Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Cyhoeddiadau a Chanllawiau

Cyhoeddiadau

Rydym yn cynhyrchu ystod o gyhoeddiadau sy'n rhoi gwybodaeth am y gyfraith elusennau, arferion da cymeradwy, dyletswyddau ymddiriedolwyr elusen, a'n rôl fel rheolydd elusennau. Gallwch eu darllen neu gwrando arnynt ar ein gwefan neu gallwch archebu copi caled a fformatau eraill. Mae'r rhan fwyaf o'n cyhoeddiadau ar gael yn Gymraeg a Saesneg hefyd. Yma fe welwch ein hystod o gyhoeddiadau, mewn amrywiaeth o fformatau.

Hefyd fe gewch fanylion yma o'r cyhoeddiadau cryno a gynhyrchiwn mewn ieithoedd eraill a sut i archebu casét sain, CD, fersiynau Braille neu brint bras o'n cyhoeddiadau.

Arweiniad

Yn ogystal â'n hystod o gyhoeddiadau, rydym hefyd yn darparu ystod eang o ganllawiau ar-lein i elusennau ar faterion penodol, sy'n dwyn ynghyd pwyntiau arferion da a ddaw i'r amlwg yn ystod ein gwaith.

Yma gallwch gyrchu'r rhestr o'n canllawiau ar-lein.