Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Cofrestru Elusen

Gwybodaeth gynhwysfawr am gofrestru elusen newydd, gan gynnwys yr holl gyhoeddiadau a ffurflenni y bydd eu hangen arnoch cyn gwneud cais

O 1 Ebrill 2008 bydd yn ofynnol i ymddiriedolwyr sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru ystyried canllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn a dangos bod nodau eu sefydliad er budd cyhoeddus fel rhan o'r broses ymgeisio. Gweler ein canllawiau Budd Cyhoeddus am wybodaeth bellach.

Mae ein ffurflen gais a'n canllaw wedi cael eu diweddaru'n benodol i gynnwys y gofyniad hwn a byddant ar gael i'w defnyddio ar 1 Ebrill 2008. Bydd ceisiadau ar yr hen ffurflen yn cael eu derbyn dim ond tan 1 Mehefin 2008. Mae'n bosibl y caiff eich ffurflen gais ei dychwelyd atoch ar ôl y dyddiad hwnnw.

Gwybodaeth am elusennau nad oes hawl ganddynt gael rhif elusen gofrestredig

Pethau i'w hystyried cyn sefydlu elusen newydd

Cyn symud ymlaen, dilynwch y cyswllt hwn am gyngor ar y dewisiadau i'w hystyried.

Eich Dogfen Lywodraethol

Cyn y gallwch ddechrau gwneud cais i gofrestru bydd angen i chi gael dogfen lywodraethol addas. Dyma'ch llyfr rheolau ar gyfer y ffordd y byddwch yn gweithredu. Os nad ydych yn cael pethau'n iawn ar y dechrau byddwch yn mynd i drafferthion yn fuan. Gweler ein cyhoeddiad Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol.

Dogfennau Llywodraethol Cymeradwy

Gweld rhestr o Ddogfennau Llywodraethol Cymeradwy. Cânt eu cynhyrchu gan rai elusennau mawr a chyrff mantell. Os gallwch ddefnyddio Dogfen Lywodraethol Cymeradwy bydd yn haws ac yn gyflymach i'ch sefydliad gwblhau’r broses gofrestru.

Dogfennau Llywodraethol Enghreifftiol

Os nad yw unrhyw un o'r Dogfennau Llywodraethol Cymeradwy yn addas, neu ar gael i chi, gallwch ddechrau gydag un o'n dogfennau llywodraethol enghreifftiol. Gallwch argraffu'r un priodol a'i chwblhau â llaw.

Mae'r modelau yn darparu'r holl gymalau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer gweinyddu'r sefydliad. Os oes cymalau dewisol croeswch allan yn glir y rhai nad ydynt yn gymwys. Fel rheol bydd angen pob un o'r rhai sydd heb eu dangos fel cymalau dewisol.

Yn fwyaf pwysig bydd angen i chi ddarparu'r cymal amcan(ion). Rhaid iddo gael ei eirio mewn ffordd a fydd yn golygu ei fod yn gyfreithiol i'r sefydliad fod yn elusen.

Amcanion Enghreifftiol

Gall fod yn anodd i eirio'r cymal amcanion yn gywir. Rydym wedi rhoi rhai enghreifftiau i'ch helpu i gael pethau'n iawn. Cymal amcanion sydd wedi'i eirio'n anghywir yw'r achos mwyaf arwyddocaol o oedi, neu wrthod, cais.

Hyd yn oed os teimlwn fod yr hyn rydych yn ei wneud yn gallu bod yn elusennol, os nad yw'r cymal amcanion wedi'i eirio'n gywir, bydd rhaid i chi newid y ddogfen lywodraethol cyn y gallwn ystyried cofrestru'r sefydliad. Gall hyn olygu galw cyfarfod o'r ymddiriedolwyr a/neu'r aelodau i gytuno ar y newid. Mae'n llawer gwell i bawb dan sylw os ydych yn cael hyn yn gywir y tro cyntaf.

Amserlen cofrestru elusennau sydd wedi'u heithrio

Wrth baratoi ar gyfer gorchymyn cychwyn nesaf (5ed) Deddf Elusennau 2006, rydym wedi cytuno ar raglen ar gyfer cofrestru 4000 - 5000 o elusennau oedd wedi'u heithrio'n flaenorol.

Sefydlu cwmni i gymryd lle elusen sy'n bod

Mae manteision ac anfanteision i sefydlu cwmni i gymryd drosodd asedau elusen anghorfforedig sy'n bod. Dilynwch y cyswllt hwn am gyngor. Sylwer: nid oes ffurflen gais ar wahân mwyach ar gyfer cofrestru cwmni. Defnyddir yn un ffurflen ar gyfer pob cais i gofrestru.

Pecyn Cais Cofrestru

Dyma'r ffurflenni y bydd eu hangen arnoch.

Datganiadau CRB

Arweiniad ynghylch pryd mae angen i ni gael tystiolaeth ein bod ni wedi cael datgeliadau CRB.

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Bydd y llyfrynnau hyn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am

· yr hyn y mae'r gyfraith yn ei gydnabod fel diben elusennol;
· sut i fynd ati i sefydlu elusen; a'r
· hyn y mae angen i ymddiriedolwyr ei wybod a'i wneud.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau rydych yn eu gofyn am gofrestru elusen.