Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Hyrwyddo Crefydd er Budd Cyhoeddus

(Fersiwn Rhagfyr 2008)

Gallwch weld y fersiwn lliw argraffedig o'r cyhoeddiad hwn hefyd: Hyrwyddo Crefydd er Budd Cyhoeddus (fformat PDF).

Cynnwys

Canllaw gan y Comisiwn Elusennau yw hwn ar hyrwyddo crefydd. Mae'n cynnwys canllawiau budd cyhoeddus atodol i elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd.

A. Rhagair

Neges gan Gadeirydd a Phrif Weithredwr y Comisiwn Elusennau i ymddiriedolwyr elusennau sy'n bodoli, ac unrhyw un arall sy'n ystyried sefydlu elusen newydd gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd.

Annwyl Ddarllenydd

Yn hanesyddol, mae'r cysyniad o elusen wedi cael ei gysylltu'n agos yn aml ag ymdeimlad crefyddol o ddyletswydd i helpu eraill. Un o'r rhesymau pam y mae hyrwyddo crefydd wedi cael ei gydnabod fel rhywbeth sydd er budd y cyhoedd yw oherwydd y cysylltiad hwn rhwng crefydd ac ymdrech elusennol. Mae llawer o'r ymdrech elusennol hwnnw yn cael ei gydnabod bellach mewn amcanion elusennol eraill, megis atal neu leddfu tlodi, ond mae hyrwyddo crefydd er budd y cyhoedd hefyd yn nod elusennol.

Mae gan gred a ffydd grefyddol, trwy ei natur, ddimensiynau personol a chyhoeddus. O ran budd cyhoeddus, y dimensiwn cyhoeddus sydd o'r pwysigrwydd pennaf. Os yw crefydd yn helpu i ddarparu fframwaith moesol a moesegol i bobl fyw ei fywydau, gall chwarae rhan bwysig wrth adeiladu cymdeithas well.

Mae tua 29,000 o elusennau ar Gofrestr y Comisiwn Elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd. Bydd y rhif hwn yn cynyddu oherwydd bydd yn ofynnol i'r elusennau hynny gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd, a oedd wedi'u heithrio cyn hynny o'r gofyniad, i gofrestru cyn bo hir. O dan Ddeddf Elusennau 2006, bydd rhaid i bob un ohonynt ddangos bod y ffordd y maent yn cyflawni eu hamcanion er budd y cyhoedd, fel pob elusen arall.

Gwerthfawrogwn y gall fod yn anodd i rai ymddiriedolwyr elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd fynegi drwy eiriau sut mae eu helusen yn gweithredu er budd y cyhoedd. Mae'r canllaw hwn, sydd wedi'i deilwra i anghenion arbennig yr elusennau hynny, yn ceisio eu helpu i wneud hynny. Gobeithio y bydd o ddefnydd i ymddiriedolwyr.

Y Fonesig Suzi Leather
Cadeirydd
Andrew Hind
Prif Weithredwr

B. Cyflwyniad

B1. Am beth mae'r canllaw hwn?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

Mae ein canllaw Elusennau a Budd Cyhoeddus yn esbonio, yn gyffredinol, yr hyn a olygir wrth y gofyniad budd cyhoeddus. Mae'r canllaw hwn yn dangos sut mae egwyddorion budd cyhoeddus, a nodir yn Elusennau a Budd Cyhoeddus, yn ymwneud yn benodol ag elusennau sy'n hyrwyddo crefydd.

Mae adrannau Ch, D ac Dd yn ganllawiau cyhoeddus atodol sy'n ffurfio rhan o'n canllaw statudol ar fudd cyhoeddus. Mae'n rhaid i elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd ei ystyried.

Mae'r canllaw hwn hefyd yn esbonio ystyr hyrwyddo crefydd.

B2. Beth yw'r 'gofyniad budd cyhoeddus'?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

'Budd cyhoeddus' yw'r gofyniad cyfreithiol sy'n datgan bod rhaid i bob sefydliad a ffurfiwyd ar gyfer un neu ragor o amcanion elusennol allu dangos bod ei amcanion er budd y cyhoedd er mwyn iddo gael ei gydnabod a'i gofrestru fel elusen yng Nghymru a Lloegr. Gelwir hyn y gofyniad budd cyhoeddus.

Amcanion elusennol yw'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn y disgrifiadau amrywiol o ddibenion yn Neddf Elusennau 2006 (gan gynnwys unrhyw ddibenion newydd a allai gael eu cydnabod fel rhai elusennol yn y dyfodol) ac sydd er budd y cyhoedd. Fe gewch fwy o wybodaeth am hyn yn ein Sylwadau ar y Disgrifiadau o Ddibenion Elusennol yn y Ddeddf Elusennau ar ein gwefan.

Bu rhaid i bob elusen fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus erioed, ond mae'r Ddeddf Elusennau yn ei bwysleisio trwy ei gwneud hi'n ofynnol i bob elusen ddangos, yn eglur, bod ei hamcanion er budd y cyhoedd, gan gynnwys elusennau sy'n hyrwyddo addysg neu grefydd, neu sy'n lleddfu tlodi, y tybiwyd cyn hyn eu bod er budd y cyhoedd.

Mae cyfrifoldeb gan y Comisiwn Elusennau i sicrhau bod pob elusen yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus a chynnig arweiniad ar yr hyn y mae'r gofyniad yn ei olygu. Mae dyletswydd gyfreithiol ar ymddiriedolwyr elusen i ystyried ein canllawiau budd cyhoeddus ac adrodd ar fudd cyhoeddus eu helusen.

B3. Beth yw egwyddorion budd cyhoeddus?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

Dwy brif egwyddor budd cyhoeddus yw bod rhaid cael budd neu fuddion adnabyddadwy, a rhaid i'r budd fod i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd. Esbonnir y rhain yn fwy manwl yn Elusennau a Budd Cyhoeddus.

O fewn pob egwyddor mae rhai ffactorau pwysig y mae'n rhaid eu hystyried ym mhob achos, sef:

Egwyddor 1: Rhaid bod budd neu fuddion adnabyddadwy
1a Rhaid bod yn glir beth yw'r buddion
1b Rhaid i'r buddion fod yn gysylltiedig â'r amcanion
1c Rhaid pwyso a mesur buddion yn erbyn unrhyw anfantais neu niwed

Egwyddor 2: Rhaid bod budd i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd
2a Rhaid i'r buddiolwyr fod yn briodol i'r amcanion
2b Os cynigir budd i ran o'r cyhoedd, rhaid i'r cyfle i gael budd beidio â chael ei gyfyngu'n afresymol:

  • gan gyfyngiadau daearyddol neu gyfyngiadau eraill; neu
  • gan allu i dalu unrhyw ffioedd a godir

2c Ni ellir eithrio pobl sy'n byw mewn tlodi o'r cyfle i gael budd
2ch Rhaid i unrhyw fuddion preifat fod yn atodol

Rhaid i holl amcanion elusennol elusen fodloni'r egwyddorion hyn.

B4. Defnyddio'r canllaw hwn

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

Y canllaw hwn yw ein dehongliad ni o'r gyfraith elusennau berthnasol; nid yw'n cynrychioli'r gyfraith ei hun.

Fodd bynnag, mae dyletswydd statudol ar ymddiriedolwyr elusen i ystyried ein canllaw ar fudd cyhoeddus, os yw'n berthnasol i'w helusen. Mae hyn yn golygu y dylent allu dangos:

  • eu bod yn ymwybodol o'r canllaw;
  • wrth wneud penderfyniad ac mae'r canllaw yn berthnasol, eu bod wedi ei ystyried; ac
  • os ydynt wedi penderfynu gweithredu'n groes i'r canllaw, bod rhesymau da ganddynt dros wneud hynny.

Mae Adran C yn esbonio beth yw crefydd at ddibenion y gyfraith elusennol ac ystyr hyrwyddo crefydd.

Mae Adran Ch (canllaw budd cyhoeddus atodol) yn esbonio sut mae egwyddor budd cyhoeddus 1: Rhaid bod budd neu fudion adnabyddadwy, yn ymwneud yn benodol ag elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd.

Mae Adran D (canllaw budd cyhoeddus atodol) yn esbonio sut mae egwyddor budd cyhoeddus 2: Rhaid bod budd i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd, yn ymwneud yn benodol ag elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd.

Mae Adran Dd (canllaw budd cyhoeddus atodol) yn esbonio sut i adrodd ar fudd cyhoeddus.

Mae Adran E yn esbonio sut rydym yn asesu budd cyhoeddus.

Mae Atodiad A yn rhoi manylion am nodweddion crefydd.

Mae Atodiad B yn rhoi enghreifftiau o sut y gall elusennau hyrwyddo crefydd.

Mae Atodiad C yn rhoi enghreifftiau o'r hyn a allai gael ei ystyried yn anfantais neu niwed.

B5. 'Rhaid' a 'dylai': beth ydym yn ei olygu

Yn y canllaw hwn, pan ddefnyddiwn 'rhaid', golygwn ei fod yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol rydym wedi defnyddio'r symbol Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol wrth ymyl yr adran honno.

Defnyddiwn 'dylai' ar gyfer eitemau y mae'r Comisiwn yn eu hystyried yn arfer da lleiaf, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol i'w cyflawni. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

B6. Rhai termau technegol a ddefnyddir

Mae'r termau canlynol yn cael eu defnyddio trwy'r canllaw hwn, a dylid ystyried bod ganddynt yr ystyron penodol fel y nodir isod.

Deddf Elusennau: Deddf Elusennau 1993 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006; neu os yw'n gymwys, Deddf Elusennau 2006.

Amcanion: fel arfer bydd nod sefydliad wedi'i fynegi yng 'nghymal amcanion' ei dogfen lywodraethol.

Budd preifat: unrhyw fuddion y bydd unigolyn neu sefydliad yn eu derbyn heblaw fel buddiolwr elusen. Felly, nid yw'n cynnwys y mathau o fuddion personol y bydd pobl yn eu derbyn fel buddiolwr, megis bod yn ddilynwr neu'n ymlynwr crefydd.

Buddiolwr neu fuddiolwyr: y bobl y mae amcanion y sefydliad yn bwriadu cynnig budd iddynt. Yn achos elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd mae'r buddiolwyr yn cynnwys dilynwyr neu ymlynwyr, darpar ddilynwyr neu ymlynwyr a'r cyhoedd.

Canllaw statudol ar fudd cyhoeddus: y canllaw ar fudd cyhoeddus y mae'n ofynnol i ni ei gynhyrchu o dan adran 4 y Ddeddf Elusennau.

Diben(ion) a diben(ion) elusennol: yn y canllaw hwn defnyddiwn y term 'dibenion' pan fyddwn yn cyfeirio at y disgrifiadau o ddibenion a restrir yn y Ddeddf Elusennau. Maent yn disgrifio meysydd cyffredinol o weithgarwch elusennol ond nid oes unrhyw ragdybiaeth awtomatig y bydd sefydliad gyda nod neu amcan sydd wedi'i gynnwys o fewn un o'r disgrifiadau o ddibenion, yn elusennol. Er mwyn bod yn 'ddiben elusennol' rhaid iddo fod er budd cyhoeddus. Rhaid bod modd dangos hyn ym mhob achos.

Dogfen lywodraethol: dogfen gyfreithiol sy'n pennu amcanion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, Cynllun y Comisiwn Elusennau, neu'n ddogfen ffurfiol arall.

Elusennau llai: elusennau gydag incwm a/neu asedau sy'n is na'r trothwy archwilio.

Elusennau mwy: elusennau gydag incwm a/neu asedau sy'n uwch na'r trothwy archwilio.

Elusennau sydd wedi'u heithrio: dros y blynyddoedd cafodd rhai grwpiau o elusennau, gan gynnwys rhai elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd, eu heithrio o'r rhwymedigaeth i gofrestru gyda ni. Bydd y Ddeddf Elusennau yn ei gwneud hi'n ofynnol bellach i rai o'r elusennau hyn gofrestru.

Gweithgareddau: beth mae sefydliadau yn ei wneud i gyflawni eu hamcanion.

Nod: dibenion sefydliad unigol. Mae'n bwysig gallu gwahaniaethu'n glir yn y canllaw hwn rhwng dibenion sefydliad unigol a dibenion elusennol yn gyffredinol. Felly, defnyddiwyd y term 'nod' neu 'amcan' i ddisgrifio dibenion elusen neu sefydliad unigol sy'n gwneud cais i gofrestru fel elusen.

SORP: mae'r SORP, neu'r Datganiad o Arferion Cymeradwy, a gyhoeddwyd ym Mawrth 2005, yn amlinellu'r arferion cymeradwy at y diben o baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a pharatoi'r cyfrifon ar ddull croniadau. Nid yw argymhellion cyfrifyddu'r SORP yn gymwys i elusennau sy'n paratoi cyfrifon derbyniadau a thaliadau, sef elusennau heb fod yn gwmnïau gydag incwm gros nad yw'n fwy na £100,000.

Tribiwnlys Elusennau: y Tribiwnlys Elusennau, a sefydlwyd gan y Ddeddf Elusennau, yw'r lefel gyntaf ar gyfer apelio yn erbyn ein penderfyniadau cyfreithiol.

Trothwy archwilio: o dan y Ddeddf Elusennau, mae archwiliad yn ofynnol os yw incwm gros yr elusen yn y flwyddyn yn fwy na £500,000, neu os yw'r incwm yn fwy na £100,000 ac mae cyfanswm gwerth ei hasedau yn fwy na £2.8 miliwn.

Y cyhoedd yn gyffredinol: y cyhoedd yn gyffredinol; gweddill y cyhoedd sydd heb eu cwmpasu gan ddosbarth o fuddiolwyr diffiniedig.

Y gofyniad adrodd ar fudd cyhoeddus: y gofyniad statudol i ymddiriedolwyr elusen adrodd ar fudd cyhoeddus eu helusen yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr.

Ymddiriedolwyr: y bobl sy'n gwasanaethu ar gorff llywodraethu elusen. Gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor, aelodau cyngor eglwys, diaconiaid, henuriaid neu aelodau pwyllgor rheoli. Mae ymddiriedolwyr elusen yn gyfrifol am reoli gweinyddiad elusen yn gyffredinol.

B7. Pa ganllawiau budd cyhoeddus sy'n rhaid i ymddiriedolwyr elusen eu hystyried?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusen ystyried yr holl ganllawiau budd cyhoeddus statudol sy'n berthnasol i'w helusen.

Felly, mae'n rhaid i bob ymddiriedolwr elusen ystyried ein canllaw budd cyhoeddus cyffredinol, Elusennau a Budd Cyhoeddus.

Yn ogystal, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusen ystyried y canllawiau statudol sydd wedi'u cynnwys yn ein canllawiau budd cyhoeddus atodol ar unrhyw bwnc sy'n berthnasol i amcanion eu helusen, neu sut y maent yn cyflawni'r amcanion hynny. (Nodwn yn ein canllaw pa elfennau sy'n ganllawiau budd cyhoeddus atodol ac yn ffurfio rhan o'n canllaw statudol ar fudd cyhoeddus).

Er enghraifft, gallai fod llawer o amcanion elusennol gan elusen ac mae'n codi ffioedd am wasanaethau neu gyfleusterau'r elusen. Felly mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ystyried y canllaw budd cyhoeddus atodol rydym wedi'i gynhyrchu ar gyfer pob un o amcanion yr elusen, yn ogystal â'n canllaw ar fudd cyhoeddus a chodi ffioedd.

Os nad ydym wedi cynhyrchu canllaw budd cyhoeddus atodol ar gyfer un neu ragor o amcanion eich elusen, mae angen i chi ddilyn yr egwyddorion a nodwyd yn Elusennau a Budd Cyhoeddus.

Edrychwch ar ein gwefan am fanylion pob un o'n canllawiau budd cyhoeddus. Mae copïau caled ar gael trwy ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218.

Mae ein gwefan hefyd yn cynnwys manylion am ganllawiau a chyhoeddiadau eraill.

B8. Pa ganllawiau eraill ar hyrwyddo crefydd sydd ar gael?

Mae'r gyfraith sy'n sail i'r canllaw hwn i'w gweld yn ein Dadansoddiad o'r gyfraith sy'n sail i Hyrwyddo Crefydd er Budd Cyhoeddus (PDF).

Mae Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a Chyfrifon Enghreifftiol yn cynnwys enghraifft o sut y gallai elusen sy'n hyrwyddo crefydd adrodd ar ei budd cyhoeddus. Byddwn yn ychwanegu at yr enghreifftiau hyn yn y dyfodol.

Rydym hefyd yn cynhyrchu canllaw budd cyhoeddus ar wahân ar Hyrwyddo Systemau Cred Foesol neu Foesegol ar gyfer Budd Cyhoeddus.

Mae system cred foesol neu foesegol yn un sy'n debyg i grefydd ond nid yw'n bodloni holl nodweddion awgrymedig crefydd fel y nodwyd yn y canllaw hwn. Mae'n pennu ffordd o fyw a rhyngweithio, mewn ffordd fuddiol, â phobl eraill. Nid yw sefydliad sy'n hyrwyddo system gred foesol neu foesegol neu, yn yr un modd, sefydliad a ffurfiwyd i annog pobl i gael unrhyw fath o ffydd grefyddol neu ddull addoli, neu arfer moesoldeb, yn hyrwyddo crefydd er budd y cyhoedd. Fodd bynnag, gallai fod yn elusennol yn yr ystyr ei fod yn hyrwyddo nod elusennol arall, megis hyrwyddo lles moesol neu ysbrydol neu wella'r gymuned.

Mae'r canllaw hwn wedi'i gyfeirio at elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd. Nid yw wedi'i gyfeirio at elusennau seiliedig ar ffydd, neu gyrff sy'n gweithio'n bennaf er mwyn hyrwyddo hawliau dynol, datrys anghydfod neu gymodi, neu hyrwyddo cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb ac amrywiaeth. Fodd bynnag, gall fod diddordeb gan elusennau sy'n gweithredu yn y meysydd hynny, ac elusennau seiliedig ar ffydd, yn ein canllawiau ar wahân, nad ydynt yn rhan o'n canllawiau budd cyhoeddus atodol.

Mae'r holl ganllawiau hyn ar gael ar ein gwefan, ac

C. Hyrwyddo crefydd

C1. Sut mae crefydd yn cael ei diffinio at ddibenion y gyfraith elusennau?

At ddibenion y gyfraith elusennau, mae crefydd yn system gred sydd â nodweddion arbennig sydd wedi cael eu hadnabod yn y gyfraith achosion a'u hegluro yn Neddf Elusennau 2006.

Yn ein rôl fel cofrestrydd a rheolydd elusennau, gallwn ddarparu canllaw i egluro'r effaith sydd gan y diffiniad rhannol yn y Ddeddf Elusennau o ran y gyfraith achosion presennol. (Gellir gweld canllaw pellach ar hyn yn ein Dadansoddiad o'r gyfraith sy'n sail i Hyrwyddo Crefydd er Budd Cyhoeddus (PDF).)

Yn ôl Adran 2(3) y Ddeddf Elusennau:

"mae crefydd yn cynnwys:

  • crefydd sy'n cynnwys cred mewn mwy nag un duw, a
  • chrefydd nad yw'n cynnwys cred yn nuw."

Bwriad y ddeddfwriaeth oedd egluro bod crefyddau sy'n cynnwys cred mewn mwy nag un duw a'r rhai nad ydynt yn cynnwys cred yn nuw wedi'u cynnwys o fewn ystyr crefydd sy'n deillio o'r gyfraith achosion presennol.

C2. Beth yw nodweddion crefydd at ddibenion y gyfraith elusennau?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

Wrth ystyried a yw system gred yn grefydd at ddibenion y gyfraith elusennau, mae'r llysoedd wedi adnabod nodweddion arbennig sy'n disgrifio cred grefyddol. Mae'r nodweddion hyn yn cynnwys:

  • creu yn nuw (neu dduwiau) neu dduwies (neu dduwiesau), neu fod mawr, neu fod neu endid dwyfol neu drosgynnol neu egwyddor ysbrydol, sy'n wrthrych neu'n ffocws y grefydd (y cyfeirir ato trwy'r canllaw hwn fel 'bod neu endid mawr ');
  • perthynas rhwng y crediniwr a'r bod neu'r endid mawr trwy addoli, neu ddangos parch neu ddwysbarch at y bod neu'r endid mawr;
  • graddfa o effeithiolrwydd, cydlyniad, difrifoldeb a phwysigrwydd;
  • fframwaith moesol neu foesegol cadarnhaol, buddiol, adnabyddadwy.

I gael manylion pellach am y nodweddion hyn gweler Atodiad A.

Y defnydd o derminoleg: rhaid i sefydliad sy'n hyrwyddo crefydd ddangos, er mwyn bod yn elusennol, fod y grefydd yn cynnwys cred mewn bod neu endid mawr, ond nid oes rhaid defnyddio'r derminoleg honno yn ei amcanion neu lenyddiaeth wrth gyfeirio at fod neu endid mawr, neu ei ddisgrifio.

Yn yr un modd, nid oes rhaid i'r elusen sy'n hyrwyddo crefydd ddefnyddio'r term 'addoli' er enghraifft wrth gyfeirio at y berthynas, neu ddisgrifio'r berthynas rhwng y dilynwyr a'r ymlynwyr a'r bod neu'r endid mawr, os nad yw'r derminoleg honno yn briodol ar gyfer y grefydd honno.

C3. Beth a olygir wrth hyrwyddo crefydd er budd cyhoeddus?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

Er mwyn bod yn elusennol rhaid i grefydd gael ei hyrwyddo.

Yn gyffredinol mae 'hyrwyddo' crefydd yn golygu ei hybu neu ei chynnal neu ei harfer a chynyddu cred yn y bod neu'r endid mawr sy'n wrthrych neu'n ffocws y grefydd.

Fe welwch enghreifftiau o sut y gallai elusennau hyrwyddo crefydd er budd y cyhoedd yn Atodiad B.

Chwilio am ddilynwyr newydd: nid oes rhaid i bob elusen gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd chwilio am ddilynwyr neu ymlynwyr newydd. Yn achos rhai crefyddau (megis Siciaeth), mae dilynwyr neu ymlynwyr yn cael eu geni i mewn i'r grefydd ac nid all pobl sydd heb eu geni i mewn i'r grefydd droi ati. Yn yr achosion hynny, ni fydd 'hyrwyddo'r grefydd yn ymwneud ag annog pobl i ymuno â'r grefydd, oherwydd mae'n cael ei phennu gan enedigaeth, ond gall ymwneud ag effeithiau personol a chymdeithasol y grefydd sy'n cael ei harfer gan ddilynwyr neu ymlynwyr o'r fath.

Hybu daliadau crefydd arbennig: gallai rhai elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd ddewis canolbwyntio ar hybu daliadau arbennig o'r grefydd honno er mwyn hybu'r hyn y credant sy'n agwedd gynhenid bwysig o'r grefydd honno. Ar yr amod nad yw'r pwrpas mor gyfyng fel ei fod yn cynhyrchu naill ai budd cyhoeddus annigonol neu nid oes llawer o ystyriaeth i ddysgeidiaethau ehangach y grefydd, ni ddylai hyn effeithio ar statws elusennol y sefydliad.

Er enghraifft, gallai elusen sy'n hyrwyddo'r grefydd Islamaidd ganolbwyntio ar alluogi pobl Fwslimaidd sydd yn yr ysbyty i ddilyn gofynion arferion Islamaidd Halal.

C4. A yw popeth sy'n cael ei wneud yn enw crefydd yn hyrwyddo crefydd er budd y cyhoedd?

Nid yw'r ffaith bod sefydliad yn gwneud rhywbeth yn enw crefydd yn ddigon er mwyn iddo fod yn elusen sy'n hyrwyddo crefydd. Rhaid dangos mai nod y sefydliad yw hyrwyddo crefydd mewn ffordd sydd er budd y cyhoedd, ac nid i hyrwyddo rhyw nod, anelusennol arall.

Dylai elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd, fel pob elusen arall, weithredu o fewn fframwaith o'r gyfraith sy'n gymwys iddynt, er enghraifft yn achos ymgyrchu neu fater gwleidyddol neu faterion eraill. Ni ellir defnyddio crefydd fel 'gorchudd' i fynegi barn na fyddai er budd y cyhoedd pe byddai'n cael ei fynegi gan sefydliad sydd heb fod yn grefyddol. Rhaid bod cyswllt â chrefydd a rhaid i'r safbwyntiau ddeillio o'r system gred honno a dilyn cyfraith Cymru a Lloegr.

C5. Beth mae angen i elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd eu hystyried wrth ddrafftio'r hyn a wnânt fel nod elusennol?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

Fel arfer fe welir nod elusen yng nghymal amcanion ei dogfen lywodraethol, a ddylai fynegi'n ddigonol ac yn llawn at beth y cafodd ei sefydlu i'w wneud. Dylai holl amcanion elusen gael eu nodi yn ei chymal amcanion.

Fodd bynnag, nid oes gan bob elusen gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd ddogfen lywodraethol sy'n pennu ei hamcanion fel hyn.

Er enghraifft, yn Eglwys Loegr, mae Cynghorau Plwyf Eglwysig (CPE) wedi'u llywodraethu gan fesur eglwysig sy'n pennu rhai o 'swyddogaethau' CPE sy'n ffurfio sail i'r amcanion.

Dylai unrhyw elusen sy'n ansicr beth yw ei hamcanion geisio cyngor gan gorff llywodraethu priodol neu gennym ni.

Mae'r amcanion yn hanfodol wrth ystyried budd cyhoeddus unrhyw sefydliad elusennol oherwydd;

  • rhaid i bob amcan elusen fod er budd y cyhoedd;
  • dim ond buddion sy'n deillio o gyflawni'r amcanion hynny all gael eu hystyried; a
  • rhaid i'r buddiolwyr fod yn briodol i'r amcanion.

Weithiau gall fod yn anodd i eirio'r cymal amcanion fel amcan elusennol yn y ffordd a gydnabyddir yn elusennol yn ôl y gyfraith. Gallai cymal amcanion sydd wedi'i eirio'n anghywir, neu gymal amcanion nad yw'n mynegi amcanion y sefydliad yn gywir nid yn unig achosi problemau wrth gofrestru'r sefydliad, ond gall arwain at anawsterau wrth asesu budd cyhoeddus y sefydliad.

Yn achos elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd, dylai fod yn glir pa grefydd sy'n cael ei hyrwyddo a phwy mae amcanion y sefydliad yn bwriadu cynnig budd iddynt a sut.

Dyma rai enghreifftiau o sut y gallai elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd fynegi'r amcanion hynny yn eu cymal amcanion. Nid yw hon yn rhestr gyflawn:

  • "Hyrwyddo [nodwch sail y ffydd] [ffydd] [crefydd] er budd y cyhoedd yn unol â'r [datganiadau o gred sy'n ymddangos yn yr atodlen] [yr athrawiaethau canlynol: ...]
  • "Hyrwyddo'r grefydd [nodwch sail y ffydd] yn bennaf, ond nid y grefydd honno yn unig, trwy gyfrwng darlledu [nodwch sail y ffydd] negeseuon o natur efengylaidd ac addysgu."
  • "Hyrwyddo'r grefydd [nodwch sail y ffydd] yn [nodwch yr ardal budd] ar gyfer budd y cyhoedd trwy gynnal cyfarfodydd gweddi, darlithoedd [dathliad cyhoeddus o wyliau crefyddol] gan gynhyrchu a/neu ddosbarthu llenyddiaeth ar [nodwch y ffydd] i oleuo eraill am y grefydd [nodwch sail y ffydd]."

Newid amcanion: os yw elusen yn adolygu ei hamcanion ac o'r farn bod angen eu diweddaru er mwyn adlewyrchu'n gywir yr hyn a wna, gallwn gynghori ar hyn. Byddwn yn ystyried yr hyn y mae'r elusen yn ei wneud a'r ffordd orau y gellir adlewyrchu hyn yn ei chymal amcanion mewn ffordd sy'n unol â'r gyfraith elusennau.

C6. All elusen gael amcanion sy'n wleidyddol?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

Er mwyn bod yn elusen rhaid i sefydliad gael ei ffurfio ar gyfer amcanion elusennol yn unig, sydd er budd y cyhoedd. Ni all elusen fodoli ar gyfer nod gwleidyddol, sef unrhyw nod sy'n ceisio hyrwyddo buddiannau unrhyw blaid wleidyddol, neu ddiogelu neu wrthwynebu newid yn y gyfraith, polisi neu benderfyniadau naill ai yng Nghymru neu Loegr neu mewn gwledydd eraill. Ni fydd sefydliad yn elusennol os yw ei amcanion yn wleidyddol.

Gall ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol fod yn weithgareddau cyfreithlon a gwerthfawr i elusennau ymgymryd â nhw. Gall elusennau ymgyrchu am newid yn y gyfraith, polisi neu benderfyniadau pe byddai newid o'r fath yn cefnogi amcanion yr elusen. Hefyd, gall elusennau ymgyrchu i sicrhau bod cyfreithiau presennol yn cael eu dilyn.

Fodd bynnag, gall elusen ymwneud ag ymgyrchu gwleidyddol, neu weithgaredd gwleidyddol dim ond yng nghyd-destun cefnogi cyflawni ei hamcanion elusennol. Yn wahanol i fathau eraill o ymgyrchu, ni all fod yn weithgaredd parhaus neu'n unig weithgaredd yr elusen.

Mewn rhai achosion, ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol fydd y ffordd orau i ymddiriedolwyr gefnogi gwaith yr elusen o hyrwyddo amcanion crefyddol. Gall elusen ddewis canolbwyntio'r rhan fwyaf, neu ei holl adnoddau ar weithgareddau gwleidyddol am gyfnod.

Y prif fater i ymddiriedolwyr elusen ei ystyried yw sicrhau nad yw'r gweithgaredd hwn, ac nid yw'r gweithgaredd hwn yn troi'n rheswm dros fodolaeth yr elusen.

Ni ellir ffurfio sefydliad gyda'r nod o alw am newidiadau yn y gyfraith oherwydd ei ddehongliad o gredoau crefyddol. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn nod gwleidyddol ac felly ni fyddai'n elusennol.

Ni ellir defnyddio crefydd fel ffordd o hyrwyddo safbwynt gwleidyddol y mae rhywun crefyddol yn digwydd ei arddel.

Am wybodaeth bellach gweler ein canllaw ar wahân Dweud eich Dweud: Ymgyrchu a Gweithgareddau Gwleidyddol gan Elusennau (CC9)

C7. Beth yw effaith y Ddeddf Elusennau ar elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd sydd wedi'u heithrio ar hyn o bryd o'r gofyniad i gofrestru?

Mae rhai elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd sydd wedi'u heithrio ar hyn o bryd o'r gofyniad i gofrestru fel elusen. Mae newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Elusennau yn golygu na fydd yr eithriad hwnnw yn parhau mwyach ac felly bydd yn ofynnol i'r elusennau hynny gofrestru, yn dechrau ym mis Mawrth 2009. I gychwyn, dim ond elusennau a eithrir gydag incwm blynyddol o £100,000 neu fwy fydd yn rhaid cofrestru. Nid oes rhaid i'r rhai o dan y trothwy £100,000 gofrestru ar hyn o bryd, ond maent yn parhau i fod yn ddarostyngedig i'n hawdurdod rheoleiddio.

Mae'r trothwy £100,000 hwn yn lefel dros dro a gall gael ei gostwng yn y dyfodol yn dilyn adolygiad o'r Ddeddf Elusennau. Cynhelir adolygiad o'r Ddeddf Elusennau bum mlynedd ar ôl ei gweithredu. Mae rhan o'r broses gofrestru yn cynnwys dangos y bydd y gofyniad budd cyhoeddus yn cael ei fodloni. Fodd bynnag, ar gyfer sawl math o elusen, mae dogfennau llywodraethol cymeradwy a threfniadau arbennig ar gyfer cofrestru (gan gynnwys yr angen i ddangos budd cyhoeddus) yn cael eu cytuno gyda chyrff mantell i symleiddio'r broses hon. Gweler ein gwefan o dan 'Cofrestru Elusen' am fanylion pellach.

Ch. Budd cyhoeddus - Egwyddor 1: Rhaid bod budd neu fuddion adnabyddadwy

Mae'r adran hon yn ganllaw budd cyhoeddus atodol sy'n ffurfio rhan o'n canllaw statudol ar fudd cyhoeddus.

Ch1. Cwestiynau allweddol i ymddiriedolwyr elusen

Mae Elusennau a Budd Cyhoeddus yn nodi'r pwyntiau pwysig canlynol i'w hystyried wrth benderfynu a yw amcanion sefydliad yn bodloni egwyddor 'budd' y gofyniad budd cyhoeddus.

Egwyddor 1a Rhaid bod yn glir beth yw'r buddion

Egwyddor 1b Rhaid i'r buddion fod yn gysylltiedig â'r amcanion

Egwyddor 1c Rhaid pwyso a mesur buddion yn erbyn unrhyw anfantais neu niwed.

Mae adran E8 Elusennau a Budd Cyhoeddus yn codi nifer o gwestiynau y gall fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwr elusen eu gofyn fel ffordd o hunanasesu agwedd 'budd' ar fudd cyhoeddus eu helusen, a darparu gwybodaeth a fydd yn helpu i asesu a yw amcanion sefydliad er budd cyhoeddus neu beidio.

Mae'r canllaw yn yr adran hon yn seiliedig ar y cwestiynau hynny. Mae'n nodi rhai pethau allweddol i ymddiriedolwyr elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd eu hystyried wrth ateb pob un o'r cwestiynau.

Asesu budd cyhoeddus: nid yw'n berthnasol at ddibenion y gyfraith elusennau a oes modd profi bod sylwedd yr athrawiaethau crefyddol yn 'gywir'. Mae'r gyfraith yn niwtral rhwng crefyddau gwahanol. Fodd bynnag, mater o farn yw penderfynu a yw amcanion sefydliad crefyddol er budd y cyhoedd neu beidio. Rhaid i ni benderfynu (fel y byddai'n rhaid i'r Tribiwnlys Elusennau neu'r Llysoedd) a oes budd cyhoeddus ar sail y dystiolaeth a'r ffeithiau sydd gennym.

Ch2. Pa fuddion sy'n deillio o amcanion eich sefydliad?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

(Mae'r cwestiwn hwn yn ymwneud ag egwyddorion budd cyhoeddus 1a a 1b)

Er mwyn cael ei gydnabod fel sefydliad elusennol, rhaid i bob sefydliad sy'n hyrwyddo crefydd allu dangos bod fframwaith moesol neu foesegol sy'n cael ei hybu gan y grefydd.

Yn y gyfraith elusennau, bodolaeth fframwaith moesol neu foesegol adnabyddadwy, cadarnhaol a buddiol sy'n cael ei hybu gan grefydd sy'n dangos bod modd i'r grefydd gael effaith ar gymdeithas mewn ffordd fuddiol.

I nifer o ddilynwyr neu ymlynwyr, y budd mwyaf arwyddocaol y gallent ei adnabod yw'r ystyr y mae'r grefydd honno yn ei roi i'w bywydau a'r ffordd y mae'n cyfrannu at eu lles ysbrydol. Mae'n helpu i ddatblygu eu hysbrydolrwydd (gan gynnwys cryfhau eu perthynas â'u bod neu endid mawr) yn ogystal â darparu fframwaith moesol neu foesegol i'w ddilyn. I rai mae'r fframwaith moesol neu foesegol hwn yn cynnig manteision i'r gymdeithas ehangach, yn ogystal â chysur, solas a theimlad o bwrpas unigol.

Yn yr un modd â dibenion elusennol eraill, os nad yw'n bosibl dangos budd, ni all y gyfraith ystyried hyn wrth asesu budd cyhoeddus. Dylai'r buddion i'r cyhoedd allu cael eu cydnabod, eu hadnabod, eu diffinio neu eu disgrifio ond nid yw hynny'n golygu bod rhaid iddynt allu cael eu meintioli. Gall buddion y gellir eu meintioli a'u mesur fod yn haws eu hadnabod, ond mae buddion nad oes modd eu meintioli yn cael eu hystyried hefyd, ar yr amod ei bod yn glir beth yw'r buddion. Gall y buddion gael eu profi'n gorfforol neu beidio. Sylweddolwn yn achos elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd nid yw rhai o'r buddion yn ddiriaethol a gall fod yn anodd eu hadnabod. Fodd bynnag, nid yw hynny i ddweud y byddai asesiad budd cyhoeddus yn ystyried buddion diriaethol, ymarferol yn unig.

Nid yw'n bosibl cynhyrchu rhestr gyflawn o'r gwahanol fathau o fuddion y gallai elusen sy'n hyrwyddo crefydd eu dangos.

Fodd bynnag, yn ogystal â darparu fframwaith moesol neu foesegol, os oes digon o dystiolaeth o fudd i gymdeithas, mae'r canlynol yn enghreifftiau o sut y mae gan hyrwyddo crefydd y potensial i fod er budd y cyhoedd:

  • darparu llefydd cysegredig, eglwysi a gwasanaethau addoli;
  • darparu defodau a seremonïau cyhoeddus;
  • cyfrannu at addysg ysbrydol a moesol plant;
  • cyfrannu at gymdeithas well, er enghraifft trwy hybu cydlyniant cymdeithasol a chyfalaf cymdeithasol;
  • ymgymryd, fel mynegiant ymarferol o gredoau crefyddol, weithgareddau eraill (megis hyrwyddo addysg neu ddatrys gwrthdaro, neu leddfu tlodi), a allai fod yn elusennol hefyd;
  • cyfrannu at iechyd meddwl a chorfforol da dilynwyr neu ymlynwyr; cynorthwyo i atal salwch, cyflymu gwellhad a meithrin tawelwch yn wyneb salwch;
  • darparu cysur i'r rhai sydd mewn profedigaeth;
  • gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Nid oes rhaid i elusen sy'n hyrwyddo crefydd ddangos pob un o'r mathau o fudd a restrir uchod. Gall fod yn ddigonol i ddangos un budd yn unig.

Ch3. Oes unrhyw anfantais neu niwed a allai, yn eich barn chi, godi drwy gyflawni amcanion eich sefydliad? Ydych chi'n ymwybodol o unrhyw farn gyffredin ymysg eraill y gallai anfantais neu niwed o'r fath godi?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

(Mae'r cwestiynau hyn yn ymwneud ag egwyddor budd cyhoeddus 1c).

Wrth asesu budd cyhoeddus amcanion sefydliad, mae'n rhaid i ni hefyd ystyried unrhyw anfantais neu niwed a allai godi wrth i'r sefydliad gyflawni ei hamcanion. Yn yr un modd ag asesu budd, oni bai ei fod yn glir, rhaid bod tystiolaeth wrthrychol a gwybodus o anfantais neu niwed; ni ellir ei honni yn unig.

Yn Elusennau a Budd Cyhoeddus nodwyd yr enghreifftiau canlynol o bethau a allai achosi anfantais neu niwed:

  • rhywbeth sy'n niweidiol i'r amgylchedd;
  • rhywbeth sy'n beryglus neu'n niweidiol i iechyd meddwl neu gorfforol;
  • rhywbeth sy'n annog neu'n hybu trosedd neu gasineb tuag at eraill; a
  • chyfyngu ar ryddid rhywun yn anghyfreithlon.

Dywedwyd hefyd na all unrhyw sefydliad sydd ag amcanion anghyfreithlon fod yn elusen.

Yr angen am dystiolaeth: fel elusennau eraill, rhaid bod modd dangos budd cyhoeddus felly rhaid bod modd dangos anfantais neu niwed os yw'n fater i'w ystyried. Wrth asesu budd cyhoeddus elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd, byddwn yn ystyried unrhyw dystiolaeth o effeithiau anfanteisiol neu niweidiol arwyddocaol sy'n deillio wrth i'r sefydliad hwnnw gyflawni ei amcanion mewn amgylchiadau arbennig.

Nid yw anghytundeb cyffredinol â chredoau, gweithgaredd neu arferion crefydd arbennig yn cyfrif fel tystiolaeth bod anfantais neu niwed yn bodoli. Bydd budd cyhoeddus sefydliad yn cael ei effeithio dim ond os oes tystiolaeth o anfantais neu niwed arwyddocaol sy'n codi o'r hyn y mae'r sefydliad yn cynnig ei wneud, neu'n ei arfer, sy'n drech na'r buddion a ddaw wrth i'r sefydliad gyflawni ei amcanion.

Mewn rhai achosion gallai anfantais neu niwed godi nid o bryderon cyffredinol ynghylch natur y grefydd, ond yn hytrach camddefnyddio athrawiaethau crefyddol yn sgîl camddehongli, camddefnyddio neu wyrdroi rhai o'r hanesion a/neu athrawiaethau a dysgeidiaethau'r grefydd. Mewn achosion eraill, gallai anfantais neu niwed godi o ganlyniad i'r ffordd y mae crefydd arbennig yn cael ei harfer. Mewn achosion o'r fath, er mwyn i amcanion y sefydliad fod er budd cyhoeddus, byddai'n rhaid i ni fodloni'n hunain naill ai:

  • bod y buddion yn drech nag unrhyw anfantais neu niwed posibl; neu
  • fod tystiolaeth o fudd cyhoeddus hybu'r arfer neu'r athrawiaeth arbennig.

Arferion anghyfreithlon: yn y rhan fwyaf o achosion os yw arfer neu weithgaredd arbennig yn creu anfantais neu niwed arwyddocaol, mae'n debygol o fod yn anghyfreithiol. Os mai dyma yw'r achos, bydd yn amlwg nad yw gweithgareddau o'r fath yn elusennol er budd y cyhoedd.

Er enghraifft, mae'r Ddeddf Casineb Hiliol a Chrefyddol 2006 yn gwahardd defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol i ysgogi casineb yn erbyn grwpiau o bobl ar sail eu crefydd.

Arferion cyfreithlon: fodd bynnag, nid yw anfantais neu niwed yn fater syml o benderfynu a yw rhywbeth yn anghyfreithlon neu beidio. Gall fod achosion pan fydd tystiolaeth i ddangos, er nad yw'n anghyfreithlon, bod anfantais neu niwed arwyddocaol yn codi o'r ffordd y mae sefydliad arbennig yn hyrwyddo crefydd. Fel pob un o'n penderfyniadau ar fudd cyhoeddus, byddwn yn ystyried effaith hyn ar fudd cyhoeddus sefydliad yn seiliedig ar y dystiolaeth wrthrychol a gwybodus sydd ar gael gan ystyried holl amgylchiadau'r achos.

I weld enghreifftiau pellach o'r hyn a allai gael ei ystyried yn anfantais neu niwed gweler Atodiad C.

D. Budd Cyhoeddus - Egwyddor 2: Rhaid darparu budd i'r cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd

Mae'r adran hon yn ganllaw budd cyhoeddus atodol sy'n ffurfio rhan o'n canllaw statudol ar fudd cyhoeddus.

D1. Cwestiynau allweddol i ymddiriedolwyr elusen

Mae Elusennau a Budd Cyhoeddus yn nodi'r pwyntiau pwysig canlynol i'w hystyried wrth benderfynu a yw amcanion sefydliad yn bodloni egwyddor 'cyhoeddus' y gofyniad budd cyhoeddus.

Egwyddor 2a Rhaid i'r buddiolwyr fod yn briodol i'r amcanion

Egwyddor 2b Os cynigir budd i ran o'r cyhoedd, rhaid i'r cyfle i roi budd beidio â chael ei gyfyngu'n afresymol:

  • gan gyfyngiadau daearyddol neu gyfyngiadau eraill; neu
  • gan allu i dalu unrhyw ffioedd a godir

Egwyddor 2c Ni ellir eithrio pobl dlawd o'r cyfle i gael budd

Egwyddor 2ch Rhaid i unrhyw fudd preifat fod yn atodol

Mae adran E8 Elusennau a Budd Cyhoeddus yn gofyn nifer o gwestiynau a allai fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwr elusen eu hystyried fel ffordd o hunanasesu agwedd 'cyhoeddus' ar fudd cyhoeddus eu helusen, ac mae'n rhoi gwybodaeth a fydd yn helpu i asesu a yw amcanion sefydliad er budd y cyhoedd neu beidio.

Mae'r canllaw yn yr adran hon yn seiliedig ar y cwestiynau hyn. Mae'n nodi rhai pethau allweddol i ymddiriedolwyr elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd eu hystyried wrth ateb pob un o'r cwestiynau.

D2. Pwy mae amcanion eich sefydliad yn bwriadu cynnig budd iddynt?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

(Mae'r cwestiwn hwn yn ymwneud ag egwyddor budd cyhoeddus 2a).

Erbyn hyn mae nifer o sefydliadau wedi'i ffurfio i hyrwyddo crefydd (ac mae nifer o draddodiadau crefyddol amrywiol yn ein cymdeithas, a gall hyrwyddo pob un ohonynt fod yn elusennol yn ôl y gyfraith). Mae'n rhaid i bob un ohonynt, er mwyn cael eu cydnabod fel elusen, ddangos bod eu hamcanion er budd y cyhoedd; ni fyddai'n ddigonol i unrhyw sefydliad o'r fath ddangos ei fod wedi'i ffurfio er budd dilynwyr neu ymlynwyr y grefydd yn unig.

Mae ystyried pwy y mae amcanion sefydliad sy'n hyrwyddo crefydd yn bwriadu cynnig budd iddynt yn bennaf, yn bwysig wrth asesu a yw'r sefydliad yn cynnig budd i'r cyhoedd neu ran o'r cyhoedd. Yn achos elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd, fel rheol ystyrir mai'r dilynwyr neu'r ymlynwyr yw'r buddiolwyr, yr eglwys ehangach a'r cyhoedd yn gyffredinol, neu, yn achos urdd grefyddol elusennol, y buddiolwyr yw aelodau'r urdd a'r cyhoedd. Mewn rhai achosion, gall y 'cyhoedd yn gyffredinol' gael budd trwy iddynt allu cymryd rhan yn nefodau a gwasanaethau'r grefydd neu drwy, er enghraifft, dderbyn gweithred elusennol gan ddilynwr neu ymlynwr fel rhan o arfer eu cred grefyddol.

Mewn perthynas ag elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd, gallai budd cyhoeddus gael ei fodloni os yw'r credoau a'r arferion crefyddol, fel y'u hadlewyrchir yn athrawiaethau'r grefydd arbennig, yn annog ei dilynwyr neu ymlynwyr i ymddwyn mewn ffordd sy'n gymdeithasol gyfrifol yn y gymuned ehangach.

Mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn elwa pan fydd y gwerthoedd a ddelir ac a fynegir gan y grefydd yn cael eu gweithredu mewn ffordd sy'n arwain at les moesol neu ysbrydol neu wella cymdeithas.

Byddai'r budd i'r cyhoedd yn gyffredinol yn cael ei ddangos wrth i'r dilynwyr neu'r ymlynwyr weithredu ar y gwerthoedd hyn a gallai hefyd gynnwys, er enghraifft, cymryd camau cadarnhaol i helpu eraill mewn cymdeithas, megis ymweld â phobl sydd mewn trallod, yn sâl neu'n marw, neu ddarparu bwyd a lloches i'r digartref.

D3. Os yw'r budd i ran o'r cyhoedd, sut mae'r buddiolwyr yn cael eu diffinio neu ba gyfyngiadau sydd ar bwy all gael y cyfle i gael budd?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

(Mae'r cwestiwn hwn yn ymwneud ag egwyddorion budd cyhoeddus 2b a 2c).

Ni fyddai budd cyhoeddus yn cael ei ddangos os yw arferion y grefydd yn rhai preifat yn y bôn neu wedi'u cyfyngu i ddosbarth preifat o unigolion sydd heb ymestyn i'r cyhoedd yn gyffredinol.

Os na ddarperir budd i'r cyhoedd yn gyffredinol, gellir ei ddarparu i 'ran o'r cyhoedd' os yw cyfyngu'r budd yn y ffordd honno yn rhesymol ac yn berthnasol i amcanion elusennol y sefydliad. Ni all cyfyngiadau fod yn fympwyol a rhaid bod modd eu cyfiawnhau; bydd budd cyhoeddus yn cael ei effeithio os yw'r cyfyngiadau yn afresymol.

Gall cyfyngiad ar bwy all gael cyfle i gael budd fod yn rhesymol:

  • os yw'r dosbarth o bobl a all gael budd yn ddigon eang neu agored ei natur (yn wyneb yr amcanion elusennol sydd i'w cyflawni a'r adnoddau sydd ar gael i'r elusen) ac felly'n cael ei ystyried yn rhan ddigonol o'r cyhoedd; neu
  • mae angen elusennol arbennig gan y dosbarth o bobl y mae'r amcanion yn bwriadau cynnig budd iddynt sy'n cyfiawnhau cyfyngu'r buddion iddynt;
  • os oes cyfyngiadau ar y dosbarth o bobl a all fod yn ddilynwyr neu'n ymlynwyr y grefydd ond mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn elwa o ymddygiad cadarnhaol y dilynwyr neu'r ymlynwyr a hybir trwy athrawiaethau'r grefydd honno.

Er enghraifft, mae'n dderbyniol i elusen sy'n hyrwyddo Iddewiaeth i gyfyngu ei gweithgareddau i bobl o fewn y gymuned Iddewig oherwydd y buddion a ddaw i'r cyhoedd yn gyffredinol wrth i aelodau'r gymuned arfer y credoau crefyddol hynny. Yn yr un modd, derbynnir o fewn y grefydd Iddewig bod rhai cyfyngiadau, megis astudio'r Torah neu'r testunau Iddewig sydd, yn ôl eu natur, wedi'u targedu ar ddynion, nid menywod. Fodd bynnag, gall menywod sy'n dymuno astudio'r rhain wneud hynny ar wahân.

Dylai elusennau ddarparu cymaint o fudd â phosibl yn ôl eu hamgylchiadau arbennig.

Er enghraifft, os mai un o amcanion elusen a ffurfiwyd i hyrwyddo addysg yw cynnig cymorth, byddai'n naturiol y gallai argaeledd adnoddau bennu'n rhesymol unrhyw gyfyngiadau ar bwy all gael budd o'r cymorth hwnnw.

Gall nifer y bobl sy'n wirioneddol gael budd gan elusen sy'n hyrwyddo crefydd fod yn weddol fach ar yr amod bod y cyfle i gael budd ar gael i ran ddigonol o'r cyhoedd.

Er enghraifft, efallai fod cynulleidfa ffigur sengl gan gapel a leolir mewn ardal wledig, heb fawr o boblogaeth oherwydd ei leoliad anghysbell. Ar yr amod bod y gwasanaethau yn y capel yn cael eu cynnig i bawb sy'n dymuno mynychu, ni fyddai'r nifer fach hwn yn effeithio ar fudd cyhoeddus.

  • All elusen sy'n darparu lle addoli gyfyngu ar fynediad?

Mae'n rhesymol i elusen sy'n hyrwyddo crefydd ac yn darparu lle addoli i gyfyngu mynediad i ddilynwyr neu ymlynwyr y grefydd honno, ar yr amod bod y diffiniad o bwy all fod yn ddilynwr neu'n ymlynwr yn ddigon agored.

Hefyd mae'n rhesymol wrth gynnal seremonïau personol, megis seremonïau enwi, priodasau ac angladdau, i fynediad i'r lle addoli ar yr adegau hynny gael ei gyfyngu i bobl sy'n cymryd rhan yn y seremonïau hynny.

Nid ydym yn disgwyl i le addoli elusennol fod yn agored trwy'r amser. Mae'n amlwg yn rhesymol i le addoli gael ei gloi pan nad yw'n cael ei ddefnyddio a gall pryderon am ddiogelwch a/neu gamdriniaeth hiliol neu grefyddol olygu nad oes modd i'r lle addoli gael ei adael heb unrhyw un yn bresennol dim ond er mwyn i aelodau'r cyhoedd allu cael mynediad i'r adeilad pan ddymunant i fyfyrio'n dawel. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod y lle addoli yn ddigon hygyrch i'r cyhoedd gael budd, byddem yn disgwyl i ddarpariaeth ddigonol gael ei gwneud i hysbysu pobl pryd y gallant gael mynediad i'r adeilad - rhybudd amlwg y tu allan i'r adeilad er enghraifft.

Gall fod achosion pan fydd mynediad i'r lle addoli mor gyfyngedig, a'r tu hwnt i'r hyn sy'n rhesymol, fel y gallai'r budd preifat fod yn drech nag unrhyw fudd cyhoeddus.

Er enghraifft, ni fyddai lle addoli sydd dim ond yn cynnal seremonïau preifat a dim addoli cyhoeddus yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.

  • All elusen sy'n hyrwyddo crefydd ei gwneud hi'n ofynnol i'w dilynwyr neu ymlynwyr gydymffurfio â rhai normau o ran ymddygiad?

Gall elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd ei gwneud hi'n ofynnol i'w dilynwyr neu ymlynwyr gydymffurfio â'r normau ymddygiad crefyddol a hybir gan y grefydd honno. Fodd bynnag, os yw gwneud hynny yn golygu torri'r gyfraith, neu os oes tystiolaeth bod anfantais neu niwed yn codi, bydd hyn yn effeithio ar fudd cyhoeddus (gweler adran Ch3 uchod).

Mae sefydliadau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd yn cael eu hannog i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch y safbwyntiau a gyflwynir gan y sefydliad a allai, yng nghyd-destun seciwlar, gael eu hystyried yn wahaniaethol. Nid yw hyn i ddweud na all y safbwyntiau hyn gael eu harddel, ond dylai elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd fod yn agored ynghylch eu safbwyntiau er mwyn i aelodau'r cyhoedd allu gwneud dewis gwybodus i fynychu neu gefnogi sefydliadau sy'n arddel y safbwyntiau hynny neu beidio.

D4. Ydy unrhyw un yn cael unrhyw fudd preifat o'ch sefydliad, heblaw fel buddiolwr? Os ydynt, pa fuddion ydyn nhw'n eu cael? Ydy'r buddion hynny yn atodol?

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

(Mae'r cwestiwn hwn yn ymwneud ag egwyddor budd cyhoeddus 2ch).

Yn y canllaw hwn, mae budd preifat yn fudd y mae unigolyn neu sefydliad yn ei gael heblaw fel buddiolwr elusen.

Gall buddion preifat amrywio o daliadau untro am wasanaethau, fel paentio adeilad elusen, i drefniadau dan gontract ar gyfer gwasanaethau parhaus i gyflawni neu gefnogi nod elusen. Er mwyn bod yn elusennol, rhaid i drefniadau o'r fath fod yn atodol i gyflawni amcanion yr elusen neu ddigwydd o ganlyniad angenrheidiol i gyflawni'r amcanion. Am ganllawiau pellach ar hyn gweler adran Dd12 Elusennau a Budd Cyhoeddus.

Bydd unrhyw fudd preifat yn codi fel arfer mewn modd angenrheidiol ond atodol wrth i'r sefydliad hybu ei nod o hyrwyddo crefydd, neu o ganlyniad i wneud hynny. Yn y ddau achos, rhaid i'r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain, ar sail resymol, fod y gweithgaredd sy'n creu'r budd preifat yn ffordd effeithiol o hyrwyddo nod eu helusen, sef hyrwyddo crefydd.

Buddion i arweinwyr crefyddol: rhaid i unrhyw fuddion a roddir i arweinwyr crefyddol fod yn rhesymol a rhaid i'r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain eu bod yn angenrheidiol er mwyn gweinyddu'r elusen yn briodol.

Er enghraifft, mae'n amlwg bod buddion darparu ficerdy i offeiriad neu weinidog Eglwys Loegr yn angenrheidiol ac yn atodol.

Byddem yn archwilio unrhyw dystiolaeth o fudd preifat a roddir i arweinwyr crefyddol sy'n fwy na budd sy'n gyfreithlon atodol. Os mai diben sefydliad yw gwella cyfoeth arweinydd neu arweinwyr crefydd, ni fyddai hynny'n elusennol.

Mae enghreifftiau o'r mathau o fuddion preifat a roddir i arweinwyr crefyddol a allai godi yn cynnwys:

  • talu cynhaliaeth, llety a chostau byw eraill;
  • rhoi tâl am eu gwasanaethau;
  • gwella enw da personol yr arweinydd neu enw da eu gweinidogaeth;
  • mwy o incwm o werthu nwyddau, megis fideos, llyfrau a thapiau y mae gan yr arweinydd fudd ynddynt; neu
  • gynnydd yng ngwerth eu hawliau eiddo deallusol cysylltiedig neu dalu rhoddion personol eraill i'r arweinydd.

Gall y mathau hyn o fuddion fod yn atodol neu beidio yn dibynnu ar lefel y budd sy'n codi.

Urddau crefyddol caeedig: rhaid i amcanion elusen fod er budd y cyhoedd, nid yn unig er budd preifat. Felly, nid yw cael cred grefyddol, neu fod yn rhywun crefyddol yn hyrwyddo crefydd er budd y cyhoedd. Am y rheswm hwn mae'r Llysoedd wedi penderfynu nad yw urddau crefyddol caeedig nad ydynt yn rhoi cyfle i'r gymuned gyfan gael budd mewn ffordd y gellir ei dangos yn elusennol.

Buddion i aelodau cymuned grefyddol: mae rhai urddau crefyddol elusennol yn parhau i ofalu am aelodau oedrannus yr urdd trwy, er enghraifft, ddarparu llety a phensiwn. Fel arfer, bydd yr aelodau hynny wedi rhoi'r gorau i eiddo pan fyddant yn ymuno â'r sefydliad. Buont yn ymwneud â gwaith elusennol amrywiol ar y sail y byddai eu hanghenion rhesymol a chymedrol yn cael eu bodloni. Nid yw bodloni'r anghenion parhaus hynny ar ôl iddynt ymddeol yn ddim mwy na gweithrediad cyfreithlon o'r ddealltwriaeth y cafodd gwaith elusennol ei gyflawni yn y lle cyntaf. Byddem yn ystyried y buddion preifat i'r aelodau hynny o'r urdd sydd wedi ymddeol yn gyfreithlon atodol. Gall gofalu am y rhai sydd mewn angen gael ei wneud fel rhan o nod crefyddol elusennol y sefydliad hefyd.

Fodd bynnag, mewn achosion eraill, gallwn benderfynu bod y buddion i aelodau cymuned grefyddol yn fwy na buddion atodol.

Er enghraifft, mae sefydliad a ffurfiwyd i hyrwyddo crefydd yn gweithredu fel cymuned grefyddol ac mae nifer fach o'r aelodau a'r ymddiriedolwyr yn cael budd personol arwyddocaol o'r eiddo ysblennydd y maent yn byw ynddo, wedi'i gyllido gan eu gweithgareddau masnachu, sydd wedi'u cydblethu'n helaeth â gweithredu cwmni masnachol. Byddai'r buddion yma yn fwy na buddion atodol oherwydd mae'r gweithgaredd elusennol ar ei isaf posibl ac mae'r budd preifat helaeth a ddaw i aelodau'r gymuned grefyddol yn drech nag unrhyw fudd cyhoeddus.

Budd preifat heb fod yn atodol:

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o'r mathau o fudd preifat heb fod yn atodol a allai godi mewn elusennau y mae eu hamcanion yn cynnwys hyrwyddo crefydd:

  • talu costau gormodol yr arweinwyr crefyddol a'u teuluoedd weithiau gan gynnwys:
    • cyflog hael iawn;
    • llety (y tu hwnt i'r hwn sy'n cyfateb â'r angen);
    • teithio (gan gynnwys dull teithio, ee jet preifat);
    • codi statws sylfaenydd crefydd (ac o bosib ei deulu hefyd) gan gynnwys hunan-hyrwyddo a phŵer;
  • hybu dysgeidiaethau arweinydd crefyddol sy'n parhau'n fyw gan gynnwys teithiau llyfrau, seminarau, derbyn breindaliadau o gyhoeddiadau;
  • cymunedau crefyddol, er enghraifft os, yn ogystal â llety am ddim, yw costau ar raddfa hael iawn yn cael eu rhoi ac weithiau cynigir cyflogaeth â thâl hefyd;
  • cynnal a chadw capeli preifat nad oes gan y cyhoedd hawl mynediad iddynt;
  • dweud offeren breifat neu gynnal a chadw bedd arbennig.
  • All elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd godi tâl am y gwasanaethau a'r cyfleusterau y maent yn eu darparu?

Bydd nifer o elusennau sy'n hyrwyddo crefydd yn gofyn i'w dilynwyr wneud taliadau rheolaidd i'r sefydliad (yn aml trwy'r cynllun Rhodd Cymorth), weithiau'n seiliedig yn gymesur ar eu hincwm.

Mae hon yn arfer hen-sefydledig a gall fod yn wirfoddol neu'n orfodol. Os yw lefel y tâl yn un sy'n golygu na all pobl sy'n byw mewn tlodi gael at y gwasanaethau a'r cyfleusterau a gynigir gan y sefydliad, gellir cwestiynau ei fudd cyhoeddus. Os yw cyfraniad ariannol yn cael ei ddefnyddio yn ymarferol (os nad yn swyddogol) fel ffordd o gyfyngu ar bwy all ymuno neu gael budd, er enghraifft, os oes unrhyw bwysau, cudd neu fel arall, yn cael eu dwyn ar y dilynwr neu'r ymlynwr i dalu waeth beth fo'u gallu i wneud hynny, gallai hyn godi amheuon ynghylch budd cyhoeddus amcanion y sefydliad.

Mae enghreifftiau o'r mathau o wasanaethau y gallai fod yn rhesymol i elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd godi tâl amdanynt yn cynnwys:

  • seremonïau, megis seremoni enwi, priodasau neu angladdau;
  • addysg ac addysgu;
  • gweddïo ar yr ymadawedig;
  • cynghori, gan gynnwys cynghori ar briodas;
  • encil;
  • allfwriadau;
  • pererindodau, Hajj;
  • defnyddio eiddo;
  • arteffactau neu emwaith crefyddol;
  • deunydd ysgrifennu crefyddol, ee cardiau Nadolig neu Diwali;
  • y cyfryngau:
  • llyfrau;
  • cylchgronau;
  • DVD a CD (ee, perfformiadau côr).

Pobl sy'n byw mewn tlodi: maent yn ddosbarth buddiol elusennol ac felly gall buddion gael eu cyfyngu iddynt. Fodd bynnag, ni allant gael eu heithrio rhag cael budd dim ond oherwydd na allant fforddio talu unrhyw ffïoedd a godir. Rhaid bod rhyw ffordd faterol arall, sy'n gysylltiedig ag amcanion yr elusen, iddynt gael y cyfle i gael budd. Nid yw hynny i ddweud bod rhaid i bobl sy'n byw mewn tlodi gael budd; y cyfle i gael budd yw'r hyn sydd dan sylw, nid mwynhau'r budd ei hun.

Yn yr un modd, os yw iachau trwy ffydd yn rhan o'r grefydd, os codir tâl am yr iachau, a fyddai'n eithrio pobl sy'n byw mewn tlodi rhag cael budd o'r iachau, dylai rhyw ffordd arall o'u galluogi i gael budd gael ei darparu.

Nid yw pob elusen y mae eu hamcanion yn cynnwys hyrwyddo crefydd yn codi tâl am eu gwasanaethau, a bydd rhai yn gadael y dewis o dâl gydag aelodau'r cyhoedd. Os yw taliadau'n cael eu codi, gall cyfraddau rhatach fod yn gymwys yn aml.

Cyrsiau astudio: os yw daliadau'r grefydd ar gael fel cwrs astudio yn unig ac mae'r cwrs hwnnw ar gael am dâl yn unig, bydd angen i ni ystyried i ba raddau y mae datblygiad ysbrydol y dilynwr neu'r ymlynwr yn dibynnu ar ei allu i dalu. Hefyd bydd angen i ni ystyried i ba raddau y gallai'r costau hynny eithrio pobl sy'n byw mewn tlodi. Gweler hefyd ein canllaw ar wahân Budd Cyhoeddus a Chodi Ffïoedd.

Dd. Adrodd ar fudd cyhoeddus

Mae'r adran hon yn ganllaw budd cyhoeddus atodol sy'n ffurfio rhan o'n canllaw statudol ar fudd cyhoeddus.

Dd1. Dyletswyddau ymddiriedolwyr i adrodd ar fudd cyhoeddus

Symbol yn dangos gofyniad cyfreithiol

Mae dyletswydd newydd ar ymddiriedolwyr elusen i adrodd ar fudd cyhoeddus eu helusen yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr. Mae'r rhan fwyaf o elusennau eisoes yn esbonio eu gweithgareddau yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr. Erbyn hyn mae'n rhaid rhoi'r wybodaeth hon yng nghyd-destun amcanion yr elusen i ddangos sut mae'r amcanion wedi cael eu cyflawni'n ymarferol er budd y cyhoedd.

Bydd rhaid penderfynu a yw'r elusen yn uwch neu'n is na'r trothwy archwilio er mwyn pennu lefel y manylion y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr eu rhoi.

Ar gyfer elusennau llai, sy'n is na'r trothwy archwilio, erbyn hyn mae'n rhaid i ymddiriedolwyr gynnwys crynodeb byr yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o'r prif weithgareddau a wnaed gan esbonio sut y mae'r rhain wedi hyrwyddo amcanion yr elusen er budd y cyhoedd. Hefyd dylai'r crynodeb gadarnhau bod yr ymddiriedolwyr wedi ystyried ein canllawiau budd cyhoeddus, pan fo'n berthnasol. Wrth gwrs, gall ymddiriedolwyr roi datganiadau budd cyhoeddus helaethach os dymunant.

Ar gyfer elusennau mwy, sy'n uwch na'r trothwy archwilio, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr roi esboniad llawnach yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o'r gweithgareddau arwyddocaol a wnaed i gyflawni amcanion yr elusen er budd y cyhoedd, yn ogystal â'u hamcanion a'u strategaethau. Mae'n rhaid iddynt esbonio llwyddiannau'r elusen, wedi'u mesur trwy gyfeirio at amcanion yr elusen a'r nod a osodwyd gan yr ymddiriedolwyr. Yr ymddiriedolwyr elusen sy'n penderfynu faint o fanylion yr hoffent eu rhoi i ddangos yn eglur beth mae eu helusen wedi'i wneud yn y flwyddyn dan sylw i fodloni'r gofyniad; ni fydd y Comisiwn yn pennu nifer y geiriau neu'r tudalennau sydd eu hangen. Ond byddai elusen sydd heb ddweud unrhyw beth am fudd cyhoeddus yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr, neu sydd wedi cynnwys datganiad byr iawn yn unig heb unrhyw fanylion, yn gweithredu'n groes i'r gofyniad i adrodd ar fudd cyhoeddus.

Enghreifftiau ac ystadegau: gall yr ymddiriedolwyr ddisgrifio yn eu hadroddiad beth oedd y prif fuddion i'w buddiolwyr trwy ddefnyddio enghreifftiau ac, os yw'n briodol, wybodaeth ystadegol sy'n esbonio sut y cafodd y grefydd ei hyrwyddo er budd y cyhoedd.

Rhoi grantiau i sefydliadau eraill: mae'n ofynnol i ymddiriedolwyr elusen adrodd ar sut mae eu helusen wedi bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Nid yw'n ofynnol i ymddiriedolwyr elusennau sy'n rhoi grantiau sefydlu a yw elusennau sy'n derbyn y grantiau yn cydymffurfio â'r gofyniad budd cyhoeddus. Mater i ymddiriedolwyr yr elusen sy'n derbyn y grant fyddai hynny.

E. Asesu budd cyhoeddus

E1. Beth yw ein rôl o ran elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd?

Y Comisiwn Elusennau yw cofrestrydd a rheolydd elusennau, gan gynnwys elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd. Nid ydym yn rheolydd crefydd ei hun ac ni allwn lunio barn oddrychol neu werth ynghylch gwirionedd neu werth crefydd neu gredoau crefyddol.

Ein rôl fel cofrestrydd a rheolydd yw sicrhau bod amcanion elusennol gan elusennau cofrestredig sydd er budd y cyhoedd. Nid bwriad y gofyniad budd cyhoeddus yw gwahardd unrhyw gredoau neu arferion crefyddol arbennig; yn hytrach mae'n ceisio pennu a yw sefydliad arbennig gydag amcanion sy'n hyrwyddo crefydd yn gymwys i fod yn elusen.

E2. Sut byddwn yn asesu budd cyhoeddus elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd?

Byddwn yn asesu a yw amcanion pob sefydliad sy'n gwneud cais i gofrestru fel elusen er budd y cyhoedd ac a yw elusennau sydd eisoes wedi'u cofrestru yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Gwnawn hyn trwy gynnal astudiaethau ymchwil sy'n ystyried i ba raddau y mae mathau gwahanol o elusennau yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, a thrwy gydweithio â chynrychiolwyr cyrff proffesiynol a chyrff mantell a chyda defnyddwyr yr elusennau hynny.

Asesiadau manwl o sefydliadau unigol: mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd angen i ni asesu elusennau unigol yn fanwl. Yn yr achosion hynny, byddwn yn gofyn i bob sefydliad unigol ddangos y bydd ei amcanion, a'r hyn y mae'n ei wneud i gyflawni'r amcanion hynny, er budd y cyhoedd. Os yw'n briodol, byddwn yn gweithio gyda chyrff mantell a chenedlaethol i gynorthwyo eu haelodau yn hyn o beth.

Os oes angen gwneud newidiadau: mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd rhaid gwneud newidiadau i sefydliad er mwyn ei alluogi i fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Os oes angen gwneud hyn, byddwn yn cynghori'r ymddiriedolwyr pam ein bod o'r farn nad yw'n bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, gan roi rhesymau clir a chyngor ar yr hyn sy'n digwydd nesaf os nad yw'n bosibl i'r sefydliad fodloni'r gofyniad.

Ni ddisgwylir i unrhyw elusen wneud newidiadau dros nos a byddwn yn ystyried faint o amser ac adnoddau a allai fod eu hangen ar elusen sy'n gorfod gwneud newidiadau er mwyn bodloni'r gofyniad.

Tor-ymddiriedaeth: gall tor-ymddiriedaeth godi pan fydd ymddiriedolwyr yn gweithredu y tu allan i'w dyletswyddau neu eu pwerau, gan gynnwys defnyddio eiddo eu helusen ac adnoddau eraill ar gyfer rhywbeth sydd heb ei gynnwys o fewn amcanion yr elusen. Os ydym o'r farn y gallai ymddiriedolwyr, yn anfwriadol neu fel arall, fod yn cyflawni tor-ymddiriedaeth byddwn yn gofyn i'r ymddiriedolwyr newid y ffordd y maent yn cyflawni amcanion eu helusen er mwyn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Felly, yn y canllaw hwn, os nodwn y gellid gofyn i ymddiriedolwyr, mewn rhai achosion, ddangos cyswllt rhwng y gweithgareddau ac amcanion eu helusen, neu esbonio pam eu bod yn cyflawni amcanion eu helusen mewn ffordd arbennig, gallai fod angen gwneud hyn naill ai i ddangos eu bod yn cyflawni amcanion eu helusen er budd y cyhoedd neu i ddangos nad ydynt yn cyflawni tor-ymddiriedaeth.

Anghytuno â'n penderfyniadau: os ydym yn gwneud penderfyniad ynghylch budd cyhoeddus sy'n effeithio ar statws elusennol elusen, neu a yw'r ffordd y mae'n gweithredu er budd y cyhoedd, gall yr elusen, neu unrhyw un a effeithir gan ein penderfyniad, sy'n anghytuno â'r camau rheoleiddio a gymerwn, geisio adolygiad o'r penderfyniad hwnnw trwy ddefnyddio ein gweithdrefnau adolygu penderfyniadau mewnol. Os yw'n angenrheidiol yn eu barn nhw, gallant wneud apêl bellach i'r Tribiwnlys Elusennau neu'r Llysoedd.

Fodd bynnag, trwy gydweithio'n adeiladol ag ymddiriedolwyr elusen ac ymgynghori'n helaeth â'r cyhoedd ar ein canllawiau budd cyhoeddus, rhagwelwn y byddai achosion o'r fath yn anghyffredin.

Am fanylion pellach gweler adran F Elusennau a Budd Cyhoeddus.

E3. Beth fyddwn yn ei ystyried wrth asesu budd cyhoeddus?

Y rhagdybiaeth bod budd cyhoeddus: nid oes unrhyw ragdybiaeth mwyach o fudd cyhoeddus ar gyfer elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd. Rydym o dan ddyletswydd statudol i ystyried amcanion penodol sefydliad ac asesu a yw'r ffordd y mae'n cyflawni'r amcanion hynny yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.

Asesu budd cyhoeddus sefydliadau sy'n hyrwyddo addysg: os ydym ni (neu'r Tribiwnlys Elusennau neu'r Llysoedd) wedi cydnabod bod crefydd arbennig yn bodloni diffiniad y gyfraith elusennol o grefydd, ac mae credoau, daliadau ac arferion ganddi a all fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus, ni fydd rhaid i bob sefydliad newydd sy'n hyrwyddo'r grefydd honno ddangos ei bod yn bodloni'r diffiniad hwnnw.

Fodd bynnag, bydd rhaid i bob sefydliad unigol ddangos y bydd ei amcanion, a'r hyn y mae'n ei wneud i gyflawni'r amcanion hynny, er budd y cyhoedd. Os yw'n briodol, byddwn yn gweithio gyda chyrff mantell a chyrff cenedlaethol (crefyddol) i gynorthwyo eu haelodau yn hyn o beth.

Er enghraifft, er bod credoau, daliadau ac arferion Cristnogaeth yn bodloni diffiniad y gyfraith elusennau o grefydd ac yn gallu cael eu hyrwyddo er budd y cyhoedd, ni fyddai urdd Gristnogol gaeedig, nad yw'n rhyngweithio â'r gymuned ehangach, yn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus. Rhan sylfaenol o'r gofyniad budd cyhoeddus yw bod rhaid i'r buddion a adnabyddir fod ar gael yn ddigonol neu'n ddigon hygyrch i'r cyhoedd. Felly os yw arferion y sefydliad sy'n hyrwyddo crefydd yn breifat neu wedi'u cyfyngu yn eu hanfod i grŵp preifat o unigolion, ni fyddai'r gofyniad hwn yn cael ei fodloni.

Rhaid i'r buddion fod yn gysylltiedig â'r amcanion: dim ond y buddion hynny sy'n codi o ganlyniad i elusen yn cyflawni ei hamcanion elusennol sy'n cael eu hystyried wrth asesu budd cyhoeddus. Cydnabyddir y gall fod amcanion eang iawn gan elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd a gallai fod gorgyffwrdd ag amcanion elusennol eraill megis hyrwyddo addysg neu atal neu leddfu tlodi. Os yw elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd yn cyflawni amcanion eraill o'r fath fel gwir fynegiant o'r grefydd honno, nid oes angen cynnwys y gweithgareddau hyn fel amcanion ar wahân.

Fodd bynnag, gallai fod achosion lle mae buddion sy'n codi o'r hyn y mae sefydliad sy'n hyrwyddo addysg yn ei wneud heb fod yn gysylltiedig â'i hamcanion.

Er enghraifft, gallai eglwys gadw cofnodion hanesyddol ar enedigaethau, marwolaethau a phriodasau o fewn y plwyf yn cwmpasu sawl can mlynedd sydd ar gael i'r cyhoedd eu gweld a/neu eu hastudio.

Enghraifft arall yw Canolfannau Hanes Teulu'r Mormoniaid sy'n helpu aelodau i adnabod eu cyndadau a darparu ordinhadau teml iddynt. Mae Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf yn credu bod teuluoedd yn gallu cael eu huno fel gwŷr a gwragedd, lle gall priodasau barhau trwy gydol bywyd ac ar ôl marwolaeth, ac fel rhieni a phlant lle gall plant gael eu 'selio' i'w rhieni er mwyn i'r berthynas barhau ar ôl marwolaeth. Mae aelodau'r Eglwys yn chwilio am wybodaeth am eu cyndadau er mwyn iddynt allu perfformio'r priodasau a'r 'seliau' ar eu rhan.

Os oes cofnodion gan elusen sy'n hyrwyddo crefydd, ac mae'r cofnodion ar gael i'r cyhoedd eu gweld, gallai'r ymddiriedolwyr ddymuno mabwysiadu ail amcan, sy'n cwmpasu cynnal a chadw cofnodion yr eglwys er budd y cyhoedd er mwyn sicrhau bod y budd hefyd wedi'i gynnwys mewn asesiad budd cyhoeddus o amcanion yr elusen.

Amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd cyfredol: Mae adran Ch6 Elusennau a Budd Cyhoeddus yn cadarnhau y bydd ein hymagwedd at benderfyniadau am yr hyn sy'n elusennol, a'r hyn sydd neu'r hyn nad yw er budd i'r cyhoedd, yn parhau i gael ei lywio gan yr hyn sy'n berthnasol ac yn briodol i amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd y dydd. Bu hyn yn rhan o ymagwedd gydnabyddedig y Comisiwn Elusennau a'r Llysoedd ers tro. Ond nid oes gennym ni na'r Llysoedd y cylch gorchwyl (neu'r awydd) i newid neu geisio moderneiddio credoau crefyddol traddodiadol. Datgenir hyn yn benodol yn Elusennau a Budd Cyhoeddus. Nid yw'n berthnasol wrth asesu budd cyhoeddus a allai rhai ystyried bod rhai credoau crefyddol hir-sefydledig yn gredoau sy'n groes i safbwyntiau nifer o bobl eraill mewn cymdeithas. Yr hyn sy'n bwysig yw bod modd dangos bod amcanion sefydliad, a'r ffordd y mae'n cyflawni'r amcanion hynny, er budd y cyhoedd.

Budd cyhoeddus: fel y nodwyd yn Elusennau a Budd Cyhoeddus, nid yw statws elusennol yn cael ei benderfynu ar sail barn gyhoeddus. Fodd bynnag, byddem yn ystyried barn gyhoeddus os oes pryderon cyhoeddus gwrthrychol a gwybodus, neu dystiolaeth bod credoau neu arferion sefydliad sy'n hyrwyddo crefydd yn achosi anfantais neu niwed.

Cydnabyddwn y gall fod gwahaniaeth barn mewn sawl maes, gan gynnwys crefydd. Nid yw'r ffaith nad yw rhai aelodau o gymdeithas yn cytuno â chredoau crefyddol arbennig, neu nid ydynt yn cefnogi arferion crefyddol arbennig, yn golygu na fydd amcanion sefydliad sy'n hyrwyddo'r grefydd dan sylw er budd y cyhoedd.

Ni fydd honiadau heb dystiolaeth sy'n bwriadu achosi trafferth i sefydliad oherwydd anghydweld â safbwyntiau neu farn sefydliad yn cael eu hystyried. Byddai'n rhaid i bob honiad o anfantais neu niwed gael ei gyfiawnhau'n llwyr.

Safbwyntiau moesol anghyson: weithiau bydd safbwyntiau moesol sefydliadau yn gwrthdaro ond mae'n bosibl i bob un fod yn elusennol er budd y cyhoedd. Gall y budd cyhoeddus ym mhob achos gael ei ddangos am resymau gwahanol.

Atodiad A: Nodweddion crefydd

Wrth ystyried a yw system gred yn cyfrif fel crefydd at ddibenion y gyfraith elusennau, mae'r Llysoedd wedi adnabod rhai nodweddion sy'n disgrifio cred grefyddol. Gellir eu crynhoi fel a ganlyn:

  • mae'r system gred yn cynnwys cred yn nuw (neu dduwiau) neu dduwies (neu dduwiesau), neu fod mawr, neu fod neu endid dwyfol neu drosgynnol neu egwyddor ysbrydol, sy'n wrthrych neu'n ffocws y grefydd (y cyfeirir ato yn y canllaw hwn fel 'bod neu endid mawr ');
  • mae'r system gred yn cynnwys perthynas rhwng y crediniwr a'r bod neu'r endid mawr trwy addoli, neu ddangos parch neu ddwysbarch at y bod neu'r endid mawr;
  • mae gan y system gred raddfa o effeithiolrwydd, cydlyniad, difrifoldeb a phwysigrwydd;
  • mae'r system gred yn hybu fframwaith moesol neu foesegol cadarnhaol, buddiol adnabyddadwy.

Crefyddau nad ydynt yn cynnwys cred yn nuw: mae'r Ddeddf Elusennau yn datgan bod 'crefydd' yn cynnwys 'crefydd nad yw'n cynnwys cred yn nuw'. Nid yw rhai crefyddau yn cynnwys credu mewn rhyw fod neu endid dwyfol neu drosgynnol neu egwyddor ysbrydol ond nid ydynt yn parchu bod neu endid mawr fel 'duw' o reidrwydd. Mae'r 'bodau, endidau neu egwyddorion' hyn yn enghreifftiau o gyflwr ysbrydol y mae dilynwyr neu ymlynwyr y grefydd yn anelu ato.

Er enghraifft, mewn Bwdhaeth mae'r termau 'bod neu endid mawr' yn amhriodol. Er bod duwiau mewn Bwdhaeth, nid oedd ymdrechion cynharach i ddwyfoli'r Bwda wedi cydio. Mae Bwdhaeth yn grefydd 'realeiddio' nid 'datgelu' ac mae Bwdhyddion yn credu y dylent ddilyn llwybr a osodwyd gan y Bwda sy'n gallu arwain yn y pen draw at ddeffroad ysbrydol dwys a'r heddwch yn y galon a brofwyd gan y Bwda.

Addoli: os yw dilynwyr neu ymlynwyr yn cymryd rhan mewn gweithredoedd neu arferion sy'n mynegi eu cred yn y bod neu'r endid mawr trwy ddangos parch, neu ddwysbarch at y bod neu'r endid, gelwir hyn yn 'addoli' yn aml, ond bydd crefyddau gwahanol yn defnyddio cysyniadau eraill. Pa bynnag terminoleg a ddefnyddir, yr hyn sy'n bwysig yw bod gan y berthynas rai neu bob un o'r nodweddion canlynol, sef parch dwys, gwrogaeth, addoliad, defosiwn, ymgymeriad, ymostyngiad, gweddïo a myfyrio.

Mae'r berthynas hon â'r bod neu'r endid mawr yn ysbrydol ei natur fel arfer, wedi'i nodweddu gan deimladau o gyswllt neu undod gyda grym neu bŵer sy'n fwy na'r hunan, sydd ar wahân i'r hunan ond a all fodoli o fewn yr hunan. Y teimlad hwn o gyswllt neu undod yw'r hyn y mae dilynwyr neu ymlynwyr yn ei ystyried yn sanctaidd ac a berchir. Gallai hefyd blannu teimladau o hunanwerth mewn dilynwyr neu ymlynwyr a allai ysgogi neu gael eu mynegi trwy ansawdd y bywyd y maent yn ei arwain ac mewn gweithgaredd ystyrlon a phwrpasol, yn enwedig gweithgareddau sy'n cynnwys helpu eraill ac sy'n ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.

Er enghraifft, mewn Jainiaeth, er bod cred mewn bod neu endid mawr, nid yw'r dilynwyr neu'r ymlynwyr yn cysylltu â'r bod neu'r endid mawr. Yn hytrach, mae'r bod neu'r endid mawr yn gwasanaethu fel ysbrydoliaeth i ddilynwyr neu ymlynwyr i fyw bywydau gwell.

Effeithiolrwydd, cydlyniad, difrifoldeb a phwysigrwydd: at ddibenion y gyfraith elusennau, rhaid i grefydd fod yn system gred ddifrifol o sylwedd neu arwyddocâd, sy'n gallu cynnig budd i gymdeithas, meddu ar lefel arbennig o effeithiolrwydd, cydlyniad, difrifoldeb a phwysigrwydd, yn wahanol i sefydliad hunan-hyrwyddo a sefydlwyd i hybu un neu ddau unigolyn, neu system ddibwys a sefydlwyd am resymau gwamal.

Mae hyn yn cyd-fynd â'r diffiniad o 'gred' mewn cyfraith achosion y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol sydd wedi diffinio 'credoau' fel "mwy na dim ond safbwyntiau neu deimladau dwfn" sy'n cynnwys "arddel argyhoeddiadau ysbrydol neu athronyddol sydd â chynnwys ffurfiol adnabyddadwy".

Atodiad B: Enghreifftiau pellach o sut y gallai elusennau hyrwyddo crefydd er budd y cyhoedd.

Mae'r Llysoedd wedi derbyn amryw o ffyrdd y gallai elusennau hyrwyddo crefydd trwy geisio dilynwyr neu ymlynwyr newydd a/neu drwy annog a hwyluso arfer crefydd trwy ddilynwyr neu ymlynwyr presennol, neu drwy hybu'r grefydd yn gyffredinol.

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos y gwahanol ffyrdd y gall elusennau hyrwyddo crefydd:

  • Chwilio am ddilynwyr neu ymlynwyr newydd

Defnyddir cenhadu (ceisio troi rhywun at y ffydd neu'r grefydd) gan nifer o elusennau sy'n hyrwyddo crefydd fel dull sefydledig a derbyniol o ddenu dilynwyr neu ymlynwyr newydd. Mewn rhai crefyddau mae cenhadu yn cael ei ystyried yn rhan hanfodol o waith allgymorth y grefydd.

Er enghraifft, mae efengylu yn rhan ganolog o grefydd Cristnogion.

Yn y rhan fwyaf o achosion, cenhadir mewn modd sensitif a heb orfodaeth ac nid yw'n cyflwyno unrhyw anawsterau o ran budd cyhoeddus.

Fodd bynnag, mae amgylchiadau pan fydd y dull cenhadu, neu effeithiau'r cenhadu, yn gallu effeithio ar fudd cyhoeddus, megis os yw'n cynnwys:

  • rhoi pwysau amhriodol ar bobl sydd mewn gofid neu angen; neu
  • weithgareddau sy'n golygu defnyddio trais neu bwylltreisio; neu
  • weithgareddau sy'n cynnig manteision materol neu gymdeithasol gyda'r nod o gael aelodau newydd i'r grefydd.
  • Annog a hwyluso arferion y grefydd gan ddilynwyr neu ymlynwyr presennol

Mae enghreifftiau o hyrwyddo crefydd trwy annog a hwyluso arferion crefyddol gan ddilynwyr neu ymlynwyr presennol yn cynnwys:

  • Llefydd addoli, gan gynnwys:
  • darparu a chynnal a chadw adeilad a ddefnyddir ar gyfer arferion crefyddol (gan gynnwys eglwysi, gurdwaras, mosgiau, synagogau, a themlau; mae hefyd yn cynnwys tai cwrdd, neuaddau cyfagos ac ystafelloedd cyfarfod a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau cysylltiedig, ee hyfforddiant crefyddol i blant);
  • cynnal seremonïau crefyddol, ee seremonïau enwi, neu ddathlu priodasau neu angladdau;
  • cynnal a chadw mynwentydd cyhoeddus a llefydd claddu crefyddol cyhoeddus eraill;
  • dweud yr offeren sy'n agored i'r cyhoedd.
  • dweud gweddïau arbennig flwyddyn ar ôl marwolaeth rhywun;
  • darparu a chynnal a chadw arteffactau ac eitemau crefyddol neu ddefosiynol a ddefnyddir mewn gwasanaethau, defodau neu arferion crefyddol;
  • darparu a chynnal a chadw ffenestri gwydr lliw crefyddol a gweithiau celf crefyddol eraill o fewn llefydd addoli;
  • 'hyrwyddo goddefol', sef adeiladau crefyddol sydd ar agor i'r cyhoedd fynd iddynt ac elwa ar fyfyrio ysbrydol personol.
  • Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gredoau ac arferion crefyddol, gan gynnwys:
  • hyrwyddo dehongliad arbennig o athrawiaeth grefyddol, neu hyrwyddo daliadau crefyddol arbennig, ar yr amod nad yw'r yr elusen yn gwneud hynny er mwyn cyflawni diben gwleidyddol;
  • hyrwyddo cred mewn gwyrth neu wyrthiau arbennig - mae rhai credoau crefyddol yn cynnwys cred mewn 'gwyrthiau'. [Mae 'gwyrth' yn cael ei hystyried yn gyffredinol fel digwyddiad sy'n ymddangos petai'n anesboniadwy gan gyfreithiau natur ac felly'n cael ei ystyried yn oruwchnaturiol neu'n 'weithred Duw'. Ond mae gwahaniaeth rhwng hyrwyddo crefydd sy'n cynnwys cred mewn gwyrthiau ymysg ei ddaliadau, credoau ac arferion, a hyrwyddo cred mewn gwyrth arbennig, nid yn y cyd-destun hwnnw. Ni fyddai hyrwyddo cred mewn gwyrth neu wyrthiau arbennig, sydd heb eu cydnabod gan grefydd gymeradwy, neu na all hyrwyddo lles moesol neu ysbrydol y gymuned, yn elusennol ei hun];
  • cynhyrchu a hyrwyddo llyfrau, pamffledi a ffilmiau crefyddol a gwybodaeth arall i'r cyhoedd, gan gynnwys darparu canolfannau adnoddau a llyfrgelloedd crefyddol;
  • hyrwyddo astudio athrawiaethau, arferion ac ysgrythurau crefyddol;
  • hyrwyddo hanesion a/neu athrawiaethau crefyddol trwy gynhyrchu a pherfformio litwrgi cerddorol a theatrig;
  • darparu hyfforddiant a goruchwyliaeth grefyddol;
  • darparu neu gefnogi ysgolion a sefydliadau addysgol, gan gynnwys colegau hyfforddiant diwinyddol, sy'n darparu addysg yn unol ag egwyddorion ac arferion crefydd;
  • cefnogi deiliaid swydd crefyddol am weithredu felly, gan gynnwys darparu tâl offeiriad a lwfansau byw, pensiynau a llety ymddeol;
  • hybu gweddïo, addoli ac astudio.
  • Gweithredoedd defosiynol crefyddol, gan gynnwys:
  • ymweld â'r sâl;
  • eistedd gyda chorff person ymadawedig er mwyn iddo beidio â bod ar ei ben ei hun;
  • gweinyddu'r sacramentau i'r sâl a'r rhai sy'n marw.
  • Gwaith cenhadol ac allgymorth, gan gynnwys:
  • darparu caplaniaeth mewn carchar, ysbyty, prifysgol a chaplaniaeth ddiwydiannol;
  • ymweld â charchardai ac ysbytai;
  • annog a chefnogi gwaith bugeiliol;
  • gweithgareddau diwylliannol a chymunedol wedi'u darparu naill ai yn y lle addoli neu yn yr adeiladau cyfagos, megis darparu ceginau cymunedol am ddim mewn gurdwaras;
  • gwaith ar gyfer cymodi, dweud y gwir a heddwch;
  • datblygu dealltwriaeth o heddwch a hawliau dynol;
  • Cyfathrebu crefyddol, gan gynnwys:
  • pregethau a seminarau crefyddol, anerchiadau, cyfarfodydd a chynadleddau;
  • darllediadau crefyddol elusennol ar y teledu a'r radio;
  • darparu deunyddiau crefyddol trwy'r rhyngrwyd;
  • cyfathrebu ar y stryd ac o ddrws i ddrws.
  • Encil a phererindod, gan gynnwys:
  • darparu eiddo ar gyfer encil;
  • trefnu cynnal encil tymor byr neu dymor hir lle mae'r bobl sy'n mynychu yn dychwelyd i gymdeithas i arfer eu credoau;
  • trefnu pererindodau agored lle mae'r pererindod yn rhan o addoli cyhoeddus grŵp crefyddol cymeradwy ac mae pwrpas y bererindod yn fwy na defosiwn personol.
  • Hyrwyddo crefydd yn gyffredinol gan gynnwys:
  • elusennau a sefydlwyd yn gyffredinol at ddibenion crefyddol;
  • elusennau a sefydlwyd i gefnogi cymdeithasau a sefydliadau crefyddol;
  • elusennau a sefydlwyd i gefnogi mwy nag un grefydd neu enwad, megis Cristnogaeth Brotestannaidd;
  • elusennau eciwmenaidd a rhyng-ffydd.

Pa bynnag ffordd y bydd ymddiriedolwyr yn dewis hyrwyddo crefydd, rhaid bod yn glir bod y gweithgaredd yn cael ei gynnal fel mynegiant o hyrwyddo'r grefydd honno.

Cydnabyddwn i nifer o bobl, nid yw gwahaniaethu rhwng gwaith crefyddol a gwaith seciwlar yn hawdd, neu hyd yn oed yn bosibl, oherwydd mae gwaith seciwlar a/neu gymdeithasol yn y meysydd tebyg hyn yn rhoi'r grefydd ar waith mewn gwirionedd.

Fodd bynnag, mae gwahaniaeth rhwng rhywun crefyddol yn gwneud gwaith fel rhan o'i grefydd a rhywun sydd â chredoau crefyddol sy'n gwneud gwaith i hyrwyddo pwrpas seciwlar. Mae'n bwysig yn nhermau budd cyhoeddus i allu gwahaniaethu pam bod y gweithgaredd yn cael ei gynnal oherwydd gweithgareddau yw'r hyn y mae sefydliadau yn ei wneud er mwyn cyflawni eu hamcanion ac felly rhaid i'r gweithgareddau fod yn gysylltiedig â'r amcanion hynny.

Nid oes rhaid i elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd gyflawni gweithgareddau seciwlar yn ogystal â'u gweithgareddau crefyddol er mwyn bodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.

Er enghraifft, efallai mai unig nod elusen arbennig sy'n hyrwyddo crefydd yw darparu lle addoli i bawb sy'n dymuno mynychu. Ar yr amod nad yw mynediad wedi'i gyfyngu'n ormodol, gall gyflawni'r un gweithgaredd hwn fodloni'r gofyniad budd cyhoeddus.

Atodiad C: Enghreifftiau o beth allai gael ei ystyried yn anfantais neu niwed

Yn ein profiad ni fel y rheolydd elusennau, deuwn ar draws sefyllfaoedd lle y gallai gweithgareddau elusen sy'n hyrwyddo crefydd arwain at anfantais neu niwed o bosibl neu ddenu cyhuddiadau o anfantais neu niwed.

  • Elusennau sy'n cyflawni gweithgareddau'n rhyngwladol

Ni all unrhyw sefydliad gyda amcanion anghyfreithlon, neu sy'n twyllo neu'n camgyfleu ei amcanion yn fwriadol, ac felly'n ffug-sefydliad, fod yn elusen. Gan fod elusennau cymeradwy yng Nghymru a Lloegr yn ddarostyngedig i awdurdodaeth yr Uchel Lys, mae hyn yn golygu na all eu hamcanion fod yn anghyfreithlon o dan gyfraith Cymru a Lloegr.

Nid yw cyfraith Cymru a Lloegr yn gymwys yn fyd-eang a bydd cyfreithiau gwledydd eraill yn wahanol. Mae hyn yn golygu y gallai fod amcanion gan rai elusennau sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru a Lloegr, neu gallant gyflawni eu hamcanion mewn ffordd a all fod yn anghyfreithlon mewn gwlad arall.

Er enghraifft, dylai elusennau gydag amcanion sy'n cynnwys hyrwyddo crefydd ac sy'n dymuno cenhadu dramor fod yn ymwybodol y gall cenhadu, er ei fod yn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, fod yn anghyfreithlon mewn rhai gwledydd.

Yn gyffredinol os yw'n elusennol i wneud rhywbeth yng Nghymru a Lloegr, bydd hefyd yn elusennol os yw'n cael ei wneud mewn gwledydd eraill gan elusen sydd wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr. Yn yr un modd, os yw rhywbeth yn cael ei ystyried yn anfanteisiol neu'n niweidiol os yw'n cael ei gyflawni gan elusen yng Nghymru a Lloegr, bydd yn cael ei ystyried yn anfanteisiol neu'n niweidiol hefyd os yw'n cael ei gyflawni gan elusen sydd wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr.

Er enghraifft, gallai anfantais neu niwed godi lle y gallai gyflawni amcanion yr elusen mewn gwlad lle mae'n anghyfreithlon i wneud hynny:

  • olygu bod staff a gwirfoddolwyr yr elusen yn agored i niwed, gan gynnwys risgiau i'w diogelwch neu ryddid personol - er enghraifft os yw staff neu wirfoddolwyr yn agored i'r risg o gael eu harestio a'u carcharu (hyd yn oed os yw'r staff a'r gwirfoddolwyr yn dewis gweithio mewn ardaloedd o risg ac yn gwybod am y risgiau dan sylw); neu
  • gorddi gwrthdaro o fewn y wlad lle maent yn gweithio, gan beryglu o bosibl fywydau eu darpar fuddiolwyr - er enghraifft, lledaenu llenyddiaeth grefyddol mewn gwlad sy'n profi gwrthdaro crefyddol lle y byddai hynny'n dwysau'r gwrthdaro.

Yn ein canllaw ar wahân, Elusennau sy'n Gweithio'n Rhyngwladol, dywedwn: "Mewn achosion lle mae perygl y bydd gweithgaredd y mae ymddiriedolwyr yn ystyried ei gyflawni mewn gwlad dramor yn cael ei herio'n gyfreithiol yn lleol, dylai'r ymddiriedolwyr asesu graddfa'r risg y byddent yn ei wynebu ac i ba raddau y gellid dileu neu leihau'r risg hwnnw. Yn y sefyllfaoedd hyn, dylai'r ymddiriedolwyr ystyried yn ofalus iawn pa gamau fydd er lles gorau'r elusen gan ddefnyddio eu gwybodaeth o'r amgylchiadau lleol ac anghenion eu buddiolwyr. Byddai'n rhaid iddynt geisio cyngor cyfreithiol priodol a chyngor arall. Yn olaf dylent gydbwyso manteision cyflawni'r gweithgaredd hwnnw yn erbyn y peryglon a'r anfanteision, gan gynnwys y gost ddynol, ariannol ac enw da sy'n bosibl drwy wneud hynny."

  • Rhywbeth sy'n beryglus neu'n niweidiol i iechyd meddwl neu gorfforol

Os penderfyni'r bod gweithgaredd elusen yn beryglus neu'n niweidiol i iechyd meddwl neu gorfforol, a allai effeithio ar fudd cyhoeddus, rhaid cefnogi hyn gan farn feddygol annibynnol wrthrychol ac a gwybodus.

Enghraifft o'r math hwn o anfantais neu niwed yw gwrthod caniatáu triniaeth feddygol, neu gymryd meddyginiaethau, ar sail grefyddol. Mae'r cwestiwn o anfantais neu niwed yn yr achos hwn yn gwestiwn o ddewis personol.

Mae gwrthod triniaeth feddygol, ar sail feddygol, heb gydsyniad rhywun, neu i blant neu bobl eraill sy'n agored i niwed, yn faes dadleuol.

Byddem yn ystyried ffactorau fel:

  • a yw'r cydsyniad yn cael ei wrthod oherwydd byddai gweinyddu triniaeth o'r fath yn groes i agwedd sylfaenol ar y grefydd;
  • a yw gwrthod cydsyniad yn erbyn y gyfraith, neu wedi'i reoli gan y gyfraith mewn ffordd arall, er enghraifft gan y wladwriaeth yn cymryd y pŵer i gydsynio.

Cyn dod i unrhyw gasgliadau ynghylch a yw hyn yn effeithio ar fudd cyhoeddus amcanion sefydliad neu beidio, byddai angen i ni ystyried a yw unrhyw niwed posibl i iechyd meddwl neu gorfforol yn drech na'r buddiannau cyffredinol a ddaw wrth i bobl gael rhyddid i ddilyn eu crefydd.

Er na fydd arfer dewis personol ar gyfer triniaeth feddygol yn effeithio ar fudd cyhoeddus efallai, mae'r budd cyhoeddus yn fwy tebygol o fod yn fater i'w ystyried os yw sefydliad sy'n hyrwyddo crefydd yn ceisio annog aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol i beidio â cheisio triniaeth feddygol.

Gallai budd cyhoeddus gael ei gwestiynu hefyd os oes tystiolaeth i ddangos y gallai'r ffordd y mae sefydliad arbennig yn hyrwyddo crefydd niweidio iechyd meddwl rhywun, er enghraifft oherwydd y technegau a ddefnyddir.

Fodd bynnag, ni fyddem yn ystyried bod rhywbeth yn beryglus neu'n niweidiol os yw'r dewis i gymryd rhan yn cael ei wneud gan oedolyn sy'n rhoi ei gydsyniad llawn, ac mae modd cyfiawnhau'r arfer o beidio â chymryd meddyginiaeth neu gael triniaeth trwy ddysgeidiaethau'r grefydd.

Er enghraifft, yn achos Gwyddor Gristnogol (system iachau grefyddol heb fod yn feddygol sy'n dibynnu ar ddulliau ysbrydol trwy weddïo i fynd i'r afael â salwch, anafiadau a chyflyrau eraill) mae'r rheiny sy'n ei harfer yn rhydd i ddewis triniaeth feddygol neu unrhyw driniaethau eraill yn lle system iachau'r Wyddor Gristnogol.

  • Rhywbeth sy'n annog neu'n hybu bygythiadau o drosedd neu gasineb tuag at eraill

Ni fydd y gyfraith yn ystyried gwirionedd hanesion a/neu athrawiaethau crefyddol. Mae'r gyfraith elusennol yn cydnabod y gall rhai crefyddau siarad yn erbyn arferion neu ymddygiadau y mae eraill mewn cymdeithas yn credu eu bod yn dderbyniol neu'n gadarnhaol.

Fodd bynnag, bydd budd cyhoeddus yn cael ei effeithio yn achos unrhyw sefydliad sy'n hyrwyddo crefydd sy'n hybu casineb neu drosedd neu weithredoedd troseddol tuag at eraill.

Er enghraifft, os oedd pobl yn cenhadu mewn ffordd oedd yn bygwth trefn gyhoeddus neu ganlyniadau niweidiol eraill, byddai angen i ni asesu'r anfantais neu'r niwed ac a allai agweddau cadarnhaol y grefydd fod yn drech na'r negyddol neu'r niweidiol.

Maes anodd arall yw lle mae gan bobl safbwyntiau niweidiol arbennig am bobl eraill o gefndir ethnig neu grefyddol gwahanol. Un peth yw dal y safbwyntiau hyn ond mae'n beth arall i'w hybu lle y gallent achosi niwed. Mae'n fater o gydbwyso'r hawl i gael barn a'r cyfrifoldeb i barchu pawb mewn cymdeithas. Byddai angen i ni ystyried pa effaith y byddai hybu'r safbwyntiau hyn yn ei chael ar y gymuned a pha budd cyhoeddus fyddai'n deillio drwy hybu'r safbwyntiau hyn? A fyddai hybu'r safbwyntiau hyn yn achosi niwed i rai pobl yn y gymuned, er enghraifft?

  • Cyfyngu ar ryddid rhywun yn anghyfreithlon

Bydd rhai sefydliadau sy'n hyrwyddo crefydd yn annog eu dilynwyr neu ymlynwyr i fyw gyda'i gilydd mewn cymuned grefyddol. Ar yr amod bod aelodau'r gymuned yn rhydd i gael dewis personol ac yn rhydd i adael y gymuned heb berygl o g