Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Gwyddwn y gall paratoi amcanion elusen fod yn anodd iawn i'w cael yn iawn, felly rydym wedi cynnig rhai amcanion elusennol enghreifftiol i'ch helpu.
"Amcanion" yw'r term a ddefnyddiwn i ddisgrifio ac adnabod i ba bwrpas y sefydlwyd yr elusen. Nid ydynt yn dweud beth fydd y sefydliad yn ei wneud o ddydd i ddydd.
Rhaid i amcanion elusen fod yn elusennol yn unig. Fel arfer cânt eu pennu mewn un cymal neu baragraff yn nogfen lywodraethol yr elusen. Os yw'r cymal amcanion yn caniatáu i sefydliad wneud rhywbeth nad yw'r gyfraith yn ei gydnabod yn elusennol, neu os yw'r geiriad yn aneglur, ni ystyrir bod y sefydliad yn elusen ac ni ellid ei gofrestru gyda ni.
Mae'r rhestr yn cynnwys amcanion enghreifftiol ar gyfer amrywiaeth o ddibenion elusennol. Os ydych yn sefydlu elusen, dylech ddarllen ein harweiniad CC21 Cofrestru fel Elusen a CC22 Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol. Efallai yr hoffech ddefnyddio un o'n dogfennau llywodraethol enghreifftiol. Nid yw ein dogfennau llywodraethol enghreifftiol yn cynnwys amcanion felly mae'n bosib y cewch hyd i ffurf addas o eiriau i ddisgrifio'r hyn y bydd eich elusen yn ei wneud yn y rhestr isod.
I'ch helpu i ddewis yr un mwyaf addas, rydym wedi cynnwys rhai gweithgareddau y byddem yn disgwyl i elusen sydd â'r amcanion hynny ymgymryd â hwy yn rheolaidd. Os yw'r gweithgareddau wedi'u nodi'n glir mewn man arall rydym wedi darparu cyswllt i'r cyhoeddiad perthnasol.
Os yw un o'n hamcanion enghreifftiol yn addas i'ch sefydliad, gallwch ei gopïo i'r rhan gywir yn eich dogfen lywodraethol. Er enghraifft, yn ein dogfennau llywodraethol enghreifftiol bydd hyn naill ai'n gymal 3 neu'n gymal C.
Os ydych wedi defnyddio un o'n hamcanion enghreifftiol heb eu newid, byddwn yn derbyn bod eich sefydliad wedi'i ffurfio ar gyfer dibenion elusennol ac ni fydd angen i ni drafod geiriau'r amcanion gyda chi. Bydd hyn yn cyflymu ein prosesau gwneud penderfyniad oherwydd bydd angen i ni ystyried y canlynol yn unig
Os ydych yn cyfuno amcan enghreifftiol gydag un o'n dogfennau llywodraethol enghreifftiol bydd hyn yn cyflymu'r broses ymhellach oherwydd ni fydd angen i ni ystyried y trefniadau gweinyddol sydd gennych i sicrhau bod yr elusen yn rhedeg yn ddidrafferth.