Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Yn yr adran hon...

Arweiniad i Elusennau

Dwyn ynghyd pwyntiau arfer da a nodwn yn ystod ein gwaith, a all fod yn berthnasol ar draws pob rhan o'r sector

Arweiniad Gweithredol

Arweiniad, wedi'i ysgrifennu ar gyfer ein staff, ar y gyfraith ac arfer elusennau

Diweddaru Canllawiau

Rhestr o'r Canllawiau wedi'u Diweddaru

Corffori elusen bresennol fel cwmni – Cwestiynau ac atebion

Mae'r pecyn Cwestiynau ac Atebion yn canolbwyntio ar ddefnyddio cwmnïau cyfyngedig drwy warant fel ffordd o gael strwythur corfforedig sy'n rhoi atebolrwydd cyfyngedig i ymddiriedolwyr ac aelodau'r elusen. Mae'n disgrifio ym mha amgylchiadau y gallai corffori elusen bresennol fod yn briodol, yn cynnig gwybodaeth ar y strwythurau corfforedig sydd ar gael, yn nodi'r camau ymarferol i'w cymryd wrth gorffori ac yn cyfeirio at ganllawiau pellach ar y pwnc hwn. Mae hefyd yn tynnu sylw at rai meini tramgwydd cyffredin sy'n codi wrth gorffori.

Ymchwil gan Sefydliadau Addysg Uwch

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut mae gofynion y gyfraith elusennau yn gymwys i'r ymchwil a wnaed gan Brifysgolion a Sefydliadau Addysg Uwch eraill, yn enwedig ymchwil a wnaed mewn partneriaeth â sefydliadau nad ydynt yn elusennol – Fersiwn HTML | Fersiwn PDF

Elusennau a darparu gwasanaeth cyhoeddus

Gwybodaeth a chanllawiau i elusennau sy'n darparu gwasanaethau ar ran awdurdodau cyhoeddus.

Elusennau ac Etholiadau

Mae'r arweiniad hwn yn cynorthwyo elusennau i benderfynu pa gamau sydd ac sydd heb fod yn briodol yn y cyfnod cyn etholiad. Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â CC9 - Fersiwn HTML | Fersiwn (Saesneg) PDF

Uned Elusennau Mawr

Mae'r arweiniad hwn i ymddiriedolwyr ac eraill sy'n ymwneud ag elusennau "mawr" yn bennaf. Yn y cyd-destun hwn mae elusen yn cael ei chydnabod fel elusen fawr os oes incwm o fwy na £10 miliwn ganddi am ddwy flynedd ariannol yn olynol neu £100 miliwn o asedau.

Uned Elusennau Bach

Mae'r arweiniad hwn i ymddiriedolwyr ac eraill sy'n ymwneud ag elusennau "bach" yn bennaf - hynny yw, elusennau yng Nghymru a Lloegr sydd ag incwm o lai na £10,000 y flwyddyn.

Gwrthdaro yn eich Elusen

Mae canllaw newydd gennym sy'n disgrifio'r hyn y dylai elusen ei wneud yn achos anghydfod.

Dileu o'r Gofrestr Wedi'i Symleiddio

"Diddymu, dirwyn i ben a dileu o'r Gofrestr i elusennau canolig", (CSD 1077A) – ein canllaw i elusennau anghorfforedig sydd ag incwm blynyddol o fwy na £20,000 a chwmnïau elusennol sy'n dirwyn i ben neu'n diddymu ac mae angen eu dileu o'n Cofrestr. Mae ffurflen ddatganiad hefyd (CSD 1077) y gall yr elusennau hynny eu cwblhau er mwyn i ni allu eu dileu yn gyflymach.

Codi Arian Trwy Bartneriaethau â Chwmnïau

Mae'r arweiniad hwn yn ceisio darparu cyngor i ymddiriedolwyr, staff sy'n ymwneud â chodi arian ar gyfer elusen a chodwyr arian proffesiynol ar rai o'r materion sy'n codi pan fydd elusen yn caniatáu i'w henw gael ei ddefnyddio neu gael ei gysylltu â chwmni masnachol fel ffordd o godi arian ar gyfer yr elusen. - Fersiwn HTML | Fersiwn (Saesneg) PDF

Elusennau a Buddsoddiad Cymdeithasol

Arweiniad ar ddefnydd elusennau o'u cronfeydd er mwyn gwneud "buddsoddiadau sy'n gysylltiedig â rhaglen" neu "gymdeithasol" - hynny yw, dilyn eu dibenion elusennol trwy ddarparu benthyciadau, gwarantau benthyciad neu danysgrifio neu brynu cyfranddaliadau neu drwy osod tir ac adeiladau - Fersiwn HTML | Fersiwn (Saesneg) PDF

Arweiniad i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (gan gynnwys prynu Tai â Thenantiaid a Thenantiaid yn aelodau o Gyrff Llywodraethu)

Mae'r arweiniad hwn wedi'i anelu'n bennaf at sefydliadau sy'n ceisio bod yn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a chofrestru gyda'r Comisiwn. Mae hefyd yn berthnasol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sydd eisoes wedi'u cofrestru fel elusennau - Fersiwn HTML | Fersiwn (Saesneg) PDF

Perchenogaeth Tai Fforddiadwy – Statws Elusennol a Threth

Mae'r canllaw hwn yn cael ei gyhoeddi ar y cyd gan Gyllid a Thollau EM, y Gorfforaeth Dai a'r Comisiwn Elusennau. Mae'n rhoi gwybodaeth gyffredinol a chyngor i ymddiriedolwyr elusen, gan gynnwys byrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ar ddarparu tai rhan-berchenogaeth elusennol.

Elusennau sy'n Gweithio'n Rhyngwladol

Gofynion cyfreithiol ac arfer dda a argymhellir ar gyfer elusennau y mae eu gwaith wedi'i leoli'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn rhyngwladol neu dramor.

Cronfeydd Wrth Gefn Elusennau a Chynlluniau Pensiwn Budd-daliadau Diffiniedig

Mae rhoi cyfrif am gynlluniau pensiwn budd-daliadau diffiniedig dan FRS 17: Budd-daliadau Ymddeol wedi codi cwestiynau ynghylch sut mae polisi cronfeydd wrth gefn elusen yn cael ei effeithio gan ddadleniad mantolen asedau neu rwymedigaethau pensiwn. Mae'r arweiniad hwn a gafodd ei baratoi mewn partneriaeth â Grŵp Cyfarwyddwyr Charity Finance yn ystyried materion gan gynnwys effeithiau llif arian trefniadau pensiwn ar bolisi cronfeydd wrth gefn.

Cynlluniau Pensiwn Buddiannau Diffiniedig - Cwestiynau ac Atebion

Gall Cynlluniau Pensiwn Buddiannau Diffiniedig fod yn gymhleth. Mae'r pecyn Cwestiynau ac Atebion yn ateb y cwestiynau sylfaenol ac yn eich cyfeirio at ffynonellau arweiniad pellach.

Canllawiau gwrthdaro buddiannau i elusennau'r celfyddydau

Mae'r canllaw hwn – a luniwyd ar y cyd â'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon – yn dweud wrth ymddiriedolwyr amgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd elusennol sut i adnabod a rheoli gwrthdaro buddiannau a allai godi yn eu helusennau

Diogelu Plant

Mae plant yn grŵp agored i niwed arbennig ac mae'r Comisiwn Elusennau yn awyddus iawn i bwysleisio pwysigrwydd cael dulliau diogelu priodol o fewn elusennau ar gyfer amddiffyn plant.

Arweiniad ar y Fenter Ysgolion Estynedig a darparu gofal plant cyn-ysgol

Mae'r arweiniad hwn yn egluro'r amgylchiadau pan all y rhai sy'n gyfrifol am ysgol ddarparu cyfleusterau cyn-ysgol a beth sy'n digwydd pan fydd cymdeithas gyn-ysgol elusennol eisoes yn gweithredu yn yr ysgol.

Datganiad gan y Comisiwn ynghylch pobl ifanc dan 18 oed yn gweithredu fel ymddiriedolwyr elusennau

Mae'r datganiad hwn yn crynhoi'r sefyllfa gyfreithiol ac yn darparu rhestr o bethau i'w hystyried os ydych yn bwriadu penodi ymddiriedolwyr dan 18 oed.

Datganiad cymhwyster i ymddiriedolwyr newydd eu penodi (PDF Saesneg 26KB)

Dylid gofyn i ddarpar ymddiriedolwyr ddatgan nad ydynt wedi'u hanghymhwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwr elusen. Gellir defnyddio'r datganiad enghreifftiol hwn i gael datganiad wedi'i arwyddo.

Arweiniad ar Fancio Electronig

Mae'r arweiniad hwn wedi'i anelu'n bennaf at elusennau bach a chanolig ac mae'n ateb y cwestiynau a ofynnir i ni yn fwyaf aml gan elusennau ynghylch bancio electronig.

Indemniadau Cyfarwyddwyr Cwmni

Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut y gall cwmnïau elusennol ddefnyddio'r gyfraith newydd sy'n caniatáu ystod ehangach o indemniadau cyfarwyddwyr na darpariaethau blaenorol y Ddeddf Cwmnïau.

Cronfeydd Adnau Cyffredin – Canllaw sylfaenol i’w rheoleiddio

Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar Gronfeydd Adnau Cyffredin sy’n fath o gynllun cymryd adnau.

Cronfyedd Buddsoddi Cyffredin - Canllaw sylfaenol i'w rheoleiddio

Mae'r arweiniad hwn yn canolbwyntio'n benodol ar Gronfeydd Buddsoddi Cyffredin sy'n un math o fuddsoddiad.

Y Ceidwad Swyddogol i Elusennau - Canllaw sylfaenol i'r rolau a'r cyfrifoldebau

Mae'r arweiniad hwn yn ceisio esbonio rôl y Ceidwad Swyddogol i ymddiriedolwyr elusennau a'u cynghorwyr.

Llywodraeth Agored a Hawliau Dynol

Gwybodaeth am ddau ddarn bwysig o ddeddfwriaeth, Ddeddf Gwarchod Data 1998 a Deddf Hawliau Dynol 1998 sydd o bwys i bawb yn y DU, gan gynnwys elusennau.

Talu am Ewyllysiau gyda Chronfeydd Elusen

Cyngor am y sefyllfa gyfreithiol ac arfer orau pan fydd elusen yn cynnig talu cost paratoi ewyllys fel menter codi arian.

Deddf Dadlennu Budd Cyhoeddus

Arweiniad sy'n ymwneud â'r Ddeddf sy'n amddiffyn gweithwyr rhag triniaeth niweidiol neu rhag cael cam gan eu cyflogwr os ydynt yn datgelu camarfer er budd y cyhoedd.

Cwestiynau i'w Hystyried ar Gamau Allweddol ym Mywyd Elusen

Mae'r rhestr wirio hon yn darparu cyfres o gwestiynau y dylai ymddiriedolwyr ofyn i'w hunain ar gamau gwahanol yn natblygiad yr elusen. - Fersiwn HTML | Fersiwn (Saesneg) PDF

Cyfrifoldebau Ymddiriedolwyr

Gall diffyg gwybodaeth ynghylch dyletswyddau a chyfrifoldebau bod yn ymddiriedolwr elusen effeithio ar y ffordd y mae'r elusen yn cael ei gweinyddu, ond gall gael canlyniadau personol i'r ymddiriedolwyr eu hunain hefyd.

Buddsoddi Cronfeydd Elusennol: Arweiniad manwl

Mae'r arweiniad hwn yn ceisio egluro pwerau a dyletswyddau ymddiriedolwyr elusennau pan fyddant yn buddsoddi arian elusennol.

Canllaw i Wrthdaro Buddiannau i Ymddiriedolwyr Elusennau

Mae'r arweiniad hwn yn ceisio cynorthwyo ymddiriedolwyr i adnabod a rheoli gwrthdaro buddiannau.

Atebolrwydd Dirprwyol Elusen neu ei Hymddiriedolwyr

Mae'r canllawiau hyn yn ystyried rhai agweddau ar atebolrwydd dan y gyfraith sifil ar gyfer tresmasu ar hawliau rhywun arall.

Polisi'r Comisiwn Elusennau ar Elusennau a'u Cysylltiadau Honedig â Therfysgaeth

Adolygiad y Swyddfa Gartref a Thrysorlys EM o'r Mesurau i Ddiogelu'r Sector Elusennol (Cymru a Lloegr) rhag Camddefnydd gan Derfysgwyr

Gweld ymateb llawn y Comisiwn yma - HTML | PDF (Saesneg)
The A gweld cynigion adolygiad y Llywodraeth yma (external website)

Cofrestru Elusennau Cymru a Lloegr yn yr Alban

Gofynnir i elusennau heb fod yn elusennau'r Alban ystyried a fydd angen cofrestru eu gweithgareddau yn yr Alban - HTML

Mae angen i elusennau heb fod yn elusennau'r Alban sy'n gweithio yn yr Alban ystyried a fydd angen iddynt gofrestru fel elusennau yn yr Alban.  Mewn rhai achosion bydd yr OSCR yn gofyn i elusennau Cymru a Lloegr newid eu dogfennau llywodraethol er mwyn bodloni prawf elusen yr Alban.  Mae'r canllaw hwn yn nodi pam bod hyn yn angenrheidiol ac yn awgrymu geiriad sy'n dderbyniol i'r Comisiwn ac i'r OSCR. - HTML

Statws elusennol meysydd chwarae a hamdden

Buom yn ystyried statws elusennol meysydd chwarae a hamdden a ddelir gan Awdurdodau Lleol er cof am ei Ddiweddar Fawrhydi Brenin Siôr V.

Deddf Cwmnïau 2006

Gwybodaeth am Ddeddf Cwmnïau 2006 a sut mae'n effeithio ar elusennau.

Casgliadau elusen ar stepen drws

Heolyddion elusennau y DU yn uno i gynghori perchnogion tai ynghylch sut i wahaniaethu rhwng casgliadau elusen go iawn a rhai masnachol