Rheolydd Elusennau Cymru a Lloegr

Y Comisiynwyr a'r Cyfarwyddwyr Gweithredol

Rheoli'r Comisiwn heddiw

Bwrdd aelodau anweithredol y Comisiwn sy'n gyfrifol am lywodraethu, strategaeth a chyfeiriad y Comisiwn yn y dyfodol. Mae'r gwaith o wneud penderfyniadau corfforaethol sy'n effeithio ar weithrediad y Comisiwn o ddydd i ddydd yn cael ei ddirprwyo i'r Grŵp Gweithredol. Mae'r grŵp hwn yn cael ei gadeirio gan y Prif Weithredwr ac mae'n cynnwys y pedwar Cyfarwyddwr a'r Penaethiaid Swyddogaethau allweddol. Mae'r Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am Elusennau a Gwasanaethau Cyfreithiol, Polisi ac Effeithiolrwydd, Gwasanaethau Corfforaethol a Gwybodaeth am Elusennau. Mae dyletswyddau'r Cyfarwyddwyr yn cynnwys gweithredu'r rhaglenni a'r polisïau sy'n deillio o'r Bwrdd a sicrhau bod gwasanaeth effeithiol yn cael ei ddarparu.

Mae'r Bwrdd yn cael ei gynorthwyo gan Bwyllgor Archwilio a Phwyllgor Tâl y Gwasanaeth Sifil. Mae'r Cyfarwyddwyr yn cael eu cynorthwyo gan bwyllgorau sy'n cynnwys eu huwch aelodau staff eu hunain ynghyd â chynrychiolwyr o adrannau allweddol eraill o'r sefydliad.

Aelodau'r Comisiwn

Cadeirydd

Y Fonesig Suzi Leather

Y Fonesig Suzi LeatherYmunodd Y Fonesig Suzi Leather â'r Comisiwn Elusennau fel y Cadeirydd yn Awst 2006.

 

Mae gan Suzi berthynas hir â'r trydydd sector a dechreuodd drwy wirfoddoli dros 20 mlynedd yn ôl gydag Age Concern. Mae wedi treulio y rhan fwyaf o'i gyrfa yn y mudiad defnyddwyr, gan weithio ar lefel ranbarthol, genedlaethol ac Ewropeaidd, ond bu ei hymrwymiad i'r trydydd sector bob amser yn amlwg drwy ei gwaith gwirfoddol a phrosiectau cymunedol.

Mae profiad proffesiynol eang gan Suzi. Yn fwyaf diweddar roedd yn Gadeirydd yr Awdurdod Ffrwythloni Ddynol ac Embryoleg a'r Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol. Cyn hynny roedd Suzi yn gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gymunedol Exeter yn ogystal â'r Fforwm Iechyd, sy'n ceisio hybu'r agenda iechyd cyhoeddus yn yr ardal leol. Hi oedd Dirprwy Gadeirydd cyntaf yr Asiantaeth Safonau Bwyd a bu'n aelod o Ymchwiliad y Gymdeithas Frenhinol i Glefydau Heintus Da Byw. Yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2006 fe'i gwnaethpwyd yn Fonesig Ymerodraeth Prydain.

 

Mae cefndir academaidd Suzi ym maes gwleidyddiaeth, gwaith cymdeithasol a phrawf. Mae ei diddordebau arbennig yn cynnwys polisi bwyd, maeth a thlodi, anghenion defnyddwyr incwm isel ac effaith polisïau Ewrop ar ddefnyddwyr y DU. Mae'n gadeirydd Cyngor Cynghorwyr Polisi Bwyd DEFRA.

Simon Jones

Simon JonesYmunodd Simon Jones fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007. Gyda'i wybodaeth a phrofiad helaeth o'r sector elusennol yng Nghymru, roedd Simon yn bodloni gofyniad Deddf Elusennau 2006 a fynnai fod gwybodaeth o'r fath yn cael ei chynrychioli ar Fwrdd y Comisiwn. Mae Simon yn Bennaeth y Sector Cyhoeddus, Cymru ar gyfer y cwmni chwilio gweithredol, Odgers Berndtson. Tan ddiwedd 2008 roedd yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro. Roedd yn Brif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru am 10 mlynedd. Mae'n gyn Gadeirydd y Comisiwn Annibynnol a fu'n adolygu Cynllun Sector Gwirfoddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Hefyd bu'n gadeirydd Rhwydwaith Cymorth Cymunedau yn Gyntaf ac mae ganddo brofiad eang o'r cyfryngau, gan gynnwys bod yn gyflwynydd ar Radio Wales.

John Knight

John KnightMae John Knight yn Gyfarwyddwr Polisi ac Ymgyrchoedd yn Leonard Cheshire Disability - elusen sy'n cefnogi pobl anabl yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bu John yn gweithio yn yr Adran Iechyd a Llywodraeth Leol cyn ymuno â'r Trydydd Sector. Bu'n aelod o Grŵp Llywio Adolygiad Trawsbynciol 2002 y Trysorlys o'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol ac yn Gynullydd Grŵp Anabledd Cyrff Gwirfoddol. Hefyd roedd yn Gomisiynydd i'r Comisiwn Arolygiaeth Gofal Cymdeithasol (CSCI) a than yn ddiweddar bu'n aelod Cyngor o'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol ac yn aelod o Fwrdd Rheoli Swyddfa Materion Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ar hyn o bryd mae'n aelod o Fwrdd Ymgynghorol y Trydydd Sector yn Swyddfa'r Cabinet. Mae John yn Ynad hefyd ac mae wedi gwasanaethu yn y gorffennol fel Ymddiriedolwr ar gyfer sawl Elusen. Mae ganddo nam parhaol.

Sharmila Nebhrajani

Sharmila NebhrajaniYmunodd Sharmila Nebhrajani fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007. Ar hyn o bryd mae Sharmila yn Gyfarwyddwr Cyllid a Buddsoddi, GIG East Sussex Downs a Weald, GIG Hastings and Rother, Dirprwy Gadeirydd yn yr Awdurdod Ffrwythloni Ddynol ac Embryoleg, aelod o'r Awdurdod Meinweoedd Dynol ac yn aelod o Ddosbarthwr Loteri'r Gemau Olympaidd. Mae hefyd yn gyfrifydd siartredig cymwysedig ac yn aelod o ICAEW.

Dr Andrew Purkis OBE

Dr Andrew Purkis OBEYmunodd Dr Andrew Purkis OBE fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007. Tan 2009 roedd Andrew yn Brif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol ac yn gyn Brif Weithredwr Cronfa Goffa Diana, Tywysoges Cymru, Ysgrifennydd Materion Cyhoeddus ar gyfer Archesgob Caergaint ac yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol Cyngor Diogelu Lloegr Gwledig. Mae'n Gadeirydd ActionAid UK ar hyn o bryd.

Theo Sowa

Theo SowaYmunodd Theo Sowa fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007. Mae Theo yn ymgynghorydd annibynnol sy'n gweithio ar ystod eang o faterion rhyngwladol gyda ffocws ar ddatblygiad cymdeithasol a materion plant a phobl ifanc. Mae ei gwaith yn cynnwys gwerthuso, hwyluso, polisi a datblygiad sefydliadol gydag ystod o sefydliadau rhyngwladol a rhynglywodraethol a sefydliadau rhoi grantiau, gan gynnwys UNICEF, Sefydliad Stephen Lewis, Cronfa Datblygu Menywod Affrica, DFlD, UNDP, ymysg eraill.

Simon Wethered

Simon WetheredYmunodd Simon Wethered fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007 ac mae'n un o ddau Aelod o'r Comisiwn sydd â chymhwyster cyfreithiol. Mae Simon yn ymgynghorydd cyfreithiol sy'n arbenigo mewn elusennau gyda Charles Russell LLP ac roedd yn gyn bartner yno. Mae ganddo 37 o flynyddoedd o brofiad fel cyfreithiwr, naw yn arbenigo mewn gwaith elusennau. Mae'n aelod o Gymdeithas y Gyfraith Elusennau, aelod cyswllt o Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Elusennau ac yn gyd-olygydd y llawlyfr Charity Law gan Butterworth.

John Wood

Ymunodd Ymunodd John Wood â'r Comisiwn ar 1 Chwefror 2008 ac mae'n un o ddau Aelod o'r Comisiwn sydd â chymhwyster cyfreithiol. Mae John yn ymgynghorydd gyda Herbert Smith LLP.

 

Roedd yn bartner gyda'r cwmni am 25 o flynyddoedd ac yn bennaeth ei bractis Ymddiriedolaeth ac Elusennau.

 

Mae'n aelod o Gymdeithas y Gyfraith Elusennau a Chymdeithas yr Ymarferwyr Ymddiriedolaeth ac Ystadau (STEP). Mae'n sylfaenydd ac yn aelod pwyllgor Cymdeithas Ymddiriedolaeth Gynhennus ac Arbenigwyr Prawf (ACTAPS).

 

Mae hefyd yn aelod gweithredol o Bwyllgor y Gyfraith Ymddiriedolaeth ac yn gyfryngwr cymwysedig CEDR.

Aelod annibynnol o'r pwyllgor archwilio

Christopher Daws

Christopher DawsBu Christopher Daws yn aelod annibynnol o'r pwyllgor archwilio ers Awst 2009.

 

Tan 2007, roedd Christopher yn ysgrifennydd ariannol ac yn ddirprwy ysgrifennydd Comisiynwyr Eglwysig Lloegr. Bu'n drysorydd prif eglwys blwyf. Mae'n ymddiriedolwr Gweithredu dros Blant ac yn gadeirydd Cronfa Bensiwn Gweithredu dros Blant. Mae'n aelod o bwyllgor rheoli Grŵp Buddsoddwyr Elusennau. Mae hefyd yn aelod o'r Bwrdd Safonau Actiwaraidd, corff gweithredol y Cyngor Adrodd Ariannol.

Mae Christopher yn gyfrifydd siartredig ac yn aelod o Sefydliad Siartredig Trethi a Chymdeithas y Trysoryddion Corfforaethol.

Y Cyfarwyddwyr Gweithredol

Prif Weithredwr

Andrew Hind

Andrew HindYmunodd Andrew Hind, cyn brif swyddog gweithredol y BBC World Service, â'r Comisiwn Elusennau fel ei brif weithredwr cyntaf yn 2004.

 

Mae gan Andrew brofiad helaeth o weithio gyda'r sector elusennol. Roedd yn uwch swyddog gweithredol gydag ActionAid (1986-1991) a Barnardo's (1992-1995) cyn symud i'r BBC yn 1995. Mae Andrew hefyd wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr sawl prif elusen, gan gynnwys VSO, Pwyllgor y DU UNICEF, Cronfa Goffa Diana, Tywysoges Cymru a nifer o elusennau llai yn ei gymuned leol yng Ngogledd Llundain.

 

Yn 1988 roedd Andrew yn gyd-sylfaenydd Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Elusennau - sefydliad sy'n hybu rhagoriaeth ym maes rheolaeth ariannol elusennau. Roedd yn Gadeirydd y Grŵp o 1992-1994. Fe yw awdur 'The Governance and Management of Charities', ac mae'n gyn feirniad y Gwobrau Elusennau Cenedlaethol. Enillodd y Wobr Llwyddiant Arbennig am ymrwymiad a gwasanaeth hir i'r sector gwirfoddol yng Ngwobrau Elusennau 2008.

Y Cyfarwyddwyr

Nick Allaway

Nick AllawayYmunodd Nick Allaway â'r Comisiwn fel Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwybodaeth am Elusennau a Gwasanaethau Corfforaethol yn gynnar yn 2004. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Cyllid am chwe blynedd yn y Gronfa Cyfleoedd Newydd (Cronfa Loteri Fawr bellach). Mae Nick yn gyfrifol am reoli gwasanaethau Cyllid, Adnoddau Dynol, TG a Rheoli Cyfleusterau y Comisiwn. Yn gynharach yn ei yrfa bu'n gweithio mewn swyddi rheoli amrywiol yn y llywodraeth ganol mewn adrannau mor amrywiol â Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Swyddfa'r Cabinet a'r Amgylchedd. Mae'n gyfrifydd cymwysedig.

Rosie Chapman

Rosie ChapmanMae Rosie Chapman yn Gyfarwyddwr Gweithredol Polisi ac Effeithiolrwydd yn y Comisiwn Elusennau, ac yn gyfrifol am arwain datblygiadau polisi'r Comisiwn, ei effeithiolrwydd elusennau a gwaith partneriaeth, cynllunio strategol a gweithgareddau materion corfforaethol.

 

Cyn ymuno â'r Comisiwn yn 2001, treuliodd Rosie chwe blynedd yn y Gorfforaeth Dai mewn amryw o rolau, yn olaf fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Polisi Rheoleiddio). Yn y gorffennol mae wedi gweithio i Gymdeithas Dai New Islington & Hackney, gan weithredu fel ysgrifennydd cwmni i sawl sefydliad elusennol, ac mewn llywodraeth leol.

 

Mae Rosie yn Gymrawd Sefydliad yr Ysgrifenwyr a Gweinyddwyr Siartredig, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac yn aelod bwrdd Homes for Haringey.

Kenneth Dibble

Kenneth DibbleKenneth Dibble yw'r Cyfarwyddwr Gweithredol, Cyfreithiol a Chydymffurfio. Mae Kenneth yn gyfrifol am ddarparu a rheoli gwasanaethau cyfreithiol y Comisiwn a'r swyddogaeth Cydymffurfio a Chymorth. Hefyd mae'n gyfrifol am wasanaethau cwsmeriaid y Comisiwn a'i Raglen Ryngwladol.

 

Mae gan Kenneth fwy nag ugain mlynedd o brofiad o'r gyfraith a rheoleiddio elusennau gyda'r Comisiwn. Roedd ei yrfa flaenorol ym myd bancio ac yswiriant.

 

Bargyfreithiwr yw Kenneth wrth ei alwedigaeth, ac mae hefyd yn Gymrawd Sefydliad Siartredig y Bancwyr.

David Locke

David Locke

Mae David Locke yn Gyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Elusennau, ac yn gyfrifol am ddarparu a rheoli gwasanaethau un i un y Comisiwn i elusennau, gan gynnwys y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol, Cofrestru, Yr Is-adran Gwaith Achos Arbenigol ac Elusennau Mawr.

 

Ymunodd David a'r Comisiwn yn 2002 fel cyfreithiwr cyn symud i swydd Pennaeth Gwasanaethau Elusennau yn 2005 a'i swydd bresennol ym Medi 2007.

 

Mae David yn gyfreithiwr cymwysedig a chyn iddo weithio yn y Comisiwn, fe dreuliodd dros ddeng mlynedd yn gweithio mewn canolfannau cynghori yn rheoli'r gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd.

Y Strwythur

Penodwyd Cadeirydd y Comisiwn Elusennau a'r Prif Weithredwr yn Awst 2006 a Hydref 2004 cyn pasio Deddf Elusennau 2006 pan ddaeth y Comisiwn corfforaethol i rym.

O 16 Gorffennaf 2007, fe benododd y Gweinidog dros y Trydydd Sector aelodau pellach o'r Comisiwn hyd at yr uchafswm (fel y pennwyd yn Neddf Elusennau 2006) sef naw aelod - wyth aelod o'r Comisiwn a'r Cadeirydd.

Swyddogaeth gyffredinol y Comisiwn yw hybu'r defnydd effeithiol o adnoddau elusennol drwy:

  • annog datblygu dulliau gweinyddu gwell;
  • rhoi gwybodaeth neu gyngor i ymddiriedolwyr elusennau ar unrhyw fater sy'n effeithio ar yr elusen; ac
  • ymchwilio ac ymdrin ag achosion o chamddefnydd.

Mae rhai o'r pwerau y gall y Comisiwn eu hymarfer o dan Ddeddf Elusennau 1993 fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf Elusennau 2006 hefyd yn bwerau y gall y Llys eu hymarfer.

Mae aelodau'r Comisiwn yn gyfrifol yn gyffredinol am gyfeiriad strategol a gwaith y Comisiwn. Mae amrywiaeth o swyddogaethau ganddynt gan gynnwys gwneud penderfyniadau ar brif achosion. Yn ymarferol, mae swyddogion awdurdodedig sy'n gweithredu o dan bwerau dirprwyedig yn ymarfer y rhan fwyaf o bwerau'r Comisiwn Elusennau.