Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr
Mae elusennau yn rhan o fywyd Prydain. Maen nhw'n amrywio o grwpiau bach sy'n ateb anghenion lleol gydag ychydig o adnoddau i'r elusennau mawr adnabyddus gyda chyllidebau o filiynau o bunnoedd.
Beth bynnag fo maint neu bwrpas yr elusen, un o ofynion hanfodol pob elusen yw eu bod yn gweithredu er budd y cyhoedd ac yn annibynnol o fuddiannau'r llywodraeth neu fuddiannau masnachol. Ein gwaith ni yw sicrhau bod hyn yn digwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr gan y gyfraith fel rheolydd a chofrestrydd elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ein nod yw darparu'r dull gorau posib o reoleiddio'r elusennau hyn er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd elusennau a ffydd ac ymddiriedaeth y cyhoedd ynddynt.
Mae ein cyhoeddiad Y Comisiwn Elusennau a Rheoleiddio yn disgrifio yn fwy manwl ein gwerthoedd a sut y byddwn yn gweithredu fel rheolydd. Esbonnir ein prif weithgareddau isod.
Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o elusennau yng Nghymru a Lloegr gofrestru gyda ni. Os teimlwch fod eich sefydliad yn elusen neu os ydych yn bwriadu sefydlu elusen, ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0845 300 0218. Cewch fwy o wybodaeth am gofrestru fel elusen ar y safle hwn dan Cofrestru Elusen.
Rydym yn gyfrifol am gynnal y Gofrestr Elusennau, y gallwch ei gweld ar ein gwefan, neu unrhyw un o'n swyddfeydd. Cewch fwy o wybodaeth am ddefnyddio'r Gofrestr yn ein cyhoeddiad CC45.
Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i elusennau sydd ag incwm blynyddol o fwy na £10,000 anfon eu cyfrifon ac adroddiad atom bob blwyddyn cyn pen 10 mis o ddiwedd eu blwyddyn. Mae'r rhain ar gael i'r cyhoedd eu gweld ac mae CC45 Y Gofrestr Elusennau - Gwybodaeth a gwasanaethau sydd ar gael yn dweud wrthych sut i gael y rhain. Mae'r cyfrifon yn cynorthwyo pobl i gael gwybodaeth am elusennau unigol. Defnyddiwn y rhain (ynghyd â'r Ffurflen Flynyddol y mae'n rhaid i elusennau yn y band incwm hwn ei chwblhau hefyd cyn pen yr un dyddiad cau o 10 mis) i adnabod meysydd lle y gallwn gynorthwyo elusen i wella. Rydym yn cymryd y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth o ddifrif ac mae mwy o wybodaeth ar hyn ar gael ar ein tudalennau Bodloni Ein Gofynion a byddwn yn enwi elusennau sydd wedi methu'n ddifrifol â bodloni'r rhwymedigaethau cyfreithiol hyn ar ein cyfleuster chwilio Elusennau Esgeulus.
Gwnawn hyn trwy ddarparu cyngor ac arweiniad i 24,000 o elusennau bob blwyddyn, yn ogystal â'r 250,000 o alwadau i'n Canolfan Gyswllt a 12 miliwn o ymweliadau â'n gwefan lle y cyhoeddwn pob un o'n cyhoeddiadau, arweiniad defnyddiol arall ac arweiniad gweithredol. Byddwn hefyd yn ymweld â sawl cant o'r elusennau mwy bob blwyddyn fel rhan o'n rhaglen Ymweliadau Adolygu, ac yn moderneiddio elusennau trwy baratoi cynlluniau. Mae ein rhaglen o Adroddiadau Rheoleiddiol yn tynnu sylw at arfer dda i helpu elusennau gwella eu perfformiad eu hunain a dysgu gwersi o elusennau eraill.
Ceisiwn adnabod a datrys problemau gydag elusennau unigol yn gynnar. Ond er bod nifer yr achosion o dwyll neu anonestrwydd bwriadol o fewn elusennau yn isel, mae pwerau cyfreithiol cryf gan y Comisiwn i ymchwilio i hyn a delio ag achosion pan fyddant yn codi.
Ein prif flaenoriaeth yw gwneud yn siŵr bod yr elusen mewn sefyllfa i ymgymryd â'i gwaith yn y dyfodol. Cyhoeddwn adroddiadau ar bob un o'r ymchwiliadau i gynorthwyo elusennau eraill i ddysgu gwersi.
Dylai pobl sydd â phryderon ynghylch elusen ddarllen ein cyhoeddiad CC47 Cwynion Am Elusennau i weld a oes modd i ni ddelio â'u pryder ac, os gallwn, sut i godi'r mater gyda ni.
Allwn ni ddim gwneud popeth! Ar ein tudalen Cysylltiadau Defnyddiol fe welwch fanylion am reolyddion eraill (er enghraifft, Cyllid y Wlad neu'r Gorfforaeth Dai) sy'n gyfrifol am oruchwylio agweddau penodol ar weithrediadau elusennau neu grwpiau penodol o elusennau. Mae cysylltiadau hefyd â gwefannau nifer o gyrff eraill sy'n gallu darparu hyfforddiant, cyngor, grantiau ac adnoddau eraill.
Os oes cwyn gennych ynghylch safon y gwasanaeth a gewch, mae trefn gwyno gennym. Os ydych yn anfodlon â phenderfyniadau, gallwch ofyn i ni adolygu'r penderfyniad neu gyflwyno apêl i'r Uchel Lys mewn rhai achosion.