Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Er mwyn bod yn elusen mae'n rhaid i holl ddibenion sefydliad fod yn elusennol yn unig; ni all elusen gael rhai dibenion sy'n elusennol ac eraill sydd heb fod yn elusennol. Ystyr 'diben' yw nod cyffredinol elusen. Mae'n golygu'r hyn y mae elusen yn ceisio ei gyflawni o'r gwaith a wna. Fel arfer bydd dibenion elusen wedi'u nodi yn ei dogfen lywodraethol fel y 'cymal amcanion'.
Ar ein gwefan, fe welwch ganllawiau ar yr amrywiaeth o ddibenion sy'n elusennol yn ein Sylwadau ar y Disgrifiadau o Ddibenion Elusennol yn y Mesur Elusennau. Hefyd, fe welwch Amcanion Enghreifftiol sy'n addas i'w cynnwys yn nogfen lywodraethol elusen. Sylwch, nid ydym yn darparu rhestr derfynol o amcanion elusennol.
Hefyd mae'n rhaid i elusen gael ei sefydlu er 'budd cyhoeddus'.
'Budd cyhoeddus' yw'r gofyniad cyfreithiol sy'n mynnu bod pob sefydliad a ffurfiwyd ar gyfer un neu fwy o nodau elusennol yn gallu dangos bod ei nodau er budd y cyhoedd er mwyn iddo gael ei gydnabod, a'i gofrestru, fel elusen yng Nghymru a Lloegr.
Gelwir hyn 'y gofyniad budd cyhoeddus'.
Ein cyhoeddiad Elusennau a Budd Cyhoeddus yw ein canllawiau statudol ar fudd cyhoeddus. Rhaid i bob ymddiriedolwr elusen:
Gweler yr adran Budd Cyhoeddus ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.
Mae llawer o resymau da iawn pam y bydd pobl yn penderfynu sefydlu elusen newydd. Fodd bynnag, nid sefydlu elusen yw'r ffordd orau ymlaen bob amser, ac, mewn rhai achosion, efallai na fydd hyn yn bosibl yn gyfreithiol.
Yn dibynnu ar eich rheswm dros eisiau sefydlu elusen newydd a'r hyn rydych eisiau ei gyflawni, gall fod ffyrdd eraill, a gwell, o gyflawni eich nod yr hoffem i chi eu hystyried.
Felly cyn sefydlu elusen newydd awgrymwn eich bod yn darllen Pethau i'w hystyried cyn sefydlu elusen newydd.
Mae ein cyhoeddiad CC21: Cofrestru fel Elusen yn rhoi cyngor a chanllawiau cyffredinol ynghylch sefydlu elusen.
Rhaid i bob elusen gael dogfen lywodraethol. Mae 'dogfen lywodraethol' yn ddogfen ffurfiol sy'n sefydlu elusen. Mae ein cyhoeddiad CC22: Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol yn cynnig arweiniad ar hyn.
Os ydych yn sefydlu elusen, gallwch ddefnyddio un o'n Dogfennau Llywodraethol Enghreifftiol.
Hefyd, mae rhai elusennau mawr yn darparu Dogfennau Llywodraethol Cymeradwy y gall sefydliadau sy'n gysylltiedig â'r elusennau hynny eu defnyddio.
Mae Cofrestr Elusennau y Comisiwn yn gronfa ddata gyfrifiadurol sy'n cynnwys gwybodaeth allweddol am bob un o'r 190,000 a mwy o elusennau cofrestredig. Mae'r manylion yn cynnwys enw'r elusen, ei dibenion, ei hincwm blynyddol, pa fath o ddogfen lywodraethol sydd ganddi, ac enw a chyfeiriad cyswllt o fewn yr elusen.
Mae'r Gofrestr yn helpu'r cyhoedd i gael gwybodaeth am elusennau, er enghraifft, gweld a yw sefydliad sy'n codi arian wedi'i chofrestru, neu edrych ar gyfrifon elusen i weld sut y mae'n gwario ei harian.
Mae sefydliad sydd wedi'i gofnodi ar y Gofrestr Elusennau yn cael ei dderbyn fel elusen. Nid yw'r broses cofrestru yn rhoi statws elusennol; mae'n ei gydnabod.
Gallwch weld cronfa ddata'r Gofrestr ar wefan y Comisiwn o dan Cofrestr Elusennau.
Am dâl bach gallwch gael copïau papur o unrhyw bapurau cyhoeddus sydd gennym ar gyfer elusen. Mae'r rhain yn cynnwys ei dogfen lywodraethol, cyfrifon, neu adroddiadau blynyddol. Rydym yn gwerthu gwybodaeth swmpus o'r gofrestr hefyd. Cewch fanylion am wasanaethau'r Gofrestr Ganolog ar ein gwefan, neu drwy ffonio'r Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218. Y rhif ar gyfer galwyr sydd â nam ar y clyw a'r lleferydd sy'n defnyddio minicom yw: 0845 300 0219.
Mae dyletswydd ar sefydliad i wneud cais i gofrestru os nad yw'n elusen sydd wedi'i heithrio neu sydd wedi'i hesgusodi: AC
Fel arfer ni fyddwn yn derbyn ceisiadau i gofrestru gan sefydliadau arfaethedig. Am fanylion pellach gweler ein cyhoeddiad Cofrestru fel Elusen.
Nid yw cofrestru yn broses awtomatig. Mae diffiniad cyfreithiol o "elusen" yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn wedi'i gefnogi gan benderfyniadau a wnaed gan y llysoedd a'r Comisiwn Elusennau.
Roedd Deddf Elusennau 2006 yn cadarnhau diwedd y drefn a welai rhai grwpiau o elusennau yn cael eu heithrio o'r gofyniad i gofrestru. Bydd nifer o eglwysi yn cael eu heffeithio gan y newid hwn.
Cawsom wybod y bydd angen i'n heglwys gofrestru fel elusen cyn bo hir, ydy hynny'n wir?
Pan gaiff rhan berthnasol Deddf Elusennau 2006 ei gweithredu, bydd rhaid i eglwysi sydd wedi'u heithrio'n flaenorol o'r gofyniad i gofrestru wneud cais i gofrestru os yw eu hincwm yn fwy na £100,000 y flwyddyn.
Mae hyn yn gymwys i eglwysi sy'n perthyn i'r enwadau neu deuluoedd o eglwysi canlynol.
Cynghorau Plwyf Eglwysig Eglwys Loegr a'r Eglwys yng Nghymru
Eglwysi Methodistaidd, Eglwys Diwygiedig Unedig, Bedyddwyr, Annibynnol. Undodaidd, a Methodistiaid Calfinaidd neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Eglwysi sydd wedi'u cysylltu â Chymrodoriaeth yr Eglwysi Annibynnol ac Undeb Annibynwyr Cymru
Cyfarfodydd Ardal Cymdeithas y Cyfeillion (y Crynwyr)
Rydym yn Lle Addoli cofrestredig felly does dim rhaid i ni gofrestru fel elusen, nac oes?
Mae'n bosibl y bydd rhaid i chi gofrestru. Mae Deddf Elusennau 2006 wedi dileu'r eithriad o'r gofyniad i gofrestru fel elusen a roddwyd yn flaenorol i lefydd addoli cofrestredig.
Dylai eglwysi sy'n meddwl eu bod wedi'u cynnwys gan yr eithriad hwn sylwi mai'r adeilad yn unig yn ôl pob tebyg oedd wedi'i eithrio rhag y gofyniad i gofrestru fel elusen. Os oes gan yr eglwys sy'n defnyddio'r adeilad incwm o fwy na £5000 y flwyddyn mae'n bosibl y bydd dyletswydd ar arweinwyr yr eglwys i gofrestru fel elusen y cronfeydd gweithredol ac unrhyw eiddo ymddiriedolaeth arall.
Fodd bynnag, os yw'r eglwys yn perthyn i un o'r grŵp o eglwysi sydd wedi cael eu heithrio'n draddodiadol o'r gofyniad i gofrestru, bydd angen iddynt gofrestru:
Rydym yn eglwys sydd wedi'u heithrio ar hyn o bryd o'r gofyniad i gofrestru. Beth sy'n rhaid i ni wneud i baratoi ar gyfer cofrestru?
Mae'r Comisiwn Elusennau wrthi'n siarad â'r holl enwadau a chyrff mantell perthnasol. Rydym yn gwneud cynnydd da gyda'n gilydd o ran cytuno ar y ffordd ymlaen a fydd yn gwneud y broses mor ddidrafferth â phosibl.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych dylech eu cyfeirio at eich enwad neu gorff mantell ac nid i'r Comisiwn Elusennau.
Rwy'n aelod o Gyngor Plwyf Eglwysig a chefais wybod y bydd rhaid i ni gofrestru fel elusen cyn bo hir. Beth allwch chi ddweud wrtha i am hyn?
Mae Eglwys Loegr yn gweithio'n genedlaethol gyda'r Comisiwn Elusennau i wneud y broses gofrestru mor syml â phosibl i'r Cynghorau Plwyf Eglwysig hynny y bydd ofynnol iddynt gofrestru gyda'r Comisiwn yn ôl Deddf Elusennau 2006.
Bydd hyfforddiant a chyfathrebu yn cael eu rhoi maes o law i'r Cynghorau Plwyf Eglwysig trwy eu Hesgobaethau. Ar hyn o bryd, nid yw rhan hon y Ddeddf Elusennau wedi dod i rym, ac felly dylai plwyfi aros nes bod eu hesgobaeth yn cysylltu â nhw.
Os oes cwestiynau arbennig gan blwyf, dylent gysylltu â'r National Stewardship Officer, Dr John Preston, trwy'r e-bost: john.preston@c-of-e.org.uk
Rwy'n arweinydd/aelod o Eglwys Fethodistaidd ac rwy'n deall y bydd rhaid i ni wneud cais i gofrestru fel elusen cyn bo hir. Alla i gael mwy o wybodaeth am hyn, os gwelwch yn dda?
Mae'r Methodist Property Office wedi bod yn cydweithio'n agos â'r Comisiwn Elusennau i wneud y broses o gofrestru mor syml â phosibl i'r eglwysi a'r cyrff ymddiriedolwyr Methodistaidd eraill y bydd Deddf Elusennau 2006 yn ei gwneud hi'n ofynnol iddynt gofrestru gyda'r Comisiwn.
Fe welwch wybodaeth bellach am hyn a'r digwyddiadau hyfforddi sy'n cael eu trefnu gan yr Eglwys Fethodistaidd trwy'r ddolen ganlynol.
http://www.methodist.org.uk/index.cfm?fuseaction=opentogod.content&cmid=1948.
Rwy'n aelod o Gymdeithas Gyfreithiol y Cyfeillion (y Crynwyr). Sut galla i wybod a ddylai fy Nghyfarfod Addoli gofrestru fel elusen?
Mae Pwyllgor Stiwardiaeth Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion wedi bod yn cydweithio â'r Comisiwn Elusennau i helpu'r broses o gofrestru gwirfoddol pan fydd statws wedi’i eithrio yn dod i ben. Dylai'r rhai sy'n ceisio cyngor gysylltu â Helen Griffith yn Nhŷ'r Cyfeillion, trwy anfon e-bost at: heleng@quaker.org.uk
Mae ein heglwys wedi'i heithrio ar hyn o bryd o'r gofyniad i gofrestru. Fel rheol nid yw ein hincwm yn agos at £100,000 y flwyddyn ond rydym wedi derbyn cymynrodd anarferol sy'n golygu bod ein hincwm yn fwy na'r trothwy. Oes rhaid i ni gofrestru ac yna cael ein dileu o'r gofrestr?
Mewn amgylchiadau arbennig fel hyn gall yr eglwys wneud cais i'r Comisiwn am benderfyniad ysgrifenedig nad yw'n ofynnol iddynt gofrestru. Yn y lle cyntaf fel rheol bydd y Comisiwn Elusennau yn mynnu bod eglwysi'n cofrestru dim ond os yw'r incwm yn fwy na £100,000 y flwyddyn yn gyson.
Fyddwch chi'n cynhyrchu fersiwn arbennig o'r Ffurflen Cais i Gofrestru i eglwysi sydd wedi'u heithrio?
Na fyddwn. Rhaid i bob sefydliad sy'n gwneud cais i gofrestru gwblhau'r un ffurflen gais. Fe welwch wybodaeth am gofrestru elusen a'r ffurflenni angenrheidiol ar ein gwefan ar y dudalen Cofrestru Elusen.
Fodd bynnag, dylech nodi y caiff y ffurflen ei diwygio ychydig yn hwyr yng ngwanwyn 2008 i gynnwys cwestiynau am y gofyniad budd cyhoeddus newydd.
Bydd angen i'n heglwys gael ei chofrestru fel elusen pan fydd y rheoliadau eithrio yn dod i ben. Allwn ni wneud cais nawr?
Na allwch. Ni chaiff darpariaethau Deddf Elusennau 2006 sy'n caniatáu cofrestru gwirfoddol eu gweithredu nes bod y Comisiwn Elusennau wedi cwblhau'r rhaglen o gofrestru elusennau sydd wedi'u heithrio a'u hesgusodi'n flaenorol sydd ag incwm o fwy na £100,000. Rhagwelwn nad yw cofrestru gwirfoddol yn debygol o fod ar gael yn gyffredinol tan 2010.
Bydd angen i'n heglwys gael ei chofrestru fel elusen pan fydd y rheoliadau eithrio yn dod i ben. Fydd rhaid i ni wneud cais ar y diwrnod penodedig ei hun?
Na fydd. Caniateir cyfnod rhesymol o amser i'r eglwysi a'r Comisiwn Elusennau gwblhau'r rhaglen waith fawr hon. Mae'r Comisiwn yn cydweithio â'r enwadau a'r cyrff mantell a effeithir gan y newid hwn i gytuno ar raglen synhwyrol a chydlynol i'r ceisiadau gael eu prosesu.
Fydd y trothwy incwm o £100,000 ar gyfer cofrestru elusennau sydd wedi'u heithrio a'u hesgusodi yn cael ei ostwng?
Cynhelir adolygiad o Ddeddf Elusennau 2006, a'r ffordd y mae'r darpariaethau ynddi yn gweithio, yn 2011. Mae'n bosibl y bydd y trothwy incwm yn newid wedi hynny. Ni fydd yn newid cyn hyn.
Mae ein heglwys yn elusen sydd wedi'i heithrio ac mae ei hincwm yn llai na £100,000. Ond gofynnir i ni yn aml am ein rhif elusen gofrestredig ac ni allwn roi un. Sut dylem ni esbonio pam nad oes rhif gennym, ac eto i gyd sicrhau y gallwn fanteisio ar ryddhad treth?
Os yw'ch eglwys wedi'i chysylltu, neu'n rhan o grŵp o eglwysi sydd wedi cael eu heithrio o'r gofyniad i gofrestru, bydd statws eithriedig yn parhau tan 2012. Mae Offeryn Statudol Rhif 2655 o 1 Hydref 2007 wedi estyn yr eithriad tan 1 Hydref 2012. Mae'n bosibl y gellir gostwng y trothwy incwm o £100,000. Byddai hyn o ganlyniad i'r adolygiad o Ddeddf Elusennau 2006 sydd i'w gynnal yn 2011.
Effaith y ddeddfwriaeth hon yw nad oes hawl gan eich eglwys gael rhif elusen gofrestredig. Mae'n debyg bod rhif gennych a ddarparwyd gan Dollau a Chyllid Ei Mawrhydi mewn perthynas ag adenillion Rhodd Cymorth. Mae'r rhif hwn yn cyfateb i rif elusen gofrestredig o ran tystiolaeth o statws elusennol.
Mae ein heglwys (Wesleyan Reform Union, Church of the Nazarene, Free Church of England, Fellowship of Churches of Christ) bob amser wedi ystyried ei hun fel eglwys sydd wedi'i heithrio o'r gofyniad i gofrestru. Fydd rhaid i ni gofrestru fel elusen nawr?
Nid oedd yr eglwysi hyn wedi'u cynnwys yn Offeryn Statudol 1996 a oedd yn eithrio rhai elusennau eglwysig o'r gofyniad i gofrestru. Felly nid ydynt wedi'u heithrio, yn dechnegol. Ond yn ymarferol mae dyletswydd arnynt i wneud cais i gofrestru nawr.
Fodd bynnag, fel consesiwn mae'r Comisiwn Elusennau a Swyddfa'r Trydydd Sector wedi cytuno na fydd yn ofynnol iddynt gofrestru tan ddiwrnod penodedig fel a bennwyd yn Neddf Elusennau 2006. 1 Hydref 2008 yw'r dyddiad disgwyliedig ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, o'r diwrnod penodedig bydd rhaid i'r eglwysi hyn wneud cais i gofrestru os oes ganddynt incwm o fwy na £5000. Mae'r trothwy uwch sef £100,000 dim ond yn gymwys i eglwysi sydd wedi'u heithrio'n ffurfiol, hy naill rhai a enwir yn Offeryn Statudol 1996 neu sydd wedi'u hesgusodi o dan orchymyn penodol y Comisiwn Elusennau.
Yn wyneb bwriad yn Neddf Elusennau 2006 i'w gwneud hi'n ofynnol i bob eglwys sydd wedi'i heithrio sy'n uwch na throthwy arbennig gofrestru, ni fydd y Comisiwn Elusennau yn gwneud unrhyw orchmynion eithrio pellach.
Fe gewch wybodaeth bellach am y gofyniad i gofrestru ar y dudalen Cofrestru Elusen ar wefan y Comisiwn Elusennau.
Gall sefydliad elusennol bach gydag incwm nad yw'n fwy na £5000 fwynhau manteision statws elusennol heb orfod bodloni gofynion rheoleiddio elusennau cofrestredig.
Dylai sefydliadau o'r fath wneud cais uniongyrchol i Dollau a Chyllid EM (HMRC) am ryddhad treth. Dylai sefydliadau eraill megis banciau a rhoddwyr grantiau dderbyn rhif elusen HMRC fel tystiolaeth o statws elusennol.
Fe gewch yr wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnoch yn ein tri chyhoeddiad:
Mae'n bosibl y gallwch gael a defnyddio Dogfen Lywodraethol Gymeradwy addas gan gorff mantell. Os na allwch, bydd rhaid i chi baratoi dogfen lywodraethol addas gydag amcanion elusennol (gweler Amcanion Enghreifftiol am arweiniad pellach ar y pwnc pwysig hwn).
Mae'r Comisiwn Elusennau yn gyfrifol am gofrestru elusennau yng Nghymru a Lloegr yn unig. Yn yr Alban, Swyddfa Rheolydd Elusennau'r Alban (OSCR) sy'n gyfrifol am gydnabod statws elusennol:
OSCR
1st Floor
Argyll House
Marketgait
Dundee
DD1 1QP
Ffôn 01382 220446
Gwefan www.oscr.org.uk
Os yw'ch sefydliad yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon, dylech gysylltu â'r Adran Datblygiad Cymdeithasol, yn
Cangen Elusennau
Yr Uned Wirfoddol a Chymunedol
3rd Floor
Lighthouse Building
1 Cromac Place
Gasworks Business Park
Ormeau Road
Belfast
BT7 2JB
Ffôn: 028 90829 414
Pan fydd dogfen lywodraethol briodol gennych bydd angen i chi lwytho i lawr Ffurflen gais i gofrestru, Ffurflen datganiad ymddiriedolwyr a'r Canllawiau cysylltiedig.
Rhaid i chi gwblhau'r ffurflenni yn unol â'r Canllawiau. Yna bydd angen i chi anfon y dogfennau canlynol atom
Os oes unrhyw gwestiynau pellach gennych neu ni allwch lwytho'r ffurflenni i lawr ffoniwch y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol: 0845 300 0218. Y rhif ar gyfer galwyr sydd â nam ar y clyw a'r lleferydd sy'n defnyddio minicom yw: 0845 300 0219
Bydd y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol naill ai'n cydnabod ei fod wedi derbyn y cais cyflawn neu'n rhoi gwybod i chi beth sydd ar goll.
Pan fydd y dogfennau i gyd wedi cael eu derbyn byddant yn anfon y cais i'r Uned Gofrestru i'w asesu. Nod yr Uned Gofrestru yw rhoi ymateb cychwynnol i'r cais o fewn 15 diwrnod gwaith.
Os ydych wedi defnyddio Dogfen lywodraethol gymeradwy heb ei newid ac nid oes unrhyw fudd preifat sylweddol i unrhyw ymddiriedolwr neu barti cysylltiedig, fel rheol byddwn yn gallu cymeradwyo'ch cais a rhoi'r rhif cofrestru i chi o fewn yr amserlen hon.
Fodd bynnag, bydd rhaid i ni ofyn cwestiynau pellach yn aml iawn, cyn y gallwn ddweud a yw'r sefydliad yn elusennol yn ôl y gyfraith neu beidio. Os yw hyn yn digwydd byddwn yn rhoi enw a rhif cyswllt i chi ar gyfer y sawl sy'n delio â'ch cais. Hefyd cewch gyfeirnod i'w ddyfynnu mewn gohebiaeth yn y dyfodol.
Os oes angen i ni gysylltu â chi am wybodaeth neu eglurhad pellach, byddwn yn ceisio bod yn glir ynghylch ein cwestiynau ac a ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â statws elusennol neu faterion llywodraethu ac arfer da. Weithiau wrth i ni greu darlun o'r sefydliad ni fydd modd i ni wahaniaethu'n glir rhwng y ddau nes bod yr wybodaeth angenrheidiol gennym.
Os yw'ch dogfen lywodraethol yn ateb y gofynion a chytunwn fod eich sefydliad yn elusennol yn ôl y gyfraith byddwn yn rhoi'r manylion ar y gofrestr elusennau ac yn rhoi'r rhif elusen gofrestredig i chi.
Ceisiwn wneud penderfyniad ynghylch cais i gofrestru o fewn 40 diwrnod ar gyfartaledd.
Fodd bynnag, fel rheol gallwn wneud penderfyniad yn llawer cyflymach os ydych wedi defnyddio Dogfen lywodraethol gymeradwy ac wedi cwblhau'r ffurflen gais a'r datganiad ymddiriedolwyr yn gywir ac yn gyflawn.
Weithiau derbyniwn ffurflen gais gan sefydliad sydd â dibenion newydd a/neu lle mae budd preifat sylweddol. Mewn achosion o'r fath gall gymryd yn hwy i ystyried yr holl faterion cyfreithiol a dod i gasgliad ynghylch statws elusennol y sefydliad.
Os ydym yn meddwl bod enw'ch sefydliad yn gamarweiniol neu'n rhy debyg i enw elusen sy'n bod, gallwn ofyn i chi newid yr enw cyn rhoi rhif cofrestru i chi.
Weithiau, er ei fod yn ymddangos bod y sefydliad yn elusennol, mae'n bosibl na fydd yr hyn y cafodd ei sefydlu i'w wneud, neu'r hyn y bydd yn ei wneud, yn iawn. Os felly byddwn yn cysylltu â chi i newid beth bynnag sydd o'i le. Pan fyddwn yn derbyn cadarnhad neu dystiolaeth bod y newidiadau hyn wedi cael eu gwneud, byddwn yn ychwanegu manylion eich sefydliad at y Gofrestr Elusennau Ganolog.Byddwn yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau'r cofrestriad a'r rhif cofrestru.
Amcanion Enghreifftiol
Gall fod yn anodd i eirio'r cymal amcanion yn gywir. Rydym wedi rhoi rhai enghreifftiau i'ch helpu i gael pethau'n iawn. Cymal amcanion sydd wedi'i eirio'n anghywir yw'r achos mwyaf arwyddocaol o oedi wrth brosesu cais, neu wrthod cais.
Hyd yn oed os teimlwn fod yr hyn rydych yn ei wneud yn gallu bod yn elusennol, os nad yw'r cymal amcanion wedi'i eirio'n gywir, bydd rhaid i chi newid y ddogfen lywodraethol cyn y gallwn ystyried cofrestru'r sefydliad. Gall hyn olygu galw cyfarfod o'r ymddiriedolwyr a/neu'r aelodau i gytuno ar y newid. Mae'n llawer gwell i bawb dan sylw os ydych yn cael hyn yn gywir y tro cyntaf.
Cyn ceisio cofrestru fel cwmni elusennol mae'n rhaid i chi gysylltu â Thŷ'r Cwmnïau yn gyntaf a fydd yn cofrestru eich sefydliad fel cwmni cyfyngedig drwy warant. Pan fyddwch yn derbyn eich tystysgrif corffori gan gan Dŷ'r Cwmnïau, gallwch gwblhau'r Ffurflen Cais i Gofrestru a'r Datganiad Ymddiriedolwyr. Byddwn yn ystyried eich cais pan fyddwn wedi derbyn yr holl ddogfennau sydd eu hangen arnom.
Cyfeiriad gwefan Tŷ'r Cwmnïau yw: www.companies-house.gov.uk
Ni fydd Tŷ'r Cwmnïau yn corffori unrhyw sefydliad sy'n dymuno defnyddio'r geiriau sensitif "elusen" neu "elusennol" yn ei deitl (ee, Charityhelp yn ogystal â Charity Help) hyd nes bod ei drefnwyr yn cadarnhau eu bod nhw wedi cael caniatâd ysgrifenedig i'w ddefnyddio gan y Comisiwn Elusennau.
Felly dylai cwmni elusennol arfaethedig sy'n dymuno defnyddio'r naill air neu'r llall yn ei deitl gyflwyno cais ffurfiol i ni i gofrestru (gan amgáu Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu wedi'i gyflawni) cyn cysylltu â Thŷ'r Cwmnïau. Bydd ein Pennaeth Cofrestru yn penderfynu a oes unrhyw wrthwynebiad gennym i'r enw, a bydd yn ystyried y cais i gofrestru yr un pryd. Er y gallwn benderfynu ar statws elusennol cwmni heb dystysgrif gorffori, gallwn roi cwmni elusennol ar ein Cofrestr Elusennau dim ond pan fyddwn wedi derbyn copi o'r dystysgrif.
Am ganllawiau pellach ar enwi elusennau, gweler Arweiniad Gweithredol, Enwau Elusennau.
Os ydych yn bwriadu sefydlu cwmni elusennol i "gymryd drosodd" gweithrediadau'ch elusen nawr ac yn y dyfodol bydd y cwmni newydd yn endid ar wahân. Bydd rhaid i chi wneud cais i'w gofrestru os oes ganddo incwm o fwy na £5000.
Mewn rhai achosion ni fydd modd trosglwyddo asedau elusen anghorfforedig i gwmni. Y ddwy broblem fwyaf cyffredin yw:
Os yw'r naill neu'r llall yn gymwys gwnewch yn siŵr eich bod wedi ceisio'r cyngor proffesiynol priodol neu wedi trafod y mater gyda'r Comisiwn Elusennau cyn sefydlu'r cwmni.
Dylech ystyried a all unrhyw gyfamodau neu gymynroddion i'r elusen sy'n bod gael eu trosglwyddo i'r cwmni newydd.
Nac ydy, nid oes rhaid i sefydliadau fod yn elusennau cofrestredig i gael grant loteri. Mae sawl gwahanol ddosbarthwr grantiau loteri ac mae gofynion cymhwysedd eu hunain gan bob un ar gyfer grantiau. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.community-fund.org.uk ar gyfer grantiau loteri yn benodol i elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol - neu www.lotterygoodcauses.org.uk i gael gwybodaeth ar bob dosbarthwr loteri, neu ffoniwch: 0845 2750000.
Gweler Cofrestru elusen: tystiolaeth o ddatgeliadau CRB.
Ni all ymddiriedolwyr gael budd o'u swydd fel ymddiriedolwyr ac un o egwyddorion allweddol bod yn ymddiriedolwr yw ei bod yn swydd wirfoddol. Ni allwch gael eich talu oni bai fod y pŵer hwn wedi'i ddatgan yn nogfen lywodraethol yr elusen neu oni bai ein bod yn rhoi caniatâd i chi.
Ni ddylai ymddiriedolwr elusen fod mewn sefyllfa lle gall unrhyw fudd personol wrthdaro â'i rôl fel ymddiriedolwr.
Mae'n bwysig bod pob ymddiriedolwr yn gwybod na ddylent gael budd uniongyrchol neu anuniongyrchol o'i swydd naill ai trwy daliad mewn arian parod neu fuddiannau eraill.
Mae ein cyhoeddiad CC11: Talu Ymddiriedolwyr Elusennau yn disgrifio'r cyfyngiadau ar dalu ymddiriedolwyr ac ym mha amgylchiadau y gallai ymddiriedolwyr dderbyn tâl.
Bydd angen i chi anfon -
Rydym yn elusen eglwysig sydd wedi'i heithrio ond hoffem fod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE). Ydy hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r gofyniad i gofrestru?
Mae'r Comisiwn Elusennau yn bwriadu lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Sefydliadau Corfforedig Elusennol ym mis Medi 2008. Byddwn yn ceisio ac yn ystyried ymatebion i hyn cyn bod y SCE newydd ar gael a chyn rhoi'r wedd derfynol ar y dogfennau llywodraethol enghreifftiol ar eu cyfer. Ar hyn o bryd rydym yn gobeithio cynnig SCE fel dewis yn ystod gwanwyn/haf 2009.
Os oes dyletswydd ar elusen eglwysig a eithriwyd yn flaenorol i wneud cais i gofrestru AC nid yw wedi'i llywodraethu gan Ddeddf Seneddol neu Fesur Eglwysig ar hyn o bryd, byddwn yn caniatáu iddi oedi cyn gwneud cais tan tua diwedd y ffrâm amser penodedig. Fodd bynnag, bydd angen i ni gwblhau'r rhaglen o ofynion cofrestru eglwysi erbyn 1 Hydref 2009. Felly os oes unrhyw oedi wrth lansio'r SCE mae'n bosibl y bydd rhaid i ni ailystyried ein safbwynt.
Bydd yn ofynnol i elusennau sy'n dewis bod yn SCE gofrestru a chyflwyno gwybodaeth flynyddol i ni beth bynnag fo'u hincwm. Ni fydd y trothwy incwm £100,000 neu £5000 yn gymwys i unrhyw elusen eglwysig sy'n dewis bod yn SCE.
Oni bai y bydd elusen eglwysig yn llunio contractau mawr, ee oherwydd ei bod yn rhan o raglen adeiladu fawr, ni fydd llawer o fantais iddi fod yn SCE yn ein barn ni.
Pan fydd SCE ar gael bydd mecanwaith i alluogi elusennau i newid eu ffurf gyfreithiol.
Nid ydym eisiau defnyddio'r ddogfen lywodraethol gymeradwy ar gyfer ein henwad/corff mantell, felly a allwn ni wneud cais i'r Comisiwn Elusennau yn annibynnol a/neu ddefnyddio dogfen lywodraethol wahanol?
Mae hynny'n dibynnu ar ymgysylltiad eich elusen. Yn achos rhai eglwysig, ee Eglwys Loegr, y Methodistiaid, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig a'r Eglwys yng Nghymru, mae'r ddogfen lywodraethol wedi'i diffinio gan y gyfraith statudol. Felly ni allwch gael un wahanol.
Mewn achosion eraill mae'r Comisiwn Elusennau wedi neilltuo llawer o amser i gydweithio â chorff mantell neu enwad i gytuno ar ddogfen lywodraethol gymeradwy sy'n:
Dylai'r rhai sy'n defnyddio'r ddogfen lywodraethol gymeradwy, a'n dull ar-lein o wneud cais i gofrestru, ganfod ein bod yn ymdrin â'u cais yn gyflym. Ni fydd angen llawer o ohebu yn aml oherwydd:
Os teimlwch nad yw dogfen lywodraethol gymeradwy yn bodloni'ch gofynion yna, yn y lle cyntaf, dylech drafod hyn gyda'r corff cenedlaethol. Maen nhw yn y sefyllfa orau i'ch cynghori a allwch wneud newidiadau neu ddefnyddio dogfen wahanol.
Mae ein heglwys yn elusen sydd wedi'i heithrio ac mae ei hincwm yn llai na £100,000. Ond gofynnir i ni yn aml am ein rhif elusen gofrestredig ac ni allwn roi un. Sut dylem ni esbonio pam nad oes rhif gennym, ac eto i gyd parhau i sicrhau y gallwn gael budd o ryddhad treth?
Os yw'ch eglwys wedi'i hymgysylltu, neu'n rhan o grŵp o eglwysi sydd wedi cael eu heithrio o'r gofyniad i gofrestru, bydd statws eithriedig yn parhau tan 2012. Roedd Offeryn Statudol Rhif 2655 o 1 Hydref 2007 wedi estyn yr eithriad tan 2012. Mae'n bosibl y gellir gostwng y trothwy incwm o £100,000. Byddai hyn o ganlyniad i'r adolygiad o Ddeddf Elusennau 2006 a fydd yn digwydd yn 2011.
Bydd y ddeddfwriaeth hon yn datgan nad oes hawl gan eich eglwys gael rhif elusen gofrestredig. Mae'n debyg bod rhif gennym a ddarparwyd gan Dollau a Chyllid Ei Mawrhydi mewn perthynas ag adenillion Rhodd Cymorth. Mae'r rhif hwn yn cyfateb i rif elusen gofrestredig o ran tystiolaeth o statws elusennol.
Mae ein heglwys wedi'i heithrio ar hyn o bryd o'r gofyniad i gofrestru. Fel rheol nid yw ein hincwm yn agos at £100,000 y flwyddyn ond rydym wedi derbyn cymynrodd anarferol sy'n golygu bod ein hincwm yn fwy na'r trothwy. Oes rhaid i ni gofrestru ac yna cael ein dileu o'r gofrestr?
Mewn amgylchiadau arbennig fel hyn, ac ar yr amod bod y rhodd yn nodi y dylid defnyddio'r gymynrodd ar gyfer dibenion cyfalaf, hy nid yn unig fel incwm cyffredinol, gall yr eglwys wneud cais i'r Comisiwn am benderfyniad ysgrifenedig bod blwyddyn wahanol yn cael ei defnyddio fel y sylfaen ar gyfer asesu a oes angen cofrestru. Fel rheol ni fydd y Comisiwn Elusennau yn rhoi'r goddefeb hwn os yw'r lefel incwm cyffredinol yn cynyddu'n raddol ac yn agosáu at y trothwy £100,000.
I gael cyngor pellach ar gofrestru elusen ffoniwch y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol ar 0845 300 0218. Y rhif i alwyr sydd â nam ar y clyw a'r lleferydd sy'n defnyddio minicom yw 0845 300 0219.
Ein canllaw ar y gofynion cyfreithiol ac arferion da a argymhellir i elusennau sy'n gweithio'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn rhyngwladol neu dramor.
Ein canllaw i elusennau sy'n gweithio gyda phlant.
Ein canllaw i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Elusennol (gan gynnwys caffael Tai â Thenantiaid a Thenantiaid fel aelodau o Gyrff Llywodraethu).