol i ddatblygu eu gallu rheolaethol. Mae'n cynnwys “Village Hall Health Check: Legal requirements and good practice for the village hall”, “Are you serving your community well” a “Social and Community Enterprise, the future for village and community halls”.

ACRE
Somerford Court
Somerford Road
Cirencester
Swydd Gaerloyw GL7 1TW

Ffôn: 01285 653477
Ffacs: 01285 654537
E-bost: acre@acre.org.uk
Gwefan: www.acre.org.uk

Association of Charitable Foundations (ACF)

Mae ACF yn hybu ac yn cefnogi gwaith ymddiriedolaethau a sefydliadau rhoi grantiau elusennol.

Association of Charitable Foundations
2 Plough Yard
Shoreditch High Street
Llundain
EC2A 3LP

Ffôn: 020 7422 8600
www.acf.org.uk

Association of Chief Executives of Voluntary Organisations (ACEVO)

Mae ACEVO yn darparu adnoddau a gwybodaeth arfer dda ar faterion sector.

Association of Chief Executives of Voluntary Organisations
83 Victoria Street
Llundain
SW1H OHW

Ffôn: 0845 345 8481
E-bost:info@acevo.org.uk
Gwefan: www.acevo.org.uk

Black and Ethnic Minority Support Team (BEST Cymru)

Mae BEST Cymru yn bartneriaeth rhwng yr All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA), Black Voluntary Sector Network Wales (BVSNW), Minority Ethnic Women's Network (MEWN Cymru) ac Ymddiriedolaeth Scarman. Mae'n darparu cymorth i gymunedau a sefydliadau du a lleiafrif ethnig gan gynnwys cyngor ar amrywiaeth o faterion fel gweinyddu grwpiau cymunedol, codi arian a statws elusennol a chofrestru.

Fe welwch fanylion cysylltiadau unigol ar y wefan:
www.best-cymru.org

Business Community Connections (BCC)

Mae BCC yn elusen sy'n ceisio helpu elusennau eraill i gael mwy o gymorth gan y byd busnes.

Business Community Connections
Gainsborough House
2, Sheen Road
Richmond upon Thames
Surrey TW9 1AE

Ffôn: 020 8973 2390
E-bost: info@bcconnections.org.uk
Gwefan: www.bcconnections.org.uk

Centre for Effective Dispute Resolution (CEDR)

Mae CEDR yn cynnig gwasanaeth cyfryngu mewn partneriaeth â NCVO. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfryngu arall yn benodol i ddatrys anghydfodau sy'n ymwneud â'r Compact rhwng y Llywodraeth a'r sector gwirfoddol.

Centre for Effective Dispute Resolution
International Dispute Resolution Centre
70 Fleet Street
Llundain
EC4Y 1EU

Ffôn: 020 7536 6000
Ffacs: 020 7536 6001
E-bost: info@cedr.co.uk
Gwefan: www.cedr.co.uk

Charities Aid Foundation (CAF)

Mae CAF yn cynorthwyo sefydliadau dielw yn y DU a thramor i gynyddu, rheoli a gweinyddu eu hadnoddau.

Charities Aid Foundation
Kings Hill
West Malling
Caint ME19 4TA

Ffôn: 01732 520 000
Gwefan: www.cafonline.org

Charity Trustee Networks

Mae'r rhwydweithiau ymddiriedolwyr elusennau yn cynnig cymorth trwy annog a datblygu grwpiau rhwydwaith ymddiriedolwyr hunangymorth sy'n darparu gwasanaeth ymgynghori a mentora rhwng cyfoedion, cost-effeithiol.

Charity Trustee Networks
P O Box 633
Godalming
GU8 5ZX

Ffôn: 01428 682252
E-bost: info@trusteenetworks.org.uk

Community Development Foundation (CDF)

Mae CDF yn gorff cyhoeddus anadrannol a gefnogir gan Uned Cymunedau Gweithgar y Swyddfa Gartref gyda chefnogaeth sylweddol gan lywodraeth leol, ymddiriedolaethau elusennol a'r sector preifat. Ei rôl yw arloesi, astudio a hybu mathau newydd o ddatblygiad cymunedol, er mwyn hysbysu polisi cyhoeddus, arfer broffesiynol a mentrau cymunedol.

Community Development Foundation
60 Highbury Grove
Llundain N5 2AG

Ffôn: 020 7226 5375
E-bost: admin@cdf.org.uk
Gwefan: www.cdf.org.uk

Community Matters

Community Matters yw ffederasiwn cenedlaethol cymdeithasau cymunedol a sefydliadau tebyg ledled y DU gyda 1100 o sefydliadau sy'n aelodau ledled y DU. Ei rôl yw hybu a chefnogi gweithredu gan bobl gyffredin mewn ymateb i anghenion cymdeithasol, addysgol ac adloniadol yn eu cymdogaethau a'u cymunedau. Mae'n darparu cyngor a hyfforddiant ar ystod eang o faterion.

Bu Community Matters yn gweithio gydag ACRE i ddatblygu'r prosiect Governance Plus. Gweler y manylion uchod.

Community Matters
12-20 Baron Street
Llundain
N1 9LL

Ffôn: 020 7837 7887
Ffacs: 020 7278 9253
E-bost: communitymatters@communitymatters.org.uk
Gwefan: www.communitymatters.org.uk

Cronfa Loteri Fawr

Mae'r Gronfa Gymunedol a'r Gronfa Cyfle Newydd wedi uno i ffurfio'r Gronfa Loteri Fawr. Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu arian a godir gan y Loteri i gefnogi elusennau a grwpiau gwirfoddol.

Cronfa Loteri Fawr
1 Plough Place
Llundain EC4A IDE

Ffôn: 020 7211 1800
Ymholiadau: 020 7211 3737
Ffacs: 020 7211 1750
Minicom: 020 7747 5347
E-bost: enquiries@biglotteryfund.org.uk
Gwefan: www.biglotteryfund.org.uk

Cynghorau Cymunedol Gwledig (RCC)

Mae Cynghorau Cymunedol Gwledig yn elusennau sirol sy'n gweithio i hybu lles cymunedau lleol trwy ymdrech gwirfoddol a thrwy annog pobl i helpu eu hunain. Mae Ymgynghorydd Neuadd Bentref ganddynt yn aml sy'n meddu ar wybodaeth helaeth o'r neuaddau pentref yn eu hardal. Maen nhw'n gweithredu dan fantell ACRE sy'n gallu darparu enwau a chyfeiriadau cyswllt perthnasol.

Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol (NCVO)

Mae gwybodaeth ar gael ar faterion codi arian a llywodraethu ac amryw o wasanaethau cefnogi cyffredinol.

Cyngor Cenedlaethol Cyrff Gwirfoddol
Regent’s Wharf
8 All Saints Street
Llundain N1 9RL Ffôn:

Ffôn: 020 7713 6161
Desg gymorth: 0800 2798 798
E-bost: ncvo@ncvo-vol.org.uk
Gwefan: www.ncvo-vol.org.uk a www.askncvo.org.uk

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Mae'n cynrychioli buddiannau, ac yn ymgyrchu dros gyrff gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru. Mae'n darparu ystod gynhwysfawr o wybodaeth, ymgynghoriaeth, cyllid, gwasanaethau rheoli a hyfforddiant.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Tŷ Baltig
Sgwâr Mount Stuart
Bae Caerdydd
Caerdydd CF10 5FH

Ffôn: 029 20431700
Desg gymorth: 0870 607 1666
E-bost: enquiries@wcva.org.uk neu help@wcva.org.uk
Gwefan:www.wcva.org.uk

Cymdeithas Genedlaethol Cynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol (NACVS)

NACVS yw'r corff mantell cenedlaethol ar gyfer Cynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol yn Lloegr. Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol lleol yn darparu cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i gyrff gwirfoddol ac elusennau yn ei ardal, gan gynnwys cymorth gyda chofrestru elusennau. Gall y Gymdeithas Genedlaethol gysylltu elusennau â'u CGG lleol.

Cymdeithas Genedlaethol Cynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol
3rd Floor Arundel Court
177 Arundel Street
Sheffield S1 2NU

Ffôn: 0114 278 6636
E-bost: nacvs@nacvs.org.uk
Gwefan: www.nacvs.org.uk

Directory of Social Change (DSC)

Mae'r DSC yn hybu newid cymdeithasol cadarnhaol ac yn darparu ystod eang o adnoddau i ymddiriedolwyr.

Llundain
24 Stephenson Way
Llundain
NW1 2DP
Ffôn: 020 7391 4800 Lerpwl
Federation House
Hope Street
Lerpwl L1 9BW
Ffôn: 0151 70850117

Ffôn: 08450 77 77 07
Gwefan: www.dsc.org.uk

Ethnic Minority Foundation (EMF) a'r Council of Ethnic Minority Voluntary Organisations (CEMVO)

Mae EMF a CEMVO yn datblygu adnoddau i sefydliadau du a lleiafrifol ethnig, sy'n cynnwys cyfleoedd rhwydweithio a chyfleoedd hyfforddi a chofrestr ymddiriedolwyr.

EMF/CEMVO
Boardman House
64 Broadway
Stratford
Llundain E15 1NG

Ffôn: 020 84320 307
E-bost: enquiries@emf-cemvo.co.uk
Gwefan: www.ethnicminorityfund.org.uk

Institute of Chartered Secretaries and Administrators (ICSA)

Mae ICSA yn darparu gwybodaeth ac arweiniad arfer dda ar faterion llywodraethu sy'n effeithio ar y sector. Mae cofrestr ymddiriedolwyr ganddynt hefyd sydd ar gael i elusennau sy'n chwilio am ymddiriedolwyr newydd.

Institute of Chartered Secretaries and Administrators
16 Par Crescent
Llundain W1B 1 AH

Ffôn: 020 7580 4741
E-bost: info@icsa.co.uk
Gwefan: www.icsa.org.uk

Institute of Fundraising (IoF)

Mae'r IoF yn ceisio hybu'r safonau uchaf ym maes arfer codi arian.

Institute of Fundraising
Market Towers
1 Nine Elms Street
Llundain SW8 5NQ

Ffôn: 020 7627 3436
E-bost: enquiries@institute-of-fundraising.org.uk
Gwefan: www.institute-of-fundraising.org.uk

VolResource

Adnodd ar y rhyngrwyd yn unig i elusennau sy'n cynnig cysylltiadau cyflym i sefydliadau defnyddiol sy'n ymwneud â gweinyddu elusennau yn effeithiol.

E-bost: info@volresource.org.uk
Gwefan: www.volresource.org.uk

Volunteering England

Asiantaeth datblygu gwirfoddolwyr cenedlaethol Lloegr yw hon ac mae'n gweithio i hybu gwirfoddoli fel grym pwerus dros newid, i'r rheiny sy'n gwirfoddoli a'r gymuned ehangach.

Volunteering England (swyddfa Llundain)
Regents Wharf
8 All Saints Street
Llundain N1 9RL

Ffôn: 0800 028 3304
E-bost: information@volunteeringengland.org
Gwefan: www.volunteering.org.uk

Adrannau’r llywodraethu

Asiantaeth Cefn Gwlad

Yr Asiantaeth Cefn Gwlad yw'r corff statudol a sefydlwyd i warchod a gwella cefn gwlad a hybu cydraddoldeb cymdeithasol a chyfle economaidd i bawb sy'n byw yno a helpu pawb, ble bynnag y maent yn byw, i fwynhau cefn gwlad. Dull o gyflwyno'r gwasanaeth hwn yw cymorth grant gan gynnwys y fenter Active Communities sy'n galluogi pobl leol i ymdrin â'r materion sy'n wynebu eu cymunedau gwledig.

Asiantaeth Cefn Gwlad
South East Region
Dacre House
19 Dacre Street
Llundain SW1H 0DH

Ffôn: 020 7340 2900
Gwefan: www.countryside.gov.uk

Charities Management
Mitre House Publishing
The Clifton Centre
110 Clifton Street110
Llundain EC2A 4HD

Tanysgrifiadau ffôn: 020 854 27766

Charity Finance
3 Rectory Grove
Llundain
SW4 0DX

E-bost: rcoley@charityfinance.co.uk
Gwefan: www.charityfinance.co.uk
Tanysgrifiadau ffôn: 020 7819 1200

Charity Times
Gwefan: www.charitytimes.com
Tanysgrifiadau ffôn: 020 7426 0496 / 0123

Community Affairs Briefing
E-bost: mail@corporate-citizenship.co.uk
Gwefan: www.corporate-citizenship.co.uk/publications
Ffacs: 020 7945 6138

Cyllid y Wlad (IR)

Mae'n darparu gwybodaeth ar faterion masnachu a threth sy'n ymwneud ag elusennau.

IR Charities
Room 140
St John’s House
Merton Road
Bootle
Glannau Mersey L69 9BB

Ffôn: 0151 472 6036 / 6037 (ffurflenni) 0845 3020203 (ymholiadau cyffredinol)
Gwefan: www.inlandrevenue.gov.uk

The Guardian / Society
Gwefan: www.SocietyGuardian.co.uk

Third Sector
E-bost: subscriptions@haynet.com
Website: www.thirdsector.co.uk
Tanysgrifiadau ffôn: 020 8606 7500

Tollau Tramor a Chartref EM

Mae'n darparu gwybodaeth sy'n ymwneud ag ymholiadau TAW. Edrychwch ar eich cyfeirlyfr ffôn lleol am fanylion cyswllt. Mae gwybodaeth gyffredinol ar gael o:

Ffôn: 0845 0109000
Gwefan: www.hmce.gov.uk

Voluntary Sector
Cysylltwch â NCVO am fanylion - gweler uchod.

Y Gofrestrfa Tir

Mae'n darparu gwybodaeth ar faterion sy'n ymwneud â thir, er enghraifft cofrestru teitl. Edrychwch ar y wefan neu eich cyfeirlyfr ffôn lleol am fanylion cyswllt. Mae gwybodaeth gyffredinol ar gael o:

Ffôn: 0207 917 8888
Gwefan: www.landreg.gov.uk

Cyfnodolion, cylchgronau a phapurau newydd

Atodiad Ch - Llyfryddiaeth

Brown. S. (2003) The Role of the Community Building (ACRE)

Swyddfa'r Cabinet (2002) Gweithredu Preifat, Budd Cyhoeddus: Adolygiad o Elusennau a'r Sector Dielw Ehangach

Comisiwn Elusennau, (2001) Prynu Tir Elusennau (CC33)

Comisiwn Elusennau, (2002) Newid Dogfennau Llywodraethol Elusennau: Gorchmynion a Chynlluniau (CC36)

Comisiwn Elusennau, (2003) Y Comisiwn Elusennau a Rheoleiddio

Comisiwn Elusennau, (2001) Elusennau a Masnachu (CC35)

Comisiwn Elusennau, (2003) Dewis a pharatoi dogfen lywodraethol (CC22)

Comisiwn Elusennau, (2003) Cydweithio a Chyfuniadau (RS4)

Comisiwn Elusennau, (2002) Apeliadau adeg Trychineb (CC40)

Comisiwn Elusennau, (2003) Gwerthu Tir Elusennau (CC28)

Comisiwn Elusennau, (2003) Gwario ac Ailosod Gwaddoliad Parhaol (CC38)

Comisiwn Elusennau, (2004) Nodweddion Elusen Effeithiol (CC60)

Comisiwn Elusennau, (2004) Elusennau Aelodaeth (RS7)

Comisiwn Elusennau, (2003) Cerrig Milltier: rheoli digwyddiadau allweddol ym mywyd elusen (RS6)

Comisiwn Elusennau, (2002) Gwasanaeth Dal Tir y Ceidwad Swyddogol i Elusennau (CC13)

Comisiwn Elusennau, (2003) Talu ymddiriedolwyr (CC11)

Comisiwn Elusennau, (2001) Darparu Alcohol ar Safleoedd Elusennau (CC27)

Comisiwn Elusennau, (2000) Deddf Elusennau Adloniadol 1958 (RR4)

Comisiwn Elusennau, (2003) Cronfeydd Wrth Gefn (RS3)

Comisiwn Elusennau, (2002) Cyfrifoldebau Ymddiriedolwyr Elusennau (CC3)

Comisiwn Elusennau, (2000) Elusennau Bach: Newid Ymddiriedolaethau, Trosglwyddo Eiddo, Gwario Cyfalaf (CC44)

Comisiwn Elusennau, (2003) Elusennau Bach a Chronfeydd Wrth Gefn (RS5)

Comisiwn Elusennau, (2002) Recriwtio, Dewis a Sefydlu Ymddiriedolwyr (RS1)

Comisiwn Elusennau, (2001) Defnyddio Neuaddau Eglwysi ar gyfer Neuadd Bentref a Dibenion Elusennol Eraill (CC18)

Comisiwn Elusennau, (2000) Cynnwys Defnyddwyr: Cynnwys Defnyddwyr: Buddiolwyr sy'n dod yn ymddiriedolwyr (CC24)

CVS Consultants, (2003) Adroddiad Terfynol i'r Gronfa Gymuned “Evaluation of Grants for Community Buildings"

Dyer. F & Jost. U, (2002) Recruiting Volunteers: Attracting the People you Need (Directory of Social Change).

Hayes, R & Reason, J (2004) Voluntary but not Amateur: a guide to the law for voluntary organisations and community groups, 7fed.arg. LVSC

Swyddfa Gartref, (2004) Change up: Capacity Building and Infrastructure Framework for the Voluntary and Community Sector

Macmillan. R, (2003) County Durham Community Buildings Survey 2003 One Voice Network

Marriott. P, (1997) The Role of Community Buildings (Community Matters – allan o brint)

Ôl-nodion:

1. Sylwer nid yw hon yn rhestr derfynol.