Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Am y Gofrestr Elusennau


Mae'r Gofrestr Elusennau yn cynnwys manylion elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu ar gyfer elusennau o'r fath:

  • mae'r rhan fwyaf o'u hasedau yn cael eu dal yng Nghymru a/neu Loegr;
  • mae pob un neu'r mwyafrif o'u hymddiriedolwyr yn byw yng Nghymru a/neu Loegr fel rheol; neu
  • os yw'r elusen wedi'i sefydlu fel cwmni, mae wedi'i chorffori yng Nghymru neu Loegr.

Ar yr amod bod yr uchod yn gymwys, nid oes rhaid i’r elusen ymgymryd â'i gwaith yng Nghymru neu Loegr. Mae rhai mathau o elusennau hefyd nad yw'n ofynnol iddynt gofrestru. Cewch fanylion pellach am y rhain yn ein taflen CC21 Dechrau a Chofrestru Elusen neu drwy gysylltu ag unrhyw un o'n swyddfeydd.

Ein gwaith ni yw cofrestru sefydliadau sy'n elusennol yn ôl y gyfraith. Ceisiwn annog pobl sy'n bwriadu sefydlu elusen ystyried a ddylent uno ag elusen sy'n bodoli yn hytrach na chreu elusen newydd, ond ni allwn fynnu bod hyn yn digwydd. Mae cyfrifoldeb gennym i'r cyhoedd i sicrhau ein bod yn cofrestru sefydliadau sydd wedi'u ffurfio mewn ewyllys da yn unig i hybu amcanion elusennol ac nid unrhyw amcanion eraill.

Er mwyn penderfynu a yw sefydliad yn elusennol byddwn yn ystyried yr hyn y cafodd ei sefydlu i'w gyflawni (ei "hamcanion") a ddisgrifir yn ei "dogfen lywodraethol" ac, os oes angen, sut y bydd yn eu cyflawni. Os ydym yn fodlon bod yr amcanion yn elusennol yn unig, gan ddefnyddio egwyddorion cyfreithiol sy'n bodoli, fel rheol byddwn yn cofrestru'r sefydliad fel elusen ac yn rhoi rhif cofrestredig iddi. Ni chaniateir i rai elusennau gofrestru, ac mewn rhai achosion mae cofrestru yn ddewisol. I gael gwybodaeth bellach, edrychwch ar ein Harweiniad Gweithredol OG57 Elusennau sydd wedi'u Hesgusodi.

Ar ôl i sefydliad gael ei gofnodi ar y Gofrestr Elusennau byddwn yn parhau i fonitro ei weithgareddau trwy gyfrwng y ffurflenni blynyddol a chyfrifon y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusennau sydd ag incwm gros neu gyfanswm gwariant blynyddol o fwy na £10,000 eu hanfon atom. Mae pob elusen (ac eithrio'r rheiny na chaniateir iddynt gofrestru) yn ddarostyngedig i'n pwerau arolygu ac ymchwilio.

Mae'r wybodaeth ar y Gofrestr yn ddarn o'r hyn y mae'n rhaid i elusennau ei ddarparu yn gyfreithiol. Mae'n disgrifio'r hyn y sefydlwyd elusennau i'w gyflawni (eu "hamcanion") yn hytrach na'r hyn a wnânt i'w cyflawni.