Deddf Elusennau 2006
(Fersiwn Mawrth 2008)
Beth mae Deddf Elusennau 2006 yn ei olygu i chi a'ch elusen?
Mewn llawer o feysydd gall wneud pethau'n haws i chi ac mae'n uno peth o'r 'tâp coch' y bu'n rhaid i chi dorri trwyddo yn y gorffennol. Mewn sawl achos bydd yn haws i chi newid rheolau'ch elusen ar gyfer galw cyfarfodydd, gwneud penderfyniadau neu elfennau eraill o weinyddiaeth eich elusen. Mae mwy o bwerau ar gael i drosglwyddo eiddo, newid dibenion yr elusen neu wario cyfalaf. Hefyd, mae'n haws talu ymddiriedolwyr am rai o'r gwasanaethau neu'r nwyddau a ddarparant ar gyfer yr elusen.
Gallwch wneud nifer o'r pethau hyn heb fod angen cysylltu â ni am ein caniatâd - dyna'n rhannol sut y gall Deddf Elusennau 2006 eich helpu chi. Fe welwch lawer o'r wybodaeth a'r ffurflenni y mae eu hangen arnoch ar y dudalen 'Gwneud cais amdani'.
Beth yw darpariaethau Deddf Elusennau 2006?
- Mae canllaw Saesneg clir, 'Deddf Elusennau 2006 - Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod', wedi'i anelu'n bennaf at ymddiriedolwyr elusennau bach, sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Fodd bynnag, mae'n cynnig canllaw defnyddiol i unrhyw un sydd eisiau cael dealltwriaeth glir o brif ddarpariaethau'r Ddeddf. Mae'r ddolen hon yn eich arwain at fersiwn rhyngweithiol.
Gallwch lwytho i lawr fersiwn argraffadwy o'r canllaw hwn yn Gymraeg, Saesneg neu brint bras neu gallwch archebu copi caled trwy ymweld â gwefan Swyddfa'r Trydydd Sector.
- I weld testun y Ddeddf ei hun gyda nodiadau esboniadol, ewch i wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus.
Darpariaethau a weithredwyd yn 2007
Cafodd nifer o'r darpariaethau eu gweithredu yn ystod 2007 ac mae Swyddfa'r Trydydd Sector wedi cyhoeddi cynllun gweithredu diwygiedig sy'n rhoi rhestr lawn o'r rhain. Mae rhai o'r darpariaethau a allai gael yr effaith fwyaf ar ymddiriedolwyr yn cynnwys:
Darpariaethau a weithredwyd ym Mawrth 2008
Daeth darpariaethau pellach i rym ar 18 Mawrth 2008. Mae'r rhain yn delio â'r canlynol:
- Y Tribiwnlys Elusennau - Mae darpariaethau yn y Ddeddf yn sefydlu llwybr pellach o apelio i ymddiriedolwyr sy'n dymuno herio penderfyniad cyfreithiol y Comisiwn, a sefydlwyd y corff newydd hwn gan y Gwasanaeth y Tribiwnlysoedd.
- Elusennau anghorfforedig - mae amrywiaeth o bwerau yn weithredol bellach sy'n ei gwneud hi'n haws i ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig:
- newid darpariaethau gweinyddol yr elusen;
- newid dibenion yr elusen;
- trosglwyddo eiddo;
mewn sawl achos heb yr angen i gysylltu â ni am ganiatâd. Mae gwybodaeth am bob un o'r meysydd hyn a phynciau eraill ar gael trwy'r dudalen 'Gwneud cais amdani'. Pan fyddwch yno fe welwch ddolenni i'r ffurflenni datganiad neu ffurflenni cais priodol.
- Cwmnïau elusennol: newidiadau i ddogfennau llywodraethol - mae elusennau sy'n gwmnïau eisoes yn gallu gwneud rhai newidiadau i'w dogfennau llywodraethol. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud hi'n haws i elusennau sy'n dymuno gwneud newidiadau o'r fath. Fe welwch wybodaeth am hyn yn ein canllaw gweithredol OG47 Newidiadau i ddogfennau llywodraethol: Cwmnïau elusennol. Am daflen gwybodaeth a ffurflen datganiad gweler y dudalen Gwneud cais amdani.
- Pŵer i wario gwaddol parhaol - Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, bydd pŵer gan fwy o elusennau i wario eu gwaddol parhaol.
- Taliadau i ymddiriedolwyr - erbyn hyn mae modd i elusennau dalu ymddiriedolwyr am y nwyddau a'r gwasanaethau a ddarparant i'r elusen heb yr angen am ein caniatâd os yw rhai amodau wedi'u bodloni. Mae taflenni gwybodaeth ac, os oes angen, ffurflenni cais ar gael ar y dudalen 'Gwneud cais amdani'.
- Cy-près - mae darpariaethau yn Neddf 2006 wedi cyflwyno trefn cy-près mwy hyblyg ac yn ogystal â pharchu ysbryd bwriad gwreiddiol y rhodd i elusen, byddwn hefyd yn ystyried yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n bod adeg yr addasiad arfaethedig i'r dibenion gwreiddiol. Rydym wedi diwygio ein canllaw gweithredol OG2, Defnyddio eiddo cy-près, er mwyn adlewyrchu hyn.
- Apeliadau sy'n methu - Erbyn hyn gall codwyr arian ddweud wrth rhoddwyr os yw apêl yn methu caiff eu rhodd ei ddefnyddio at ddibenion elusennol tebyg oni bai eu bod wedi cwblhau datganiad sy'n nodi y byddai'n well ganddynt gael cynnig ad-daliad. Os yw'r apêl yn methu, mae angen i'r trefnwyr gysylltu â'r rhoddwyr hynny sydd wedi arwyddo datganiadau yn unig. Gall y Comisiwn baratoi cynllun ar gyfer y cronfeydd sy'n weddill. Cynghorwn elusennau i geisio osgoi methu drwy eirio eu hapeliadau yn ofalus. Am fwy o wybodaeth gweler OG53 Apeliadau Elusennau: osgoi a delio â methiant.
- Mae pwerau rheoleiddio'r Comisiwn wedi cael eu hestyn i gynnwys:
- pŵer i gyfeirio sut i ddefnyddio eiddo;
- pŵer i gyfeirio ymddiriedolwyr i gymryd camau arbennig;
- pŵer i wahardd ymddiriedolwyr a swyddogion rhag cael aelodaeth a therfynu eu haelodaeth
Byddwn yn rhoi gwybodaeth lawn i chi os oes angen i ni ddefnyddio'r pwerau hyn ar gyfer eich elusen chi.
Darpariaethau a weithredwyd yn Ebrill 2008
- Darpariaethau codi arian - mae'r darpariaethau hyn yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i godwyr arian proffesiynol, cyfranogwyr masnachol, staff a swyddogion cyflogedig ei darparu wrth godi arian. Mae Swyddfa'r Trydydd Sector wedi cyhoeddi Canllaw Drafft ar Godi Arian Proffesiynol a Chyfranogiad Masnachol i'w ymgynghori arno tan 31 Mai 2008
- Budd Cyhoeddus - o 1 Ebrill, daeth y diffiniad o 'elusen' yn Neddf Elusennau 2006 i rym. Mae'r diffiniad yn delio â'r gofyniad budd cyhoeddus ac yn rhestru'r dibenion a all fod yn elusennol. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ac ymgynghoriadau ar rai o'r categorïau o elusennau a all fod angen canllawiau mwy manwl.
- Cyfrifon - darpariaethau newydd mewn perthynas â'r canlynol:
- Cyfrifon grŵp;
- Chwythu'r chwiban; a
- Chysoni trothwyon,
I gael mwy o wybodaeth am hyn gweler y fersiwn wedi'i ddiweddaru o Adroddiadau a Chyfrifon Elusennau: Yr hanfodion Ebrill 2008 CC15(a). Gweler hefyd y dudalen, SORP, Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau: Yr hyn y mae angen i chi wybod.
Darpariaeth a ddisgwylir wedi hynny
- Sefydliadau Anghorfforedig Elusennol - rydym am sicrhau ein bod yn cael y rheoliadau a'r dogfennau llywodraethol enghreifftiol yn gywir ar gyfer y math newydd hwn o elusen. Disgwyliwn gychwyn ymgynghoriadau ar y rhain yn y gwanwyn. Edrychwch ar ein tudalen CIO i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
- Elusennau sydd wedi'u heithrio - o 1 Hydref 2008, bydd yn ofynnol i elusennau sydd wedi'u heithrio gydag incwm blynyddol o fwy na £100,000 gofrestru gyda'r Comisiwn.
- Elusennau sydd wedi'u hesgusodi a'u heithrio - mae angen amser ar elusennau, y prif reolyddion arfaethedig a'r Comisiwn i baratoi ar gyfer y newidiadau y disgwylir iddynt ddod i rym drwy Ddeddf 2006. Nid yw'r newidiadau hyn yn debygol o ddigwydd cyn 2009. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd mwy o wybodaeth gennym.
- Bydd yn cymryd amser i ni gofrestru'n ffurfiol y nifer fawr o elusennau blaenorol sydd wedi'u heithrio a'u hesgusodi y bydd rhaid i ni eu cofrestru. Cyn bod y darpariaethau sy'n gofyn i ni gofrestru elusennau sy'n gwneud cais i gofrestru'n wirfoddol yn dod i rym, bydd y gyfraith sy'n bod sy'n ein galluogi i ymarfer disgresiwn mewn perthynas â cheisiadau i gofrestru'n wirfoddol yn parhau. Unwaith eto, byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi pan fydd yr wybodaeth gennym.
Sut oedd y ddeddfwriaeth hon wedi datblygu?
Er bod y Ddeddf yn gyfraith erbyn hyn, efallai yr hoffech ddarllen am y cefndir a'r camau datblygu yr aeth y Ddeddf trwyddynt ar ei ffordd trwy'r Senedd.