Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Mae'r Comisiwn Elusennau yn ymrwymedig i fod yn agored ac yn atebol. Mae cyfarfodydd agored Bwrdd y Comisiwn Elusennau yn gyfle i'r cyhoedd weld sut yn union y mae'r Comisiwn yn trafod materion polisi ac agweddau eraill ar ei waith.
Mae Bwrdd y Comisiwn Elusennau yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus rheolaidd ac yn cyhoeddi agendâu, papurau a chofnodion cysylltiedig.
Bydd agendâu, papurau a chofnodion cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi ar y safle hwn. Mae'r cofnodion yn cael eu cyhoeddi ar ôl iddynt gael eu derbyn fel cofnod cywir o ddigwyddiadau yn y cyfarfod dilynol a'u harwyddo gan Gadeirydd y Bwrdd.
Gall aelodau'r cyhoedd fynychu cyfarfodydd trwy wneud cais am docynnau o leiaf wythnos cyn y cyfarfod. Rydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer y cyfarfod sydd ar ddod yn unig.
I wneud cais i fynychu, Cofrestrwch Yma
Pan fyddwch yn gwneud cais i fynychu nodwch: eich teitl, enw cyntaf a chyfenw, swydd, sefydliad, manylion cyswllt (e-bost os oes modd), ac unrhyw anghenion arbennig a all fod gennych, er enghraifft, golwg, clyw neu fynediad i'r anabl. Byddwn yn cadarnhau y byddwch yn bresennol, trwy'r e-bost os oes modd.
E-bost: Cyfarfodydd Bwrdd Agored
Ffôn: 020 7674 2385
Ffacs: 020 7674 2309
Neu ysgrifennwch at:
Ysgrifennydd y Bwrdd
Cyfarfodydd Bwrdd Agored
Comisiwn Elusennau
Harmsworth House
13-15 Bouverie Street
Llundain
EC4Y 8DP
Arweiniad ar fynychu cyfarfodydd agored: Gwybodaeth hanfodol i'r cyhoedd sy'n dymuno bod yn bresennol.
Busnes Bwrdd y Comisiwn Elusennau: Manylion ynghylch pa fath o fusnes y gall Bwrdd y Comisiwn ei drafod mewn cyfarfodydd cyhoeddus.
Fframwaith Llywodraethu Y Comisiwn Elusennau: Fframwaith Llywodraethu’r Comisiwn sy’n pennu rôl, cyfrifoldebau a dull gweithredu Bwrdd a Phwyllgor Gwaith y Comisiwn.
Cyfarfodydd yn y Dyfodol, Agendâu, Papurau a Chofnodion: Manylion am amserau a lleoliadau cyfarfodydd sydd ar ddod, a hefyd yr Agendâu, Papurau a Chofnodion cysylltiedig.